Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Cynghorydd Endaf Cooke |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gwen Griffith, yn
eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/1081/11/LL) oherwydd ei bod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Gwarchodfa Natur Leol Traeth
Lafan; ·
Y Cynghorydd Gruffydd
Williams, yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0281/42/LL) oherwydd bod ei dad yn berchen parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle; ·
Y Cynghorydd Owain Williams,
yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0281/42/LL) oherwydd ei fod yn berchennog parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle. Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a
nodir. (b) Datganodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu
buddiant personol, yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0329/18/LL) oherwydd bod ei chefnder a oedd yn byw gyferbyn
a’r safle wedi gwrthwynebu’r cais. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (c) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Lesley Day, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/1081/11/LL); ·
Y Cynghorydd Anwen Davies, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.5, 5.6 a 5.9 ar y
rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C16/0243/33/CR, C16/0246/33/LL a
C16/0410/33/LL); ·
Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/0281/42/LL); ·
Y Cynghorydd Elfed W.
Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0329/18/LL); ·
Y Cynghorydd Hefin Underwood, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 5.10 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0140/45/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2016 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C15/0828/11/LL - Hen Swyddfa Bost, 60, Ffordd Deiniol, Bangor PDF 921 KB Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd D.
Gwynfor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi
a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan
gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau
cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau
byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol. (a)
Adroddwyd ei fod wedi dod i’r amlwg
bod ffigyrau mewn rhan o’r adroddiad angen ei gywiro. Nodwyd yn ogystal
oherwydd natur y cynllun gerbron yr argymhellir cynnal ymweliad safle. Felly,
gofynnir i ohirio’r cais i gyfarfod y Pwyllgor ar 25 Gorffennaf. Mewn ymateb i sylw gan aelod o ran
derbyn gwybodaeth o’r angen am lety myfyrwyr a’r nifer o ystafelloedd gwag mewn
llety a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer myfyrwyr, nodwyd y gofynnir i’r
ymgeisydd am wybodaeth i’r perwyl hwn. PENDERFYNWYD gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C15/0844/11/CR - Hen Swyddfa Bost, 60, Ffordd Deiniol, Bangor PDF 873 KB Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd D.
Gwynfor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi
a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan
gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau
cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau
byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol. (a) Nodwyd
y gofynnir i ohirio’r cais yn
unol â’r hyn a adroddwyd
ar y cais uchod. PENDERFYNWYD
gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C15/1081/11/LL - Hen Iard Gychod Dickies, Beach Road, Bangor PDF 1 MB Ail gyflwyniad o gais blaenorol i mewnforio deunydd anadweithiol er mwyn codi lefelau tir presennol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Lesley Day Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ail gyflwyniad o gais blaenorol i gludo
i mewn deunydd
anadweithiol er mwyn codi lefelau
tir presennol. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan
nodi bod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer datblygiad yng Nghynllun Datblygu
Unedol Gwynedd (CDUG). Eglurwyd bod datblygiad preswyl ar fin cael ei gwblhau
ar dir cyfagos a bod y cais yma ar gyfer gwneud gwaith peirianyddol a chodi
lefel tir er mwyn darparu safle ar gyfer datblygiad pellach. Nodwyd y bwriedir
codi lefel y tir gan roi sgil-gynhyrchion cloddio sy’n deillio o’r datblygiad
ar dir cyfagos a chludo 19,000 tunnell arall o ddeunydd anadweithiol i mewn er
mwyn codi lefel y tir. Nodwyd y derbyniwyd nifer o asesiadau arbenigol fel rhan o’r
cais. Adroddwyd y cynhaliwyd trafodaethau efo Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC), Uned Bioamrywiaeth ac Uned Gwarchod y Cyhoedd ac nid oedd ganddynt
wrthwynebiad i’r cais. Nodwyd y byddai cynnydd dros dro mewn symudiadau traffig
ond nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad os rhoddir
amodau perthnasol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi
bod yr RSPB wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl cyn belled
a bod y mesuriadau lliniaru yn cael eu gweithredu. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn siarad ar ran
Cymdeithas Ddinesig Bangor; ·
Nid oeddent yn gwrthwynebu’r
egwyddor o ddatblygu’r safle; ·
Y byddai’r tir yn parhau i fod
wrth ymyl parth llifogydd hydynoed wedi codi lefel y
tir; ·
Nad oedd y cynllun gerbron ar
gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn Ardal Bae Hirael ond yn hytrach ar gyfer
paratoi’r safle i’w ddatblygu; ·
Y dylid datrys materion
ynghylch halogi tir a natur y deunydd a ollyngwyd yn flaenorol ar y safle cyn
cysidro datblygu’r tir o ystyried y risgiau cyfreithiol o adeiladu ar dir
halogedig; ·
Pryder o ran sefydlogrwydd tir
a’r effaith ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Traeth Lafan; ·
Os caniateir y cais gofynnir
am gyfundrefn rheoleiddio llawer llymach. (c) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod datblygu’r safle wedi ei
gyfyngu gan fod y safle o fewn
Parth Llifogydd C2; ·
Mai gwaith paratoadol ar gyfer
datblygu’r safle ymhellach oedd dan sylw; ·
Byddai’r bwriad yn golygu gwella amddiffynfeydd
y môr a galluogi newid categori llifogydd y safle; ·
Ni fyddai’r bwriad yn cael
effaith andwyol ar y dynodiadau; ·
Y byddai’r
bwriad yn cyfrannu at ail-ddatblygu’r safle gwag yma. (ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod ganddi, y gymuned leol a
chyrff arbenigol bryderon yng nghyswllt y bwriad; ·
Y hysbyswyd swyddogion bod
gwastraff eisoes wedi ei dipio ar y safle a bod rhan o’r cais felly yn
ôl-weithredol; ·
Bod y safle yn agored i
erydiad a’i phryderon o ran sefydlogrwydd y tir; · Bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C16/0183/32/LL - Gwrych Y Dryw, Botwnnog PDF 557 KB Cais i gadw estyniad i sied amaethyddol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gweno Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
i gadw estyniad
i sied amaethyddol. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Gorfodaeth ar gefndir y cais, gan
nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Ebrill
2016 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.
Adroddwyd bod y Gwasanaeth Cynllunio yn ymwybodol bod gwrthwynebiad pellach wedi ei anfon
i’r aelodau. Nodwyd bod y materion cynllunio perthnasol wedi eu cyfeirio
atynt yn yr adroddiad a bod sylwadau ar faterion
eraill o ran lles anifeiliaid wedi eu cyfeirio at y gwasanaethau priodol. Roedd
y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Nododd aelod ei
fod yn ymddangos
mai materion sifil a godwyd fel gwrthwynebiad pellach ac fe
ddylid penderfynu ar y cais gan
ystyried y materion cynllunio perthnasol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amod - defnydd amaethyddol yn unig. |
|
Cais Rhif C16/0243/33/CR - Eglwys Sant Ceidio, Ceidio PDF 636 KB Addasu cyn Eglwys yn uned gwyliau. AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasu cyn Eglwys yn
uned gwyliau. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi ei fod yn gais adeilad rhestredig. Tynnwyd sylw i’r sylwadau hwyr a
dderbyniwyd gan yr asiant lle cadarnheir nad oedd bwriad bellach i osod
ffenestri eilradd. Nodwyd yr ystyrir fod y bwriad yn dderbyniol ac yn fodd o sicrhau defnydd
hir dymor i’r adeilad rhestredig ac yn ddefnydd addas o’r adeilad. Roedd yr
addasiadau yn gyfaddawd teg ac addas i’r adeilad er mwyn sicrhau defnydd a’u
bod hefyd o fath y gellir eu gosod a’u tynnu heb wneud
difrod i’r adeilad Ychwanegwyd yr ystyrir y byddai’r nodweddion gwreiddiol yn cael eu cadw a’u
gwarchod ac na fydd y bwriad yn ei gyfanrwydd yn amharu ar gymeriad hanesyddol
na phensaernïol yr adeilad rhestredig. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. Nodwyd
yn dilyn derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr asiant bod yr
argymhelliad wedi newid i’r hyn
a nodwyd yn yr adroddiad a bellach argymhellir i ddirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i dderbyn manylion
darparu/gosod y gwasanaethau i’r adeilad ar hyd
y llwybr o safbwynt effaith archeolegol, derbyn cadarnhad gan CADW fod y bwriad yn dderbyniol
ac i amodau perthnasol gyda’r amod ychwanegol o gytuno ar y driniaeth
o’r ffin. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod mwyafrif y rhai oedd yn
pryderu o’r farn bellach ei fod yn well i gadw cyflwr
yr adeilad; ·
Nid oedd yn hapus i roi cadwyni
i wahaniaethu o ran ffin yn dilyn digwyddiadau efo plant a chadwyni; ·
Gofyn i fod yn rhan o’r
trafodaethau o ran triniaeth o’r ffin. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Nododd aelod ei fod yn bwysig cynnwys yr aelod lleol yn y trafodaethau o
ran triniaeth o’r ffin. PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn manylion
darparu/gosod y gwasanaethau i’r adeilad ar hyd
y llwybr o safbwynt effaith archeolegol, derbyn cadarnhad gan CADW fod y bwriad yn dderbyniol
ac i amodau perthnasol yn ymwneud
â: 1. 5 mlynedd 2. Unol a’r cynlluniau 3. Amodau yn ymwneud gyda’r llawr cyntaf 4. Amodau yn ymwneud gyda gwaith ar y to 5. Drws newydd o wneuthuriad pren 6. Y drws gwreiddiol i’w gadw o fewn/neu yn rhan o’r adeilad bob
amser 7. Amodau yn ymwneud gyda’r gwydriad eilradd 8. Gwaith rendr a phlaster gyda chalch 9. Rhaid cadw rhai o’r seddi gwreiddiol o fewn yr adeilad bob amser
(i’w gytuno gyda’r ACLL cyn dechrau gwaith) 10. Amod archeolegol yn ymwneud a gwaith gwasanaethau 11. Cofnod ffotograffig 12. Cytuno ar y driniaeth o’r ffin. |
|
Cais Rhif C16/0246/33/LL - Eglwys Sant Ceidio, Ceidio PDF 564 KB Newid defnydd cyn Eglwys yn uned gwyliau. AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd cyn Eglwys yn
uned gwyliau. (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi bod yr eglwys
yn wag ers peth amser ac eisoes
wedi newid dwylo o berchnogaeth yr Eglwys yng
Nghymru i berchnogaeth breifat. Tynnwyd sylw
at y manylion ychwanegol a dderbyniwyd gan yr asiant ar
gais y swyddogion. Nodwyd bod y bwriad
yn dderbyniol o safbwynt egwyddor ac yn unol â pholisïau
B3, C4 a D15 o’r CDUG. Eglurwyd
bod y bwriad yn golygu adfer yr
adeilad yn bennaf ac oherwydd lleoliad agored cefn gwlad y safle
ni ystyrir
y byddai’r bwriad yn amharu ar
fwynderau’r safle na’r ardal. Amlygwyd pryder
a godwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus y byddai’r bwriad yn amharu
ar fynediad i’r fynwent. Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan yr Eglwys
yng Nghymru eu bod dal yn berchen
y fynwent ac y byddai’n parhau i fod
yn agored i’r cyhoedd. Nodwyd
yn dilyn derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr asiant bod yr
argymhelliad wedi newid i’r hyn
a nodwyd yn yr adroddiad a bellach argymhellir i ddirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynlluniau
yn ymwneud a’r glwydfan ystlumod
ac i dderbyn sylwadau ffafriol yr Uned Bioamrywiaeth
i’r cynlluniau hynny, derbyn manylion
darparu/gosod y gwasanaethau i’r adeilad ar hyd
y llwybr ac i amodau perthnasol. (b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod teuluoedd y rhai a
gladdwyd yn y fynwent yn pryderu y byddai’r beddi yn cael eu hamharchu; ·
Y dylid gosod ffens o amgylch
yr adeilad a gwneud hynny cyn y gellir gosod y
tŷ; ·
Bod angen sicrhau cadarnhad
swyddogol y byddai mynediad y cyhoedd i’r fynwent yn parhau. (c) Mewn ymateb i sylwadau’r
aelod lleol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu:- ·
Yr unig sicrwydd a gellir ei dderbyn o ran mynediad i’r fynwent
oedd y cadarnhad gan yr Eglwys
yng Nghymru y byddai’n parhau; ·
Bod dyletswydd i warchod yr
adeilad rhestredig a’i atal rhag
dirywio; ·
Pryder o ran gosod ffens solet gan
fod yr Eglwys
yn adeilad rhestredig gradd II a byddai angen cytundeb
CADW o ran sut i wahaniaethu’r ffiniau. Gellir ystyried gosod cadwyni ar
bolion i nodi’r ffiniau ac fe ellir
amodi hyn. (ch)
Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r
cais yn unol
â’r argymhelliad gan ychwanegu amod
i gytuno ar ddull o wahaniaethu’r
ffiniau. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Ni fyddai cadwyni yn stopio
plant rhag mynd i’r fynwent felly dylid rhoi ffens
a fyddai’n creu rhwystr; ·
Angen bod yn bragmataidd o ran defnydd adeiladau o’r math yma ac fe ddylid
gwarchod pensaernïaeth ddeniadol yr Eglwys; ·
Y byddai rhywbeth isel yn
dynodi ffiniau yn dderbyniol er
mwyn peidio tynnu oddi ar
yr elfen gofrestredig; ·
Beth fyddai cyfnod gosod y llety gwyliau? ·
Balch bod gwaith yn cael ei
wneud i gadw’r
adeilad; · Y dylid gofyn i’r ymgeisydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif C16/0281/42/LL - Cefn Edeyrn, Edern, Pwllheli PDF 612 KB Cais diwygiedig i greu safle carafanau teithiol ar gyfer 18 carafan ynghyd ag adeiladu bloc toiledau/cawod, gwelliannau i fynedfa a gosod tanc septig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Sian Wyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais diwygiedig i greu safle
carafanau teithiol ar gyfer 18 carafán
ynghyd ag adeiladu bloc toiledau/cawod, gwelliannau i fynedfa a gosod
tanc septig. (a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y safle o fewn cefn
gwlad ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol gydag Ardal Cadwraeth Arbennig Corsydd Llŷn a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cors Geirch
oddeutu 400 medr i’r dwyrain o’r
safle. Nodwyd er bod y safle yn gymharol wastad
ac yn ei ffurf bresennol yn gweddol guddiedig
yr argymhellir gosod amod i
sicrhau tirlunio addas ar y ffiniau
ac yma a thraw o fewn y safle i
wella ei wedd. Ystyrir bod yr adeilad yn
dderbyniol o ran ei raddfa, ei faint, ffurf a lleoliad. Eglurwyd yn sgil
lleihau’r niferoedd o unedau teithiol o 27 i 18, o’r cais
blaenorol a dynnwyd yn ôl, nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad ar sail priffyrdd yn ddarostyngedig
i osod amodau
o ran gwelliannau i’r fynedfa. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b)
Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol, (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), a gwnaed y prif
bwyntiau canlynol ganddi: ·
Byddai’r cais yn cyfrannu i’r economi
leol; ·
Bod yr
ymgeiswyr wedi cytuno i welliannau
priffyrdd; ·
Y cydweithir
gyda Hunaniaith yng nghyswllt hyrwyddo’r
iaith Gymraeg. (c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Mewn
ymateb i sylw gan aelod
yng nghyswllt bioamrywiaeth, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu pe caniateir
y cais yr argymhellir cynnwys amod yr Uned
Bioamrywiaeth o ran diogelu’r
coed a llwyni
rhag cael eu torri ar
y safle heb ganiatâd ysgrifenedig. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. 3. Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg
i’w cyfyngu i 18. 4. Amodau cyfnod gosod carafanau/cyfnod
gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd. 5. Dim storio ar y tir. 6. Rhestr cofnodi. 7. Tirlunio. 8. Amodau Priffyrdd - darparu mynedfa ag
radiws 6 medr naill ochr, gostwng uchder y clawdd a’i gapio, a lledu’r 15m
cyntaf o’r trac mynedfa. Nodiadau: 1. Awgrymir
fod mesurau lliniaru yn cael eu cymryd i
warchod a hyrwyddo’r iaith, megis enw Cymraeg ar y safle, arwyddion Cymraeg a /
neu ddwyieithog a chyfleoedd i ddarparu gwybodaeth am hanes a diwylliant yr
ardal. Awgrymir fod rheolwr y safle yn cysylltu gyda’r Fenter Iaith Leol (Hunaniaith) i gael trafodaeth ynglŷn â mesurau a allai ychwanegu gwerth i’r busnes. 2. Angen cael trwydded safle carafanau. |
|
Cais Rhif C16/0329/18/LL - Tir gyferbyn Swyddfa Bost, Clwt y Bont, Caernarfon PDF 883 KB Codi tri tŷ annedd deulawr ar wahan a datblygiadau cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed W. Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
tri tŷ annedd deulawr ar wahân
a datblygiadau cysylltiedig. (a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod safle’r cais yn
dir llwyd o fewn ffin datblygu
pentref Clwt y Bont. Nodwyd ei
fod yn fwriad
codi tri thŷ deulawr gyda phedair
llofft ar y safle ar gyfer
y farchnad agored gyda mynedfa ar
wahân i’r tri eiddo ac fe
fyddai pob un yn arwain at ffordd
ddi-ddosbarth sy’n gwasanaethu nifer o anheddau. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd mai’r brif ystyriaeth oedd polisi CH4 o’r CDUG a oedd
yn caniatáu cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd na ddynodwyd ac oedd o
fewn ffiniau datblygu pentrefi os gellir cydymffurfio
â holl bolisïau perthnasol y CDUG a’r 3 maen prawf a oedd yn ffurfio rhan o’r
polisi. Tynnwyd sylw bod maen prawf 1 yn ymwneud gyda chael cyfran o bob uned
sydd ar y safle yn rhai fforddiadwy oni bai na fyddai’n briodol darparu tai
fforddiadwy ar y safle. Eglura’r Datganiad Cynllunio Cefnogol (wedi ei gefnogi
gan y Cyfrifiadau Hyfywdra) nad ydyw’n hyfyw i gynnig elfen fforddiadwy fel
rhan o’r cynllun. Nodwyd bod sawl honiad wedi ei wneud fod y tir wedi ei
lygru gan wastraff megis hen geir ac mae polisi B30 yn awgrymu gwrthod
ceisiadau ar dir sydd wedi ei lygru heb wybodaeth i dangos triniaeth dderbyniol
o’r safle. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth gadarn wedi ei chyflwyno i
gefnogi'r honiadau o ansefydlogrwydd y tir nac o unrhyw beryglon llygredd ac
nid oedd unrhyw un o'r asiantaethau swyddogol a ymgynghorwyd a hwy wedi codi'r
materion hyn. Pe caniateir y cais argymhellir gosod amod ychwanegol er mwyn
sicrhau bod archwiliad desg i asesu risg o lygredd ar y safle yn cymryd lle ac
os oes gwir angen gweithrediad pellach bod sicrwydd bod hyn yn digwydd cyn
datblygu’r safle. Yn ogystal argymhellir amod i gytuno manylion unrhyw waith
peirianyddol a fyddai’n ymwneud efo newid lefelau unrhyw ran o’r safle yn
enwedig yr ymdriniaeth o’r ffiniau. Cadarnhawyd na ystyrir
bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd
yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi na’r materion cynllunio
perthnasol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn ddatblygiad
amhriodol ar dir amhriodol; ·
Pryder o ran sefydlogrwydd y
tir; ·
Bod nodi nad oedd y safle yn
llygredig yn fwriadol gamarweiniol o ystyried bod deunydd megis ceir, batris ac
asbestos wedi ei dipio ar y tir; ·
Bod llysiau’r dial yn tyfu ar
y safle; ·
Pryder y byddai’r datblygiad
yn dinistrio calon y pentref hanesyddol; ·
Bod cwestiwn cyfreithiol yn
codi o ran cymdogion yn gyd llofnodwyr i unrhyw gais ar gyfer datblygu’r safle
hwn o ystyried bod tipio wedi digwydd ar eu tir yn ogystal. (c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- · Bod yr ymgeisydd wedi derbyn cyngor cyn cyflwyno cais ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |
|
Cais Rhif C16/0410/33/LL - Tir Glanrhyd, Mynydd Nefyn PDF 617 KB Adeiladu sied i storio deunyddiau a pheiriannau mewn cysylltiad a busnes adeiladu. AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu
sied i storio
deunyddiau a pheiriannau mewn cysylltiad â busnes adeiladu. (a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod safle’r cais wedi
ei leoli yng nghefn gwlad
ac o fewn dynodiad Ardal Gwarchod y Tirlun a gerllaw Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE). Cyfeiriwyd at gais blaenorol am sied amaethyddol a wrthodwyd, nodwyd nad oedd
swyddogion wedi eu hargyhoeddi bod gwir angen amaethyddol
yn bodoli am sied newydd ar
y safle, o ystyried y gweithgarwch a’r defnydd adeiladydd a wneir o’r sied
amaethyddol a’r iard bresennol. Nodwyd pe sefydlir
ac awdurdodir y sied a’r iard bresennol,
trwy dystysgrif defnydd presennol fel iard adeiladydd
(fel sydd wedi ei awgrymu
mewn gohebiaeth a chyngor cyn cyflwyno
cais) yna byddai cais am sied newydd yn
cael ei ystyried
dan bolisi gwahanol sef polisi
B8 Ehangu Mentrau Presennol y CDUG. O dan yr amgylchiadau presennol byddai’n anodd cyfiawnhau sied newydd ar
y safle ar hyn o bryd. Nodwyd yr argymhellir gwrthod y cais
gan fod y bwriad cyfystyr a chodi adeilad diwydiannol newydd yng nghefn gwlad,
ble nad oes cyfiawnhad nac anghenion lleoli arbennig yn bodoli i gyfiawnhau
sied adeiladydd newydd ar y safle. Roedd y bwriad yn groes i bolisïau D5, D7 a
C1 o’r CDUG. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn dod o gefndir
amaethyddol ond bod y busnes adeiladydd wedi cymryd drosodd
yn y 15 mlynedd diwethaf; ·
Ei fod yn cyflogi pobl
leol; ·
Bod angen lle addas i
gadw peiriannau; ·
Bod y busnes yn dibynnu
ar sied wrth
law ei gartref; ·
Byddai ail-leoli’r busnes yn cael effaith
negyddol arno
a’r rhai a gyflogir. (c) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol,
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), a gwnaed y prif
bwyntiau canlynol ganddi: ·
Bod y busnes yn bodoli ers
blynyddoedd a bod y gweithgaredd
amaethyddol wedi mynd yn llai
dros y blynyddoedd; ·
Ei fod yn cyflogi pobl
leol; ·
Byddai symud y busnes i leoliad
arall ddim yn addas ac yn
cynyddu traffig; ·
Bod angen lle addas i
gadw peiriannau; ·
Y byddai’r bwriad yn caniatáu
i’r busnes cefn gwlad barhau
yn ei gynefin
ac yn cadw arian yn
lleol. (ch) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Cynllunio, yn unol
â’r cyngor a roddwyd cyn cyflwyno’r
cais, y dylai’r ymgeisydd gymryd camau i gyfreithloni
defnydd y sied bresennol. (d) Cynigwyd
ac eiliwyd i ohirio’r cais er
mwyn i’r ymgeisydd wneud cais i gyfreithloni
defnydd y sied bresennol. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod,
nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod yr ymgeisydd yn
nodi y gallai brofi’r defnydd am gyfnod o 9 mlynedd ac y byddai hyn yn
ddigon agos i’r angen i
gyfiawnhau defnydd am 10 mlynedd i allu
ystyried cais am gyfreithloni defnydd. Nododd aelod ei fod yn bwysig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.9 |
|
Cais Rhif C16/0140/45/LL - 37, Ffordd Caerdydd, Pwllheli PDF 721 KB Newid defnydd cyn siop i uned A3 (bwyty/bwyd poeth i fwyta allan) AELOD LLEOL: Cynghorydd Hefin Underwood Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd cyn siop i
uned A3 (bwyty/bwyd poeth i
fwyta allan). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y safle wedi ei
leoli o fewn ffin datblygu Pwllheli.
Nodwyd yr ystyrir na
fyddai’r bwriad ar raddfa a fyddai’n
debygol o achosi effaith andwyol ychwanegol ar fwynderau’r
ardal nac unrhyw drigolion lleol, nac ychwaith
ei fod wedi
ei leoli mewn ardal ble
y buasai yn ychwanegu at neu greu croniad annerbyniol
o’r math yma o ddatblygiad. Tynnwyd sylw yr argymhellir gosod amod i gyfyngu’r oriau a bod Uned
Gwarchod y Cyhoedd bellach wedi cadarnhau eu bod yn fodlon gyda dyluniad newydd
y system echdynnu. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod yr Uned Gwarchod y Cyhoedd yn fodlon
efo’r bwriad; ·
Ni fyddai cynnydd o ran sŵn na thrafnidiaeth o gymharu â phe byddai
siop ar y safle; ·
Bod yr adeilad wedi ei
adnewyddu; ·
Y byddai’n caniatáu i’r tenant wneud bywoliaeth. (c) Cefnogwyd
y cais gan yr aelod lleol, (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod yr amodau a gynigir
yn ymateb i bryderon y gymdogaeth
leol. (ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Mewn ymateb
i gwestiwn gan aelod, nododd
yr Uwch Gyfreithiwr
y byddai gofyn ar yr ymgeisydd
hefyd i gydymffurfio
ac unrhyw ofynion o dan y drefn drwyddedu.
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais. Amodau: 1. Y datblygiad i gychwyn o fewn
5 mlynedd i ddyddiad y caniatâd. 2. Un ôl a’r cynlluniau a gyflwynwyd. 3. Oriau agor 11.00 – 22.00 (Sul i Iau);
11.00 – 23:00 (Gwener a Sadwrn). 4. Gosod trap saim. 5. Sicrhau fod y system echdynnu yn weithredol cyn
cychwyn y defnydd. |