Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr Stephen
Churchman, Eric M. Jones, Simon Glyn a Dilwyn Lloyd |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
03.09.18 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Medi
2018, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac
ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r
cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Rhif cais: C18/0684/16/R3 - Parc Bryn Cegin, Llandygai, Bangor PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu
maes parcio newydd gan gynnwys gwaith draenio, gwaith tyrchio, arwyddion ynghyd
â golau stryd Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol (a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, ar gyfer creu maes parcio newydd, gan
gynnwys gwaith cysylltiedig, ar lain wag presennol ar Barc Bryn Cegin,
Llandygai (Llain 1). Bwriad y cynllun yw darparu cyfleusterau Parcio a Rhannu
fel rhan o gynllun ehangach i osod cyfleusterau mewn lleoliadau strategol ar
draws gogledd Cymru i liniaru’r effeithiau trafnidiaeth tebygol yn ystod cyfnod
adeiladu gorsaf bŵer Wylfa Newydd.
Bydd y safle’n darparu llefydd parcio i thua 178 car gyda 12 man parcio
ar gyfer yr anabl, 11 man gwefru ceir
trydan, mannau cadw beiciau a beiciau modur ac arosfan
bysiau. Adroddwyd y byddai’r cyfleuster yn 0.955ha o
arwynebedd wedi’i leoli ar Safle Busnes Strategol Rhanbarthol Bryn Cegin
oddeutu 1km i’r de o ffin ddatblygu Canolfan Is Ranbarthol Bangor fel y’i
diffinnir gan Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLL). Ategwyd ei fod yn rhan o safle sydd wedi
ei warchod fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol. Gwarchodir Parc Bryn Cegin fel Safle Busnes
Strategol Rhanbarth ar gyfer busnesau yn Nosbarthiadau Defnydd B1, B2 & B8
gan bolisi CYF 1 y CDLL. Dengys bod cyfiawnhad gorbwysol ar gyfer y datblygiad
ac oherwydd pwysigrwydd strategol y cynllun a’r manteision trafnidiaeth ac
economaidd a ddeilliai ohono, bod cyfiawnhad cryf dros orbwyso’r dynodiad yn yr
achos penodol hwn. Amlygwyd
bod dau bolisi penodol o fewn y CDLL oedd yn berthnasol i’r cynnig hwn - polisi
strategol PS 12 (Wylfa Newydd - cyfleusterau parcio a theithio a pharcio a
rhannu) a PS 9 (Wylfa
Newydd a Datblygiad Perthynol). Adroddwyd
bod tri eiddo preswyl Rhos Isaf yn cefnu ar y safle ac y byddai’r datblygiad
i’w weld o gefnau’r eiddo hynny. Er hynny, byddai’r safle parcio ar lefel is
na’r tai presennol a bwriad i osod sgrin goed newydd rhwng y lleoliadau. O
safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, ategwyd y byddai’r ardal parcio yn
llai newidiol na defnydd diwydiannol. Nid
oedd gan yr Uned Trafnidiaeth nac Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru unrhyw
wrthwynebiad i’r cynllun o safbwynt ei effaith ar drafnidiaeth. Amlygwyd
sylwadau hwyr a dderbynwyd gan Wasanaeth Cynllunio
Archeolegol Gwynedd ac yr ystyrir fod y bwriad yn cwrdd gyda pholisïau
perthnasol gyn belled fod amod priodol yn cael ei osod ar unrhyw ganiatâd. O ganlyniad i’r asesiadau, ni ystyriwyd fod y bwriad
yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl
a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol ar gyfer y
safle ac yn debygol o fod o bwysigrwydd strategol i’r sir. Ategwyd na ystyriwyd fod y bwriad yn debygol
o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw na’r gymuned yn
gyffredinol. Cyfeiriwyd
at sylwadau a gyflwynwyd gan yr Aelod Lleol yn nodi nad oedd ganddo
wrthwynebiad i’r cais; ei fod yn croesawu'r fenter rhannu ceir a bod angen ar y
cyfleuster yn lleol; nad oedd diddordeb wedi ei ddangos i’r safle ar gyfer
defnydd diwydiannol. (b) Cynigwyd ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Rhif cais: C18/0048/39/LL - Cwt Glan Mor 15, Traeth Abersoch, Abersoch PDF 111 KB Adeiladu cwt glan mor newydd heb gydymffurfio ac amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0537/39/L dyddiedig 3 Gorffennaf 2015 AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dewi W Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu
cwt glan môr newydd heb gydymffurfio ac amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0537/39/L dyddiedig 3 Gorffennaf 2015 (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i gadw gwaith o
ddymchwel y cwt glan môr gwreiddiol ac adeiladu cwt glan môr newydd yn ei le
heb gydymffurfio â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar y 3 Gorffennaf 2015. Saif y cwt ymysg
rhes o gytiau glan y môr eraill ar draeth Borth Fawr yn Abersoch ar safle
arfordirol o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn (AHNE),
ger Arfordir Treftadaeth ac o fewn dynodiad Ardal Rheoli Newid Arfordirol. Nodwyd bod y cais yn ymwneud â chadw
cwt glan môr sydd yn fwy na’r hyn a ganiatawyd
ac yn sylweddol fwy na’r hyn oedd yn bodoli ar y safle yn wreiddiol.
Ategwyd bod llwyfan pren yn ymestyn allan 4.9 medr i flaen y cwt, gyda lle
storio caeedig oddi tano. Tra bod y cwt a ganiatawyd yn wreiddiol yn ymestyn
i’r un uchder a’r cytiau cyfochrog, nodwyd bod crib to'r cwt a adeiladwyd yn
mesur 0.9 medr yn uwch na’r cytiau naill ochr a’r llall. Amlygwyd bod drws dur
o fath ‘roller shutter’
wedi ei osod ar y blaen yn rhoi ymddangosiad diwydiannol i’r cwt ac oherwydd ei
faint a’r cyfuniad o’i ddyluniad a gorffeniad allanol, ymdebygir y cwt i
adeilad diwydiannol yn hytrach na chwt glan môr traddodiadol. Gyda’r safle wedi ei leoli o fewn AHNE
ystyriwyd polisi AMG 1. Gan fod y cwt yn cymryd lle un blaenorol, ac ymysg rhes
o gytiau tebyg, ni ystyriwyd y byddai egwyddor cyfnewid cwt glan mor yn
effeithio’n sylweddol ar osodiad na golygfeydd arwyddocaol i mewn i’r AHNE.
Serch hynny, nodwyd bod Swyddog AHNE yn pryderu nad yw’r cwt yn unol â’r hyn a
ganiatawyd yn wreiddiol. Nid yw’r defnydd o ddrws ‘roller
shutter’ ynddo’i hun yn
rheswm digonol i gyfiawnhau gwrthod y cais presennol, a gellid gosod amod yn
gorfodi i’r llwyfan pren gael ei orchuddio gyda phren pe bai angen. Er hynny,
gyda’r ymdeimlad o naws diwydiannol i edrychiad a gorffeniad presennol yr
adeilad ystyriwyd bod y datblygiad yn ei
ffurf bresennol yn groes i bolisi AMG 1 ac egwyddorion polisi PS 19 CDLL. Amlygwyd bod trafodaethau wedi eu
cynnal gyda’r ymgeisydd ac nad oedd bwriad ganddo i gyfaddawdu. Wedi asesu’r
bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol, ac ystyried yr ymatebion a’r
sylwadau a gyflwynwyd, ystyriwyd bod y cwt glan
môr a adeiladwyd yn annerbyniol o ran maint, crynswth a dyluniad; yn anghymesur
â chymeriad ac edrychiad traddodiadol cytiau glan môr, gyda dyluniad yn
debycach i adeilad diwydiannol. Nodwyd os caniateir gadael i gytiau glan môr
mwy a mwy cael eu datblygu, bydd eu heffaith yn difetha naws a chymeriad ardal
glan môr Abersoch, a’r AHNE sydd yn ddynodiad o bwysigrwydd cenedlaethol. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod
y dyluniad wedi ei gymeradwyo. · Nad oedd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Rhif cais: C18/0599/39/LL - 4, Pen y Bont, Lon Engan, Abersoch PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Teras
to i'r ail lawr Cyflwynwyd
y cais i’r Pwyllgor Cynllunio gan yr Aelod Lleol. Roedd yn gwrthwynebu’r bwriad
gan nad oedd yn gweddu i’r ardal. Nid oedd gwrthwynebiadau eraill wedi eu
derbyn. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer addasu to cefn eiddo
preswyl er mwyn creu teras yn yr ail lawr.
Eglurwyd bod yr eiddo ynghanol teras o dai sydd yn ffurfio rhan o
ddatblygiad ehangach o dai newydd wedi eu lleoli o fewn ffin datblygu
Abersoch. Ategwyd bod llofft eisoes ar
yr ail lawr ond gyda rhes o ffenestri ar lefel llawr y llofft ac un ffenestr to
(velux). Golygai’r bwriad y byddai’n colli ychydig o
arwynebedd llawr o fewn y llofft presennol, ond byddai’r bwriad yn cynnig mwy o
olau naturiol a golygfeydd dros y pentref. O ran ei leoliad a’i faint ystyriwyd
mai yn lleol y byddai effaith y bwriad ac er bod tai annedd wedi eu lleoli
naill ochr i’r safle, ni ystyriwyd y
byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol o ran
gor-edrych neu golli preifatrwydd gan fod cefnau’r
tai yn weladwy yn barod. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt
maen prawf 7 Polisi PCYFF 2 CDLL. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. PENDERFYNWYD
caniatáu’r cais. 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Yn unol gyda’r
cynlluniau. |