Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon LL55 1SH and Virtually via Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Hywel a’r Cynghorydd Gareth Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Huw Wyn Jones (oedd yn Aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0148/17/LL) ar y rhaglen oherwydd
ei fod yn
adnabod y teulu Roedd yr Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol
eu bod yn aelod lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Arwyn Herald Roberts (nad oedd
yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0148/17/Ll) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Elwyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C23/0212/30/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Cais Rhif C23/0148/17/LL Uwchlaw'r Rhos, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE PDF 339 KB Adeiladu tŷ menter
gwledig a gwaith cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Arwyn
Herald Roberts Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r argymhelliad Amodau: ·
5 mlynedd ·
Unol a’r cynlluniau ·
Mesurau i wella bioamrywiaeth ·
Archwiliad archeolegol ·
Cynllun draenio ·
Gwarchod y llwybr cyhoeddus ·
Tynnu hawliau a ganiateir ·
Amod gweithwyr amaethyddol /
menter gweledig Cofnod: Adeiladu tŷ menter wledig a gwaith cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau ychwanegol a) Amlygodd
Pennaeth Cynorthwyol, Adran
Amgylchedd bod y penderfyniad
wedi ei ohirio
ym Mhwyllgor Cynllunio
22/05/2023 yn unol â’i gyfarwyddyd gan fod risg
sylweddol i’r Cyngor o ran bwriad y Pwyllgor Cynllunio i ganiatáu’r cais
yn groes i argymhelliad swyddogion. Cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi
cil yn unol
â rheolau sefydlog y Pwyllgor. Pwrpas adrodd yn ôl
i’r Pwyllgor oedd amlygu’r materion
polisi cynllunio, risgiau posib a’r
opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn
iddynt ddod i benderfyniad terfynol ar y cais. Atgoffwyd
yr Aelodau mai cais llawn ydoedd am ganiatâd cynllunio i adeiladu tŷ
menter wledig ar Fferm Uwchlaw’r
Rhos tu allan
i bentref Penygroes ar safle
tu allan i unrhyw ffin
pentref fel y dynodir yn Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl). Wrth gyflwyno asesiad o’r ystyriaethau Cynllunio amlygwyd, parthed gwarchod cefn gwlad,
bod angen cyfiawnhad arbennig iawn dros
ganiatáu adeiladu tai newydd ac mai dim ond mewn amgylchiadau
arbennig y bydd ceisiadau yn cael
eu caniatáu. Nodwyd bod yr amgylchiadau arbennig hynny yn cael eu cynnwys
yn Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy -
Gorffennaf 2010 (NCT6) ac mai un o’r gofynion oedd yr angen i gyflwyno
gwybodaeth sy’n ymwneud a’r profion swyddogaethol, amser, ariannol ac anheddau
amgen er mwyn profi’r angen a chyfiawnhad am godi tŷ yng nghefn gwlad
agored. Yng nghyd-destun y
prawf swyddogaethol a’r prawf amser nodwyd bod tri partner i’r busnes gydag un
o’r partneriaid (mab yr ymgeisydd) yn byw ar y fferm yn barhaol, yn gweithio yn
achlysurol ar y fferm ac mewn sefyllfa i oruchwylio gweithgareddau’r fferm dros
oriau anodd. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn byw 1.6 milltir o’r safle ac wedi gwneud
hynny ers prynu’r busnes yn 2018 ac mai chwaer yr ymgeisydd oedd yn byw yn yr
ail dŷ ar y safle - ail dŷ o fewn perchnogaeth teulu'r ymgeisydd
fyddai’n cyfiawnhau goruchwyliaeth ddigonol ar y safle. Ni dderbyniwyd unrhyw
wybodaeth yn dangos bwriad i newid y system ffermio a fyddai’n newid y sefyllfa
i olygu presenoldeb parhaol ar y tir. Nid oedd y Cyngor wedi ei argyhoeddi bod
tystiolaeth rymus wedi ei gyflwyno fel cadarnhad penodol fod angen i’r
ymgeisydd fod wrth law yn barhaol ar y fferm o ystyried amgylchiadau'r daliad. Yng nghyd-destun prawf ariannol, nodwyd bod angen i’r ymgeisydd ddarparu prawf ariannol ar gyfer cyfnod o leiaf 3 mlynedd ynghyd ag asesu maint a chost yr annedd arfaethedig yn gymesur a gallu’r fenter i’w hariannu a’i chynnal heb niweidio hyfywedd parhaus y fenter, a dangos tebygolrwydd rhesymol y byddant yn cynnal enillion i’r llafur a gyflogir am o leiaf y pum mlynedd ddilynol. Yn ogystal, dylai’r ffigyrau ddangos fod y busnes yn gallu ymdopi a thalu cyflog i’r gweithwyr (1.5 yn yr achos yma) a bod enillion ar ôl i gynnal y busnes ac i adeiladu’r tŷ. Er bod cyfrifon wedi eu cyflwyno yn dangos elw a’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C17/0846/18/LL Tir yn Bro Rhiwen, Rhiwlas, LL57 4EL PDF 450 KB Datblygiad preswyl o 4 tŷ fforddiadwy ynghyd
a mynedfeydd cysylltiedig a pharcio (cynllun diwygiedig i'r hyn a gyflwynwyd yn
wreiddiol) AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Cynorthwyol i wrthod y cais ar
sail y rhesymau isod: - 1. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 2 (meini prawf
datblygu) o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, Gwynedd a Môn, 2017 gan nad yw’n
cydymffurfio a holl bolisïau perthnasol o fewn y Cynllun sy’n ymwneud a
chynigion ar gyfer darparu tai fforddiadwy. 2. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi TAI 8 (cymysgedd priodol o
dai), Polisi TAI 15 (trothwy tai fforddiadwy a’u dosbarthiad), Polisi TAI 16
(safleoedd eithrio) ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Canllaw
Cynllunio Atodol: Cymysgedd Tai a Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai
Fforddiadwy gan nad oes tystiolaeth rymus wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd sy’n
cadarnhau’n ddi-amheuol bod yr angen am dai fforddiadwy ar safle eithrio yn Rhiwlas
wedi ei brofi a bod prisiad y tai eu hunain yn fforddiadwy i bobl leol. 3. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PS 1
(yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig) ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn
y ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a
Chynaliadwy gan nad oes tystiolaeth rymus wedi ei dderbyn sy’n cadarnhau bod y
datblygiad yn cyfarch anghenion y gymuned leol a fyddai’n diogelu a/neu hybu’r
iaith Gymraeg o fewn Rhiwlas. Cofnod: Datblygiad preswyl o 4 tŷ fforddiadwy ynghyd a mynedfeydd cysylltiedig â pharcio (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd
yn wreiddiol) a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i godi 4 tŷ
fforddiadwy ar gyfer angen lleol
ar safle ar gyrion pentref
Rhiwlas. Nodwyd fod y cais yn
gais diwygiedig i’r un a gyflwynwyd
i’r Pwyllgor Cynllunio yn Chwefror 2018 ar gyfer 5 tŷ
fforddiadwy pryd y’i gohiriwyd ar
sail: (i) gofyn i’r datblygwr am dystiolaeth o wir angen am dai cymdeithasol
3 llofft ym mhentref Rhiwlas; (ii) derbyn cadarnhad os oes gan
gymdeithas dai cymdeithasol cofrestredig ddiddordeb yn yr unedau neu beidio ynghyd a (iii) gwybodaeth am restrau aros i
dai cymdeithasol yn yr ardal. Nodwyd bod y cais yn cynnwys yr elfennau canlynol: ·
Codi 2 dŷ deulawr 2 lofft a chodi 2 dŷ ddeulawr 3 llofft ar ffurf
teras. ·
Darparu mynedfeydd ar wahân i bob tŷ
a rhodfeydd preifat ar gyfer defnydd
parcio oddi ar y ffordd. ·
Darparu siediau/storfeydd domestig ynghyd ac ardal sychu dillad
yng nghefnau’r tai. ·
Cwlfertio o amgylch 26m o’r ffoes sy’n rhedeg
drwy gornel dwyreiniol y safle. Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli oddi allan
i’r ffin datblygu fel y’i cynhwysir yn y CDLl ond yn
cyffwrdd yn union â’r ffin. Gellid felly ei ystyried fel safle eithrio. Eglurwyd bod egwyddor o godi tai fforddiadwy ar y safle wedi ei selio ym
Mholisi TAI 16 o’r CDLl (safleoedd eithriad) lle
nodi’r fod yn rhaid i ddatblygiad ar ymyl ffin datblygu fod ar gyfer 100% tai
fforddiadwy os gellid dangos bod yr angen lleol wedi ei brofi am dai
fforddiadwy na ellid ei gyfarch o fewn safle tu mewn i’r ffin datblygu. Nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Rhiwlas dros gyfnod y Cynllun yw 9
uned gyda 2 uned wedi eu cwblhau o fewn y pentref rhwng 2011-2020 a ffigwr ar
gyfer banc tir o fewn y pentref yn 1 uned. O ystyried y wybodaeth yma, byddai
caniatáu’r cais ar y safle yn cael ei gefnogi yn erbyn y lefel cyflenwad
dangosol. Gohiriwyd y cais cynllunio am 5 tŷ gan y Pwyllgor Cynllunio yn 2018 oherwydd bod angen i’r datblygwr dystiolaethu gwir angen am dai cymdeithasol 3 llofft ym mhentref Rhiwlas. Yn y cyfamser, roedd yr ymgeisydd wedi lleihau'r niferoedd o 5 tŷ i 4 tŷ ond er hynny nid oedd wedi cyflwyno tystiolaeth rymus na chadarn yn cadarnhau bod yr angen yn bodoli am dai 3-llofft cymdeithasol yn Rhiwlas er gwaethaf cyflwyno Datganiad Cynllunio a Datganiad Tai Fforddiadwy i gefnogi’r cais. Amlygywd bod y Datganiad Tai Fforddiadwy yn cyfeirio at yr angen am dai cymdeithasol yn y pentref yn seiliedig ar ffigyrau cofrestr Opsiynau Tai'r Cyngor oedd yn dangos bod 38% angen tŷ 2-lofft a 24% angen tŷ 3-llofft o gyfanswm o 98 person. Ategwyd mai ffigyrau Ward Penisarwaun yn gyffredinol oedd y ffigyrau hyn ac nid rhai oedd yn benodol ar gyfer Rhiwlas (byddai’n anodd adnabod pwy fyddai wedi dangos parodrwydd i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C23/0295/33/DT Ty Ni, Ceidio, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YL PDF 301 KB Estyniad i annedd i
ddarparu garej, ystafell therapi ac ystafell therapi ac ystafell wlyb hygyrch i
berson anabl
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau: 1. 5
mlynedd 2. Unol
a’r cynlluniau 3. Llechi
ar y to 4. Gorffeniad
i gydweddu Nodyn Dwr Cymru Nodyn
Bioamrywiaeth Cofnod: Estyniad i annedd
i ddarparu garej, ystafell therapi ac ystafell wlyb hygyrch i
berson anabl a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad unllawr
ar ochr y tŷ unllawr presennol ar gyfer
defnydd fel modurdy hygyrch ynghyd ac ystafell therapi ac ystafell wlyb. Eglurwyd bod y bwriad yn golygu
darparu ramp mynedfa i brif fynedfa’r
eiddo a’r drysau patio ar yr edrychiad cefn hefyd. Byddai mynedfa
i’r estyniad drwy’r modurdy bwriededig a hefyd drwy’r eiddo presennol. Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn fab i’r Aelod Lleol. Ystyriwyd
fod y cynllun diwygiedig yn foddhaol ar sail mwynderau gweledol, tirlun,
mwynderau preswyl a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
perthnasol. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais PENDERFYNWYD
Caniatáu gydag amodau: 1. 5 mlynedd 2. Unol a’r cynlluniau 3. Llechi ar y to 4. Gorffeniad i gydweddu Nodyn
Dwr Cymru Nodyn
Bioamrywiaeth |