Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH a Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a’r
Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Iwan Evans (Swyddog Monitro) a Geraint Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eitem 8: Datganodd y Cynghorwyr Dafydd Meurig ac
Elin Walker Jones eu bod nhw’n Llywodraethwyr yn Ysgol Friars. Nid oedd y
buddiant yn un oedd yn rhagfarnu felly ni adawsant y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a
chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 GORFFENNAF PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2024 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2023/24 PDF 172 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a
Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24 ac argymhellwyd bod y Cyngor Llawn yn ei
fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a
Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24 ac argymhellwyd bod y Cyngor Llawn yn ei
fabwysiadu. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet am ei
gymeradwyaeth cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Hydref. Eglurwyd bod yr
adroddiad yn darparu gwybodaeth ynghylch y cynnydd yn erbyn yr hyn a nodir yng
Nghynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028 yn ystod y flwyddyn 2023/24. Esboniwyd bod
yr adroddiad yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor yn 2023/34 a diolchwyd i
holl weithwyr y Cyngor am eu gwaith dros y flwyddyn. Adroddwyd bod y
cyfnod diweddar wedi bod yn un anodd iawn i Lywodraeth Leol gyda’r galw yn codi
ar sawl maes blaenoriaeth yn ogystal â gorfod ymdopi efo llai o gyllideb.
Nodwyd bod dwy ran i’r adroddiad gyda’r rhan gyntaf sef yr adroddiad
perfformiad blynyddol yn canolbwyntio ar brosiectau Cynllun y Cyngor a’r gwaith
dydd i ddydd. Esboniwyd bod yr ail ran sef yr hunanasesiad o berfformiad y
Cyngor yn ofyn statudol newydd dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021. Eglurwyd bod yr hunanasesiad drafft wedi
cael ei adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y 5ed o
Fedi a derbyniwyd sylwadau positif ar y cyfan. Derbyniwyd rhai awgrymiadau i
wella’r drefn megis awydd yr Aelodau i gael eu cynnwys yn gynt yn y broses o
lunio’r adroddiad. Derbyniwyd sylwadau pellach ynghylch yr effaith mae’r prosiectau
blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor yn ei gael ar drigolion y Sir a bod angen
rhoi mwy o sylw i’r elfen hon. Nodwyd bod yr adroddiad yn llawn ffigyrau ac
ystadegau ond tu ôl i’r ystadegau bod straeon calonogol o brofiadau pobl
Gwynedd a’r cymorth a roddwyd iddynt. Cyfeiriwyd at esiampl dan y maes
blaenoriaeth Gwynedd Lewyrchus o sut mae gwaith swyddogion yn y maes hwn wedi
newid bywydau pobl Gwynedd er gwell. Soniwyd am ddyn lleol oedd yn ddi-waith a
digartref a manylwyd ar y gefnogaeth a dderbyniodd gan Waith Gwynedd megis help
i sicrhau cyfweliad, cymorth budd-dal a chymorth i brynu dillad addas ar gyfer
ei swydd newydd. Diolchwyd i’r tîm Gwaith Gwynedd am y gefnogaeth gan nodi fod
yr unigolyn dan sylw bellach mewn swydd llawn amser, efo cartref ac yn teimlo’n
sefydlog yn ariannol. Nodwyd bod amryw o enghreifftiau tebyg dan amrywiaeth o
feysydd blaenoriaeth o Gynllun y Cyngor. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig cydnabod
llwyddiant a diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu gwaith. Cydnabuwyd bod taith
hir i gyrraedd y nod ym mhob maes blaenoriaeth.
Ychwanegodd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor bod rhywfaint o waith
dylunio pellach i’w wneud cyn cyflwyni’r ddogfen yn ffurfiol i’r Cyngor Llawn
ar y 3ydd o Hydref. Cyfeiriwyd at sylwadau’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio a’r awgrym i ystyried y trefniadau ymgynghori ar gyfer y rhan
hunanasesu. Eglurwyd bod hynny yn rhywbeth sydd wedi derbyn sylw a bydd camau
priodol yn cael eu rhoi mewn lle er mwyn sicrhau adborth priodol i fwydo mewn
i’r hunanasesiadau yn y dyfodol. Sylwadau’n codi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dewi Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor |
|
ADRODDIAD ASESIAD PANEL PDF 198 KB Cyflwynwyd gan: Cyg. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Cymeradwywyd cynnwys y Ddogfen Gwmpas Asesiad
Perfformiad Panel drafft a’r meysydd sydd wedi eu hadnabod i’r Panel edrych
arnynt. 2.
Dirprwywyd yr hawl i benderfynu ar aelodaeth o’r
Panel gan ddal sylw at gyngor CLlC i’r Arweinydd mewn ymgynghoriad gyda’r Prif
Weithredwr. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwywyd cynnwys y Ddogfen Gwmpas Asesiad
Perfformiad Panel drafft a’r meysydd sydd wedi eu hadnabod i’r Panel edrych
arnynt. 2.
Dirprwywyd yr hawl i benderfynu ar aelodaeth o’r
Panel gan ddal sylw at gyngor CLlC i’r Arweinydd mewn ymgynghoriad gyda’r Prif
Weithredwr. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bod gofyniad newydd i’r Cyngor dan Ddeddf Llywodraeth Leol
ac Etholiadau (Cymru) i gynnal Asesiad Perfformiad gan Banel unwaith o fewn
cylch etholiadol. Eglurwyd y bydd y Panel allanol, annibynnol o’r Cyngor yn
edrych ar waith y Cyngor a disgwylir i’r Cyngor baratoi dogfen gwmpasu sy’n
adnabod y meysydd y maent yn awyddus i’r Panel fod yn edrych arnynt. Ychwanegodd Rheolwr
Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor bod cytundeb mis Hydref flwyddyn ddiwethaf i
gynnal yr Asesiad Panel flwyddyn yma. Nododd bod y Gwasanaeth yn cydweithio efo
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghyd â thrafodaethau i greu’r ddogfen gwmpasu
a bod drafft o’r ddogfen wedi ei chynnwys efo’r adroddiad. Ategwyd bod y gwaith
i adnabod aelodau posib ar gyfer y Panel yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Manylwyd y bydd y Panel yn debygol o gynnwys Cadeirydd annibynnol, cymar o’r
sector gyhoeddus, breifat neu wirfoddol, Uwch Swyddog Llywodraeth Leol sy’n
gwasanaethu ar hyn o bryd ac Uwch Aelod Etholedig o’r tu allan i’r Cyngor. Eglurwyd y bydd y
Panel yn edrych ar waith y Cyngor a disgwylir i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth
gefndir ar gyfer y Panel a hefyd yn adnabod y meysydd y mae’r Cyngor yn awyddus
i’r Panel fod yn edrych arnynt fel sydd wedi eu nodi ar dudalen 76 o’r adroddiad.
Nodwyd bod y meysydd yma wedi eu trafod efo’r Pwyllgor Llywodraethau ac
Archwilio ym mis Mai yn ogystal â’r Tîm Rheoli Corfforaethol a derbyniwyd ei
hawgrymiadau. Cadarnhawyd yr amserlen gan nodi y bydd yr asesiad yn debygol o
gael ei gynnal diwedd mis Tachwedd. Amlygodd y Prif
Weithredwr bod yr asesiad yn cael ei groesawu a gobeithir y bydd y broses o
werth, yn drwyadl ac yn adeiladol yn ogystal â’n rhoi her i’r Cyngor fel bod
cyfle i ddysgu a gwella. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ·
Croesawyd y broses.
Gofynnwyd a oes lle i’r Panel adnabod meysydd eraill i edrych arnynt yn
ychwanegol i’r meysydd sydd wedi cael ei hawgrymu gan y Cyngor. ·
Mewn ymateb eglurwyd bod
rhan 3.2 yn yr adroddiad yn nodi’r meysydd penodol fydd y Panel yn edrych
arnynt ynghyd a set graidd o gwestiynau fydd yn cael eu gofyn. Amlygwyd bod
gwahoddiad i’r Cyngor gyflwyno meysydd ychwanegol ac mai’r rhain sydd wedi eu nodi
ar dudalen 76 o’r adroddiad. ·
Mynegwyd bod yr egwyddorion
arweiniol yn eang eu natur. Ychwanegwyd nad oes cyfyngiad ar ddim a bod gan y
Panel hawl i roi mwy o sylw i faes penodol. Awdur: Dewi Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG PDF 199 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Beca Brown PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan longyfarch pobl
ifanc y Sir ar eu canlyniadau TGAU a Safon Uwch gan ategu mai un maes o allu
person ydi gradd arholiad. Cydnabuwyd gwaith caled pobl ifanc y Sir dros y
cyfnod arholiadau yn ogystal â’r athrawon gan ddymuno’n dda i bob un person
ifanc yn y Sir ar eu cam nesaf. Adroddwyd bod y gwaith o ehangu’r ddarpariaeth
gofal plant 2 oed i ardaloedd newydd bron a’i gwblhau efo 22 o ddarparwyr
bellach yn cynnig gofal plant Dechrau’n Deg. Tynnwyd sylw bod polisi mynediad
Ysgolion Gwynedd yn newid o fis Medi flwyddyn nesaf ac y bydd disgwyliad i
blant Meithrin fod wedi eu toiledu cyn cychwyn. Mynegwyd balchder bod y gwasanaeth ADYaCh wedi
llwyddo i wella amseroedd aros am gwnsela a nodwyd ei bod yn braf gweld y
gwaith o addasu dosbarthiadau yn Ysgol Pendalar yn parhau. Ategwyd ei bod yn
wych gweld Ysgol Treferthyr wedi agor ei ddrysau dechrau’r mis a soniwyd hefyd
am y gwaith cyffrous o foderneiddio adeiladau
sy’n digwydd ar draws Ysgolion Bangor gydag amryw yn derbyn sylw. Tynnwyd sylw at lefelau presenoldeb Ysgolion gan
nodi bod angen gwella’r lefelau. Mynegwyd pryder fod y lefelau presenoldeb heb
ddychwelyd i’r hyn ydoedd cyn y pandemig. Cyfeiriwyd hefyd at y cynnydd yn
niferoedd y gwaharddiadau penodol a parhaol o ganlyniad i ymddygiad heriol o
fewn yr Ysgolion gan nodi bod y maes yma wedi derbyn sylw dros y flwyddyn
ddiwethaf. Nodwyd bod arolwg manwl wedi ei gomisiynu ym mis Tachwedd/Rhagfyr
2023 ar y Gwasanaeth Cynhwysiad a chyflwynwyd argymhellion ar sut i gryfhau’r
ddarpariaeth. Ymfalchïwyd ym mhenodiad Meirion Prys Jones fel ymgynghorydd llawrydd
fydd yn cydweithio gyda’r Adran Addysg i ail-edrych ar y Polisi Iaith Addysg ac
eglurwyd bod y gwaith o gynnal gwerthusiad o’r Gyfundrefn Drochi yn mynd
rhagddo ar hyn o bryd. I gloi cydnabuwyd yr heriau a’r boen a brofwyd
yn ystod y flwyddyn yn sgil troseddau Neil Foden a bod meddwl Cyngor yn parhau
i fod gyda’r dioddefwyr. Ategwyd bod y Cyngor wedi ymrwymo i gydweithredu’n
llawn gyda’r adolygiad annibynnol yn unol â chanllawiau cenedlaethol Adolygiad
Ymarfer Plant. Yn ogystal croesawyd bwriad y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
i gynnal ymchwiliad craffu i’r maes diogelu gan nodi parodrwydd yr Adran Addysg
i gydweithio’n llawn gyda’r ymchwiliad. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth · Diolchwyd am yr
adroddiad gan ymfalchïo bod cymaint o newyddion da wedi ei gynnwys. · Holwyd pa gymorth
sydd ar gael i rieni i doiledu plant cyn mynd i’r Ysgol Feithrin, yn enwedig
plant ag anghenion ychwanegol. Gofynnwyd pa mor haearnaidd ydi’r rheol o
ystyried y ffaith bod Derwen efo rhestr aros ar gyfer rhai o’u gwasanaethau. · Mewn ymateb eglurwyd y rhesymau dros y newid i’r polisi sef i osgoi dargyfeirio sylw athrawon a cymhorthyddion dosbarth o weddill y dosbarth tra maent yn treulio amser tu allan i’r dosbarth yn newid clytiau. Ychwanegwyd fel rhan o’r gwaith o edrych ar y maes blynyddoedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 133 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Flaen raglen a
gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y
papurau i’r cyfarfod. |