Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Gwen Alaw Roberts E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd pawb i’r cyfarfod. Nodwyd bod rhaid i’r Cyng. Dewi Jones a’r Cyng. Menna
Trenholme adael y cyfarfod am 4:00yh er mwyn mynychu cyfarfod arall. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd buddiant gan y Cyng. Nia Jeffreys mewn perthynas
ag Eitem 6. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, a
ni adawsant y cyfarfod. Datganwyd buddiant gan y Cyng. Paul Rowlinson mewn perthynas
ag Eitem 11, a bu i’r aelod adael y cyfarfod. Datganwyd buddiant gan y Cyng. Dewi Jones mewn perthynas ag
Eitemau 13 ac 14, a bu i’r aelod adael y cyfarfod. |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 14 HYDREF Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Hydref
2025 fel rhai cywir. Tynnwyd sylw gan y Swyddog Monitro at y gwall yn y
cyfieithiad o sylwadau’r Aelod Lleol yn adroddiad Eitem 8, y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 14 Hydref 2025. Datganwyd mai geiriau Cymraeg yr Aelod Lleol oedd “Pe
byddai cynnig arfaethedig yma’n cael ei wireddu ni fyddai teuluoedd Cymru
Cymraeg am ddod i fyw i’r pentref i fagu ei plant a rwyf yn tybio bydd
mewnfudwyr yn prynu y tai ac yn gwneud y pentref yn le diarth”. Nodwyd nad yw'r cyfieithiad “and
I assume immigrants will buy the houses
and make the village a foreign place” yn gyfieithiad cywir o’r uchod ac nad yw’n
adlewyrchu bwriad yr Aelod Lleol. Cadarnhawyd mai’r cyfieithiad cywir, a roddwyd gan Adran
Gyfieithu’r Cyngor, yw “and I assume
that incomers would buy the houses
and make the village an unfamiliar
place”, sy’n adlewyrchiad mwy teg o fwriad yr Aelod
Lleol. Cynigiwyd ymddiheuriad i’r Aelod Lleol gan y Prif Weithredwr
am y gwall hwn, gan nodi nad oedd y cyfieithiad gwreiddiol yn cynrychioli ei
ddatganiad. Derbyniwyd y newid hwn gan y Cabinet. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL RHIANT CORFFORAETHOL 2024/25 Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sy’n adrodd
ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn 2024/25. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sy’n adrodd
ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn 2024/25. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro’r cyfrifoldeb statudol
sydd gan y Cyngor a’i bartneriaid i weithredu fel rhiant corfforaethol i bob
plentyn mewn gofal yng Ngwynedd. Nodwyd mai nod y Cyngor yw bod bob plentyn
mewn gofal yn byw bywyd hapus a diogel. Cadarnhawyd mai’r Panel sy’n
goruchwylio’r gwaith hwn ar ran y Cyngor. Amlygwyd bod 280 plentyn mewn gofal yng Ngwynedd ym mis
Mawrth 2025, sydd 1 yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Ychwanegwyd bod llawer o
symudiad o fewn y grŵp hwn, gyda phlant yn gadael ac eraill yn dod i mewn
i ofal yn ystod y flwyddyn. Datganwyd bod 186 plentyn mewn lleoliadau maeth, 21 mewn
lleoliadau preswyl, 54 wedi’u lleoli gyda’u rhieni, ac 15 o bobl ifanc yn byw
yn annibynnol gyda chefnogaeth. Amlygwyd bod cynnydd yn nifer y plant mewn
gofal sy’n cael eu lleoli yng Ngwynedd, gan ychwanegu bod lleoli plant yn agos
at eu cymunedau yn gadarnhaol. Datgelwyd bod y rhan fwyaf o’r plant a ddaeth i mewn i ofal
yn ystod cyfnod yr adroddiad o dan 5 oed, a bod nifer o’r achosion yn
gysylltiedig â phroblemau diogelu, camddefnyddio sylweddau, neu drais yn y
cartref. Cyfeiriwyd at y gefnogaeth sy’n cael ei gynnig i deuluoedd
megis drwy’r Tîm o Amgylch y Teulu a’r Gwasanaethau Trobwynt, gan nodi eu bod
yn parhau i gael effaith cadarnhaol. Eglurwyd bod cynnydd cadarnhaol yn y nifer o gartrefi maeth
cofrestredig, yn ogystal â lleihad yn y nifer o blant a brofodd 3 neu fwy o
symudiadau yn eu lleoliad. Yn ystod 2024/25 datblygwyd pecyn o fuddiannau i ofalwyr
maeth y Sir, sy’n cynnwys gostyngiad mewn Treth Cyngor, tocyn parcio am ddim, a
defnydd o ganolfannau hamdden. Cyfeiriwyd at y Prosiect Cartrefi Grŵp Bychain gan nodi
bod 3 eiddo newydd wedi ei brynu yn ystod y flwyddyn. Amlygwyd bod y cartref
cyntaf wedi ei agor ym Morfa Bychan, a bod dau dŷ arall ar y gweill. Mynegwyd balchder bod perfformiad iechyd plant mewn gofal
wedi gwella’n sylweddol, gan nodi bod cyfran helaeth o’r plant hyn wedi
cofrestru â meddyg teulu a deintydd. Pwysleisiwyd bod cyd weithio agos gyda
CAMHS a’r gwasanaeth iechyd i sicrhau cefnogaeth addas i bob plentyn. Nodwyd bod y Panel wedi bod yn archwilio sut i wneud Gwynedd
yn Gyngor ‘Trawma Wybodus’ gan gynnig hyfforddiant i’r gweithlu. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Panel yn drawsadrannol ac
ymfalchïwyd ei fod yn gosod safonau’r Cyngor yn uchel. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Cydnabuwyd a diolchwyd i rieni maeth am y gwaith gwych a gaiff ei wneud ganddynt ar draws y Sir. Holwyd am effaith y newid mewn rheoliadau i wneud lleoliadau plant yn ddielw. Cadarnhawyd bod bwriad i’r lleoliadau plant fod yn ddielw erbyn 2030, ond nad yw’r ateb yn ddu a gwyn ar y pwynt hwn. Nodwyd bod y Ddeddf yn dod i rym ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD 2024/2025 Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad
Cyngor Gwynedd 2024/25 ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei
fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad
Cyngor Gwynedd 2024/25 ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei
fabwysiadu. TRAFODAETH Mynegwyd balchder o gyflwyno’r adroddiad, gan nodi mai hwn
yw’r ail adroddiad perfformiad o Gynllun y Cyngor 2023-2028. Crybwyllwyd bod sylw wedi ei roi i sylwadau’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio, a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad. Datganwyd bod y ffaith i’r Cyngor allu cyflawni cymaint
eleni gyda chyllideb hollol annigonol, yn wyrthiol. Nodwyd bod y dogfennau yn coladu ystod eang o wybodaeth, a
chaiff yr adroddiadau hyn eu cynnwys fel tystiolaeth i’r Asesiad Perfformiad
Panel y flwyddyn nesaf. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur: Dewi Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor |
|
|
ADRODDIAD CHWARTEROL - CADEIRYDD Y BWRDD RHAGLEN CYNLLUN YMATEB (TACHWEDD 2025) Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad gerbron sef yr ail adroddiad
chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad gerbron sef yr ail adroddiad
chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. TRAFODAETH Amlygwyd mai hwn yw’r ail adroddiad chwarterol gan Gadeirydd
y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. Eglurwyd i’r Adolygiad Ymarfer Plant gael ei gyhoeddi ar y
4ydd o Dachwedd. Tynnwyd sylw at ddewrder y dioddefwyr a’r goroeswyr, gan nodi
eu bod ar flaen meddyliau pob un wrth drafod y pwnc anodd hwn. Nodwyd bod yr adroddiad yn erchyll i’w ddarllen a’i fod yn
amlygu methiannau’r Cyngor. Ymddiheurwyd yn ddiffuant i’r dioddefwyr a phawb a
gafodd eu heffeithio gan y troseddau ffiaidd, gan sicrhau y bydd y Cyngor yn
gweithredu ar argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant. Datganwyd bod yr adroddiad gerbron yn diweddaru’r Cabinet ar
waith y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. Paratowyd yr Adroddiad gan Gadeirydd
Annibynnol y Bwrdd, sef Yr Athro Sally Holland. Esboniwyd bod yr Adroddiad hwn
wedi ei ysgrifennu cyn i’r Adolygiad Ymarfer Plant gael ei gyhoeddi, ac nad
yw’r Bwrdd wedi cael cyfle eto i gyfarfod yn dilyn y cyhoeddiad hwn. Croesawyd Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb
i’r cyfarfod. Cydnabuwyd bod yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi’i gyhoeddi a’r
canfyddiadau’n erchyll. Nodwyd bod y diwylliant ehangach o fwlio ac ymddygiadau
annerbyniol gan y Pennaeth hwn, a’r cyfleoedd a gollwyd i herio ac atal niwed
pellach, yn gwneud darlleniad sobor. Pwysleisiwyd bod angen newid, yn enwedig mewn materion
diwylliannol ehangach o herio arferion gwael neu annerbyniol a system trin
pryderon a chwynion. Yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Rhagfyr, bydd cynllun
wedi ei lunio a set o fesurau effeithiolrwydd wedi eu diweddaru. Bydd y Cynllun
yn adlewyrchu’r argymhellion o’r Adolygiad Ymarfer Plant gan barhau i adolygu’r
cylch gorchwyl i gryfhau ffyrdd o weithio. Cyfeiriwyd at adroddiad y Bwrdd wrth sôn am y cynnydd sydd
wedi ei wneud ers yr adroddiad blaenorol, yn ogystal â’r meysydd a fu’n fwy
heriol. Ategwyd yr angen am ddiwylliant o her ar draws yr Awdurdod Lleol a’r
angen i hynny fod yn bresennol yn y Bwrdd yn ogystal. Nodwyd bod hyn yn cynnwys
diweddariadau ysgrifenedig gan Swyddogion, mesurau effaith, adroddiadau
arolygu, ac ychwanegwyd bod y Cadeirydd yn cyfarfod â’r asiantau i drafod eu
profiadau hwy o’r Cynllun. Cadarnhawyd gan y Cadeirydd ei bod hi ac aelodau eraill y
Bwrdd eisiau i Wynedd lwyddo yn eu hymateb. Nodwyd ei bod eisiau i bobl Gwynedd
fod yn hyderus bydd y system ddiogelu yn gwneud y gwaith sydd ei angen i
sicrhau bod bob plentyn yn cael ei gefnogi ac yn ffynnu. Amlygwyd pwysigrwydd cynnig tryloywder yn y gwaith sy’n mynd
rhagddo, gan bwysleisio y bydd y gwaith hwn yn galed ac yn cymryd adnoddau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Cytunwyd ar bwysigrwydd gwrando ar lais y plentyn, a nodwyd bod nifer o agweddau o gynnwys llais y plentyn y gall y Cyngor wneud gwaith cadarnhaol yn datblygu arnynt. Amlygwyd y bydd awgrymiadau gan y Bwrdd yn gynwysedig yng Nghynllun newydd Gwynedd er mwyn sicrhau fod pwyslais ar lais y plentyn, a bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
|
YMGYNGHORIAD STATUDOL AR BARC CENEDLAETHOL ARFAETHEDIG GLYNDWR Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd yr ymateb yn Atodiad 4 fel ymateb Cyngor
Gwynedd ar yr ymgynghoriad statudol gan ychwanegu gwrthwynebiad i’r gorchymyn
dynodi drafft a ffin arfaethedig i Barc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr. Dirprwywyd yr hawl i Bennaeth Adran yr Amgylchedd wneud
unrhyw addasiadau ansylweddol y gallai fod yn ofynnol i'r ymateb cyn iddo gael
ei gyflwyno i Cyfoeth Naturiol Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd yr ymateb yn Atodiad 4 fel ymateb Cyngor
Gwynedd ar yr ymgynghoriad statudol gan ychwanegu gwrthwynebiad i’r gorchymyn
dynodi drafft a ffin arfaethedig i Barc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr. Dirprwywyd yr hawl i Bennaeth Adran yr Amgylchedd wneud
unrhyw addasiadau ansylweddol y gallai fod yn ofynnol i'r ymateb cyn iddo gael
ei gyflwyno i Cyfoeth Naturiol Cymru. TRAFODAETH Esboniwyd mai trafod ymateb y Cyngor i’r Ymgynghoriad
Statudol ar Barc Cenedlaethol arfaethedig Glyndŵr yw pwrpas yr eitem.
Datganwyd gan yr Aelod Cabinet perthnasol ei fod yn ceisio perswadio’r Cabinet
i newid ymateb y Cyngor i’r Ymgynghoriad. Amlygwyd yr argyfyngau ariannol, amgylcheddol a thai, a’r
holl doriadau sy’n wynebu’r Cyngor a chymdeithas ar hyn o bryd. Nodwyd nad yw
datblygu Parc Cenedlaethol newydd felly yn flaenoriaeth i drigolion. Croesawyd Aelod Lleol Ward Llandderfel i’r cyfarfod ac
ategwyd ganddo eiriau’r Aelod Cabinet. Tynnwyd sylw at y ffaith fod y Parciau
Cenedlaethol cyfredol wedi bod yn cael eu tanariannu’n flynyddol. Pryderwyd yn ogystal am effaith Parc Cenedlaethol newydd ar
or-dwristiaeth yn ardal Llandderfel ac ar y Gymraeg yn y gymuned leol. Nodwyd
bod canran uchel o dai haf a thai gwyliau yn Llandderfel ar hyn o bryd, a
thynnwyd sylw at y ffaith bod prisiau tai yn uwch fyth o fewn y Parciau
Cenedlaethol. Pryderwyd am effaith ehangach hyn ar y gymdeithas. Amlygwyd y diffyg gwybodaeth am y dynodiad hwn a’i effaith
posib, ac ategwyd y pryderon am yr effaith ar y Gymraeg a nodwyd gan yr Aelod
Cabinet a’r Aelod Lleol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
· Newidiwyd
y penderfyniad a geisir er mwyn nodi gwrthwynebiad y Cyngor i’r Ymgynghoriad
Statudol. Awdur: Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd |
|
|
CYNNAL PLEIDLAIS ARDALOEDD GWELLA BUSNES CAERNARFON Cyflwynwyd gan: Cyng. R Medwyn Hughes Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Nodwyd bod y Cynnig Ardal Gwella Busnes (AGB) a dogfennau atodol gan HWB Caernarfon wedi eu derbyn gan y Cyngor a’u bod yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau; 2. Cyfarwyddwyd y Swyddog Canlyniadau i gynnal pleidlais HWB Caernarfon; 3. Cymeradwywyd y trefniadau a’r goblygiadau ariannol a nodir yn Rhan 3 o’r adroddiad; 4. Dirprwywyd yr hawl i Aelod Cabinet Economi i bleidleisio ar ran yr Awdurdod ym mhleidlais yr AGB. 5. Os yw’r bleidlais yn llwyddiannus yng Nghaernarfon ac yn unol â Rheoliadau Ardal Gwella Busnes (Cymru) 2005, dirprwyir hawl i Bennaeth Gwasanaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â phenaethiaid yr adrannau canlynol i gymeradwyo'r fersiwn derfynol o’r Cytundeb Ymarferol a’r Cytundeb Gwaelodlin a chwblhau y cytundebau yn unol a threfniadau y Cyngor: · Amgylchedd · Priffyrdd, Peirianneg ac YGC · Cyfreithiol ·
Cyllid. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R Medwyn Hughes. PENDERFYNIAD 1. Nodwyd bod y Cynnig Ardal Gwella Busnes (AGB) a dogfennau
atodol gan HWB Caernarfon wedi eu derbyn gan y Cyngor a’u bod yn
cydymffurfio gyda’r Rheoliadau; 2. Cyfarwyddwyd y Swyddog Canlyniadau i gynnal pleidlais HWB
Caernarfon; 3. Cymeradwywyd y trefniadau a’r goblygiadau ariannol a
nodir yn Rhan 3 o’r adroddiad; 4. Dirprwywyd yr hawl i Aelod Cabinet Economi i bleidleisio
ar ran yr Awdurdod ym mhleidlais yr AGB. 5. Os yw’r bleidlais yn llwyddiannus yng Nghaernarfon ac yn
unol â Rheoliadau Ardal Gwella Busnes (Cymru) 2005, dirprwyir hawl i Bennaeth
Gwasanaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â phenaethiaid yr adrannau
canlynol i gymeradwyo'r fersiwn derfynol o’r Cytundeb Ymarferol a’r Cytundeb
Gwaelodlin a chwblhau y cytundebau yn unol a threfniadau y Cyngor: • Amgylchedd • Priffyrdd, Peirianneg ac YGC • Cyfreithiol • Cyllid. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr eitem gan esbonio mai gofyn am ganiatâd
pleidlais mae’r adroddiad. Tywyswyd yr aelodau drwy’r penderfyniad a geisir a nodwyd bod y mater dan sylw yn dechnegol. Awdur: Llyr Beaumont Jones, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned Esyllts Rhys Jones, Rheolwr Rhaglenni Adfywio |
|
|
CYSONI FFIOEDD AM OFAL I OEDOLION YNG NGWYNEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadwyd Polisi Codi Tâl am ofal diwygiedig yn unol ag
argymhellion yr adroddiad hwn. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan. PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd Polisi Codi Tâl am ofal diwygiedig yn unol ag
argymhellion yr adroddiad hwn. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adran wedi asesu’r ffioedd sydd eisoes yn
cael eu codi am ofal yng Ngwynedd, ac amlygwyd bod diffyg cysondeb ar draws y
Sir. Adnabuwyd bod y Polisi cyfredol mewn lle ers 2017 a’i fod yn
cydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,
ychwanegwyd bod y Polisi diwygiedig hefyd yn cyd-fynd â rheoliadau’r ddeddf
hon. Nodwyd bod y Polisi hwn wedi bod gerbron y Pwyllgor Craffu
Gofal a bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei gynnal. Cadarnhawyd nad yw’r Polisi newydd yn golygu y bydd cynnydd
mewn ffioedd i unigolion sydd eisoes yn talu, ond fe fydd yn cysoni ar draws y
Sir. Ategwyd pwysigrwydd hyn ar gyfer cynaliadwyedd y gwasanaethau. Ychwanegwyd y bydd y bobl hynny sy’n dod o dan y polisi hwn
yn gymwys ar gyfer asesiad ariannol trylwyr, er mwyn sicrhau nad ydynt yn talu
mwy nac y gallent ei fforddio. Eglurwyd bod uchafswm Llywodraeth Cymru o £100
yr wythnos o gyfraniad gan unigolion yn dal i fod yn ei le. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur: Alun Gwilym Williams, Pennaeth Cynorthwyol Busnes Mari Wynne Jones, Pennaeth Adran Oedolion |
|
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio Elenid Owen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd yr ymatebion i gwestiynau Ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar ymestyn y dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarlledu cyfarfodydd
(fel a nodir yn Atodiad A), er mwyn ymateb i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen. PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd yr ymatebion i gwestiynau Ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar ymestyn y dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarlledu
cyfarfodydd (fel a nodir yn Atodiad A), er mwyn ymateb i’r ymgynghoriad ar ran
y Cyngor. TRAFODAETH Trafodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad i
ymestyn dyletswydd ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor. Er mai cyfarfodydd y Cyngor
llawn sy’n ofynnol i’w darlledu, amlygwyd bod Cyngor Gwynedd eisoes yn gwe
ddarlledu cyfarfodydd y Cabinet, Cynllunio, a’r 3 pwyllgor Craffu yn ogystal. Datganwyd bod y Cyngor yn croesawu ymestyn mynediad pobl
Gwynedd at waith y Cyngor ond pryderwyd am y pwysau ychwanegol byddai hyn yn ei
roi ar y Cyngor yn ariannol ac o ran adnoddau staffio. Ategwyd y pryder am yr
adnoddau technegol sydd eu hangen i allu sicrhau hyn, gan nad oes systemau
safonol ar gyfer gwe ddarlledu cyfarfodydd yn bodoli yng Nghymru. Tynnwyd sylw at yr effaith cadarnhaol posib y gall gwe
ddarlledu mwy o gyfarfodydd ei gael ar y Gymraeg. Eglurwyd bod trafodaeth wedi cymryd lle yn y Pwyllgor
Gwasanaethau Democratiaeth ynglŷn â’r mater hwn, a bod yr aelodau hynny yn
cytuno gyda’r egwyddor ond yn pryderu am yr adnoddau a fydd eu hangen er mwyn
gweithredu’r cynlluniau hyn. Awdur: Vera Jones, Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith |
|
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Argymellwyd i’r Cyngor llawn ar 4 Rhagfyr 2025 mai’r
canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail
Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27: • Fod Cyngor Gwynedd
yn caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid). • Fod Cyngor Gwynedd
yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B,
yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid). • Fod Cyngor Gwynedd
yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn
CODI PREMIWM O 150% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol
ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. yn cynyddu’r premiwm o
100% i 150%). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones PENDERFYNIAD Argymhellwyd i’r Cyngor llawn ar 4 Rhagfyr 2025 mai’r
canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail
Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27: • Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail
gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
(h.y. dim newid). • Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI
PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid). • Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi
sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 150% ar gartrefi
sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (h.y. yn cynyddu’r premiwm o 100% i 150%). TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod rhaid i’r Cyngor wneud
penderfyniad blynyddol os ydyw am godi Premiwm ar Dreth Cyngor eiddo gwag
hir-dymor ac ail gartrefi, yn unol â gofynion Deddf Cyllid Llywodraeth Leol
1992. Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd wedi codi Premiwm o 150% ar
dreth Cyngor ail gartrefi perthnasol, a Phremiwm o 100% ar anheddau gwag hir
dymor ers y 1af o Ebrill 2023. Eglurwyd mai’r penderfyniad a geisir yw i gadw’r un lefel o
Bremiwm treth Cyngor ar ail gartrefi a chaiff ei godi’n bresennol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2026/27, ac yna cynyddu’r Premiwm i 150% ar eiddo gwag hir
dymor. Mae ymchwil parhaus wedi’i gynnal yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf i adnabod tueddiadau a dod i gasgliad ynglŷn â faint o’r
newidiadau hyn sy’n ganlyniad uniongyrchol o’r Premiwm. Adnabuwyd bod cynnydd yn nifer yr ail gartrefi ers 2024/25,
a hynny’n dilyn sawl blwyddyn o leihad yn y niferoedd. Aethpwyd ymlaen i nodi bod y nifer o eiddo gwag hir dymor
wedi aros yn gyson a bod trigolion Gwynedd yn gweld eiddo o’r fath yn
niweidiol. Adroddwyd bod cyfiawnhad i beidio cynnal ymgynghoriad
cyhoeddus arall, ond petai’r Cyngor am gynyddu’r Premiwm ymhellach, byddai’n
rhaid ymgynghori. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Tynnwyd sylw at y ffaith mai bwriad y Premiwm yw
i fynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n wynebu’r Sir, ac mai’r gobaith wrth
gynyddu’r Premiwm yw lleihau’r nifer o dai gwag yng Ngwynedd. Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid |
|
|
POLISI LLEIHAU TRETH CYNGOR O DAN ADRAN 13A(1)(C) O DDEDDF CYLLID LLYWODRAETH LEOL 1992 Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadwyd Polisi
Lleihau Treth Cyngor o dan Adran 13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol
1992 i roi arweiniad a ffiniau clir i swyddogion ar y defnydd o eithriadau rhag
y Premiwm a’r Dreth Cyngor sylfaenol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd Polisi Lleihau Treth Cyngor o dan Adran
13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i roi arweiniad a ffiniau clir
i swyddogion ar y defnydd o eithriadau rhag y Premiwm a’r Dreth Cyngor
sylfaenol. TRAFODAETH Datganwyd bod Adran 13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992 yn rhoi pwerau disgresiwn ychwanegol i’r Cyngor leihau swm y dreth
Cyngor sy’n daliadwy ar gyfer unigolion neu ddosbarthiadau o drethdalwyr. Amlygwyd y defnyddia’r Cyngor Adran 13A o Ddeddf 1992 i
gyflwyno eithriadau lleol, dewisol mewn achosion cyfyng iawn. Rhoddwyd ystyriaeth i achosion sydd wedi cael eu cyflwyno
i’r Adran Gyllid dros nifer o flynyddoedd wrth lunio’r Polisi arfaethedig.
Ychwanegwyd y gallai'r rhain fod yn geisiadau am ostyngiad mewn Treth Cyngor
sylfaenol, y Premiwm, neu’r ddau. Nodwyd bod eithrio o’r Dreth sylfaenol gan ddefnyddio Adran
13A yn gost uniongyrchol ar goffrau’r Cyngor, felly bod rhaid osgoi gosod
cynsail a allai niweidio’r Cyngor yn ariannol yn y tymor hir. Crybwyllwyd bod Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar hyn o
bryd, a all arwain at addasu rhai o’r eithriadau statudol. Nodwyd y caiff y
Polisi ei gadw o dan adolygiad parhaus, a’i addasu wrth i unrhyw newidiadau
deddfwriaethol gael eu cyflwyno. Amlygwyd y bydd y Polisi arfaethedig hwn yn galluogi pob
cais gael ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Pwysleisiwyd pwysigrwydd i
swyddogion y gwasanaeth trethi gael ganllawiau clir i’w dilyn, ac ychwanegwyd
bod cael panel i ystyried ceisiadau yn fodd o gael cysondeb mewn
penderfyniadau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Holwyd am yr orfodaeth ar berchnogion ail
gartrefi lleol i orfod talu Premiwm wedi ôl-ddyddio i flynyddoedd cyn i’r
Ddeddfwriaeth newydd ddod yn weithredol. Nodwyd bod nifer o eiddo wedi eu
trosglwyddo’n ôl o fand treth busnes i fand treth Cyngor ers cyflwyno’r
ddeddfwriaeth newydd. Amlygwyd mai Swyddfa’r Prisiwr sy’n gosod y dyddiad
gweithredol o pryd mae’r dreth Cyngor ar eiddo yn ddyledus a bod rhaid i’r
Cyngor weithredu yn unol â hynny. Ymhelaethwyd ar hyn gan nodi fod nifer o’r
ail gartrefi hyn a oedd yn dychwelyd i fand treth Cyngor hefyd yn disgyn o dan
y Premiwm, gan nad oedd unrhyw un yn byw ynddynt. Nodwyd bod y Polisi hwn yn
galluogi’r Cyngor edrych ar yr holl eithriadau sydd ar gael iddynt, ac yn
rhoi’r grym i allu edrych ar achosion penodol. Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol |
|
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.1 Derbyniwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd tuag at wireddu cynlluniau
arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol. 1.2 Cymeradwywyd
dileu un cynllun arbedion gwerth £25k perthnasol i 2025/26 yn y maes Cyswllt
Cwsmer yn yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol, gan ddefnyddio’r ddarpariaeth
arbedion a osodwyd o’r neilltu yn y gyllideb gorfforaethol. 1.3 Cymeradwywyd
arian pontio o £80k y flwyddyn am gyfnod o ddwy flynedd ar gyfer 2025/26 a
2026/27 i gynllun arbedion Neuadd Dwyfor yn yr Adran Economi a Chymuned. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones PENDERFYNIAD 1.1 Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y
cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol. 1.2 Cymeradwywyd dileu un cynllun arbedion gwerth £25k
perthnasol i 2025/26 yn y maes Cyswllt Cwsmer yn yr Adran Gwasanaethau
Corfforaethol, gan ddefnyddio’r ddarpariaeth arbedion a osodwyd o’r neilltu yn
y gyllideb gorfforaethol. 1.3 Cymeradwywyd arian pontio o £80k y flwyddyn am gyfnod o
ddwy flynedd ar gyfer 2025/26 a 2026/27 i gynllun arbedion Neuadd Dwyfor yn yr
Adran Economi a Chymuned. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adroddiad yn crynhoi sefyllfa arbedion y
Cyngor yn dilyn adolygiad ddiwedd Awst. Adroddwyd
bod arbedion gwerth £3.5 miliwn wedi eu proffilio ar gyfer cyllideb
2025/26. Datganwyd bod
trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai meysydd dros y blynyddoedd diwethaf. Datgelwyd bod cynlluniau arbedion hanesyddol am y cyfnod o
flwyddyn ariannol 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2025/26, wedi’u cynnwys yn
Atodiad 1. Amlygwyd bod 98% o’r arbedion hanesyddol bellach wedi eu
gwireddu, sy’n gadael cynlluniau gwerth £627,000 yn parhau heb eu gwireddu. Gan gyfeirio at Atodiad 2, eglurwyd bod y cynlluniau arbedion diweddaraf werth £15.6
miliwn. Ychwanegwyd bod 77% o’r arbedion eisoes wedi eu gwireddu, a 4% pellach
ar drac i gael eu cyflawni’n amserol. Crybwyllwyd bod
gwerth yr arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2026/27
ymlaen i’w gweld yn Atodiad 3. Crynhowyd yr eitem gan adrodd bod £46 miliwn o arbedion wedi
eu gwireddu, sydd yn 92% o’r £50 miliwn gofynnol dros y cyfnod. Rhagwelir y
bydd 1.3% pellach yn cael eu gwireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau |
|
|
CYLLIDEB REFENIW 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2025 Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.1 Cymeradwywyd
cymorth ariannol ychwanegol uwchlaw’r taliad
cytundebol sydd yn amcanu i fod yn £219k i Gwmni Byw'n Iach i’w gyllido o’r gronfa
trawsffurfio, gan ddirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet dros Economi mewn
ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i
gytuno ar swm y gefnogaeth ariannol derfynol uwchlaw y tâl cytundebol gyda
Byw’n Iach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. 1.2 Gofynwyd i’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Amgylchedd
gyflwyno adroddiad pellach ar yr opsiynau posib ar gyfer ariannu’r costau o
ddiogelu/dymchwel adeilad y Corbett Arms yn Nhywyn. 1.3 Cymeradwywyd
trosglwyddiad o £3.757 miliwn o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa
Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor, gyda’i ddefnydd i’w ystyried cyn diwedd
y flwyddyn ariannol bresennol. 1.4 Cymeradwywyd y
trosglwyddiadau ariannol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r
cronfeydd, gan ddileu gwerth £576k o falansau
negyddol ar gronfeydd yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant sef £300k a’r Adran
Plant a Theuluoedd £276k, yn dilyn i'r adrannau fethu cyflawni gwasanaethau o
fewn eu cyllideb dros y tair blynedd ddiwethaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones PENDERFYNIAD 1.1 Cymeradwywyd
cymorth ariannol ychwanegol uwchlaw’r taliad
cytundebol sydd yn amcanu i fod yn £219k i Gwmni Byw'n Iach i’w gyllido o’r
gronfa trawsffurfio, gan ddirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet dros Economi mewn
ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i
gytuno ar swm y gefnogaeth ariannol derfynol uwchlaw y tâl cytundebol gyda
Byw’n Iach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
1.2 Gofynnwyd i’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Amgylchedd
gyflwyno adroddiad pellach ar yr opsiynau posib ar gyfer ariannu’r costau o
ddiogelu/dymchwel adeilad y Corbett Arms yn Nhywyn. 1.3 Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.757 miliwn o danwariant
ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor,
gyda’i ddefnydd i’w ystyried cyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol. 1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol fel yr
amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan ddileu gwerth
£576k o falansau negyddol ar gronfeydd yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant sef £300k a’r Adran Plant a Theuluoedd £276k, yn
dilyn i'r adrannau fethu cyflawni gwasanaethau o fewn eu cyllideb dros y tair
blynedd ddiwethaf. TRAFODAETH Adroddwyd bod yr adroddiad hwn yn manylu ar yr adolygiad
diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am y cyfnod 2025/26, a’r rhagolygon tuag
at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Symudwyd ymlaen i ddatgan bod rhagolygon o orwariant o £6.3
miliwn gan adrannau’r Cyngor yn dilyn adolygiad diwedd Awst, gyda 75% ohono yn
y maes gofal, oedolion a phlant. Ychwanegwyd bod gorwariant sylweddol yn y
meysydd gwastraff, priffyrdd a bwrdeistrefol yn ogystal. Cadarnhawyd bod
tanwariant ar gyllidebau corfforaethol, sydd yn lleihau’r rhagolygon gorwariant
yn ei gyfanrwydd i £2.5 miliwn. Tywyswyd y Cabinet drwy Atodiad 2, gan dynnu sylw at y
diffyg cyllidebol sy’n wynebu nifer o adrannau’r Cyngor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Nodwyd
bod hyn yn sefyllfa a chaiff ei gweld yn flynyddol, sef cynnydd yn y galw ond
lleihad yn y gyllideb. Ychwanegwyd mai tan-gyllido yw’r broblem, nid
gorwariant. · Tynnwyd
sylw at y darlun cenedlaethol a’r ffaith bod Cynghorau ar draws Cymru yn
gorwario yn yr un meysydd. Nodwyd bod y gorwariant yn debygol o fod yn uwch y
flwyddyn nesaf oherwydd nad oes cyllid i’w roi i mewn. · Datganwyd
siom bod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn meysydd sydd ddim yn elwa’r
gymdeithas. · Soniwyd
bod yr Adran Tai ac Eiddo wedi prynu eiddo ym Mangor a Chaernarfon
er mwyn rhoi llety i bobl ddigartref, a fydd yn lleihau costau llety dros dro
megis gwely a brecwast. Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau |
|
|
RHAGLEN GYFALAF 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST (SEFYLLFA 31 AWST 2025) Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: · Derbyniwyd yr
adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2025) o’r rhaglen gyfalaf.
· Cymeradwywyd yr
addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 o
safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad),
sef: -cynnydd o £290,000
mewn defnydd o fenthyca -cynnydd o
£13,390,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau -cynnydd o £36,000
mewn defnydd o gyfraniadau refeniw -lleihad o
£2,743,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf -cynnydd o £29,000
mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones PENDERFYNIAD • Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa
31 Awst 2025) o’r rhaglen gyfalaf. • Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a
gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir
yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef: -cynnydd o £290,000
mewn defnydd o fenthyca -cynnydd o
£13,390,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau -cynnydd o £36,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw -lleihad o £2,743,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf -cynnydd o £29,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac
eraill. TRAFODAETH Adroddwyd mai prif ddiben yr adroddiad yw cyflwyno’r rhaglen
gyfalaf diwygiedig (sefyllfa 31 Awst 2025), a chymeradwyo’r addasiadau i’r
ffynonellau ariannu perthnasol. Nodwyd y ceir dadansoddiad fesul Adran o’r
rhaglen gyfalaf £153 miliwn am y 3 blynedd 2025/26 - 2027/28. Cyfeiriwyd at Ran
3.2.3 o’r adroddiad, sy’n
manylu ar y ffynonellau i ariannu’r cynnydd net o £48miliwn ers y gyllideb
wreiddiol, gyda £37miliwn ohono yn deillio o ail broffilio ar ddiwedd y
flwyddyn flaenorol. Adroddwyd mai’r prif gasgliadau yw bod cynlluniau pendant
mewn lle i fuddsoddi £101miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda
£47miliwn (47%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol. Mae £12 miliwn o wariant arfaethedig ychwanegol wedi’i
ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28. Cyfeiriwyd at Atodiad 2 wrth sôn
am y prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol. Rhestrwyd y grantiau
ychwanegol, gwerth £13 miliwn, y llwyddodd y Cyngor eu denu ers y gyllideb
wreiddiol. Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau |