Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Cynghorwyr
Dafydd Meurig, Arwyn Herald Roberts, Meryl Roberts ac Eifion Jones. Roedd y Cyng Wendy Cleaver yn cael
problemau technegol ac wedi methu ymuno. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Pryder am gostau
petai Cyngor Gwynedd yn apelio dyfarniad Cyfarwyddyd Erthygl 4 yr Uchel Lys a
sut fydd y Cyngor yn paratoi ymateb / cyfarch y goblygiadau o ddefnyddio arian
trethdalwyr i gyfarch y gost. Mewn ymateb i’r
pryder, nododd y Pennaeth Cyllid, er yn fater brys, bod y gwasanaeth angen
cyfle i baratoi ymateb ffurfiol. Nododd bod y Cyngor yn ystyried apêl yn erbyn
y dyfarniad a bod cost yr apêl yn rhan o’r ystyriaethau hynny. Ategodd y bydd
diweddariad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol agos a bod y risg yma
yn un priodol i’r Pwyllgor ei ystyried. |
|
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg o Fedi 2025 fel rhai cywir |
|
|
GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i
benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau
gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn
rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r
eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau. Tynnwyd sylw at y
wybodaeth gefndirol am Gronfa Ymddiriedolaeth FMG Morgan oedd wedi ei gynnwys
yn dilyn cais gan y Pwyllgor yng nghyfarfod Medi 2025. Nodwyd bod arddull y
wybodaeth wedi ei gyflwyno fel mae’n ymddangos yn nogfennau llywodraethu’r
pedair elusen ar wefan Comisiwn Elusennau. Diolchwyd am yr
adroddiad PENDERFYNWYD ·
Derbyn cynnwys yr adroddiad Nodyn: Cais i
gynnwys yr enw llawn / teitlau yn hytrach na defnyddio acronym |
|
|
CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a chraffu’r penderfyniadau’r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid mewn
ymateb i’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor. Pwrpas y cynllun yw gosod
allan y rhagolygon am sefyllfa’r Cyngor dros y tair blynedd ariannol nesaf gan
gynnig rhagdybiaethau yn ogystal â chynigion i fynd i’r afael â’r bwlch
ariannol mae’r Cyngor yn ei wynebu. Eglurwyd bod y ddogfen yn un byw sydd yn
cael ei diweddaru yn gyson fel daw gwybodaeth i law ac i’r rhagolygon neu
dybiaethau ariannu cenedlaethol a lleol newid. Bydd unrhyw ddiweddariadau yn cael
eu cyflwyno i’r Cabinet. Eglurodd y Pennaeth Cyllid nad yw canfod toriadau ar
gyllideb a gwasanaethau’r Cyngor yn broses newydd gan fod toriadau bellach yn
cael eu cyflwyno yn flynyddol. Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i gynnal
gwasanaethau er lleihad yng nghyllidebau adrannau ond un rhan o’r gwaith yw
adnabod y bwlch ariannol sydd dros y tair blynedd nesaf yn £40 miliwn a gwaith
bellach yn mynd rhagddo i ymdrechu i lenwi’r bwlch drwy gynllun ffeithiol.
Pwysleisiwyd bod y rhagdybiaethau yn seiliedig ar sail gwybodaeth y blynyddoedd
diwethaf ac y bydd pwysau i wario llai, edrych ar gynyddu incwm a gweithredu
cynlluniau arbedion. Yng nghyd-destun y setliad, nodwyd bod diffyg eglurder o
gyfeiriad y llywodraeth yn golygu fod
cynllunio ymlaen llaw yn anodd ar gyfer 2026/27 o ganlyniad i negeseuon cymysg
bod ychwanegiad i gyllideb y sector gyhoeddus gan Lywodraeth San Steffan ond
daw rhybudd na all Llywodraeth yng Nghaerdydd gynyddu gwariant cyhoeddus o dan
yr amgylchiadau economaidd presennol. Cyfeiriwyd hefyd at y posibilrwydd y bydd
Llywodraeth Cymru yn gosod ‘rollover budget’ ar gyfer 2026/27, sef parhau gyda chyllideb eleni
gydag ychwanegiad bychan tuag at chwyddiant yn unig. Amcangyfrifwyd y byddai’r
ychwanegiad cyfartalog o ddeutu 1.5% i Wynedd o dan y fformiwla dyrannu. Bydd
disgwyliad eglurder ar lefel setliad Gwynedd erbyn Tachwedd 2025. Materion i’w hystyried: -
Bydd chwyddiant tal blynyddol i athrawon yn 4%
yn 2026/27 a 3.4% i staff eraill – rhain yn gyflogau sydd yn cael eu cytuno’n
genedlaethol ac mae rheidrwydd i ariannu’r cynnydd blynyddol -
Bydd cynnydd mewn ardollau -
Bod cynnydd yn nifer eiddo talu treth, ond dim
ffigwr wedi ei gynnwys -
Rhagweld gostyngiad i’r gyfradd pensiwn yn dilyn
ailbrisiad. Y gronfa bensiwn mewn sefyllfa iach ac felly cyfle i ostwng
cyfraniadau - rhagweld arbediad yma o £3 miliwn. -
Bydd pob Adran i gyflwyno achos busnes ar gyfer
arian ychwanegol gyda rhesymeg dros yr angen amdano. Bydd pob bid yn cael ei
ddadansoddi mewn manylder gyda’r gronfa ar gyfer hyn wedi ei leihau o £8 miliwn
i £5 miliwn. Er bod amser ymateb i’r sefyllfa yn brin (o dderbyn y
setliad i osod cyllideb gytbwys), cadarnhawyd y gobeithir cyflwyno amrywiol
opsiynau ar gamau nesaf i’r dyfodol. Ategodd yr Uwch Swyddog Gweithredol bod canfod arbedion heb effaith bellach yn anodd a gydag ansicrwydd yn y meysydd gofal, anghenion dysgu ychwanegol a digartrefedd, nad oedd angen brysio i wneud toriadau. Adroddwyd y byddai sesiynau briffio yn cael eu trefnu yn rhoi diweddariadau ar y sefyllfa ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION I ystyried yr adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r
pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg
Arbedion, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet (11-11-2025) a sylwebu fel bo
angen. Nodwyd bod yr adroddiad yn amlygu’r sefyllfa hyd ddiwedd Awst 2025. Amlygwyd, yn adroddiad Cyllideb 2025/26 i’r Cyngor Llawn ar
6 Mawrth 2025, adroddwyd fod arbedion gwerth £3.5 miliwn wedi eu proffilio ar
gyfer cyllideb 2025/26 sydd yn gyfuniad o werth £100k wedi eu cymeradwyo o’r
newydd yn 2025 a £3.4 miliwn oedd wedi eu cymeradwyo mewn blynyddoedd
blaenorol. Adroddwyd, dros y blynyddoedd diwethaf, ac fel sydd wedi ei
adrodd i’r Pwyllgor yn gyson, gwelwyd trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai
meysydd. Tynnwyd sylw at yr arbedion newydd ynghyd a’r arbedion oedd wedi eu
cymeradwyo cyn hynny, megis cynlluniau arbedion hanesyddol am y cyfnod o’r
flwyddyn ariannol 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2025/26 gyda 98% o’r
arbedion hanesyddol wedi eu gwireddu sef £33.8 miliwn o’r £34.3 miliwn o
arbedion, bellach wedi eu gwireddu. Yng nghyd-destun cynlluniau sydd yn parhau
heb eu gwireddu mae’r gwerth yn £627 o filoedd, gyda’r mwyafrif ohonynt yn yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Yng nghyd-destun cynlluniau arbedion newydd gwerth £15.6 miliwn, adroddwyd bod 77% o’r
arbedion eisoes wedi eu gwireddu gyda 4% pellach ar drac i gyflawni’n amserol.
Er hynny, nodwyd bod risgiau i wireddu’r arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd,
megis yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad diweddar gan y Prif Weithredwr
o gynlluniau arbedion, daethpwyd i’r canlyniad fod angen: ·
dileu un cynllun arbedion yn y maes Cyswllt
Cwsmer ar gyfer adolygu oriau agor Siop Gwynedd yn y tair prif swyddfa, sydd
werth £25k ·
lleihau'r targed incwm o £100k i £20k ar sail
dros dro ar gynllun Neuadd Dwyfor gan yr Adran Economi a Chymuned am gyfnod o
ddwy flynedd er mwyn rhoi amser i adnabod cyfleoedd i weithredu. Awgrymwyd y
bydd yr arbediad yn cael ei ddileu gan ddefnyddio’r ddarpariaeth arbedion a
osodwyd o’r neilltu yn y gyllideb gorfforaethol. Wrth grynhoi’r darlun, adroddwyd bod £46 miliwn o arbedion
wedi eu gwireddu (92% o’r £50 miliwn gofynnol dros y cyfnod) ac fe ragwelir y
bydd 1.3% pellach yn cael ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol (er bydd
oediad a rhai risgiau i gyflawni'r cynlluniau sydd yn weddill). Diolchwyd am yr adroddiad Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol: -
Beth yw'r rhesymeg o leihau targed incwm Neuadd
Dwyfor? -
Rhaid bod yn wyliadwrus o’r argymhellion yn y
maes Gofal - os na ellir gwireddu’r arbedion rhaid diddymu neu ail adolygu. -
Bod adrannau bellach yn crafu am lefydd i dorri
ac ymrwymiadau cyfreithiol, statudol, sydd angen eu cyflawni, yn cynyddu -
Bod darparu gwasanaethau a chadw’r balans
ariannol yn frwydr parhaus -
Bod y maes Gofal angen mwy o gyllid ac nid
gorfod wynebu mwy o arbedion; y galw am wasanaethau a’r galw statudol yn
cynyddu. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad ·
Nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau
arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol |
|
|
ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL I sicrhau bod y camau gweithredu grëwyd mewn ymateb i argymhellion
adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad Nodyn: Derbyn adroddiad
cynnydd o’r Archwiliad ‘Llif allan o’r Ysbyty’ , Gwanwyn 2026 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth
Cefnogi Busnes y Cyngor. Atgoffwyd yr Aelodau bod yr eitem yn un i’w ystyried
fel rôl llywodraethu ac nid fel rôl craffu gyda chais i’r Pwyllgor fod yn
fodlon bod trefniadau priodol yn ei lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella
sydd yn codi o archwiliadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu. Nodwyd bod y gwaith o ymateb i'r rhan fwyaf o
gynigion gwella yn waith parhaus a bod y Grŵp Llywodraethu sydd yn cael ei
gadeirio gan y Prif Weithredwr yn rhoi sylw i’r cynigion gwella ac i’r cynnydd
o’r argymhellion. Ategwyd, i’r cynigion hynny sydd yn derbyn casgliad yn nodi
‘wedi ei gwblhau’, wedi ei rannu yn ddau er mwyn adlewyrchu os yw’r
argymhellion wedi eu gwireddu neu os ydynt yn waith parhaus ar gyfer yr adran.
Adroddwyd bod yr adroddiad hefyd yn gryno o gymharu ag adroddiadau blaenorol a
hynny oherwydd bod nifer wedi eu cwblhau ac felly wedi eu dileu, a bod
cyflwyniad ffurflen ymateb sefydliadol ffurfiol i archwiliadau, sy’n gosod
amserlen bendant, wedi hwyluso’r broses. Cyfeiriwyd at gam ychwanegol sydd yn
cael ei gyflwyno, lle bydd y broses Herio a Chefnogi Perfformiad yn gwirio bod
adrannau yn gweithredu ar yr hyn a argymhellwyd yn yr ymateb sefydliadol. Tynnwyd sylw at archwiliad ‘Gofal Brys ac
Argyfwng: Llif allan o’r Ysbyty’ gan nodi bod y Pwyllgor i dderbyn ‘diweddariad
pan yn amserol’. Amlygwyd bod y Bwrdd Rhanbarthol wedi derbyn adroddiad cynnydd
yn ystod Gwanwyn 2025 ac yn dilyn hynny gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad
cynnydd arall ‘ymhen deuddeg mis’. Cynigiwyd opsiwn o rannu’r adroddiad cynnydd
gwreiddiol neu oedi hyd Gwanwyn 2026 i dderbyn adroddiad cynnydd mwy diweddar. Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad Nodyn: Derbyn adroddiad cynnydd o’r Archwiliad ‘Llif
allan o’r Ysbyty’ , Gwanwyn 2026 |
|
|
DIWEDDARIAD CHWARTEROL RHEOLAETH TRYSORLYS I dderbyn a nodi’r wybodaeth. Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2025/26 hyd 30
Mehefin 2025, yn erbyn Strategaeth Rheolaeth Trysorlys 2025/26 a gymeradwywyd
gan y Cyngor Llawn Mawrth 2025. Nodwyd, yn unol â gofynion y strategaeth bod
gofyn i’r Rheolwr Buddsoddi adrodd ar ddangosyddion darbodus rheoli’r trysorlys
yn chwarterol. Adroddwyd bod y cyfnod wedi bod yn un prysur
a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor ac ni wnaeth
unrhyw sefydliad wnaeth y Cyngor fuddsoddi arian gyda methu â thalu nôl ac mae
incwm llog rheolaidd yn cael ei dderbyn Ar 30 Mehefin 2025, roedd y Cyngor mewn
sefyllfa gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd y lefel uchel o
fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian y Gronfa
Bensiwn. Nodwyd nad oedd unrhyw symud sylweddol wedi bod yn lefel y
benthyciadau yn y 3 mis dan sylw; y Cyngor yn parhau gyda’r strategaeth o
ddefnyddio adnoddau mewnol cyn benthyca’n allanol. Adroddwyd er hynny, bod y
Cyngor wedi talu’n ôl fenthyciad hanesyddol o £16.2 miliwn ac o ganlyniad yn
dod ag arbedion cadarnhaol i’r Cyngor. Yng nghyd-destun gweithgareddau
buddsoddi, ategwyd bod y Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn Banciau a
Chymdeithasau Adeiladu, Awdurdodau Lleol, Cronfeydd Marchnad Arian, Swyddfa
Rheoli Dyledion a Chronfeydd wedi’i pwlio, a rhain yn
gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi ei wneud gan y Cyngor ers
nifer o flynyddoedd bellach. Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a
dangosyddion, adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn
gyda chod ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cyngor - hynny yn
newyddion da, ac yn amlygu rheolaeth gadarn dros yr arian. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i sylw pam yr angen i fenthyca os
oes arian digonol yn y reserfau, nodwyd bod y
benthyciadau hyn yn rhai hanesyddol ac nad oedd y Cyngor wedi benthyca ers 20
mlynedd. Nodwyd bod cymal cosb y
cytundebau benthyg yn golygu eu bod fel arfer yn rhy gostus i’w terfynu’n
gynnar, ond bod cyfle wedi codi i ad-dalu benthyciad o £16.2 miliwn yn dilyn
ail broffilio a thrafodaethau gydag Arlingclose. Mae’r cyfle i ad-dalu’r benthyciad yma yn
gynnar yn un o werth.” PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth |
|
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL I nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn
erbyn cynllun archwilio 2025/26, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn yr adroddiad ·
Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi
eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol Nodyn: ·
Cais i ail ystyried gwell telerau ar
gyfer denu mwy o weithwyr i’r maes Gofal ·
Creu llwybr cyfathrebu ac ystyried modd
o rannu canfyddiadau archwiliadau mewnol mewn Cartrefi Gofal gydag Arolygaeth
Gofal Cymru Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio
yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 12 Mai 2025 hyd
28 Medi 2025. Amlygwyd bod 3 o archwiliadau cynllun gweithredol 2024-25 wedi eu
cwblhau a 6 o archwiliadau cynllun gweithredol 2025-26 wedi eu cwblhau ac
wedi ei gosod ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig. Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro. Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol: Clybiau brecwast ·
aelodau staff (yn ystod yr ymweliadau) heb
gwblhau hyfforddiant Tân nac unrhyw un o fodiwlau e-ddysgu mandadol y Cyngor –
hyn yn fater sylfaenol ·
polisi alergedd, canllawiau mewn perthynas â
darparu offer piws i bob plentyn sydd gydag alergedd Plas Hedd / Plas y Don ·
Staff Gofal wedi gorfod gweithio shifftiau yn y
gegin er mwyn sicrhau fod preswylwyr yn cael eu bwydo ·
Nad oedd modd cadarnhau sawl aelod staff sydd
wedi darllen y Polisi Diogelu na wedi cwblhau modiwlau E-ddysgu mandadol - hyn
yn fater sylfaenol, er derbyn diffyg adnoddau, oes cysondeb yn yr un cartrefi,
oes gwelliant o flwyddyn i flwyddyn? Gall hyfforddiant arbed y risg o
ddamweiniau a chostau apêl! ·
Bod yr un Cartrefi Gofal yn torri rheoliadau yn
gyson – hyn yn bryder mawr Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd bod cael gweithwyr maes i
gwblhau modiwlau hyfforddiant mandadol yn broblem drwy’r Cyngor a bod y Panel
Diogelu a’r Grŵp Gweithredol Diogelu yn ymwybodol o’r broblem ac yn ceisio
codi ymwybyddiaeth drwy’r Cyngor i geisio datrys modd o sicrhau bod y gweithwyr
yn cael at y wybodaeth. Amlygwyd bod côd QR yn cael i
dreialu fel un dull o gael gweithwyr i gwblhau modiwlau ar eu ffonau symudol a
bod gwaith yn cael ei wneud i annog hyfforddiant wyneb yn wyneb yn hytrach na
chwblhau modiwl ar lein. Yng nghyd-destun bod staff heb gymhwyster yn gweithio mewn
ceginau yn bryder, nodwyd bod recriwtio staff yn parhau yn broblem o fewn y
maes gofal ac yn derbyn nad oedd y sefyllfa yn ddelfrydol. Ategwyd bod y
Gweithgor Gwella Rheolaethol wedi cynnal archwiliad gyda rheolwyr rhai o’r
Cartrefi Gofal a bod gwelliannau wedi eu cynnig. Nodwyd bod yr archwiliadau yn
cael eu cynnal mewn cylch tair blynedd a bod tri o’r cartrefi wedi derbyn
archwiliad dilynol gyda bwriad yntau cyflwyno adroddiad dilyniant i’r Pwyllgor
neu i’r Gweithgor Gwella Rheolaethol drafod materion penodol mewn manylder
gyda’r Rheolwyr cyn adrodd i’r Pwyllgor. Mewn ymateb i gwestiwn os yw Archwilio Mewnol yn rhannu eu
canfyddiadau gydag Arolygaeth Gofal Cymru ac os oes llwybr cyfathrebu clir
gyda’r Arolygaeth, nodwyd bod Archwilio Mewnol yn edrych ar adroddiadau’r
Arolygaeth i gartrefi i weld os oes camau gweithredu wedi eu cynnwys a
thystiolaeth o welliant, ond nad oedd Archwilio Mewnol yn rhannu canlyniadau eu
harchwiliadau gyda’r Arolygaeth. Ategwyd bod modd ystyried hyn a chanfod llwybr
cyfathrebu clir i rannu canfyddiadau. Nododd y Cadeirydd bod Rheolwyr y Cartrefi Gofal wedi mynegi yn y Gweithgor Gwella Rheolaethol bod addasiadau mewn telerau gwaith wedi arwain at broblemau staffio a recriwtio. Awgrymwyd y dylid ail edrych ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2025/26 I nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn
erbyn cynllun archwilio 2025/26, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad. Penderfyniad: Derbyn cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio 2025/26 Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa
gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2025/26.
Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd a’r
amser a dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd bod 13.33%, allan o’r 45 archwiliad unigol sydd yn
y cynllun diwygiedig, bod 6
wedi ei ryddhau
yn derfynol / cwblhau, neu wedi cau. Tynnwyd sylw at sesiwn hyfforddiant ‘Safonau Archwilio Mewnol Byd Eang’,
(Ionawr 2026) sydd wedi ei drefnu ar gyfer aelodau’r Pwyllgor fel cyfle iddynt
drafod agweddau gwaith a rôl y Pwyllgor. Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi mai tîm bychan iawn oedd yma i
gyfarch ystod eang o feysydd. PENDERFYNWYD Derbyn cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio
2025/26 |
|
|
RHAGLEN GYFALAF 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2025 I dderbyn y wybodaeth, ystyried y
risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau i’r Cabinet Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad a chytuno ar yr argymhellion i’r
Cabinet eu hystyried Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn amlygu
rhaglen gyfalaf (sefyllfa diwedd Awst 2025) ynghyd a chymeradwyo’r ffynonellau
ariannu perthnasol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth a
chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet 11 Tachwedd 2025. Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen
gyfalaf £152.9 miliwn am y 3 blynedd 2025/26 - 2027/28 ynghyd a’r ffynonellau
sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £47.9 miliwn ers y
gyllideb wreiddiol, gyda £36.9 miliwn ohono yn deillio o ail broffilio ar
ddiwedd y flwyddyn flaenorol. Ategwyd, ·
Bod cynlluniau pendant mewn lle i
fuddsoddi £100.7 miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £47.4 miliwn
(47%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol. ·
Bod £12.4 miliwn ychwanegol o wariant
arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28. ·
bod y prif gynlluniau sydd wedi
llithro ers y gyllideb wreiddiol yn cynnwys £4.5 miliwn Cynlluniau Ysgolion
(Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill), £3.5 miliwn Cynlluniau Cronfa Ffyniant
Bro, £1.2 miliwm Darpariaeth Cydariannu Prosiectau Gofal, £1.0 miliwn
Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol a £1.0 miliwn Cynlluniau
Grantiau ac Eraill Tai Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor
wedi llwyddo eu denu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys, £2.9 miliwn – Grantiau o'r
Gronfa Trafnidiaeth Lleol (LTF) a'r Gronfa Teithio Llesol (ATF) gan Lywodraeth
Cymru ar gyfer nifer o wahanol gynlluniau, £2.0 miliwn – Grant Ynni Cymru – gan
Lywodraeth Cymru tuag at fatris trydanol a gwaith ym Mhlas Ogwen, £1.8 miliwn –
Grant Cronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – telir swm i
Gyngor Gwynedd i’w ddosrannu ar draws siroedd gogledd Cymru, £1.4 miliwn –
Grant Cyfalaf Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru
a £0.8 miliwn – Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyfeiriwyd at y wybodaeth am Ddangosyddion Darbodus
Cyfalaf y Cyngor gan amlygu, yn unol â’r Côd Darbodus
gan CIPFA, bod rhaid adrodd ar y wybodaeth - ategwyd bod y Cyngor wedi
cydymffurfio yn llawn gyda pholisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a chytuno ar yr argymhellion i’r
Cabinet eu hystyried |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL AC HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD 2024/25 I ystyried cynnwys y ddogfen drafft ar gyfer 2024/25 gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn
yr adroddiad drafft Nodyn: ·
I ystyried effaith gostyngiad mewn
niferoedd pobl ifanc a chynnydd ym mhoblogaeth hŷn y Sir ar wasanaethau’r
Cyngor ·
Cyfeirio at waith sydd yn cael ei wneud i
gynyddu ymatebion arolwg staff ·
Cynnwys esiamplau a thystiolaeth i roi
sylwedd i rai brawddegau yn yr adroddiad Cofnod: Croesawyd y Cyng. Nia Jeffreys ( Arweinydd y
Cyngor) a Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod. Cyflwynwyd drafft o Adroddiad Perfformiad
Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2024/25 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor
gan ofyn iddynt gynnig sylwadau ac argymhellion ar gynnwys yr adroddiad.
Adroddwyd bod yr Hunanasesiad yn ofyn statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 sydd hefyd yn nodi bod angen cynnwys y Pwyllgor yn y
broses hunanasesu. Atgoffwyd yr aelodau bod eu sylwadau a’u
hargymhellion ar y materion drafft o gyfarfod mis Mai 2025 wedi eu hymgorffori
yn yr Hunanasesiad ac y byddai unrhyw sylwadau pellach yn yr un modd yn cael eu
cynnwys gyda disgwyliad i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn eu hystyried. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol: ·
Bod cynnydd o 1% yn nifer y boblogaeth o oedran gweithio
a chynnydd yn nifer bobl 65 oed a throsodd yn y Sir yn awgrymu goblygiadau mawr
i’r gwasanaeth gofal ac iechyd i’r dyfodol. A oes astudiaethau neu ymchwil wedi
ei wneud i edrych ar yr effeithiau hyn? ·
Bod Cynllun Economi
Ymwelwyr Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 wedi ei gyhoeddi, ond beth yw allbwn y cynllun hwnnw? ·
Bod cyfeiriad at
gyflwyno Erthygl 4, ond a oes angen ychwanegu sylw at y sefyllfa bresennol? ·
Holiadur Lles Staff /
Arolwg Staff – angen ceisio cyrraedd at holl weithwyr y Cyngor i gael gwell
ymateb. ·
Yn wahanol i adroddiadau
eraill sydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor, bod yr adroddiad yn un o ddyhead
yn hytrach na datganiad o ffaith. Y ddogfen yn hunan-hyrwyddol - angen
adlewyrchiad mwy realistig, ffeithiol a defnyddiol ac awgrym i gynnwys esiamplau
a thystiolaeth i roi sylwedd i rai brawddegau yn yr adroddiad ·
Cynllun Penrhos - angen
hyrwyddo datblygiad gwasanaethau gofal ym Mhenrhos ac
nid tai yn unig ·
Strategaeth Llifogydd -
croesawu ystyriaeth i’r brif ffordd A499 Mewn ymateb i’r sylw bod yr adroddiad efallai
yn hunan-hyrwyddo a bod angen bod yn fwy ‘gonest’, nodwyd bod yr adroddiad yn
amlygu cryfderau, ond bod gwendidau a
risgiau hefyd wedi eu cynnwys. Derbyniwyd yr awgrym i gynnwys enghreifftiau a
thystiolaeth i gryfhau rhai elfennau o’r adroddiad. Yng nghyd-destun y cynnydd
ym mhoblogaeth hŷn y Sir a gostyngiad yn niferoedd pobl ifanc, nodwyd bod
y Prosiect Llechen Lân wedi edrych ar hyn a bod cyfeiriad at y gwaith hwnnw yn
yr adroddiad eisoes. Mae’r Prosiect hefyd yn cynnwys cynlluniau er mwyn ceisio
ymateb i’r sefyllfa. Diolchodd yr Arweinydd i’r Pwyllgor ac i’r
swyddogion am eu gwaith, sydd yn cynnwys ystod eang o bynciau. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad drafft Nodyn: ·
I ystyried effaith gostyngiad
mewn niferoedd pobl ifanc a chynnydd ym mhoblogaeth hŷn y Sir ar
wasanaethau’r Cyngor ·
Cyfeirio at waith sydd
yn cael ei wneud i gynyddu ymatebion arolwg staff ·
Cynnwys esiamplau a
thystiolaeth i roi sylwedd i rai brawddegau yn yr adroddiad |
|
|
BLAENRAGLEN Y PWYLLGOR I ystyried y flaen raglen Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Tachwedd 2025 – Hydref 2026 ·
Cais am ddiweddariad o waith yn Adran Gyllid
ar lunio polisi eithriadau i'r premiwm ar y dreth gyngor yn achos busnesau
llety hunan ddarpar sy'n methu cyrraedd y trothwy gosod 182 diwrnod. Nodyn: Dileu
eitem Argymhellion a Chynigion Gwella Adroddiadau Archwilio Allanol mis
Tachwedd gan ei fod wedi ei drafod Hydref 2025 Cofnod: Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer
cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Medi 2026. Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag ystyried
ychwanegu eitemau i’r blaen raglen, nodwyd bod y Cadeirydd yn cynnal
trafodaethau gyda’r Pennaeth Cyllid i drafod y blaen raglen gan sicrhau nad
yw’r eitemau yn gorgyffwrdd ag eitemau Pwyllgorau Craffu'r Cyngor. Ategwyd bod
nifer o’r eitemau yn rhai cylchol a statudol, ond bod lle i ystyried mwy o
eitemau os ydynt yn briodol i waith y Pwyllgor. Gwnaed cynnig i dderbyn diweddariad ar waith
polisi eithrio premiwm. PENDERFYNWYD: ·
Derbyn y rhaglen waith
ar gyfer Tachwedd 2025 – Hydref 2026 ·
Cais am ddiweddariad o
waith yn Adran Gyllid ar lunio polisi eithriadau i'r premiwm ar y dreth gyngor
yn achos busnesau llety hunan ddarpar sy'n methu cyrraedd y trothwy gosod 182
diwrnod. Nodyn: Dileu eitem Argymhellion a Chynigion Gwella
Adroddiadau Archwilio Allanol mis Tachwedd gan ei fod wedi ei drafod Hydref
2025 |