Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting - Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, LL55 1SH and on Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Craig ab Iago. 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatgan buddiant. 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys. 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.  

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 08 EBRILL pdf eicon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Ebrill 2025 fel rhai cywir.  

6.

YMESTYN CYNLLUN DECHRAU'N DEG pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y sir drwy

o   ymestyn y cynllun llawn i weddill ardal Penygroes yn sgil gostyngiad yn y niferoedd cymwys i’r rhaglen bresennol

o   ymestyn yr elfen ofal plant i ardaloedd ychwanegol – Cam 3

 

2.    Cymeradwyo’r Pennaeth Plant, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid i gyflwyno achosion busnes a derbyn cynigion grant ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. 

 

PENDERFYNIAD 

 

  1. Derbyn cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y sir drwy   
  • ymestyn y cynllun llawn i weddill ardal Penygroes yn sgil gostyngiad yn y niferoedd cymwys i’r rhaglen bresennol   
  • ymestyn yr elfen ofal plant i ardaloedd ychwanegol – Cam 3   

  

  1. Cymeradwyo’r Pennaeth Plant, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid i gyflwyno achosion busnes a derbyn cynigion grant ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd adroddiad gan yr aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd a oedd yn rhoi trosolwg ar y cynnig i ymestyn y Cynllun Dechrau’n Deg. Nodwyd fod yr adroddiad yn cynnwys ymestyn y cynllun Dechrau’n Deg yn llawn i weddill ardal Penygroes yn sgil gostyngiad yn y niferoedd cymwys i’r rhaglen bresennol ac i ymestyn yr elfen ofal plant i ardaloedd ychwanegol. 

 

Esboniwyd fod y rhaglen Dechrau’n Deg eisoes ar gael mewn saith cymuned yng Ngwynedd. Nodwyd fod y gwasanaeth wedi rhoi cam cyntaf ehangu ar y gwaith mewn rhannau o Dregarth, Bethesda a Blaenau Ffestiniog. Adroddwyd fod ardal newydd wedi’i ychwanegu yn 2023, sef Deiniolen. Mynegwyd fod y prosiect yn dal i wynebu gostyngiad ac yn dilyn gwaith dadansoddi o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig esboniwyd mai ymestyn y gwasanaeth i weddill Penygroes byddai’r cam gorau. 

 

O ran camau 2 a 3, adroddwyd bod cam 2 wedi bod yn weithredol ers 2023 ac yn gwasanaethu wyth ardal LSOA. Tynnwyd sylw at yr heriau o fewn y sector megis diffyg darpariaeth mewn ardaloedd gwledig, cynaladwyedd y Sector Gofal Plant a chynnydd mewn costau staffio. Nodwyd y byddai llwyddiant y camau nesaf yn ddibynnol ar gydweithio agos rhwng y gwasanaethau blynyddoedd cynnar, darparwyr lleol a chyllid gan Lywodraeth Cymru. 

 

Nodwyd fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi’r trydydd cam o ehangu Dechrau’n Deg, gan eto ei gyfyngu i ariannu’r elfen gofal plant yn unig. Eglurwyd y bydd y cynllun yn targedu 147 o blant 2 oed ychwanegol yn ystod 2025 mewn mwy o ardaloedd yng Ngwynedd. Eglurwyd fod ardaloedd ar gyfer  2025 wedi’i adnabod.  

 

Esboniwyd fod Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio gyda’r adan Dai ac Addysg ar brosiectau cyfalaf mawr yn Nhywyn, Penygroes, Deiniolen, Bangor a Cricieth (cyfanswm gwariant cyfalaf o oddeutu £3.5miliwn) sy’n fuddsoddiad gwych i blant yr ardaloedd hynny. Adroddwyd y byddai manteisio ar y ddwy raglen blynyddoedd cynnar yma yn cyfrannu tuag at feysydd Blaenoriaeth “Gwynedd Yfory” a “Gwynedd Gymraeg” yng Nghynllun y Cyngor drwy roi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i blant. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: 

  • Diolchwyd a chymeradwywyd y gwaith pwysig sydd yn cael ei wneud ond mynegwyd pryder am yr heriau sydd yn wynebu darparu’r gwasanaeth yma. Amlygwyd ei fod yn fwy nag gwasanaeth gwarchod plant ac yn rhan bwysig o addysg y plant. Pwysleisiwyd ei fod yn bwysig fod y Cyngor a’r Cabinet yn rhoi cymaint o gymorth a phosib i sicrhau fod y gwaith yn parhau. 

Awdur: Sioned Owen: Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar, Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd

7.

CYNLLUN GWEITHREDU TAI pdf eicon PDF 348 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Ymestyn cyfnod y Cynllun Gweithredu Tai am ddwy flynedd bellach hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol 2028/29.

 

2.    Ymrwymo’r swm blynyddol arferol o £6m o’r gronfa Premiwm Treth Cyngor ar gyfer ariannu’r ddwy flynedd ychwanegol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson.  

 

PENDERFYNIAD 

 

  1. Ymestyn cyfnod y Cynllun Gweithredu Tai am ddwy flynedd bellach hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol 2028/29.   
  1. Ymrwymo’r swm blynyddol arferol o £6m o’r gronfa Premiwm Treth Cyngor ar gyfer ariannu’r ddwy flynedd ychwanegol.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo a oedd yn  rhoi diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Tai. Gofynnwyd i ymestyn cyfnod y Cynllun hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol 2028-29. Nodwyd fod angen i’r Cabinet wneud penderfyniad i alluogi’r Adran Tai ac Eiddo i flaengynllunio er mwyn sicrhau bod prosiectau a chynlluniau allweddol yn cael eu gwireddu yn amserol ac i’w llawn botensial. 

 

Rhoddwyd trosolwg o gefndir y cynllun gan nodi fod y Cyngor Llawn wedi penderfynu defnyddio canran o’r arian a dderbynnir o godi premiwm ail gartrefi i ddarparu tai ar gyfer pobl ifanc yn eu cymunedau. Er mwyn rhoi hyn ar waith, eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu Tai wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet i gynnwys 33 o brosiectau ar draws pum maes allweddol er mwyn sicrhau bod gan bobl Gwynedd gartref addas, fforddiadwy ac o safon. 

 

Nodwyd fod newidiadau sylweddol wedi bod i sefyllfa tai yng Ngwynedd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn sgil pandemig Covid-19 a Brexit ac felly cymerwyd y cyfle i adolygu’r Cynllun, gan gymryd mantais o gyfleoedd newydd i ehangu a helpu hyd yn oed mwy o drigolion y sir gyda’u sefyllfa dai. 

 

Ar y cyfan, adroddwyd fod cynnydd da wedi’i wneud ar y Cynllun hyd yma gyda bron i £70m wedi’i fuddsoddi i helpu pobl Gwynedd gyda’u sefyllfa dai. Nodwyd y gall cyfleoedd newydd godi yn ystod y cynllun, gan fod amgylchiadau cenedlaethol yn newid yn barhaus. Eglurwyd y bydd yr hyblygrwydd a ganiatawyd eisoes i amrywio’r union ddyraniad ar gyfer prosiectau unigol yn galluogi i’r adran i weithredu’n rhagweithiol yn wyneb unrhyw newidiadau yn y farchnad dai dros amser. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: 

 

  • Amlygwyd cefnogaeth i’r Premiwm ar dai gwag, gan holi os yw’n bosib codi’r Premiwm uwch ar dai sydd yn wag tymor hir. Mewn ymateb, cytunwyd gyda’r sylwadau a nodwyd fod y premiwm fel y mae ar hyn o bryd yn addas. Er hyn, nodwyd y dylid rhoi ystyriaeth i godi’r premiwm ar gyfer tai sydd wedi bod yn wag ers tymor hir iawn. 
  • Codwyd pryder am gyflwr tai sector mân-ddaliadau sydd gan y Cyngor.. Mewn ymateb, eglurwyd fod y Stad Fân-ddaliadau yn cynnig cartrefi i 39 o deuluoedd yr ardaloedd yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Nodwyd bod cyfrifoldeb ar y Cyngor i sicrhau fod y tai yn cyrraedd y gofynion o ran cyflwr ac iechyd a diogelwch. Esboniwyd nad oes buddsoddiad wedi bod yn y rhan helaeth o’r tai sydd ynghlwm y mân-ddaliadau. Ac o ganlyniad wedi arwain at ddirywiad yn safon y tai sydd wedyn wedi creu cynnydd yn y costau cynnal a chadw. Nodwyd mai’r bwriad wrth symud ymlaen yw gweithio gyda’r tenantiaid i godi  safonau tai gan sicrhau cysondeb.

 

Awdur: Carys Fôn Williams: Pennaeth Adran Tai ac Eiddo

8.

CYFRIFON TERFYNOL 2024/25 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 875 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2024/25:

 

 

Colofn

A

Colofn B

Colofn C

Colofn CH

Colofn D

 

Gor/(Tan) Wariant Gros 2024/25

Addasiadau a Argymhellir

Gor / (Tan) Wariant Addasedig 2024/25

 

£ ‘000

£ ‘000

£ ‘000

£ ‘000

£ ‘000

 

Oedolion, Iechyd a Llesiant

 

857

 

 

(757)

100

Plant a Theuluoedd

 

3,805

 

 

(3,705)

100

Gwasanaeth Busnes a Chomisiynu Gofal

(15)

15

 

 

0

Addysg

 

(191)

191

 

 

0

Economi a Chymuned

 

281

 

(281)

 

0

Priffyrdd, Peirianneg ac YGC

 

656

 

 

(556)

100

Amgylchedd

 

1,349

 

(1,100)

(149)

100

Tai ac Eiddo

 

(3)

3

 

 

0

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(48)

48

 

 

0

Gwasanaethau Corfforaethol

 

(42)

42

 

 

0

Cyllid

(5)

5

 

 

0

 

 

Gan nodi bod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, a’r Adran Amgylchedd yn 2024/25 (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol canlynol (a eglurwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad) -

·         Yn unol â phenderfyniad Cabinet 21 Ionawr 2025, peidio caniatáu i adrannau gario unrhyw danwariant i’r flwyddyn ariannol nesaf drwy eithrio cymal 16.3.1.(C) o’r Rheoliadau Ariannol (Gweler colofn B yn y tabl uchod).

·         Cadarnhau'r cymorth ariannol o £281k uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach, a defnyddio £1.1 miliwn o gronfa Adennill Enillion Cyfrannol Parc Adfer i gyllido'r gorwariant yn y maes Gwastraff (Gweler colofn C yn y tabl uchod).

·         Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr Adran i £100k (Gweler colofn CH yn y tabl uchod).

·         Ar gyllidebau Corfforaethol:

-       defnyddio (£5.144 miliwn) o’r tanwariant ar gyllidebau corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2024/25.

-       gweddill y tanwariant o (£1.548 miliwn) ar gyllidebau Corfforaethol i’w drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio, i'w ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau'r Cyngor.

 

Cymeradwywyd symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” yng

ngholofn D uchod ac yn Atodiad 1).

 

Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd:

-       cynaeafu £1.275 miliwn o amrywiol gronfeydd a’i drosglwyddo i'r Gronfa Trawsffurfio.

-       Dad-ymrwymo £375k o gynlluniau hanesyddol neu rai heb ymrwymiadau yn y Gronfa Trawsffurfio.

-       Symud £2.5 miliwn o gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i’r Gronfa Trawsffurfio fel eu bod ar gael ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor a chyllido bidiau un tro i'r dyfodol.

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones.  

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2024/25:   

   

  

Colofn   

A   

Colofn B  

Colofn C  

Colofn CH  

Colofn D  

  

Gor/(Tan) Wariant Gros 2024/25  

Addasiadau a Argymhellir  

Gor / (Tan) Wariant Addasedig 2024/25  

  

£ ‘000  

£ ‘000  

£ ‘000  

£ ‘000  

£ ‘000  

  

Oedolion, Iechyd a Llesiant  

  

857  

  

  

(757)  

100  

Plant a Theuluoedd  

  

3,805  

  

  

(3,705)  

100  

Gwasanaeth Busnes a Chomisiynu Gofal  

(15)  

15  

  

  

0  

Addysg  

  

(191)  

191  

  

  

0  

Economi a Chymuned  

  

281  

  

(281)  

  

0  

Priffyrdd, Peirianneg ac YGC  

  

656  

  

  

(556)  

100  

Amgylchedd  

  

1,349  

  

(1,100)  

(149)  

100  

Tai ac Eiddo  

  

(3)  

3  

  

  

0  

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol  

(48)  

48  

  

  

0  

Gwasanaethau Corfforaethol  

  

(42)  

42  

  

  

0  

Cyllid  

(5)  

5  

  

  

0  

  

  

Gan nodi bod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, a’r Adran Amgylchedd yn 2024/25 (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol canlynol (a eglurwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad) -   

  • Yn unol â phenderfyniad Cabinet 21 Ionawr 2025, peidio caniatáu i adrannau gario unrhyw danwariant i’r flwyddyn ariannol nesaf drwy eithrio cymal 16.3.1.(C) o’r Rheoliadau Ariannol (Gweler colofn B yn y tabl uchod).   
  • Cadarnhau'r cymorth ariannol o £281k uwchlaw ’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach, a defnyddio £1.1 miliwn o gronfa Adennill Enillion Cyfrannol Parc Adfer i gyllido'r gorwariant yn y maes Gwastraff (Gweler colofn C yn y tabl uchod).   
  • Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr Adran i £100k (Gweler colofn CH yn y tabl uchod).   
  • Ar gyllidebau Corfforaethol:   
  • defnyddio (£5.144 miliwn) o’r tanwariant ar gyllidebau corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2024/25.  gweddill y tanwariant o (£1.548 miliwn) ar gyllidebau Corfforaethol i’w drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio, i'w ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau'r Cyngor.   

  

Cymeradwywyd symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” yng  ngholofn D uchod ac yn Atodiad 1).  

Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd:   

  • cynaeafu £1.275 miliwn o amrywiol gronfeydd a’i drosglwyddo i'r Gronfa Trawsffurfio.   
  • Dad-ymrwymo £375k o gynlluniau hanesyddol neu rai heb ymrwymiadau yn y Gronfa Trawsffurfio.   
  • Symud £2.5 miliwn o gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i’r Gronfa Trawsffurfio fel eu bod ar gael ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor a chyllido bidiau un tro i'r dyfodol.  

 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn manylu ar sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor gan nodi’r rhesymau dros y gorwariant neu danwariant. Amlygwyd fod y sefyllfa wedi gwella ers adolygiad Awst a Tachwedd. Nodwyd fod gorwariant yn parhau ym meysydd gofal all sirol yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, Gwasanaeth Derwen, Gwasanaeth Gofal Cartref a’r maes Gwastraff. Eglurwyd fod derbyniadau grant sylweddol a sefyllfa ffafriol ar nifer o gyllidebau corfforaethol yn cynorthwyo i leddfu'r sefyllfa ariannol ar gyfer y Cyngor yn ei gyfanrwydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. 

 

Tynnwyd sylw at rhai adrannau yn unigol i roi rhesymeg dros y cyllidebau.  

 

Amlygwyd fod gorwariant o £857k  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Ffion Madog Evans: Assistant Head of Finance Department - Accountancy and Pensions

9.

RHAGLEN GYFALAF 2024/25 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2025) pdf eicon PDF 968 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·         Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2025) o’r rhaglen gyfalaf.

·         Cymeradwyo’r addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar 7 Mawrth 2024 ac a addaswyd ar 15 Hydref 2024 a’r 21 Ionawr 2025 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef:

-       cynnydd o £4,409,000 mewn defnydd o fenthyca

-       cynnydd o £17,639,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-       cynnydd o £75,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-       lleihad o £422,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-       lleihad o £3,898,000 mewn defnydd o’r gronfa cyfalaf

-       cynnydd o £1,555,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones  

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2025) o’r rhaglen gyfalaf.   

 

Cymeradwyo’r addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar 7 Mawrth 2024 ac a addaswyd ar 15 Hydref 2024 a’r 21 Ionawr 2025 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef:  

  • cynnydd o £4,409,000 mewn defnydd o fenthyca   
  • cynnydd o £17,639,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau   
  • cynnydd o £75,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf   
  • lleihad o £422,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw   
  • lleihad o £3,898,000 mewn defnydd o’r gronfa cyfalaf   
  • cynnydd o £1,555,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.  

 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai ei brif ddiben yw i  gyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig, a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol fel rhan o drefn diwedd blwyddyn 2024/25. Amlygwyd fod £82.5m wedi ei fuddsoddi mewn cynlluniau cyfalaf, gyda 72% ohono wedi’i ariannu drwy ddenu grantiau penodol.  

 

Ychwanegwyd fod £33.4m o wariant ychwanegol arfaethedig wedi’i ail broffilio o 2024/25 i 2025/26 a 2026/27. Nodwyd fod rhai o’r prif gynlluniau yn cynnwys £16m o Gynlluniau Ysgolion – Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill, a £10m o Gronfa Ffyniant Bro.  

 

Amlygwyd ers yr adolygiad diwethaf fod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu grantiau ychwanegol o £19.382m sydd yn cynnwys £10.613m Addasiad Cronfa Ffyniant Cyffredin gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a £1.8m Grant Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol gan Lywodraeth Cymru. 

 

Awdur: Ffion Madog Evans: Pennaeth Cyllid Cynorthwyol

10.

EISTEDDFOD YR URDD pdf eicon PDF 167 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynodd y Cabinet i:

a.    cymeradwyo ymrwymiad mewn egwyddor i wahodd yr Urdd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwynedd yn 2028

b.    Gymeradwyo cyfraniad o £200k o’r gronfa trawsffurfio fel cyfraniad tuag at gostau cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones  

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2025) o’r rhaglen gyfalaf.   

 

Cymeradwyo’r addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar 7 Mawrth 2024 ac a addaswyd ar 15 Hydref 2024 a’r 21 Ionawr 2025 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef:  

  • cynnydd o £4,409,000 mewn defnydd o fenthyca   
  • cynnydd o £17,639,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau   
  • cynnydd o £75,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf   
  • lleihad o £422,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw   
  • lleihad o £3,898,000 mewn defnydd o’r gronfa cyfalaf   
  • cynnydd o £1,555,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.  

 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai ei brif ddiben yw i  gyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig, a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol fel rhan o drefn diwedd blwyddyn 2024/25. Amlygwyd fod £82.5m wedi ei fuddsoddi mewn cynlluniau cyfalaf, gyda 72% ohono wedi’i ariannu drwy ddenu grantiau penodol.  

 

Ychwanegwyd fod £33.4m o wariant ychwanegol arfaethedig wedi’i ail broffilio o 2024/25 i 2025/26 a 2026/27. Nodwyd fod rhai o’r prif gynlluniau yn cynnwys £16m o Gynlluniau Ysgolion – Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill, a £10m o Gronfa Ffyniant Bro.  

 

Amlygwyd ers yr adolygiad diwethaf fod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu grantiau ychwanegol o £19.382m sydd yn cynnwys £10.613m Addasiad Cronfa Ffyniant Cyffredin gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a £1.8m Grant Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol gan Lywodraeth Cymru. 

 

Awdur: Ffion Mai Jones: Arweinydd Tim Cefnogaeth Gweithredol, Tim Arweinyddiaeth Corfforaethol