Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH a Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Iwan Evans  (Swyddog Monitro) a Geraint Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eitem 8: Datganodd y Cynghorwyr Dafydd Meurig ac Elin Walker Jones eu bod nhw’n Llywodraethwyr yn Ysgol Friars. Nid oedd y buddiant yn un oedd yn rhagfarnu felly ni adawsant y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 GORFFENNAF pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2024 fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2023/24 pdf eicon PDF 172 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24 ac argymhellwyd bod y Cyngor Llawn yn ei fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24 ac argymhellwyd bod y Cyngor Llawn yn ei fabwysiadu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet am ei gymeradwyaeth cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Hydref. Eglurwyd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ynghylch y cynnydd yn erbyn yr hyn a nodir yng Nghynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028 yn ystod y flwyddyn 2023/24. Esboniwyd bod yr adroddiad yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor yn 2023/34 a diolchwyd i holl weithwyr y Cyngor am eu gwaith dros y flwyddyn.

 

Adroddwyd bod y cyfnod diweddar wedi bod yn un anodd iawn i Lywodraeth Leol gyda’r galw yn codi ar sawl maes blaenoriaeth yn ogystal â gorfod ymdopi efo llai o gyllideb. Nodwyd bod dwy ran i’r adroddiad gyda’r rhan gyntaf sef yr adroddiad perfformiad blynyddol yn canolbwyntio ar brosiectau Cynllun y Cyngor a’r gwaith dydd i ddydd. Esboniwyd bod yr ail ran sef yr hunanasesiad o berfformiad y Cyngor yn ofyn statudol newydd dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Eglurwyd bod yr hunanasesiad drafft wedi cael ei adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y 5ed o Fedi a derbyniwyd sylwadau positif ar y cyfan. Derbyniwyd rhai awgrymiadau i wella’r drefn megis awydd yr Aelodau i gael eu cynnwys yn gynt yn y broses o lunio’r adroddiad. Derbyniwyd sylwadau pellach ynghylch yr effaith mae’r prosiectau blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor yn ei gael ar drigolion y Sir a bod angen rhoi mwy o sylw i’r elfen hon.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn llawn ffigyrau ac ystadegau ond tu ôl i’r ystadegau bod straeon calonogol o brofiadau pobl Gwynedd a’r cymorth a roddwyd iddynt. Cyfeiriwyd at esiampl dan y maes blaenoriaeth Gwynedd Lewyrchus o sut mae gwaith swyddogion yn y maes hwn wedi newid bywydau pobl Gwynedd er gwell. Soniwyd am ddyn lleol oedd yn ddi-waith a digartref a manylwyd ar y gefnogaeth a dderbyniodd gan Waith Gwynedd megis help i sicrhau cyfweliad, cymorth budd-dal a chymorth i brynu dillad addas ar gyfer ei swydd newydd. Diolchwyd i’r tîm Gwaith Gwynedd am y gefnogaeth gan nodi fod yr unigolyn dan sylw bellach mewn swydd llawn amser, efo cartref ac yn teimlo’n sefydlog yn ariannol. Nodwyd bod amryw o enghreifftiau tebyg dan amrywiaeth o feysydd blaenoriaeth o Gynllun y Cyngor.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig cydnabod llwyddiant a diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu gwaith. Cydnabuwyd bod taith hir i gyrraedd y nod ym mhob maes blaenoriaeth.  Ychwanegodd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor bod rhywfaint o waith dylunio pellach i’w wneud cyn cyflwyni’r ddogfen yn ffurfiol i’r Cyngor Llawn ar y 3ydd o Hydref. Cyfeiriwyd at sylwadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r awgrym i ystyried y trefniadau ymgynghori ar gyfer y rhan hunanasesu. Eglurwyd bod hynny yn rhywbeth sydd wedi derbyn sylw a bydd camau priodol yn cael eu rhoi mewn lle er mwyn sicrhau adborth priodol i fwydo mewn i’r hunanasesiadau yn y dyfodol.

 

Sylwadau’n codi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dewi Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor

7.

ADRODDIAD ASESIAD PANEL pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwynwyd gan: Cyg. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cymeradwywyd cynnwys y Ddogfen Gwmpas Asesiad Perfformiad Panel drafft a’r meysydd sydd wedi eu hadnabod i’r Panel edrych arnynt.

2.    Dirprwywyd yr hawl i benderfynu ar aelodaeth o’r Panel gan ddal sylw at gyngor CLlC i’r Arweinydd mewn ymgynghoriad gyda’r Prif Weithredwr.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Cymeradwywyd cynnwys y Ddogfen Gwmpas Asesiad Perfformiad Panel drafft a’r meysydd sydd wedi eu hadnabod i’r Panel edrych arnynt.

2.    Dirprwywyd yr hawl i benderfynu ar aelodaeth o’r Panel gan ddal sylw at gyngor CLlC i’r Arweinydd mewn ymgynghoriad gyda’r Prif Weithredwr.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod gofyniad newydd i’r Cyngor dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i gynnal Asesiad Perfformiad gan Banel unwaith o fewn cylch etholiadol. Eglurwyd y bydd y Panel allanol, annibynnol o’r Cyngor yn edrych ar waith y Cyngor a disgwylir i’r Cyngor baratoi dogfen gwmpasu sy’n adnabod y meysydd y maent yn awyddus i’r Panel fod yn edrych arnynt.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor bod cytundeb mis Hydref flwyddyn ddiwethaf i gynnal yr Asesiad Panel flwyddyn yma. Nododd bod y Gwasanaeth yn cydweithio efo Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghyd â thrafodaethau i greu’r ddogfen gwmpasu a bod drafft o’r ddogfen wedi ei chynnwys efo’r adroddiad. Ategwyd bod y gwaith i adnabod aelodau posib ar gyfer y Panel yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Manylwyd y bydd y Panel yn debygol o gynnwys Cadeirydd annibynnol, cymar o’r sector gyhoeddus, breifat neu wirfoddol, Uwch Swyddog Llywodraeth Leol sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd ac Uwch Aelod Etholedig o’r tu allan i’r Cyngor. 

 

Eglurwyd y bydd y Panel yn edrych ar waith y Cyngor a disgwylir i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth gefndir ar gyfer y Panel a hefyd yn adnabod y meysydd y mae’r Cyngor yn awyddus i’r Panel fod yn edrych arnynt fel sydd wedi eu nodi ar dudalen 76 o’r adroddiad. Nodwyd bod y meysydd yma wedi eu trafod efo’r Pwyllgor Llywodraethau ac Archwilio ym mis Mai yn ogystal â’r Tîm Rheoli Corfforaethol a derbyniwyd ei hawgrymiadau. Cadarnhawyd yr amserlen gan nodi y bydd yr asesiad yn debygol o gael ei gynnal diwedd mis Tachwedd.

 

Amlygodd y Prif Weithredwr bod yr asesiad yn cael ei groesawu a gobeithir y bydd y broses o werth, yn drwyadl ac yn adeiladol yn ogystal â’n rhoi her i’r Cyngor fel bod cyfle i ddysgu a gwella.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·       Croesawyd y broses. Gofynnwyd a oes lle i’r Panel adnabod meysydd eraill i edrych arnynt yn ychwanegol i’r meysydd sydd wedi cael ei hawgrymu gan y Cyngor.

·       Mewn ymateb eglurwyd bod rhan 3.2 yn yr adroddiad yn nodi’r meysydd penodol fydd y Panel yn edrych arnynt ynghyd a set graidd o gwestiynau fydd yn cael eu gofyn. Amlygwyd bod gwahoddiad i’r Cyngor gyflwyno meysydd ychwanegol ac mai’r rhain sydd wedi eu nodi ar dudalen 76 o’r adroddiad.

·       Mynegwyd bod yr egwyddorion arweiniol yn eang eu natur. Ychwanegwyd nad oes cyfyngiad ar ddim a bod gan y Panel hawl i roi mwy o sylw i faes penodol.

 

Awdur: Dewi Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan longyfarch pobl ifanc y Sir ar eu canlyniadau TGAU a Safon Uwch gan ategu mai un maes o allu person ydi gradd arholiad. Cydnabuwyd gwaith caled pobl ifanc y Sir dros y cyfnod arholiadau yn ogystal â’r athrawon gan ddymuno’n dda i bob un person ifanc yn y Sir ar eu cam nesaf.

 

Adroddwyd bod y gwaith o ehangu’r ddarpariaeth gofal plant 2 oed i ardaloedd newydd bron a’i gwblhau efo 22 o ddarparwyr bellach yn cynnig gofal plant Dechrau’n Deg. Tynnwyd sylw bod polisi mynediad Ysgolion Gwynedd yn newid o fis Medi flwyddyn nesaf ac y bydd disgwyliad i blant Meithrin fod wedi eu toiledu cyn cychwyn.

 

Mynegwyd balchder bod y gwasanaeth ADYaCh wedi llwyddo i wella amseroedd aros am gwnsela a nodwyd ei bod yn braf gweld y gwaith o addasu dosbarthiadau yn Ysgol Pendalar yn parhau. Ategwyd ei bod yn wych gweld Ysgol Treferthyr wedi agor ei ddrysau dechrau’r mis a soniwyd hefyd am y gwaith cyffrous o foderneiddio adeiladau  sy’n digwydd ar draws Ysgolion Bangor gydag amryw yn derbyn sylw.

 

Tynnwyd sylw at lefelau presenoldeb Ysgolion gan nodi bod angen gwella’r lefelau. Mynegwyd pryder fod y lefelau presenoldeb heb ddychwelyd i’r hyn ydoedd cyn y pandemig. Cyfeiriwyd hefyd at y cynnydd yn niferoedd y gwaharddiadau penodol a parhaol o ganlyniad i ymddygiad heriol o fewn yr Ysgolion gan nodi bod y maes yma wedi derbyn sylw dros y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd bod arolwg manwl wedi ei gomisiynu ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2023 ar y Gwasanaeth Cynhwysiad a chyflwynwyd argymhellion ar sut i gryfhau’r ddarpariaeth.

 

Ymfalchïwyd ym mhenodiad Meirion Prys Jones fel ymgynghorydd llawrydd fydd yn cydweithio gyda’r Adran Addysg i ail-edrych ar y Polisi Iaith Addysg ac eglurwyd bod y gwaith o gynnal gwerthusiad o’r Gyfundrefn Drochi yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

 

I gloi cydnabuwyd yr heriau a’r boen a brofwyd yn ystod y flwyddyn yn sgil troseddau Neil Foden a bod meddwl Cyngor yn parhau i fod gyda’r dioddefwyr. Ategwyd bod y Cyngor wedi ymrwymo i gydweithredu’n llawn gyda’r adolygiad annibynnol yn unol â chanllawiau cenedlaethol Adolygiad Ymarfer Plant. Yn ogystal croesawyd bwriad y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i gynnal ymchwiliad craffu i’r maes diogelu gan nodi parodrwydd yr Adran Addysg i gydweithio’n llawn gyda’r ymchwiliad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·       Diolchwyd am yr adroddiad gan ymfalchïo bod cymaint o newyddion da wedi ei gynnwys.

·       Holwyd pa gymorth sydd ar gael i rieni i doiledu plant cyn mynd i’r Ysgol Feithrin, yn enwedig plant ag anghenion ychwanegol. Gofynnwyd pa mor haearnaidd ydi’r rheol o ystyried y ffaith bod Derwen efo rhestr aros ar gyfer rhai o’u gwasanaethau.

·       Mewn ymateb eglurwyd y rhesymau dros y newid i’r polisi sef i osgoi dargyfeirio sylw athrawon a cymhorthyddion dosbarth o weddill y dosbarth tra maent yn treulio amser tu allan i’r dosbarth yn newid clytiau. Ychwanegwyd fel rhan o’r gwaith o edrych ar y maes blynyddoedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg

9.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 133 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.