Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2020 / 21 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eric M Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar
gyfer 2020/2021 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
Gadeirydd ar gyfer 2020 / 21 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd Gareth A
Roberts yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020 /21 Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd y Cynghorydd
Gareth A Roberts Cynigiwyd ac eiliwyd ail enw,
y Cynghorydd Louise Hughes Pleidleisiwyd ar y cynigion PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gareth A Roberts yn Is gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer
2020 /2021 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cynghorydd Linda A W Jones a’r
Cynghorydd Elin Walker Jones (Aelodau Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Y
Cynghorydd Berwyn P Jones (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 7.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) oherwydd ei fod
yn Aelod o Fwrdd Adra Roedd yr aelod o’r
farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. Y Cyfreithiwr Rhun ap Gareth, yn
eitem 7.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) oherwydd bod ei rieni yng nghyfraith
yn byw gerllaw'r
safle. Roedd y swyddog o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd John Pughe Roberts (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
7.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1197/02/LL) Y Cynghorydd Gareth A Roberts (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.4 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 10fed o Fedi
a’r 24ain o Fedi 2020 fel rhai cywir, yn
ddarostyngedig i nodi bod y Cynghorydd Gareth T
Jones yn bresennol yn y cyfarfodydd. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais rhif C19/1028/03/LL Gwesty Wynnes Arms, Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog PDF 363 KB Cais
ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a
llefydd parcio AELOD
LLEOL: Cynghorydd Linda Ann Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod y cais ar sail: Mae’r bwriad i drosi adeilad yn
5 fflat o fewn safle gyda hanes o lifogi ac nid oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno
fel rhan o’r cais i ddangos bod modd rheoli’r perygl yn ddiogel ac felly
ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi ISA 1 a PS 6 o’r Cynllun datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn a Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o
Lifogi. Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr. a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi bod y cais wedi ei
gyflwyno i bwyllgor ym mis
Medi lle gwnaed y penderfyniad i ohirio’r cais
o ganlyniad i dderbyn pryderon llifogydd ar y safle. Yn y cyfamser,
adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi rhoi gwybod i’r
Cyngor ei fod wedi cyflwyno
apêl i’r Arolygaeth yn erbyn
diffyg penderfyniad gan y Cyngor ar
y cais (dyddiad cau 20/10/20). Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor (cyfarfod Medi 10fed 2020), i ohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn
mwy o wybodaeth ynglŷn â materion draenio, fe
ymgynghorwyd gyda’r Uned Rheoli Llifogydd
ac Erydiad Arfordirol. Derbyniwyd ymateb yn nodi gwrthwynebiad
oherwydd eu bod yn ymwybodol fod
cwrs dŵr yn llifo drwy’r
safle datblygu mewn cylfat, sydd
heb ei adnabod
yn y cais. Cynghorwyd y datblygwr i sefydlu union lwybr a chyflwr y cylfat cyn ymgymryd
ag unrhyw waith ar y safle.
Nodwyd bod tystiolaeth gref yn bodoli
bod y cwrs dŵr wedi achosi llifogydd
yn hanesyddol i lawr seler
yr adeilad presennol. Cynghorwyd y datblygwr i sefydlu
union lwybr a chyflwr y cylfat a pharatoi Asesiad Canlyniad Llifogydd (FCA) cyfyngedig fyddai'n ystyried a all y safle gael ei ddatblygu'n
ddiogel yn unol â TAN15. Hyd nes y cynhyrchir asesiad llifogydd derbyniol, roedd yr Uned yn
gwrthwynebu'r datblygiad ar sail risg llifogydd. Yng ngoleuni'r wybodaeth a ddaeth i law, adroddwyd
mai'r unig opsiwn fyddai argymell
gwrthod y cais. b)
Amlygwyd bod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu ar
sail pryderon llifogydd c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais PENDERFYNWYD: gwrthod
y cais ar y sail bod y bwriad i drosi adeilad yn
5 fflat o fewn safle gyda hanes
o lifogi ac nid oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno
fel rhan o’r cais i
ddangos bod modd rheoli’r perygl yn ddiogel ac felly ystyrir bod y bwriad yn groes i
bolisi ISA 1 a PS 6 o’r Cynllun datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn a Nodyn Cyngor
Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o Lifogi. |
|
Cais Rhif C19/1197/02/LL Canolfan Grefftau Corris, Corris Uchaf, Gwynedd PDF 327 KB Creu
safle carafanau teithiol ar gyfer 11 uned teithiol ynghyd a gosod bloc toiledau
a tirlunio. AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Pughe Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD
- caniatau gydag Amodau 1.
5
mlynedd. 2.
Yn
unol â’r cynlluniau diwygiedig ac adroddiadau arbenigol. 3.
Cyfyngu’r
niferoedd i 11 uned deithiol 4.
Tymor
gwyliau / lleoli 5.
Cyfyngu'r
unedau i ddefnydd gwyliau. 6.
Dim
storio unedau teithiol ar y safle 7.
Bioamrywiaeth 8.
Cyfyngu
i’r tymor gwyliau. 9.
Cadw
cofrestr. 10.
Dim
torri coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o fewn tymor nythu. 11.
Cytuno/rheoli
goleuo. 12.
Cytuno
manylion clawdd. 13.
Cytuno
manylion uned ymolchi cyn ei gosod ar safle 14.
Tirlunio 15.
Cynnal
tirlunio 16.
Darparu
Cynllun Gwella Bioamrywiaeth 17.
Dim
clirio y tir yn y gaeaf yn ystod tymor cysgu ymlusgiaid Nodyn
Tir Halogedig Cofnod: a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais llawn
ydoedd ar gyfer creu maes carafanau teithiol i leoli
11 uned deithiol ynghyd a gosod cwt bugail fel adnodd
ymolchi. Eglurwyd bod yr egwyddor i
sefydlu safle
carafanau teithiol wedi ei selio
ym Mholisi TWR5 o’r CDLl ac y byddai
datblygiadau o’r fath yn cael
eu caniatáu os gellid cydymffurfio
gyda’r meini prawf perthnasol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli
mewn cae gyda gorweddiad y dirwedd ynghyd a thirlunio presennol ar y terfynau, yn creu safle
sy’n weddol guddiedig. O safbwynt mwynderau gweledol, ystyriwyd nad oedd y bwriad
yn amharu’n andwyol ar naws a chymeriad cefn gwlad y tirlun
lleol sydd wedi ei ddynodi
yn Ardal Tirwedd Arbennig. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl ni ystyriwyd
y byddai’r
defnydd bwriededig yn creu mwy
o sŵn ac aflonyddwch yn sylweddol fwy
na’r amgylchiadau presennol o gofio bod lleoliad y safle wrth gefnffordd
brysur a’i leoliad ger Canolfan
Grefftau Corris. Derbyniwyd sylwadau'r Uned Drafnidiaeth ac Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig. Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth ystyriwyd bod y bwriad yn golygu
defnyddio tir sydd wedi ei
adennill ac nad
oes defnydd i’r tir ar
hyn o bryd. Cyfeiriwyd at yr adroddiad coed oedd yn datgan bod y datblygiad wedi ei ddylunio
yn ofalus er mwyn cadw'r
sgrin bresennol o amgylch y safle gyda’r bwriad
i wella'r sgrin yma gyda
phlannu ychwanegol ar hyd y terfynau. Amlygwyd nad oedd gwrthwynebiad i'r cynnig hwn
gan yr Uned
Bioamrywiaeth cyn belled â
bod mesurau yn cael eu cymryd
i osgoi niwed
i rywogaethau a bod y safle'n cael ei
reoli i greu
gweirglodd blodau gwyllt. Nodwyd bod mesurau lliniaru wedi eu gosod
yn yr adroddiad
ecolegol. b)
Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:- ·
Bod Canolfan Grefftau Corris yn atyniad twristiaeth
hir sefydlog ·
Bod y cais dan sylw yn
gyfle i arall
gyfeirio gan ddarparu cyfleuster bychan ar gyfer
11 uned deithiol gan sicrhau hyfywdra
a diogelu dyfodol i’r ganolfan grefftau ·
Bod yr ymgeisydd
wedi derbyn nifer o geisiadau am ddarpariaeth o’r fath. Byddai’r cyfleuster yn caniatáu
i ymwelwyr i’r ganolfan aros
ymlaen am ychydig o ddyddiau i fwynhau’r
hyn sydd gan y ganolfan i’w gynnig ynghyd
a’r ardal o’i gwmpas ·
Bod bwriad i gadw coed
y terfyn a chreu sgrin ychwanegol ·
Yn
gyfle i greu
ffynhonnell incwm ychwanegol, sicrhau cyflogaeth ac yn adnodd sydd ei angen yn yr
ardal - yn cyfrannu at yr economi leol ac yn fodd o gefnogi busnesau eraill
lleol ·
Wedi
cydweithio yn agos gyda’r Adran
Cynllunio; wedi defnyddio ymateb i sylwadau’r cyfnod
ymgynghoriad i sicrhau dyluniad a chynllun addas c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Ei fod yn gefnogol i’r cais ·
Bod galw am y math o gyfleuster yn yr ardal |
|
Cais Rhif C20/0190/19/AC Seiont Brickworks, Seiont Works Ffordd Felin Seiont, Caernarfon PDF 389 KB Cais ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig ag
adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; ·
Defnydd tir fel estyniad i compownd y safle bresennol
a darparu sied cynnal a chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes
parcio, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid
symudol a sypynnu asffalt ac adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro), ·
Adeiladu ffordd cludiant newydd ar ffin ogleddol y
chwarel bresennol gyda chysylltiad dros dro i lwybr y ffordd osgoi arfaethedig,
A487 Caernarfon i Bontnewydd, yn ystod y cyfnod adeiladu, ·
Parhau i gloddio am fwynau, symud deunydd o ddyddodion
gweithio mwynau a phentwr stoc o ddeunyddiau sy’n bodoli eisoes, ·
Darparu llawr caled a lleoli offer a pheiriannau ar
gyfer prosesu a sgrinio deunyddiau, ·
Gwaredu deunyddiau gwastraff anadweithiol ar gyfer
gwaith peirianyddol/adfer yn ystod y tymor hir.
(Cais o dan Adran 73 i amrywio Amod 3 ar ganiatâd cynllunio
C17/0011/19/MW i gyrraedd y lefelau daear y cytunwyd arnynt yng nghynllun adfer
rhif. 3030/16, ddeunyddiau cloddio sydd dros ben i ofynion prosiect ffordd
osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn ogystal â deunyddiau a gloddiwyd o ffynonellau
eraill, gael eu gwaredu ar y safle yn unol â thrwydded CNC) AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD - Gwrthod y cais Mae'r bwriad yn
newid graddau neu natur y datblygiad a gymeradwywyd yn flaenorol i "waith yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd
osgoi arfaethedig yr A487 Caernarfon i Bontnewydd ..." ac mae'r
Awdurdod felly yn ystyried na ddylid newid amod 3 yn unol â a.73(2) (b) o’r
Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref. Cofnod: Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod cais
C17/0011/19/MW ( a ganiatawyd
ym Mehefin 2017) yn ddarostyngedig i amodau ar
gyfer cynigion datblygu oedd yn
gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd. Amlygwyd bod y cais dan sylw
yn ceisio, o dan Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad Thref 1990, amrywio un o’r
amodau hynny. Eglurwyd bod Amod 3 yn cyfyngu mewn
gludo deunydd gwarged o fannau eraill i’r hyn
a grëwyd gan brosiect adeiladu’r ffordd osgoi. Eglurwyd bod Adran 73 yn galluogi
ymgeisydd i wneud cais i
ddatblygu tir heb gydymffurfio gyda'r amodau sy'n
atodol i ganiatâd cynllunio blaenorol sy’n bodoli. Dan yr adran yma gall yr Awdurdod Cynllunio
Lleol newid neu dynnu amodau,
ond ni
all newid unrhyw ran arall o'r caniatâd.
Mae cais a.73 llwyddiannus yn golygu caniatáu
caniatâd cynllunio newydd ac felly mae'r caniatâd gwreiddiol yn parhau yn
gyfan. Wrth benderfynu ar gais
a.73, gall yr ACLl osod amodau y tu
hwnt i'r rhai a gynigir yn y cais. Er hynny, dylai'r amodau a osodwyd
ond fod yn
rhai y gellid fod wedi eu
gosod ar y caniatâd gwreiddiol. Yn flaenorol, y farn oedd na ddylai'r newidiadau a ganiateir olygu 'newid sylfaenol' o'r bwriad a gynigiwyd
yn y cais gwreiddiol. Ymhelaethwyd ar y rhesymau pam nad oedd
swyddogion yn ystyried fod gwneud
y fath newid yn briodol drwy
gais Adran 73. Amlygodd y Cyfreithiwr
bod yr ymgeisydd wedi rhannu gwybodaeth
/ opiniwn ychwanegol gyda’r Aelodau a bod yr ymateb swyddogion y Cyngor i’r opiniwn
hwnnw wedi ei rannu gyda’r
ymgeisydd ym mis Ebrill 2020. b) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais c) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol
gan aelodau: ·
Pam nad
oes cais o’r newydd yn
cael ei gyflwyno? ·
Pryder
y byddai’n cael effaith ar amserlen
cwblhau'r ffordd osgoi ·
Bod angen cyflwyno cais o’r
newydd fel bod modd rheoli'r hyn
sydd yn cael
ei roi yn
y twll chwarel ch) Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â chyflwyno cais o’r newydd,
nodwyd bod trafodaethau helaeth wedi cymryd
lle dros y misoedd diwethaf a bod anghytundeb barn o’r ffordd gywir ymlaen. d) Mewn ymateb
i’r sylw ynglŷn â’r cais o bosib yn
atal gwaith o gwblhau'r ffordd osgoi, nodwyd bod y cais yn ymwneud a llenwi
twll chwarel gyda chynnyrch ac ni ddylai amharu
ar amserlen y ffordd osgoi PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rheswm bod y bwriad
yn newid graddau neu natur
y datblygiad a gymeradwywyd
yn flaenorol i "waith yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi arfaethedig
yr A487 Caernarfon i Bontnewydd ..." ac mae'r
Awdurdod felly yn ystyried na ddylid
newid amod 3 yn unol â a.73(2) (b) o’r Ddeddf Cynllunio
Gwlad a Thref. |
|
Datblygiad preswyl o 30 uned (i gynnwys
12 uned fforddiadwy) ynghyd a isadeiledd, llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD ·
Cyfeirio y cais i gyfnod cnoi cil ·
Gwrthod y cais am y rhesymau
canlynol • Diffyg angen
am dai • Asesiad Ieithyddol
yn annigonol • Materion llifogydd • Materion halogiad
tir • Materion trafnidiaeth
– cyffordd Ffordd Penrhos ac hefyd Ffordd Penyffridd • Darpariaeth / cyfraniad annigonol o lecynnau agored Cofnod: a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y safle
wedi ei leoli ym Mhenrhosgarnedd ac yn safle a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan
Brifysgol Bangor fel canolfan maes garddwriaeth. Yn bresennol, mae’n llecyn o
dir segur a diffaith a gordyfiant arno gyda cyn-adeiladwaith y ganolfan maes
wedi eu dymchwel ers peth amser. O gwmpas y safle gwelir tai preswyl ar ffurf
stad ac mae’r safle oddi fewn i ffin datblygu Bangor. Adroddwyd bod adeiladu tai ar safle o fewn y
ffin datblygu yn dderbyniol. Yng nghyd-destun y cais,
amlygwyd bod dwysedd arfaethedig y datblygiad tai ychydig yn is na’r disgwyl,
ond gan ystyried cyfyngiadau’r safle sy’n cynnwys yr angen i greu corridor
bywyd gwyllt, cadw coedlan, darparu llecynnau amwynder agored ynghyd a diogelu
ardal ar gyfer draenio tir, ystyriwyd y
byddai darparu 30 uned yn dderbyniol ar gyfer y safle. Amlygwyd bod Polisi
TAI1 yn datgan y
bydd tai yn cael ei sicrhau drwy ddynodiadau tai ynghyd â safleoedd ar hap o fewn
y ffin datblygu. Gwir nad yw'r tir dan sylw heb ei
ddynodi ar gyfer tai, ond mae wedi ei leoli yn llwyr o fewn y ffin datblygu a
bod elfen o gydnabyddiaeth o dwf Bangor yn dod drwy safleoedd ar hap. Nodwyd mai lefel
cyflenwad dangosol ar gyfer Bangor dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol yw 969.
Yn unol â ffigyrau mwy diweddar (o ganlyniad i fonitro rheolaidd), sydd yn
ystyried unedau wedi eu cwblhau, y nifer sydd yn y banc tir presennol a’r nifer
o fewn y cais,
y dangosir capasiti / targed dangosol ar gyfer 10 uned i’r safle. I ddarparu
mwy na’r targed dangosol, eglurwyd bod rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno cyfiawnhad
sydd yn bodloni’r Cyngor, bod y bwriad yn cyfarch angen cydnabyddedig am dai. Yn yr achos yma,
bydd 12 o unedau arfaethedig yn dai fforddiadwy (sydd yn ganran uwch na
gofynion y polisi) ynghyd a 18 uned i’w gwerthu ar y farchnad agored.
Nodwyd bod y datganiad cymysgedd tai yn cyfateb gyda’r angen a bod Uned
Strategol Tai'r Cyngor wedi cadarnhau bod y 30 uned ar restr cynlluniau wrth
gefn i dderbyn grant Tai Cymunedol Llywodraeth Cymru o ystyried bod datblygiad
fel hyn yn flaenoriaeth. Nodwyd bod yr
ymgeisydd hefyd wedi nodi bod potensial i rai o’r tai
marchnad agored gael eu cynnig fel tai rhent canolradd neu fel cynllun rhannu
ecwiti fyddai’n cynyddu’r nifer o achrediad o dai fforddiadwy fyddai’n cael eu
cynnig. Ategwyd bod elfen o sicrwydd bod
y bwriad yn cael ei wireddu’r fuan a bod y cynllun yn cyfarch yr angen
cydnabyddedig am dai yn yr ardal. Adroddwyd bod y
cynllun yn un o ansawdd uchel gyda naws a ffurf stad
fyddai’n darparu tai i deuluoedd gyda digon o le gwyrdd o’i cwmpas. Tynnwyd sylw at y prif wrthwynebiadau - pryderon o ychwanegiadau mewn lefelau trafnidiaeth a mynediad, llifogydd a draenio tir a llygredd. Er bod yr Uned Trafnidiaeth yn cydnabod y pryderon, nid oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad. Amlygwyd bod materion llifogydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |