Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin
Hywel, Elwyn Jones a Gareth Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Cai
Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0657/18/LL) ar y rhaglen oherwydd bod ei fod
yn Aelod o Fwrdd Rheoli Adra |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20 Tachwedd 2023 fel rhai cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C23/0657/18/LL Tir gyferbyn Stad Cremlyn, Bethel, Caernarfon, LL55 1AX PDF 225 KB Cais cynllunio llawn i
godi 30 o dai fforddiadwy gyda mynedfa newydd, ffordd fynediad fewnol a gwaith
cysylltiedig. AELODAU LLEOL:
Cynghorydd Sasha Williams a’r Cynghorydd Iwan Huws Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Nodyn – Dŵr Cymru Uned Draenio Tir Uned
Trafnidiaeth Datblygiad
Mawr Cofnod: Cais cynllunio
llawn i godi 30 o dai fforddiadwy gyda mynedfa newydd, ffordd fynediad mewnol a
gwaith cysylltiedig. Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnig gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â materion Cyfraniad Addysgol, Materion
Ieithyddol, Bioamrywiaeth, Materion coed ac Archeoleg a)
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i i godi 30
tŷ fforddiadwy gyda gwaith cysylltiedig ar safle sydd wedi ei ddynodi o
dan T57 fel safle ar gyfer tai o fewn ffin ddatblygu Pentref Gwasanaeth Bethel
fel y’i diffinnir gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Dinorwig ac yn cyfochri gyda Safle Bywyd Gwyllt dynodedig
Pen-yr-Orsedd sy’n nodweddiadol am laswelltir asidig; glaswelltir corsiog a
gwlypdir asid/niwtral. Roedd y cynnig yn cynnwys codi’r tai, darparu mynedfa
newydd i’r B4366 (sy’n ffordd ddosbarth 2), creu ffordd fynediad mewnol,
ardaloedd wedi’u tirlunio a gwaith draenio cysylltiedig; byddai’r cynnig yn
cynnwys cymysgedd tai: ·
3 byngalo dwy ystafell wely ·
1 byngalo tair ystafell wely
sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ·
8 annedd dwy ystafell wely ·
12 annedd tair ystafell wely
·
2 annedd pedair ystafell
wely ·
4 fflat un ystafell wely Yng nghyd-destun egwyddor
y datblygiad, nodwyd, yn unol â Pholisi PCYFF 1 ('Ffiniau Datblygu'), bydd
ceisiadau'n cael eu cymeradwyo y tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau
eraill a'r cynigion yn y Cynllun, polisïau cynllunio cenedlaethol, ac
ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill. Amlygwyd bod Bethel, y CDLl, wedi ei adnabod fel Pentref Gwasanaeth dan bolisi TAI
4 sy’n cefnogi tai i gwrdd â strategaeth y Cynllun drwy ddyraniadau tai a
safleoedd addas heb eu dyrannu o fewn y ffin ddatblygu ar sail y ddarpariaeth ddangosol
sydd yn y Polisi. Adroddwyd, yn unol
â Pholisi TAI 8, rhaid rhoi ystyriaeth os yw’r datblygiad arfaethedig yn cwrdd
â’r galw am dai sydd wedi ei gofnodi mewn Asesiad Marchnad Tai a thystiolaeth
arall lleol. Nodwyd bod Datganiad Cymysgedd Tai wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn
nodi’r rhesymeg y tu’n ôl i’r gymysgedd tai a gynigiwyd
ac fe dderbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Strategol Tai bod y datblygiad yn cwrdd
ag anghenion cydnabyddedig y gymuned leol. Ategwyd bod Polisi TAI 15 o'r CDLl
yn datgan y bydd y cynghorau’n ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy
yn ardal y cynllun. Ym Methel, dau neu fwy o unedau
tai yw'r trothwy, ond gan fod y bwriad yn paratoi datblygiad o 100% unedau
fforddiadwy a bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau fod y bwriad yn cyfarch
yr angen yn yr ardal, roedd y cais yn bodloni polisi TAI 15. O ganlyniad,
ystyriwyd fod cyfiawnhad ac angen ar gyfer y bwriad a'i fod yn cyfarch
anghenion y gymuned leol ac yn cwrdd gydag amcanion polisïau tai'r CDLl. Yng nghyd-destun lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol y bwriad nodwyd y bydd yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r pentref, gyda’r gosodiad, dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn gweddu’r lleoliad mewn modd priodol. Ystyriwyd bod y tai wedi eu dylunio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C22/0705/33/LL Ty Cynan, Rhydyclafdy, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7YL PDF 230 KB Cais ar gyfer creu
menter pigo ffrwythau eich hunain i gynnwys newidiadau i'r fynedfa gerbydol
bresennol, darparu maes parcio ar gyfer cwsmeriaid, gosod polytunnel a lloches
gyda paneli solar uwchben, darparu cynhwysydd ar gyfer ar gyfer gosod cyfarpar
dyfrhau a offer cysylltiol gyda'r paneli solar a chynhwysydd ar gyfer pwyso'r
ffrwythau a gwerthu lluniaeth, gosod tanciau crynhoi dwr, a chodi adeilad
ar gyfer darparu toiledau AELOD LLEOL: Cynghorydd
Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENFERFYNIAD: Caniatáu –
amodau ·
5 mlynedd ·
Unol a’r cynlluniau ·
Amodau Priffyrdd ·
Amod Dwr Cymru ·
Hysbysebion Cymraeg ·
Gorchudd di-lachar ar y paneli pv ·
Rhaid datgysylltu’r cyfarpar solar pv a’i symud o’r safle ar ôl cyfnod parhaus o beidio
cynhyrchu ynni ·
Rhaid
defnyddio'r adeiladau a ganiateir yma ar gyfer pwrpas amaethyddol neu’n atodol
i ddefnydd amaethyddol o’r safle yn unig ac os daw ei ddefnydd i bwrpas
amaethyddol o fewn yr uned i ben yn barhaol o fewn 10 mlynedd o ddyddiad
cwblhau'r datblygiad yn sylweddol yna, oni bai i'r awdurdod cynllunio lleol
ganiatáu defnydd neillog, bydd rhaid dymchwel yr adeilad a'i symud ymaith o'r
tir ac adfer y tir i'w gyflwr blaenorol cyn i'r datblygiad gymryd lle. ·
Gwelliannau
bioamrywiaeth ·
Manylion pwyntiau gwefru ceir trydan Nodiadau: SUDS Datblygiad mawr Cyfeirio’r datblygwr at
wefan Comisiynydd y Gymraeg a’r Cynnig Cymraeg, er mwyn eu cynorthwyo i greu
Cynllun Iaith, ac adnabod camau datblygu o ran hybu defnydd o'r Gymraeg. Cofnod: Cais
ar gyfer creu menter pigo ffrwythau eich hunain i gynnwys newidiadau i'r
fynedfa gerbydol bresennol, darparu maes parcio ar gyfer cwsmeriaid, gosod
polytunnel a lloches gyda phaneli solar uwchben, darparu cynhwysydd ar gyfer ar
gyfer gosod cyfarpar dyfrhau ac offer cysylltiol gyda'r paneli solar a
chynhwysydd ar gyfer pwyso'r ffrwythau a gwerthu lluniaeth, gosod tanciau
crynhoi dŵr, a chodi adeilad ar
gyfer darparu toiledau a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i
greu menter pigo ffrwythau eich hunain ar safle wedi ei leoli ar gyrion pentref
Rhydyclafdy yng nghefn gwlad agored ac Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llyn ac Enlli. Eglurwyd bod egwyddor menter pigo eich
ffrwythau eich hunain yn ddefnydd amaethyddol gan ei fod yn golygu defnyddio’r
tir ar gyfer tyfu cynnyrch. Cyfeiriwyd at ran 3.8 o Nodyn Cynllunio Technegol 6
sy’n cadarnhau, os yw siop fferm yn cael ei ddefnyddio i werthu nwyddau a
gynhyrchir ar y fferm honno yn unig, ac ond ychydig iawn o nwyddau eraill o fannau
eraill, mae felly’n ddiben sy’n atodol i’r defnydd fel fferm ac nid oes angen
caniatâd cynllunio penodol. (sef defnyddio adeiladau presennol ar y fferm ar
gyfer gwerthu’r cynnyrch). Fodd bynnag, yn yr achos yma, mae’r bwriad yn golygu
darparu adeiladwaith a datblygiad o’r newydd yn benodol ar gyfer y fenter sydd
yn destun caniatâd cynllunio. Eglurwyd bod y ddarpariaeth ‘siop’ yng
nghyd-destun y bwriad yma ar ffurf caban ar gyfer pwyso’r cynnyrch ynghyd a
gwerthu lluniaeth i’r cwsmeriaid megis te, coffi a chacennau ayyb. Byddai’r
caban yn fychan ac ni ystyriwyd fod ei faint yn ddigon mawr ar gyfer gwerthu
nifer fawr o nwyddau o fannau eraill; yr elfen yma o’r bwriad yn dderbyniol ac
yn cyd-fynd gydag amcanion NCT ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol,
cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y safle, er ar gyrion y pentref, yn weddol
guddiedig oherwydd bod y tir yn gostwng yn raddol i ffwrdd o’r pentref, ac er
bod ffordd ddosbarthedig 3 (Lon Pin) yn rhedeg heibio’r
safle, dim ond golygfeydd ysbeidiol drwy’r gwrychoedd uchel ar ochr y ffordd
sydd o’r safle. Tynnwyd sylw hefyd at y ffrâm lloches
uwchben y byrddau tyfu cynnyrch sydd yn sylweddol o ran uchder, ac yn cynnwys
paneli solar a phaneli lleini clir uwch eu pen. Bydd hyn
yn gyfystyr ac adeilad 3.1m o uchder gyda tho ar ffurf frig a dyffrynnoedd bob
yn ail. Er yn sylweddol, mae ei uchder a’i leoliad yn golygu na fyddai’n
debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar y dirwedd, gan gynnwys Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Ategwyd bod bwriad darparu’r polytunnel ar safle wrth ochr y fframiau lloches ac felly
ni fyddai’n debygol o gael effaith ychwanegol ar y dirwedd o gymharu â’r
fframiau lloches gerllaw. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod y bwriad yn cynnwys gwneud newidiadau i’r fynedfa bresennol ynghyd a darparu dau lecyn pasio ar y trac mynediad presennol ( y fynedfa a’r trac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y parc carafanau presennol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |