Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Paul Rowlinson a Geraint Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 MAI 2024 pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024 fel rhai cywir.

 

6.

CYNLLUN ASEDAU 2024/25 - 2034/35 pdf eicon PDF 301 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Cytundwyd i argymell i’r Cyngor y dylid mabwysiadu Cynllun Reoli Asedau 2024-2034 i gynnwys:

·         Y symiau ariannol a argymhellir yn Atodiad 1 ar gyfer y cynlluniau risg uchel

·         Y ddau swm yn Atodiad 2 ar gyfer y cynlluniau risg cymhedrol

·         Dadymrwymo y symiau ariannol sydd yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol fel nodir ym mharagraff 26 o’r adroddiad hwn.

 

b)    Comisiynu’r Prif Weithredwr i gynnal adolygiad pellach ymhen blwyddyn i geisio datrysiad ar gyfer materion na ellir ymrwymo i’w hariannu ar hyn o bryd fel a nodir ym mharagraffau 29 i 32 o’r adroddiad hwn, sef cynnal a chadw rhaglenedig adeiladau a’r wedd nesaf o brosiectau i foderneiddio ysgolion, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet er mwyn cadarnhau rhaniad adnoddau mewn cyswllt a’r ddau fater yma.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn 

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Cytunwyd i argymell i’r Cyngor y dylid mabwysiadu Cynllun Reoli Asedau 2024-2034 i gynnwys:

·         Y symiau ariannol a argymhellir yn Atodiad 1 ar gyfer y cynlluniau risg uchel

·         Y ddau swm yn Atodiad 2 ar gyfer y cynlluniau risg cymedrol

·         Dad ymrwymo y symiau ariannol sydd yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol fel nodir ym mharagraff 26 o’r adroddiad hwn.

 

b)    Comisiynu’r Prif Weithredwr i gynnal adolygiad pellach ymhen blwyddyn i geisio datrysiad ar gyfer materion na ellir ymrwymo i’w hariannu ar hyn o bryd fel a nodir ym mharagraffau 29 i 32 o’r adroddiad hwn, sef cynnal a chadw rhaglenedig adeiladau a’r wedd nesaf o brosiectau i foderneiddio ysgolion, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet er mwyn cadarnhau rhaniad adnoddau mewn cyswllt a’r ddau fater yma.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod asedau’r Cyngor yn hanfodol ar gyfer gallu darparu gwasanaethau i bobl Gwynedd. Eglurwyd mai y Cynllun Rheoli Asedau yw cynllun hir dymor y Cyngor er mwyn cynllunio ymlaen am y 10 mlynedd nesaf. Mynegwyd fod yr arian hwn yn dod gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol a bod y Cyngor yn derbyn oddeutu £6.6m o adnodd y flwyddyn ac felly fod rhagdybiaeth y bydd oddeutu £47m o arian cyfalaf ar gael ar gyfer y cynllun 10 mlynedd.

 

Eglurwyd fel rhan o'r gwaith i sefydlu’r Cynllun, gwahoddwyd ceisiadau gan Adrannau i nodi eu anghenion cyfalaf dros y 10 mlynedd nesaf. Derbyniwyd 70 o geisiadau gyda cyfanswm eu gwerth yn £129.3m. Aseswyd pob cynllun a gosod mewn categorïau risg. Nodwyd fod gwerth £79m o gynlluniau wedi ei gosod yn y categori risg uchel a oedd yn cael ei weld fel cynlluniau hanfodol i’w cyflawni.

 

Cynhaliwyd sesiwn gyda’r holl aelodau etholedig er mwyn cael ei barn ar y cynlluniau ac i gael cymorth ar sut i gwtogi’r gofynion gwariant. Cydnabuwyd fod y dewisiadau yn rhai anodd ond amlygwyd yr angen i ariannu rhai cynlluniau megis Cartref Gofal Grwpiau Bach i blant mewn gofal ac yr awgrym i ddefnyddio arian ychwanegol y premiwm treth cyngor ar gyfer rhai cynlluniau tai. Er hyn, eglurwyd fod yn rhaid torri cynlluniau ymhellach o ganlyniad i ddiffyg arian ac awgrymwyd i dynnu arian allan o hen gynlluniau yn ogystal.

 

Eglurwyd yn dilyn hyn i gyd fod y cynllun yn hafal ond fod angen ail edrych arni flwyddyn nesaf, rhag ofn y bydd rhai cynlluniau wedi eu tynnu allan o ganlyniad i grantiau a fydd yn galluogi ail neilltuo’r arian i gynlluniau eraill. Mynegwyd fod Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi trafod y cynllun ac eu bod yn fodlon fod y drefn a ddilynwyd yn drwyadl ac yn gywir. Gofynnwyd i’r Cabinet ei argymell i’r Cyngor Llawn ddechrau fis nesaf. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Mynegwyd pryder am y diffyg arian sydd ar gael ar gyfer cynlluniau risg uchel ac fod hyn o ganlyniad i benderfyniadau yn San Steffan.

·         Amlygwyd ychydig o oleuni ar yr adroddiad gydag arian yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cynlluniau mewn ysgolion, arian ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dafydd Gibbard

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2023/24 pdf eicon PDF 58 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad blynyddol ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme

 

PENDERFYNIAD

 

`           Derbyniwyd yr adroddiad blynyddol ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn hanfodol bod aelodau’r Cabinet yn ymwybodol o waith y Panel ar ddiogelu ac yn gallu bodloni eu hunain bod y Panel wedi ymgymryd â’r gwaith sydd ei angen yn drylwyr a chydwybodol. Eglurwyd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o waith y panel dros y flwyddyn 2023/24.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet ar rai materion yn yr adroddiad ac eglurwyd fod y Panel wedi diweddaru eu cylch gorchwyl ar gyfer y Panel Strategol ac y Grŵp Gweithredol yn ystod y flwyddyn. Mynegwyd fod Polisi Diogelu newydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn ogystal.

 

Manylwyd er fod cynnydd wedi bod yn erbyn materion diogelu bod diogelu yn y maes Plant ac Oedolion yn sefydlogi ond fod y gwaith yn parhau yn llethol. Amlygwyd pryderon am gwasanaeth DoLS (trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid) gan fod rhai unigolion ar y rhestr aros am hyd at 3 mlynedd. Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r panel am y flwyddyn i ddod cyn nodi’r penderfyniad.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol dywysu drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y prif faterion. Eglurwyd fod y panel yn un sy’n cyfarfod yn gyson drwy’r flwyddyn ac yn edrych ar yr holl waith diogelu ar draws y cyngor. Amlygwyd fod y Grŵp Gweithredol yn cefnogi’r gwaith ac yn pwysleisio ei fod yn faes ar gyfer yr holl Gyngor, ei holl staff a unigolion yn ein cymunedau.

 

Nodwyd fod pryder i’w amlygu gyda’r cynnydd mewn cyfeiriadau i’r Adran Plant gyda cynnydd o 248% yn y gwaith sy’n ymwneud â phryderon diogelu am ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth. Mynegwyd fod niferoedd plant mewn gofal yn cael ei nodi yr un nifer a llynedd ond fod lleihad mewn gwir niferoedd. Ond gan fod ceiswyr lloches ar ben eu hunain bellach yn cael eu cyfri yn y ffigwr mae’n ymddangos yr un peth.

 

Ategwyd fod nifer cyfeiriadau i’r Adran Oedolion wedi cynyddu yn sylweddol yn ogystal ac eto amlygwyd y pryderon am DoLS gan adrodd y bydd trafodaeth bellach yn y Pwyllgor Craffu yn ystod yr wythnos ganlynol.

 

Eglurwyd y bydd Adolygiad Ymarfer Plant yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf yn dilyn achos llys cyhoeddus am ysgol uwchradd yn y sir a fydd yn amlygu gwersi i’w dysgu ynghyd a rhoi gwelliannau ar waith.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Mynegwyd fod diogelu yn fater o bwys mwyaf i aelodau etholedig ac fod yn maint y broblem yn drawiadol yng wyneb toriadau.

·         Tynnwyd sylw at y cynnydd enfawr mewn pryderon diogelu am ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth, a holwyd os yw’n anarferol o uchel. Nodwyd ei fod ond nad oedd modd amlygu rheswm dros hyn ond efallai bod addasiadau mewn addysg rhyw o fewn y gyfundrefn addysg wedi rhoi hyder  i unigolion siarad ac i leisio pryderon.

·         Amlygwyd nad oes ffigyrau i’w gweld am  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Dylan Owen

8.

STRATEGAETH RHEOLI LLIFOGYDD pdf eicon PDF 159 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd mabwysiadu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol y Cyngor.

 

Rhoddwyd hawl dirprwyedig mewn ymgynghoriad â Aelod Cabinet i gwblhau’r ddogfen yn dilyn derbyn sylwadau Llywodraeth Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd mabwysiadu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol y Cyngor.

 

Rhoddwyd hawl dirprwyedig mewn ymgynghoriad â Aelod Cabinet i gwblhau’r ddogfen yn dilyn derbyn sylwadau Llywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gofyn i’r Cabinet i gymeradwyo mabwysiadu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol y Cyngor. Eglurwyd yn dilyn y penderfyniad y bydd y ddogfen yn cael ei hanfon at Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi eu barn ar y strategaeth, ac o ganlyniad gofynnwyd am hawl dirprwyedig mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i gwblhau’r ddogfen yn dilyn derbyn y sylwadau yma.

 

Nodwyd yn dilyn creu strategaeth ddrafft fod yr adran wedi mynd i ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen. Amlygwyd siom gyda’r nifer a ymatebodd i’r ymgynghoriad efo fod llawer o waith wedi ei wneud i’w hyrwyddo. Amlygwyd fod y strategaeth yn nodi sut y bydd yn Cyngor yn delio a risg llifogydd yn arfordirol ac yn fewndirol.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Adran fod gofyn statudol i’r Cyngor fod yn creu strategaeth yn unol â Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Eglurwyd fod strategaeth flaenorol y Cyngor mewn dwy ran – hynny yw y Strategaeth a’r Cynllun Rheoli ond bellach fod y ddwy ddogfen wedi eu cyfuno i greu strategaeth lawn. Eglurwyd wrth baratoi’r strategaeth fod gofyn i’r Cyngor fod yn cydymffurfio gyda Fframwaith Llywodraeth Cymru ac amlygwyd y prif amcanion

 

Amlygwyd fod ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod yn wael ond fod hyn i’w gweld yn genedlaethol. Pwysleisiwyd fod newid hinsawdd yn bwnc llosg ac fod tywydd garw dros y gaeaf diwethaf yn dangos maint y broblem.

 

Mynegwyd mai un o brif weithredoedd sydd wedi ei gynnwys yn y Strategaeth yw’r bwriad o baratoi rhaglenni gwaith cyfalaf hir-dymor ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol. Esboniwyd y bydd hyn yn fodd i’r Tîm arwain a denu grantiau ar gyfer cynlluniau i’r dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Diolchwyd am y gwaith sydd wedi ei wneud ym Mangor.

·         Holwyd o ran cyllid os yw’r sir yn cael siâr deg o’r gyllideb genedlaethol. Mynegwyd fod yr holl gynlluniau sydd yn cael ei gyflwyno yn cael ei sgorio gan Lywodraeth Cymru ac fod Gwynedd wedi bod yn ffodus yn derbyn cefnogaeth ar gyfer amryw o gynlluniau. Amlygwyd fod 4 cynllun wedi ei gynnwys yn ogystal yng Nghynllun Asedau’r Cyngor.

·         Amlygwyd fod dryswch yn gallu bod o ran pwy sy’n gyfrifol o ran llifogydd, ond diolchwyd i staff rheg flaen y Cyngor am eu gwaith i gynorthwyo’r cyhoedd pan materion llifogydd yn codi.

 

 

Awdur: Steffan Jones

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 351 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad am y maes Oedolion, Iechyd a Llesiant. O ran cynlluniau Cynllun Cyngor Gwynedd amlygwyd fod rhai prosiectau wedi eu hail becynnu er mwyn sicrhau eglurdeb ac felly bod y teitlau yn wahanol i’r hyn sydd wedi eu gweld yn y gorffennol. Cafwyd trosolwg o’r holl gynlluniau gan amlygu rhai materion fel a ganlyn.

 

Amlygwyd yn y maes moderneiddio adnoddau gofal i gwrdd ag anghenion y dyfodol fod gwaith yn dod i ben i uwchraddio cartrefi yn y Bermo a Dolgellau. Ychwanegwyd fod sefyllfa recriwtio yn gwella yn y cartref ym Mangor ac felly yn gobeithio gwneud gwell defnydd o’r uned dementia newydd dros y cyfnod nesaf. Eglurwyd fod y cynllun defnyddio mwy ar dechnoleg fod gwaith o uwchraddio offer teleolfal ar ei ganol ac yn mynd yn dda, ac eu bod yn rhagweld gorffen y gwaith erbyn Rhagfyr eleni. Nodwyd fod arweinydd prosiect wedi ei phenodi ar gyfer arwain y gwaith o gydweithio gyda gwasanaethau iechyd i alluogi pobl i fyw eu bywyd gorau yn y gymuned a fydd yn arwain y rhaglen waith o ddatblygu timau adnoddau cymunedol.

 

Tynnwyd sylw at berfformiad yr adran gan nodi fod rhestr aros ar yfer derbyn asesiad therapi galwedigaethol yn parhau i gynyddu. Eglurwyd fod capasiti a phenodi therapyddion wedi bod yn heriol iawn ond fod Arweinydd newydd wedi cychwyn ei rôl a phenodiad ymarferydd arweiniol wedi ei wneud i lenwi'r bwlch.

 

Pwysleisiwyd fod canran yr oriau gofal cartref sydd heb eu diwallu wedi disgyn yn sylweddol gan fod ar ei isaf ers blwyddyn. Nodwyd fod darparwr wedi bod yn llwyddiannus yn ennill y dendr ym Mlaenau Ffestiniog, ond heb allu denu ymgeiswyr ar gyfer y tendr yn ardal Porthmadog.

 

Amlygwyd o ran perfformiad y gwasanaethau diogelu Oedolion a’r Timau Adnoddau Cymunedol eu bod wedi llwyddo i reoli’r perygl mewn 100% o achosion. Fodd bynnag, mae’r nifer sy’n aros am asesiad Diogelu rhag Amddiffyn Rhyddid (DoLS) yn parhau yn bryderus gyda 340 o unigolion ar y rhestr aros am asesiad ddiwedd Ebrill fel a nodwyd yn un o’r eitemau blaenorol.

 

O ran y sefyllfa ariannol, eglurwyd y bydd monitro cyson yn cael ei wneud i geisio peidio gorwario eleni a bydd cyfarfodydd yn cael ei trefnu os gwariant yn cael ei amlygu yn gorwario dan unrhyw un o’r penawdau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Nodwyd ei bod yn gadarnhaol fod niferoedd o bobl anabl yn cael cyfleoedd i waith wedi cynyddu.

·         Amlygwyd pryder gyda’r sefyllfa DoLS gyda nifer mor uchel yn parhau i aros am asesiad. Mynegwyd fod hon yn broblem genedlaethol ac fod yr adran yn ceisio ei gorau i ymateb drwy flaenoriaethu asesiadau. Ychwanegwyd fod ceisiadau yn dod yn gyson ac o ganlyniad nad yw’r niferoedd yn disgyn ar y raddfa yr hoffai’r adran.

 

Awdur: Aled Davies

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 208 KB

Cyflwynwyd gan: Cllr. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn diweddaru’r aelodau ar y gwaith sydd yn cael ei wneud o fewn yr adran. Tynnwyd sylw at brosiectau’r adran o fewn Cynllun y Cyngor fel a ganlyn.

 

O ran Cynllun Cartrefi Grŵp Bychan amlygwyd fod yr adran wedi prynu eiddo yn ardal Dwyfor ar gyfer datblygu cartref preswyl cofrestredig ar gyfer grwpiau bychan i ganiatáu iddynt derbyn eu gofal yng Ngwynedd. Eglurwyd y bydd proses recriwtio ar gyfer swyddi yn y cynllun hwn a bydd pnawn recriwtio yn cael ei gynnal ym Mhorthmadog yn ystod Mehefin ar gyfer swyddi dirprwy reolwr a gweithwyr preswyl.

 

Ychwanegwyd o ran Cynllun Awtistiaeth fod plant, pobl ifanc ac oedolion yn ei chael hi’n anodd cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei angen. Amlygwyd fod gwella darpariaeth yn gynllun er mwyn ei gwneud yn haws i unigolion a teuluoedd i drosglwyddo rhwng gwahanol wasanaethau. Mynegwyd fod y  tîm yn parhau i weithio ar brosiect Llwybrau ni, a fydd yn darparu cyfleoedd cymdeithasol i bobl ifanc, egwyl i rieni a gofalwyr unigolion sydd â diagnosis o awtistiaeth, yn aros am asesiad/ diagnosis ac unigolion na fydd yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer gwasanaethau arbenigol pan maent yn pontio i oedran oedolyn. Anogwyd aelodau a’r cyhoedd os yn cael y cyfle i fyd ar y bws awtistiaeth sydd yn rhoi cyfle i unigolion gael profiad realiti o awtistiaeth.

 

Mynegwyd fod capasiti’r gweithlu yn parhau yn fater o bryder ond fod gwaith ar y gweill i drio sefydlogi’r sefyllfa. Amlygwyd fod yr adran wedi bod yn rhan o ymgyrch maethu cenedlaethol i ddenu pobl i feddwl am faethu. Ers yr adroddiad diwethaf mae Gwynedd wedi penodi ail swyddog recriwtio ar gyfer de’r Sir.

 

O ran mesurau’r adran nodwyd ar y cyfan ei bod yn hapus ar perfformiad a dim un mesur yn peri pryder i’r Aelod. O gan y gyllideb nodwyd fod yr adran wedi gorwario y llynedd o ganlyniad i wariant all-sirol, mynegwyd gyda cynllun cartrefi bychan yn weithredol gobeithio bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn fewnol yn hytrach na darparwyr allanol. 

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Holwyd os oes modd i aelodau etholedig fod yn rieni maeth, eglurwyd nad oes unrhyw reolau yn eu hatal i fod yn rieni maeth ac pwysleisiwyd i unigolion sydd yn awyddus ni gysylltu a’r adran os a diddordeb mewn maethu.

·         Diolchwyd am y gwaith o arwain y Cynllun Cartrefi Bychan, a fydd yn sicrhau nid yn unig fod cefnogaeth am gael ei roi yn fewnol ond o fewn cymunedau Gwynedd.

 

 

Awdur: Marian Parry Hughes