Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

5.1

Cais Rhif C24/0977/18/LL Amgueddfa Llechi Cymru, Gilfach Ddu, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4TY pdf eicon PDF 267 KB

Gwaith adfer i'r safle yn cynnwys addasiadau mewnol ac allanol  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.       5 mlynedd

2.       Unol a’r cynlluniau

3.       Nwyddau dwr glaw o wneuthuriad haearn bwrw

4.       Manylion y drysau newydd i’w gymeradwyo o flaen llaw

5.       Morter calch

6.       Manylion ffliw / fents i’w gymeradwyo o flaen llaw

7.       Manylion y ffens newydd i’w gymeradwyo o flaen llaw

8.       Samples carreg

9.       Samples o’r deunyddiau i’w defnyddio

10.     Unol a gofynion y GIS

11.     Amodau Dwr Cymru

12.     Amodau goleuadau

13.     Amodau bioamrywiaeth / CNC

14.     Tirlunio

 

5.2

Cais Rhif C24/0734/17/LL Bwyty a Gwesty Stables, Bethesda Bach, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SD pdf eicon PDF 221 KB

Newid defnydd o siale / ystafelloedd gwely i 10 uned preswyl fforddiadwy (cymysgedd o unedau 1 a 2 ystafell wely hunangynhaliol) bwriededig 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Llio Elenid Owen 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GWRTHOD

 

1.     Ystyriwyd fod y cais yn groes i bolisi TAI 7 a’r Canllaw Cynllunio Atodol ‘Ail-adeiladu tai a Throsi Yng Nghefn Gwlad’ gan nad yw’r adeilad yn un traddodiadol.  Gan nad oes polisi eraill o fewn y CDLL yn caniatáu anheddau preswyl newydd yng nghefn gwald agored, ystyrir fod y bwriad hefyd yn groes i bolisi PCYFF 1.

 

2.     Ni dderbyniwyd tystiolaeth o angen lleol fforddiadwy na gwybodaeth yn dangos fod cymysgedd priodol o dai ar gyfer y nifer a math o unedau a gynigir. O ganlyniad, ystyrir fod y bwriad yn groes i bolisi TAI 7 a TAI 8.

 

3.     Ni dderbyniwyd tystiolaeth ddigonol i ddangos nad yw defnydd masnachol o’r adeilad yn hyfyw na thystiolaeth i gyfiawnhau colled o lety gwyliau gwasanaethol sydd yn groes i PS 14, ac maen prawf 1 o bolisi TAI 7

 

4.     Bod yr unedau, oherwydd ei faint cyfyngedig yn groes i baragraff 4.2.30 o rifyn 12 o Bolisi Cynllunio Cymru gan nad yw’r unedau yn cyrraedd safonau ansawdd datblygu Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn groes i bolisi Tai 8 gan nad yw’r bwriad yn adlewyrchu safon dylunio o ansawdd uchel sy’n creu cymunedau cynaliadwy a chynhwysol ac na fydd yr unedau yn helpu creu amgylcheddau iach a bywiog, ac nid ydynt yn ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol yn unol â pholisi PCYFF 3.