Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cynghorydd Eirwyn Williams Croesawyd y Cynghorydd Gareth T Jones i’w gyfarfod cyntaf. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0046/42/LL) oherwydd roedd yn aelod o Gyngor
Tref Nefyn – Cyngor Tref Nefyn
oedd yn cyflwyno’r
cais Y Cynghorydd Owain Williams (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0046/42/LL) oherwydd roedd yn aelod
o Gyngor Tref Nefyn –
Cyngor Tref Nefyn oedd yn cyflwyno’r cais Y Cynghorydd Gareth T Jones (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0046/42/LL) oherwydd roedd yn aelod
o Gyngor Tref Nefyn –
Cyngor Tref Nefyn oedd yn cyflwyno’r cais Roedd yr aelodau o’r farn ei
fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar y cais. b) Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: Y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1028/03/LL) Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0022/42/DT) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 16 Gorffennaf 2020 yn rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadarnhawyd bod y
cofnod yn gofnod priodol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 16 o Orffennaf
2020. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth
i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.
Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais
ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a
llefydd parcio AELOD
LLEOL: Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â materion draenio Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd - mewn ymateb i sylwadau
gan yr Aelod
Lleol ymgynghorwyd gyda’r Uned Rheoli
Risg Llifogydd y Cyngor a derbyniwyd ymateb sydyn i’r pryder.
Nodwyd nad
oedd gan yr Adran wybodaeth
am y sefyllfa ond bod bwriad i ymchwilio
i’r gwyn. Nid oedd amserlen
ar gyfer y gwaith yma wedi
ei osod. a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi y cyflwynwyd y cais gerbron Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 02.03.2020 pryd penderfynwyd trefnu i’r aelodau
ymweld â’r safle. Yn y cyfamser,
adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi hysbysu’r Cyngor ei fod wedi cyflwyno
apêl i’r Arolygaeth Cynllunio yn erbyn diffyg
penderfyniad gan y Cyngor ar y cais (dyddiad
heb ei dderbyn
hyd yma). Atgoffwyd yr
Aelodau bod y cais ar gyfer addasu tŷ
tafarn i 5 fflat preswyl hunangynhaliol ynghyd â chreu llefydd parcio a
mynedfa. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Blaenau
Ffestiniog a bod defnydd
y safle fel tafarn wedi dod
i ben ddechrau 2017. Byddai’r bwriad
yn golygu newidiadau mewnol i greu'r fflatiau ar y tri llawr. Cyfyngir y newidiadau allanol i’r estyniad
ochr ac addasu fymryn ar osodiad agoriadau ffenestri a drws ar lefel daear ar y
drychiad cefn. Darparwyd lluniau
a fideo ychwanegol gan nad oedd modd cynnal
ymweliad safle oherwydd cyfyngiadau covid 19. Polisi TAI9 yn caniatáu isrannu
eiddo presennol i fflatiau hunangynhaliol
cyn belled ei fod yn cydymffurfio
gyda’r meini prawf perthnasol sydd wedi ei
cynnwys yn yr adroddiad:-
ni ystyrir y byddai'r bwriad i addasu'r adeilad
yn 5 fflat yn groes i
amcanion polisi TAI 9. Cyfeiriwyd at bolisi TAI15 sydd yn gofyn i bob datblygiad gyflawni cymysgedd priodol ar sail deiliadaeth, mathau a maint o dai fforddiadwy
sy’n cael ei ategu gan
Bolisi TAI 8 ynghyd â ChCA: Cymysgedd Tai. Noder bod sylwadau gan Uned
Strategol Tai yn datgan bod angen cydnabyddedig am fflatiau 1 a 2 ystafell wely yn
y dref. Ystyriwyd bod y cais fel y diwygiwyd yn darparu cymysgedd
briodol o lety mewn adeilad presennol
ac yn cyfarch angen cydnabyddedig am dai yn y
dref. Nodai Polisi TAI 15 (Trothwy Tai Fforddiadwy a’u Dosbarthiad) fod disgwyl i o leiaf
0.4 o’r unedau fod yn fforddiadwy,
yn unol â’r
wybodaeth a gyflwynwyd Derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn
datgan ei fod wedi ymchwilio
prisiau rhentu/gwerthu o fewn tua milltir i’r
safle fel rhan o’r datblygiad.
Er nad
oedd y swyddogion yn anghytuno gyda’r
prisiau, nid oedd y prisiau yn seiliedig ar
y Llyfr Coch ac roedd man wendidau eraill yn y wybodaeth
a gyflwynwyd. O dan yr amgylchiadau ystyriwyd
y gellid caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod amod
i gytuno ar faterion fforddiadwyedd
ar gyfer un o’r unedau cyn
rhyddhau unrhyw ganiatâd. Yng nghyd-destun materion gweledol a mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y rhain wedi eu hasesu yn llawn ac nad oedd unrhyw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C20/0022/42/DT - Tan y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, LL53 6LN PDF 318 KB Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhanol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod y cais ar sail
gorddatblygiad Cofnod: Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn Ymhelaethodd Y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn
un ar gyfer ailwampio ac ymestyn tŷ presennol. Adroddwyd y byddai’r datblygiad newydd yn cynyddu
nifer y llofftydd o 3 i 4 gan gynyddu maint y gofod byw i lawr grisiau. Saif yr eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn ar ben ffordd
breifat (sy’n rhannol yn llwybr cyhoeddus) sy’n arwain o ffordd ddi-ddosbarth
Bryn Glas. Mae’r safle mewn cefn gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin
ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Llŷn. Fe drafodwyd y cais hwn yn y Pwyllgor Cynllunio ar
02/03/2020 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad er caniatáu trefnu ymweliad
safle ac er mwyn galluogi cyflwyno adroddiad rhywogaethau gwarchodedig.
Derbyniwyd aroddiad o Arolwg Rhywogaethau
Gwarchodedig ar 29 Mai, 2020. Darparwyd lluniau a fideo ychwanegol gan nad oedd
modd cynnal ymweliad safle oherwydd cyfyngiadau covid 19. Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi
eu derbyn (ond heb eu
cynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr) gan Ymgyrch
Diogelu Cymru Wledig yn pryderu
bod maint a dyluniad yr estyniad yn
nodwedd estron yn y dirwedd. Ategwyd
bod sylwadau hefyd wedi eu derbyn
gan Swyddog yr AHNE (oedd heb
eu cynnwys yn yr adroddiad)
yn pryderu am yr estyniadau ochr
sylweddol, y ffenestri mawr ar effaith
ar yr AHNE. Adroddwyd y byddai’r tŷ ar ei newydd
wedd yn debygol
o fod yn sylweddol fwy na'r
tŷ presennol gyda’r arwynebedd llawr mewnol yn
fwy na
dyblu. Er hynny, gan na
fyddai cynnydd mewn uchder yr
adeilad, ystyriwyd bod y dyluniad a gyflwynwyd o ansawdd uchel gyda’r
defnydd o garreg, gwydr a llechi yn
briodol ar gyfer y lleoliad. Gwerthfawrogwyd bod y dyluniad yn ‘fater o farn’. Saif yr eiddo mewn lleoliad
agored ar lethr y mynydd ac felly’n weladwy gan y cyhoedd o briffordd gyfagos ac ardaloedd cyhoeddus eraill. Wrth werthfawrogi’r
pryder ynghylch sensitifrwydd y dirwedd yn yr ardal
hon, nid oedd y swyddogion yn ystyried
y byddai’r estyniadau fel y’u dyluniwyd
yn cael effaith
niweidiol arwyddocaol ar ansawdd y dirwedd
ac ni ystyriwyd
y byddai’r bwriad yn effeithio gosodiad
yr AHNE, neu’r golygfeydd allan ohoni, mewn ffordd
niweidiol. Tynnwyd sylw at sylwadau oedd wedi ei
derbyn am orddarpariaeth o unedau gwyliau yn yr ardal
ond amlygwyd mai cais am estyniad
i dŷ
oedd gerbron ac nid cais am lety
gwyliau. Cydnabuwyd hefyd bod yr effaith
weledol yn destun pryder a materion dylunio yn gallu bod yn
gynhennus, ond bod swyddogion wedi pwyso a mesur y cais cynllunio yn erbyn gofynion
y polisïau perthnasol ynghyd a’r sylwadau
a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd.
O ganlyniad ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ac yn cwrdd gyda gofynion
polisi cynllunio lleol a chenedlaethol ac y dylid ei ganiatáu
gyda’r amodau sydd wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad. a) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C20/0046/42/LL - Tir Ger Fynwent Gyhoeddus Nefyn, Nefyn, LL53 6EG PDF 329 KB Cais ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i ffurfio rhan o estyniad i fynwent presennol ynghyd a gwaith i estynnu maes parcio presennol, creu llwybrau a chodi ffensiau/giataiau cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu y cais 1.
Rhaid cychwyn ar y datblygiad
y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn
dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 2.
Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn
llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau
a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 06/05/20, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau
eraill gyda'r cais, os nad
oes amod(au) sy'n ei
diwygio wedi ei gynnwys ar
y dyfarniad cynllunio hwn. 3.
Bydd pob claddedigaeth yn y fynwent yn: • lleiafswm o 50 metr i ffwrdd
o gyflenwad dŵr yfed tanddaearol; • o leiaf 30 metr o gwrs dŵr neu
darddiad; • pellter o 10 metr o leiaf o ddraeniau tir; • Ni ddylai unrhyw gladdu
fod mewn dŵr sy’n sefyll,
a gwaelod y bedd fod yn uwch
na'r tabl dŵr lleol. 4.
Ni chaniateir i ddŵr wyneb
a / neu ddraeniad tir gysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a'r rhwydwaith carthffosiaeth gyhoeddus. 5.
Rhaid cwblhau'r lle parcio ceir yn gwbl unol fel y dangoswyd ar y cynllun amgaeedig
cyn cychwyn ar y defnydd a ganiateir yma. Cofnod: a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai
cais llawn ydoedd ar gyfer
creu estyniad rhesymol i’r fynwent
bresennol drwy newid defnydd tir
amaethyddol sydd wedi ei leoli
oddi ar Ffordd
Dewi Sant yn Nefyn. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu
allan, ond yn gyfochrog i
ffin datblygu Nefyn wrth gefn
y Parc Busnes. Ystyriwyd fod lleoliad, maint
a gosodiad yr estyniad yn un
rhesymegol ac y byddai’n ychwanegu at wasanaeth cymunedol presennol yn effeithiol. Gyda materion
dwr daear wedi eu datrys, ystyriwyd fod
y bwriad hwn yn cydymffurfio gyda holl ystyriaethau
a pholisïau cynllunio perthnasol. b) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais PENDERFYNWYD dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio
i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau isod; 1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad
y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn
dim hwyrach na
PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn
llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau
a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 06/05/20, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau
eraill gyda'r cais, os nad
oes amod(au) sy'n ei
diwygio wedi ei gynnwys ar
y dyfarniad cynllunio hwn. 3. Bydd pob claddedigaeth yn y fynwent yn: • lleiafswm o 50 metr i ffwrdd
o gyflenwad dŵr yfed tanddaearol; • o leiaf 30 metr o gwrs dŵr neu
darddiad; • pellter o 10 metr o leiaf o ddraeniau tir; • Ni ddylai unrhyw gladdu
fod mewn dŵr sy’n sefyll,
a gwaelod y bedd fod yn uwch na'r tabl
dŵr lleol. 4. Ni chaniateir
i ddŵr wyneb a / neu ddraeniad
tir gysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a'r rhwydwaith carthffosiaeth gyhoeddus. 5. Rhaid cwblhau'r lle parcio ceir yn gwbl unol fel y dangoswyd ar y cynllun amgaeedig
cyn cychwyn ar y defnydd a ganiateir yma. |
|
Addasu cyn adeilad y Brifysgol i 6 uned breswyl hunan-gynhaliol ynghyd a llecyn parcio ychwanegol AELOD LLEOL: Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio er
mwyn cael barn annibynnol gan y Prisiwr Dosbarth Cofnod: a) Oherwydd pryderon diweddar am wybodaeth ariannol, prisiad, a’r ddadl
hyfywedd sydd wedi ei gyflwyno
fel rhan o’r cais awgrymodd
y Rheolwr Cynllunio y dylid gohirio’r drafodaeth ar y cais er mwyn
cael barn annibynnol ar y materion yma
gan y Prisiwr Dosbarth. b) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ohirio’r cais PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn
cael barn annibynnol gan y Prisiwr Dosbarth |