Lleoliad: Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Prif
Weithredwr, Dafydd
Gibbard. Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd cynyddu cyllideb ar gyfer datblygu Ysgol Treferthyr newydd i £8,145,206. Caniatawyd trosglwyddo £3,261,880 o gyllideb gweddill amlen Rhaglen
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) er mwyn cyfarch cynnydd sylweddol yng nghostau'r
prosiect, gan dderbyn y bydd yn arwain at lai o gyllideb ar gael i wireddu
prosiectau eraill o fewn Band B Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaladwy Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Beca Brown. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
cynyddu cyllideb ar gyfer datblygu Ysgol Treferthyr
newydd i £8,145,206. Caniatawyd
trosglwyddo £3,261,880 o
gyllideb gweddill amlen Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) er mwyn
cyfarch cynnydd sylweddol yng nghostau'r prosiect, gan dderbyn y bydd yn arwain
at lai o gyllideb ar gael i wireddu prosiectau eraill o fewn Band B Rhaglen
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Gwynedd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r camau sydd
wedi eu cwblhau hyd yma ar y daith o adeiladu
Ysgol newydd yng Nghriccieth
ond bod cynnydd sylweddol wedi bod yng nghostau adeiladu’r Ysgol. Nodwyd bod yr
adroddiad yn manylu ar y ffyrdd i gyfarch y diffyg
ariannol ac i godi rhagor o gyllideb. Amlygwyd y
camau sydd wedi digwydd ers mis Mai 2021. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru bryd
hynny wedi cymeradwyo ariannu cyllideb lawn o £4.9 miliwn ar gyfer adeiladu’r
Ysgol ac yn cyfrannu 65% tuag at y gost gyda’r Cyngor yn cyfrannu 35%.
Adroddwyd bod y cynnydd sylweddol i gostau adeiladu sydd wedi digwydd dros yr
18 mis diwethaf wedi arwain at gynnydd yn y gost i ychydig dros £8 miliwn
oherwydd ffactorau fel costau cynyddol mewn deunyddiau, ynni a chwyddiant. Adroddwyd ar y
cais sydd wedi ei wneud i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu cyllideb ariannu’r
Ysgol a gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnydd hwn a throsglwyddo’r
gyllideb o gynllun band B er mwyn cyfarch y cynnydd sylweddol yng nghostau’r
prosiect. Ychwanegwyd mai sgil effaith trosglwyddo’r gyllideb fydd effaith ar
weddill cyllideb band B a llai o gyllideb i wireddu’r prosiectau yno. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Amlygwyd bod safle presennol yr Ysgol yn
anaddas. Nodwyd bod y datrysiad yn ymddangos yn
syml ond bod oblygiadau i’w hystyried. ·
Mynegwyd cefnogaeth i’r cais gan nodi
bod opsiynau eraill yn brin. ·
Holwyd beth yn union yw sgil effeithiau
band B. ·
Mewn ymateb nodwyd mai £1.1 miliwn fydd
yr effaith sef 35% o’r cynnydd o £3.2 miliwn gan bod y gweddill eisoes wedi ei
adnabod. Bydd y swm yma yn cael ei
ddargyfeirio o gynlluniau eraill megis y gyllideb Ôl-16; bydd y gyllideb yma yn
gostwng er mwyn cyfarch yr arian ychwanegol ar gyfer y cynllun hwn. ·
Croesawyd y cais er lles plant Criccieth
a credwyd y bydd y
gymuned yn falch iawn o’r Ysgol newydd. Gwnaethpwyd sylw bod wir angen
buddsoddiad yn Ysgol Eifionydd a bod angen i’r Cyngor bwyso ar Lywodraeth Cymru
er mwyn gwella’r adnoddau yn yr Ysgol hon. ·
Mewn ymateb nodwyd bod Ysgol Eifionydd
yn rhan o’r Cynllun Cyflwr ac Addasrwydd i fod yn uwchraddio a gwella amodau a
chyfleusterau ac nid yw’r swm yn un sylweddol. ·
Credwyd er gwaetha’r cynnydd yng nghostau
adeiladu’r Ysgol bod y Cyngor yn cael Ysgol
gwerth am arian yng Nghriccieth.
Edrychwyd ymlaen at weld y prosiect yn cael ei gwblhau a credwyd y bydd y
buddsoddiad yn llesol i addysg plant dalgylch Criccieth am flynyddoedd lawer. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 HYDREF 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2022 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AMGYLCHEDD Cyflwynwyd gan: Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r
hyn sydd wedi digwydd hyd yma yn erbyn
blaenoriaethau Cynllun y Cyngor presennol. Adroddwyd ar y sefyllfa ail gartrefi
a llety gwyliau byr dymor yn y Sir gan nodi fod yr Adran yn arwain ar y gwaith
o baratoi Cyfarwyddyd Erthygl 4 fydd
yn rhoi hawl i awdurdodau cynllunio reoli ail gartrefi. Nodwyd fod y gwaith yma
yn parhau gyda’r bwriad o ddod ag adroddiad ger bron y Cabinet yn y flwyddyn
newydd. Soniwyd am rai
heriau oedd yn wynebu’r Adran sy’n cynnwys y gwasanaeth cynllunio
a’r heriau staffio oedd yn bodoli, yn benodol o fewn y gwasanaeth gorfodaeth
cynllunio. Adroddwyd bod 740 o geisiadau yn agored ddiwedd
Mehefin sydd bellach wedi lleihau i 586 o geisiadau erbyn diwedd mis Hydref.
Canmolwyd y gwaith aruthrol sydd wedi ei gyflawni gan gydnabod bod heriau yn
parhau i fodoli ond bod yr Adran yn gwneud eu gorau i gwrdd â’r galw ar y
gwasanaeth. Yn yr un modd
adroddwyd ar y gwaith i glirio’r ôl-groniad yn y maes Pridiannau
Tir
ac i leihau’r cyfartaledd amser i brosesu’r ceisiadau hynny.
Nodwyd bod staff dros dro wedi eu penodi a bod y gwasanaeth yn y broses o
drosglwyddo i system gyfrifiadurol newydd yn y gobaith y gwnaiff hyn gyflymu’r
broses unwaith bydd y system mewn lle. I gloi
adroddwyd ar lwyddiannau o fewn yr Adran oedd yn cynnwys 90%
o waith o fewn y maes Gwaith Stryd yn cael ei
gyflawni
gan gontractwyr o fewn yr amserlen wreiddiol Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd bod y gwaith sy’n cael ei gwblhau
gan
yr Adran yn enfawr a’u bod yn chwarae rhan flaenllaw ym mlaenoriaethau
Cynllun y Cyngor. Credwyd eu bod yn haeddu canmoliaeth am yr hyn a gyflawnir. ·
Mynegwyd balchder bod amser prosesu
ceisiadau Pridiannau
Tir yn lleihau a chydnabuwyd yr hyn roedd yr Adran yn ei wneud i ymdrin â’r
materion. Credwyd ei bod yn amlwg bod yr Adran yn ceisio eu gorau ac yn llwyddo
i daclo’r llwyth gwaith ac awgrymwyd i’r Adran rannu eu hymdrechion a’u
datrysiadau gan y gall hyn newid canfyddiadau. ·
Dymunwyd y gorau i’r Adran tra’n cymryd
drosodd rhai agweddau o wasanaethau Priffyrdd a Bwrdeistrefol. ·
Holiwyd am reolaeth cartrefi modur gan
gwestiynu os oedd yr amserlen a nodwyd yn yr adroddiad yn realistig o ran
capasiti
ac amserlen caniatâd cynllunio. · Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod heriau yn bodoli er enghraifft adnabod safleoedd priodol, roedd hyn wedi bod yn her oherwydd cyfyngiadau cynllunio. Nodwyd bod y ceisiadau cynllunio i fod i gael eu cyflwyno ar gyfer y safleoedd cyn y Nadolig sy’n dangos bod yr amserlen wedi llithro. Cadarnhawyd bod trafodaethau yn parhau o ran yr ochr gyllido efo Croeso Cymru, sy’n cael ei arwain gan yr Adran Economi a Chymuned. Gobeithir gallu cael penderfyniadau yn fuan iawn ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD PRIFFYRDD, BWRDEISTREFOL AC YMGYNGHORIAETH GWYNEDD Cyflwynwyd gan: Cllr. Berwyn Parry Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
gyfleu gwerthfawrogiad yn y lle cyntaf i’r gweithwyr sydd yn gweithio dan
amgylchiadau anodd a phrysur yn graeanu yn sgil y tywydd oer diweddar a
diolchwyd am eu gwaith. Adroddwyd bod y gwasanaethau Casglu a Thrin Gwastraff
wedi cael eu trosglwyddo i’r Adran Amgylchedd a bod yr Adran Ymgynghoriaeth
Gwynedd wedi symud i fod yn rhan o’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Dymuna’r
Aelod Cabinet nodi ei werthfawrogiad o waith holl swyddogion yr Adran gan
gydnabod y cyfraniad allweddol a wnaethpwyd ganddynt yn ystod y cyfnod hwn.
Amlygwyd y bwriad i newid enw’r Adran yn sgil y symudiadau diweddar. Yr enw a
ffafrir yn dilyn ymgynghori â staff yw Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC. Nodwyd bod cryn dipyn o
waith yn wynebu’r Adran dros y misoedd nesaf sy’n cynnwys adolygiad o’r
Gwasanaeth Glanhau Stryd a hefyd gwaith manwl yn ymwneud â’r gyllideb.
Adroddwyd ar y prosiectau yng Nghynllun presennol y Cyngor sy’n cynnwys y
prosiect Cymunedau Glan a Thaclus, Cryfhau Cyfathrebu ac Ymgysylltu a’r
prosiect Mapio Gwasanaethau. O dan y prosiect hwn bwriedir gosod gwahanol
asedau’r Adran ar fap ble bydd modd i drigolion weld statws yr ased ac adrodd
ar unrhyw ddiffygion e.e. lampau stryd neu finiau halen. Tynnwyd sylw at y
Strategaeth Fflyd gan gymryd y cyfle i bwysleisio’r penderfyniad a wnaethpwyd
gan y Bwrdd Newid Hinsawdd, sef na ddylai unrhyw Reolwr adnewyddu na gwaredu
unrhyw gerbyd heb drafod yn gyntaf efo’r Rheolwr Fflyd. Esboniwyd bod hyn yn
hanfodol i lwyddiant y Strategaeth Fflyd. Roedd hyn yn sgil canfyddiad bod
gormod o brynu cerbydau wedi digwydd ar sail ad-hoc yn y gorffennol. Credwyd y
bydd y cyfarwyddyd hwn yn cael ei rannu ag Adrannau yn fuan. Amlygwyd prosiectau eraill
yr adroddwyd arnynt megis y prosiect Fairbourne cyn symud ymlaen i adrodd ar
berfformiad yr Adran gan nodi bodlonrwydd ynglŷn â’r perfformiad.
Cyfeiriwyd at y gwaith o amnewid holl oleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED
yn ogystal â’r gwaith glanhau strydoedd, cynnal priffyrdd a'r gwasanaeth
toiledau cyhoeddus. I gloi
soniwyd am waith Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) sydd yn wasanaeth sy’n dod ag
incwm sylweddol i’r Cyngor ac yn ymgymryd â swyddogaethau statudol yn y maes
dŵr a rheoli llifogydd cyn cyfeirio at sefyllfa ariannol yr Adran.
Mynegwyd bod gorwariant o £600,000 o fewn yr Adran bresennol Priffyrdd a
Bwrdeistrefol yn dilyn trosglwyddo rhai gwasanaethau i’r Adran Amgylchedd ond
bod gwaith ar y gweill i ddeall y rhesymau dros y gorwariant ac i roi mesurau
mewn lle i unioni'r sefyllfa. Adroddwyd bod YGC yn tanwario bron i
£30,000. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd newid enw’r Adran. ·
Mynegwyd ansicrwydd ynglŷn â pha Adran mae rhai cyfrifoldebau ac
agweddau gweithredol y Cyngor yn gorwedd a bod elfen o gymhlethdod yma. · Ategwyd gwerthfawrogiad i waith yr Adran yn y tywydd oer diweddar gan ychwanegu bod angen i yrwyr neu gerddwyr ystyried os yw eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Steffan Jones |