Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Stephen Churchman a’r Cynghorydd Dilwyn Lloyd Cyhoeddwyd bod
Dafydd Gareth Jones (Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff) yn ymddeol wedi
36 mlynedd o wasanaeth yn y Cyngor. Diolchwyd iddo am ei gyngor a’i gefnogaeth
i’r Pwyllgor Cynllunio dros y blynyddoedd a dymunwyd y gorau iddo. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Datganodd yr aelod
canlynol ei fod yn aelod lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Dafydd Meurig (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.2 (C15/0966/16/MG) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais o dan Adran 73 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad
a Thref 1990 i amrywio Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL (Estyniad
i’r safle ailgylchu presennol, codi adeilad trosglwyddo gwastraff newydd,
cyfleusterau parcio a chodi sgrin perimedr 5 metr o uchder) i gynyddu’r
uchafswm trwygyrch flynyddol o wastraff i 125,000 tunnell ar gyfradd uchaf o
1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Jason W Parry Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw yr
awdurdod cynllunio gwastraff ni chaniateir symud mwy na 125,000 tunnell o
wastraff tŷ, masnachol a diwyd-iannol sych solet drwy’r orsaf trosglwyddo
gwastraff mewn blwyddyn ar uchafswm raddfa o 1,200 tunnell y diwrnod a dim mwy
na 2,800 tunnell yr wythnos. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau o’r gwastraff yn mynd
drwy’r safle dros unrhyw gyfnod pen-odedig ar gael i’r awdurdod cynllunio
gwastraff, ar gais, o fewn 21 diwrnod.
Cofnod: Cais o dan Adran 73 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio Amod
8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL (Estyniad
i’r safle ailgylchu presennol, codi adeilad trosglwyddo
gwastraff newydd, cyfleusterau parcio a chodi sgrin perimedr
5 metr o uchder) i gynyddu’r uchafswm
trwygyrch blynyddol o wastraff o 75,000 i 125,000 tunnell ar gyfradd
uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi sefydlu ar
Ystâd Ddiwydiannol yng Nghibyn ers dros 20 mlynedd sydd wedi’i warchod ar fap
cynigion y Cynllun Datblygu lleol, ar gyfer defnydd cyflogaeth B1, B2 & B8.
Ategwyd bod Polisi GWA 2 (Rheoli Gwastraff a Safleoedd a Ddyrannwyd) yn nodi y
dylid cymeradwyo cynigion rheoli gwastraff ar safleoedd priodol ar yr amod bod
y cynnig yn unol â'r hierarchaeth wastraff a bod angen amlwg am y datblygiad a
gefnogir gan Asesiad Cynllunio Gwastraff. Ni chynigiwyd
unrhyw newidiadau adeiladol na gweithredol eraill i'r datblygiad. Nodwyd bod y safle
yn darparu gwasanaeth trosglwyddo ac ailgylchu gwastraff masnachol yn unol â
thelerau’r caniatâd presennol. Eglurwyd bod y gwastraff a derbyniwyd yn cynnwys
gwastraff a gesglir mewn sgips sef, gwastraff
tŷ, gwastraff masnachol a diwydiannol a gwastraff o waith glanhau ffyrdd
ynghyd a rhai eitemau a ddisgrifir fel gwastraff peryglus i gynnwys batris
ceir, llenni asbestos wedi’i bondio â sment a gwastraff trydan. Bydd y gwastraff
sydd yn cael ei gludo i'r safle yn cael ei ddidoli ar gyfer ailgylchu neu ei
ailddefnyddio. Amlygwyd bod y
cyfleuster wedi gweithredu'n llwyddiannus i'r graddau bod y galw gan gwsmeriaid
presennol a darpar gwsmeriaid yn tyfu ar gyfradd a fyddai'n fwy na'r hyn a
osodir o dan amod cynllunio ac felly gwnaed cais am gynnydd yn y mewnbwn
gwastraff a ganiateir. Ategwyd bod uwchraddiad diweddar i'r orsaf trosglwyddo
gwastraff wedi arwain at gapasiti ychwanegol sef,
gwastraff adeiladu a dymchwel yn bennaf a chyda contract gyda safleoedd ynni o
wastraff yng Nghymru a Lloegr yn golygu cyflenwad deunydd sy'n deillio o
brosesu gwastraff o ffynonellau adeiladu, cartrefi a masnachol, rhagwelir y
bydd y llif gwastraff hwn yn parhau. Bydd angen mwy o gapasiti
hefyd i ddarparu ar gyfer cynnydd mewn cynhyrchu a dosbarthu biomas i
weithfeydd biomas lleol. Nodwyd bod y safle gyda’r capasiti
i ehangu a buasai’r bwriad yn sicrhau bod y cyfleuster presennol yn parhau i
ddidoli a phrosesu deunyddiau yn gynaliadwy a chyfrannu at gyrraedd targedau
Llywodraeth Cymru i ddargyfeirio gwastraff o dirlenwi. O ran gosod targedau ar gyfer rheoli gwastraff cartref, diwydiannol a masnachol, mae ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ yn mynnu y dylai o leiaf 70% o'r gwastraff o'r fath gael ei ailddefnyddio ac / neu ei ailgylchu erbyn 2025. Ystyriwyd y byddai’r cais hwn yn cyfrannu at yr hyn mae’r ardal yn ei ailgylchu ac yn lleihau'r gwastraff sydd yn cael ei dirlenwi. Adroddwyd, ar gyfer pob math o wastraff, mae Polisi Cynllunio Cymru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C15/0966/16/MG Tir yn Pentwmpath, Llandygai, LL57 4LG PDF 511 KB Cais
materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 15 tŷ gan gynnwys 3 tŷ
fforddiadwy, yn dilyn caniatâd amlinellol o dan gyfeirnod C09A/0518/16/AM AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gwrthod Rhesymau:
byddai’r bwriad yn debygol o gael effaith andwyol ar y coed a
warchodir ac fod y bwriad yn groes i ofynion maen prawf 8 o bolisi PS19 o'r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 gan nad yw’r bwriad yn sicrhau cadw
neu wella coed, gwrychoedd a choetiroedd o werth.” Cofnod: Cais materion a gadwyd
yn ôl ar gyfer codi 15 tŷ gan gynnwys 5 tŷ fforddiadwy, yn dilyn
caniatâd amlinellol o dan gyfeirnod C09A/0518/16/AM Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio y caniatawyd y cais amlinellol ar gyfer codi 15 tŷ i gynnwys 5
tŷ fforddiadwy gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl, ac felly’r cais
gerbron ar gyfer cytuno’r holl faterion oedd yn weddill, megis llunwedd, graddfa, golwg a
thirweddu. Eglurwyd
bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Llandygai ac o dan y
Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (2009) pryd caniatawyd y bwriad yn amlinellol,
roedd y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai, Erbyn hyn, nid yw’r safle wedi ei
ddynodi, ond yn parhau oddi fewn y ffin ddatblygu. Eglurwyd mai tir pori yw
defnydd y tir ar hyn o bryd gyda wal garreg a gwrych yn rhedeg ar hyd ffin
orllewinol y safle gyda’r ffordd gyhoeddus gyfochrog. Ategwyd bod
presenoldeb coed aeddfed sydd wedi eu gwarchod o dan Orchymyn Gwarchod Coed
diweddar (04.10.2019) ar hyd ffin ogleddol y safle a ffordd breifat yn arwain
tuag at glwstwr o dai ar y ffin ddeheuol. Adroddwyd bod y cais wedi bod yn destun trafodaethau
health gyda’r asiant dros gyfnod o amser, a’r cynlluniau diweddaraf wedi eu
cyflwyno (13.08.2021) yn cynnig lleihau’r nifer o dai fforddiadwy o 5 i 3 a
chadw ardal ‘buffer’ rhwng y coed sydd wedi eu gwarchod a’r datblygiad tai.
Ategwyd bod bwriad darparu un fynedfa gerbydol i’r stad ynghyd a mynedfa droed
drwy’r gwrych presennol
- byddai’r gwrych yn cael ei waredu yn gyfan gwbl i’r rhan sydd
wedi ei leoli i’r de o’r fynedfa. Er
bod y cynlluniau diwygiedig yn cynnig lleihau’r nifer o dai fforddiadwy o 5 i 3
nodwyd, er y byddai modd diwygio’r nifer o dai fforddiadwy o dan gais arall ar
wahân, nid oedd posib gwneud hynny drwy gais materion a gadwyd yn ôl oherwydd
bod y ffurflen gais a’r caniatâd cynllunio amlinellol yn cyfeirio’n benodol
tuag ar ddarparu 5 uned fforddiadwy yng nghyswllt y bwriad yma. Er y
trafodaethau am leihau’r nifer o dai fforddiadwy i 3 ac y byddai’n bosib gwneud
hynny drwy gais ar wahân, nid oedd y ffurflen gais na’r cynlluniau diwygiedig
yn cadarnhau’r newid i 3 eiddo fforddiadwy yn glir. Amlinellwyd bod y cais wedi
ei asesu ar gyfer 5 tŷ fforddiadwy. Eglurwyd
y rhesymau dros wrthod y cais gan nodi bod rheswm gwrthod 4 bellach wedi ei
ddiddymu
oherwydd bod yr asiant wedi darparu gohebiaeth
rhyngddynt hwy a Dŵr Cymru yn cadarnhau fod Dŵr Cymru yn fodlon
iddynt gysylltu i'r brif garthffos.
Nodwyd bod caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei gymeradwyo ar gyfer y
bwriad sydd yn cynnwys darparu system trin carthffosiaeth ac nad oes modd
ymdrin â’r newid i gysylltu i'r brif garthffos drwy gais materion a gadwyd yn
ôl. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd
asiant yr ymgeisydd yn sylwadau canlynol: · Bod adroddiad y pwyllgor a’r argymhelliad yn annisgwyl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |