Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorydd Stephen Churchman. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorwyr Anne Lloyd-Jones a Berwyn Parry Jones fuddiant personol, yn eitem
5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0565/41/LL) oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Elfed Wyn
Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0367/18/LL); ·
Y Cynghorydd Elwyn Jones, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0440/18/AM); ·
Y Cynghorydd Gareth W.
Griffith, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0507/20/LL); ·
Y Cynghorydd Aled Ll. Evans,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C17/0565/41/LL); ·
Y Cynghorydd Simon Glyn, (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.5 a 5.8 ar y rhaglen,
(ceisiadau cynllunio rhifau C17/0669/46/LL a C17/0859/46/LL); ·
Y Cynghorydd Kevin Morris
Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C17/0807/15/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16.10.17 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2017, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C16/0367/18/LL - Tir ger Capel Maes y Dref, Clwt y Bont, Deiniolen PDF 273 KB Cais llawn i godi 12 ty ynghyd a chreu mynedfa a lon stad AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
llawn i godi 12 tŷ ynghyd â chreu mynedfa a lôn stad. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod
y Pwyllgor a gynhaliwyd ar
13 Mawrth 2017 er mwyn i’r ymgeisydd
gyflwyno gwybodaeth bellach parthed y cynllun draenio ynghyd â derbyn manylion pellach pam na ellir cynnwys
llecyn chwarae o fewn safle’r cais.
Adroddwyd y derbyniwyd gwybodaeth bellach parthed y cynllun draenio ond nid
oedd gwybodaeth bellach wedi ei
dderbyn yn cyfiawnhau pam na
ellir cynnwys llecyn chwarae fel rhan o'r
cais cynllunio. Eglurwyd pan gyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ym mis
Mawrth roedd y safle tu mewn i’r ffin datblygu ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai
o dan Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG). Fodd bynnag, yng Ngorffennaf 2017 disodlwyd y CDUG gan Gynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl), nid oedd y safle
mwyach wedi ei leoli o fewn y ffin datblygu, er ei fod yn ymylu arno. Nodwyd er gwaethaf y ffaith bod 4 o'r 12 tŷ yn rhai
fforddiadwy, ni ystyriwyd bod y cais bellach yn cydymffurfio gyda pholisïau
cyfredol cynllunio gan fod y safle yn ei gyfanrwydd wedi ei leoli y tu allan i'r
ffin datblygu fel y'i cynhwysir yn y CDLl, nad oedd y
cynnig yn dangos bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol ac nid oedd y
cynnig ar gyfer 100% tai fforddiadwy, felly, nid oedd y cais yn ei wedd
bresennol yn dderbyniol mewn egwyddor. Nodwyd wedi ystyried
yr holl faterion
perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r holl
sylwadau/gwrthwynebiadau a dderbyniwyd credir nad oedd
y bwriad yn ei wedd bresennol
yn dderbyniol mewn egwyddor a’i
fod yn groes
i ofynion y polisïau perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad. (b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod risg llifogydd, nid oedd angen
am dai yn yr ardal a bod y safle tu allan
i’r ffin datblygu. (c) Cynigwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais. Holodd aelod os byddai’r
swyddogion yn gefnogol i’r cais
pe byddai’r holl dai
yn dai fforddiadwy.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio y byddai’n rhaid asesu manylion
pe cyflwynir cais o’r fath. Nododd aelod ei bod am bleidleisio i wrthod y cais
oherwydd risg llifogydd. PENDERFYNWYD gwrthod y cais. Rheswm: Bwriad yn annerbyniol ar sail egwyddor ac yn groes i ofynion Polisi PCYFF1 (ffiniau datblygu), TAI3 (tai mewn pentrefi gwasanaeth) a TAI16 (safleoedd eithrio) o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ac i Nodyn Cyngor Technegol 6 ar Gynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy ynghyd â Pholisi Cynllunio Cymru, Pennod 9 Tai gan ei fod yn golygu codi tai newydd yng nghefn gwlad a thu allan i ffin datblygu Deiniolen heb gyfiawnhad. |
|
Cais Rhif C17/0440/18/AM - Tir ger Gorswen, Brynrefail PDF 274 KB Cais amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw'n nol i godi wyth ty fforddiadwy (un par a dau teras o dri) ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau parcio, ffordd i'r ystad a gerddi i'r tai unigol AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw'n ôl i godi wyth tŷ fforddiadwy
(un par a dau deras o dri) ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau
parcio, ffordd i'r ystâd a gerddi i'r tai unigol. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 16 Hydref 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod. Adroddwyd yn dilyn
cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor bod ychydig o faterion
wedi codi. Yn gyntaf, yn
sgil sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno asesiad risg llygredd gan
arbenigwyr priodol a oedd yn dod i’r casgliad
bod y safle’n addas ar gyfer y datblygiad
ond yn argymell
archwiliadau mwy manwl cyn darparu’r
isadeiledd. Nodwyd yr ymgynghorwyd efo CNC ac Uned Gwarchod y Cyhoedd ar gynnwys yr
adroddiad ond ni dderbyniwyd
ymateb hyd yma. Tynnwyd sylw
bod y cyrff yma eisoes wedi datgan
bodlonrwydd i’r datblygiad fynd yn ei flaen
yn ddarostyngedig i amodau priodol
ac felly ni ragwelwyd unrhyw wrthwynebiadau newydd, ond o bosib byddai
sylwadau ar y dulliau gweithredu. Yn ail, derbyniwyd ymateb gan yr
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r Datganiad
Cymunedol ac Ieithyddol yn nodi wrth
ystyried pwysigrwydd a sicrhau darpariaeth briodol o dai fforddiadwy
yn y Sir, byddai’r datblygiad yn debygol
o roi cyfle i gadw’r boblogaeth
leol yn eu
cymuned a thrwy hynny fe all gael
effaith positif ar yr Iaith
Gymraeg. Nodwyd y codwyd mater yn y cyfarfod blaenorol
parthed darpariaeth llecyn agored ar
y safle, cadarnhawyd mai trothwy o 10 uned, a roddir yn y CDLl, lle'r
oedd gofyn i ddatblygwr gwneud
darpariaeth benodol. Tynnwyd sylw bod y safle tua 50 llath
o brif gae chwarae’r pentref ac felly ystyrir bod darpariaeth llecynnau agored digonol eisoes yn bodoli ar
gyfer preswylwyr y tai yma. Tynnwyd sylw y derbyniwyd cadarnhad, cyn cyfarfod blaenorol
y Pwyllgor, bod Cyngor Cymuned Llanddeiniolen yn gefnogol o’r cynllun. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r
prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod trigolion cyfagos yn
gwrthwynebu’r bwriad; ·
Cydnabod bod lleihad o 12 i 8
tŷ o’r cais blaenorol ond o’r farn ei fod dal yn or-ddatblygiad o’r safle; ·
Byddai caniatáu’r datblygiad
ar safle tu allan i’r ffin datblygu yn mynd yn groes i’r CDLl; ·
Cwestiynu’r angen ac os
fyddai’r tai yn fforddiadwy; ·
Pryderon o ran diogelwch
ffyrdd, byddai cynnydd mewn traffig o ganlyniad i’r datblygiad gyda damweiniau yn ddiweddar rhwng
ceir a gwrthdrawiadau efo plant yn y gorffennol; ·
Bod angen trafodaeth rhwng y
Cyngor, y datblygwr a thrigolion o ran y defnydd gorau i’r safle. (c)
Mewn ymateb i sylwadau’r
aelod lleol, nododd y swyddogion: · Nad oedd amheuaeth am yr angen am y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C16/0507/20/LL - Swyddfeydd Menai Marina, Hen Gei Llechi, y Felinheli PDF 284 KB Codi estyniad deulawr i'r swyddfa presennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd a codi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio presennol AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth W Griffith Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
estyniad deulawr i'r swyddfa bresennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy
o le swyddfa ynghyd a chodi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio
presennol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y datganiad dylunio a
mynediad yn esbonio byddai’r adeilad yn hwyluso gwyliadwriaeth naturiol mewn
lleoliad canolig rhwng y porthladd i’r de orllewin a’r system porthladd i’r
dwyrain. Hefyd bwriedir gweithredu giatiau’r porthladd o’r adeilad. Byddai’r
adeilad hefyd yn darparu cyfleusterau newydd yn cynnwys toiledau a chawodydd i
ddefnyddwyr y marina mewn lleoliad canolig. Tynnwyd sylw bod newid perchnogaeth ers cyflwyno’r cais.
Derbyniwyd llythyr gan y perchennog newydd yn datgan ei fwriad i barhau gyda’r
cais. Nodwyd bod safle'r cais yn gyfan gwbl y tu mewn i ffin
datblygu Felinheli. Ychwanegwyd bod safle’r cais hefyd yn gwneud defnydd o dir
a ddatblygwyd o’r blaen a bod hyn yn cael ei annog trwy Bolisi Cynllunio Cymru
a’r CDLl. Derbyniwyd nifer o sylwadau yn gwrthwynebu ar sail fod yr
adeilad yn ddatblygiad dominyddol, a oedd yn rhy fawr a byddai’n cael effaith
negyddol ar gymeriad y marina a oedd yn cynnwys adeiladau rhestredig. Ar y llaw
arall, derbyniwyd sylwadau o blaid y datblygiad yn cydnabod byddai’r bwriad yn
cynnig gwelliant gweledol i’r ardal trwy gael gwared ar y cabanau symudol ac y
byddai’r ardal yn llawer mwy deniadol. Nodwyd wrth asesu lleoliad, uchder a swmp adeiladau cyfagos
a oedd yn cynnwys tai tri llawr, bloc o fflatiau a gwesty sylweddol yng
nghyd-destun lefelau naturiol y dirwedd, ni ystyriwyd byddai’r datblygiad yn
strwythur dominyddol nac yn rhy fawr i’r safle. Ystyriwyd hefyd fod y dyluniad
a’r deunyddiau yn dderbyniol i’r lleoliad. Ni ystyriwyd ychwaith y byddai’r
datblygiad yn niweidiol i osodiad yr adeiladau rhestredig cyfagos. Ystyriwyd y
byddai’n rhesymol ac yn angenrheidiol i osod amod i sicrhau nad oedd yr unedau
manwerthu yn cael eu codi heb y swyddfeydd er mwyn sicrhau edrychiad boddhaol
i’r datblygiad a gwarchod mwynderau gweledol yr ardal. Ystyriwyd bod yr effeithiau yn
gysylltiedig gyda swyddfeydd, cyfleusterau mwynderol ac unedau manwerthu bychan yn gallu fod
yn dderbyniol yn agos i
dai preswyl,
yn enwedig wrth roi ystyriaeth
i ddefnydd presennol y tir. Er mwyn gwarchod
mwynderau preswyl y tai cyfagos, ystyriwyd
ei fod yn
rhesymol i gyfyngu oriau agor
y siopau rhwng 8yb a 8yh
bob dydd a hefyd rhwystro unrhyw ddanfoniadau tu allan i’r oriau
yma hefyd. Ategwyd y cais gan asesiad
canlyniad llifogydd ac roedd Cyfoeth Naturiol
Cymru wedi cadarnhau fod canlyniadau
posib yn gallu cael eu
rheoli'n ddigonol ar y safle hwn
yn dibynnu ar osod amodau
yn ymwneud â lefel llawr gorffenedig
yr unedau manwerthu, ymgorffori mesurau atal difrod
llifogydd i’r adeilad presennol a’i estyniad a chytuno ar a gweithredu
cynllun gweithredu llifogydd. Nodwyd bod y cynlluniau yn dangos bwriad i ehangu’r maes parcio er mwyn gwasanaethu’r datblygiad. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad yn seiliedig ar osod amod yn gwahardd defnyddio'r maes ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C17/0565/41/LL - Tir ger Bro Sion Wyn, Chwilog PDF 243 KB Cais i godi ty deulawr farchnad agored AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan
yr Is-gadeirydd. Cais
i godi tŷ deulawr farchnad agored. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn golygu codi tŷ newydd ar
dir tu mewn i’r ffin datblygu ag o fewn ardal breswyl ym mhentref Chwilog. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd. Nodwyd y byddai’r tŷ arfaethedig
yn cael ei leoli ar safle a oedd gyfochrog â ffordd gyhoeddus ag yn gymharol
agos i dai presennol. Cydnabuwyd bod ffenestri ar dalcenni’r adeilad
arfaethedig ble fyddant yn edrych tuag at dai presennol, ond roedd pellter o
oddeutu 17 medr rhwng y talcenni a’r tai agosaf gyda ffordd sirol heibio i un
ochr yn ogystal. Teimlir na fyddai effaith gor-edrych
ar y tai yma yn sylweddol nac yn amharu arnynt i raddau annerbyniol. Derbyniwyd sylwadau gwreiddiol gan yr Uned Drafnidiaeth yn nodi pryder
ynglŷn â threfniant parcio a throi o fewn y cwrtil. Nodwyd yn dilyn derbyn
cynllun pellach gan yr asiant yn dangos diwygiad i’r gosodiad parcio a mynediad
ar gyfer y bwriad yn ogystal â lleihad yn y niferoedd o lofftydd o 4 i 3, bod
yr Uned Drafnidiaeth yn cadarnhau bod y manylion diwygiedig yn dderbyniol.
Sylweddolir bod gwrthwynebiad wedi ei godi o safbwynt diogelwch ffyrdd ac
effaith ar drefniant parcio presennol. Fodd bynnag, ni wrthwynebir y bwriad gan
yr Uned Drafnidiaeth ac felly ni ystyriwyd bod y bwriad fel y diwygiwyd yn
groes i ofynion polisïau TRA 2 a TRA 4 CDLl. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Syndod bod Cartrefi Cymunedol
Gwynedd (CCG) yn defnyddio penseiri nad ydynt yn lleol; ·
Siom pe byddai’r safle yn cael
ei werthu ar y farchnad agored byddai’r arian yn mynd at godi tai fforddiadwy
eraill o fewn y Sir ar draul trigolion Bro Sion Wyn; ·
Problemau parcio yn bodoli yn
y stad a ni fyddai’r datblygiad yn helpu’r sefyllfa; ·
Byddai’r datblygiad yn
effeithio ar fwynderau trigolion y stad; ·
Y bwriad yn golygu colli
llecyn gwyrdd; ·
Gofyn i’r Pwyllgor fynd yn
groes i argymhelliad y swyddogion gan mai mater o farn a dim polisi oedd beth
oedd yn effeithio ar fwynderau pobl. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad
safle. Nododd
aelod bod angen cadarnhad o ran trefniadau CCG i werthu’r safle
o ystyried y problemau parcio a oedd
yn bodoli ar y stad. Mewn
ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr
y gellir rhoi ystyriaeth i’r sefyllfa parcio ond nad oedd bwriad yr
ymgeisydd yma o ran gwerthu’r safle yn berthnasol i’r
cais cynllunio a’i fod yn
fater oedd i’w ystyried mewn
fforwm arall. PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle. |
|
Cais Rhif C17/0669/46/LL - Fferm Pwll Goed, Tudweiliog, Pwllheli PDF 246 KB Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 9 uned AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu safle carafanau teithiol ar gyfer
9 uned. (a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y bwriad yn cynnwys defnyddio safle 5 carafán dan dystysgrif eithriedig clwb
carafanau fel safle annibynnol ar gyfer lleoli 9 o garafanau teithiol. Nodwyd
bod y safle tu fewn i Ardal Tirwedd Arbennig a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli. Tynnwyd
sylw bod y Cyngor Cymuned yn cefnogi’r
bwriad a bod yr Uned Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol (AHNE) wedi cadarnhau na fyddai’r bwriad
yn effeithio ar yr AHNE. Cadarnhawyd
ni fyddai angen gwneud addasiadau
i’r fynedfa er gwasanaethu’r bwriad. Roedd
y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr
aelod lleol (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod
yr ymgeisydd yn cynnal a chadw'r
safle presennol i safon, bod y safle
yn gwbl guddiedig
a ddim yn amlwg yn y dirwedd. PENDERFYNWYD
caniatáu’r cais. Amodau: 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. 3. Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg
i’w cyfyngu i 9. 4. Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. 5. Defnydd gwyliau yn unig. 6. Cadw cofrestr. 7. Dim storio carafanau teithiol ar y safle. 8. Cyflawni’r cynllun tirlunio. |
|
Cais Rhif C17/0678/30/LL - Ty Canol Pencaerau, Rhiw, Pwllheli PDF 253 KB Sefydlu safle glampio ar gyfer 6 uned a codi sied AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Sefydlu
safle glampio ar gyfer 6 uned a chodi sied. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi ei fod ar gyfer sefydlu safle glampio ar gyfer
6 uned. Roedd y cais hefyd yn cynnwys bwriad i adeiladu sied a fyddai’n cael ei
defnyddio i gadw celfi a pheiriannau amrywiol ynghyd â storio rhai o’r podiau yn ystod misoedd y gaeaf. Nodwyd yr ystyriwyd bod dyluniad, gosodiad ac edrychiad y
bwriad yn dderbyniol ac na fyddai’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y
dirwedd. Credir fod y bwriad yn dderbyniol ar sail y materion fel y
nodir yn yr adroddiad ac na fyddai’n cael effaith niweidiol sylweddol ar yr
Ardal Tirwedd Arbennig, mwynderau’r gymdogaeth na diogelwch ffyrdd. PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais. Amodau: 1.
Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2.
Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. 3. Nifer o unedau ar y safle
ar unrhyw un adeg i’w
cyfyngu i 6. 4. Cyfyngu tymor i rhwng
1 Mawrth a 31 Hydref. 5. Defnydd gwyliau yn unig. 6. Cadw cofrestr. 7. Y podiau
i gael
eu storio yn neu gerllaw’r
sied fel y dangosir ar y cynlluniau
yn ystod y cyfnodau pan mae’r safle yn gaeedig. 8. Waliau allanol a tho’r sied i fod
o liw gwyrdd tywyll BS 12 C 39. 9. Cyflawni’r cynllun tirlunio |
|
Cais Rhif C17/0807/15/LL - Tir ger Ty Du Road, Llanberis , Caernarfon PDF 240 KB Diwygio amod 1 o ganiatad cynllunio C14/0240/15/MG er
caniatau dyluniad amgen ar gyfer y tai a ganiatawyd AELOD LLEOL: Cynghorydd Kevin Morris Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diwygio
amod 1 o ganiatâd cynllunio C14/0240/15/MG er caniatáu dyluniad amgen ar gyfer
y tai a ganiatawyd. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan bwysleisio mai dyluniad yr 11 tŷ a oedd eisoes wedi eu
caniatáu ynghyd â man newidiadau i’r trefniant o fewn y safle oedd dan
ystyriaeth. Nodwyd bod egwyddor y datblygiad eisoes wedi ei dderbyn gyda
chaniatâd cynllunio wedi ei roi ac wedi ei sicrhau trwy ddechrau ar y gwaith o
fewn y cyfnod angenrheidiol. Nodwyd mai bwriad
y cais oedd newid dyluniad y tai i ddyluniad mwy cyfoes trwy rannu toeau’r tai
gan greu dau lethr ar wahanol lefelau a chael gwared â’r modurdai cysylltiol a
oedd yn rhan o’r dyluniad gwreiddiol a chael cysgod-fannau ar gyfer moduron (carports).
Eglurwyd y bwriedir cadw’r tai o fewn yr un lleiniau a gytunwyd yn flaenorol gyda’r
holl dai yn ddeulawr. Fe fyddai gan y tai newydd elfennau sylweddol o wydr yn
yr edrychiadau blaen a chefn gyda'r defnydd o garreg, rendr a chladin pren ar y
waliau allanol. Roedd rhai mân newidiadau i drefniant mewnol y safle gan gynnwys y trefniant
mynediad o ffordd Fron Goch lle byddai dim ond un fynedfa gerbydol yn
gwasanaethu un o’r tai newydd yn hytrach na’r ddwy fynedfa a gytunwyd yn
flaenorol. Credir fod y dyluniad newydd a gynigir yn fwy cyfoes ac yn llai swmpus gan
wneud naws fwy agored i’r stad. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt
polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio
ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Os byddai preswylwyr Fron Goch yn cael
eu hatal rhag parcio lle gwneir yn bresennol, ni fyddai ganddynt lle parcio; ·
Gobeithio nad oedd y datblygwr wedi
torri unrhyw goed gwarchodedig a holi pwy oedd yn cadw golwg ar y coed; ·
Bod y Cyngor wedi nodi mewn llythyr y
byddent yn cyd-weithio efo trigolion o ran datrysiad parcio. Pryd fyddai hyn yn
digwydd? (c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y cais hwn ar gyfer newid
dyluniad yn unig; ·
Roedd dyluniad gwreiddiol y
tai yn safonol a heb roi ystyriaeth i’r lleoliad, diwygiwyd y dyluniad gan
ddefnyddio deunyddiau a oedd yn cyd-fynd efo’r ardal leol; ·
Bod dwysedd y tai wedi eu
lleihau gan dynnu ystafell wely o uwchben y modurdy; ·
Mynediad i un o’r tai wedi ei
newid i fod o fewn y safle yn hytrach na o Fron Goch gan leihau’r nifer o dai
gyda mynediad o Fron Goch; ·
Bod nifer o wrthwynebiadau yn
faterion nad oedd yn berthnasol i’r cais gerbron; ·
Yn gobeithio creu mannau
parcio ychwanegol o fewn safle’r cais ar gyfer trigolion lleol ar ôl gorffen y
datblygiad. (ch) Gwrthwynebwyd
y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan
nodi’r prif bwyntiau canlynol:- · Bod y dyluniad ddim yn gweddu ac allan o gymeriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C17/0859/46/LL - Maes Carafanau Ty'n Llan, Tudweiliog, Pwllheli PDF 247 KB Ymestyn safle carafanau sefydlog presennol, cynyddu
niferoedd o 31 i 40 ynghyd a creu ardal chwarae / hamdden a thirlunio AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymestyn safle carafanau sefydlog presennol, cynyddu niferoedd o 31 i 40 ynghyd a chreu
ardal chwarae / hamdden a thirlunio. (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi nad oedd Polisi
TWR 3 o’r CDLl yn caniatáu cynnydd
mewn niferoedd carafanau sefydlog ar safleoedd presennol
oddi fewn i Ardal Tirwedd
Arbennig. Yn ychwanegol ni
ystyriwyd y byddai ymestyn y safle yn gwella ei
osodiad yn y dirwedd oddi amgylch
ac na fyddai’n cynnal, gwella, nag adfer cymeriad yr Ardal Tirwedd
Arbennig. Derbyniwyd
sylwadau’r Uned Drafnidiaeth ar y cais yn lleisio
pryder am y fynedfa yn arbennig felly o safbwynt gwelededd wrth adael y safle.
Roedd y sylwadau yn datgan fod
y gwelededd i’r de yn cynnwys llain
gwelededd o hyd rhesymol fodd bynnag
nodir fod cerbydau’n parcio yn rheolaidd yma
ac yn amharu ar olygfa’r ffordd.
Roedd y sefyllfa ar yr ochr
ogleddol ddim gwell, gyda wel
terfyn uchel yn cyfyngu’r gwelededd
yn sylweddol. Gan ystyried y cyfyngiadau i’r gwelededd naill ochr o’r fynedfa
tybir felly fod cynnydd yn y niferoedd
o 31 uned i 40 uned, sef cynnydd
oddeutu 30% yn un arwyddocaol ac annerbyniol heb welliannau i’r fynedfa. (b) Nododd yr aelod lleol
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), bod y safle yn
un taclus a oedd yn cael ei
gynnal a chadw i safon. Gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried gohirio’r cais er mwyn i’r
ymgeisydd dynnu’r cais yn ôl
a chynnal trafodaethau efo’r Swyddog Carafanau
a swyddogion cynllunio i gyflwyno cais a fyddai’n rhoi sylw
i faterion iechyd a diogelwch ar y safle. (c) Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd yr
Uwch Gyfreithiwr nad oedd yn amhriodol i ohirio’r cais er ceisio cael gwell
dealltwriaeth. Ychwanegodd y byddai’n daclusach i
ohirio yn hytrach na gwrthod y cais. PENDERFYNWYD gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C17/0862/25/LL - Tir ger Capel Bethmaaca, Glasinfryn, Bangor PDF 333 KB Codi par cyswllt o dai fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi par cyswllt o dai fforddiadwy
ynghyd a gwaith cysylltiol. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi y bwriedir i’r ddau
dŷ fod yn fforddiadwy ar gyfer anghenion
cymunedol lleol. Nodwyd bod y safle o fewn clwstwr Glasinfryn,
fel y'i diffinnir
gan y CDLl, rhwng dau adeilad
wedi eu lliwio'n
goch ar y map mewnosod a oedd
yn ffurfio rhan o'r CDLl. Tynnwyd
sylw y rhoddwyd caniatâd eisoes i ddatblygu un
tŷ fforddiadwy ar y safle hwn
yn 2015 dan y cyfeirnod C15/0143/25/LL. Nodwyd
bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau y byddai’r cynllun yn cyfarch
yr angen yn yr ardal.
Cydnabuwyd
y byddai peth cysgodi o ardd cefn yr eiddo
drws nesaf ond ni ystyrir y byddai hyn yn annisgwyl
mewn ardal anheddol ac ni chredir y byddai niwed arwyddocaol yn deillio ohono.
Ni ystyriwyd fod yr adeilad newydd
yn debygol o achosi effaith gor-edrych ar eiddo'r
cymdogion gan na fyddai
unrhyw ffenestri yn edrychiad gogleddol
yr adeilad newydd. Roedd
y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed
cynnwys amod i sicrhau bod enw
Cymraeg i’r tai, nododd yr
Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio yn gyfreithiol ni ellir gosod amod
i’r perwyl hyn ond fe ellir
rhoi nodyn yn awgrymu rhoi
enw Cymraeg i’r tai. PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i ymrwymiad cyfreithiol priodol yn ymwneud gyda sicrhau fod y 2 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ac amodau
cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda: 1. Amser cychwyn y datblygiad 2. Datblygiad yn llwyr unol â'r cynlluniau 3. To llechi 4. Amod Dŵr Cymru 5. Amod Bioamrywiaeth 6. Amod Priffyrdd 7. Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir. Nodiadau: Dŵr
Cymru. Enw Cymraeg i’r tai |