Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Gwen Alaw Roberts E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng. R Medwyn Hughes a’r Cyng. Huw Wyn Jones. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd buddiant personol gan y Cyng. Nia Jeffreys mewn
perthynas ag eitem 6, ac fe adawodd y cyfarfod.
Datganwyd buddiant gan y Cyng. Nia Jeffreys mewn perthynas
ag eitem 9. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, a
ni adawsant y cyfarfod. |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 RHAGFYR Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr
2025 fel rhai cywir. |
|
|
POLISI CLUDIANT ADDYSG (DRAFFT) Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad ar y
Polisi Cludiant Addysg (Drafft). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones. PENDERFYNIAD Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad ar y
Polisi Cludiant Addysg (Drafft). TRAFODAETH Pwysleisiwyd mai Polisi ar ei ffurf drafft sydd yma, gan mai
gofyn i’r Cabinet am hawl i gynnal ymgynghoriad yw diben dod a’r eitem i’r
cyfarfod hwn. Datganwyd bod y Polisi presennol ar waith ers 2009 felly
adnabuwyd ei bod felly’n amserol i ddatblygu polisi newydd. Cyfeiriwyd at y Cynllun Seddi Gweigion gan egluro y cynigir
sedd wag i ddysgwyr nad oes ganddynt hawl i gludiant di-dâl os bydd argaeledd
sedd ar gludiant. Ychwanegwyd bod gofynion deddfwriaethol yn ei gwneud yn
anoddach i gynnig y trefniant hwn bellach. Esboniwyd bod cludiant wedi bod yn cael ei ddarparu i
ysgolion ffydd yn unol â’r gofyn statudol, ond nad oes cyfeiriad at ysgolion
ffydd yn y polisi presennol. Bydd y Polisi (Drafft) gerbron yn cynnig yr
eglurder o ran y cludiant a gynigir. Amlygwyd bod y Cyngor yn darparu cludiant dewisol i ddysgwyr
ôl-16 llawn amser ar hyn o bryd, a manylwyd ar gynnig y Polisi (Drafft) i
ddarparu cludiant i’r ysgol ddalgylch/addas agosaf, ynghyd ag i’r safle coleg
agosaf sy’n darparu’r cwrs. Ymhelaethwyd ar y cynnig gan nodi nad yw’n cyfyngu
ar opsiynau dysgwyr o ran y cyrsiau sydd ar gael iddynt, ond ei fod yn sicrhau
mai cludiant i’r safle agosaf sy’n cynnig y cwrs hwnnw yn unig a gaiff ei
gynnig. Nodwyd bod y Polisi (Drafft) hefyd yn cynnig mwy o wybodaeth
am breswyliad deuol, gan ategu y bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant o’r prif
gyfeiriad. Pwysleisiwyd nad oes unrhyw newid i’r drefn cludiant i blant
ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Polisi (Drafft) hwn, nac i’r drefn o fesur
pellter teithio i dderbyn cludiant am ddim. Cyfeiriwyd at y ddwy ran sydd i’r Polisi, gan nodi nad oes
newid o ran y gofynion statudol i ddarparu cludiant addysg y mae’n rhaid eu
cyfarch. Adnabuwyd mai addasiadau a newidiadau i elfennau’r Polisi sydd o dan
ddisgresiwn yr Awdurdod a gaiff eu cynnig yma. Datganwyd y bydd y Polisi (Drafft) hwn yn mynd gerbron y
Pwyllgor Craffu Addysg ag Economi yn dilyn yr ymgynghoriad. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Holwyd am eglurder o ran y dull mesur pellter
teithio, a soniwyd am addasrwydd y lonydd a’r llwybrau cerdded y mae disgwyl i
ddysgwyr eu defnyddio er mwyn cyrraedd yr ysgol. Cadarnhawyd y caiff pellter ei
fesur drwy system fapio (GIS) a’i fod felly’n gyson i bob dysgwr. Ychwanegwyd
bod system i asesu addasrwydd ffyrdd a llwybrau yn ogystal, ac y buasai
cludiant yn cael ei ddarparu os nad yw llwybr yn addas. Anogwyd unrhyw un sy’n
wynebu rhwystrau o ran cludiant i ymateb i’r ymgynghoriad, fel bod posib i’r sylwadau
hynny gael eu hystyried. ·
Datganwyd cefnogaeth i lwybr y Polisi (Drafft)
hwn, gan nodi ei fod yn ffordd ddemocrataidd o fabwysiadu’r ddogfen.
Pwysleisiwyd y pwysigrwydd i drigolion ymateb i’r ymgynghoriad hwn. · Sicrhawyd nad oes effaith yn cael ei ragweld ar gostau byw yn deillio o’r Polisi (Drafft) hwn. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Debbie Jones, Pennaeth Cynorthwyol Addysg |
|
|
STRATEGAETH CAFFAEL 2026 - 2031 Cyflwynwyd gan: Cyng Llio Elenid Owen Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a chymeradwywyd y Strategaeth Caffael 2026 – 2031
(Atodiad 1). Rhoddwyd yr hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
wneud addasiadau gweithredol i’r Strategaeth fel mae’r angen yn codi i sicrhau
cydymffurfiaeth â chanllawiau statudol (megis canllawiau statudol y Ddeddf
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a chymeradwywyd y Strategaeth Caffael 2026 – 2031
(Atodiad 1). Rhoddwyd yr hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
wneud addasiadau gweithredol i’r Strategaeth fel mae’r angen yn codi i sicrhau
cydymffurfiaeth â chanllawiau statudol (megis canllawiau statudol y Ddeddf
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)). TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan fanylu ar y broses Caffel sef
sicrhau nwyddau, gwasanaethau neu waith ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor.
Amlygwyd ei fod yn rhan allweddol o weithgarwch y Cyngor. Datgelwyd pwysigrwydd bod gan y Cyngor Strategaeth Caffael.
Ymhelaethwyd gan nodi y bydd yn ofyn statudol yn y dyfodol agos, ac y mae’n
sicrhau y caiff y Cyngor y gwerth gorau am arian cyhoeddus, ac yn sicrhau’r
ansawdd gorau i bobl Gwynedd. Adnabuwyd bod y Cyngor yn gwario oddeutu £200 miliwn y
flwyddyn ar weithgarwch caffael. Pwysleisiwyd yr angen i gael y nwyddau,
gwasanaethau neu waith am y pris gorau, gan sicrhau’r ansawdd gorau yn ogystal.
Amlygwyd bod hefyd angen cyfarch amcanion eraill, megis datgarboneiddio a
sicrhau gwerth cymdeithasol - mae’r Strategaeth yn gosod y cyfeiriad a’r
weledigaeth er mwyn galluogi i hyn ddigwydd. Cyfeiriwyd at y 7 maes blaenoriaeth a gaiff eu cynnwys yn y
Strategaeth, gan amlygu fod pob maes blaenoriaeth wedi’i adnabod fel maes
allweddol yng nghyd-destun caffael yng Nghyngor Gwynedd. Rhestrwyd y meysydd
hyn a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad. Cadarnhawyd bod y Strategaeth Caffael wedi bod gerbron y
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Hydref 2025, a phenderfynodd y
Pwyllgor Craffu dderbyn y Strategaeth a’r adroddiad. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Diolchwyd am y strategaeth a gofynnwyd sut y
mae’r Cyngor yn mesur gwerth caffael. Nodwyd bod gan yr adran fesur o ran y
budd lleol, a gaiff ei fesur yn rheolaidd drwy drefniadau herio perfformiad.
Ychwanegwyd bod y Strategaeth yn rhoi cyfle i edrych ar feysydd eraill ar draws
y Cyngor lle mae caffael yn effeithio arnynt, a datblygu mesurau i gyd-fynd â’r
blaenoriaethau hynny. Amlygwyd bod gwerth am arian yn ffactor yma, yn ogystal â
gwerth cymdeithasol, sy’n cynnwys nifer o fesurau pellach. Nodwyd bod y
Strategaeth yn rhoi cyfle i fesur gwerth caffael mewn amryw o feysydd ar draws
y Cyngor. ·
Holwyd am ddefnydd y Gymraeg i gyflenwyr, gan
amlygu bod y mater hwn wedi’i godi gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn
ogystal. Datganwyd bod cyngor cyfreithiol wedi ei dderbyn, a bod hwnnw’n cael
ei weithredu i’r eithaf. Mae’r Gymraeg yn ofynnol mewn nifer o gontractau,
felly nodwyd bod bwriad i ddilyn hynny cyn belled ag sy’n bosib. ·
Cyfeiriwyd at y 7 blaenoriaeth gan gwestiynu a
oes prif flaenoriaeth o’r 7 a nodwyd. Datganwyd mai’r brif flaenoriaeth yw i “wneud
y mwyaf o werth y bunt yng Ngwynedd” fel y nodir ar flaen y Strategaeth, a
soniwyd bod y 7 blaenoriaeth hyn yn unigryw i Wynedd. ·
Gofynnwyd a oes unrhyw densiynau’n codi rhwng y
blaenoriaethau. Datganwyd bod tensiynau yn anorfod ac yn rhywbeth fydd rhaid
i’r timau categori caffael fod yn wyliadwrus ohono. · Holwyd sut ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Arwel Evans, Rheolwr Caffael |
|
|
POLISI CANU'R GLOCH Cyflwynwyd gan: Cyng Llio Elenid Owen Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd: Bod y Cabinet yn mabwysiadu’r Polisi Canu’r Gloch diwygiedig i staff a welir yn Atodiad 1. Bod y Polisi Canu’r Gloch i staff yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y cyfle cyntaf er mwyn derbyn sylwadau ar y drefn ag argymhellir. Cwblhau adolygiad o’r trefniadau presennol ar gyfer galluogi Cynghorwyr i godi pryderon, gan gynnwys modd annibynnol pan fo angen, a bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â’r sefydliad Protect ac mewn ymgynghoriad â Chynghorwyr. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen PENDERFYNIAD Penderfynwyd: Bod y Cabinet yn mabwysiadu’r Polisi Canu’r Gloch
ddiwygiedig i staff a welir yn Atodiad 1. Bod y Polisi Canu’r Gloch i staff yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y cyfle cyntaf er mwyn derbyn sylwadau ar
y drefn ag argymhellir. Cwblhau adolygiad o’r trefniadau presennol ar gyfer galluogi
Cynghorwyr i godi pryderon, gan gynnwys modd annibynnol pan fo angen, a bod yr
adolygiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â’r sefydliad Protect
ac mewn ymgynghoriad â Chynghorwyr. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adroddiad yn crynhoi’r gwaith sydd wedi ei
gyflawni i adolygu Polisi a threfniadau canu’r gloch i staff y Cyngor.
Datganwyd bod y polisi yn cryfhau’r trefniadau ymarferol ar gyfer adnabod
achosion posib o ganu’r gloch, a’r llwybrau posib i ymdrin â’r pryderon hynny. Adroddwyd mai’r camau nesaf, pe bai’r Polisi’n cael ei
fabwysiadu, fydd gweithredu ar gynllun cyfathrebu cynhwysfawr a fydd yn codi
ymwybyddiaeth o’r polisi ymysg holl weithlu’r Cyngor. Cadarnhawyd y bydd rhaglen hyfforddi hefyd yn cael ei rhoi
mewn lle, a fydd wedi’i theilwra i wahanol garfannau o’r gweithlu. Tynnwyd sylw at y ffaith mai cyfrifoldeb cyrff Llywodraethu
pob ysgol yw i fabwysiadu polisïau cyflogaeth, gan gynnwys Polisi Canu’r Gloch.
Soniwyd bod gan y Cyngor rôl wrth sicrhau fod gan ysgolion y Sir bolisi a
threfniadau addas yn eu lle yn ogystal. Amlygwyd mai Polisi Canu’r Gloch i staff sydd gerbron y
Cabinet, a chyfeiriwyd at benderfyniad yng nghyfarfod y Bwrdd Ymateb diwethaf,
sef yr angen i edrych ar Bolisi Canu’r Gloch i aelodau etholedig yn ogystal. Addaswyd y penderfyniad a geisir yn sgil adborth y
Pwyllgorau Craffu diweddar. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Croesawyd y Polisi hwn, a chefnogwyd yr
addasiad. ·
Amlygwyd y gefnogaeth gan y Bwrdd Ymateb i gael
canllawiau ar wahân i gynghorwyr, a nodwyd bydd yr addasiad hwn yn cryfhau’r
warchodaeth i gynghorwyr. ·
Datganwyd bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi polisi
model ar gyfer Llywodraethwyr ysgolion, a bydd y Cyngor yn gofyn i bob ysgol
fabwysiadu’r polisi hwnnw sy’n addas ar gyfer ysgolion. ·
Soniwyd am brosesau canu’r gloch o ran y cyhoedd
yn gyffredinol, ac esboniwyd bod mecanwaith mewn lle i dderbyn pryderon gan y
cyhoedd. Ychwanegwyd bod gwaith pellach i’w wneud i godi ymwybyddiaeth y
cyhoedd o’r trefniadau hynny. ·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r
Polisi a magu diwylliant o fewn y Cyngor lle mae staff yn teimlo’n hyderus i
ganu’r gloch. · Amlygwyd
y caiff y Polisi hwn ei drafod mewn sesiwn gyda rheolwyr ac arweinyddion tîm y
Cyngor, ai fod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth a gwreiddio’r diwylliant
hwnnw. Awdur: Eurig Williams, Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau Dynol Jac Ynyr Evans, Cyfreithiwr |
|
|
CYLLIDEB REFENIW 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2025 Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd gan y Cabinet gymorth ariannol ychwanegol uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw'n Iach i’w gyllido
o’r gronfa trawsffurfio, gan ddirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet dros Economi
mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr a’r Pennaeth
Cyllid i gytuno ar swm y gefnogaeth ariannol derfynol uwchlaw y tâl cytundebol
gyda Byw’n Iach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ar sail yr adolygiad presennol,
amcangyfrifir mai gwerth y gefnogaeth fydd £295k. Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.365 miliwn o danwariant ar
gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol, i'w ddefnyddio
ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i gyllido'r gorwariant a wynebir gan yr
adrannau. Cymeradwywyd trosglwyddiad ariannol fel yr amlinellir yn
Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o Bremiwm Treth Cyngor 2024/25, gyda
throsglwyddiad gwerth £2.089 miliwn o'r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol i
Gronfa Premiwm Treth Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd gan y Cabinet gymorth ariannol ychwanegol uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw'n Iach i’w gyllido
o’r gronfa trawsffurfio, gan ddirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet dros Economi
mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr a’r Pennaeth
Cyllid i gytuno ar swm y gefnogaeth ariannol derfynol uwchlaw y tâl cytundebol
gyda Byw’n Iach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ar sail yr adolygiad presennol,
amcangyfrifir mai gwerth y gefnogaeth fydd £295k. Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.365 miliwn o danwariant ar
gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol, i'w ddefnyddio
ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i gyllido'r gorwariant a wynebir gan yr
adrannau. Cymeradwywyd trosglwyddiad ariannol fel yr amlinellir yn
Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o Bremiwm Treth Cyngor 2024/25, gyda
throsglwyddiad gwerth £2.089 miliwn o'r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol i
Gronfa Premiwm Treth Cyngor. TRAFODAETH Datganwyd bod rhagolygon o £6.5 miliwn o orwariant gan
adrannau’r Cyngor yn dilyn adolygiad diwedd Tachwedd, sydd yn gynnydd bychan o
ragolygon Awst. Amlygwyd bod 76% o’r gorwario yn y meysydd gofal, oedolion a
phlant, ac ychwanegwyd bod 6 adran yn gorwario.
Adnabuwyd bod tanwariant ar gyllidebau corfforaethol, sy’n
lleihau’r rhagolygon gorwariant yn ei gyfanrwydd i £2.3 miliwn. Cyfeiriwyd at Atodiad 2 sy’n egluro’r prif faterion a’r
meysydd sydd â gwahaniaethau sylweddol. Aethpwyd ymlaen i gyfeirio at Atodiad 3, sy’n nodi bod incwm
treth Cyngor a’r premiwm sy’n deillio o’r dreth ar ail gartrefi ac eiddo gwag
wedi’i adolygu, yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol 2024/25. Nodwyd mai’r
canlyniad yw bod £2 filiwn sy’n berthnasol i Bremiwm Treth Cyngor 2024/25 i’w
drosglwyddo o’r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol i’r Gronfa Premiwm Treth
Cyngor. Esboniwyd bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio wythnos ynghynt. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi’r wybodaeth yn ei
gyd-destun ac adnabod y ffaith nad oes modd rhagweld llawer o’r gorwariant hwn,
yn enwedig yn yr adrannau hynny sy’n ymateb i alw. Ychwanegwyd bod rhaid gwario
yn unol â’r galw, a bod gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynnig y gwasanaethau hyn a
gwarchod pobl Gwynedd. ·
Tynnwyd sylw at realiti tan gyllido Llywodraeth
Leol i bobl y Sir. · Mynegwyd
balchder y defnyddir y derminoleg ‘diffyg cyllideb’ yn hytrach na ‘gorwario’ yn
yr adroddiad, sy’n adlewyrchu’r realiti. Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo
i geisio gwneud yr arbedion hynny, ond mai gwneud y peth iawn i bobl Gwynedd
yw’r flaenoriaeth. Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau |
|
|
RHAGLEN GYFALAF 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD (SEFYLLFA 30 TACHWEDD 2025) Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbynwyd yr adroddiad ar
adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2025) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf, a
gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 ac a addaswyd 11 Tachwedd 2025, o safbwynt
dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef: - lleihad o £7,544,000 mewn defnydd o fenthyca - cynnydd o £2,660,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau - cynnydd o £103,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw - lleihad o £2,387,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf - cynnydd o £6,364,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac
eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd
(sefyllfa 30 Tachwedd 2025) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf, a
gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 ac a addaswyd 11 Tachwedd 2025, o safbwynt
dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef: - lleihad o £7,544,000 mewn defnydd o fenthyca - cynnydd o £2,660,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau - cynnydd o £103,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw - lleihad o £2,387,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf - cynnydd o £6,364,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac
eraill. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno’r
rhaglen gyfalaf ddiwygiedig (sefyllfa 30 Tachwedd 2025), a chymeradwyo’r
addasiadau i’r ffynonellau ariannu perthnasol. Cyfeiriwyd at ran
3.2.2 o’r adroddiad, sy’n cynnig dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf
gwerth £152 miliwn am y 3 blynedd o 2025/26 – 2027/28. Datganwyd bod cynlluniau
pendant mewn lle i fuddsoddi £93.7miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda
gwerth £48.2miliwn sef 51% ohono wedi’i ariannu drwy grantiau penodol. Ychwanegwyd bod £6miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig
wedi’i ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28. Soniwyd bod Atodiad 2 yn
cynnwys y prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol. Cyfeiriwyd at y grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor i’w
denu ers yr adolygiad diwethaf, sydd i’w gweld yn rhan 3.2.4 o’r adroddiad. Soniwyd bod gwybodaeth am Ddangosyddion Darbodus Cyfalaf y
Cyngor i’w weld yn Atodiad 4, sy’n ofyn adrodd yn y Côd
Darbodus gan CIPFA. Eglurwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio efo’i bolisi ar
fenthyca at ddibenion cyfalaf. Amlygwyd bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio wythnos ynghynt. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Tynnwyd sylw at y ddibyniaeth ar grantiau, a
nodwyd ei fod yn amlygu’r diffyg gan Lywodraeth Cymru wrth ariannu Llywodraeth
Leol. · Mynegwyd
rhwystredigaeth bod galwadau am setliadau aml flwyddyn ddim wedi eu hateb, a
bod dim modd cynllunio o flaen llaw o ganlyniad i hynny. Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol – Cyfrifeg a Phensiynau |
|
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd
tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd
tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol. TRAFODAETH Yn adroddiad Cyllideb 2025/26 i’r Cyngor Llawn ar 6 Mawrth
2025, adroddwyd bod arbedion gwerth £3.5 miliwn wedi eu proffilio ar gyfer
Cyllideb 2025/26. Amlygwyd bod hyn yn gyfuniad o arbedion gwerth £100k sydd
wedi’u cymeradwyo o’r newydd yn 2025, a £3.4 miliwn a gymeradwywyd mewn
blynyddoedd blaenorol. Adnabuwyd bod trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai
meysydd. Datganwyd bod yr arbedion newydd wedi eu gwahanu oddi wrth yr arbedion
blaenorol, felly bod arbedion perthnasol i 2025/26 yn Atodiad 1 ac yn Atodiad
2. Adroddwyd bod 98% o’r arbedion hanesyddol, am y cyfnod o’r flwyddyn ariannol 2015/16 hyd at y
flwyddyn ariannol 2025/26, wedi
eu gwireddu. Nodwyd bod hyn yn £33.8 miliwn o’r £34.3 miliwn o arbedion. Amlygwyd bod cynlluniau gwerth £590 o filoedd yn parhau heb
eu gwireddu, a’r mwyafrif ohonynt yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Cyfeiriwyd at Atodiad 2 a ddengys bod y cynlluniau arbedion
newydd gwerth £15.6 miliwn a 81% o’r arbedion eisoes wedi eu gwireddu, a 3%
pellach ar drac i’w cyflawni’n amserol. Datganwyd bod risgiau amlwg i wireddu’r arbedion mewn rhai
meysydd, yn enwedig yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran
Amgylchedd. Esboniwyd y ceir gwerth yr arbedion sydd eisoes wedi eu
cymeradwyo ar gyfer 2026/27 ymlaen yn Atodiad 3. Yn dilyn cyhoeddiad bod llawr o 4.1% ar gyfer y setliad
ariannol i Lywodraeth Leol, eglurwyd nad oes rhaid brysio i weithredu arbedion
ar gyfer 2026/27. Pwysleisiwyd y bydd angen parhau i adnabod arbedion ar gyfer
y blynyddoedd nesaf, sy’n debygol o fod yn heriol. Amlygwyd bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio wythnos ynghynt. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Mynegwyd syndod gan yr Aelod Cabinet am y ffigwr
o arbedion sydd wedi eu gwneud gan y Cyngor hyd yma. Dechreuodd y cyfarfod am 1:00yh a daeth i ben am 2:30yh. Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau |