Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cynghorydd Owain Williams Amlygodd y Cadeirydd, y Cynghorydd
Elwyn Edwards, mai dyma ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd y Pwyllgor a diolchodd i’r Aelodau a’r swyddogion am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth dros y cyfnod. Dymunodd yn dda
i’r Cadeirydd dilynol. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: COFNODION: a) Y
Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 4.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0102/33/LL) oherwydd ei fod
yn fab i berchennog Parc Carafanau llai na 6 milltir
o’r safle. Y Cynghorydd Keith Jones (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 4.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0250/11/LL) oherwydd mai ef
oedd yr ymgeisydd. Roedd yr aelodau o’r
farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd Eric Merfyn Jones (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 4.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0324/17/DT) Y Cynghorydd Gareth Griffith (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4.2 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0222/20/LL) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Estyniad
blaen, ochr a cefn. AELOD LLEOL:
Cynghorydd Eric M Jones Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Caniatáu gydag amodau:
COFNODION: Cyflwynwyd
y cais i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth perthynas agos i Swyddog
yn yr Adran Cynllunio a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai
cais llawn ydoedd ar gyfer
dymchwel porth blaen, modurdy to fflat ochr, a lolfa
haul gefn ar gyfer codi estyniad
unllawr to fflat ar drychiad ochr
a chefn ty par sydd
wedi ei leoli
o fewn ystâd o dai preswyl a ffin
datblygu pentref Groeslon. Adroddwyd na fyddai’r
bwriad yn cael effaith negyddol
ar edrychiad y tŷ na’r ardal
yn gyffredinol gan y bydd yn
debyg i’r hyn sydd yn
bodoli yn barod. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad chwaith yn cael
effaith negyddol sylweddol ar fwynderau
trigolion cyfagos. Er cynnydd yn
y nifer y llofftydd, amlygwyd bod cadarnhad wedi ei dderbyn
yn nodi bod digon o le parcio i wasanaethu’r eiddo ar dir
preifat o flaen y tŷ. Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun y polisïau perthnasol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol
i’w ganiatáu b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:- ·
Bod yr eiddo o fewn stad o dai cymysg ac o
safon ·
Bod y disgrifiad a’r asesiad a gyflwynwyd
yn fanwl a chywir ·
Yn gefnogol i’r cais c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan
aelod: ·
Bod estyniadau eraill wedi ei caniatáu yn y
stad PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais Amodau: 1.
Dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd. 2. Unol a chynlluniau |
|
Cais Rhif C20/0222/20/LL - Swn Y Mor, Caernarfon, LL55 1UE PDF 384 KB Dymchwel stablau presennol a chodi stablau newydd ynghyd â chodi adeilad ysgol farchogaeth
dan do, manege a seilwaith cysylltiol (gan gynnwys ad-drefnu'r trefniadau mynediad a pharcio) AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:- Amodau 1.
5 mlynedd 2.
Yn unol â’r cynlluniau. 3.
Materion tirlunio. 4.
Cyflwyno cynllun goleuo ar gyfer yr adeiladau a’r ardaloedd tu allan i
gynnwys math ac amser byddent ymlaen. 5.
Cydymffurfio ag argymhellion mesurau lliniaru’r Adroddiad Ecolegol 6.
Cyflwyno mesurau lliniaru archeolegol 7.
Cyflwyno manylion arwyddion dwyieithog o fewn y safle. 8.
Cwblhau llecynnau parcio cyn i’r datblygiad gael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben. Nodyn yn tynnu
sylw’r ymgeisydd i ofynion System Draenio Cynaliadwy (SuUDS) COFNODION: Ymhelaethodd Y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir y cais gan nodi
mai cais llawn ydoedd ar
gyfer dymchwel y stablau presennol a chodi stablau newydd
yn eu lle
ynghyd a chodi adeilad ysgol farchogaeth
dan do, milodfa marchogaeth a seilwaith cysylltiol ar safle
ger glannau'r Fenai yn Llanfair Is Gaer sydd i'r
gogledd o Gaernarfon ac i'r de o'r Felinheli
gerllaw Plas Menai. Nodwyd bod yr adroddiad yn
un helaeth a’r cais yn
disgyn o dan ddiffiniad ‘major’. Ategwyd bod yr ymgeisydd ar
asiant wedi cymryd y camau perthnasol i gyflwyno’r
cais. Adroddwyd bod egwyddor y datblygiad wedi ei seilio
ym Mholisi PCYff
1 a CYF6 o’r Cynllun Datblygu Lleol a bod y rhain wedi eu trafod
yn fanwl yn yr adroddiad. Eglurwyd bod y safle wedi ei
leoli mewn llecyn sy’n sensitif
o safbwynt y dirwedd gyda dynodiadau statudol nepell o’r safle ei
hun. Nodwyd bod y sensitifrwydd yma wedi ei gydnabod
yn y ddogfen Asesiad Effaith Gweledol a Thirweddol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd i
gefnogi’r cais, gyda’r ddogfen yn argymell mesurau
lliniaru er mwyn lleihau effaith
y datblygiad ar y dirwedd. Mae’r asesiad yn trafod
gosodiad, maint a graddfa, dyluniad ac edrychiad y bwriad gyda phob ymdrech
wedi ei wneud
gan yr ymgeisydd
i liniaru'r effaith weledol. Ystyriwyd bod y bwriad felly yn dderbyniol ar
sail ei ardrawiad o fewn y tirlun a’i
ardrawiad ar ddynodiadau tirwedd statudol a hanesyddol cyfagos a bod yr asesiad yn un
llawn. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd ar wahân
i eiddo’r ymgeisydd, bod yr anheddau preswyl cyfagos wedi eu
lleoli oddeutu 150m i’r dwyrain o’r
safle, gan gynnwys Plas Menai.
Ni ystyriwyd felly y byddai effaith andwyol ar fwynderau
eiddo nac ymwelwyr i Blas Menai. Fel rhan
o’r ymgynghoriad statudol ymgynghorwyd gyda’r Adran Trafnidiaeth
ac fe dderbyniwyd cadarnhad nad oedd
ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad yn
ddarostyngedig i
gynnwys amodau a nodiadau cynllunio perthnasol Tynnwyd sylw at faterion cynaladwyedd a materion ieithyddol a bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth am arwyddion a chyflogaeth yn lleol ynghyd
a buddion economaidd. Ategwyd bod y materion bioamrywiaeth ac archeolegol hefyd yn dderbyniol. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn
unol gyda pholisïau lleol a chenedlaethol ac nad
oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol arall yn gorbwyso’r ystyriaethau
polisi. Ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau. a)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:- ·
Y plant wedi dangos diddordeb mawr yn y maes neidio ceffylau ac yn cystadlu ar lefel
genedlaethol gyda Thimau Cymru ynghyd
a phobl eraill o Wynedd sydd yn
cystadlu ar lefel uchel. ·
Dim lleoliad pwrpasol ar gyfer ymarfer a
chystadlu ac felly gorfod teithio o leiaf dwy awr i gyrraedd canolfan ·
Y bwriad yw
y bydd yr adeilad wedi ei
gladdu yn y tir ac felly’n lleihau'r effaith ar y dirwedd ar
amgylchedd · Lleoliad yn agos i’r A55 gyda mynedfa ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
Cais Rhif C20/0102/33/LL - Plas yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli PDF 239 KB Ymestyn
safle carafanau teithiol presennol i dir gerllaw trwy greu mynediad newydd o'r
safle gwersylla presennol, symud lleoliad un garafán deithiol ac ychwanegu 8
carafán deithiol newydd. AELOD LLEOL:
Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio penderfynu’r cais er mwyn ei
mwyn galluogi’r ymgeisydd i gyflwyno
rhagor o wybodaeth i gefnogi’r cais
COFNODION: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod yr ymgeisydd yn gwneud
cais i’r Pwyllgor ohirio penderfynu’r cais er mwyn ei
galluogi i gyflwyno rhagor o wybodaeth i gefnogi’r
cais ( er na fyddai hyn
yn debygol o newid yr argymhelliad) b) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ohirio y cais c) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol
gan aelod: ·
Bydd
gohirio y cais yn gyfle i’r
ymgeisydd baratoi tystiolaeth bellach PENDERFYNWYD gohirio y cais fel bod modd i’r
ymgeisydd gyflwyno rhagor o wybodaeth i gefnogi’r cais. |
|
Newid defnydd llawr
gwaelod o dafarndy i fflat breswyl AELOD LLEOL:
Cynghorydd Keith Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol: 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â'r cynlluniau
a'r wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais. COFNODION: a)
Ymhelaethodd
Y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi bod y cais yn gais
llawn ar gyfer newid defnydd
y tafarndy (Defnydd Dosbarth A3) sydd ar y llawr gwaelod
i fflat breswyl
(Defnydd Dosbarth C3) yn ardal Hirael
i'r gogledd o ganol y ddinas. Eglurwyd bod yr ardal yn ardal
breswyl gyda dwysedd poblogaeth uchel. Nodwyd bod yr egwyddor wedi
ei asesu yn llawn a bod swyddogion yn ystyried
bod y dystiolaeth oedd wedi ei gyflwyno
am hyfywedd marchnata a defnydd cymunedol arall yn dderbyniol
mewn egwyddor. Yn dilyn
cwblhau asesiad llawn o’r bwriad,
ystyriwyd y byddai'r bwriad i newid
defnydd tafarndy i fflat breswyl
2 ystafell wely yn dderbyniol ar
sail lleoliad, graddfa, dwysedd, defnydd, diogelwch ffyrdd, mwynderau gweledol ynghyd a mwynderau preswyl. Nodwyd hefy fod y bwriad
yn cydymffurfio yn llawn gyda
pholisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:- ·
Wedi
ceisio gwerthu'r dafarn ers 2 flynedd
ond heb lwyddiant ·
Dim y dewis delfrydol, ond opsiwn i’w ystyried
i’r dyfodol ·
Trosiant
y busnes wedi lleihau yn arw
dros y blynyddoedd diwethaf - dim yn rhagweld y sefyllfa yn gwella dim ond
yn cynnal y lle ar hyn
o bryd ·
Gorfod
ystyried iechyd a lles ei wraig
ag yntau c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais ch)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Cydymdeimlo
gyda’r sefyllfa - sefyllfa anodd iawn, ond parhau
gyda gobaith y bydd rhywun yn
prynu’r dafarn ·
Tafarn wedi bodoli ar y safle ers dros can
mlynedd ·
Trist bod y diwylliant
tafarn yn prinhau fel hwb
cymunedol ·
Tafarndai eraill ar gael yn yr ardal ·
Newid mewn ymddygiad cymdeithasol ·
Y cynlluniau yn daclus a derbyniol ar asesiad
yn un cywir PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol: 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â'r cynlluniau
a'r wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais. |