Lleoliad: Cyfarfod Aml Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn a Beca Brown. Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
datganiad o fuddiant gan Cyng. Nia Jeffreys am eitem 7 ond nid oedd yn
rhagfarnu a nid oedd angen iddi adael y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn
codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 MEDI 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nodwyd fod y
cofnodion wedi ei nodi yn yr rhaglen i’w ddilyn ac felly byddant yn cael ei
derbyn yn y cyfarfod nesaf. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANARTH A LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Menna Jones PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn adroddiad blynyddol ar
gwynion a gwella gwasanaeth. Eglurwyd fod trefniadau wedi bod mewn lle ar gyfer
adrodd ar waith y gwasanaeth pob 6 mis, ond fod amgylchiadau dros y blynyddoedd
diwethaf wedi amrywio’r amseru. Nodwyd fod trefniadau yn ei lle bellach i’r
gwasanaeth fynd yn ôl i adrodd pob 6 mis. Mynegwyd fod y polisi Gwella Gwasanaeth wedi
diweddaru yn ôl ym mis Ebrill 2021, ac eu bod yn cyd-fynd a cynlluniau
Llywodraeth Cymru a chanllawiau yr Ombwdsmon. Amlygwyd pan y diweddarwyd y
polisi fod y gwasanaeth wedi symud i Wasanaeth Dysgu a Datblygu o fewn yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol. Esboniwyd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o waith y
tîm ac amlygwyd fod nifer y cwynion wedi codi yn sylweddol eleni o gymharu a’r
llynedd, ond fod hyn i’w weld ar draws Llywodraeth Leol a ddim yn anghyffredin
i Wynedd. Tynnwyd sylw fod nifer y cwynion sy’n cyrraedd yr Ombwdsmon wedi
cynyddu yn ogystal. Mynegwyd fod ffigyrau a dderbyniwyd gan yr
Ombwdsmon wedi cael eu hamlygu fel rhai realistig ac fod trefn cwynion Gwynedd
yn gweithio ac yn dysgu gwersi o bob cwyn. Nodwyd fod y Gwasanaeth yn parhau i
weithio gyda adrannau er mwyn newid meddylfryd. Eglurwyd fod mwyafrif o
adrannau yn barod ac yn hapus i dderbyn cwynion ond fod newid diwylliant ar
draws y Cyngor am gymryd amser. Amlygwyd fod hyfforddiant yn y maes Gofal
Cwsmer wedi ei gynnal gyda’r Ombwdsmon a fod hyfforddiant ar ymateb i ohebiaeth
ar y ffordd. Tynnwyd sylw at y Wal Lwyddiannau a diolchwyd
am y sylwadau sydd yn aml yn codi morâl staff. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Amlygwyd fod nifer
y cwynion i’r adran Oedolion wedi cynyddu yn sylweddol ond fod yr adroddiad yn
nodi fod yr adran yn deilio a hwy o fewn 7 diwrnod a diolchwyd i’r staff am
ymateb o fewn yr amserlen. ¾ Diolchwyd am yr
adroddiad a nodwyd balchder fod y Cyngor yn gwneud defnydd o gwynion i wella
gwasanaeth. ¾ Nodwyd fod tabl o
fewn yr adroddiad yn adlewyrchu fod nifer o gwynion am ddiffyg ymateb a
gweithredu ac fod rhai adrannau wedi cael dros 10 cwyn o fewn y categori yma.
Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud gyda’r adrannau yma ac amlygwyd yn yr Adran
Tai ac Eiddo fod 10 cwyn wedi ei cyflwyno yn 2021/22 am y diffyg ymateb ac fod 6 mis cyntaf eleni
yn amlygu 1 cwyn am yr un rhesymau. Amlygir fod y gwaith sydd yn cael ei wneud
yn cefndir yn dwyn ffrwyth ac fod ystadegau eleni yn ffafriol tu hwnt. Awdur: Geraint Owen |
|
CYNLLUN CYMORTH COSTAU BYW DEWISOL Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadwyd y Cynllun Costau Byw Dewisol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd y Cynllun Costau Byw Dewisol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad hwn yw i dderbyn cymeradwyaeth i
Gynllun Dewisol y Cyngor i gynorthwyo gyda costau byw. Eglurwyd fod hwn yn
gynllun a ddatblygwyd ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Trethi a’r Tîm Cefnogi
Teuluoedd. Mynegwyd fod y
Cynllun Dewisol yn ddilyniant i’r Cynllun Craidd, ble mae’r Cyngor eisoes wedi
dosbarthu £150 yr un i oddeutu 40,000 o aelwydydd o fewn Gwynedd. Nodwyd fod
angen i’r aelwydydd fod yn byw mewn eiddo Bando Treth Cyngor A i D er mwyn
derbyn y cymorth drwy’r Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor. Pwysleisiwyd fod y
cynllun wedi bod yn llwyddiannus ac mai’r Cyngor oedd yr Awdurdod cyflymaf drwy
Gymru i gyflawni’r gwaith yma. Esboniwyd fod Llywodraeth Cymru wedi
clustnodi £25m i ddarparu cymorth dewisol at ddibenion eraill sy’n ymwneud â
chostau byw, ac eglurwyd fod y cynllun hwn yn amlygu bwriad y Cyngor ar sut i
ddefnyddio cyfran Cyngor Gwynedd o’r arian. Yn gyntaf, nodwyd y bydd taliad o
£150 i aelwydydd nad oedd yn gymwys i dderbyn taliad dan y cynllun gwreiddiol
a’i bod yn derbyn eithriad Treth Cyngor. Amlygwyd nad oedd eiddo a oedd yn
derbyn eithriad o’u Treth Cyngor ar 15 Chwefror yn gymwys i dderbyn taliad, ac
ar ben hynny bydd y cynnig yn rhoi taliad i aelwydydd lle mae incwm yr aelwyd
wedi ei gyfyngu gan mai un person sydd yn byw yno. Pwysleisiwyd fod ail ran y cymorth
arfaethedig yn rhoi cyfraniad ariannol tuag at y Rhwydwaith Hybiau Cefnogi
Pobl. Credir fod rhoi cyfraniad i’r rhwydwaith yn ffordd effeithiol iawn o
sicrhau cefnogaeth i aelwydydd y mae cangen cymorth arnynt gyda’u costau byw.
Mynegwyd fod yr aelod cabinet yn credu fod y cynllun hwn yn ffordd effeithiol
ac effeithlon o wneud defnydd o’r grant ychwanegol hwn, gan dargedu’r arian
tuag at aelwydydd mwyaf anghenus y sir. Nodwyd er fod yr arian hwn i’w groesawu
ei fod ymhell o fod yn ddigonol i ddiwallu anghenion teuluoedd mwyaf bregus y
sir. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd am yr
adroddiad a’r gwaith sydd yn cael ei wneud o fewn y maes. Holwyd fod cynlluniau
ar gyfer cefnogi pobl mewn dalgylchoedd penodol ond er enghraifft ym Mangor mae
Maesgeirchen yn cael ei nodi ond dim gweddill Bangor. Holwyd os bydd gwaith yn
cael ei wneud tu hwnt i’r ardaloedd. Mynegwyd y bydd hybiau yn cael ei sefydlu
mewn lleoliadau difreintiedig ond y bydd lleoliadau lloeren yn cael eu hagor tu
hwnt i’r prif hybiau. Eglurwyd y bydd rhwydwaith cefnogi a digwyddiadau i’w
gweld tu hwnt i’r prif hybiau yn ogystal. ¾ O ran y gefnogaeth
i Gynlluniau Bwyd gofynnwyd am fwy o fanylion. Eglurwyd fod sawl cefnogaeth ar
gyfer cynlluniau bwyd, nodwyd fod grantiau ar gael i Banciau Bwyd, Grwpiau
Rhannu Bwyd ynghyd â grwpiau sy’n creu Pryd ar Glyd neu Glybiau Cinio
Cymunedol. ¾ Mynegwyd ei bod yn wych fod y Cyngor yn gallu cynorthwyo i drefnu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Bleddyn Jones a Catrin Thomas |
|
CYLLIDEB REFENIW 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth. Nodwyd bod effaith ariannol Covid
ar rai meysydd yn parhau yn 2022/23, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn
2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol sydd yn gyfuniad o gostau
ychwanegol, colled incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion. Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Economi a Chymuned,
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo eleni. Manylir ar y
rhesymau penodol sydd yn effeithio’r adrannau yn rhan 5 o’r adroddiad, ond mae
effaith y cynnydd mewn chwyddiant a phrisiau trydan yn benodol yn ffactor
amlwg. O ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd
bwriad y Prif Weithredwr i alw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn mynd
i wraidd y gorwariant, i sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio
dod a'r sefyllfa o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd
i'r Cabinet ar y cynllun ymateb. Er ei bod hi'n gynamserol i drosglwyddo arian o
gronfeydd nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol ar ddiwedd y flwyddyn,
argymhellir mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol
bryd hynny fydd defnyddio: ¾
yn gyntaf, Balansau
Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion ¾
yn ail, defnyddio £4.5 miliwn o'r gronfa
trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido
heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor ¾
yn olaf, y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa Strategaeth
Ariannol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2022 o’r
Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth. Nodwyd bod effaith ariannol Covid ar
rai meysydd yn parhau yn 2022/23, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23
o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol,
colled incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion. Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Economi a Chymuned, Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo eleni. Manylir ar y rhesymau
penodol sydd yn effeithio’r adrannau yn rhan 5 o’r adroddiad, ond mae effaith y
cynnydd mewn chwyddiant a phrisiau trydan yn benodol yn ffactor
amlwg. O ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd bwriad
y Prif Weithredwr i alw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn mynd i
wraidd y gorwariant, i sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio dod
a'r sefyllfa o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd i'r
Cabinet ar y cynllun ymateb. Er ei bod hi'n gynamserol i drosglwyddo arian o gronfeydd
nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, argymhellir
mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol bryd hynny
fydd defnyddio: ·
yn gyntaf, Balansau
Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion ·
yn ail, defnyddio £4.5 miliwn o'r gronfa
trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido
heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor ·
yn olaf, y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa
Strategaeth Ariannol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar
yr adolygiad diweddaraf o’r gyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer 2022/23, ynghyd
a’r rhagolygon tuag at diwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod yr adroddiad
eisoes wedi ei gyflwnyo i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio a oedd yn gefnogol iawn i’r argymhelliad. Nodwyd fod
rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant,
Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Tai
ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Manylwyd mai effaith
cynnydd mewn chwyddiant, yn arbennig felly costau trydan sydd uwchlaw ‘r
gyllideb sydd i’w weld amlycaf yn yr adran Addysg, Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac
Economi a Chymuned. Nodwyd fod gweddill adrannau’r Cyngor yn gweithredu o fewn
eu cyllideb. Mynegwyd nad yw
effaith Covid i’w gweld mor sylweddol a beth a welwyd
dros y ddwy flynedd diwethaf, ond fod costau ychwanegol, colledion incwm a
llithriad ar gynlluniau arbedion yn parhau mewn rhai meysydd. Amlygwyd fod oedi
mewn gwireddu arbedion i’w gweld yn amlwg gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant gyda cynlluniau gwerth £930k, tra bod £553k gan yr Adran Briffyrdd a
Bwrdeistrefol. Amlygwyd y prif
faterion oedd yn wynebu yr adrannau a oedd yn gorwario yn unigol fel a ganlyn: Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant Mynegwyd fod gorwariant o £1.9m yn cael ei ragweld ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
ADRODDIAD TROSOLWG ARBEDION - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag
at wireddu cynlluniau arbedion 2022/23, 2021/22 a blynyddoedd blaenorol. Nodwyd bod effaith
Covid-19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi
rhoi blaenoriaeth i ymateb i’r argyfwng dros y cyfnod cychwynnol o’r argyfwng. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag
at wireddu cynlluniau arbedion 2022/23, 2021/22 a blynyddoedd
blaenorol. Nodwyd bod effaith Covid-19 wedi cyfrannu at lithriad yn y
rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ymateb i’r argyfwng
dros y cyfnod cychwynnol o’r argyfwng. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn
crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd fel yr adroddiad blaenorol fod yr
adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a oedd yn
awyddus i argymell i’r Cabinet fod angen herio manwl ar gynlluniau sydd ddim yn
cael ei gwireddu ac fod angen sicrhau adolygiad rheolaidd o’r cynlluniau sydd
yn llithro a chyfeirio’r cynlluniau ar raglenni gwaith y Pwyllgorau Craffu
perthnasol. Mynegwyd ers
2015/16 fod gwerth £35.4m o arbedion wedi ei cymeradwyo i’w gwireddu ar gyfer y
cyfnod 2015/16 i 2022/23. Pwysleisiwyd bellach fod cyfanswm o £33.4m o’r
arbedion wedi ei gwireddu sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod. Esboniwyd
ar gyfer cyfnod o 2015/16 hyd at 2020/21 fod 97% o’r cynlluniau arbedion wedi
eu gwireddu, gyda cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran
Briffyrdd a Bwrdeistrefol eto i’w cyflawni. Tynnwyd sylw at
arbedion 2021/22, gan nodi fod 65% o'r cynlluniau bellach wedi ei cyflawni gyda
problemau cyflawni i’w gweld gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran
Tai ac Eiddo. Eglurwyd wrth baratoi cyllideb 2022/23, fod rhaid cydnabod fod y
sefyllfa wedi newid cymaint fel nad oedd modd cyflawni’r cynlluniau arbedion
oedd wedi eu cynllunio yn wreiddiol a bu i bron i hanner miliwn o gynlluniau
gael eu dileu yn llwyr o’r gyllideb. Yn ogystal symudwyd y proffil cyflawni ar
gyfer cynlluniau gwerth £1.3m i 2023/24, ac felly £595k oedd gwerth y
cynlluniau arbedion gweddillol i’w tynnu o gyllideb 2022/23. O’r cynlluniau hyn
ar gyfer eleni nodwyd fod 22% o’r cynlluniau eisoes wedi eu gwireddu gyda 19%
bellach r drac i gyflawni’r amserol. Mynegwyd mae’r adrannau a gwerth uchaf o
gynlluniau eto i’w cyflawni yw’r adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ac yr Adran
Economi a Chymuned. Amlygwyd fod
gwireddu gwerth £33.4m ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol tu hwnt, ac fod oedi
a risgiau o gyflawni ar rai o’r cynlluniau sydd yn weddill. Pwysleisiwyd yr
angen i fod yn adolygu y cynlluniau cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd fod arbedion gwrth £33.4m wedi ei gwireddu
ers 2015/16 yn amlygu gwaith sydd wedi ei wneud gan staff i wynebu a gwireddu’r
arbedion o fewn y Cyngor. Diolchwyd i staff am eu gwaith. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
RHAGLEN GYFALAF 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
(sefyllfa 31 Awst 2022) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn
rhan 4 o’r adroddiad, sef: ¾
defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir
lithriadau gwerth cyfanswm o £26,751,000 o 2021/22, ¾
dim newid mewn defnydd o fenthyca, ¾
cynnydd o £7,396,000 mewn defnydd o grantiau
a chyfraniadau, ¾
dim newid mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf, ¾
cynnydd o £2,156,000 mewn defnydd o
gyfraniadau refeniw, ¾
cynnydd o £13,000 mewn defnydd o’r gronfa
gyfalaf, a ¾
cynnydd o £538,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa
31 Awst 2022) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef: ·
defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir
lithriadau gwerth cyfanswm o £26,751,000 o 2021/22, ·
dim newid mewn defnydd o fenthyca, ·
cynnydd o £7,396,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau, ·
dim newid mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf, ·
cynnydd o £2,156,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw, ·
cynnydd o £13,000 mewn defnydd o’r gronfa
gyfalaf, a ·
cynnydd o £538,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a
chymeradwy’r ffynonellau ariannu perthnasol. Eglurwyd fod yr adroddiad yma
hefyd wedi ei chyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac yn gefnogol
o’r argymhellion. Amlygwyd y prif
gasgliadau sef fod y Cyngor gyda cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua
£79.8m eleni, gyda £21.1m wedi’i ariannu drwy grantiau penodol. Eglurwyd fod
effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf gyda dim ond
11% o’r gyllideb wedi ei wario hyd ar ddiwedd Awst eleni, o’i gymharu â 16%
dros yr un cyfnod y llynedd a 13% ddwy flynedd yn ôl. Nodwyd fod £12.1m
o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a 2024/25,
gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys £5.1m Cynlluniau Ysgolion, £3m Cynlluniau
Atal Llifogydd a £1.6m Hwb Iechyd a Gofal Penygroes. Ers yr adolygiad
diwethaf, mynegwyd fod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu’r grantiau canlynol: ¾
£1.6 miliwn - Grant
Cyfalaf Prydau Ysgol am Ddim. ¾
£0.9 miliwn - Grant
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Defnydd Cymunedol Ysgolion. ¾
£0.9 miliwn – Grant
Cyfalaf Diogelwch y Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru. ¾
£0.7 miliwn - Grant
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) tuag at gynlluniau gwledig. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod yr
adroddiad hwn yn un technegol sydd yn amlygu ychydig o newyddion da. Er hyn,
nodwyd fod effaith chwyddiant am effeithio ar allu’r Cyngor i gwblhau
cynlluniau sydd yn gweld cynnydd o 30-40% mewn costau. Eglurwyd y bydd angen o
bosib blaenoriaethu cynlluniau i’r dyfodol. Awdur: Ffion Madog Evans |