Lleoliad: Hybrid Meeting - Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, LL55 1SH and on Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a’r
Swyddogion i’r cyfarfod gan Arweinydd y Cyngor. Diolchwyd i holl staff y Cyngor a fu’n gweithio dros gyfnod y Nadolig i
sicrhau darparu gwasanaeth i drigolion Gwynedd.
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid
oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 RHAGFYR Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2024 fel rhai cywir. |
|
TREFNIADAU GOFAL DYDD YN ARDALOEDD BLAENAU FFESTINIOG A CRICIETH Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Fod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn
dirwyn i ben defnydd Y Ganolfan, Blaenau Ffestiniog ac yn Encil y Coed, Criccieth
ar gyfer darparu eu gwasanaethau gan nad oes gwasanaethau gofal dydd wedi eu
cynnig yn Y Ganolfan, Blaenau Ffestiniog nag yn Encil y Coed, Cricieth ers cyn
cyfnod Covid. ·
Cefnogi bwriad yr Adran i barhau i gydweithio
gyda grwpiau cymunedol a’r trydydd sector i gefnogi unigolion yn yr ardaloedd
uchod yn eu cartrefi a thrwy ddefnyddio a chefnogi datblygiad gwasanaethau
amgen o fewn y cymunedau. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan. PENDERFYNIAD ·
Fod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn
dirwyn i ben defnydd Y Ganolfan, Blaenau Ffestiniog ac yn Encil y Coed,
Criccieth ar gyfer darparu eu gwasanaethau gan nad oes gwasanaethau gofal dydd
wedi eu cynnig yn Y Ganolfan, Blaenau Ffestiniog nag yn Encil y Coed, Cricieth
ers cyn cyfnod Covid ·
Cefnogi bwriad yr Adran i barhau i gydweithio
gyda grwpiau cymunedol a’r trydydd sector i gefnogi unigolion yn yr ardaloedd
uchod yn eu cartrefi a thrwy ddefnyddio a chefnogi datblygiad gwasanaethau
amgen o fewn y cymunedau. TRAFODAETH Atgoffwyd yr Aelodau
bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi newid y ffordd
y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu a’r ffordd y caiff gwasanaethau eu
darparu, gan hyrwyddo yr angen i ddarparu cefnogaeth i drigolion yn y gymuned a
hynny heb fod ynghlwm ag adeilad yn unig.
Nodwyd bod y ddwy ganolfan eisoes wedi cau a bod yr argymhellion yn
cyd-fynd â gofynion y Ddeddf. Nodwyd fod hwb
eisoes wedi ei sefydlu ym Mlaenau Ffestiniog gan Gwmni’r Dref Werdd, gyda’r hwb
yn datblygu’n gyson. Ymddiheurwyd fod
angen cywiro’r adroddiad ynghylch ardal Porthmadog, gan nodi fod trafodaethau
wedi cychwyn ar gyfer sefydlu hwb yno i’r dyfodol yn hytrach na fod hwb yn
bodoli yno eisoes. Yn ogystal nodwyd fod
cydlynydd Llesiant wedi eu penodi sy’n bwrw ymlaen gyda’r gwaith o sefydlu
gweithgareddau gwahanol i’r hyn a ddarparwyd yn y gorffennol yn Encil y Coed. Nodwyd fod y
Pwyllgor Craffu eisoes wedi cael mewnbwn i’r newid yn y ddarpariaeth. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Gofynnwyd am
sicrwydd y byddai’r 3ydd sector yn gallu parhau i gefnogi’r gwaith yn y gymuned
a pha oblygiadau oedd ar wasanaethau eraill y Cyngor wrth gau Encil y Coed. o
Mewn ymateb nodwyd fod cryfder y 3ydd sector mewn rhai
ardaloedd yn amlwg, fod bylchau mewn ardaloedd eraill ond fod gwaith yn digwydd
dan arweiniad yr Adran Economi a Chymuned i ddatblygu’r hybiau. Nodwyd na ellir
rhoi gwarant o’u llwyddiant, ond bydd y Cyngor yn gwneud popeth posib i barhau
gyda’r cydweithio. o
Nodwyd hefyd fod pob gwasanaeth arall sy’n cael ei
ddarparu o Encil y Coed yn ymwybodol mai ar sail dros dro oedd y ddarpariaeth
gwasanaeth gofal o’r lleoliad a’u bod yn ymwybodol o’r newid ar droed, yn
cynllunio at hynny ac yn annhebygol o amharu ar wasanaethau eraill o’r adeilad. · Gofynnwyd hefyd am
sicrwydd na fyddai unrhyw unigolyn sydd angen cefnogaeth yn disgyn trwy’r rhwyd
a fod pobl yn ymwybodol o’r gwasanaeth sydd ar gael. o
Nodwyd fod nifer o’r ymholiadau sy’n cael eu derbyn yn
holi ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned, a bod darpariaeth i
unigolion sydd ag anghenion dwys yn cael eu darparu iddynt yn eu cartrefi. Awdur: Aled Davies, Pennaeth Adran Oeolion, Iechyd a Llesiant a Sian Edith Jones, Pennaeth Cynorthwyol Pobl Hŷn |
|
CYLLIDEB REFENIW 2024/25 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2024 Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd
2024 o’r gyllideb refeniw, gan nodi bod rhagolygon o orwariant o £8.3 miliwn
gan adrannau’r Cyngor, gyda 83% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant, a
chefnogi’r camau mae’r Prif Weithredwr wedi eu cyflwyno i ymdrin â’r gorwariant
sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd,
Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd. ·
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a
Llesiant mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a’r Aelodau Cabinet perthnasol i
wneud nifer o drosglwyddiadau cyllideb angenrheidiol, heb gyfyngiad ar y
gwerth, o fewn cyllidebau gwasanaethau yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
i adlewyrchu'r pwysau presennol, gan gynnwys yn y maes Anabledd Dysgu, Pobl
hŷn, Anabledd Corff ac Iechyd Meddwl. ·
Cymeradwyo cymorth ariannol ychwanegol uwchlaw’r
taliad cytundebol gwerth £201k i Gwmni Byw'n Iach sydd i’w gyllido o’r gronfa
trawsffurfio, gan ddirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet dros Economi mewn
ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i
gytuno ar swm y gefnogaeth ariannol terfynol uwchlaw y tâl cytundebol gyda
Byw’n Iach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. ·
Cymeradwyo trosglwyddiad o £4,409k o danwariant
ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor. ·
Eithrio cymal 16.3.1.(C) o’r Rheoliadau Ariannol
a pheidio caniatáu i adrannau gario unrhyw danwariant i’r flwyddyn ariannol
nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones. PENDERFYNIAD ·
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd
2024 o’r gyllideb refeniw, gan nodi bod rhagolygon o orwariant o £8.3 miliwn
gan adrannau’r Cyngor, gyda 83% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant, a
chefnogi’r camau mae’r Prif Weithredwr wedi eu cyflwyno i ymdrin â’r gorwariant
sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd,
Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd. ·
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd
a Llesiant mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a’r Aelodau Cabinet perthnasol
i wneud nifer o drosglwyddiadau cyllideb angenrheidiol, heb gyfyngiad ar y
gwerth, o fewn cyllidebau gwasanaethau yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
i adlewyrchu'r pwysau presennol, gan gynnwys yn y maes Anabledd Dysgu, Pobl
hŷn, Anabledd Corff ac Iechyd Meddwl. ·
Cymeradwyo cymorth ariannol ychwanegol
uwchlaw’r taliad cytundebol gwerth £201k i Gwmni Byw'n Iach sydd i’w gyllido
o’r gronfa trawsffurfio, gan ddirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet dros Economi
mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr a’r Pennaeth
Cyllid i gytuno ar swm y gefnogaeth ariannol terfynol uwchlaw y tâl cytundebol
gyda Byw’n Iach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. ·
Cymeradwyo trosglwyddiad o £4,409k o
danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y
Cyngor. · Eithrio
cymal 16.3.1.(C) o’r Rheoliadau Ariannol a pheidio caniatáu i adrannau gario
unrhyw danwariant i’r flwyddyn ariannol nesaf. TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb
refeniw’r Cyngor am 2024/25, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y
flwyddyn ariannol gyda manylion yr holl adrannau wedi eu cynnwys yn Atodiad 1
o’r adroddiad. Nodwyd
fod rhagolygon o orwariant o £8.3 miliwn gan adrannau’r Cyngor yn dilyn
adolygiad diwedd Tachwedd, gyda 83% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant. Yn
ogystal nodwyd bod rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd pump o’r adrannau yn
gorwario erbyn diwedd y flwyddyn, gyda gorwariant sylweddol ar gyfer yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd. Ymhelaethwyd
ar y gorwariant fesul Adran, gan nodi fod yr Adran Oedolion yn debygol o
orwario £3.3 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn yn sgil cyfuniad o nifer o
ffactorau gan gynnwys cynnydd yn y gofyn am ddarpariaeth gofal cartref, costau
staffio uwch, lefelau salwch a
chyfraddau oriau digyswllt yn uchel ar y ddarpariaeth fewnol. Nodwyd fod gwaith eisoes wedi ei gomisiynu
gan y Prif Weithredwr i edrych ar sefyllfa ariannol yr adran gyda’r gwaith yn
derbyn sylw. Adroddwyd
bod yr Adran Plant yn debygol o orwario £3.7 miliwn, gyda’r sefyllfa wedi
gwaethygu ers adroddiad mis Tachwedd. Nodwyd
fod hyn yn bennaf yn sgil costau lleoliadau all-sirol, cymhlethdod pecynnau a
defnydd o leoliadau heb eu cofrestru.
Nodwyd fod y Prif Weithredwr wedi comisiynu gwaith, i’w arwain gan y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar y sefyllfa mewn
manylder. Gofynnwyd
i’r Cabinet am daliad uwchlaw‘r taliadau cytundebol ar gyfer Cwmni Byw’n Iach
ar gyfer y swm o £201,000. Nodwyd y rhagwelir sefyllfa o orwariant o £699,000 gan yr Adran Priffyrdd, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Ffion Madog Evans - Pennaeth Cyllid Cynorthwyol |
|
RHAGLEN GYFALAF 2024/25 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2024 Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd
(sefyllfa 30 Tachwedd 2024) o’r rhaglen gyfalaf. ·
Cymeradwyo’r addasiadau canlynol i’r Gyllideb
Gyfalaf a gymeradwywyd ar 7 Mawrth 2024 ac a addaswyd ar 15 Hydref 2024 o
safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad),
sef: -
cynnydd o £166,000 mewn defnydd o fenthyca -
cynnydd o £4,112,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau -
cynnydd o £420,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw -
cynnydd o £697,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones. PENDERFYNIAD · Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2024) o’r
rhaglen gyfalaf. · Cymeradwyo’r
addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar 7 Mawrth 2024 ac a
addaswyd ar 15 Hydref 2024 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn
rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef: -
cynnydd o £166,000 mewn defnydd o fenthyca -
cynnydd o £4,112,000 mewn defnydd o grantiau
a chyfraniadau -
cynnydd o £420,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw -
cynnydd o £697,000 mewn defnydd o
gronfeydd adnewyddu ac eraill. TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad am raglen gyfalaf ddiwygiedig y
Cyngor a’r addasiadau i’r ffynonellau ariannu perthnasol. Nodwyd mai’r prif gasgliadau oedd fod
cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi £102.7 miliwn yn 2024/25 ar gynlluniau
cyfalaf gyda £51.1 miliwn, neu 50% ohono wedi’i ariannu trwy grantiau
penodol. Adroddwyd ymhellach fod £19.7
miliwn ychwanegol wedi ei ail broffilio o 2024/25 i 2025/26 a 2026/27 ac
amlygwyd fod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu grantiau ychwanegol ers yr adolygiad
diwethaf gan gynnwys £1.626 mil o Grant Cronfa Ffyniant Bro, £725 mil o grant
gan Lywodraeth Cymru tuag at Gynllun Prom y Gogledd, Abermaw, ymysg eraill. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Nododd y Prif Weithredwr
y newyddion da fod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu grantiau ychwanegol o £4.1
miliwn ers y cyfarfod diwethaf, gan nodi fod mwy o newyddion da yn debygol o
fod ar ei ffordd Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol |
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r
cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2024/25 a blynyddoedd blaenorol. ·
Cymeradwyo dileu un cynllun arbedion gwerth
£146,910 perthnasol i 2025/26 yn y maes gwastraff yn yr Adran Amgylchedd, gan
ddefnyddio’r ddarpariaeth a osodwyd o’r neilltu yn y gyllideb er mwyn gwneud
hynny. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones. PENDERFYNIAD · Derbyn
y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau
arbedion 2024/25 a blynyddoedd blaenorol. · Cymeradwyo dileu un cynllun arbedion gwerth
£146,910 perthnasol i 2025/26 yn y maes gwastraff yn yr Adran Amgylchedd, gan
ddefnyddio’r ddarpariaeth a osodwyd o’r
neilltu yn y gyllideb er mwyn gwneud hynny. TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad yn crynhoi sefyllfa arbedion y
Cyngor gan nodi fod £5.6 miliwn o arbedion i’w gweithredu yn 2024/25. Eglurwyd fod 98%, sef £33.8 miliwn o’r £34.3
miliwn o arbedion sydd wedi eu hadnabod o’r cyfnod 2015/16 hyd at 2024/25
bellach wedi eu gwireddu. Yn ychwanegol,
nodwyd fod 67% o’r cynlluniau arbedion newydd gwerth £12 miliwn eisoes wedi eu
gwireddu, gyda 6% pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Nodwyd risgiau i wireddu arbedion mewn rhai
meysydd megis Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd. Yn ogystal, nodwyd y bwriad i uno tri cynllun arbedion ym maes
gwastraff masnachol, dileu un cynllun casglu clytiau gwerth £147,000 a bod
cynlluniau amgen yn cael eu cynnig ar gyfer gwerth £300,000 o gynllun gwastraff
£400,000. I
grynhoi, nodwyd bod £42 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu, sy’n 90% o’r £46.6
miliwn gofynnol dros y cyfnod. Rhagwelir y bydd 2% pellach yn cael ei wireddu
erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ond fod oediad a rhai risgiau i gyflawni’r
cynlluniau sy’n weddill. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: ·
Nodwyd fod y sefyllfa
arbedion yn ddychrynllyd. ·
talwyd teyrnged a diolch
i holl staff sy’n parhau i gyflawni’n ddyddiol dan bwysau a llwyth gwaith uchel
yn sgil y toriadau sydd eisoes wedi eu gwireddu. ·
Yn ogystal, nodwyd fod y
toriadau yn gyd-destun i osod cyllideb 2025/26, gan gofio fod £74 miliwn wedi
ei dorri o gyllidebau’r Cyngor dros y 14 mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at
y sefyllfa o or-wario neu dan gyllido. Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol |
|
CYNLLUN YMATEB I DROSEDDU Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Cymeradwyo a mabwysiadu y Cynllun Ymateb yn
Atodiad 1. ·
Galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ymchwiliad
Cyhoeddus i’r holl amgylchiadau ynghlwm â’r troseddu difrifol hwn. ·
Comisiynu’r Prif Weithredwr i roi trefniadau
mewn lle i weithredu cynnwys y Cynllun Ymateb hwn gan gynnwys sefydlu Bwrdd
Rhaglen penodol ac adrodd ar gynnydd yn rheolaidd i’r Cabinet. ·
Awdurdodi’r Prif Weithredwr i sefydlu a
threfnu’r adnoddau a chapasiti staffio dros dro sydd
eu hangen i wireddu cynnwys y Cynllun hwn gan ariannu o gronfeydd wrth gefn. ·
Nodi fod y Cynllun Ymateb yn gynllun byw fydd
angen ei adolygu'n rheolaidd ac yn y cyd-destun hwnnw gofyn i'r Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi graffu y Cynllun fel rhan o’u Rhaglen waith. ·
Dirprwyo’r hawl i'r Prif Weithredwr, mewn
ymgynghoriad gyda'r Arweinydd, yr Aelod Cabinet Addysg a'r Aelod Cabinet Plant,
i wneud mân addasiadau golygyddol fel bo'r gofyn. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys, Arweinydd y Cyngor a’r
Prif Weithredwr. PENDERFYNIAD · Cymeradwyo
a mabwysiadu y Cynllun Ymateb yn Atodiad 1. · Galw
ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ymchwiliad Cyhoeddus i’r holl amgylchiadau
ynghlwm â’r troseddu difrifol hwn. · Comisiynu’r
Prif Weithredwr i roi trefniadau mewn lle i weithredu cynnwys y Cynllun Ymateb
hwn gan gynnwys sefydlu Bwrdd Rhaglen penodol ac adrodd ar gynnydd yn rheolaidd
i’r Cabinet. · Awdurdodi’r
Prif Weithredwr i sefydlu a threfnu’r adnoddau a chapasiti staffio dros dro
sydd eu hangen i wireddu cynnwys y Cynllun hwn gan ariannu o gronfeydd wrth
gefn. · Nodi
fod y Cynllun Ymateb yn gynllun byw fydd angen ei adolygu'n rheolaidd ac yn y
cyd-destun hwnnw gofyn i'r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi graffu y Cynllun
fel rhan o’u Rhaglen waith. · Dirprwyo’r
hawl i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinydd, yr Aelod Cabinet
Addysg a'r Aelod Cabinet Plant, i wneud mân addasiadau golygyddol fel bo'r
gofyn. TRAFODAETH Wrth gyflwyno’r adroddiad pwysleisiwyd mai’r
dioddefwyr sydd wrth graidd y cynllun hwn a thalwyd teyrnged i ddewrder a
gwydnwch y dioddefwyr a phawb sydd wedi eu heffeithio gan y troseddau erchyll a
gyflawnwyd. Dyfynnwyd darn o’r adroddiad
“ni allwn am eiliad anghofio am y
rhai pwysicaf yng nghanol hyn, sef y merched a ddylai fod wedi bod yn ddiogel
yn eu hysgol. Holl bwrpas y
Cynllun Ymateb hwn a phob cam sy’n cael eu cymryd gennym yw gwneud popeth posib
i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto, a dyna ddylai fod ar
frig ein hystyriaethau pob amser.” Nododd yr Arweinydd ei bod wedi ymddiheuro
i’r dioddefwyr, a’i bod yn benderfynol o droi pob carreg i sefydlu beth aeth
o’i le. Nodwyd mai pwrpas y cynllun yw
gosod yr holl waith sy’n digwydd i fynd i’r afael a’r sefyllfa mewn un dogfen
fyw, gyda chyrff allanol wedi rhoi mewnbwn ac arweiniad, ac am roi mewnbwn
pellach wrth i’r cynllun gael ei ddatblygu i’r dyfodol. Pwysleisiwyd ei bod yn
ddogfen fyw a fydd yn cael ei haddasu wrth i wersi ddod i’r amlwg ac wrth i’r
sefyllfa ddod yn fwy eglur. Pwysleisiwyd y chwe prif amcan cyfredol fel a nodwyd
yn yr adroddiad, gan amlinellu’r camau nesaf o sefydlu Bwrdd Rhaglen dan
arweiniad person annibynnol er mwyn mesur cynnydd ac adnabod unrhyw
fylchau. Nodwyd na fyddai’r cynllun yn
troi’r cloc yn ôl nac yn dad wneud yr hyn a ddigwyddodd i’r dioddefwyr. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr yr
effaith ysgytwol ar y dioddefwyr yn bennaf, ac ar yr ysgol, y gymuned ehangach
ac ar y Cyngor. Nodwyd ei bod yn
sefyllfa unigryw sy’n datblygu’n ddyddiol, gyda’r cam cyntaf wedi ei sefydlu
trwy drefniadau statudol yr Adolygiad Ymarfer Plant gan Fwrdd Diogelu Gogledd
Cymru. Ymhelaethwyd ar y 6 nod a’r pedair ffrwd gwaith yn y
Cynllun. Pwysleisiwyd y
byddai pob carreg yn cael ei throi gan fod yn agored a thryloyw gyda’r
gwaith. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Datganwyd cefnogaeth i’r ymweliadau monitro diogelwch mewn ysgolion a’r awydd i’w addasu i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
TERFYNU CYTUNDEB PARTNERIAETH GWE Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Terfynu’r gytundeb cydweithio presennol a thrwy hynny
gadarnhau y bydd GwE, gan gynnwys Cyd-Bwyllgor GwE, yn dod i ben ar y 31 o Fai, 2025. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Dewi Jones. PENDERFYNIAD ·
Terfynu’r gytundeb cydweithio presennol a
thrwy hynny gadarnhau y bydd GwE, gan gynnwys Cyd-Bwyllgor GwE, yn dod i ben ar
y 31 o Fai, 2025. TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad ynghylch diweddu’r partneriaeth
rhwng 6 awdurdod y gogledd i ddarparu gwasanaeth gwella ac effeithlonrwydd
ysgolion y gogledd trwy GwE a sefydlwyd yn 2013. Adroddwyd fod Llywodraeth Cymru wedi nodi eu
bwriad i symud oddi wrth y model rhanbarthol o gefnogi a gwella ysgolion gyda’r
gefnogaeth i’w ddarparu gan awdurdodau lleol.
Cadarnhawyd y byddai’r gefnogaeth yn dod i ben ar 31ain o Fai,
2025. Nodwyd yr angen i ffurfioli terfynu’r cytundeb. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Gofynnwyd pam fod
cydweithio rhanbarthol yn dod i ben pan fo hyn fel arfer yn cael ei adnabod fel
ymarfer da o Mewn ymateb nodwyd fod y penderfyniad wedi ei wneud gan Weinidog Addysg,
yn sgil casgliadau gwaith adolygu manwl.
Datganwyd y byddai cydweithio gyda Môn yn parhau, gyda anghenion Gwynedd
am gael eu hamlygu. ·
Nodwyd y byddai mwy o
waith yn disgyn ar swyddogion Gwynedd a chwestiynwyd y sicrwydd o lwyddo i
recriwtio’n llwyddiannus i’r maes o Mewn ymateb nodwyd fod cynllun ar gyfer ail strwythuro mewn lle a
threfniadau ar y gweill i weithredu hynny gan ystyried cefnogaeth briodol i’n
ysgolion. Cydnabuwyd fod recriwtio am
fod yn her, ond bydd pob ymdrech yn cael ei wneud gan yr Adran Addysg. Awdur: Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Dewi Jones. PENDERFYNIAD ·
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar berfformiad yr
Adran Addysg gan dynnu sylw at uchafbwyntiau diweddar, gan gynnwys fod Ysgol
Treferthyr wedi agor ei drysau i 150 o ddysgwyr ym Medi 2025 a bod gwaith wedi
cychwyn ar safle hen Ysgol Glanadda.
Ymfalchïwyd fod y Gwasanaeth ieuenctid wedi llwyddo i recriwtio
Cydlynydd Ymgysylltu gan arwain ar ail sefydlu Fforwm Gwasanaethau Pobl Ifanc i
roi gwell cefnogaeth i bobl ifanc. Yn ogystal, adroddwyd fod £1.1 miliwn o fuddsoddiad
cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu’r ddarpariaeth drochi ar ei
newydd wedd yn Mangor, Ysgol Eifionydd a Tywyn.
Agorwyd drysau’r uned newydd yn Ysgol Tywyn yr wythnos hon. Adroddwyd hefyd fod gwerthusiad o’r
gyfundrefn drochi yn mynd yn ei flaen er mwyn sicrhau gosod Sylfaen gadarn i
ddarpariaeth Gymraeg yn y sir. Adroddwyd fod y Gwasanaeth Anghenion Dysgu
Ychwanegol a Chynhwysiad wedi llwyddo i ostwng y dyddiau aros am wasanaeth
cwnsela o 51 diwrnod i 21 diwrnod ers dechrau’r flwyddyn addysgol. Yn ogystal, nodwyd fod cynnydd yn y nifer o
brydau Ysgol sy’n cael eu gweini, gyda chyfartaledd o 4851 eu darparu ar unrhyw
un diwrnod ers Medi 2024, sy’n gynnydd o berfformiad 2023/24. Nodwyd hefyd fod y cynlluniau arbedion ar drac i’w
gwireddu, ond fod cynllun amgen gwerth £41,000 wedi ei gyflwyno ym maes
Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Trafodwyd y gwaith
ardderchog gan yr Uned Blynyddol Cynnar wedi ei gyflawni ynghylch newid y
ffordd o feddwl a thrafod clytiau trwy eu podlediad, sy’n galluogi trafod y
mater yn agored. Gofynnwyd hefyd a oes
problem yng Ngwynedd ynghylch plant sy’n cychwyn yr ysgol yn parhau mewn
clytiau. o Mewn ymateb nodwyd fod angen ymdrin â’r sefyllfa yn sensitif a chynnig
cefnogaeth i deuluoedd, gan gofio fod pob plentyn yn wahanol. Ar yr un pryd nodwyd fod mwy o blant yn yr
ysgolion heb fod yn sych a bod angen galluogi’r ysgolion i ganolbwyntio ar
addysgu disgyblion yn hytrach na newid plant.
·
Croesawyd y gwaith
ysgolion cynaliadwy sy’n cael eu codi i safon uchel iawn gan nodi fod pwyslais
mawr ar ail ddefnyddio nifer o bethau megis brics a hen gelfi mewn prosiectau
arall gan leihau ôl troed carbon y Cyngor. ·
Croesawyd Fforymau Llais
Pobl Ifanc, gan gofyn os oes darpariaeth addas i ieuenctid ar draws y Sir, yn
arbennig mewn ardaloedd gwledig, o Mewn ymateb nodwyd fod gwaith i’w wneud i adnabod y gefnogaeth sy’n
bodoli ac adolygu’r ddarpariaeth sydd ar gael ·
Holwyd beth oedd y camau
nesaf yn dilyn ymgysylltu ac adolygu polisi
trochi Gwynedd o Nodwyd y byddai adroddiad llawn ar gael i’r Cabinet ddiwedd mis Mawrth,
gydag adroddiad diweddaru i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
cyn hynny. Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Huw Wyn Jones. PENDERFYNIAD ·
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar berfformiad yr
Adran Gyllid gan ymfalchïo fod perfformiad yr Adran yn parhau yn
galonogol. Tynnwyd sylw fod Prosiectau
blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor yn dangos cynnydd da ar y ddau gynllun dan
eu gofal, sef cyflawni ar y cynllun Arbedion, a Cynllun Digidol y Cyngor. Ymhelaethwyd ar y Cynllun Digidol yn unig gan nodi
fod posibilrwydd o orfod ystyried cwtogi oriau’r ddesg gymorth TG yn sgil colli
un swydd yn ddiweddar, fod pob cyfrifiadur yn cael ei uwchraddio o Windows 10 i
Windows 11, a bod system ‘top desk’ a system ffon y Cyngor yn cael eu symud i’r
cwmwl. Cadarnhawyd fod Diogelwch seibr
yn parhau’n flaenoriaeth, gyda’r Cyngor yn arweinydd ar waith Diogelwch seibr
ar draws Cymru. Nodwyd hefyd fod Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi
cwblhau 30% o’r cynllun Archwilio yn unig gan fod blaenoriaeth wedi ei roi i
gyflawni gwaith ar y Gronfa Ffyniant cyffredin, sy’n denu incwm. Nodwyd hefyd fod prisiau i weinyddu cyfrifon
Cynghorau Cymuned am gynyddu fymryn gan fod y Cyngor wedi bod yn gwneud hyn ar
golled. Adroddwyd fod £2,117.000 o incwm dyledus, gyda
gwaith olrhain y sefyllfa yn digwydd ar fyrder.
Nodwyd hefyd fod cyfradd casglu trethi y Cyngor wedi llithro gyda
cyfradd yn Is na’r gorffennol, gyda’r llithrad yn sgil cynnydd yn y dreth
Cyngor a nifer o bobl yn methu a thalu, ond fod y cylch adfer yn mynd
rhagddo. Cydnabuwyd gwaith caled yr holl
Adran. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: ·
Gofynnwyd am wybodaeth
bellach i’r Aelodau Cabinet ynghylch defnydd y Cyngor o ddeallusrwydd
artiffisial o Mewn ymateb nodwyd yr angen i ymchwilio ymhellach, i sicrhau fod unrhyw
ddatblygiad yn gweithio gyda’r Iaith Gymraeg, a bod angen mewnbwn pobl ar
adegau. ·
Nodwyd y byddai’r Aelod
Cabinet yn adrodd ar yr adolygiadau ym maes treth Cyngor ac incwm i’r dyfodol ·
Nodwyd diolch i’r Adran
Budd-daliadau hefyd am hyrwyddo’r budd daliadau sydd ar gael yn arbennig i bobl
bregus. Awdur: Dewi Aeron Morgan, Pennaeth Cyllid |
|
BLAENRAGLEN Y CABINET Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nodwyd fod yr eitem gerbron er gwybodaeth
i’r Aelodau Cabinet. |