Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cynghorydd Simon Glyn a’r Cynghorydd Sïon Jones (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Catrin Wager fuddiant personol, yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0903/16/LL) oherwydd ei bod yn
ffrindiau gyda’r ymgeisydd Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y
Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Dafydd Owen, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0903/16/LL) ·
Y Cynghorydd John Brynmor
Hughes (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0967/39/LL). ·
Y Cynghorydd Huw G W
Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1086/11/LL). ·
Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif
C17/1246/09/LL) Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim iw’ nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 26.2.2018 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C17/0903/16/LL - Carreg y Fedwen, Sling, Tregarth, Bangor, Gwynedd, PDF 415 KB Creu canolfan ymchwil a menter iachad acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais dynnwyd yn ol - C16/1158/16/LL) AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen Dolen i'r dogfennau
cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu canolfan ymchwil a menter iachâd
acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio
a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais a dynnwyd yn ôl -
C16/1158/16/LL) a)
Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu nad oedd yr Aelodau wedi llwyddo i ymweld â’r safle oherwydd y tywydd a bod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth ychwanegol a’r fore’r Pwyllgor nad oedd y
swyddogion wedi cael cyfle i’w ystyried. O ganlyniad awgrymwyd y dylid gohirio. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ohirio y cais PENDERFYNWYD gohirio - angen ail drefnu ymweliad safle - ystyried gwybodaeth hwyr a
dderbyniwyd er mwyn ei gynnwys yn yr adroddiad |
|
Cais Rhif C17/0330/14/LL - Cyn safle Marine Hotel, North Road, Caernarfon, PDF 267 KB Adeiladu 5 tŷ (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â chreu mynedfa i'r gefnffordd AELOD LLEOL:
Cynghorydd Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu
5 tŷ (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â chreu mynedfa i'r
gefnffordd Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd
ar gyfer creu 5 uned breswyl ar safle cyn westy i’r gogledd o ganol tref
Caernarfon a chyferbyn a chefnffordd A487. Yn dilyn trafodaethau gyda’r
datblygwr, ac mewn ymateb i bryderon cymdogion, ategwyd bod cynlluniau
diwygiedig wedi eu cyflwyno oedd yn cynnwys newidiadau i edrychiadau allanol y
tai, uchder ac ail leoli tŷ rhif 5 yng nghefn y safle. Cadarnhawyd
bod y dyluniadau yn parhau i fod yn gywir a bod cyfnod o ail ymgynghori ar y
cynlluniau diwygiedig yn dod i ben 23ain o Fawrth. Adroddwyd nad oedd
gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr ymgynghorai statudol, ond bod trigolion
lleol yn gwrthwynebu ar sail effaith weledol, diogelwch y briffordd, materion
parcio, effeithiau ar fwynderau cymdogion drwy oredrych a chreu cysgod. O
safbwynt materion polisi, eglurwyd bod y safle yn un ar hap o fewn ffin y
Cynllun Datblygu. Cefnogwyd egwyddor y datblygiad ynghyd a’r ddarpariaeth bod
dwy uned fforddiadwy mewn datblygiad o bump yn dderbyniol. Ategwyd bod
addasiadau i’r dyluniad wedi goresgyn y pryderon cychwynnol a bod dyluniadau'r
tai yn cymryd eu lle yn briodol heb achosi niwed annerbyniol i fwynderau
cymdogion. Nodwyd bod trefniadau mynediad a pharcio yn dderbyniol gan yr Uned
Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru a bod y cais yn bodloni gofynion polisïau a chanllawiau perthnasol. Amlygwyd
bod sylwadau hwyr wedi ei derbyn gan yr Aelod Lleol lle nodwyd bod yr
addasiadau yn cyfarch y gwrthwynebiadau a’i fod yn cytuno gyda’r argymhelliad,
bod cytundeb 106 ar yr unedau fforddiadwy. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau
canlynol:- ·
Bod
Gorchymyn Gwarchodaeth ar goeden oedd yng ngardd Ynys Tudur (ei chartref) ·
Dyfynnwyd,
‘os oes cynnig wedi ei wneud am waith i ddatblygu safle sydd angen caniatâd
cynllunio, dylai pob coeden a all gael ei effeithio gael ei asesu gan arbenigwr
yn unol â’r safon genedlaethol’. ·
Nad
oedd asesiad arbenigol wedi ei gwblhau ac felly wedi mynd ati i fesur ei hun ·
Y
goeden gyda chanopi o 5.5 radiws ·
Byddai
gwreiddiau'r goeden yn cael ei difrodi yn ystod y cyfnod adeiladu oni bai bod
hyn eisoes wedi digwydd gan fod tractorau wedi bod ar y safle yn ystod y
misoedd diwethaf c)
Mewn
ymateb, amlygodd yr Uwch Reolwr bod amod yn yr adroddiad i geisio diogelu coeden
sydd â gorchymyn gwarchod coed arni, ond nad oedd asesiad o beth fyddai effaith
y datblygiad ar y coed sydd gyda
gorchymyn wedi ei gynnwys. Er mai a’r ffin y safle roedd y goeden dan orchymyn,
awgrymwyd bod angen ystyried gohirio'r penderfyniad er mwyn cael cyfle i edrych
ar y mater mewn mwy o fanylder. ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais PENDERFYNWYD gohirio y cais er
mwyn asesu effaith y datblygiad ar y goeden sydd gyda gorchymyn gwarchodaeth. |
|
Cais Rhif C17/0372/30/LL - Mur Melyn, Rhoshirwaun, Pwllheli, PDF 252 KB Ffurfioli'r nifer o unedau teithiol ar y safle am y tymor cyfan (Mawrth-Hydref) i fod yn 20 carafan deithiol a 20 pabell AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ffurfioli'r nifer
o unedau teithiol ar y safle am y tymor cyfan (Mawrth-Hydref) i fod yn 20
carafán deithiol a 20 pabell. a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i
ffurfioli’r nifer o unedau teithiol ar y safle am y tymor cyfan drwy leoli
uchafswm 20 carafán deithiol ac 20 pabell ar y tir rhwng Mawrth y 1af a 31ain o
Hydref. Amlygwyd bod y caniatad presennol ar gyfer y safle yn un a roddwyd fel
tystysgrif cyfreithloni ac yn caniatáu lleoli cyfanswm o 14 carafan deithiol a
30 pabell yn ystod Gorffennaf, Awst a gwyliau banc a 14 carafan deithiol a 20
pabell yn ystod misoedd eraill y tymor. Nodwyd y byddai’r bwriad yn cysoni’r
nifer o unedau teithiol allai ddefnyddio’r safle am y tymor yn ei gyfanrwydd
gyda lleihad o 4 yn y cyfanswm unedau am fisoedd Gorffennaf, Awst a gwyliau
banc a chynnydd o 6 am weddill y tymor. Ategwyd
fel rhan o’r cais, bod bwriad i wella’r cyfleusterau toiledau ac ymolchi trwy
ychwanegu 2 doiled yn y bloc toiledau presennol a thoiled ar gyfer yr anabl.
Roedd bwriad hefyd i greu ardal chwarae plant ac atgyfnerthu’r tirlunio drwy
blannu rhywogaethau brodorol. Nid
oedd gwrthwynebiadau i’r cais, ond amlygwyd rhai pryderon gwreiddiol gan y
Swyddog Carafanau. Diwygiwyd y cynlluniau i oresgyn y pryderon hyn a thynnwyd sylw at y
sylwadau yn y ffurflen sylwadau hwyr. O
ran egwyddor y datblygiad, amlygwyd bod Polisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol
yn caniatáu cynigion am estyniadau i safleoedd
presennol os cydymffurfir â’r meini prawf a nodir yn yr adroddiad. Eglurwyd bod
hyn yn cynnwys bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel, wedi ei leoli mewn
man anymwthiol ac wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol mewn modd nad
yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd weledol y dirwedd. Ategwyd bod y
cais yn golygu gwneud addasiadau i faes carafanau teithiol a phebyll presennol.
Er bod gwahaniaethau o ran niferoedd a math yr unedau am gyfnodau o’r tymor,
byddai’r bwriad yn cysoni’r sefyllfa ac yn ei gwneud hi’n haws i’w reoli.
Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt mwynderau gweledol,
trafnidiaeth a mynediad a materion bioamrywiaeth ac yn cydymffurfio gyda
materion cynllunio perthnasol, polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais c)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod
angen ystyried gwneud y gwaith tirlunio yn gyntaf – gosod amod i sicrhau hyn ·
Bod
maint y safle yn dderbyniol – hapus gyda’r sylwadau ychwanegol ·
Angen
sicrhau bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda gofynion trwyddedu ·
Bod
angen sicrhau bod cyfleusterau toiledau ac ymolchi yn ddigonol ch) Mewn ymateb, amlygodd yr Uwch Reolwr bod hi’n rhesymol
ystyried bod y tirlunio yn cael ei
gyflawni fel y cynigiwyd. Yn ychwanegol, amlygwyd bod amod safonol ynglŷn
â thirlunio yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD caniatáu
y cais Amodau: 1.
Cychwyn o fewn 5 mlynedd 2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif: C17/0967/39/LL - Tir yn Tyn y Cae, Llangian, Pwllheli, Gwynedd, PDF 266 KB Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari AELOD LLEOL:
Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu safle ar
gyfer 12 pabell saffari Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr ynghyd a’r gwrthwynebiad ychwanegol. a) Ymhelaethodd yr
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar
gyfer sefydlu safle ar gyfer lleoli 12 pabell saffari,12 pod ystafell wlyb gerllaw pob pabell saffari,
creu llwybrau cerdded, ardaloedd barbeciw ac ardal chwarae plant. Nodwyd bod y safle mewn cefn gwlad agored yn ffinio gyda ffordd sirol dosbarth 3 o Llanengan
i Llangian o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn ac oddi
fewn i’r Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Amlygwyd
bod Polisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu cynigion am safleoedd
teithiol, gwersylla neu lety wersylla amgen dros dro os cydymffurfir â’r cyfan
o’r meini prawf a nodir yn yr adroddiad. Eglurwyd bod hyn yn cynnwys bod y
datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad;
ei fod wedi ei leoli mewn man anymwthiol sydd wedi ei guddio’n dda gan
nodweddion presennol y dirwedd, a/neu ble gellid cydweddu’r unedau teithiol yn
hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y
dirwedd. Nodwyd
y byddai’r pebyll wedi eu gosod yn bennaf o amgylch ffiniau’r cae a’r podiau
ystafell wlyb yn cael eu gosod gerllaw pob pabell. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd y
byddai’r pebyll saffari a’u sylfeini ynghyd a’r podiau ystafell wlyb yn cael eu
symud o’r safle y tu allan i’r tymor gweithredu. Yn sgil hyn ystyriwyd y bwriad o dan bolisi
TWR 5 sy’n ymwneud gyda safleoedd carafanau teithiol, gwersylla a llety
gwersylla amgen dros dro. Tynnwyd
sylw bod yr asesiad effaith weledol a thirwedd wedi cyfeirio at asesiadau
LANDMAP ar yr ardal (yn arbennig yr un gweledol a synhwyraidd) oedd wedi dod
i’r casgliad mai canolig yw gwerth y dirwedd.
Er mai canolig yw gwerth y dirwedd, mynegwyd bod yr asesiad yn nodi bod
y dyffryn yn un gwledig, caeedig bach gyda rhai adeiladau yn lleihau'r atyniad,
yn benodol ar ffurf adeiledig ar gyrion Abersoch. Argymhellion pellach asesiad LANDMAP oedd,
cyfyngu ar ddatblygiadau carafanau o fewn y dyffryn, yn y tymor hir. Yn ychwanegol, fel rhan o’r asesiad effaith weledol a thirwedd a
gyflwynwyd gyda’r cais, cyflwynwyd lluniau yn dangos y safle o nifer o fannau
amrywiol lle byddai’n weledol yn y dirwedd ac ar draws yr AHNE. Dadleuwyd y
byddai’r safle yn parhau yn weladwy o’r mannau yma hyd yn oed pan fydd y
tirlunio y bwriedir yn aeddfedu. Nid oedd yr Adran Cynllunio wedi eu hargyhoeddi bod y safle yn
cydymffurfio gydag egwyddorion polisi TWR 5. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn
nodwedd ymwthiol yn y dirwedd ac yn achosi niwed sylweddol i ansawdd gweledol y
dirwedd sydd wedi ei ddynodi yn AHNE. b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Byddai’r safle yn glir
drwy’r gaeaf; pebyll ar y safle yn ystod tymor twristiaeth yn unig · Bod y safle wedi ei ddylunio gydag effaith gweledol isel mewn golwg, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C17/1086/11/LL - Hen Iard Gychod Dickies, Beach Road, Bangor, Gwynedd, PDF 571 KB Cais o dan
Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatad cynllunio
C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod i gwbwlhau'r datblygiad
yn unol â chynlluniau'r cais AELOD LLEOL: Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones Dolen i'r dogfennau
cefndir perthansol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatâd
cynllunio C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod i gwblhau’r datblygiad yn
unol â chynlluniau'r cais. Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi bod caniatâd eisoes wedi
ei roi ar y cais yn Rhagfyr 2016. Amlygwyd bod y cais hwnnw yn destun amodau
cynllunio ac un o’r rheiny oedd gweithredu o fewn cyfnod o 9 mis. Nodwyd bod y
cais yn un i newid yr amod i sicrhau amser digonol i gwblhau'r datblygiad yn
unol â chynlluniau’r cais. Eglurwyd bod y gwaith o godi lefelau'r tir wedi ei
weithredu ac mai diben hyn oedd codi lefel y tir uwchlaw lefel llifogydd C2 fel
byddai modd ystyried gwaith peirianyddol i ddarparu’r tir ar gyfer datblygiad
pellach. Byddai unrhyw gais yn y dyfodol ar y safle yn gais o’r newydd. Nodwyd bod y gwaith o godi lefel y tir wedi ei weithredu
rhwng Ebrill a Gorff 2017 o fewn cyfnod o 8 - 10 wythnos. Y cam nesaf fydd
gosod cerrig o amgylch y safle fyddai’n creu amddiffynfa i sicrhau nad yw’r
gwastraff llechi yn golchi i ffwrdd. Adroddwyd yn y cais gwreiddiol bod angen
tyllu rhywfaint ar y blaendraeth er mwyn gosod cerrig fel sylfaen gadarn. Amlygwyd bod rhai o’r gwrthwynebiadau a’r sylwadau hwyr yn
pryderu am drwytholch o’r safle fyddai yn llygru pysgodfeydd. Ategwyd bod hyn
wedi ei ystyried yn y cais gwreiddiol. Yn ogystal, tynnwyd sylw at sylwadau
Gwarchod y Cyhoedd oedd yn nodi bod rhaid sicrhau nad oedd y gwaith o osod y
cerrig o amgylch y safle yn creu effaith andwyol ar fwynderau trigolion
cyfagos. Adroddwyd bod angen symud 7 mil o gerrig mawr i’r safle mewn cyfnod o
14 wythnos. Bydd effeithiau sŵn yn fwy tebygol nag effeithiau llwch. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi bod yn cyflwyno canlyniadau
samplau dwr i’r Awdurdod a bod y canlyniadau, ar hyn o bryd, yn nodi mai annhebygol
y byddai trwytholch yn llygru'r amgylchedd morol. Ategwyd bod yr Uned
Bioamrywiaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn pryderon am yr adar sydd ar
y safle yn gaeafu yno yn ystod llanw uchel. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnal
dau arolwg (un yn 2016 ac un yn parhau) yn dangos bod cynnydd yn nifer yr adar
oedd yn ymgasglu, ond byddai hyn yn gostwng
wrth i’r tymor ddirwyn i ben. Nodwyd bod llysiau dial wedi dod i’r safle a mynegwyd bod
rhaid i’r ymgeisydd ymdrin â’r planhigyn yma cyn dechrau unrhyw waith datblygu.
Ategwyd mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru fyddai monitro hyn. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau
canlynol:- ·
Ei
bod yn cynrychioli barn trigolion o 22 eiddo cyfagos ·
Siomedig
nad yw’r ymgeisydd wedi cwblhau'r gwaith o fewn yr amserlen ·
Cyngor
Dinas Bangor yn amlygu pryderon am yr hyn sydd wedi ei gladdu o dan y tir ers
yr 80au · Yn ystod gwaith Haf 2017, roedd llwch ymhob ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C17/1143/18/LL - Parc Nant y Garth, Seion, Llanddeiniolen, Gwynedd PDF 287 KB Newid defnydd sied coedwigaeth a compownd i uned storio a chynnal a chadw ar swyddfeydd safle symudol ac unedau toiledau ynghyd a chreu mynedfa newydd AELOD LLEOL:
Cynghorydd Sion W Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd sied coedwigaeth a compownd i uned
storio a chynnal a chadw ar swyddfeydd safle symudol ac unedau toiledau ynghyd
a chreu mynedfa newydd Roedd
yr Aelodau wedi ymweld â’r safle Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a)
Ymhelaethodd yr Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn un llawn rannol ôl-weithredol ar gyfer defnyddio’r safle a’r adeiladwaith presennol ar gyfer cadw ac
atgyweirio swyddfeydd safle symudol
ynghyd ac unedau toiledau ar ffurf portaloos
a portakabins. Byddai’r cais
yn golygu cau'r fynedfa bresennol. Bydd yr adeilad presennol yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer swyddfa, storfa a gwagle agored ar gyfer ymgymryd â gwaith cynnal a chadw’r strwythurau symudol. Bydd yr ardal agored yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gofynion parcio staff (x4),
gwagle troi ar gyfer cerbydau
trwm ynghyd a chadw’r strwythurau yn yr awyr agored.
Mae rhan o’r safle eisoes yn
cael ei ddefnyddio ar gyfer diben
storio awyr agored. Mynegwyd
bod cais blaenorol (C15/1362/18/LL) ar
gyfer newid defnydd ysgubor/adeilad melin goedwigaeth fel man storio ac
amgaefa ar gyfer defnydd diwydiannol gyda swyddfa fewnol a thir cysylltiedig
i’w ddefnyddio fel man storio ar gyfer portakabins wedi ei wrthod yn
Chwefror, 2016. Gwrthodwyd ar sail bod y defnydd yn rhy fawr ac anghydnaws gyda
defnyddiau presennol cyfagos, heb brofi anghenion lleol arbennig ynghyd â’r
potensial o gynyddu traffig a all achosi niwed i fwynderau deiliaid Rhos y
Wylfa. Apeliwyd yn erbyn y
penderfyniad hwn a gwrthodwyd yr apêl ar sail byddai’r cynnig yn niweidio cymeriad
a golwg cefn gwlad, methiant i gyfiawnhau bod y bwriad yn gynaliadwy ynghyd â’i
effaith andwyol ar fwynderau deiliaid Rhos y Wylfa ar sail aflonyddwch a
sŵn. Ers hynny mae’r Cynllun Datblygu Lleol wedi ei fabwysiadau a
pholisïau wedi newid. Nodwyd bod yr anghenion a’r ystyriaethau yn wahanol a bod
yr ymgeisydd wedi ymateb i bryderon Rhos y Wylfa drwy symud y fynedfa a
phlannu'r trac presennol fyddai o
ganlyniad yn lliniaru yn erbyn yr effaith. Ategwyd bod yr egwyddor o ailddefnyddio ac addasu
adeiladau gwledig ar gyfer defnydd busnes a diwydiant wedi ei selio ym Mholisi
CYF6 sydd yn datgan y caniateir cynigion i drosi adeiladau gwledig ar gyfer
defnydd busnes os gellid cwrdd gyda nifer o feini prawf oedd wedi eu rhestru yn
yr adroddiad Derbyniwyd y byddai'r safle yn cael
effaith, ond wedi pwyso a mesur yr effeithiau, ystyriwyd bod y cais bellach yn
dderbyniol. Ni fyddai cerbydau trwm yn pasio Rhos y Wylfa a thrwy osod amodau
perthnasol byddai modd rheoli sut bydd symudiadau yn cael eu gweithredu er mwyn
lleihau effaith ar y preswylwyr. Nodwyd hefyd bod yr Uned Trafnidiaeth yn
derbyn y bwriad. b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwynt
canlynol gan Aelod unigol: ·
Bod angen sicrhau bod cynllun rheoli coedwigaeth tymor hir.yn cael ei gynnwys gyda’r amodau PENDERFYNWYD caniatáu y cais Amodau 1. Yn
unol â’r cynlluniau. 2. Cyfyngu gweithgareddau cynnal a chadw oddi fewn i’r adeilad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C17/1196/03/LL - Tir yn Cwm Bowydd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd PDF 367 KB Gosod 8 cabanau pren a chreu 'boardwalk' a gosod system trin carthffosiaeth a phlannu coed cysylltiol AELOD LLEOL:
Cynghorydd R Glyn Daniels Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod 8 cabanau
pren a chreu 'boardwalk' a gosod system trin carthffosiaeth a phlannu coed
cysylltiol Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a) Ymhelaethodd
yr Arweinydd
Tîm Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn gais llawn oedd yn bwriadu
darparu 8 caban pren ar gyfer defnydd gwyliau a chreu rhodfa bren a phlannu
coed cysylltiol. Ategwyd bod bwriad hefyd i ddarparu man parcio ar y cyrion.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn cwm ar gyrion ffordd ddi-ddosbarth sy’n
rhedeg heibio’r goedlan tua fferm ymhellach draw. Ategwyd bod y bwriad hefyd o
osod y cabanau ar bolion pren, fel na fydd yr unedau yn cael eu hadeiladu ar
lawr y goedlan, gyda modd eu cyrraedd ar droed drwy ddefnyddio’r rhodfa bren,
sydd hefyd wedi ei godi ar bolion pren.
Mae bwriad cysylltu’r cabannau gyda phibellau dŵr, trydan a system
garthffos. O ran
egwyddor nodwyd bod y cais yn bwriadu sefydlu safle gwersylla amgen ar gyfer
gosod 8 caban pren hunangynhaliol ar gyfer defnydd gwyliau. Oherwydd natur adeiladu a ffurf yr unedau, yn
ogystal â’u maint, eglurwyd bod datblygiad o’r fath yn cael ei ystyried fel
llety gwersylla amgen parhaol ac felly fe’i hystyriwyd o dan ofynion perthnasol
polisi TWR 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol.
Adroddwyd bod polisi TWR3 yn gwrthod cynigion i ddatblygu safleoedd
carafanau sefydlog, safleoedd siale gwyliau newydd neu lety gwersylla amgen
parhaol yn AHNE ac mewn Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Yn yr achos yma, nid yw’r
datblygiad arfaethedig o fewn AHNE, ac nid yw’n agos i ddynodiad ardal Tirwedd
Arbennig. Ystyriwyd
bod yr unedau, fydd wedi eu gosod yn y coed o ddyluniad naturiol ac nad felly
yn ymwthiol i’r dirwedd. Eglurwyd y bydd
angen gwneud gwaith clirio lleiafrifol ond bydd y safle yn parhau i dirweddu yn naturiol. Cyfeiriwyd at
faterion bioamrywiaeth a’r sylwadau hwyr a dderbyniwyd. O ran egwyddor gellid
ystyried bod effaith y bwriad yn
dderbyniol, ond nad oedd mesuriadau lliniaru wedi eu cytuno. Er na fyddai
colled o goedlan, amlygwyd y byddai’r ymgeisydd yn barod i liniaru’r effaith ac
wedi adnabod darn o dir lle gallent liniaru effaith y datblygiad. Nodwyd bod yr
Uned Bioamrywiaeth wedi ymateb drwy nodi nad oeddynt wedi asesu'r safle a awgrymwyd yn addas ac nad
oeddynt yn gwybod beth oedd gwerth ecolegol y tir. O ganlyniad, amlygwyd
addasiad i’r argymhelliad o ddirprwyo’r
hawl i ganiatáu yn ddarostyngedig i gytuno ar y mesuriadau lliniaru. b) Cynigiwyd ac
eiliwyd i ganiatáu y cais c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Angen sicrhau bod coed
cynhenid yn cael eu plannu ·
Awgrym i wneud y gwaith
lliniaru cyn dechrau ar y datblygiad ·
Bod angen ymgynghori
gyda’r Gwasanaeth Tân Mewn ymateb, i’r sylw ynglyn a’r gwaith lliniaru, amlygodd yr Uwch Reolwr y byddai cynllun digolledu, fyddai yn gwneud i fyny am y gwaith clirio, yn cael ei gyfarch yn y cynllun rheolaeth. Mewn ymateb i sylw yn ymwneud a’r Gwasanaeth Tân amlygwyd y bydd y trafodaethau hyn yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif C17/1246/09/LL - Maes Carafanau Pant y Neuadd, Ffordd Aberdyfi, Tywyn PDF 256 KB Estyniad i safle carafannau presennol, ail leoli ardal mwynderol. gosod 8 carafan sefydlog ychwanegol, ail leoli 4 carafan i'r estyniad a tynnu amod cynllunio yn cyfyngu defnydd safle i ardal mwynderol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Anne Lloyd Jones a’r Cynghorydd Mike Stevens Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd
yr eitem gan yr Is Gadeirydd Estyniad i safle
carafanau presennol, ail leoli ardal mwynderol. Gosod 8 carafan sefydlog ychwanegol,
ail leoli 4 carafan i'r estyniad a thynnu amod cynllunio yn cyfyngu defnydd
safle i ardal mwynderol. Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi cais gan yr ymgeisydd i ohirio’r cais er
mwyn ail ystyried y datblygiad yng nghyd-destun y polisiau newydd ac i baratoi
cynlluniau diwygiedig. a) Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais. PENDERFYNWYD: gohirio’r cais |