Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Simon Glyn, Louise Hughes ac W Gareth Roberts (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais Cynllunio rhif C17/0412/39/LL) ·
Y Cynghorydd John Brynmor Hughes, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0494/39/LL) ·
Y Cynghorydd Eric M Jones ( oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen (cais Cynllunio rhif
C17/0567/17/LL) Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24.7.17 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Gosod mast telethrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder AELOD LLEOL:
Cynghorydd Judith M Humphreys Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan
gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig
ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r
safle. Tynnwyd sylw at ddeiseb oedd wedi ei chyflwyno oedd yn cyfeirio ar faterion
tebyg i’r hyn oedd eisoes wedi ei gyflwyno ynghyd â sylwadau ar lafar gan
Gwarchod y Cyhoedd. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor
Cynllunio 3.7.17 er mwyn i’r Aelodau ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle cyfnewidfa ffôn a
oedd yn cynnwys adeilad unllawr parhaol. Eglurwyd bod tai preswyl yr ochr
bellaf i’r ffordd gyhoeddus i gyfeiriad y gogledd, gorllewin a’r dwyrain gyda’r
canlynol gerllaw, Ysgol Gynradd Bro Lleu, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle a
Chanolfan Hamdden Plas Silyn. Nodwyd o’r wybodaeth a
gyflwynwyd mai’r bwriad oedd cyflawni amcan y Llywodraeth i ddarparu cyflenwad
signal 4G ble nad yw’n bodoli eisoes mewn ardaloedd gwledig. Mewn ymateb i’r pryderon a leisiwyd ym Mhwyllgor 3.7.17, cyflwynodd yr
ymgeisydd wybodaeth ychwanegol oedd yn cyfiawnhau lleoli'r mast ar y safle
penodol yma ac roedd y rhain wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Amlygwyd hefyd bod ‘Declaration of
Conformity with the International Commision on Non-Ionizin Radiation Protection
(ICNIRP) Public Exposure Guidelines’ wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais
gerbron, oedd yn cadarnhau fod y datblygiad wedi ei ardystio i gydymffurfio a
chanllawiau’r ‘ICNIRP’ sef canllaw cydnabyddedig ar gyfer y math yma o
ddatblygiad. Derbyniwyd gwrthwynebiad
ar sail pryder am effaith y datblygiad ar iechyd, ac yn benodol ar iechyd plant
yn y Feithrinfa, yr Ysgol Gynradd a’r Ysgol Uwchradd gerllaw ynghyd â
defnyddwyr Canolfan Hamdden Plas Silyn. Er y cydnabuwyd fod pryder wedi ei godi ynglŷn ag
effaith posib ar iechyd, ni ystyriwyd fod y bwriad yma yn groes i’r polisïau
cenedlaethol na’r CDLL ac nad oedd angen rhagor o wybodaeth i asesu effaith
posib y datblygiad. Nodwyd bod Polisi
Cynllunio Cymru yn datgan yn glir mewn perthynas â goblygiadau datblygiad
arfaethedig o’r fath i iechyd mai barn Llywodraeth Cymru yw na ddylid bod angen
i awdurdodau cynllunio lleol ystyried ymhellach unrhyw effeithiau iechyd na’r
pryderon amdanynt wrth brosesu cais am ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o
flaen llaw os yw’r datblygiad yn bodloni gofynion ICNIRP. Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Eglurwyd bod y tai preswyl agosaf rhwng oddeutu 50m a 90m i ffwrdd o safle’r cais i gyfeiriadau gwahanol a chydnabuwyd y byddai’r math yma o ddatblygiad yn anorfod yn cael rhywfaint o effaith weledol ar y tai agosaf yma, ond ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn sylweddol. Nodwyd bod nifer o strwythurau main ag uchel yn bodoli eisoes yn yr ardal, megis polion trydan a golau stryd a gyda’r strwythur yma yn un main ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C17/0412/39/LL - Llain Las, Abersoch, Pwllheli PDF 240 KB Creu safle ar gyfer carafanau teithio AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu safle
ar gyfer carafanau teithio Tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd yn cyfeirio at ddefnydd hanesyddol y safle ar gyfer 5 carafán
gan aelodau'r Clwb Carafanau. a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi mai cais
llawn ydoedd ar gyfer creu
maes carafanau
teithiol. Amlygwyd bod y safle
yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer 5 carafán dan dystysgrif
eithriedig Clwb Carafanau gyda bwriad o’i ddefnyddio fel safle ar gyfer lleoli 9
o garafanau teithiol gan ddefnyddio'r bloc toiledau presennol ynghyd a phlannu coed brodorol ar derfynau'r safle ac
ail leoli'r giât bresennol. Amlygwyd mai'r brif ystyriaeth
o safbwynt egwyddor y datblygiad oedd polisi TWR 5 y Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd oedd yn cymeradwyo cynigion i ddatblygu safleoedd
carafanau teithiol os bydd cynllun yn cydymffurfio â’r cyfan o gyfres o feini
prawf. Ni ystyriwyd bod y cynllun yn cwrdd gyda gofynion y polisi
o safbwynt ei effaith weledol ar y dirwedd. Lleolir y safle mewn cefn
gwlad agored y tu allan i
ffin ddatblygu
ac o fewn yr AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol). Oherwydd gwrych presennol, derbynnir na fyddai'r
carafanau yn weladwy iawn o’r
ffordd sirol gyfochrog, fodd bynnag, fe nodwyd
bod y safle wedi ei leoli mewn
pant yn y dirwedd ac felly byddai’r carafanau yn weladwy o diroedd
uwch, ac yn benodol o'r ffordd
sy’n arwain o’r safle tua’r
gorllewin. Derbyniwyd sylwadau ffurfiol yr Uned
AHNE yn datgan bod y safle yn amlwg
o diroedd uwch o fewn yr ardal.
Tynnwyd sylw at y cynllun a
gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos
bwriad i blannu coed a gwrychoedd
brodorol ar hyd terfynau gorllewinol
a gogleddol y safle fodd bynnag, ni
ystyriwyd y byddai'r tirlunio bwriedig yn lleihau ardrawiad
y datblygiad ar y tirlun mewn modd
digonol a fyddai’n goresgyn pryderon am amlygrwydd y safle yn y dirwedd o fewn yr AHNE. Ystyriwyd bod y cynllun yn dderbyniol dan ofynion polisi eraill, megis yr
effaith ar fwynderau trigolion, materion priffyrdd ac ystyriaethau bioamrywiaeth.
Fodd bynnag, byddai'r datblygiad
arfaethedig yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar olygfeydd
o fewn yr AHNE b)
Yn manteisio ar y cyfle i
siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod y maes carafanau presennol yn cael ei
redeg gan deulu Cymraeg, lleol ers y 50au ·
Bod y maes carafanau yn un o safon uchel ac yn agored o’r
1af o Fawrth hyd y 31 o Hydref bob blwyddyn ·
Nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn ·
Nad oedd bwriad cynyddu maint y maes - dim ond y nifer o garafanau
o 5 i 9 ·
Bod y cynnydd yn ymateb i’r
galw mewn nifer o ymholiadau ·
Bod y cynnydd yn ymateb i’r
angen (o ystyried bod nifer y carafanau teithiol sydd yn
parcio yn anghyfreithlon yn cynyddu) ·
Bod yr ymwelwyr teithiol yn cyfrannu at y gymuned leol a’r
economi leol c) Nododd yr Aelod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C17/0487/30/LL - Fferm Methlem, Rhydlios, Pwllheli PDF 263 KB Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 6 llain, tirlunio, adeiladu bloc toiledau/cawod a tanc trin AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu safle carafanau teithiol ar gyfer
6 llain, tirlunio, adeiladu bloc toiledau/cawod a thanc trin Tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd ynghyd a chais gan yr ymgeisydd
i ohirio trafod y cais. Nododd y Rheolwr Cynllunio nad
oedd rhesymau digonol dros ohirio
wedi eu cyflwyno.
O ganlyniad, ni
fyddai gohirio'r drafodaeth yn gwneud
gwahaniaeth i’r argymhelliad oherwydd bod pryderon sylfaenol o safbwynt polisi a’r effaith weledol
ar yr AHNE. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi mai cais ydoedd
i sefydlu safle carafanau teithiol i 6 uned ar gae ym Methlem,
Rhoshirwaun. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys adeiladu bloc toiledau ar gefn
gweithdy presennol, ynghyd a gosod system trin carthion
ac ymgymryd ag elfen o dirlunio i atgyfnerthu gwrychoedd presennol. Amlygwyd mai safle cefn gwlad agored ydoedd yn ffinio gyda ffordd sirol
dosbarth 3 Porth Oer, o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a
Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.
Bwriedir defnyddio mynediad cerbydol sydd eisoes yn gwasanaethu’r
gweithdy a’r iard bresennol fel mynediad i’r safle. Eglurwyd bod y safle o faint cyfyngedig a cwestiynwyd os oedd modd sicrhau
gosodiad o safon uchel. Nid oedd lle digonol i’r nifer unedau o ystyried parcio
a phebyll adlen. Nodwyd nad oedd y tirlunio presennol
yn ddigonol a chaeau agored agored tu hwnt i’r safle.
Cyfeiriwyd at y polisi sydd yn datgan na ddylai safleoedd newydd fod yn
ymwthiol i’r dirwedd. Ystyriwyd bod y safle yn amlwg yn y dirwedd fel ac y mae,
gyda’r nifer o gerbydau, peiriannau ac offer presennol o fewn yr iard yn denu
sylw a sefyll allan yn weladwy. Byddai caniatáu safle carafanau ar y safle yn
ategu at amlygrwydd y safle ac yn difrïo golygfeydd o fewn yr AHNE, sy’n
arbennig o amlwg o gyfeiriad ffordd ger Porth Oer a hefyd wrth deithio tuag at Methlem o gyfeiriad Rhydlios. Ni fyddai’r bwriad yn
cyfrannu’n gadarnhaol i dirlun ehangach yr AHNE ac felly nid yw’r bwriad yn
cwrdd â gofynion polisi AMG 1 CDLL. b)
Amlygywd bod yr Aelod Lleol
wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn gwrthwynebu y cais. c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod
y cais PENDERFYNWYD gwrthod y cais 1.
Byddai'r safle carafanau arfaethedig, oherwydd ei
leoliad, gosodiad a gwedd yn y dirwedd, yn sefyll fel nodwedd amlwg ac ymwthiol
o fewn cefn gwlad agored gan gael effaith niweidiol ar y dirwedd a mwynderau
gweledol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r bwriad felly yn groes i
bolisi AMG 1 a TWR 5 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) (fel y’i diwygiwyd gan
adroddiad yr arolygydd 30 Mehefin, 2017) a Chanllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor
Gwynedd. 2. Ni chyflwynwyd gwybodaeth ddigonol am y dull gwaredu carthion o’r safle i sicrhau na fydd y bwriad yn achosi llygredd i’r amgylchedd dyfrol ac ystyrir fod y bwriad felly yn groes i faen prawf 7 o Bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C17/0494/39/LL - 16, Lon Cernyw, Bwlchtocyn, Pwllheli PDF 245 KB Estyniad ac addasiadau mewnol AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad ac addasiadau mewnol a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi mai cais
ydoedd i wneud addasiadau i’r tŷ
presennol trwy adeiladu estyniad a chodi uchder y to er mwyn defnyddio gwagle
ar gyfer ystafelloedd ychwanegol. Nodwyd
bod bwriad adeiladu estyniad i’r talcen
a fyddai’n cynnwys modurdy ac ystafell aml bwrpas ar y llawr daear ac ystafell
wely ar y llawr cyntaf; adeiladu estyniad i flaen yr eiddo i greu estyniad to
brig croes i’r blaen a gorffen to’r datblygiad gyda llechi, y waliau allanol o rendr wedi ei beintio i gydweddu gyda’r eiddo presennol. Tynnwyd sylw bod yr
eiddo mewn ardal anheddol y tu allan i ffin ddatblygu yn ardal Bwlchtocyn o
fewn yr AHNE a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Ystyriwyd na fyddai
lleoliad y bwriad yn cael effaith niweidiol ychwanegol arwyddocaol ar fwynderau
gweledol yr ardal nac yn amharu ar yr AHNE Amlygwyd bod gwrthwynebiadau
wedi eu derbyn gan gymdogion ar sail materion megis colli golau naturiol,
effaith goleuadau allanol, dyluniad a gor-edrych.
Fodd bynnag, o ystyried maint a dyluniad y datblygiad, ni ystyriwyd y byddai
effaith y bwriad ar fwynderau eiddo cyfagos yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau
gwrthod y cais ar sail y materion hyn. Ategwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt materion megis diogelwch ffyrdd a bioamrywiaeth. b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd asiant yr
ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Bod yr ymgeisydd wedi derbyn cyngor gan
y Gwasanaeth Cynllunio ·
Bod pryderon y gwrthwynebiadau wedi eu hystyried ·
Bod bwriad rhoi gwydr gwydredig
yn y ffenestri sydd yn gor-edrych ·
Byddai estyniad yn ychwanegiad addas a phwrpasol ·
Ni fyddai yn gosod cynsail
oherwydd ei osodiad a’i berthynas
â’r tai eraill yn y stad c)
Nododd yr Aelod lleol gefnogaeth
i’r cais, gan nodi’r prif bwyntiau
canlynol: ·
Mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau bod y cynlluniau wedi eu haddasu ·
Angen sicrhau bod yr ymgeisydd yn
cadw at amod ffenestri yn y to ·
Bod y cymdogion yn hapus gyda’r
addasiadau ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. d)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Pryder y gall hyn osod cynsail i
dai eraill yn yr ardal ·
Bod addasu tai i’w gwneud yn
fwy yn mynd
allan o gyrraedd pris marchnad leol PENDERFYNWYD: Caniatáu
y cais yn ddarostyngedig i amodau 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â'r cynlluniau. 3. Llechi’r to i gydweddu. 4. Waliau allanol i fod o rendr lliw gwyn. 5. Nenoleuadau yn y to ar yr edrychiad gorllewinol (cefn) i fod o leiaf 1.8 medr yn uwch na lefel y llawr. |
|
Cais Rhif C17/0567/17/LL - Ty Newydd, Bethesda Bach, Caernarfon PDF 252 KB Cais i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd a chodi annedd newydd yn ei le AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M Jones Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i ddymchwel yr annedd bresennol
ynghyd a chodi annedd newydd yn ei le Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
gyflwynwyd (a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd a chodi annedd
newydd yn ei le, codi modurdy/sied
storio ar y safle ynghyd a gwneud newidiadau i’r fynedfa gerbydol bresennol i’r
safle ac ymestyn cwrtil presennol yr eiddo. Nodwyd bod trafodaethau anffurfiol o flaen llaw wedi
bod ynghylch a’r bwriad i ddymchwel
ac ail-godi’r tŷ; ac er mai anffurfiol
oedd y trafodaethau, ac nad yw polisïau’r
Cynllun Datblygu Unedol yn berthnasol
bellach; mae cyngor clir wedi
ei roi ar
sut i oresgyn
effaith gormesol ac effaith ar fwynderau’r
eiddo gerllaw ac mae’r egwyddorion cynllunio sylfaenol yma'r un mor berthnasol
wrth ystyried y cais yng nghyd-destun
polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ystyriwyd
felly bod y bwriad yn groes i’r meini
prawf isod o bolisi TAI 13: Tynnwyd sylw at Maen prawf rhif 4: Tu allan
i ffiniau datblygu nid oes
posib cadw’r adeilad presennol trwy ei adnewyddu
neu ei ymestyn
a/neu gellir dangos nad yw
atgyweirio’r adeilad presennol yn ymarferol
yn economaidd - bod blaenoriaeth yn cael ei roi
tuag at adnewyddu adeiladau cyn codi
tai o’r newydd; ond yr Awdurdod
Cynllunio Lleol yn derbyn fod
achlysuron ble nad yw hynny
yn bosib. I’r perwyl hyn,
nid oedd y cais gerbron yn
cynnwys unrhyw dystiolaeth nad
oedd yn bosib
atgyweirio’r adeilad presennol yn ymarferol
yn economaidd Maen prawf rhif 6: Tu
allan i Ardal
Reoli Newid Arfordirol, dylid lleoli tŷ sydd i’w adeiladu
oddi mewn i’r un ôl troed
a’r adeilad presennol oni bai y gellir dangos
bod ail leoli o fewn y cwrtil yn lleihau
ei effaith gweledol a’i effaith
ar fwynderau lleol. Er bod y tŷ bwriedig wedi ei wthio’n
ôl er mwyn
lleihau ei effaith ar yr
eiddo sydd wedi ei leoli
yn union o’i flaen; yn groes
i’r cyngor cyn cyflwyno cais
a roddwyd; nodwyd bod y tŷ bwriedig wedi ei droi
fel bod ei gefn (gydag agoriadau
mawrion a phrif ystafelloedd e.e. lolfa fawr, cegin
ac ystafelloedd gwely) yn wynebu’r eiddo
cyfochrog sydd islaw, a blaen y tŷ bwriedig gydag ystafelloedd eilradd (e.e. ystafelloedd
ymolchi, swyddfa ac ystafell newid) yn wynebu tir
amaethyddol agored. Ystyriwyd felly nad
oedd lleoliad na gosodiad y tŷ
bwriedig yn ymdrechu i leihau
ei effaith ar fwynderau lleol,
yn benodol mwynderau presennol yr eiddo gerllaw. Ystyriwyd fod uchder y bondo yn ormodol ac felly yn creu dyluniad anghymesur o ran arwynebedd y wal mewn perthynas â’r to. Golygai hyn fod y dyluniad hwn yn creu strwythur o ddyluniad sy’n anghydnaws ar fryn yn y dirwedd agored, ac sy’n arwain at effaith weledol sylweddol fwy na’r adeilad presennol. Nodwyd bod cefn y tŷ bwriedig yn cynnwys ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |