Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Pughe |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol ac i nodi materion protocol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Pughe a) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod
yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Angela Russell, (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0338/38/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Beca Roberts (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C24/0937/16/LL) ar y rhaglen b)
Datganodd Iwan Evans (Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol - Swyddog Monitro) ei fod yn
datgan buddiant yn eitem 5.2 (C24/0937/16/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod wedi
bod yn ymwneud a’r prosiect yn y Bwrdd
Uchelgais. Er nad yw’n gais y Cydbwyllgor Corfforedig roedd o’r farn y byddai’n
amhriodol iddo fod yn cynghori'r Pwyllgor ar y mater yma. Gadawodd y cyfarfod
yn ystod y drafodaeth. |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o
drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro
fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau. |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29ain fo
Fedi 2025 fel rhai cywir. |
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
|
Cais Rhif C23/0338/38/LL Tir gerllaw Lon Pin, Llanbedrog, Pwllheli, LL53 7PH Cais llawn i osod paneli solar (PV) er mwyn creu fferm solar 4.99MW gyda
datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol newydd a thraciau
mynediad, codi ffens, tirlunio, gosod 2 stesion newidydd i gasglu a dosbarthu
trydan a grëir a gosod ceblau tanddaearol. AELOD LLEOL:
Cynghorydd Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD Y bwriad yn annerbyniol o ystyried gofynion maen prawf 1 a 3 polisi ADN 2 ynghyd a gofynion polisïau PCYFF 3 a 4 ac AMG 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) ac Astudiaeth Sensitifrwydd a Chapasiti y Dirwedd 2014 o ganlyniad i faint a lleoliad y bwriad o fewn Ardal Tirwedd Arbennig a’i effaith weledol ar gymeriad y tirwedd, ac ei fod yn cael niwed sylweddol i fwynderau gweledol preswyl trigolion cyfagos, yn benodol eiddo Wern Newydd. Cofnod: Cais llawn i osod paneli solar (PV) er mwyn
creu fferm solar 4.99MW gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa
gerbydol newydd a thraciau mynediad, codi ffens, tirlunio, gosod 2 stesion
newidydd i gasglu a dosbarthu trydan a grëir a gosod ceblau tanddaearol. Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr. a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio bod safle’r datblygiad arfaethedig yn dir amaethyddol agored sy’n
cynnwys gwrychoedd naturiol ar hyd ei ffiniau gyda choed aeddfed yn wasgaredig
ar a ger y safle. Saif tu allan i unrhyw ffin ddatblygu cyfredol gyda mynediad
i’w gael oddiar ffordd gyhoeddus di-ddosbarth a adnabyddir fel Lôn Pin tra bod
cyfres o lwybrau cyhoeddus yn croesi tiroedd cyfochrog; ac wedi ei leoli o fewn dynodiad Ardal
Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llŷn ac Enlli gyda ffin agosaf AHNE Llŷn oddeutu 1km i
ffwrdd o ran agosaf safle’r datblygiad arfaethedig. Tynnwyd sylw at yr ymateb i sylwadau a
dderbyniwyd i ymgynghoriad gwreiddiol y cais, gan amlygu bod gwybodaeth ychwanegol
a diwygiedig oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r fynedfa gerbydol a’r
traciau mynediad, gwybodaeth ychwanegol ar ffurf cynlluniau manwl o’r fframiau
i ddal y paneli solar eu hunain; Datganiad Seilwaith Gwyrdd; Datganiad
Ieithyddol; ac ymatebion i sylwadau a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Archeolegol,
Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cadw, Cyngor Cymuned ac Uned Draenio Tir parthed
materion SUDS wedi ei ystyried. Adroddwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor oherwydd bod ardal y datblygiad arfaethedig yn fwy na’r hyn y gellid
ei ystyried gan swyddogion trwy’r drefn ddirprwyedig. Yn unol ag anghenion Gorchymyn Cynllunio
Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd),
eglurwyd bod y datblygiad yn cael ei diffinio fel “datblygiad mawr” oherwydd
maint ardal y datblygiad. Yn unol â’r drefn briodol fe dderbyniwyd Adroddiad
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais a bod y datblygwr wedi hysbysebu’r
bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio
ffurfiol. Nodwyd bod y bwriad wedi codi cryn bryderon
yn lleol a cydnabuwyd bod nifer o lythyrau yn gwrthwynebu’r bwriad hefyd wedi
eu derbyn. Eglurwyd bod egwyddor y math yma o
ddatblygiadau yn cael ei gefnogi a bod polisïau mabwysiedig yn gefnogol i
gynigion o’r fath cyn belled â’u bod yn bodloni’n llwyr yr holl feini prawf
perthnasol. Nodwyd yn ogystal fod trafodaeth cyn cyflwyno cais wedi ei gynnal
gyda’r ymgeisydd gyda chyngor yn cael ei roi ynglŷn â datblygiad o’r fath.
Tynnwyd sylw at yr adroddiadau technegol a gyflwynwyd gan gwmnïau cymwys
ynglŷn ag agweddau o’r bwriad a’r effaith tebygol o ran ystyriaethau, yr
effaith weledol, effeithiau llacharedd, rheoli trafnidiaeth ac ati. Rhoddwyd
sylw ac asesiad llawn i gynnwys yr holl adroddiadau a’r wybodaeth a gyflwynwyd
ond gan na ellid sicrhau na fyddai’r cynnig yn achosi niwed sylweddol i
fwynderau preswyl trigolion cyfagos, nid yw’r bwriad yn dderbyniol. Roedd y swyddogion yn ystyried fod y bwriad yn annerbyniol ag yn methu bodloni yn llwyr gofynion y polisiau perthnasol ac o ganlyniad, yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Cais RHif C24/0937/16/LL Zip World, Chwarel Penrhyn, Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57 4YG Datblygu reid dwristiaeth antur newydd ar ffurf ‘Swing’ i gynnwys codi strwythur platfform, ramp a strwythur glanio, ceblau a strwythurau angori ynghyd â gwaith cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau cadarnhaol gan CADW ac i’r amodau canlynol
:
Nodyn – Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru. Cofnod: Datblygu
reid dwristiaeth antur newydd ar ffurf ‘Swing’ i gynnwys codi strwythur
platfform, ramp a strwythur glanio, ceblau a strwythurau angori ynghyd â gwaith
cysylltiedig Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio at sylwadau
gan Cyngor Cymuned Llandygai ynghyd a llythyr gan Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth
Llechi Cymru. Nodiwyd bod gwrthwynebiad pellach gan aelod o’r cyhoedd wedi ei
dderbyn dros y penwythnos, ond nad oedd yn codi unrhyw fater newydd. Roedd rhai o Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld a’r safle 20-10-25 a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu gweithgaredd ychwanegol ar safle
Zip World yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda. Y bwriad yw sefydlu reid newydd ar
ffurf siglen fawr gyda 6 sedd gyda’r gwaith yn cynnwys codi strwythur platfform,
ramp a strwythur glanio, ceblau cysylltiedig â strwythurau angor. Eglurwyd bod safle'r cais yn cynnwys darn o
dir o fewn ardal Chwarel y Penrhyn, i'r de-orllewin o safle presennol Zip
World, gan ymestyn ar draws llyn y chwarel tuag at oriel ar lefel uwch ar ochr
ddeheuol y twll chwarel. Bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys pedwar prif
elfen: ·
Y pwynt angori isaf, y
ramp, yr ardal lanio a'r cert; ·
Y siglen a'r platfform; ·
Y pwynt angori uchaf; ·
Cysylltiad drwy ddau
gebl tensiwn sy’n croesi'r chwarel rhwng y ddau bwynt angori. Byddai'r rhain yn
cael eu gosod yn eu lle gan barau o golofnau dur unionsyth ar sylfeini pad
concrit. Lleolir y safle yn rhannol oddi fewn i Safle
Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru ynghyd a Thirwedd
Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen gyda henebion Chwarel y Penrhyn yn gyfagos. Nodwyd fod pwynt
cychwynnol y reid a prif ganolfan Zip-World gan gynnwys y maes parcio wedi ei
leoli y tu allan i ddynodiad safle Treftadaeth y Byd. Cyfeiriwyd at Polisi PS 14 y Cynllun Datblygu
Lleol (CDLl) sydd yn cefnogi cynigion i ddatblygu diwydiant twristiaeth leol a
fydd yn fwrlwm trwy gydol y flwyddyn. Adlewyrchir hyn gan polisi TWR 1 drwy
gefnogi cynigion am atyniadau neu gyfleusterau ymwelwyr newydd, neu i wella ac
ehangu safon y cyfleusterau presennol. Amlygwyd bod polisi TWR 1 yn gofyn i
gynhigion gydymffurfio â meini prawf yn ymwneud a defnyddio safle addas a
ddefnyddiwyd o'r blaen, defnyddio safle sydd â chyswllt agos ag adeiladau presennol
eraill a datblygu gweithgaredd sy'n gyfyngedig i leoliad penodol. Wrth ystyried
defnydd y safle o amgylch fel cyrchfan twristiaid poblogaidd, ynghyd a natur
ôl-ddiwydiannol y lleoliad a’r budd economaidd sy’n debygol o arwain o’r
datblygiad, ystyriwyd bod y datblygiad yn un a fyddai’n gwella ac ehangu'r
ystod o gyfleusterau sydd ar gael ar gyfer ymwelwyr mewn modd sy’n gyson gydag
egwyddorion y polisïau hyn. Adroddwyd bod safle’r bwriad wedi ei leoli o fewn dalgylch gweithgareddau'r chwarel sy'n cynnwys atyniad presennol Zip World gydag amrywiaeth o adeiladau a strwythurau wedi eu lleoli o amgylch y strwythur arfaethedig. Mynegwyd y byddai unrhyw olygfa o'r strwythur ei hun yn cael ei weld o fewn y cyd-destun hwn gyda chefnlen ddiwydiannol ei natur iddo. Ystyriwyd bod y strwythur arfaethedig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |