Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Carys Edwards (Aelod Lleyg) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Mynegodd y Cyng.
Paul Rowlinson fuddiant yn eitem 11 Cynnyrch Archwilio Mewnol - Atodiad 10 - Cynllun Ffoaduriaid Wcráin oherwydd ei fod
yn cynnig llety i ffoadur o Wcráin. Nododd y Swyddog Monitro nad oedd yn fuddiant
a oedd yn rhagfarnu ac felly ni fu rhaid i’r Cynghorydd adael y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR PDF 319 KB Ystyried yr adroddiad, er gwybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Nodyn:
Cofnod: a) Yn unol â chais a wnaed gan y Pwyllgor yng
nghyfarfod 08/09/22 cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae
adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael
sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad
a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi
cwblhau. b) Diolchwyd am yr adroddiad c) Yng nghyd-destun Adroddiad Blynyddol Cwynion a
Gwella Gwasaneth 2021/22, a’r awgrym i’r Cadeirydd
ail ymweld a chyfrifoldebau’r Pwyllgor o roi trosolwg ar ‘holl adrannau’r
Cyngor (gan ystyried bod y Gwasanethau Gofal ac
Addysg gyda threfn statudol eu hunain), nododd y Cadeirydd mai cyfrifoldeb
Llywodraethwyr yw adolygu cwynion ysgolion, ond bod trefn cwynion y Gwasaneth Addysg yn gyfrifoldeb i’r Pwyllgor. Ategodd y
byddai adroddiad cwynion y Gwasanethau Plant ac
Oedolion, Iechyd a Llesiant yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Gofal. Mewn ymateb, amlygodd y
Pennaeth Cyllid bod rôl statudol i’r Pwyllgor adolygu’r drefn y mae’r Cyngor yn
ei ddefnyddio i ymdopi a chwynion, a bod angen sicrwydd gan y Pwyllgor bod y
drefn yn effeithiol a hynny’n cael ei nodi yn yr adroddiad cwynion. Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad Nodyn: ·
Angen
trafod rôl statudol y Pwyllgor yng nghyd-destun trefn gwynion y Cyngor |
|
DIWEDDARIAD AR ADRODDIADAU SYDD WEDI EU CYHOEDDI YN DDIWEDDAR GAN ARCHWILIO CYMRU PDF 224 KB I ystyried a derbyn yr adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: a) Cyflwynwyd dau adroddiad ynghyd ag ymatebion y Cyngor i
ddiweddaru’r Pwyllgor ar gyhoeddiadau diweddar gan Archwilio Cymru: ·
Trefniadau ar gyfer ymateb i Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 Ymateb y Cyngor i’r Ddeddf ·
Diweddaraid ar Gynnydd Datgarboneiddio Ymateb y Cyngor i ddatgarboneiddio Croesawyd Alan Hughes ac YvonneThomas
(Swyddfa Archwilio Cymru), Iwan Evans
(Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol), Dewi Wyn Jones (Arweinydd Cefnogaeth Gweithredol) a Bethan Richardson
(Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd) i’r
cyfarfod i gyflwyno eu sylwadau / ymatebion. Yng nghyd-destun ymateb i Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, nodwyd bod Achwilio Cymru yn
edrych ar y trefniadau y mae’r Cyngor yn eu rhoi ar waith wrth ymateb i’r
Ddeddf. Cyflwynwyd asesiad o’r ymateb i’r pum maes gwaith.Trafodwyd y meysydd
gwaith yn unigol ac ymhelaethwyd ar yr hyn oedd wedi ei weithredu i sicrhau
rheolaeth a chynnydd. Yng
nghyd-destun adroddiad cynnydd Datgarboneiddio, nodwyd bod gan y Cyngor
weledigaeth glir, ond bod angen adnabod mesurau yn fuan i fesur camau datgarboneiddio i dystiolaethu
cynnydd yn y gwaith - cyfeiriwyd at ddau
argymhelliad a gynigiwyd yn dilyn yr archwiliad. Ategodd
Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod
camau mewn lle i gwrdd â gofynion yr
adolygiad. Nododd bod y Cyngor yn mesur data yn flynyddol gyda’r data yn cael
ei ddefnyddio i fesur effaith nifer o’r cynlluniau sydd wedi eu cynnwys yn y
Cynllun Argyfwng Hinsawdd Diolchwyd am yr adroddiadau Mewn ymateb i gwestwin ynglŷn a
GwyrddNi (mudiad sy’n gweithredu ar newid hinsawdd wedi ei leoli yn y gymuned
ac yn cael ei arwain gan y gymuned), cadarnhawyd bod y Cyngor yn cydweithio
gyda GwyrddNi. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chydweithio gyda phrosiectau cyfalaf, megis traphont Abermaw ac ystyried cyfleoedd posib i gynnwys datgarboneiddio yn y
prosiectau hynny, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar bolisïau mewnol
ac i sicrhau bod datgarboneiddio a materion hinsawdd yn cael eu hymgorffori fel
materion elfennol wrth ddatblygu
prosiectau. Ategodd Swyddog Archwilio Cymru y bydd datgarboneiddio yn rhan
allweddol mewn derbyn ceisiadau grant i’r dyfodol. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad ac ymateb y rheolwyr
i argymhellion ‘Trefniadau ar gyfer ymateb i Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 ·
Cyflwyno adroddiad ymhen 6 mis i
ddiweddaru’r Pwyllgor ar drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru i is-bwyllgor grymusol Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd fel bod
modd symleiddio llywodraethu ac osgoi dyblygu rhwng y ddau gorff ·
Derbyn yr adroddiad ac ymateb y
rheolwyr i argymhellion ‘Diweddariad ar Gynnydd Datgarboneiddio’ |
|
ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL PDF 115 KB I ystyried yr adroddiad a’r camau gweithredu grëwyd mewn ymateb i
argymhellion adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Nodyn:
Cofnod: a) Cyflwynywd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Atgoffwyd yr
Aelodau bod yr eitem yn un i’w ystyried fel rôl llywodraethu ac nid fel rôl
craffu gyda chais i’r Pwyllgor fod yn fodlon bod trefniadau priodol yn ei lle
er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o archwiliadau archwilio
allanol yn cael eu gwireddu. Nodwyd bod y gwaith o
ymateb i'r rhan fwyaf o gynigion gwella yn waith parhaus a bod y Grŵp
Llywodraethu sydd yn cael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr yn rhoi sylw i’r
cynigion gwella ac i’r cynnydd o’r argymhellion. Ategwyd, i’r cynigion hynny
sydd yn derbyn casgliad yn nodi ‘wedi ei gwblhau’, ni fydd yn derbyn sylw
pellach gan y Pwyllgor; Bydd diweddaraid a y rhai hynny sydd derbyn ‘ar waith’ yn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen 6 mis. Yn dilyn
sylwadau gan y Pwyllgor yng nghyfarfod mis Mehefin 2022, nodwyd bod y fformat
wedi ei addasu ynghyd a’r allwedd oedd bellach yn cynnwys tri phennawd - gwaith
paratoadol / ar waith / wedi ei gwblhau. Nodwyd bod cyfeiriad at amserlen y
gwaith hefyd wedi ei gynnwys. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhaglen weithredu glir ar gyfer y cynlluniau,
nodwyd bod pob cynllun gydag argymhellion clir a chynllun gweithredu manwl.
Ategwyd, er mai cynllun gweithredu bras
sydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, bod
adroddiadau llawn a manwl yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu perthnasol
gyda’r Pwyllgor Llywodraethu yn derbyn ymateb i sylwadau’r Pwyllgorau Craffu. Mewn
ymateb i sylw bod ‘Adroddiad Arolygu Gwasanaeth Gofal yn y
Cartref’ ‘wedi ei gwblhau’ ac os oedd y
meini prawf wedi eu cyfarch a’r mater wedi ei graffu, nodwyd bod y Gwasanaeth
dan sylw wedi derbyn archwiliad diweddar gan yr Arolygaeth Gofal ac y byddai ymateb yn cael ei baratoi erbyn
cyfarfod nesaf y Pwyllgor. Mewn ymateb
i sylw dilynol ynglŷn â’r ymadrodd ‘wedi ei gwblhau’ a’r angen am eglurhad
cryno efallai yn egluro'r sefyllfa yn llawn, amlygwyd bod ‘wedi ei gwblhau’ yn
golygu mwy nag un peth yn yr allwedd a derbyniwyd yr angen i amlygu pa un sydd yn berthnasol i’r
adroddiad. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth
bod trefniadau priodol yn eu lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sydd yn
codi o adroddiadau archwilio yn cael eu gwireddu Nodyn: ·
Bod ‘wedi ei gwblhau’ yn golygu un o ddau
beth yn yr ‘allwedd i’r casgliadau’ – angen amlygu pa un sydd yn berthnasol i
gasgliadau’r cynigion / argymhellion hynny sydd ‘wedi ei gwblhau’. |
|
I graffu’r
wybodaeth cyn i’r Cabinet ystyried cymeradwyo’r Cynllun Arbedion yn ei gyfarfod
ar Chwefror y 14eg Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodyn:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd
adroddiad y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Arweinydd y Cyngor, yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried priodoldeb y broses o
adnabod yr arbedion, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet eu hystyried cyn dod i
benderfyniad yn eu cyfarfod 14-02-23. Adroddwyd nad rôl y Pwyllgor oedd mynegi
barn ar beth ddylai maint yr arbedion fod neu rinweddau’r cynigion unigol sy’n
cael ei hargymell fel arbedion, ond yn hytrach sicrhau fod y Cabinet yn glir
o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt, fel bod y penderfyniad sydd yn
cael ei gymryd yn seiliedig ar wybodaeth gadarn. Wrth gyflwyno cefndir i’r gwaith, nodwyd, er bod
setliad gwell na’r hyn a ragwelwyd wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, bod y
swm yn annigonol i gyfarch costau a bod bwlch ariannol o £12.4m i gyrraedd
cyllideb hafal. I ganfod arbedion, cyflwynwyd 320 o gynigion gan
Adrannau’r Cyngor (gwerth oddeutu £23m). Aseswyd pob cynnig gan y Prif
Weithredwr neu gan un o'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol ac fe’u
gosodwyd mewn pedwar categori i gynorthwyo’r Aelodau i flaenoriaethu gydag ymwybyddiaeth o beth
fyddai’r lefel risg o weithredu unrhyw gynnig unigol. Ategwyd bod asesiad cyfreithiol ac
asesiad ariannol lefel uchel wedi ei gwblhau ar bob cynllun unigol i sicrhau
bod modd eu cyflawni. Wrth gyflwyno
eu cynigion, roedd yr Adrannau wedi cynnwys asesiad o effaith pob cynnig ar drigolion Gwynedd ynghyd ag ystyriaeth gychwynnol i ystyriaethau
cydraddoldeb. Dros gyfnod o dri diwrnod bu i bob Pennaeth Adran
gyflwyno eu cynigion i weithdai o Aelodau Cabinet, Cadeiryddion ac Is
Gadeiryddion Craffu ynghyd ag Arweinyddion
Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor. Drwy gydol y broses, y prif nod oedd
ceisio darganfod cynigion fyddai’n cael y lleiaf o effaith ar drigolion Gwynedd
pe byddent yn cael eu gweithredu. Canlyniad y broses oes adnabod oddeutu £6.4m
o arbedion effeithlonrwydd y gellid eu gweithredu. O ystyried bod y Cyngor yn wynebu bwlch ariannol o
£12.4m dros y ddwy flynedd nesaf, adroddwyd na fyddai’r wedd gyntaf o arbedion
(£6.4m) yn ddigonol i’w gyfarch, ac
mai’r bwriad oedd ail ymweld â gweddill y cynigion a gyflwynwyd gan yr adrannau
dros y misoedd nesaf. Ar sail rhagdybiaethau ariannol presennol, bydd angen
canfod cyfanswm o rhwng £8m ac £8.6m tuag at y bwlch ariannol o £12.4m - bydd
angen darganfod rhwng £1.6m a £2.2m o arbedion ychwanegol cyn gosod cyllideb
2024/25. Rhagwelir y byddai hyn yn gwthio’r Cyngor i diriogaeth toriadau yn
hytrach nac arbedion effeithlonrwydd sy’n cael eu hargymell yn yr adroddiad, a
nodwyd yr angen am fwy o gymorth gan y Pwyllgorau Craffu unigol i wynebu’r her
yma. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut bydd yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn dygymod o ystyried bod ganddynt orwariant
a llithriad mewn cynlluniau arbedion presennol, nodwyd bod rhai o’r cynlluniau bellach yn hanesyddol a bod angen
cynlluniau a syniadau newydd. Ategwyd bod amgylchiadau presennol yn wahanol
iawn i sefyllfa 2015 ac felly angen ystyried y sefyllfa yn realistig. Nodwyd
bod swm ar gyfer methiant i gyflawni wedi ei glustnodi. Mewn ymateb i gwestiwn bod cynlluniau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ystyried yr
adroddiad a chraffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2023/24 i’r
Cyngor llawn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant drafft o
7.0%, sy’n cyfateb i werth £14.6m mewn ariannu allanol (cyfartaledd ledled
Cymru yn 7.9%) ar gyfer 2023/24 sy’n welliant sylweddol ar y setliad dangosol a
gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2022. Er derbyn
setliad rhesymol eleni, adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau
gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2023/24 gyda’r angen i gynyddu
gwariant o £27.8m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau. Yn ogystal â chyfarch graddfa chwyddiant uwch
nag y bu ers sawl blwyddyn, bod cyfle i ymdrin â phwysau gwario ehangach gan
gynnwys mynd i’r afael â chostau parhaus sy’n deillio o’r argyfwng Covid-19, a
dileu neu ohirio cynlluniau arbedion nad yw’n ymarferol i’w gwireddu yn
2023/24. Amlygwyd
mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r wybodaeth gan sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor
yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad yn
seiliedig ar wybodaeth gadarn. Gwahoddwyd
y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i gyflwyno’r wybodaeth i fynegi ei farn a
manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r
risgiau posib a’r camau lliniaru. Amlygodd,
y ceisir penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod 14/02/23 i argymell i’r Cyngor
Llawn (2/03/23) sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu
drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor
(gyda chynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol) a sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn
2023/24. Eglurwyd
bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y
meysydd hynny; ·
Chwyddiant Cyflogau o £14.2m -
y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng nghytundeb tâl 2023/24 o 4% ar gyfer yr
holl weithlu, a hynny ar ôl ychwanegiad i adlewyrchu’r sefyllfa fod cytundeb
tâl terfynol 2022/23 wedi bod yn uwch na’r hyn oedd wedi ei gyllido amdano ·
Chwyddiant Arall o £11.1m -
swm sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod eang o newidiadau ar raddfa chwyddiant
meysydd penodol (Cartrefi Gofal Preswyl Annibynnol, Gofal Dibreswyl, Ynni,
Tanwydd, Cynnydd prisiau eraill). ·
Ardollau i gyrff perthnasol yn
cynyddu ·
Demograffi - lleihad net mewn nifer disgyblion a chynnydd
mewn plant yn derbyn gofal ·
Pwysau ar Wasanaethau o £5.75m
- argymell cymeradwyo bidiau gwerth £2.75m am adnoddau parhaol ychwanegol a
gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu
gwasanaethau. Yn ychwanegol i’r bidiau
parhaol, argymhellwyd cymeradwyo ychwanegiad i’r gyllideb Digartrefedd o £3m
sydd yn cael ei ariannu o’r Premiwm Treth Cyngor, yn unol â phenderfyniad y
Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022. Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu
herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y
Cabinet. Cyfeiriwyd at ystyriaethau eraill lle nodwyd effaith cynnydd mewn derbyniadau llog mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau â llif arian y Cyngor ynghyd a lleihad mewn cyfraniad pensiwn y cyflogwr yn sgil yr ailbrisiad teirblynyddol. Amlygwyd hefyd byddai defnyddio dull mwy darbodus i glirio dyled Gofyn Cyllido Cyfalaf mewn llai o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
STRATEGAETH GYFALAF 2023/24 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) PDF 544 KB I dderbyn gwybodaeth, ystyried unrhyw risgiau
sy’n codi o’r strategaeth cyn cyflwyno i’r Cyngor llawn ei dderbyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y
Rheolwr Buddsoddi yn rhoi trosolwg ar weithgareddau Cyfalaf a rheolaeth
trysorlys y Cyngor. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod wedi derbyn cyflwyniad gan yr
ymgynghorwyr ariannol, Arlingclose a oedd yn egluro’r
manylder tu ôl i’r strategaeth mewn modd dealladwy a chynhwysfawr. Cyfeiriwyd
at y gweithgareddau cyfalaf a thynnwyd sylw bod y Cyngor yn bwriadu gwneud
gwariant cyfalaf o £67.8miliwn yn 23/24 gyda'r prif gynlluniau wedi ei rhestru
yn yr adroddiad ynghyd a’r ffynonellau ariannu. Nodwyd mai’r adnoddau allanol
yn bennaf yw Llywodraeth Cymru ac adnoddau ein hunain yw’r cronfeydd. Daw gweddill o’r arian trwy fenthyciad fydd
yn cael ei dalu nôl dros nifer o flynyddoedd, fel arfer o adnoddau refeniw neu
o incwm gwerthiant asedau sydd yn gyson gyda gweithred y blynyddoedd blaenorol.
Golygai hyn y bydd y dangosydd - Gofyn Cyllido Cyfalaf y Cyngor, yn £177.8
miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 23/24, sef y lefel y dylai benthyg tymor
hir y cyngor aros oddi tano. Yng
nghyd-destun y Strategaeth Fenthyca, amlygwyd yn ddiweddar nad oes gofyn benthyca
tymor hir wedi bod, dim ond tymor byr ar gost isel dros ddiwedd y flwyddyn
ariannol; bydd hyn am barhau gyda dim benthyca tymor hir yn cael ei ragweld ar
gyfer gweithgareddau Cyngor Gwynedd, a bod dyled y Cyngor yn aros o dan y Gofyn
Cyllido Cyfalaf. Amlygwyd
bod Arlingclose wedi amlygu yr angen i adrodd ar y
Meincnod Ymrwymiadau yn chwarterol o hyn ymlaen. Bydd y Cyngor yn disgwyl i’w
fenthyciadau fod yn uwch na’i feincnod ymrwymiad hyd ar 2024 oherwydd bod gan y
Cyngor lefel uchel o reserfau. Ategwyd y byddai’r
sefyllfa yn cael ei fonitro yn barhaus gyda diweddariadau cyson yn cael eu
cyflwyno i’r Pwyllgor. Yng
nghyd-destun Strategaeth Buddsoddi, nodwyd mai polisi'r Cyngor yw blaenoriaethu
diogelwch a hylifedd dros gynnyrch i sicrhau bod arian ar gael i dalu am
wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd bod symiau yn cael eu cadw i sicrhau hylifedd
parhaus - ystyriwyd bod cadw hylifedd a diogelwch yn flaenoriaeth ar hyn o bryd
mewn cyfnod o doriadau a chwyddiant. Cyfeiriwyd
at y rheolaeth risg a llywodraethu ynghyd â manylder ymrwymiadau tymor hir y
Cyngor e.e., unioni diffyg y Gronfa Bensiwn, ac effaith o’r costau ariannu i’r
llif arian. Cadarnhawyd hefyd bod y wybodaeth a sgiliau perthnasol gan y
swyddogion ac mai Arlingclose fydd yn parhau i
ddarparu gwasanaeth ymgynghorwyr ariannol i’r Cyngor am y blynyddoedd nesaf. PENDERFYNWYD: ·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol ·
Cefnogi bwriad yr Aelod
Cabinet Cyllid i gyflwyno’r Strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth ar y
2il o Fawrth 2023 |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2022/23 PDF 467 KB I ystyried y
cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio Mewnol 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: a) Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr
Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun
Archwilio Mewnol 2022/23. Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd a’r amser a
dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd bod 59%%, allan o’r 46 archwiliad unigol
sydd yn y cynllun, bod 27 wedi ei ryddhau yn derfynol neu wedi cau. Diolchwyd
am yr adroddiad PENDERFYNWYD: ·
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Archwilio 2022/23 |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL PDF 686 KB Derbyn yr adroddiad, sylwebu ar y
cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r
gwasanaethau perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd, er gwybodaeth,
adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol
am y cyfnod o 1 Mai 2022 hyd 25 Ionawr 2023. Amlygwyd bod 24 o archwiliadau’r
cynllun wedi eu cwblhau ac wedi ei gosod
ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig. Cyfeiriwyd
at bob archwiliad yn ei dro. b)
Materion yn codi o’r
drafodaeth ddilynol: Archwiliad Diogelwch Tacsi ·
Pryder na welwyd tystiolaeth
ddisgwyliedig wrth brosesu ceisiadau trwydded tacsi (dogfennau cofrestru,
tystysgrifau MOT a dogfennau yswiriant ar goll) ·
Angen sicrhau bod gan yr Adran
Trwyddedu gamau gweithredu dilys i ymateb i’r pryderon ac i osgoi dilyniant o
gamgymeriadau yn 2023/24 Mewn ymateb, nodwyd mai prinder staff oedd un o’r rhesymau dros lithriad
yn safon y gwaith a bod staff ar secondiadau i’r Adran yn ddibrofiad. Ategwyd
bod pob ymdrech wedi ei wneud i wella’r sefyllfa. Mewn ymateb i gwestiwn os yw’r trefniadau yn berthnasol i dacsi dwr a
fferi, nodwyd bod modd cynnwys hyn yng nghynllun 2023/34 Archwiliad Dyletswyddau
Economaidd Cymdeithasol 2021 Mewn ymateb i gwestiwn lle heriwyd os mai ‘digonol’ yw casgliad cywir yr
archwiliad o ystyried bod angen i asesiadau effaith gael eu cefnogi gan ddata
er mwyn cyfiawnhau'r datganiadau, nodwyd mai un rhan o ffurflen asesiad
terfynol oedd dan sylw yma yn ymateb i’r dyletswydd o annog gwell prosesau o
wneud penderfyniadau strategol ac i’r Awdurdod ystyried anghydraddoldeb sy’n
deillio o anfantais economaidd. Mewn
ymateb i gwestiwn ategol os yw casglu barn a phrofiadau yn cael eu hystyried
fesul grŵp neu ardal, nodwyd bod barn yn cael ei gasglu fesul unigolyn neu
grŵp ond bod gwybodaeth ddaearyddol ar gael i’w ystyried. Ategwyd bod gofynion am brofiadau i weld yn
goroesi’r angen am ddata erbyn hyn. Archwiliad Cartrefi Gofal Plas Gwilym, Hafod Mawddach a Bryn Blodau ·
Pryder bod patrwm i’r pryderon
yn y Cartrefi Gofal ·
A oes ystyriaeth i gwynion
perthnasol i’r gwasanaeth yma wedi eu hystyried? Er bod archwiliad cwynion
corfforaethol wedi ei gwblhau a oes modd adeiladu’r darganfyddiadau i’r
Archwiliad? Awgrym i edrych ar ddigwyddiadau penodol, cwynion , materion yn
codi fel rhan o’r fethodoleg i’r dyfodol - bod modd defnyddio ffynonellau
eraill o wybodaeth megis adroddiadau’r Ombwdsman. ·
Bod canfyddiad yr archwiliad
yn rhy ffafriol o ystyried patrwm hanesyddol i’r camau rheoli ·
Bod diwylliant yn y maes, nad
yw’n gyfyngedig i’r tri cartref dan sylw, o dorri corneli ac anwybyddu
gweithdrefnau - angen gweithredu a chyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Craffu Gofal c) Diolchwyd am yr adroddiad ·
Cefnogi gweithrediadau
sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol ·
Cais am ddiweddariad o
Archwiliad Diogelwch Tacsis (lefel sicrwydd cyfyngedig) ·
Bod angen cyfeirio’r
mater o ddiffyg gweithredu gweithdrefnau rheolaethol mewn Cartrefi Gofal i’r Pwyllgor
Craffu Gofal |