Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Craig ab Iago a Huw Dylan Owen (Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol).

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 GORFFENNAF 2023 A'R CYFARFOD BRYS A GYNHALIWYD AR 20 GORFFENNAF 2023. pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2023 a 20 Gorffennaf 2023 fel rhai cywir.

 

6.

YMATEB I YMGYNGHORIAETH CYHOEDDUS AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 339 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cynnwys ymateb y Cyngor i Ymgynghoriad Cyhoeddus yr Awdurdod Tân ac Achub.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd cynnwys ymateb y Cyngor i Ymgynghoriad Cyhoeddus yr Awdurdod Tân ac Achub.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor wedi cael trafodaeth gyda Prif Swyddog Tân ac Aelodaeth y Cyngor sydd ar fwrdd y gwasanaeth tân. Eglurwyd bod yr ymgynghoriad wedi agor ers mis Gorffennaf 2023 ac fe fyddai’n dod i ben ar 30 Medi.

 

Eglurwyd bod 4 opsiwn yn wreiddiol yn rhan o’r ymgynghoriad. Cadarnhawyd mai un o’r heini oedd cyflwyno opsiwn ble nad oedd unrhyw newid yn cael ei wneud, ond mae’r opsiwn hwn bellach wedi’i ddiystyru. Manylwyd bod y tri opsiwn arall yn cynnwys cael canolfan staffio dydd ym Mhorthmadog a Dolgellau er mwyn cynyddu a gwella darpariaeth y gwasanaeth. Tynnwyd sylw at opsiwn 3 sy’n cynnwys trefniadau i gau gorsafoedd tân Abersoch a Llanberis gan eu bod yn orsafoedd rhan amser.

 

Cadarnhawyd bod ymateb ddrafft y Cyngor yn cefnogi’r hyn a ystyriwyd yn opsiynau 1 a 2 sy’n gwella’r gwasanaethu yng Ngwynedd ond yn gwrthwynebu opsiwn 3. Nodwyd hefyd bod oblygiadau ariannol yr opsiynau yn rhywbeth i’r Aelodau ei ystyried.

 

Mewn ymateb i ymholiad am effaith penderfyniad yr Awdurdod Tân ac Achub ar y Cyngor, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod cost gynyddol ynghlwm ag opsiwn un o tua 14% (tua £1.4 miliwn). Nodwyd byddai swm o tua £800,000 yn gysylltiedig ag opsiwn 2. Cadarnhawyd byddai’r Cyngor angen canfod y symiau hyn fel cyfraniad tuag at y gwasanaeth tân ac achub, ni fydd arian ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

 

Mynegwyd pryder nad yw costau’r Awdurdod Tân ac Achub yn ymddangos ym manylion biliau treth, gan ei fod yn lefi sy’n dod o goffrau’r Cyngor. Ystyriwyd canfod dull o egluro i drigolion bod cost i’r Awdurdod Tân ac Achub yn cael eu cynnwys yn eu bil, unwaith bydd yr Awdurdod wedi dod i benderfyniad.

 

Croesawyd y bwriad i gefnogi opsiwn 1 a 2 o’r ymgynghoriaeth.

 

Awdur: Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANAETH 2022/23 pdf eicon PDF 253 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr adroddiad a chynnigwyd sylwadau ac awgrymiadau perthnasol am berfformiad y Cyngor o ran ymdrin â chwynion yn briodol ac yn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.    

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr adroddiad a chynigwyd sylwadau ac awgrymiadau perthnasol am berfformiad y Cyngor o ran ymdrin â chwynion yn briodol ac yn amserol.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod trefniant i adrodd i’r Cabinet yn rheolaidd ar gwynion a gwella gwasanaeth. Nodwyd bod y Cyngor newydd dderbyn llythyr blynyddol yr Ombwdsman, ac wedi ei gynnwys gyda’r adroddiad er ystyriaeth y Cabinet. Cadarnhawyd bydd yr Ombwdsman yn derbyn gohebiaeth bod y llythyr wedi cael ei roi gerbron y Cabinet er sylw.

 

Eglurwyd bod niferoedd cwynion yn lleihau yn flynyddol ers 2018-19. Er hynny, roedd nifer y cwynion wedi cyrraedd y Cyngor a’r Ombwdsman wedi cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn 2021-22 yn sgil pandemig covid-19.  Adroddwyd bod hyn yn wir mewn cynghorau eraill hefyd ac bod niferoedd cwynion yn gostwng unwaith yn rhagor.

 

Manylwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at gwynion ffurfiol (dilys) a dderbynnir drwy drefn gwyno’r Cyngor, a chwynion sy’n cael eu gyrru at yr Ombwdsman. Adroddwyd bod nifer o gwynion ffurfiol (dilys) wedi gostwng ychydig eleni o gymharu â 2021-22 (o 60 cwyn i 54). Nodwyd hefyd fod cwynion sydd wedi cyrraedd yr ombwdsman wedi gostwng o 41 yn 2021-22 i 36 yn 2022-23.

 

Cadarnhawyd nad oes newid i’r amser ymateb i gwynion, sef 7 diwrnod. Derbyniwyd adborth gan Swyddfa’r Ombwdsman bod trefn ymateb i gwynion Cyngor Gwynedd yn realistig ac yn gweithio’n dda tra’n barod i ddysgu gwersi o’r cwynion a dderbynnir.

 

Sicrhawyd bod y cydweithio gydag adrannau’r Cyngor yn dda iawn. Nodwyd bod newid wedi’i weld yn niwylliant y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf, gan fod cwynion yn cael eu gweld fel cyfle i ddysgu a gwella gwasanaeth. Cydnabuwyd bod mwy o gwynion am wasanaethau’r Cyngor nag adroddwyd yn yr adroddiad, ond bod y rhain yn cael eu datrys gan yr adrannau’n anffurfiol.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor yn cynnal hyfforddiant cyson yn y maes gofal cwsmer i ddefnyddio cwynion fel arf dysgu a chadarnhawyd bod yr hyfforddiant hwn yn boblogaidd iawn. Ymhellach, cadarnhawyd bod hyfforddiant pellach ‘Ateb Gohebiaeth’ wedi cael ei baratoi gan y Cyngor, mewn ymateb i sylwadau nad ydi pob swyddog yn ymateb i ohebiaeth yn amserol. Nodwyd bod un peilot o’r hyfforddiant hwn wedi cael ei gynnal eisoes gyda’r bwriad o gynnal peilot arall yn ystod mis Medi 2023.

 

Tynnwyd sylw at y Wal Llwyddiannau gan nodi ei fod yn parhau i dyfu. Adroddwyd bod gweld sylwadau o werthfawrogiad yn codi moral staff, yn enwedig yn y rheng flaen.

 

Awdur: Ian Jones: Pennaeth Adran Cefnogaeth Corfforaethol

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2022/23 pdf eicon PDF 325 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2022/23 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2022/23 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.

 

TRAFODAETH

 

Esboniwyd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am gynnydd prosiectau Cynllun y Cyngor 2022-23 a nodwyd bod tair prif ran iddo, sef:

·       Perfformiad Prosiectau Blaenoriaeth Cynllun y Cyngor 2018-23

·       Perfformiad gwaith dydd i ddydd yr adrannau

·       Hunanasesiad o berfformiad Cyngor Gwynedd 202-23.

 

Atgoffwyd yr Aelodau ei fod yn ofyniad statudol i hunanasesiad blynyddol gael ei gyflwyno i’r Cabinet, ac dyma ail adroddiad o’r fath. Cadarnhawyd bod yr adroddiad wedi bod gerbron Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ac mae’r adroddiad yn adlewyrchu eu sylwadau.

 

Adroddwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei gynnal ar yr adroddiad hwn, yn unol â gofynion statudol, ble cysylltwyd â phanel trigolion, aelodau etholedig, cynghorau tref a chymuned, staff ac undebau. Cadarnhawyd bod 221 o ymatebion wedi dod i law. Nodwyd bod crynodeb o’r ymatebion hyn i’w gweld yn yr adroddiad.

 

Ystyriwyd yr adroddiad i fod yn deg ac honest a canmolwyd y defnydd o ieithwedd eglur.

 

Cadarnhawyd bydd panel annibynnol yn cael ei ffurfio yn y dyfodol er mwyn asesu perfformiad y Cyngor.

 

Esboniwyd bydd holl Aelodau’r Cyngor yn trafod y mater hwn yng nghyfarfod nesaf o’r Cyngor Llawn a gynhelir ar 28 Medi 2023.

 

Awdur: Dewi Wyn Jones: Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor

9.

CYNLLUN GWEITHIO'N HYBRID pdf eicon PDF 606 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd Cynllun Gweithio’n Hybrid i Staff Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd Cynllun Gweithio’n Hybrid i Staff Cyngor Gwynedd.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr aelodau bod newid sylweddol i natur gwaith y Cyngor ers y cyfnod clo cyntaf ar 23 Mawrth 2020. Nodwyd bod treialon wedi cael eu cwblhau dros yr 18 mis diwethaf ar ddulliau gweithio’n hybrid. Adroddwyd bod hyn yn cynnwys dau ymgynghoriad gyda rheolwyr, staff ac undebau. Esboniwyd bod y cynllun hwn yn deillio o’r treialon a’r ymgynghoriadau hynny. Credir bod y cynllun yn adlewyrchu’r newidiadau i drefniant gweithio ac yn cryfhau dyletswyddau diogelwch a llesiant staff ymhellach.

 

Manylwyd bod y cynllun yn caniatáu i staff llawn amser weithio hyd at 3 diwrnod yr wythnos adref, ble mae eu swyddi yn caniadau iddynt weithio’n hybrid. Cadarnhawyd bydd gofyniad i weithwyr llawn amser weithio isafswm o 2 ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa. Esboniwyd bod hyn yn hyrwyddo cyswllt wyneb yn wyneb rheolaidd i’r staff ac yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng llesiant staff a pharhad gwasanaeth. Nodwyd nad yw’r cynllun yn un haearnaidd ac felly mae hyblygrwydd ar gael i wasanaethau i amrywio dyddiau gweithio yn y swyddfa, er mwyn sicrhau effeithlonrwydd.

 

Nodwyd bod y cynllun yn caniatáu hyblygrwydd i weithio oriau yn y swyddfa ar sail gyfartalog dros gyfnod o fis ble bydd angen. Pwysleisiwyd na fydd unrhyw newid cytundebol yn deillio o drefniadau’r cynllun a bydd y swyddfa yn parhau i gael ei adnabod fel y ganolfan waith ar gyfer holl weithwyr. Nodwyd bod hyn yn caniatáu i swyddogion weithio mwy na 2 ddiwrnod yn y swyddfa os ydynt yn dymuno.

 

Pwysleisiwyd nad oes modd i unrhyw aelod o staff weithio’n hybrid os nad ydynt wedi cwblhau hunanasesiad am eu gweithfan wrth weithio o adref, a bod y Cyngor yn fodlon gyda’r weithfan sydd ganddynt. Cydnabuwyd nad yw’r cynllun yn berthnasol ar gyfer unrhyw aelod o staff rheng flaen y cyngor. Er hyn, atgoffwyd bod gan bob aelod o staff yr hawl i wneud cais i ddiwygio oriau gwaith, oriau cychwyn a gorffen gweithio, cyfyngu dyddiau gweithio a gwneud cais i weithio tymor ysgol yn unig os ydynt yn dymuno.

 

Sicrhawyd bod staff sy’n gweithio gartref yn ymroddgar iawn ac yn parhau i weithio yn effeithlon. Er hyn, cydnabuwyd bod rhyngweithio wyneb yn wyneb rhwng aelodau staff yn amhrisiadwy wrth geisio rhoi’r gwasanaethau gorau posib i bobl Gwynedd. Nodwyd bod gofynion o fewn y cynllun i staff weithio o’r swyddfa yn fwy na’r isafswm a nodwyd, pan fydd aelod newydd o staff yn cychwyn o fewn gwasanaethau. Pwysleisiwyd byddai hyn yn gymorth i staff ymgartrefu yn y Cyngor ac yn eu gweithle.

 

Adroddwyd bod asesiad effaith wedi cael ei gwblhau ar gyfer y cynllun hwn a sicrhawyd na fydd y cynllun yn cael effaith ar allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag yn y Saesneg.

 

Nodwyd bod 15% o swyddogion (tua 276 aelod o staff), yn mynychu’r swyddfa llawn amser. Manylwyd bod y ffigwr hwn wedi cynyddu wrth i’r trefniant hybrid mynd yn ei flaen ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022-23, CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-24 pdf eicon PDF 311 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2022/23, Cynllun Cydraddoldeb 2020/24 a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2022/23, Cynllun Cydraddoldeb 2020/24 a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi cynnydd y cynllun cydraddoldeb strategol 2020/24 dros y flwyddyn 2022/23. Nodwyd bod dipyn o waith y cynllun bellach wedi ei gyflawni, gan ein bod tri chwarter ffordd drwy ei gyfnod.

 

Adroddwyd bod diweddariadau penodol o fewn y cynllun yn cynnwys:

·       Sefydlu Fframwaith Hyfforddiant Cydraddoldeb  ac mae gwaith yn cael ei wneud i ychwanegu teitlau iddo.

·       Derbyn Awdit Cyflogaeth sy’n dangos bod swyddogion yn derbyn tâl teg.

·       Gweithio gyda chwmni ‘Inclusive Employers’ er mwyn adnabod mwy o ffyrdd i wella amrywiaeth ein gweithlu.

 

Esboniwyd ei fod yn amserol i edrych ar gynllun cydraddoldeb newydd ar gyfer 2024/28. Cadarnhawyd bod swyddogion wedi cwblhau cyfnod ymgysylltu ar gyfer y cynllun newydd a bydd adroddiad am fanylder y cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet pan yn amserol. Cydnabuwyd bod themâu’r cynllun presennol yn rhai hir dymor ac felly bydd y cynllun newydd yn cynnwys rhai o’r un themâu ac sy’n cael eu delio â nhw yn bresennol.

 

Nodwyd bod ymgynghori manwl yn digwydd wrth ddylunio cynllun newydd ar gyfer 2024/28. Cadarnhawyd bod dros 600 ymateb i holiadur perthnasol ac bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda gwahanol grwpiau. Nodwyd bod sgyrsiau pellach yn cael eu cynnal gyda adrannau er mwyn sicrhau mewnbwn o pob rhan o’r Cyngor. Gobeithiwyd bydd hyn yn sicrhau bydd unigolion ac adrannau yn cymryd perchnogaeth o’r cynllun.

 

Nodwyd bydd Dyletswydd Economaidd Gymdeithasol yn effeithio ar ganran mawr o drigolion Gwynedd. Sicrhawyd bydd anghenion hyn yn cael eu cynnwys wrth ddylunio cynllun newydd.

 

Rhannwyd manylion cyflogaeth Gwynedd ar sawl maes megis rhyw, cenedligrwydd, hil ac eraill ac ystyriwyd os yw’r canrannau perthnasol o fewn gweithlu’r Cyngor yn debyg i ganrannau cyffredinol poblogaeth y Sir. Cydnabuwyd bod y canrannau o fewn y gweithlu yn is na chyfartaledd cymunedau Gwynedd ond y mae’n amcan i wella’r sefyllfa. Nodwyd bod y maes hwn yn amcan sydd yn cael ei gynnwys yn y cynllun cydraddoldeb presennol ac yn debygol o fod yn amcan yng nghynllun 2024/28 hefyd.

 

Diolchwyd i’r Ymgynghorydd Cydraddoldeb a staff y gwasanaeth am eu gwaith.

 

Awdur: Delyth Gadlys Williams: Ymgynghorydd Cydraddoldeb

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd bod yr Adran yn arwain ar ddau o brosiectau Cynllun y Cyngor sef ‘Cymunedau Glan a Thaclus’ a ‘Cryfhau Cyfathrebu ac Ymgysylltu’.

 

Nodwyd bod prosiect Cymunedau Glan a Thaclus wedi arwain at sefydlu timoedd Ardal Ni sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Er hyn, cydnabuwyd bod angen hyrwyddo mwy ar y prosiect gan fod rhai ardaloedd ddim yn ymwybodol ohonynt. Atgoffwyd bod modd cwblhau cais am waith, mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy ffurflen ar lein neu Ap Gwynedd.

 

Eglurwyd bod Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu di ei benodi fel rhan o’r prosiect ‘Cryfhau Cyfathrebu ac Ymgysylltu’. Nodwyd bod newyddlen newydd sy’n rhannu straeon yn chwarterol gyda staff yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o waith y gwasanaethau drwy gyfryngau cymdeithasol.

 

Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo i gynnwys manylion biniau halen ar Fap Gwynedd er mwyn i drigolion fod yn ymwybodol o’u lleoliad ac adrodd pan maent angen eu hail lenwi.

 

Adroddwyd bydd yr adran yn arwain ar 3 blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor 2023/28 sef:

·       Cymunedau Glan a Thaclus

·       Gweithredu ar Risgiau Llifogydd (Mewndirol ac Arfordirol)

·       Ymestyn ar gyfleoedd chwarae / cymdeithasu plant a phobl ifanc y Sir (Gan weithio ar y cyd gyda’r adran Addysg).

 

Cydnabuwyd bod trosiant wedi bod yng ngweithlu prosiectau cymunedau glan a thaclus. Er hyn, mae unrhyw fwlch sydd wedi cael ei greu yn sgil hyn wedi cael eu llenwi.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr adran wedi mabwysiadu Cynllun Fflyd Werdd ers 24 Ionawr 2023 ac mae cynnydd y cynllun yn cael ei adrodd i’r Bwrdd Hinsawdd a Natur yn rheolaidd. Er hyn, cydnabuwyd bod rhai heriau wedi codi o fewn y cynllun hwn megis diffyg adnoddau o fewn y gwasanaeth fflyd, amserlen cyflwyno pwyntiau gwefru a costau prynu cerbydau trydan. Rhannwyd diweddariad bod yr adran mewn trafodaethau gydag adrannau eraill er mwyn cydweithio i sicrhau bod y pwyntiau gwefru yn cael eu cyflwyno mor fuan a phosibl.

 

Cyhoeddwyd bod y gwaith o osod lampau LED ar 17,000 o lampau stryd Gwynedd wedi cael ei gyflawni o fewn y Gwasanaeth Goleuo. Nodwyd bod gostyngiad o 45% mewn defnydd o egni a gostyngiad o 70% mewn allyriadau carbon fesul tunnell ar ddiwedd 2022/23. Esboniwyd hefyd fod 25% yn llai o ynni yn cael ei ddefnyddio rhwng 10:30yh a 6:00yb gan fod y goleuadau wedi cael eu pylu yn ystod y cyfnod hwn.

 

Esboniwyd bod Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi cyrraedd eu targed incwm ar gyfer 2022/23 ac yn parhau i ddatblygu staff yn gyson. Tynnwyd sylw at rhai o’r prosiectau mae’r gwasanaeth wedi ei gyflawni yn ddiweddar megis cynlluniau rheoli risg llifogydd.

 

Cyhoeddwyd bod yr Adran wedi cyrraedd eu targed arbedion ariannol.

 

Awdur: Sara Marged Jones: Rheolwr Prosiectau, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 246 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod yr adran yn arwain ar 5 prosiect sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2023-2028. Nodwyd yr isod yn ddiweddariad ar y prosiectau hynny:

·       Rheolaeth ail gartrefu a llety gwyliau tymor byr – Eglurwyd bod  cyfnod ymgynghori ar fwriad y Cyngor i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi dod i ben ar 13 Medi. Ymfalchïwyd bod rhai miloedd o ymatebion wedi dod i law ac mae swyddogion bellach yn dadansoddi’r ymatebion hynny cyn cyflwyno adroddiad amserol i ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Cabinet.

·       Gwastraff ac Ailgylchu – Nodwyd bod yr adran wedi gosod targed o ailgylchu 70% o wastraff y Sir erbyn 2025. Cydnabuwyd bydd cyrraedd y targed hwn yn heriol ond mae’r adran yn obeithiol byddai’n llwyddo i’w gyrraedd yn dilyn trefniant ailstrwythuro mewnol newydd.

·       Teithio Llesol - Cadarnhawyd bod yr Adran wedi llwyddo i dderbyn grant yn y maes hwn ar gyfer y cyfnod nesaf. Nodwyd bod dau gais ychwanegol wedi ei wneud am grantiau ond bod y rhain wedi bod yn aflwyddiannus.

·       Trafnidiaeth Cyhoeddus - Cyhoeddwyd bod gwasanaeth SHERPA’r Wyddfa wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Trafnidiaeth Prydeinig (UK Transport Awards) eleni yn dilyn ei ailstrwythuro dros y blynyddoedd diwethaf.

·       Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Esboniwyd bod trefniant llywodraethol ar gyfer y cynllun wedi cael ei dderbyn. Manylwyd bod Gweithgor Polisi Cynllunio o 15 aelod wedi cael ei sefydlu ac wedi cyfarfod am y tro cyntaf yn ddiweddar. Nodwyd bod y gweithgor wedi ymdrin â gwaith cychwynnol ac yn bwriadu cyfarfod yn rheolaidd.

 

Diweddarwyd yr Aelodau ar dri o wasanaethau’r Adran sydd wedi gweld cynnydd yn ddiweddar. Mae’r rhain yn cynnwys:

·       Cynllunio – Cadarnhawyd bod y gwasanaeth wedi llwyddo i ymateb i 88% o geisiadau cynllunio o fewn y cyfyngiad amser statudol ar ddechrau’r flwyddyn eleni. Nodwyd bod hyn yn welliant o’i gymharu gyda’r blynyddoedd diwethaf. Cyhoeddwyd bod y gwasanaeth wedi llwyddo i benodi dau hyfforddai cynllunio newydd yn ddiweddar. Eglurwyd byddai hyn yn help mawr gyda problemau capasiti o fewn y gwasanaeth. Nodwyd bod denu staff i swyddi’r gwasanaeth wedi bod yn her yn y gorffennol, ond gobeithir bod y penodiadau hyn yn arwydd cadarnhaol.

·       Gorfodaeth Cynllunio - Adroddwyd bod problemau capasiti dal yn cael effaith ar wasanaeth gorfodaeth cynllunio. Eglurwyd bod hyn yn her oherwydd mae swyddogion yn ymdrechu i ddelio gydag achosion newydd yn ogystal ag achosion hanesyddol sy’n parhau i fod yn agored ar systemau.

·       Pridiannau tir – Esboniwyd bod gwasanaethau pridiannau tir bellach wedi cael eu uwchraddio i system gyfrifiadurol newydd. O’r herwydd, mae’r gwasanaeth hon yn perfformio’n dda. Nodwyd bod swyddogion wedi gorfod stopio delio gyda ceisiadau pridiannau tir am gyfnod tra bod y system yn cael ei uwchraddio, oherwydd diffyg capasiti. Cadarnhawyd bod y broblem hon bellach wedi cael ei sortio oherwydd bod y system newydd mewn lle ac mae ceisiadau yn cael eu delio yn effeithiol.

·       Traffig, Prosiectau a Llwybrau - Adroddwyd bod blaenoriaeth wedi cael ei roi i sicrhau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

Awdur: Dafydd Wyn Williams: Pennaeth Adran Amgylchedd

13.

BLAENRAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 304 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd Blaenraglen waith y Cabinet ar gyfer cyfarfodydd a gynhelir rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd Blaenraglen waith y Cabinet ar gyfer cyfarfodydd a gynhelir rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024.

 

TRAFODAETH

 

Ystyriwyd yr eitemau a nodwyd ar gyfer cyfarfodydd y Cabinet rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024.