Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon LL55 1SH and Virtually via Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 – 2024 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: I AIL-ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN GADEIRYDD AR GYFER 2023 /
2024 Cofnod: PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD
EDGAR OWEN YN GADEIRYDD AR GYFER 2023 / 2024 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023 - 2024 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Elwyn Edwards a’r Cynghorydd Gruffydd Williams Yn unol
â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynigion:- O blaid y Cynghorydd Elwyn Edwards: (10) Y Cynghorwyr:- Elwyn Edwards,
Elin Hywel, Huw Wyn Jones, Edgar Owen, Huw Rowlands, Delyth Lloyd Griffiths,
Gareth Tudor Jones, Cai Larsen, Gareth A Roberts, Gareth Coj Parry O blaid y Cynghorydd Gruffydd Williams: (4) Y Cynghorwyr:- Anne
Lloyd-Jones, Gruffydd Williams, Elwyn Jones, John Pughe Roberts Atal (0) PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Is-gadeirydd ar gyfer
2023/24 |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Pughe (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Huw Wyn Jones (oedd yn Aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 8.4 (C23/0148/17/LL) ar y rhaglen oherwydd
ei fod yn
adnabod y teulu Roedd yr Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. Y Cynghoyrdd John Pughe
Roberts (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn yn eitem
8.1 (C23/0116/09/LL) oherwydd bod ganddo
gyfranddaliadau yng nghwmni Wynnstay. Nododd y Swyddog Monitro nad oedd cyfeiriad
at gwmni Wynnstay yn yr adroddiad ar gyfer
cais Cynllunio 8.1 ac felly penderfynodd
y Cynghorydd nad oedd y buddiant yn un a oedd
yn rhagfarnu ac felly ni fu rhaid iddo
adael y cyfarfod. b)
Datganodd yr aelodau canlynol
eu bod yn aelod lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Dewi Jones yn eitem 7 ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Anwen Davies (ar ran y Cyng Gareth Williams) ac nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn, yn eitem 8.2 (C23/0212/30/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynhorydd
Arwyn Herald Roberts (nad oedd
yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 8.4 (C23/0148/17/Ll) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CAIS AM ORCHYMYN DAN DDEDDF RHEOLI TRAFFIG Y FFYRDD 1984 PDF 1 MB GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD GWAHARDDIADAU, CYFYNGU AROS A MANNAU PARCIO AR
Y STRYD A DIRYMU (ARDAL ARFON RHIF 20) (CAERNARFON) 2023 Ystyried yr adroddiad i gymeradwyo
cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg, ‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar
Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis, Rhosbodrual Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg,
‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis,
Rhosbodrual, Caernarfon Cofnod: GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD GWAHARDDIADAU, CYFYNGU AROS A
MANNAU PARCIO AR Y STRYD A DIRYMU (ARDAL ARFON RHIF 20) (CAERNARFON) 2023 a)
Amlygodd y Rheolwr Gwasanaeth Traffig
a Phrosiectau bod y Gwasanaeth wedi
derbyn cwyn gan berchnogion eiddo cyfagos parthed cerbydau yn parcio ar
y palmant ac ar lecyn o wair gyferbyn
ag eiddo Tanffordd, Ffordd
Llanberis, Caernarfon. Yn dilyn
archwiliad ac asesiad o’r sefyllfa, ymgynghorodd
y Gwasanaeth ar gyflwyno argymhelliad i ymestyn y llinellau melyn dwbl i
atal cerbydau rhag parcio ar
y palmant a’r llecyn gwair. Yn
ystod y cyfnod ymgynghori (Mawrth 2022) fe dderbyniwyd un gwrthwynebiad i’r cynllun arfaethedig.
O ganlyniad, adolygwyd y cynllun yn Awst
2022 a phenderfynwyd peidio
addasu’r bwriad gan fod cyfiawnhad
derbyniol dros fwrw ymlaen a’r
cynllun. Cafodd y cynllun arfaethedig i wahardd parcio
ar Ffordd Llanberis ei gyflwyno fel rhan
o’r gorchymyn ‘Gwaharddiadau, cyfyngu
aros a mannau parcio ar y stryd a dirymu (ardal Arfon rhif 20) (Caernarfon)
2023’ ac fe dderbyniwyd
gwrthwynebiad am yr ail dro.
Cyflwynwyd y gorchymyn i’r Pwyllgor am gymeradwyaeth. Roedd y Swyddog o’r farn y byddai
cyflwyno llinellau melyn yn y lleoliad yn atal cerbydau rhag
gyrru dros y palmant i barcio
ar y gwair ger eiddo Tanffordd. Byddai hynny yn
ei dro yn
lleihau’r nifer o achosion lle byddai
mwd yn cael
ei gario ar y palmant a’r
ffordd, sy’n arwain at broblem diogelwch defnyddwyr y ffordd. Byddai llinellau melyn hefyd yn cadw’r
llain welededd yn glir i
drigolion Stad Llain y Felin yn
ogystal â eiddo Tanffordd. b)
Amlygodd yr Aelod Lleol, y sylwadau
canlynol: ·
Ei fod yn cydymdeimlo gyda’r gwrthwynebydd gan fydd hyn yn
creu anawsterau iddo, ond yn
hyderus bod y buddion yn fwy na’r
sgil effeithiau negyddol. ·
Yn bwysig nodi bod yr adran
wedi gwneud asesiad effaith cydraddoldeb a daeth hwnnw yn ei
ôl yn glir.
·
Yr hyn sydd dan sylw ydi mater iechyd a diogelwch. Bwriad y llinellau melyn yw atal faniau
a cherbydau eraill rhag parcio ar
lain o dir, fel sy’n digwydd ar
hyn o bryd. Mae hyn yn broblem
oherwydd: §
Mae’n ffordd cymharol gyflym - mae’r cerbydau yn rhwystro traffig
rhag gweld y ffordd o’u blaen. §
Mae cerbydau sy’n parcio yma yn
cario mwd i’r ffordd sy’n
beryglus ac yn creu risg o lithro.
§
Mae parcio yma yn dinistrio’r llecyn o wair, mwd sydd yma
nid gwair erbyn hyn. ·
Mae hefyd yn bwysig nodi bod llawer o drigolion lleol wedi cefnogi’r camau hyn yn
ystod y broses ymgynghori. c)
Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r gorchymyn d) Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelodau: ·
Bod angen sicrhau diogelwch ar ddarn cyflym o ffordd ·
Bod mwd ar y palmant ac felly gorfod cerdded ar y lôn ·
Bod uchder camper van,
wrth barcio ar y gwair, yn cuddio arwydd 40mya e) Mewn ymateb i gwestiwn y byddai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: DECISION: To approve the introduction of 'no waiting at any
time' Double Yellow Lines on a Class 1 Road A4086 – Ffordd Llanberis,
Rhosbodrual, Caernarfon Cofnod: |
|
Cais Rhif C23/0116/09/LL 1 Idris Villas, Tywyn, Gwynedd, LL36 9AW PDF 458 KB Ail- gyflwyniad: Newid
defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig a'r eiddo masnachol presennol,
ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r
fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Pughe Dolen
i ddogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r argymhelliad
Y rhesymau am ddyfarniad y Cyngor i
ganiatáu'r datblygiad yn ddarostyngedig i'r amodau a nodwyd eisoes:
Cofnod: Ail- gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn
gysylltiedig â'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch,
gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa
gerbydol i'r iard Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld ar safle 15-05-23 a)
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd
tir i greu iard storio / gwerthiant ar dir gyferbyn ac Idris Villas, Tywyn fyddai’n gysylltiedig ag eiddo masnachol presennol
sydd wedi ei leoli ar y Stryd Fawr. Byddai’r bwriad yn cynnwys codi ffens
diogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i’r fynedfa amaethyddol
bresennol i greu mynedfa gerbydol addas. Ategwyd bod Datganiad Cynllunio,
Asesiad Canlyniadau Llifogydd ac Adroddiad Ecolegol Cychwynnol wedi eu cyflwyno
fel rhan o’r cais ac yn ddiweddarach ar y 29 Mawrth 2023 cyflwynwyd Cynllun
Tirlunio o amgylch y ffens derfyn. Yn
dilyn y Pwyllgor diwethaf cyflwynwyd manylion
llwybrau ymadawiad cerbydau trwm o’r safle ar y 28 Ebrill 2023. Cyfeiriwyd at effaith gweledol ymysg y rhesymau gwrthod ar
y cais blaenorol C22/1050/09/LL gyda’r swyddogion yn amlygu bod yr un pryderon
yn parhau’n berthnasol. Er derbyn cynllun tirlunio oedd yn dangos bwriad i
dirlunio ochr allanol y ffens ddiogelwch, ystyriwyd y byddai hyn yn lleddfu
ychydig ar effaith gweledol y datblygiad, fodd bynnag, nid yw’n llwyr oresgyn y
pryderon. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad a sylwadau’r Uned
Priffyrdd (ers y Pwyllgor diwethaf 17
Ebrill 2023) derbyniwyd cynlluniau o lwybrau ymadawiad cerbydau trwm o’r safle
yn ogystal â manylion sut mae’r cerbydau yn troi o fewn y safle. Nodwyd bod y
safle yn ganolog yn y dref a byddai’r fynedfa ar ochr allanol ym mwa’r ffordd.
O’r archwiliad safle ystyriwyd fod gwelededd agored boddhaol i’r ddau
gyfeiriad. Byddai parcio o fewn y safle i gwsmeriaid a ystyrir yn dderbyniol i
fodloni gofynion TRA 2 y CDLl. Derbyniwyd sylwadau’r
Uned Drafnidiaeth ar y wybodaeth ychwanegol ddiweddaraf, sy’n datgan eu bodlonrwydd
gyda’r cynlluniau sy’n dangos symudiadau ymadawiadau cerbydau o’r safle ac nad
oes ganddynt wrthwynebiad. Ar sail y sylwadau diweddaraf ystyriwyd fod y bwriad
yn dderbyniol i sicrhau gweithrediad diogel o’r briffordd a chydymffurfio a
pholisïau TRA 4, maen prawf 6 polisi MAN 6 y CDLl a
NCT 18: Trafnidiaeth Nodwyd bod y swyddogion yn ystyried fod y datblygiad yn parhau’n annerbyniol ar sail pryderon llifogydd, effaith ar fwynderau gweledol yr ardal a mwynderau'r preswylwyr cyfagos. Er bod elfennau yn dderbyniol, nid yw’n gorbwyso’r ffaith fod egwyddor y bwriad yn methu cyfarfod profion cyfiawnhad polisi Cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol 15. Cafodd y pryderon hyn eu codi mewn ymateb i Ymholiad Cyn Cais ble argymhellwyd yn erbyn cyflwyno cais, ar sail na ellid cyfiawnhau lleoli’r bwriad mewn parth llifogydd C1. Mae cynllun tirlunio wedi ei gyflwyno bellach sy’n golygu ychydig o welliant yn nhermau mwynderau gweledol, ond nid yw’n goresgyn ein pryderon yn llwyr. Mae’r wybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r llwybrau mynediad ac ymadawiad cerbydau, wedi goresgyn ein pryderon gwreiddiol am ddiogelwch ffyrdd ac felly gellid diddymu rheswm 4 o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C23/0212/30/LL Pant Valley, Rhydlios, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8LF PDF 425 KB Codi adeilad newydd i'w ddefnyddio fel storfa
amaethyddol ynghyd a gwaith tirlunio cysylltiol (ail gyflwyniad) AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD YN UNOL
Â’R ARGYMHELLIAD RHESYMAU: 1.
Ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd, nid yw’r Awdurdod Cynllunio
Lleol wedi ei argyhoeddi yn ddiamheuol fod angen gwirioneddol i godi adeilad
amaethyddol o’r maint a’r raddfa a fwriedir yn y lleoliad hwn wedi cael ei
brofi'n ddiamheuol. Mae’r cais, felly’n, groes i ofynion Polisi PCYFF 1 a PCYFF
2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 sy’n annog gwrthod
cynigion y tu allan i ffiniau datblygu oni bai bod cyfiawnhad yn dangos bod
lleoliad cefn gwlad yn hanfodol ac sydd ddim yn cydymffurfio gyda pholisïau
eraill o fewn y Cynllun ei hun. 2.
Byddai graddfa'r bwriad yn
golygu codi adeilad sylweddol ei faint, wedi ei leoli mewn man amlwg, ynysig,
gerllaw ffordd a llwybr cyhoeddus ac o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig. Ni
fyddai’r datblygiad hwn yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol
ac o’r herwydd fe fyddai’r datblygiad yn niweidiol i fwynderau gweledol yr
ardal. Mae’r cais felly’n groes i ofynion meini prawf perthnasol polisïau PCYFF
2, PCYFF 3 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd
a'r cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar
gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a Nodyn Cyngor Technegol 12 : Dylunio sy’n
ymwneud ag amddiffyn mwynderau gweledol lleol a'r amgylchedd Cofnod: Codi adeilad newydd i'w ddefnyddio fel storfa amaethyddol ynghyd a
gwaith tirlunio cysylltiol (ail gyflwyniad) a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
mai cais ydoedd i
godi sied fel storfa amaethyddol ar safle gwledig o fewn daliad tir eiddo a
elwir yn Pant Valley, Rhydlios. Eglurwyd bod y cynlluniau yn dangos
adeilad fyddai’n mesur 22.86m x 13.74m
gan roi cyfanswm arwynebedd llawr mewnol o 314 m² ac yn 5.8m o
uchder i'r crib. Roedd y cais yn ail gyflwyniad o gais llawn a wrthodwyd yn
flaenorol. Amlygwyd bod maint, ffurf ac edrychiad y sied arfaethedig yn unol
â’r manylion a wrthodwyd yn flaenorol. Lleolir y safle a'r ardal ehangach o
fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn ynghyd a Thirlun o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli gan CADW. Nid ydyw o fewn yr AHNE. Gwrthodwyd y cais
blaenorol oherwydd diffyg gwybodaeth a chyfiawnhad ar gyfer y datblygiad
arfaethedig. Nodwyd ar y pryd nad oedd cynllun busnes wedi ei gyflwyno. Nid
yw’n arferol gofyn am gynllun busnes gyda cheisiadau amaethyddol ble mae’r
daliad amaethyddol wedi sefydlu, ond yn yr achos yma, nid yw’r ymgeisydd yn
gweithredu daliad amaethyddol ac, felly, ystyriwyd ei fod yn gais gwbl rhesymol
i ofyn am wybodaeth o’r fath er mwyn canfod sut fyddai’r menter yn debygol o
weithredu i’r dyfodol. Fel rhan o’r cais presennol, roedd yr asiant wedi
cyflwyno datganiad i gefnogi a chyfiawnhau’r bwriad. Cyflwynwyd y cais i
bwyllgor am benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol Nid bwriad yr Awdurdod
Cynllunio Lleol yw atal dyhead unigolion i gynnal gweithgareddau amaethyddol
i'r dyfodol, ond nid yw wedi ei argyhoeddi’n ddiamheuol bod angen gwirioneddol
am sied amaethyddol newydd ar y safle hwn wedi ei brofi ac felly’r bwriad yn
groes i egwyddor datblygu amaethyddol sylfaenol a Pholisi PCYFF 1 a PCYFF 2 y CDLl yn benodol gan nad oes cyfiawnhad ddigonol o fewn
lleoliad gwledig ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Yn ogystal, oherwydd ei
faint, gorffeniad a’i leoliad ynysig, byddai’r adeilad yn ffurfio nodwedd
anghydnaws yn y dirwedd gan niweidio mwynderau gweledol lleol yn groes i feini
prawf perthnasol polisïau, PCYFF 2 a PCYFF 3 y CDLl. Roedd yr Awdurdod
Cynllunio Lleol yn argymell gwrthod y cais b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad nododd y Cynghorydd Anwen Davies (ar ran yr Aelod
Lleol) y sylwadau canlynol. ·
Bod
gwir angen am sied i sicrhau lle i gadw defaid – ar gyfer porthi ac i wneud
ymweliad gan y milfeddyg yn haws ·
Bod
cynnig i leihau lefel y tir wedi ei gyflwyno a bod bwriad defnyddio’r pridd i
godi cloddiau o amgylch y sied ·
Bod
bwriad plannu coed ac ailgylchu dwr glaw ·
Bod
yr ymgeisydd yn Gymro gweithgar ifanc gyda dymuniad o sefydlu menter
amaethyddol yn Pant Valley ·
Bod
y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais ·
Na
fyddai’r sied ddim mwy gweledol nag eraill yn yr ardal ·
Bod
y sied bresennol yn rhy agos i’r tŷ ·
Cynnig
bod Aelodau’r Pwyllgor yn ymweld â’r safle Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cynorthwyol nad yw’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C23/0089/39/AM Garej Mynytho, Mynytho, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7RH PDF 530 KB Cais amlinellol gyda
rhai materion wedi eu cadw yn ôl i ddymchwel tŷ annedd a chyn fodurdy
fasnachol ynghyd ag adeiladau cysylltiol a chodi 5 tŷ deulawr marchnad leol,
gosod 16 uned gwyliau hunan wasanaeth, adeiladu tafarn/tŷ bwyta, tirlunio,
creu safleoedd parcio a gwaith i addasu mynedfa gerbydol bresennol AELOD LLEOL: Cynghorydd
Angela Russell Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL Cofnod: Cais amlinellol gyda rhai materion
wedi eu cadw
yn ôl i
ddymchwel tŷ annedd a chyn fodurdy
masnachol ynghyd ag adeiladau cysylltiol a chodi 5 tŷ deulawr marchnad leol, gosod 16 uned gwyliau hunan
wasanaeth, adeiladu tafarn/tŷ bwyta, tirlunio, creu safleoedd parcio a gwaith i addasu mynedfa
gerbydol bresennol. CAIS WEDI EI DYNU YN OL |
|
Cais Rhif C23/0148/17/LL Uwchlaw'r Rhos, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE PDF 438 KB Adeiladu tŷ menter
gwledig a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL:
Cynghorydd Arwyn Herald Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r
argymhelliad. O ganlyniad, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at gyfnod o gnoi cil
cyn dychwelyd i’r Pwyllgor am benderfyniad terfynol. Cofnod: Adeiladu tŷ menter wledig a gwaith cysylltiol a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
i adeiladu tŷ menter wledig ynghyd a gwaith cysylltiol. Byddai'r tŷ ar ffurf byngalo
gromen ac yn mesur 115 medr sgwâr ac yn cynnwys
porth, swyddfa, toiled, ystafell amlbwrpas, ystafell eistedd ystafell fwyta a chegin ar lefel
daear a 3 ystafell wely a baddon ar
y llawr cyntaf. Disgrifiwyd
y fferm fel un sydd yn ymestyn
i 84ha; yr ymgeisydd yn berchen ar
59ha ac yn rhentu 24.3 ar denantiaeth hir gyda 84ha yn cael
ei ddefnyddio fel porfa, 20ha ar gyfer silwair
(un toriad) a 8ha ar gyfer silwair
(dau doriad) ac yn cael ei
ddefnyddio fel porfa. Mae’r fferm
yn cynnwys 118 o wartheg gyda lloeau,
120 o ddefaid, a 4 hwch a
12 bau a 27 o foch bach. Mae’r ymgeisydd
hefyd mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pori
1,618ha dir comin. Cyflwynwyd
Datganiad Cynllunio, cyfrifon
y busnes, fel rhan o’r cais. Cyflwynwyd
y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr aelod Lleol Amlygwyd y byddai’r safle y tu hwnt i
iard y fferm a thu allan i
unrhyw ffin datblygu fel y diffinnir gan Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) gyda pholisi
PCYFF 1 yn datgan, tu allan i
ffiniau datblygu bydd cynigion yn
cael ei gwrthod
oni bai eu bod yn unol â pholisïau
eraill o fewn y cynllun datblygu lleol, polisïau cenedlaethol neu fod y cynnig yn dangos
bod ei lleoliad yng nghefn gwlad
yn hanfodol. Ategwyd, yn sgil
yr angen i gynnal a gwarchod cefn gwlad bod angen cyfiawnhad arbennig iawn dros
ganiatáu adeiladu tai newydd yno ac felly dim ond mewn amgylchiadau
arbennig y caniateir tai newydd yng nghefn
gwlad. Bydd yr amgylchiadau arbennig hynny yn cael
eu cynnwys yn Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy - Gorffennaf 2010 (NCT6) a baratowyd
gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ynglŷn â’r ddogfen Arweiniad
Ymarferol ar ei gyfer. Cyfeiriwyd at baragraff 4.3.1 o TAN6, sy’n amlygu mai
un o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei
ben ei hun yng nghefn gwlad
agored yw pan fo angen llety
i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw
yn eu man gwaith neu’n agos
ato. Bydd p’un a yw
hyn yn hanfodol
ai peidio mewn unrhyw achos penodol
yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar
ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r unigolion
cysylltiedig. Mae TAN 6 hefyd
yn nodi y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol asesu ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer anheddau
mentrau gwledig newydd yn ofalus
i sicrhau y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth
y polisi arferol o gyfyngu ar ddatblygiad
nghefn gwlad agored drwy gyfeirio
at dystiolaeth ategol gadarn. Datgan yr ymgeisydd bod y busnes wedi ei bodoli ers dros 3 mlynedd. Cyflwynwyd cyfrifon busnes ar gyfer y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |