Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion
i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Dilwyn Morgan. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd
datganiad o fuddiant gan y Cyng. Dyfrig Siencyn gan fod perthynas
agos yn berchen
eiddo sydd yn cael ei
effeithio gan y Premiwm Treth Cyngor, roedd yn fuddiant
a oedd yn
rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod
ar gyfer yr eitem. Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Cemlyn Williams gan fod ei ferch yn gweithio i gwmni Fran Wen, roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 A 24 TACHWEDD 2020 PDF 198 KB Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 a 24 Tachwedd 2020 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU TAI PDF 215 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a) Cymeradwywyd
y prosiectau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Tai ar gyfer y cyfnod o hyn tan
2026/27. b) Cymeradwywyd
ymhellach y dyraniad a argymhellwyd ar gyfer y prosiectau unigol, o fewn yr
amlen ariannol sydd eisoes wedi ei gymeradwyo ar gyfer y maes gwaith hwn, a hyd
at gyfanswm yr adnoddau fydd eisoes wedi’u casglu. c) Er
mwyn caniatáu hyblygrwydd wrth ymateb i newidiadau yn y farchnad dai dros
amser, awdurdodwyd y Pennaeth Tai ac Eiddo, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet
Tai ac Eiddo a’r Pennaeth Cyllid, i amrywio’r union ddyraniad ar gyfer
prosiectau unigol wrth i wybodaeth am gostau prosiectau unigol, a’r galw am
fathau gwahanol o gefnogaeth, ddod yn fwy cadarn dros amser. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab
Iago. PENDERFYNIAD a) Cymeradwywyd
y prosiectau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Tai ar gyfer y cyfnod o hyn tan
2026/27. b) Cymeradwywyd
ymhellach y dyraniad a argymhellwyd ar gyfer y prosiectau unigol, o fewn yr
amlen ariannol sydd eisoes wedi ei gymeradwyo ar gyfer y maes gwaith hwn, a hyd
at gyfanswm yr adnoddau fydd eisoes wedi’u casglu. c) Er
mwyn caniatáu hyblygrwydd wrth ymateb i newidiadau yn y farchnad dai dros
amser, awdurdodwyd y Pennaeth Tai ac Eiddo, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet
Tai ac Eiddo a’r Pennaeth Cyllid, i amrywio’r union ddyraniad ar gyfer
prosiectau unigol wrth i wybodaeth am gostau prosiectau unigol, a’r galw am
fathau gwahanol o gefnogaeth, ddod yn fwy cadarn dros amser. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y maes
tai mewn argyfwng bellach. Nododd yr Aelod Cabinet er ei fod wedi swnian ar y
Llywodraeth Cymru i wneud rhywbeth am y mater ei fod yn bleser cynnig y Cynllun
Tai ar gyfer Cyngor Gwynedd. Mynegodd fod y Cynllun Gweithredol yn amlygu sut y
bydd yr Adran yn gweithredu’r weledigaeth. Ychwanegodd fod y ddogfen yn cael ei
gyflwyno ac yno i ysbrydoli pobl. Nododd Pennaeth yr
Adran Tai ac Eiddo fod Cynghorwyr a phartneriaid yn y maes Tai wedi bod yn rhan
o’r trafodaethau ar gyfer creu'r ddogfen ar hyd y daith. Pwysleisiodd ei bod yn
adroddiad cyfansawdd ac y bydd adroddiad pellach ar rai achosion busnes mwy
manwl yn cael ei chyflwyno yn y flwyddyn newydd. Mynegwyd fod yr adran wedi
gweithio yn galed i greu dogfen ddealladwy i bawb. Amlinellwyd y prif feysydd o
fewn y Cynllun gan nodi’r prif amcan o fewn y cynllun fydd i’r Cyngor adeiladau
tai ei hunain i’w rhentu am bris teg o fewn y sir ac i uwchraddio
tai gwag er mwyn dod a hwy yn ôl i ddefnydd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Croesawyd y Cynllun Tai gan amlygu ei fod yn waith arbennig sydd yn glir
ac yn amlygu beth mae’r adran am ei wneud. Pwysleisiwyd fod gwaith ymchwil wedi
ei wneud i weld beth yw gwir angen o fewn y sir. Holwyd o ran y cynllun i’r
dyfodol faint o hyblygrwydd sydd i addasu’r cynllun wrth i’r flynyddoedd fynd
heibio. Mynegwyd fod y cynllun yn sylfaen dda ond y bydd yr adran yn parhau i
edrych a newid yn ystod y cyfnod. Pwysleisiwyd fod y cynllun yn hyblyg ond os
bydd newid mawr i’w gweld y byddant yn dod yn ôl i’r Cabinet. ¾ Nodwyd fod heriau i’w gweld yn y maes tai a bod y cynllun yn mynd i’r
afael a hwy mewn amrywiol ffyrdd. Holwyd o ran amserlenni cynlluniau grantiau
ac os oes modd ôl-ddyddio grantiau tai gweigion. Nodwyd y bydd rhai cynlluniau
yn cael eu gweithredu yn gynt nac eraill a bydd yr adran yn edrych ar y
cysyniad o ôl ddyddio grantiau os oes angen gwneud hynny i ateb trafferthion y
mae trigolion yn eu wynebu. ¾ Mynegwyd fod y ... view the full COFNODION text for item 6. Awdur: Dafydd Gibbard |
|
GWAITH YMCHWIL TAI GWYLIAU PDF 541 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith a Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn wyneb yr angen i gael gwell rheolaeth ar dai sydd yn cael
eu tynnu allan o’r cyflenwad sydd ar gael i bobl leol, a thrwy hynny i roi
buddiannau trigolion lleol yn gyntaf, cymeradwywyd y gwaith ymchwil i’w
gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac y dylid: a)
Galw ar y Llywodraeth ar fyrder i efelychu'r hyn
sydd yn digwydd yn yr Alban a diwygio’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) er mwyn cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer
llety gwyliau tymor byr. Byddai hynny yn ei dro yn caniatáu i awdurdodau
adnabod ‘ardaloedd rheoli’ lle byddai’n ofynnol derbyn hawl cynllunio ar gyfer
newid defnydd tŷ preswyl i’w ddefnyddio fel llety gwyliau tymor byr o fewn
yr ‘ardal rheoli’ penodedig. b)
Er mwyn cynorthwyo i gadw rheolaeth dylid hefyd
galw am gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr
fyddai’n gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol ei weithredu. c)
Tra byddai’r uchod yn cynorthwyo’r Cyngor i gael
gwell rheolaeth ar dai sy’n cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau, ni fyddai
modd osgoi/rheoli tai yn cael eu troi yn ail gartrefi (oni bai am y rhai sydd
yn cael eu gosod yn achlysurol/parhaol). Er mwyn sicrhau fod gan y Cyngor y
modd ariannol i helpu i wneud yn iawn am y diffygion yn y cyflenwad y byddai
hynny yn ei greu, ein bod yn galw ar y Llywodraeth i newid ei safiad ac i
weithredu ar fyrder i newid y Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw
dŷ annedd sydd ddim yn brif neu unig gartref i unigolyn (boed yn ail
gartref neu’n dŷ a ddefnyddir at ddibenion llety gwyliau tymor byr) yn
cael ei ddiffinio fel tŷ annedd er pwrpas trethu (a thrwy hynny yn talu
unrhyw bremiwm Treth Cyngor a benderfynir arno’n lleol). Fe fyddai unrhyw lety
gwyliau tymor byr sydd wedi derbyn hawl cynllunio pwrpasol ar gyfer y defnydd
hynny yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer talu Treth Busnes Annomestig. d)
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet i ystyried sut y gellir defnyddio’r
gwaith ymchwil yng nghyd-destun y fframwaith bolisi cynllunio lleol. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Gareth Griffith a Cyng. Craig ab Iago. PENDERFYNIAD Yn wyneb yr angen i gael gwell rheolaeth ar dai
sydd yn cael eu tynnu allan o’r cyflenwad sydd ar gael i bobl leol, a thrwy
hynny i roi buddiannau trigolion lleol yn gyntaf, cymeradwywyd y gwaith ymchwil
i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac y dylid: a)
Galw
ar y Llywodraeth ar fyrder i efelychu'r hyn sydd yn digwydd yn yr Alban a
diwygio’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) er mwyn
cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Byddai
hynny yn ei dro yn caniatáu i awdurdodau adnabod ‘ardaloedd rheoli’ lle
byddai’n ofynnol derbyn hawl cynllunio ar gyfer newid defnydd tŷ preswyl
i’w ddefnyddio fel llety gwyliau tymor byr o fewn yr ‘ardal rheoli’ penodedig. b)
Er
mwyn cynorthwyo i gadw rheolaeth dylid hefyd galw am gyflwyno cynllun trwyddedu
gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr fyddai’n gyfrifoldeb i’r awdurdod
lleol ei weithredu. c)
Tra
byddai’r uchod yn cynorthwyo’r Cyngor i gael gwell rheolaeth ar dai sy’n cael
eu defnyddio at ddibenion gwyliau, ni fyddai modd osgoi/rheoli tai yn cael eu
troi yn ail gartrefi (oni bai am y rhai sydd yn cael eu gosod yn
achlysurol/parhaol). Er mwyn sicrhau fod gan y Cyngor y modd ariannol i helpu i
wneud yn iawn am y diffygion yn y cyflenwad y byddai hynny yn ei greu, ein bod
yn galw ar y Llywodraeth i newid ei safiad ac i weithredu ar fyrder i newid y
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw dŷ annedd sydd ddim yn brif
neu unig gartref i unigolyn (boed yn ail gartref neu’n dŷ a ddefnyddir at
ddibenion llety gwyliau tymor byr) yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd er
pwrpas trethu (a thrwy hynny yn talu unrhyw bremiwm Treth Cyngor a benderfynir
arno’n lleol). Fe fyddai unrhyw lety gwyliau tymor byr sydd wedi derbyn hawl
cynllunio pwrpasol ar gyfer y defnydd hynny yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer
talu Treth Busnes Annomestig. d)
Dirprwyo’r
hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet i
ystyried sut y gellir defnyddio’r gwaith ymchwil yng nghyd-destun y fframwaith
bolisi cynllunio lleol. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet dros flwyddyn yn ôl wedi comisiynu
adroddiad yn edrych ar ardrawiad cartrefi
gwyliau yng nghyd-destun Gwynedd. Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled i
greu’r adroddiad. Amlygwyd fod yr adroddiad yn amlygu prif broblemau yn y maes sef yr effaith ar y stoc dai, effaith ar gymunedau yn ogystal ag effaith ar yr iaith Gymraeg. Ategwyd fod yr adroddiad yn rhannu gwybodaeth ond hefyd yn amlygu opsiynau posib i fynd i’r afael ar broblemau hyn. Tynnwyd sylw at yr ystadegau dychrynllyd sydd i’w gweld megis bron i 7,000 o dai'r sir yn cael eu defnyddio fel tai gwyliau. Yn ogystal nodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf fod 38% o dai'r sir a brynwyd wedi eu prynu fel ail cartrefi. Nodwyd y penderfyniad gan amlygu fod cefnogaeth ... view the full COFNODION text for item 7. Awdur: Gareth Jones |
|
ARDAL GWELLA BUSNES CAERNARFON PDF 405 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y bod yr ardal Gwella Busnes Caernarfon yn codi
ardoll ar fusnesau ac yna fod Cwmni Ardal Gwella Busnes Caernarfon yn defnyddio’r arian er mwyn datblygu’r
ardaloedd. Nodwyd fod pleidlais yn cael ei gynnal pob 5 mlynedd i weld os yw’r
busnesau yn awyddus i barhau. Ychwanegodd
Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned fod yr adran wedi derbyn dogfennau gan
Gwmni Ardal Gwella Busnes Caernarfon a'u bod yn cyd-fynd a’r rheoliadau. Nodwyd
fod y 5 mlynedd diwethaf fod heriau wedi codi ond fod Hwb Caernarfon wedi
cynnal llawer o brosiectau i hybu Caernarfon ac wedi defnyddio’r arian i uchafu
mwy o fuddsoddiad i mewn i’r dref. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd
fod Hwb Caernarfon wedi gwneud gwahaniaeth i’r dref a'u bod wedi wynebu llawer
o heriau ond gobeithio y bydd busnesau yn cefnogi’r cais. ¾ Mynegwyd clod i’r gwaith da
sydd wedi ei wneud ar gyllideb fechan a gobeithio y bydd modd adeiladau ar y
gwaith da sydd yn ei wneud. Awdur: Llyr B Jones a Esyllt Rhys Jones |
|
ARDAL GWELLA BUSNES BANGOR PDF 404 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Nodwyd
fod yr eitem hon yn gofyn am yr un penderfyniad ond i’r bleidlais gael ei
gynnig ym Mangor. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Holwyd
am y ffin y bid ym Mangor ac os yw Bangor Uchaf yn rhan o’r Ardal Gwella Busnes
ym Mangor ac os byddant yn rhan o’r bleidlais. Nodwyd fod y dogfennau gan Gwmni
Ardal Gwella Busnes Bangor yn cydymffurfio a’r rheoliadau ac y bydd pob busnes
o fewn y ffin yn cael cyfle i fod yn rhan o’r bleidlais. ¾ Holwyd
pam fod y ddogfennaeth yn uniaith Saesneg yn unig. Nodwyd mai rhain yw’r
dogfennau sydd wedi eu derbyn gan y Cwmnïau Ardal Gwella Busnes ond nodwyd y
bydd y dogfennau yn ddwyieithog wrth gael ei chyflwyno i’r busnesau. Awdur: Llyr B Jones ac Esyllt Rhys Jones |
|
SEFYDLU PARTNERIAETH CHWARAEON GOGLEDD CYMRU PDF 379 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd i
sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru, gyda Chyngor Conwy yn awdurdod
lletyol a Chyngor Gwynedd yn ymrwymo i’r trefniadau fel un o’r partneriaid
rhanbarthol. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Cymeradwywyd i
sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru, gyda Chyngor
Conwy yn awdurdod lletyol a Chyngor Gwynedd yn ymrwymo i’r
trefniadau fel un o’r partneriaid
rhanbarthol. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Nodwyd fod y cynllun i greu partneriaeth
yn gynllun peilot gyda Chyngor Conwy yn awdurdod lletyol
a fydd yn galluogi nifer o bartneriaid i weithio gyda’i gilydd. Pwysleisiwyd y
bydd arian mae’r Cyngor yn derbyn ar hyn o bryd yn cael ei dderbyn gan y
Bartneriaeth a fydd yna yn dyrannu’r
arian ymhellach. Nododd Pennaeth Adran Economi a Chymuned nad yw’r arian yn
sylweddol gan Chwaraeon Cymru ond y gobaith drwy dynnu’r arian at ei
gilydd bydd modd cyflawni mwy. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd
fod y patrwm hwn o weithio mewn partneriaeth ar draws y Gogledd yn mynd yn
erbyn datganoli. Holwyd sut y bydd yn cael ei reoli ac os bydd risg ariannol o
ddyrannu’r arian yn rhanbarthol. Nodwyd oes mae elfen o risg ond fod angen
sicrhau llais clir i ddylanwadu ar sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu. ¾ Mynegwyd
pwysigrwydd cynnal sesiynau chwaraeon drwy’r Gymraeg a nodwyd pryder am y
defnydd o’r iaith pan yn ei wneud yn rhanbarthol. Pwysleisiwyd fod trafodaeth
wedi ei gynnal ar y mater hwn ac y bydd y Pennaeth Adran Economi a Chymuned yn
ategu’r mater yn y cyfarfod nesaf. Awdur: Sioned Williams |
|
YSGOL NEWYDD YNG NGHRICIETH - CYNYDDU CYLLIDEB CYFALAF Y PROSIECT PDF 246 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i: · Symud adnoddau o
fewn y rhaglen gyfalaf a chynyddu’r gyllideb ar gyfer y prosiect i adeiladu
Ysgol Newydd yng Nghricieth er mwyn cyfarch y costau ychwanegol sydd wedi eu
hadnabod wrth gynllunio’r ysgol ar y safle ffafredig newydd yng Nghricieth, gan
wireddu hynny drwy drosglwyddo £380,000 o gyllideb y Prosiect Ôl-16, sy’n rhan
o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif (Band B) er mwyn cyfarch y costau ychwanegol
sydd wedi eu hadnabod wrth gynllunio’r ysgol ar safle newydd yng Nghricieth. · Tanysgrifennu’r
swm cyfalaf o £220,000 er mwyn sicrhau darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal
plant 30 awr fel rhan o’r Ysgol Newydd yng Nghricieth pe na bai unrhyw
ffynhonnell gyllidol arall ar gael gan Lywodraeth Cymru fyddai’n cyd-fynd gydag
amserlen y prosiect. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Cemlyn Williams. PENDERFYNIAD Cytunwyd
i: · Symud adnoddau o fewn y rhaglen gyfalaf a
chynyddu’r gyllideb ar gyfer y prosiect i adeiladu Ysgol Newydd yng Nghricieth
er mwyn cyfarch y costau ychwanegol sydd wedi eu hadnabod wrth gynllunio’r
ysgol ar y safle ffafredig newydd yng Nghricieth, gan wireddu hynny drwy
drosglwyddo £380,000 o gyllideb y Prosiect Ôl-16, sy’n rhan o Raglen Ysgolion
21ain Ganrif (Band B) er mwyn cyfarch y costau ychwanegol sydd wedi eu hadnabod
wrth gynllunio’r ysgol ar safle newydd yng Nghricieth. · Tanysgrifennu’r swm cyfalaf o £220,000 er mwyn
sicrhau darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant 30 awr fel rhan o’r Ysgol
Newydd yng Nghricieth pe na bai unrhyw ffynhonnell gyllidol arall ar gael gan
Lywodraeth Cymru fyddai’n cyd-fynd gydag amserlen y prosiect. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod penderfyniad wedi ei wneud i fynd i ymgynghoriad ar
gynyddu’r capasiti yn yr ysgol ac i adleoli i leoliad arall. Mynegwyd yn dilyn trafodaethau prynu tir, addasiadau i’r ffordd a chynllunio’r ysgol ar y
safle fod costau ychwanegol wedi eu hadnabod sy’n golygu y bydd angen cynyddu
cyllideb y prosiect os am wireddu’r gwaith ychwanegol yma. Mynegwyd fod y Cyngor wedi bod yn aflwyddiannus
i dderbyn arian cyfalaf i sicrhau darpariaeth gofal plant a’r blynyddoedd
cynnar i Griccieth, ond wedi derbyn cadarnhad gan y Llywodraeth mewn egwyddor i
ariannu os cyfyd ffynhonnell ariannol addas yn y dyfodol. Fodd bynnag roedd hyn
yn bell o fod yn addewid cadarn. Mynegwyd er mwyn ariannu'r cynllun fod angen
trosglwyddo arian o gyllideb Prosiect Ol-16, sy’n rhan o Raglen Ysgolion 21ain
Ganrif i gyfarch y gost ychwanegol ac na fydd oblygiadau ariannol i’r Cyngor. Nodwyd yn ogystal yr angen i danysgrifennu swm
er mwyn sicrhau darpariaeth blynyddoedd Cyngor a gofal plant fel rhan o’r Ysgol
Newydd fel bod modd ei gynnwys hyd yn oed pe na bai unrhyw ffynhonnell gyllid
arall gan y Llywodraeth er mwyn gallu cyd-fynd a’r amserlen. Awdur: Garem Jackson |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL PDF 194 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd y gwaith a’r
cynnydd yn 2019/20 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol
trwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Nodwyd y gwaith a’r cynnydd yn
2019/20 ar y meysydd gwaith sy’n cael
eu dwyn ymlaen
yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth
Ranbarthol Gogledd Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad blynyddol gan amlinellu ei gynnwys. Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r
adroddiad fod ar ffurf benodol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr adroddiad ychydig yn hwyr eleni o ganlyniad
i bandemig Covid-19. Mynegwyd fod y bwrdd yn cyfarfod
yn aml a'i bod yn credu ei fod yn gweithio yn well yn rhithiol. Mynegwyd fod y
Llywodraeth yn dyrannu arian drwy’r bartneriaeth. Pwysleisiwyd nad yw’r
bartneriaeth ddim bob amser yn rhwydd. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Holwyd
sut mae’r bartneriaeth wedi dylanwadu gyda materion y pandemig.
Nodwyd fod arian wedi ei ddargyfeirio i lefydd eraill, ond fod y cyfnod wedi
amlygu be all gael ei wneud mewn cyfnod byr o amser. Ychwanegwyd fod ymateb
wedi ei wneud drwy’r bwrdd argyfwng rhanbarthol a bod y Bwrdd yn ystod ail
hanner y flwyddyn wedi parhau gyda’i raglen waith arferol. ¾ Nodwyd
fod Fforwm Mwy na Geiriau wedi cael nifer o heriau ond er hyn fod blwyddyn
ychwanegol a bod angen ei wneud yn flaenoriaeth. Pwysleisiwyd angen i systemau
fod yn ddwyieithog ond fod cynnydd da
i’w weld. Awdur: Morwena Edwards |
|
LLYTHYR BLYNYDDOL AROLYGAETH GOFAL CYMRU PDF 206 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Dafydd Meurig a'r Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd cynnwys Llythyr Blynyddol Arolygaeth
Gofal Cymru. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Nodwyd a derbyniwyd cynnwys Llythyr Blynyddol Arolygaeth Gofal Cymru TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan groesawu craffu o’r math hwn. Nodwyd fod y llythyr yn un
cadarnhaol ac yn amlygu un neu ddau faes
sydd angen gwella. Mynegwyd y prif un yw’r broblem o recriwtio staff i’w maes
gofal. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud a bod mwy o gydnabyddiaeth i’r maes
yn dilyn y pandemig Covid-19. Nododd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oes unrhyw beth annisgwyl i’w gweld yn y
llythyr a'i fod yn tynnu sylw at waith da sydd yn cael ei wneud yn y maes Gofal
Cymdeithasol. Mynegwyd fod y llythyr yn cyd fynd ac adroddiad blynyddol y
Cyfarwyddwr Corfforaethol. Amlygwyd fod y llythyr yn cadarnhau fod y meysydd
blaenoriaeth yn cyd-fynd a blaenoriaethau Arolygaeth Gofal Cymru. Diolchwyd i
staff am eu gwaith caled er nad ydynt wedi derbyn llawer o seibiant yn ystod y
flwyddyn i’r meysydd yma. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Tynnwyd
sylw at y mater fod rhai aelodau o staff wedi amlygu nad ydynt wedi derbyn
digon o werthfawrogiad am eu gwaith ac efallai fod hyn o ganlyniad i sir fawr
ac efallai unigolion ddim yn gweithio yn ganolog. Mynegwyd fod newyddlen yn
cael ei wneud bellach a gobeithir fod y newyddlen a diolch yn gyhoeddus yn y
Cabinet yn amlygu gwerthfawrogiad i’r staff. ¾ Pwysleisiwyd
y diolch i’r staff yn y maes gofal gan ddiolch yn ogystal i’r staff
proffesiynol megis Gweithwyr Cymdeithasol am eu gwaith yn ystod cyfnod mor
heriol. ¾ Nodwyd
fod staff cymdeithasol yn gweithio o adref a bod hynny yn gallu bod yn heriol
gan nad oes mod rhannu’r baich ac ôl cyfarfodydd anodd. Er hyn pwysleisiwyd fod
gwaith da yn parhau. ¾ Pwysleisiwyd yr angen i
symud oddi wrth y ffiniau traddodiadol proffesiynol a bod hyn weithiau yn
gwneud unigolion deimlo ei bod yn tanseilio eu proffesiwn. Amlygwyd fod angen
dilyn Ffordd Gwynedd i roi anghenion trigolion Gwynedd yn ganolog. Awdur: Morwena Edwards |
|
PARATOADAU'R CYNGOR AR GYFER BREXIT PDF 495 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys and Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo y paratoadau a wnaed. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Cymeradwyo y paratoadau a wnaed. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi beth yw trefniadau’r Cyngor ar gyfer paratoi ar gyfer Brexit yn ogystal ag edrych beth mae’r Cyngor yn gallu ei
wneud i gynorthwyo i ymdopi a’r sefyllfa i ddod. Nododd
y Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod y cyngor yn gwneud popeth posib i
roi cynlluniau yn ei lle. Amlygwyd y trefniadau mewn gan nodi fod swyddogion o
wahanol adrannau wedi bod yn gweithio i edrych ar y risgiau ers dros ddwy
flynedd. Tynnwyd sylw ar y gofrestr risg oedd i’w gweld yn yr atodiadau gan
amlygu'r ddau brif risg sef cyflenwadau bwyd a meddyginiaethau ynghyd a
gweithlu’r maes gofal yn y sector annibynnol. Pwysleisiwyd mai costau oedd y
brif broblem o ran y gweithlu gofal ond fod eleni wedi amlygu heriau pellach
gyda covid-19. Diolchwyd am y gefnogaeth ariannol sydd wedi ei dderbyn gan y
Llywodraeth a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Nododd
y Pennaeth Economi a Chymuned eu bod wedi bod yn gweithio yn galed i godi
ymwybyddiaeth yn ein cymunedau a busnesau ond y prif gwestiwn oedd beth maent
yn paratoi ar ei gyfer. Mynegwyd fod yr adran wedi bod yn gweithio gyda’r
Llywodraeth i greu asesiad o beth fyddai’r effaith tebygol ar gymunedau ac
economi ac yn ystod eleni fod argyfwng covid wedi
cael ychwanegu wrth ystyried y sefyllfa.
Nodwyd fod yr adroddiad yn un perthnasol a defnyddiol i gynllunio ar gyfer
sefyllfa. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn
edrych sefyllfa waethaf posib ynghyd a sefyllfa os oes cytundeb.
Esboniwyd fod y casgliadau yn amlygu na fydd Gwynedd yn un o’r siroedd sydd yn
cael ei effeithio gwaethaf ond yn amlwg fod dibyniaeth y sir ar amaeth yn
bryder ynghyd ac effaith y maes amaeth ar yr economi wledig yn ehangach. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Tynnwyd
sylw ar y bobl yn ein cymunedau sydd wedi ei geni yn Ewrop yn enwedig mewn
ardaloedd fel Bangor ble mae’r niferoedd yn llawer yn uwch na’ gweddill y sir o
ganlyniad i’r Brifysgol. Holwyd am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Nodwyd fod
pob gwybodaeth wedi ei raeadru i’r unigolion a bod cefnogaeth ar gael iddynt
ymgeisio am ddinasyddiaeth. Nodwyd fod y Brifysgol wedi estyn allan i’w staff a
myfyrwyr er mwyn eu cynorthwyo gyda’r gwaith. ¾ Nodwyd
fod nifer staff y Cyngor a fydd angen dinasyddiaeth yn weddol isel. Ond
pwysleisiwyd fod Siopau Gwynedd yn hwyluso’r gefnogaeth i’r cyhoedd ynghyd a
chynnal sesiynau penodol mewn rhai lleoliadau o fewn y sir. ¾ Pwysleisiwyd y gall yr
ardrawiad fod yn eang iawn yng Ngwynedd a diolchwyd i swyddogion am eu gwaith i
sefyllfa sydd yn newid yn ddyddiol. Awdur: Geraint Owen a Sioned Williams |
|
YMGYNGHORIAD CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU PDF 280 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Iwan Evans. PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y drafodaeth ar y mater hwn wedi bod dros fisoedd ar
fisoedd. Nodwyd fod yr ymgynghoriad yn enghraifft o Lywodraeth Cymru yn
diystyru Llywodraeth Leol ac yn nodi ei fod am hybu democratiaeth ond yn
hytrach yn gwthio democratiaeth ymhellach oddi wrth drigolion. Pwysleisiwyd fod
lle i’r math yma o gydweithio ond bod angen iddo fod yn wirfoddol, ond ar hyn o
bryd mae’n cael ei orfodi arnom ac mae’n amlygu diffyg ffydd y Llywodraeth mewn
Llywodraeth Leol. Nododd
y Swyddog Monitro fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru wedi mynd
drwy’r Senedd. Mynegwyd y bydd hyn yn rhoi grym i’r Gweinidog i sefydlu'r
Cydbwyllgorau Corfforedig a fydd yn gweithredu ar draws 6 sir y Gogledd.
Pwysleisiwyd fod 4 elfen yn y ddeddf ble
fydd modd i’r Gweinidog orfodi mewn meysydd sy’n cynnwys Trafnidiaeth,
Cynllunio Strategol, Trefniadaeth Addysg a Datblygu’r Economi. Mynegwyd fod yr ymgynghoriad yn edrych ar
greu Cydbwyllgorau Corfforedig ar gyfer rhannau o 3 o’r meysydd. Amlygwyd
rhai materion o fewn yr ymgynghoriad a’r cyntaf oedd sefydlu Cydbwyllgor, yn
benodol o ran gofyn adnoddau ac arbenigedd staff a nodwyd nad oedd eglurdeb o
bwy fydd yn arwain ar ei sefydlu. Nodwyd nad yw’r ymgynghoriad yn amlygu’r
berthynas rhwng y Cydbwyllgorau a Chynghorau. Tynnwyd sylw at yr heriau
ariannol, gan fod modd i’r Cydbwyllgorau roi gofynion ariannol ar gynghorau ac
nid oes amserlen glir. Ymhelaethwyd
ar y sefyllfa’r iaith gan nodi ar hyn o bryd fod trefniadau cydweithredol ar
sail consensws y Cydbwyllgor. Mynegwyd gan y bydd hwn yn gorff unigol y bydd
angen i’r safonau iaith a’r fframwaith gael eu gosod yn fuan i sicrhau sicrwydd
ieithyddol. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd
fod Cynghorau yn cael ei gorfodi i hyn a'i fod yn gwbl ddinistriol i
ddemocratiaeth ac nad oedd unrhyw sôn am asesiad cydraddoldeb. ¾ Pwysleisiwyd
fod gan Gyngor Gwynedd reolaeth gref o ran materion ariannol, a'i fod yn annheg
fod modd iddynt ofyn am gyfraniad ariannol heb ddim amser i baratoi ar ei
gyfer. ¾ Mynegwyd
fod y corff yma ddim yn annhebyg i’r
Awdurdod Tan ble mae modd iddynt ofyn am arian gan nodi sut y bydd yn cael ei
wario. Pwysleisiwyd nad yw’n ddemocrataidd gan y bydd y bleidlais yn un y
mwyafrif, a thrwy hynny yn clymu trigolion unrhyw sir i fater efallai na
fyddent yn cytuno ag ef. Nodwyd fod hyn yn
mynd a’r penderfyniad ym mhellach oddi
wrth y bobl. Amlygwyd yr angen i nodi ar ddechrau’r ymgynghoriad fod y Cyngor
yn erbyn yr orfodaeth ar greu’r Cydbwyllgorau yma. ¾ Nodwyd
angen i’r Llywodraeth roi pwerau i Lywodraeth Leol i wneud y penderfyniadau ac
nid i gydbwyllgorau rhanbarthol. ¾ Nodwyd gwrthwynebiad llwyr
i’r Cydbwyllgorau a phryderon mawr am eu creu. Awdur: Iwan Evans |
|
PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDYMOR PDF 437 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i gynnal
ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i gynyddu’r Premiwm ar Ail Gartrefi ac Eiddo
Gwag Hirdymor i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Cytunwyd i
gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i gynyddu’r
Premiwm ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor i
hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi'r penderfyniad a gesiwyd. Nodwyd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 3 Rhagfyr 2020 penderfynodd y Cyngor
ohirio penderfyniad ar y disgowntiau a
phremiwm Treth Cyngor a gofyn Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu'r lefel i hyd
at 100%. Pwysleisiwyd fod nifer o bobl
wedi symud eu heiddo i eiddo busnes sydd wedi golygu nad ydynt yn talu Treth
Cyngor nac y Premiwm Treth Cyngor. Amlygwyd risg ariannol o godi’r premiwm ond
amlygwyd mai penderfyniad i fynd i ymgynghori yn unig yw hwn. Pwysleisiwyd y bydd yr ymgynghoriad yn un llawn a thrwyadl ac
y bydd yr adran yn defnyddio esiampl Cyngor Powys fel templed. Amlygwyd un
newid fydd ei hangen i’r cwestiynau yw’r effaith ar yr iaith Gymraeg.
Pwysleisiwyd angen am ymgynghoriad yn fuan fel bod modd ei gosod yr eitem ar
raglen y Cyngor Llawn ym mis Mawrth. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Pwysleisiwyd
fod yr ymgynghoriad yma yn holl bwysig a gofynnwyd i bawb gymryd y cyfle i
gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. ¾ Amlygwyd
yr angen i wahaniaethu rhwng yr unigolion sydd yn berchen ail gartref a rhai
nad ydynt yn berchen ail gartref gan y bydd y casgliadau o bosib yn wahanol. Awdur: Dafydd Edwards a Dewi Morgan |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd
y cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei bod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithredig fel y’i diffinir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu
fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth
fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a chytundebau
gyda corff masnachol ynglŷn a prosiect a ariennir gan grant. Mae natur y
wybodaeth yn sensitif i’r cwmni a gall ei gyhoeddi gael ardrawiad ar eu buddiannau
masnachol. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma hefyd yn
gallu tanseilio hyder ymgeiswyr am grantiau a chymorth i ddod at y Cyngor.
Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus o ganiatáu asesiadau a trafodaeth agored
a thrylwyr gyda ymgeiswyr am gefnogaeth ariannol. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Penderfynwyd
cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar
yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth
ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Roedd
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth
fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a chytundebau
gyda corff masnachol ynglŷn a prosiect a ariennir gan grant. Mae natur y
wybodaeth yn sensitif i’r cwmni a gall ei gyhoeddi gael ardrawiad ar eu
buddiannau masnachol. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math
yma hefyd yn gallu tanseilio hyder ymgeiswyr am grantiau a chymorth i ddod at y
Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus o ganiatáu asesiadau a
trafodaeth agored a thrylwyr gyda ymgeiswyr am gefnogaeth ariannol. |
|
NYTH FRANWEN Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Trafodwyd
yr adroddiad. Awdur: Esyllt Rhys Jones |