Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Gwen Alaw Roberts  E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. R Medwyn Hughes a’r Cyng. Huw Wyn Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganwyd buddiant personol gan y Cyng. Nia Jeffreys mewn perthynas ag eitem 6, ac fe adawodd y cyfarfod. 

 

Datganwyd buddiant gan y Cyng. Nia Jeffreys mewn perthynas ag eitem 9. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, a ni adawsant y cyfarfod. 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 RHAGFYR pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2025 fel rhai cywir. 

 

6.

POLISI CLUDIANT ADDYSG (DRAFFT) pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad ar y Polisi Cludiant Addysg (Drafft).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad ar y Polisi Cludiant Addysg (Drafft).

 

TRAFODAETH

 

Pwysleisiwyd mai Polisi ar ei ffurf drafft sydd yma, gan mai gofyn i’r Cabinet am hawl i gynnal ymgynghoriad yw diben dod a’r eitem i’r cyfarfod hwn.

Datganwyd bod y Polisi presennol ar waith ers 2009 felly adnabuwyd ei bod felly’n amserol i ddatblygu polisi newydd.

 

Cyfeiriwyd at y Cynllun Seddi Gweigion gan egluro y cynigir sedd wag i ddysgwyr nad oes ganddynt hawl i gludiant di-dâl os bydd argaeledd sedd ar gludiant. Ychwanegwyd bod gofynion deddfwriaethol yn ei gwneud yn anoddach i gynnig y trefniant hwn bellach.

 

Esboniwyd bod cludiant wedi bod yn cael ei ddarparu i ysgolion ffydd yn unol â’r gofyn statudol, ond nad oes cyfeiriad at ysgolion ffydd yn y polisi presennol. Bydd y Polisi (Drafft) gerbron yn cynnig yr eglurder o ran y cludiant a gynigir.

 

Amlygwyd bod y Cyngor yn darparu cludiant dewisol i ddysgwyr ôl-16 llawn amser ar hyn o bryd, a manylwyd ar gynnig y Polisi (Drafft) i ddarparu cludiant i’r ysgol ddalgylch/addas agosaf, ynghyd ag i’r safle coleg agosaf sy’n darparu’r cwrs. Ymhelaethwyd ar y cynnig gan nodi nad yw’n cyfyngu ar opsiynau dysgwyr o ran y cyrsiau sydd ar gael iddynt, ond ei fod yn sicrhau mai cludiant i’r safle agosaf sy’n cynnig y cwrs hwnnw yn unig a gaiff ei gynnig.

 

Nodwyd bod y Polisi (Drafft) hefyd yn cynnig mwy o wybodaeth am breswyliad deuol, gan ategu y bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant o’r prif gyfeiriad.

 

Pwysleisiwyd nad oes unrhyw newid i’r drefn cludiant i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Polisi (Drafft) hwn, nac i’r drefn o fesur pellter teithio i dderbyn cludiant am ddim.

 

Cyfeiriwyd at y ddwy ran sydd i’r Polisi, gan nodi nad oes newid o ran y gofynion statudol i ddarparu cludiant addysg y mae’n rhaid eu cyfarch. Adnabuwyd mai addasiadau a newidiadau i elfennau’r Polisi sydd o dan ddisgresiwn yr Awdurdod a gaiff eu cynnig yma.

Datganwyd y bydd y Polisi (Drafft) hwn yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg ag Economi yn dilyn yr ymgynghoriad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Holwyd am eglurder o ran y dull mesur pellter teithio, a soniwyd am addasrwydd y lonydd a’r llwybrau cerdded y mae disgwyl i ddysgwyr eu defnyddio er mwyn cyrraedd yr ysgol. Cadarnhawyd y caiff pellter ei fesur drwy system fapio (GIS) a’i fod felly’n gyson i bob dysgwr. Ychwanegwyd bod system i asesu addasrwydd ffyrdd a llwybrau yn ogystal, ac y buasai cludiant yn cael ei ddarparu os nad yw llwybr yn addas. Anogwyd unrhyw un sy’n wynebu rhwystrau o ran cludiant i ymateb i’r ymgynghoriad, fel bod posib i’r sylwadau hynny gael eu hystyried.

·       Datganwyd cefnogaeth i lwybr y Polisi (Drafft) hwn, gan nodi ei fod yn ffordd ddemocrataidd o fabwysiadu’r ddogfen. Pwysleisiwyd y pwysigrwydd i drigolion ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

·       Sicrhawyd nad oes effaith yn cael ei ragweld ar gostau byw yn deillio o’r Polisi (Drafft) hwn.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Debbie Jones, Pennaeth Cynorthwyol Addysg

7.

STRATEGAETH CAFFAEL 2026 - 2031 pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Llio Elenid Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a chymeradwywyd y Strategaeth Caffael 2026 – 2031 (Atodiad 1).

 

Rhoddwyd yr hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol wneud addasiadau gweithredol i’r Strategaeth fel mae’r angen yn codi i sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau statudol (megis canllawiau statudol y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a chymeradwywyd y Strategaeth Caffael 2026 – 2031 (Atodiad 1).

 

Rhoddwyd yr hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol wneud addasiadau gweithredol i’r Strategaeth fel mae’r angen yn codi i sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau statudol (megis canllawiau statudol y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)).

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan fanylu ar y broses Caffel sef sicrhau nwyddau, gwasanaethau neu waith ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor. Amlygwyd ei fod yn rhan allweddol o weithgarwch y Cyngor.

 

Datgelwyd pwysigrwydd bod gan y Cyngor Strategaeth Caffael. Ymhelaethwyd gan nodi y bydd yn ofyn statudol yn y dyfodol agos, ac y mae’n sicrhau y caiff y Cyngor y gwerth gorau am arian cyhoeddus, ac yn sicrhau’r ansawdd gorau i bobl Gwynedd.

Adnabuwyd bod y Cyngor yn gwario oddeutu £200 miliwn y flwyddyn ar weithgarwch caffael. Pwysleisiwyd yr angen i gael y nwyddau, gwasanaethau neu waith am y pris gorau, gan sicrhau’r ansawdd gorau yn ogystal. Amlygwyd bod hefyd angen cyfarch amcanion eraill, megis datgarboneiddio a sicrhau gwerth cymdeithasol - mae’r Strategaeth yn gosod y cyfeiriad a’r weledigaeth er mwyn galluogi i hyn ddigwydd.

Cyfeiriwyd at y 7 maes blaenoriaeth a gaiff eu cynnwys yn y Strategaeth, gan amlygu fod pob maes blaenoriaeth wedi’i adnabod fel maes allweddol yng nghyd-destun caffael yng Nghyngor Gwynedd. Rhestrwyd y meysydd hyn a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Cadarnhawyd bod y Strategaeth Caffael wedi bod gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Hydref 2025, a phenderfynodd y Pwyllgor Craffu dderbyn y Strategaeth a’r adroddiad.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Diolchwyd am y strategaeth a gofynnwyd sut y mae’r Cyngor yn mesur gwerth caffael. Nodwyd bod gan yr adran fesur o ran y budd lleol, a gaiff ei fesur yn rheolaidd drwy drefniadau herio perfformiad. Ychwanegwyd bod y Strategaeth yn rhoi cyfle i edrych ar feysydd eraill ar draws y Cyngor lle mae caffael yn effeithio arnynt, a datblygu mesurau i gyd-fynd â’r blaenoriaethau hynny. Amlygwyd bod gwerth am arian yn ffactor yma, yn ogystal â gwerth cymdeithasol, sy’n cynnwys nifer o fesurau pellach. Nodwyd bod y Strategaeth yn rhoi cyfle i fesur gwerth caffael mewn amryw o feysydd ar draws y Cyngor.

·       Holwyd am ddefnydd y Gymraeg i gyflenwyr, gan amlygu bod y mater hwn wedi’i godi gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn ogystal. Datganwyd bod cyngor cyfreithiol wedi ei dderbyn, a bod hwnnw’n cael ei weithredu i’r eithaf. Mae’r Gymraeg yn ofynnol mewn nifer o gontractau, felly nodwyd bod bwriad i ddilyn hynny cyn belled ag sy’n bosib. 

·       Cyfeiriwyd at y 7 blaenoriaeth gan gwestiynu a oes prif flaenoriaeth o’r 7 a nodwyd. Datganwyd mai’r brif flaenoriaeth yw i “wneud y mwyaf o werth y bunt yng Ngwynedd” fel y nodir ar flaen y Strategaeth, a soniwyd bod y 7 blaenoriaeth hyn yn unigryw i Wynedd. 

·       Gofynnwyd a oes unrhyw densiynau’n codi rhwng y blaenoriaethau. Datganwyd bod tensiynau yn anorfod ac yn rhywbeth fydd rhaid i’r timau categori caffael fod yn wyliadwrus ohono.

·       Holwyd sut  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Arwel Evans, Rheolwr Caffael

8.

POLISI CANU'R GLOCH pdf eicon PDF 164 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Llio Elenid Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

 

Bod y Cabinet yn mabwysiadu’r Polisi Canu’r Gloch diwygiedig i staff a welir yn Atodiad 1.

 

Bod y Polisi Canu’r Gloch i staff yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y cyfle cyntaf er mwyn derbyn sylwadau ar y drefn ag argymhellir.

 

Cwblhau adolygiad o’r trefniadau presennol ar gyfer galluogi Cynghorwyr i godi pryderon, gan gynnwys modd annibynnol pan fo angen, a bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â’r sefydliad Protect ac mewn ymgynghoriad â Chynghorwyr.  

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd:

 

Bod y Cabinet yn mabwysiadu’r Polisi Canu’r Gloch ddiwygiedig i staff a welir yn Atodiad 1.

 

Bod y Polisi Canu’r Gloch i staff yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y cyfle cyntaf er mwyn derbyn sylwadau ar y drefn ag argymhellir.

 

Cwblhau adolygiad o’r trefniadau presennol ar gyfer galluogi Cynghorwyr i godi pryderon, gan gynnwys modd annibynnol pan fo angen, a bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â’r sefydliad Protect ac mewn ymgynghoriad â Chynghorwyr.  

 

TRAFODAETH

 

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn crynhoi’r gwaith sydd wedi ei gyflawni i adolygu Polisi a threfniadau canu’r gloch i staff y Cyngor. Datganwyd bod y polisi yn cryfhau’r trefniadau ymarferol ar gyfer adnabod achosion posib o ganu’r gloch, a’r llwybrau posib i ymdrin â’r pryderon hynny.

 

Adroddwyd mai’r camau nesaf, pe bai’r Polisi’n cael ei fabwysiadu, fydd gweithredu ar gynllun cyfathrebu cynhwysfawr a fydd yn codi ymwybyddiaeth o’r polisi ymysg holl weithlu’r Cyngor.

Cadarnhawyd y bydd rhaglen hyfforddi hefyd yn cael ei rhoi mewn lle, a fydd wedi’i theilwra i wahanol garfannau o’r gweithlu.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith mai cyfrifoldeb cyrff Llywodraethu pob ysgol yw i fabwysiadu polisïau cyflogaeth, gan gynnwys Polisi Canu’r Gloch. Soniwyd bod gan y Cyngor rôl wrth sicrhau fod gan ysgolion y Sir bolisi a threfniadau addas yn eu lle yn ogystal.

Amlygwyd mai Polisi Canu’r Gloch i staff sydd gerbron y Cabinet, a chyfeiriwyd at benderfyniad yng nghyfarfod y Bwrdd Ymateb diwethaf, sef yr angen i edrych ar Bolisi Canu’r Gloch i aelodau etholedig yn ogystal.

Addaswyd y penderfyniad a geisir yn sgil adborth y Pwyllgorau Craffu diweddar.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Croesawyd y Polisi hwn, a chefnogwyd yr addasiad.

·       Amlygwyd y gefnogaeth gan y Bwrdd Ymateb i gael canllawiau ar wahân i gynghorwyr, a nodwyd bydd yr addasiad hwn yn cryfhau’r warchodaeth i gynghorwyr.

·       Datganwyd bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi polisi model ar gyfer Llywodraethwyr ysgolion, a bydd y Cyngor yn gofyn i bob ysgol fabwysiadu’r polisi hwnnw sy’n addas ar gyfer ysgolion.

·       Soniwyd am brosesau canu’r gloch o ran y cyhoedd yn gyffredinol, ac esboniwyd bod mecanwaith mewn lle i dderbyn pryderon gan y cyhoedd. Ychwanegwyd bod gwaith pellach i’w wneud i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r trefniadau hynny.

·       Pwysleisiwyd pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r Polisi a magu diwylliant o fewn y Cyngor lle mae staff yn teimlo’n hyderus i ganu’r gloch.

·       Amlygwyd y caiff y Polisi hwn ei drafod mewn sesiwn gyda rheolwyr ac arweinyddion tîm y Cyngor, ai fod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth a gwreiddio’r diwylliant hwnnw. 

Awdur: Eurig Williams, Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau Dynol Jac Ynyr Evans, Cyfreithiwr

9.

CYLLIDEB REFENIW 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2025 pdf eicon PDF 859 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd gan y Cabinet gymorth ariannol ychwanegol uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw'n Iach i’w gyllido o’r gronfa trawsffurfio, gan ddirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet dros Economi mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i gytuno ar swm y gefnogaeth ariannol derfynol uwchlaw y tâl cytundebol gyda Byw’n Iach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ar sail yr adolygiad presennol, amcangyfrifir mai gwerth y gefnogaeth fydd £295k.

 

Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.365 miliwn o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol, i'w ddefnyddio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i gyllido'r gorwariant a wynebir gan yr adrannau.

 

Cymeradwywyd trosglwyddiad ariannol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o Bremiwm Treth Cyngor 2024/25, gyda throsglwyddiad gwerth £2.089 miliwn o'r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol i Gronfa Premiwm Treth Cyngor.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd gan y Cabinet gymorth ariannol ychwanegol uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw'n Iach i’w gyllido o’r gronfa trawsffurfio, gan ddirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet dros Economi mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i gytuno ar swm y gefnogaeth ariannol derfynol uwchlaw y tâl cytundebol gyda Byw’n Iach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ar sail yr adolygiad presennol, amcangyfrifir mai gwerth y gefnogaeth fydd £295k.

 

Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.365 miliwn o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol, i'w ddefnyddio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i gyllido'r gorwariant a wynebir gan yr adrannau.

 

Cymeradwywyd trosglwyddiad ariannol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o Bremiwm Treth Cyngor 2024/25, gyda throsglwyddiad gwerth £2.089 miliwn o'r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol i Gronfa Premiwm Treth Cyngor.

 

 

TRAFODAETH

 

Datganwyd bod rhagolygon o £6.5 miliwn o orwariant gan adrannau’r Cyngor yn dilyn adolygiad diwedd Tachwedd, sydd yn gynnydd bychan o ragolygon Awst. Amlygwyd bod 76% o’r gorwario yn y meysydd gofal, oedolion a phlant, ac ychwanegwyd bod 6 adran yn gorwario. 

Adnabuwyd bod tanwariant ar gyllidebau corfforaethol, sy’n lleihau’r rhagolygon gorwariant yn ei gyfanrwydd i £2.3 miliwn.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 sy’n egluro’r prif faterion a’r meysydd sydd â gwahaniaethau sylweddol.

 

Aethpwyd ymlaen i gyfeirio at Atodiad 3, sy’n nodi bod incwm treth Cyngor a’r premiwm sy’n deillio o’r dreth ar ail gartrefi ac eiddo gwag wedi’i adolygu, yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol 2024/25. Nodwyd mai’r canlyniad yw bod £2 filiwn sy’n berthnasol i Bremiwm Treth Cyngor 2024/25 i’w drosglwyddo o’r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol i’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor.

 

Esboniwyd bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wythnos ynghynt.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Pwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi’r wybodaeth yn ei gyd-destun ac adnabod y ffaith nad oes modd rhagweld llawer o’r gorwariant hwn, yn enwedig yn yr adrannau hynny sy’n ymateb i alw. Ychwanegwyd bod rhaid gwario yn unol â’r galw, a bod gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynnig y gwasanaethau hyn a gwarchod pobl Gwynedd.

·       Tynnwyd sylw at realiti tan gyllido Llywodraeth Leol i bobl y Sir.

·       Mynegwyd balchder y defnyddir y derminoleg ‘diffyg cyllideb’ yn hytrach na ‘gorwario’ yn yr adroddiad, sy’n adlewyrchu’r realiti. Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio gwneud yr arbedion hynny, ond mai gwneud y peth iawn i bobl Gwynedd yw’r flaenoriaeth.

Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau

10.

RHAGLEN GYFALAF 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD (SEFYLLFA 30 TACHWEDD 2025) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbynwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2025) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf, a gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 ac a addaswyd 11 Tachwedd 2025, o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef:

- lleihad o £7,544,000 mewn defnydd o fenthyca

- cynnydd o £2,660,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

- cynnydd o £103,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

- lleihad o £2,387,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

- cynnydd o £6,364,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2025) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf, a gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 ac a addaswyd 11 Tachwedd 2025, o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef:

- lleihad o £7,544,000 mewn defnydd o fenthyca

- cynnydd o £2,660,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

- cynnydd o £103,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

- lleihad o £2,387,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

- cynnydd o £6,364,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig (sefyllfa 30 Tachwedd 2025), a chymeradwyo’r addasiadau i’r ffynonellau ariannu perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at ran 3.2.2 o’r adroddiad, sy’n cynnig dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf gwerth £152 miliwn am y 3 blynedd o 2025/26 – 2027/28.

 

Datganwyd bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi £93.7miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda gwerth £48.2miliwn sef 51% ohono wedi’i ariannu drwy grantiau penodol.

Ychwanegwyd bod £6miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28. Soniwyd bod Atodiad 2 yn cynnwys y prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol.

 

Cyfeiriwyd at y grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor i’w denu ers yr adolygiad diwethaf, sydd i’w gweld yn rhan 3.2.4 o’r adroddiad.

 

Soniwyd bod gwybodaeth am Ddangosyddion Darbodus Cyfalaf y Cyngor i’w weld yn Atodiad 4, sy’n ofyn adrodd yn y Côd Darbodus gan CIPFA. Eglurwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio efo’i bolisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf.

 

Amlygwyd bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wythnos ynghynt.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Tynnwyd sylw at y ddibyniaeth ar grantiau, a nodwyd ei fod yn amlygu’r diffyg gan Lywodraeth Cymru wrth ariannu Llywodraeth Leol.

·       Mynegwyd rhwystredigaeth bod galwadau am setliadau aml flwyddyn ddim wedi eu hateb, a bod dim modd cynllunio o flaen llaw o ganlyniad i hynny.

Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol – Cyfrifeg a Phensiynau

11.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 634 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol.

 

TRAFODAETH

 

Yn adroddiad Cyllideb 2025/26 i’r Cyngor Llawn ar 6 Mawrth 2025, adroddwyd bod arbedion gwerth £3.5 miliwn wedi eu proffilio ar gyfer Cyllideb 2025/26. Amlygwyd bod hyn yn gyfuniad o arbedion gwerth £100k sydd wedi’u cymeradwyo o’r newydd yn 2025, a £3.4 miliwn a gymeradwywyd mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Adnabuwyd bod trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai meysydd. Datganwyd bod yr arbedion newydd wedi eu gwahanu oddi wrth yr arbedion blaenorol, felly bod arbedion perthnasol i 2025/26 yn Atodiad 1 ac yn Atodiad 2.

 

Adroddwyd bod 98% o’r arbedion hanesyddol, am y cyfnod o’r flwyddyn ariannol 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2025/26, wedi eu gwireddu. Nodwyd bod hyn yn £33.8 miliwn o’r £34.3 miliwn o arbedion.

Amlygwyd bod cynlluniau gwerth £590 o filoedd yn parhau heb eu gwireddu, a’r mwyafrif ohonynt yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 a ddengys bod y cynlluniau arbedion newydd gwerth £15.6 miliwn a 81% o’r arbedion eisoes wedi eu gwireddu, a 3% pellach ar drac i’w cyflawni’n amserol.

Datganwyd bod risgiau amlwg i wireddu’r arbedion mewn rhai meysydd, yn enwedig yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd.

 

Esboniwyd y ceir gwerth yr arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2026/27 ymlaen yn Atodiad 3.

 

Yn dilyn cyhoeddiad bod llawr o 4.1% ar gyfer y setliad ariannol i Lywodraeth Leol, eglurwyd nad oes rhaid brysio i weithredu arbedion ar gyfer 2026/27. Pwysleisiwyd y bydd angen parhau i adnabod arbedion ar gyfer y blynyddoedd nesaf, sy’n debygol o fod yn heriol.

 

Amlygwyd bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wythnos ynghynt.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Mynegwyd syndod gan yr Aelod Cabinet am y ffigwr o arbedion sydd wedi eu gwneud gan y Cyngor hyd yma.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 1:00yh a daeth i ben am 2:30yh.

 

Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau