Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw Rowlands |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Richard Glyn, (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C25/0361/30/LL) ar y rhaglen |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o
drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro
fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau. |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 8 fed o
Fedi 2025 fel rhai cywir. |
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
|
Cais Rhif C25/0503/14/DT Strade, 65 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LL Dymchwel ystafell haul bresennol a chodi estyniad newydd ir cefn. AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu Gydag Amodau 1 Pum
Mlynedd i ddechrau'r gwaith 2 Unol a
chynlluniau 3 Unol a'r
datganiad seilwaith gwyrdd Nodyn Gwybodaeth: Dŵr Cymru Cofnod: Dymchwel ystafell haul presennol a chodi estyniad
newydd i’r cefn a)
Amlygodd y Swyddog
Cynllunio mai cais deiliad
tŷ oedd dan sylw ar gyfer dymchwel ystafell haul presennol a chodi
estyniad unllawr ar gefn yr eiddo. Eglurwyd bod bwriad gorffen yr estyniad gyda
chladin pren, gyda ffenestri uchel yn cael eu gosod i edrychiadau ochr yr
estyniad a drysau biffold a ffenestri mawr ar edrychiad cefn yr eiddo. Nodwyd bod
yr eiddo yn dŷ unigol mewn ystâd o dai unigol eraill ac o fewn ffin
datblygu Caernarfon. Nid yw’r eiddo wedi ei leoli o fewn unrhyw ddynodiadau tir
arbennig ac fe gyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn Aelod
Etholedig o’r Cyngor. Adroddwyd
nad oedd unrhyw wrthwynebiad wedi ei dderbyn yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus
a bod Dŵr Cymru yn cynnig cyngor a chanllawiau i'r ymgeisydd drwy lythyr. Yng
nghyd-destun materion dyluniad a mwynderau preswyl, ni ystyriwyd y byddai’r
bwriad yn niweidiol i edrychiad
presennol y safle nac yn amharu yn ormodol ar fwynderau gweledol yr ardal yn
gyffredinol. Ystyriwyd bod yr adeilad yn safonol yr olwg, o ran mwynderau
gweledol ac felly yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf 1 a
2 o bolisi PCYFF 3. O ran dyluniad, ystyriwyd nad oedd effaith ar fwynderau
cymdogion cyfagos oherwydd mai estyniad unllawr sydd yma, ac na fyddai’r
ffenestri a’r drysau cefn yn cael effaith gwaeth ar fwynderau preifat i gymharu
â’r ystafell haul oedd yno yn bresennol. Tynnwyd
sylw at y gwelliannau bioamrywiaeth oedd wedi eu cynnig, megis gosod blychau
adar ac ystlumod. Nodwyd, pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu, byddai modd gosod amod i sicrhau bod y
gwelliannau yn cael eu cwblhau cyn i ddefnydd yr estyniad ddechrau. Ystyriwyd
bod y bwriad yn cydymffurfio gyda chanllawiau a pholisïau cynllunio.
Argymhelliad y swyddogion oedd caniatáu’r cais gydag amodau. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais – y cais
gerbron y pwyllgor gan mai Aelod Etholedig oedd yr ymgeisydd. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Hawliau
Datblygu a Ganiateir i Ddeiliaid Tai a bod yr hawliau hynny yn caniatáu
adeiladu allan i hyd at 4m a pham felly bod y cais yn cael ei gyflwyno i
bwyllgor, nodwyd bod yr estyniad yn mesur 4.8 metr ac felly angen ei gyflwyno i
bwyllgor am benderfyniad. PENDERFYNWYD: Caniatáu Gydag Amodau 1.
Pum Mlynedd i ddechrau'r gwaith 2.
Unol a chynlluniau 3.
Unol
a'r datganiad seilwaith gwyrdd Nodyn Gwybodaeth: Dŵr Cymru |
|
|
Cais Rhif C25/0202/40/LL Tir yn Y Ffor, Pwllheli, LL53 6UT Cais newid defnydd ar gyfer gosod 12 Caban Gwyliau ar dir yn Y Ffor, Pwllheli. AELOD LLEOL: Cynghorydd Richard Glyn Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod Rhesymau
Cofnod: Cais newid
defnydd ar gyfer gosod 12 Caban Gwyliau ar dir yn Y Ffôr, Pwllheli Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr. a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer datblygu safle llety gwyliau newydd ar gyfer
12 caban gwyliau parhaol a pharcio cysylltiedig, draenio a thirlunio. Byddai’r
cabanau pren o gladin pren wedi ei staenio mewn lliw cadwraeth a byddai pob un
yn cynnwys ystafelloedd cysgu, ystafell ymolchi, ystafell fyw a chegin /
ystafell fwyta. Adroddwyd y byddai’r unedau yn cael eu gosod
yng nghornel cae amaethyddol yng nghefn gwlad agored. Er nad oes dynodiad
tirwedd arbennig i ardal y cais, mae o edrychiad a chymeriad tirwedd wledig heb
ei ddatblygu gyda sawl eiddo preswyl nad yw ym mherchnogaeth yr ymgeisydd wedi
ei leoli’n agos i’r safle. Nodwyd bod bwriad darparu system draenio
breifat i ddŵr glân a budr ar gyfer y bwriad ond nad oedd y datblygwr wedi
cyflwyno unrhyw ganlyniadau profion mandylledd / trylifiad mewn perthynas â'r
system garthffosiaeth breifat. Cyflwynwyd cynllun tirlunio gyda’r cais yn
dangos bod bwriad plannu nifer helaeth o goed ar hyd terfyn de gorllewinol a de
ddwyreiniol y safle ynghyd â chryfhau gwrych presennol ar hyd y ffordd sirol,
ond ni dderbyniwyd manylion o’r cynllun hwnnw gyda’r cais. Amlygwyd mai Polisi TWR 3 oedd y polisi
perthnasol y cai yma gan fod y cabannau yn rhai parhaol. Nodwyd bod rhan gyntaf
y polisi yn cyfeirio’n benodol at ormodedd o ddatblygiadau newydd. Ategwyd, er
mwyn diffinio ‘gormodedd’ yn y cyd-destun yma, tynnwyd sylw at eglurhad 6.3.69
polisi TWR 3 sy’n cyfeirio at ‘Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn
Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri 2014. O fewn pob Ardal Cymeriad y
Dirwedd bydd y dirwedd yn cael ei asesu er mwyn canfod beth yw ei gapasiti ar
gyfer mwy o ddatblygiadau sialetau neu garafanau gwyliau. Ategwyd bod y datblygiad penodol yma yn
disgyn o fewn Ardal Cymeriad y Dirwedd G10 (Canol Llŷn) gyda’r astudiaeth
yn cadarnhau, “Y tu allan i’r AHNEau a’r
ATAau fe all fod rhywfaint o gapasiti ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach i
fach iawn wedi eu lleoli yn sensitif ac wedi eu cynllunio’n dda, a ddylai
berthnasu’n dda gyda’r amgylchedd adeiledig / gorchudd tir trefol presennol.”
Nodwyd bod yr Astudiaeth yn diffinio datblygiadau bach iawn fel rhai hyd at 10
uned a datblygiadau bach rhwng 10 - 25 uned. Er bod y bwriad gerbron yn disgyn
o fewn y diffiniad o ddatblygiad bach, ni ystyriwyd fod y safle yma yn lleoliad
sy’n perthnasu’n dda gyda’r amgylchedd adeiledig neu orchudd tir trefol, ac
felly ar sail hynny ni ystyriwyd fod capasiti ar gyfer y bwriad ar y safle
gwledig yma. Tynnwyd sylw at yr ail faen prawf oedd yn cyfeirio at ddyluniad, gosodiad ac edrychiad y datblygiad arfaethedig gan ddatgan ei fod o ansawdd uchel, ac y dylai datblygiadau newydd gael eu lleoli mewn man anymwthiol. Diffinnir lleoliad anymwthiol fel un sydd wedi cael ei sgrinio’n dda gan nodweddion o’r dirwedd sy’n bodoli’n barod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |