Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cyng. Paul Rowlinson a Geraint Owen (Cyfarwyddwr
Corfforaethol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 MAI 2024 PDF 189 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Mai
2024 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN ASEDAU 2024/25 - 2034/35 PDF 301 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a)
Cytundwyd i argymell i’r
Cyngor y dylid mabwysiadu Cynllun Reoli Asedau 2024-2034 i gynnwys: ·
Y symiau ariannol a argymhellir
yn Atodiad 1 ar gyfer y cynlluniau risg uchel ·
Y ddau swm yn Atodiad 2 ar
gyfer y cynlluniau risg cymhedrol ·
Dadymrwymo y symiau
ariannol sydd yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol fel nodir ym mharagraff 26
o’r adroddiad hwn. b)
Comisiynu’r Prif Weithredwr
i gynnal adolygiad pellach ymhen blwyddyn i geisio datrysiad ar gyfer materion
na ellir ymrwymo i’w hariannu ar hyn o bryd fel a nodir ym mharagraffau 29 i 32
o’r adroddiad hwn, sef cynnal a chadw rhaglenedig adeiladau a’r wedd nesaf o
brosiectau i foderneiddio ysgolion, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet er mwyn
cadarnhau rhaniad adnoddau mewn cyswllt a’r ddau fater yma. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD a) Cytunwyd i argymell i’r Cyngor y dylid mabwysiadu
Cynllun Reoli Asedau 2024-2034 i gynnwys: ·
Y symiau ariannol
a argymhellir yn Atodiad 1 ar gyfer y cynlluniau risg uchel ·
Y ddau swm yn
Atodiad 2 ar gyfer y cynlluniau risg cymedrol ·
Dad ymrwymo y
symiau ariannol sydd yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol fel nodir ym
mharagraff 26 o’r adroddiad hwn. b) Comisiynu’r Prif Weithredwr i gynnal adolygiad
pellach ymhen blwyddyn i geisio datrysiad ar gyfer materion na ellir ymrwymo
i’w hariannu ar hyn o bryd fel a nodir ym mharagraffau 29 i 32 o’r adroddiad
hwn, sef cynnal a chadw rhaglenedig adeiladau a’r wedd nesaf o brosiectau i
foderneiddio ysgolion, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet er mwyn cadarnhau rhaniad
adnoddau mewn cyswllt a’r ddau fater yma. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod asedau’r Cyngor yn hanfodol ar gyfer gallu darparu
gwasanaethau i bobl Gwynedd. Eglurwyd mai y Cynllun Rheoli Asedau yw cynllun
hir dymor y Cyngor er mwyn cynllunio ymlaen am y 10 mlynedd nesaf. Mynegwyd fod
yr arian hwn yn dod gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol a bod y Cyngor yn derbyn
oddeutu £6.6m o adnodd y flwyddyn ac felly fod rhagdybiaeth y bydd oddeutu £47m
o arian cyfalaf ar gael ar gyfer y cynllun 10 mlynedd. Eglurwyd
fel rhan o'r gwaith i sefydlu’r Cynllun, gwahoddwyd ceisiadau gan Adrannau i
nodi eu anghenion cyfalaf dros y 10 mlynedd nesaf. Derbyniwyd 70 o geisiadau
gyda cyfanswm eu gwerth yn £129.3m. Aseswyd pob cynllun a gosod mewn categorïau
risg. Nodwyd fod gwerth £79m o gynlluniau wedi ei gosod yn y categori risg
uchel a oedd yn cael ei weld fel cynlluniau hanfodol i’w cyflawni. Cynhaliwyd
sesiwn gyda’r holl aelodau etholedig er mwyn cael ei barn ar y cynlluniau ac i
gael cymorth ar sut i gwtogi’r gofynion gwariant. Cydnabuwyd fod y dewisiadau
yn rhai anodd ond amlygwyd yr angen i ariannu rhai cynlluniau megis Cartref
Gofal Grwpiau Bach i blant mewn gofal ac yr awgrym i ddefnyddio arian
ychwanegol y premiwm treth cyngor ar gyfer rhai cynlluniau tai. Er hyn,
eglurwyd fod yn rhaid torri cynlluniau ymhellach o ganlyniad i ddiffyg arian ac
awgrymwyd i dynnu arian allan o hen gynlluniau yn ogystal. Eglurwyd
yn dilyn hyn i gyd fod y cynllun yn hafal ond fod angen ail edrych arni
flwyddyn nesaf, rhag ofn y bydd rhai cynlluniau wedi eu tynnu allan o ganlyniad
i grantiau a fydd yn galluogi ail neilltuo’r arian i gynlluniau eraill.
Mynegwyd fod Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi trafod y cynllun ac eu bod
yn fodlon fod y drefn a ddilynwyd yn drwyadl ac yn gywir. Gofynnwyd i’r Cabinet
ei argymell i’r Cyngor Llawn ddechrau fis nesaf. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Mynegwyd pryder
am y diffyg arian sydd ar gael ar gyfer cynlluniau risg uchel ac fod hyn o
ganlyniad i benderfyniadau yn San Steffan. · Amlygwyd ychydig o oleuni ar yr adroddiad gydag arian yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cynlluniau mewn ysgolion, arian ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dafydd Gibbard |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2023/24 PDF 58 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad blynyddol
ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2023/24. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme PENDERFYNIAD ` Derbyniwyd
yr adroddiad blynyddol ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn
2023/24. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn hanfodol bod
aelodau’r Cabinet yn ymwybodol o waith y Panel ar ddiogelu ac yn gallu bodloni
eu hunain bod y Panel wedi ymgymryd â’r gwaith sydd ei angen yn drylwyr a
chydwybodol. Eglurwyd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o waith y panel dros y
flwyddyn 2023/24. Amlygodd yr Aelod Cabinet ar rai materion yn yr adroddiad ac
eglurwyd fod y Panel wedi diweddaru eu cylch gorchwyl ar gyfer y Panel Strategol
ac y Grŵp Gweithredol yn ystod y flwyddyn. Mynegwyd fod Polisi Diogelu
newydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn ogystal. Manylwyd er fod cynnydd wedi bod yn erbyn materion diogelu
bod diogelu yn y maes Plant ac Oedolion yn sefydlogi ond fod y gwaith yn parhau
yn llethol. Amlygwyd pryderon am gwasanaeth DoLS
(trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid) gan fod rhai unigolion ar y rhestr
aros am hyd at 3 mlynedd. Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r panel am y flwyddyn
i ddod cyn nodi’r penderfyniad. Bu i’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol dywysu
drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y prif faterion. Eglurwyd fod y panel yn un
sy’n cyfarfod yn gyson drwy’r flwyddyn ac yn edrych ar yr holl waith diogelu ar
draws y cyngor. Amlygwyd fod y Grŵp Gweithredol yn cefnogi’r gwaith ac yn
pwysleisio ei fod yn faes ar gyfer yr holl Gyngor, ei holl staff a unigolion yn
ein cymunedau. Nodwyd fod pryder i’w amlygu gyda’r cynnydd mewn cyfeiriadau
i’r Adran Plant gyda cynnydd o 248% yn y gwaith sy’n ymwneud â phryderon
diogelu am ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth. Mynegwyd fod
niferoedd plant mewn gofal yn cael ei nodi yr un nifer a llynedd ond fod
lleihad mewn gwir niferoedd. Ond gan fod ceiswyr lloches ar ben eu hunain
bellach yn cael eu cyfri yn y ffigwr mae’n ymddangos yr un peth. Ategwyd fod nifer cyfeiriadau i’r Adran Oedolion wedi
cynyddu yn sylweddol yn ogystal ac eto amlygwyd y pryderon am DoLS gan adrodd y bydd trafodaeth bellach yn y Pwyllgor
Craffu yn ystod yr wythnos ganlynol. Eglurwyd y bydd Adolygiad Ymarfer Plant yn cael ei gynnal
dros y misoedd nesaf yn dilyn achos llys cyhoeddus am ysgol uwchradd yn y sir a
fydd yn amlygu gwersi i’w dysgu ynghyd a rhoi gwelliannau ar waith. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Mynegwyd fod diogelu yn fater o bwys mwyaf i
aelodau etholedig ac fod yn maint y broblem yn drawiadol yng wyneb toriadau. ·
Tynnwyd sylw at y cynnydd enfawr mewn pryderon
diogelu am ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth, a holwyd os yw’n
anarferol o uchel. Nodwyd ei fod ond nad oedd modd amlygu rheswm dros hyn ond
efallai bod addasiadau mewn addysg rhyw o fewn y gyfundrefn addysg wedi rhoi
hyder i unigolion siarad ac i leisio
pryderon. · Amlygwyd nad oes ffigyrau i’w gweld am ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dylan Owen |
|
STRATEGAETH RHEOLI LLIFOGYDD PDF 159 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd mabwysiadu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol y
Cyngor. Rhoddwyd hawl dirprwyedig mewn ymgynghoriad â Aelod Cabinet i gwblhau’r
ddogfen yn dilyn derbyn sylwadau Llywodraeth Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones PENDERFYNIAD Cymeradwywyd mabwysiadu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol y
Cyngor. Rhoddwyd hawl dirprwyedig mewn ymgynghoriad â Aelod Cabinet i gwblhau’r
ddogfen yn dilyn derbyn sylwadau Llywodraeth Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gofyn i’r Cabinet i gymeradwyo
mabwysiadu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol y Cyngor. Eglurwyd yn dilyn
y penderfyniad y bydd y ddogfen yn cael ei hanfon at Lywodraeth Cymru a fydd yn
rhoi eu barn ar y strategaeth, ac o ganlyniad gofynnwyd am hawl dirprwyedig
mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i gwblhau’r ddogfen yn dilyn derbyn y
sylwadau yma. Nodwyd yn dilyn creu strategaeth ddrafft fod yr adran wedi mynd i
ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen. Amlygwyd siom gyda’r nifer a ymatebodd i’r
ymgynghoriad efo fod llawer o waith wedi ei wneud i’w hyrwyddo. Amlygwyd fod y
strategaeth yn nodi sut y bydd yn Cyngor yn delio a risg llifogydd yn
arfordirol ac yn fewndirol. Ychwanegodd y Pennaeth Adran fod gofyn statudol i’r Cyngor fod yn creu
strategaeth yn unol â Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Eglurwyd fod
strategaeth flaenorol y Cyngor mewn dwy ran – hynny yw y Strategaeth a’r
Cynllun Rheoli ond bellach fod y ddwy ddogfen wedi eu cyfuno i greu strategaeth
lawn. Eglurwyd wrth baratoi’r strategaeth fod gofyn i’r Cyngor fod yn
cydymffurfio gyda Fframwaith Llywodraeth Cymru ac amlygwyd y prif amcanion Amlygwyd fod ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod yn wael ond
fod hyn i’w gweld yn genedlaethol. Pwysleisiwyd fod newid hinsawdd yn bwnc
llosg ac fod tywydd garw dros y gaeaf diwethaf yn dangos maint y broblem. Mynegwyd mai un o brif weithredoedd sydd wedi ei gynnwys yn y
Strategaeth yw’r bwriad o baratoi rhaglenni gwaith cyfalaf hir-dymor ar gyfer
rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol. Esboniwyd y bydd hyn yn fodd i’r
Tîm arwain a denu grantiau ar gyfer cynlluniau i’r dyfodol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Diolchwyd am y gwaith sydd wedi ei wneud ym Mangor. ·
Holwyd o ran cyllid os yw’r sir yn cael siâr deg
o’r gyllideb genedlaethol. Mynegwyd fod yr holl gynlluniau sydd yn cael ei
gyflwyno yn cael ei sgorio gan Lywodraeth Cymru ac fod Gwynedd wedi bod yn
ffodus yn derbyn cefnogaeth ar gyfer amryw o gynlluniau. Amlygwyd fod 4 cynllun
wedi ei gynnwys yn ogystal yng Nghynllun Asedau’r Cyngor. ·
Amlygwyd fod dryswch yn gallu bod o ran pwy sy’n
gyfrifol o ran llifogydd, ond diolchwyd i staff rheg flaen y Cyngor am eu
gwaith i gynorthwyo’r cyhoedd pan materion llifogydd yn codi. Awdur: Steffan Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 351 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn
rhoi diweddariad am y maes Oedolion, Iechyd a Llesiant. O ran cynlluniau Cynllun
Cyngor Gwynedd amlygwyd fod rhai prosiectau wedi eu hail becynnu er mwyn
sicrhau eglurdeb ac felly bod y teitlau yn wahanol i’r hyn sydd wedi eu gweld
yn y gorffennol. Cafwyd trosolwg o’r holl gynlluniau gan amlygu rhai materion
fel a ganlyn. Amlygwyd yn y maes moderneiddio adnoddau gofal i gwrdd ag anghenion y
dyfodol fod gwaith yn dod i ben i uwchraddio cartrefi yn y Bermo
a Dolgellau. Ychwanegwyd fod sefyllfa recriwtio yn gwella yn y cartref ym
Mangor ac felly yn gobeithio gwneud gwell defnydd o’r uned dementia newydd dros
y cyfnod nesaf. Eglurwyd fod y cynllun defnyddio mwy ar dechnoleg fod gwaith o
uwchraddio offer teleolfal ar ei ganol ac yn mynd yn
dda, ac eu bod yn rhagweld gorffen y gwaith erbyn Rhagfyr eleni. Nodwyd fod
arweinydd prosiect wedi ei phenodi ar gyfer arwain y gwaith o gydweithio gyda
gwasanaethau iechyd i alluogi pobl i fyw eu bywyd gorau yn y gymuned a fydd yn
arwain y rhaglen waith o ddatblygu timau adnoddau cymunedol. Tynnwyd sylw at berfformiad yr adran gan nodi fod rhestr aros ar yfer
derbyn asesiad therapi galwedigaethol yn parhau i gynyddu. Eglurwyd fod capasiti a phenodi therapyddion wedi bod yn heriol iawn ond
fod Arweinydd newydd wedi cychwyn ei rôl a phenodiad ymarferydd arweiniol wedi
ei wneud i lenwi'r bwlch. Pwysleisiwyd fod canran yr oriau gofal cartref sydd heb eu diwallu wedi
disgyn yn sylweddol gan fod ar ei isaf ers blwyddyn. Nodwyd fod darparwr wedi
bod yn llwyddiannus yn ennill y dendr ym Mlaenau Ffestiniog, ond heb allu denu
ymgeiswyr ar gyfer y tendr yn ardal Porthmadog. Amlygwyd o ran perfformiad y gwasanaethau diogelu Oedolion a’r Timau
Adnoddau Cymunedol eu bod wedi llwyddo i reoli’r perygl mewn 100% o achosion.
Fodd bynnag, mae’r nifer sy’n aros am asesiad Diogelu rhag Amddiffyn Rhyddid (DoLS) yn parhau yn bryderus gyda 340 o unigolion ar y
rhestr aros am asesiad ddiwedd Ebrill fel a nodwyd yn un o’r eitemau blaenorol.
O ran y sefyllfa ariannol, eglurwyd y bydd monitro cyson yn cael ei wneud i
geisio peidio gorwario eleni a bydd cyfarfodydd yn cael ei trefnu os gwariant
yn cael ei amlygu yn gorwario dan unrhyw un o’r penawdau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd ei bod yn gadarnhaol fod niferoedd o bobl anabl
yn cael cyfleoedd i waith wedi cynyddu. ·
Amlygwyd pryder gyda’r sefyllfa DoLS
gyda nifer mor uchel yn parhau i aros am asesiad. Mynegwyd fod hon yn broblem
genedlaethol ac fod yr adran yn ceisio ei gorau i ymateb drwy flaenoriaethu
asesiadau. Ychwanegwyd fod ceisiadau yn dod yn gyson ac o ganlyniad nad yw’r
niferoedd yn disgyn ar y raddfa yr hoffai’r adran. Awdur: Aled Davies |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD PDF 208 KB Cyflwynwyd gan: Cllr. Elin Walker Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn diweddaru’r aelodau ar
y gwaith sydd yn cael ei wneud o fewn yr adran. Tynnwyd sylw at brosiectau’r
adran o fewn Cynllun y Cyngor fel a ganlyn. O ran Cynllun Cartrefi Grŵp Bychan amlygwyd fod yr adran wedi prynu
eiddo yn ardal Dwyfor ar gyfer datblygu cartref preswyl cofrestredig ar gyfer
grwpiau bychan i ganiatáu iddynt derbyn eu gofal yng Ngwynedd. Eglurwyd y bydd
proses recriwtio ar gyfer swyddi yn y cynllun hwn a bydd pnawn recriwtio yn
cael ei gynnal ym Mhorthmadog yn ystod Mehefin ar gyfer swyddi dirprwy reolwr a
gweithwyr preswyl. Ychwanegwyd o ran Cynllun Awtistiaeth fod plant, pobl ifanc ac oedolion yn
ei chael hi’n anodd cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei angen. Amlygwyd fod
gwella darpariaeth yn gynllun er mwyn ei gwneud yn haws i unigolion a teuluoedd
i drosglwyddo rhwng gwahanol wasanaethau. Mynegwyd fod y tîm yn parhau i weithio ar brosiect Llwybrau
ni, a fydd yn darparu cyfleoedd cymdeithasol i bobl ifanc, egwyl i rieni a
gofalwyr unigolion sydd â diagnosis o awtistiaeth, yn aros am asesiad/
diagnosis ac unigolion na fydd yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer gwasanaethau
arbenigol pan maent yn pontio i oedran oedolyn. Anogwyd aelodau a’r cyhoedd os
yn cael y cyfle i fyd ar y bws awtistiaeth sydd yn rhoi cyfle i unigolion gael
profiad realiti o awtistiaeth. Mynegwyd fod capasiti’r gweithlu yn parhau yn
fater o bryder ond fod gwaith ar y gweill i drio sefydlogi’r sefyllfa. Amlygwyd
fod yr adran wedi bod yn rhan o ymgyrch maethu cenedlaethol i ddenu pobl i
feddwl am faethu. Ers yr adroddiad diwethaf mae Gwynedd wedi penodi ail swyddog
recriwtio ar gyfer de’r Sir. O ran mesurau’r adran nodwyd ar y cyfan ei bod yn hapus ar perfformiad a
dim un mesur yn peri pryder i’r Aelod. O gan y gyllideb nodwyd fod yr adran
wedi gorwario y llynedd o ganlyniad i wariant all-sirol, mynegwyd gyda cynllun
cartrefi bychan yn weithredol gobeithio bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn
fewnol yn hytrach na darparwyr allanol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Holwyd os oes modd i aelodau etholedig fod yn rieni
maeth, eglurwyd nad oes unrhyw reolau yn eu hatal i fod yn rieni maeth ac
pwysleisiwyd i unigolion sydd yn awyddus ni gysylltu a’r adran os a diddordeb
mewn maethu. ·
Diolchwyd am y gwaith o arwain y Cynllun Cartrefi
Bychan, a fydd yn sicrhau nid yn unig fod cefnogaeth am gael ei roi yn fewnol
ond o fewn cymunedau Gwynedd. Awdur: Marian Parry Hughes |