Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF C22/0585/22/LL Tir gerllaw Oxton Villa, Ffordd Haearn Bach, Penygroes, LL54 6NY Cais ar gyfer codi tŷ fforddiadwy gyda mynedfa a
parcio a tirweddu cysylltiol (cynllun diwygiedig). AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod yn unol â’r argymhelliad 1.
Nid yw’r bwriad yn briodol fel estyniad rhesymegol i’r anheddle oherwydd
ei leoliad a’r ffiniau presennol sy’n gwahanu’r anheddle oddi ar gefn gwlad yn
y lleoliad yma. Mae’r datblygiad felly yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1, TAI
15 ac 16 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n
sicrhau datblygiadau tai fforddiadwy addas fel eithriad ar gyrion ffiniau
datblygu. 2.
Nid yw angen lleol ar gyfer tŷ fforddiadwy hunan-adeiladu
wedi ei brofi. Mae maint yr eiddo a’r cwrtil bwriedig yn rhy fawr i alluogi’r
eiddo fod yn fforddiadwy yn y dyfodol a chydymffurfio a graddfa dwysedd
datblygu. Mae’r datblygiad felly yn groes i ofynion polisïau TAI 15, TAI 16 a
PCYFF 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n
sicrhau datblygiad o raddfa dderbyniol ac a fyddai’n fforddiadwy i’r dyfodol. 3.
Mae’r datblygiad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn
gwlad agored heb unrhyw gyfiawnhad ac yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a
pharagraff 6.4.36 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026,
a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy. |
|
CAIS RHIF C19/0154/03/LL Neuadd y Farchnad, Stryd yr Eglwys, Blaenau Ffestiniog, LL41 3HP Addasu adeilad yn 14
fflat AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod yn
unol â’r argymhelliad Nid
oes gwybodaeth ddigonol na chyfredol wedi ei gyflwyno gyda’r cais er mwyn
asesu’r bwriad yn erbyn gofynion polisïau PS1, TAI 15 a PS19 Canllaw Cynllunio
Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy a Phennod 6 Polisi
Cynllunio Cymru sy’n ymwneud ac effaith ar yr Iaith Gymraeg, darparu tai
fforddiadwy, seilwaith gwyrdd a budd net i fioamrywiaeth. |