Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Dyfrig Siencyn a’r Cyng.
Gareth Thomas. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Ond bu
i Swyddogion adael y cyfarfod ar gyfer eitem 9. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 RHAGFYR 2020 PDF 370 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 15 Rhagfyr 2020 fel rhai cywir. |
|
YSGOL NEWYDD YNG NGHRICIETH PDF 1 MB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i
gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen,
cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023 yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn
Williams PENDERFYNIAD Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i
gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr
i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen, cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi
2023 yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi pleser o gyflwyno’r eitem. Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn
amlygu yr ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i
gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr
ac i adleoli’r ysgol i safle amgen. Pwysleisiwyd fod y cynllun hwn yn cyd-fynd
a blaenoriaethau’r adran sydd wedi eu hamlygu yn y Strategaeth Addysg Gwynedd. Bu i’r Swyddog
Addysg amlygu yr canlyniadau yr ymgynghoriad gan nodi’r prif bwyntiau.
Pwysleisiwyd fod mwyafrif o’r ymatebion yn gefnogol iawn i’r cynnig a’r
buddsoddiad yng Nghricieth. Amlygwyd angen am
ddefnydd cymunedol i’r adeilad a nodwyd y bydd yr adran yn cydweithio gyda’r
gymuned i gynnig y cyfle gorau iddynt. Mynegwyd fod y
mwyafrif o’r sylwadau yn codi pryderon am y lleoliad. Nodwyd fod yr adran wedi
edrych yn ofalus ar y lleoliad ac wedi gwneud archwiliadau manwl cyn
penderfynu. Pwysleisiwyd fod llawer o’r sylwadau yn nodi pryderon gan ei fod ar
lon brysur a mynegwyd y bydd yr adran yn gweithio i ddod o hyd i liniaru y
traffig. Ymhelaethwyd ar hyn gan nodi y byddant yn gwneud hyn drwy edrych ar
fynediad yr ysgol. Tynnwyd sylw at gilfan sydd
gerllaw yr safle gan nodi fod yr adran Briffyrdd yn awyddus i’w gadw.
Pwysleisiwyd y bydd camau yn cael eu cymryd i sicrhau na fydd y gilfan yn cael ei defnyddio ar gyfer yr ysgol. Nodwyd pryderon yn
ogystal am y coed sydd ar y safle. Mynegwyd nad oes gan yr adran fwriad i dynnu
unrhyw goed heb fod angen ac fod yr Ysgol yn awyddus i gadw’r coed a’i
defnyddio o fewn gwersi yn yr ysgol. Pwysleisiwyd fod
ymatebion cadarnhaol gan y disgyblion gan amlygu mwy o le i chwarae ac
ystafelloedd dosbarth mwy. Er hyn, nodwyd fod rhai disgyblion wedi amlygu y
bydd mwy o bellter teithio ganddynt i’r ysgol. Tynnwyd sylw at ymateb Estyn â
oedd yn nodi nad oedd ganddynt unrhyw bryderon ac fod y cynllun yn cyd-fynd a
Strategaeth Addysg y Cyngor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Croesawyd yr adroddiad gan nodi pwysigrwydd
gweld ymatebion y disgyblion. Holwyd os oedd unrhyw addasiadau wedi eu
hystyried i’r adeilad o ganlyniad i argyfwng Covid-19. Nodwyd fod dyluniad yr
ysgol wedi dilyn canllawiau cenedlaethol ond fod Covid-19 wedi amlygu fod angen
edrych ar y system awyru a mynediad i ystafelloedd dosbarth ac o ganlyniad i
Covid-19 fod addasiadau wedi eu gwneud i sicrhau lleoliadau golchi dwylo ger
pob mynediad. ¾ Mynegwyd fod y sylwadau a dderbyniwyd yn ddiddorol ac fod teithio wedi ei amlygu fel pryder. Nodwyd angen am sicrhau modd diogel i blant deithio i’r ysgol a holwyd os y bydd modd cael lon beics yn gallu cynorthwyo gyda’r ardrawiad traffig. Mynegwyd fod yr adran ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd y Cynllun Gwybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys. PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd
y Cynllun Gwybodaeth. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Strategaeth mae’r Cabinet wedi ei dderbyn yn flaenorol wedi sicrhau fod y
Cyngor yn cydymffurfio gyda’r Ddeddf Diogelu Data. Ymhelaethwyd fod y cynllun
hwn yn edrych ymhellach ar ddata gan edrych sut y gall y Cyngor wneud y mwyaf
o’r data sydd ganddynt. Nodwyd fod argyfwng Covid-19 wedi amlygu yr angen am
ddata ac ystadegau. Mynegwyd y bydd y cynllun hwn yn rhoi cyfle i adrannau
blotio gwybodaeth ac i gynllunio gwasanaethau. Esboniwyd fod y Cyngor yn rhannu gwybodaeth
yn fewnol drwy IGwynedd ac y bydd yn esblygu i rannu
gwybodaeth yn allanol. Drwy wneud hyn bydd modd dilyn agenda di-papur y Cyngor
a fydd yn arbed costau ynghyd a budd amgylcheddol. Amlygwyd risgiau gan nodi mae’r prif risg yw
i gydymffurfio gyda’r Ddeddf a nodwyd fod amryw o Gynghorau gyda nifer uwch yn
hawlio arian yn dilyn torri amodau data. Mynegwyd y bydd y cynllun hwn yn
cynorthwyo i arbed amser i ganfod gwybodaeth. Nodwyd y bydd mwy o hyfforddiant
i staff a fydd yn lleihau risg o ran torri amodau data. Esboniwyd y bydd y
cynllun yn cael ei adolygu yn flynyddol a fydd yn rhoi hyblygrwydd i’r adran
i’w addasu. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod pobl yn aml, pan yn clywed am
ddata yn credu nad yw’n berthnasol iddynt. Er hyn mynegwyd ei bod yn holl
bwysig i gael canllawiau yn eu lle. Cymeradwywyd hyfforddiant i staff gan y
bydd yn effeithio pawb. Awdur: Ian Jones |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd sefydlu Bwrdd Newid Hinsawdd i lywio’r gwaith o
sefydlu a gweithredu ar Gynllun Gweithredu Newid Hinsawdd ac i ddarparu £58,990
o’r Gronfa Drawsffurfio er mwyn cyflogi Rheolwr Prosiect i gydgordio’r gwaith. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn
Williams. PENDERFYNIAD Penderfynwyd sefydlu Bwrdd Newid Hinsawdd i lywio’r gwaith o
sefydlu a gweithredu ar Gynllun Gweithredu Newid Hinsawdd ac i ddarparu £58,990
o’r Gronfa Drawsffurfio er mwyn cyflogi Rheolwr Prosiect i gydgordio’r gwaith. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mewn
cyfarfod o’r Cyngor Llawn fod y Cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd. Yn dilyn
y datganiad bu i’r Cabinet greu grwp tasg er mwyn ymateb i’r argyfwng. Nodwyd fod
gwaith wedi cael ei wneud yn y cefndir er mwyn creu cynlluniau a fuasai yn
gwneud gwahaniaeth ond fod Covid-19 wedi arafu y gwaith hwn. Mynegwyd fod y grwp tasg wedi cyfarfod yn
ddiweddar ac yn barod i ail afael yn y gwaith ac i greu cynllun gweithredu ar
gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Nodwyd fod y grwp tasg wedi nodi er mwyn
symud ymlaen gyda’r gwaith y bydd angen sefydlu Bwrdd Newid Hinsawdd a fydd yn
gweithredu yn draws adrannol. Ychwanegwyd y bydd aelodau’r grwp tasg fydd
aelodau y Bwrdd hwn ac y bydd modd ychwanegu aelodau os y bydd angen. Yn
ogystal a hyn, amlygwyd fod swyddogion yn hynod brysur ar yn o bryd yn ymateb i
argyfwng Covid-19 ac o ganlyniad fod y grwp yn awyddus i gyflogi cydlynydd
rhaglen er mwyn ei wthio ymlaen. Ychwanegwyd y bydd yr arian i gyflogi’r
Swyddog yn dod o’r Gronfa Drawsffurfio. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd fod
Covid-19 wedi arafu y gwaith ar y gwaith Newid Hinsawdd, a nodwyd angen symud
ymlaen, er llawer o waith wedi ei wneud fod llawer mwy o waith angen ei wneud. ¾
Cefnogwyd
yr angen am uchafu’r gwaith yn y maes hwn ac i gael swyddog i arwain ar y
gwaith. Mynegwyd pwysigrwydd i gydweithio gyda cymunedau i annog byw yn fwy
gwyrdd. Amlygwyd ardrawiad mae’r hinsawdd yn ei wneud ar gymunedau megis tywydd
yn fwy eithafol. ¾
Nodwyd
fod i gost gyflogi’r Swyddog yn uchel, ond mynegwyd nad cyflog o bron i £59,000
ond mae costau megis pensiynau ar ben unrhyw swydd. Nodwyd fod swydd
ddisgrifiad wedi ei greu ac wedi ei arfarnu yn fewnol. Mynegwyd wrth adolygu
efallai y bydd y gost yn lleihau. Amlygwyd cynlluniau sydd yn ei lle yn barod o
fewn adrannau, ond pwysleisiwyd fod rhai cyfleoedd yn cael eu methu ac felly
buasai angen i’r swyddog bod yn fyw i unrhyw gyfleoedd fydd yn codi. ¾ Croesawyd y penderfyniad gan nodi ei fod yn ddatblygiad da i ymateb i’r maes. Amlygwyd fod y Cyngor wedi derbyn gwobr am eu gwaith yn y maes. Awdur: Dilwyn Williams |
|
YMDDEOLIAD Y PRIF WEITHREDWR PDF 400 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd fod angen recriwtio a phenodi i swydd y Prif
Weithredwr ar sail barhaol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig PENDERFYNIAD Penderfynwyd fod angen recriwtio a phenodi i swydd y Prif
Weithredwr ar sail barhaol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi angen am y penderfyniad yn dilyn cyhoeddiad y Prif
Weithredwr ei fod am ymddeol. Nodwyd ei bod yn gam gofynnol i’r Cabinet i wneud
y penderfyniad os ydynt yn awyddus i lenwi’r swydd a sut y byddant yn gnwued hyn. Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu yr opsiynau
ac fod yr Arweinydd wedi rhoi ei farn yn ysgrifenedig ar rhai o’r opsiynau. Amlygwyd y opsiynau
â oedd yn cynnwys peidio llenwi y swydd, i ofyn i Awdurdod arall i gymryd y
blaen, ac i benodi Prif Weithredwr. Nodwyd fod Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau a fydd yn dod i rym eleni yn amlygu’r angen i gael Prif Weithredwr
ar gyfer y rheoliadau yma. Mynegwyd fod rhestr i’w gweld yn yr adroddiad yn
nodi’r gofynion y bydd yn cyd-fynd a’r Ddeddf ac y bydd angen eu ymgorffori yn
y swydd ddisgrifiad. Awdur: Eurig Williams |
|
CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2020 PDF 86 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
¾
Tanwariant o (£478k) yn ymwneud â chostau
cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. ¾
Tanwariant net o (£1,312k) ar gyllidebau
Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r
her ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor ar ddiwedd 2020/21 yn arbennig felly yn
sgil argyfwng Covid19. · Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas PENDERFYNIAD
¾
Tanwariant
o (£478k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa
ariannu'r rhaglen gyfalaf. ¾
Tanwariant
net o (£1,312k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau
cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn wynebu’r
Cyngor ar ddiwedd 2020/21 yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19. Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu
gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y
Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir
yn Atodiad 1. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor
ynghyd a’r rhagolygon at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd fod yr
adroddiad yn amlygu fod effaith ariannol Covid19 yn sylweddol i’r Cyngor gan
nodi ei fod yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y
rhaglen arbedion gan fod blaenoriaethau eraill dros gyfnod yr argyfwng.
Mynegwyd fod y Cyngor bellach wedi derbyn bron i £6miliwn drwy gronfa caledi
Llywodraeth Cymru ac fod ceisiadau misol gwerth dros £7.1miliwn wedi eu
cyflwyno. Nodwyd o ran colledion incwm, fod y
ceisiadau am haner cyntaf y flwyddyn ariannol dros £5.1miliwn gyda £4.8 miliwn
eisoes wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Esboniwyd fod gwaith ar chwarter 3
newydd ei gwblhau ac wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Amlygwyd y pwysau sydd wedi bod ar adrannau
eleni, gan amlygu fod problemau gwireddu arbedion yn fwy fwy
amlwg eleni ac yn ffactor sydd wedi cyfannu ar y gorwariant yn y meysydd megis
Plant, Oedolion a Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw ar y talfyriad o
sefyllfa yr holl adrannau gyda’r rhagolygon wedi eu datgan gyda a heb y cymorth
grant Covid-19 gan y Llywodraeth. Tynnwyd sylw ar y trafferthion sylweddol yn
rhai adrannau gan nodi fod yr Adran Oedolion wedi cael ardrawiad sylweddol o
ganlyniad i Covid19 gyda’r adran yn rhagweld gorwariant o £3.3miliwn eleni gyda
methiant i gyflawni arbedion gwerth £1.8miliawn. Yn yr Adran Blant a Chefnogi
Teuluoedd mynegwyd fod methiant i wireddu £688k o arbedion yn cyfrannu ar orwariant
o £2.5miliwn, Ychwanegwyd gan nodi fod yr ystadegau diweddaraf yn cadarnhau
cynnydd pellach yn y galw am wasanaethau, yn arbennig yn y maes lleoliadau ac
Ol-16. Mynegwyd fod problemau gorwariant yn a maes Casglu a gwaredu gwastraff yn parhau yn yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ynghyd a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
RHAGLEN CYFALAF 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD (SEFYLLFA 30 TACHWEDD 2020) PDF 323 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a gofyn am gymeradwyaeth i
ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd fod effaith argyfwng Covid19 a’r
cyfnod clô, wedi cael effaith ar y rhaglen cyfalaf gyda dim ond 31% o’r
gyllideb wedi ei wario hyd ar ddiwedd Tachwedd i’w gymharu â dros 51% yn yr un
cyfnod y llynedd. Nodwyd fod cynnydd net o oddeutu £3.3miliwn
ers yr adolygiad diwethaf. Mynegwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn
lle i fuddsoddi tua £42.3 miliwn eleni, gyda £18.9miliwn ohono wedi’i ariannu
drwy ddenu grantiau penodol. Amlygwyd y bydd £4.8miliwn ychwanegol yn llithro o
eleni i’r flwyddyn ganlynol gan bwysleisio nad oes unrhyw golled ariannu. Tynnwyd sylw at y grantiau ychwanegol mae’r
Cyngor wedi llwyddo eu denu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys
£1.7miliwn at Gynllun Draenio Tir yn Rhostryfan a £0.5miliwn at welliannau
ailgylchu a ac atal gwastraff. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd fod cynlluniau cyffroes i’w gweld yn yr adroddiad gan amlygu y cynllun gwelliannau ailgylchu ac atal gwastraff. Mynegwyd y bydd y cynlluniau yn cynnwys addasu rhan o ganolfan ailgylchu Bangor i fod yn siop a chynlluniau i atal bwyd rhag mynd i’r ffrwd gwastraff ynghyd a sefydlu Caffis Trwsio a fydd ar draws y sir i weithio i ddatblygu sgiliau a lleihau gwastraff. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
i.
Derbyniwyd
casgliadau’r Prif Weithredwr ar y cynlluniau unigol fel y’i nodwyd yn Atodiadau
1 a 2. ii.
Yn unol
â’r hyn a nodwyd yn Atodiad 1, cymeradwywyd symud y proffil cyflawni ar gyfer
cynlluniau gwerth £1,012,750 i 2022/23, a chydnabod bod y sefyllfa bellach wedi
newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £848,040 gan eu
dileu o’r gyllideb. iii.
Defnyddio’r
ddarpariaeth o £1.6m a osodwyd o’r neilltu yng nghyllideb 2020/21 er mwyn
gwneud hynny, a chyflawni’r bwlch gweddilliol drwy ddefnydd cyntaf o arbedion a
gynlluniwyd ar gyfer 2021/22. iv.
Wrth
baratoi cyllideb 2021/22, cymeradwywyd symud proffil cyflawni cynlluniau gwerth
£511,250 i 2022/23 a chydnabod bod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na
ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £595,450 ac y dylid defnyddio
arbedion o £705,930 ar gyfer y gyllideb fel y nodwyd yn Atodiad 2. Cofnod:
i.
Derbyniwyd
casgliadau’r Prif Weithredwr ar y cynlluniau unigol fel y’i nodwyd yn Atodiadau
1 a 2.
ii.
Yn unol
â’r hyn a nodwyd yn Atodiad 1, cymeradwywyd symud y proffil cyflawni ar gyfer
cynlluniau gwerth £1,012,750 i 2022/23, a chydnabod bod y sefyllfa bellach wedi
newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £848,040 gan eu
dileu o’r gyllideb.
iii.
Defnyddio’r
ddarpariaeth o £1.6m a osodwyd o’r neilltu yng nghyllideb 2020/21 er mwyn
gwneud hynny, a chyflawni’r bwlch gweddilliol drwy ddefnydd cyntaf o arbedion a
gynlluniwyd ar gyfer 2021/22.
iv.
Wrth
baratoi cyllideb 2021/22, cymeradwywyd symud proffil cyflawni cynlluniau gwerth
£511,250 i 2022/23 a chydnabod bod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na
ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £595,450 ac y dylid defnyddio
arbedion o £705,930 ar gyfer y gyllideb fel y nodwyd yn Atodiad 2. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol gan nodi
fod dros £30miliwn o arbedion wedi’u gwireddu ers 2015/16 ond nodwyd fod y
adroddiad yn ôl ym mis Hydref wedi amlygu pryderon am risgiau i gynlluniau
gwerth £3.4miliwn eleni o ganlyniad i Covid-19. Ychwanegwyd ers hynny fod y
Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid wedi trafod yr arbedion adrannol gyda’r
penaethiaid ac Aelodau Cabinet. Amlygwyd yr argymhellion a ddeilliwyd o’r
cyfarfodydd yma. Pwysleisiwyd fod cyfyngiadau Covid-19 wedi amharu ar y cyfle i
adrannau roi sylw i nifer o’r cynlluniau arbedion a nodwyd mae mater o amseriad
yw hyn gyda gwerth £1.7m o gynlluniau y gellid eu cyflawni yn 2021/22. Er hyn,
argymhellwyd i ail broffilio gwerth £1m o gynlluniau a fydd angen mwy o amser
i’w gwireddu ynghyd a dileu gwerth £850k o /gynlluniau o’r gyllideb, ble mae’r
sefyllfa wedi newid cymaint ni ellir gwireddu’r arbedion. Nodwyd fod cyllideb 2020/21 wrth baratoi yn
Chwefror 2020 wedi darparu £1.6m i gydnabod y tebygolrwydd o fethu cyflawni
rhai arbedion. Amlygwyd y bydd ail broffilio a dileu yn cael ardrawiad o £1.86m
ar y gyllideb, ond drwy ddefnyddio’r ddarpariaeth o £1.6m, wrth baratoi
cyllideb 2021/22, byddai angen £260k ychwanegol. Drwy wneud hyn, nodwyd, bydd y
gyllideb yn agosach i realiti sefyllfa’r Cyngor. Tynnwyd sylw at Atodiad 2 a oedd yn nodi
arbedion oedd wedi eu cynllunio ar gyfer 2021/22. Mynegwyd o’r £1.9m oedd wedi
ei gynllunio, y bydd cynlluniau gwerth £511k yn cymryd mwy o amser i’r cyflawni
ac mae amheuaeth fawr am wireddu gwerth £595k o arbedion. O ganlyniad,
argymhellwyd i ail broffilio £511k a dileu £595k o arbedion gan dderbyn mai dim
ond dros £700k o arbedion net fydd ar gael i gefnogi cyllideb 2021/22. Bu i’r Prif Weithredwr egluro y rhesymeg tu
ôl i’r argymhellion gan bwysleisio fod rhai cynlluniau am gymryd mwy o amser
i’w gwireddu o ganlyniad i argyfwng Covid-19 tra fod eraill angen eu dileu yn
gyfan gwbl megis Cynllun Gwella effeithlonrwydd gweithwyr maes gan yr
Adran Oedolion gan fod y trafodaethau wedi amlygu annhebygolrwydd o wireddu’r
cynllun o ganlynid i’r angen am yr adnodd i weithredu cynlluniau arbedion
eraill o fewn yr adran. Awdur: Dafydd Edwards |