Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2021 / 2022 Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd John
Pughe Roberts yn Gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2021 - 22 Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd John Pughe Roberts yn Gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2021 - 22 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/2022. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Medwyn Hughes yn Is Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2021 -
22 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Medwyn Hughes yn Is
Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2021 -22 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Peredur Jenkins. Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd a gollodd ei wraig yn ddiweddar. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 11 Chwefror 2021 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021 fel rhai cywir. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU ( CYMRU) 2021 PDF 248 KB I gymeradwyo y Rhaglen Waith a gofyn am ddiweddariad i
gyfarfod y Pwyllgor yn Hydref 2021 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo'r Rhaglen Waith Cais am ddiweddariad i
gyfarfod y Pwyllgor Hydref 2021 COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro yn ceisio cymeradwyaeth
y Pwyllgor i raglen waith drafft
mewn ymateb i Ddeddfwriaeth sy’n cyflwyno newidiadau
a grymoedd llywodraethiant Llywodraeth Leol yng Nghymru. Atgoffwyd
yr Aelodau bod y Cyngor Llawn
(Mawrth 4ydd 2021) wedi penderfynu mai’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu fyddai’n cadw trosolwg o’r
gwaith sy’n ymateb i ddarpariaethau
a gofynion y Ddeddf a'r rhaglen waith arfaethedig sydd yn ei lle
i gyfarch y camau mewn modd
amserol a phriodol. Yn dilyn cymeradwyaeth
y Pwyllgor o’r rhaglen waith bydd
adroddiad yn cael ei gyflwyno
i’r Grŵp Llywodraethu Corfforaethol yn tynnu sylw
at y risgiau posib ynghyd a chyfres o adroddiadau pellach i’r Cyngor, Y Cabinet, Y Pwyllgor
Safonau a Phwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ynglŷn â darpariaethau’r Ddeddf a’r elfennau
perthnasol. Ategwyd bod elfennau o’r gwaith
eisoes ar y gweill a bod gweithgor o swyddogion wedi eu hadnabod i
weithredu’r gwaith. Yng nghyd destun y Pwyllgor Archwilio, nodwyd bod sawl newid i gyfrifoldebau’r
Pwyllgor, gyda chydnabyddaieth y bydd ambell un yn bell gyrhaeddol. Rhoddwyd trosolwg cryno ar yr agweddau
fydd angen eu blaenoriaethu: - cymryd trosolwg
o swyddogaethau monitro perfformiad penodol y Cyngor - bydd canllawiau yn cael ei
gosod allan gan y Ddeddfwriaeth gyda threfn ffurfiol
i’r broses. - enw’r Pwyllgor – Deddf yn nodi’r angen
i sefydlu Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. - cadw trosolwg
ar drefn gwynion y Cyngor gan sicrhau system gwynion effeithiol - adolygu aelodaeth
y Pwyllgor Archwilio erbyn Mai 2022 - bydd yr aelodaeth yn
gwedd newid y Pwyllgor yn ei
gyfanrwydd ac amlygwyd yr angen i
gynnal trafodaeth fanwl ynglŷn â goblygiadau llywodraethiant y Pwyllgor. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â swyddogaeth y Pwyllgor dros drefniadau cwynion ac os byddai
hyn yn gwneud
y broses yn haws i unigolion gyflwyno cwynion, nodwyd mai sicrhau bod y drefn a pherfformiad y drefn honno yn
gweithio fydd cyfrifoldeb y Pwyllgor. Mewn ymateb, mynegwyd
bod y Pwyllgor Safonau eisoes yn edrych
ar y broses gwynion ac y byddai cael dau
bwyllgor yn rhoi trosolwg yn
dyblygu’r gwaith. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro bod y ddau bwyllgor yn
ddwy gyfundrefn wahanol - monitro cwynion o’r côd
ymddygiad yw cyfrifoldeb y Pwyllgor Safonau tra byddai’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn gyfrifol am drosolwg o gwynion am wasanaethau a threfniadau corfforaethol y
Cyngor. Mewn ymateb i sylw y byddai penodi Aelodau lleyg yn anodd o ystyried agweddau megis cefndir, balans gwleidyddol, agwedd di-duedd, taliadau, dylanwad ac addasrwydd nododd y Swyddog Monitro bod canllawiau yn cael eu paratoi i roi arweiniad ar y trefniant a derbyniwyd yr awgrym bod angen cynllunio ymlaen yn ofalus ar gyfer hyn. Awgrymwyd bydd trefn debyg i’r hyn sydd gan y Pwyllgor Safonau yn cael ei mabwysiadu, lle sefydlir Panel Cyfweld i fod yn gyfrifol am y penodiadau. O safbwynt taliadau, eglurwyd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
SWYDDOGAETH Y PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU PDF 484 KB Ystyried yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a mabwysiadu’r trefniadau newydd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth Cymeradwyo addasiadau i’r
Trefniadau Gweithredu COFNODION: Eglurwyd, ers sefydlu Pwyllgor Archwilio Cyngor Gwynedd yn 1999, bod rôl y
Pwyllgor wedi esblygu i adlewyrchu’r gofynion statudol ar awdurdodau lleol yn
ogystal â newidiadau yn nhrefniadau gweinyddol mewnol y Cyngor. Fel mater o
drefn, bydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ystyried a mabwysiadu
Trefniadau Gweithredu yn ei gyfarfod cyntaf o gyngor newydd ar ôl etholiad –
mabwysiadwyd y fersiwn gyfredol gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 6
Mehefin 2017. Yn achlysurol
bydd newidiadau mewn trefniadau mewnol neu ddeddfwriaeth
yn golygu bod angen addasu’r Trefniadau Gweithredu. Yn dilyn cyfnod
o adolygu trefniadau llywodraethu materion ariannol y Gronfa Bensiwn, cyflwynwyd addasiadau i’r Trefniadau sy’n angenrheidiol ar gyfer ymdrin â chyfrifon 2020/21 Cronfa Bensiwn Gwynedd i’r Pwyllgor eu hystyried.
Amlygwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi bod yn derbyn
a chymeradwyo cyfrifon
Cyngor Gwynedd a Chronfa Bensiwn
Gwynedd, fel rhan o’i rôl fel
y “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu”. Wedi ystyried y rheoliadau diweddaraf, ymddengys mai’r Pwyllgor Pensiynau yw’r corff priodol
i dderbyn a chymeradwyo datganiadau o gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd. Tynnwyd sylw
at y rheoliadau perthnasol ynghyd a’r trefniadau gweithredu drafft newydd sydd
yn parhau i fod yn
gyson a gofynion Mesur Llywodraeth Leol a’r Canllawiau
Statudol. Tynnwyd sylw hefyd at y cymalau sydd wedi
eu haddasu gan bwysleisio mai fersiwn dros
dro yw’r trefniant ar gyfer
2021 / 22 gan nad
yw’r holl addasiadau sydd yn cael eu
cyflwyno i weithgareddau’r Pwyllgor yn unol â Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi dod i
rym eto. Ategwyd bod y trefniant arfaethedig wedi ei drafod gyda
Chadeiryddion y Pwyllgorau.
Nodwyd bod trefniadau a phenderfyniadau
sydd yn ymwneud
a phensiynau yn cael eu rheoli
gan y Pwyllgor Pensiynau sydd yn eu tro
yn cael eu
craffu yn fanwl gan y Bwrdd
Pensiwn. O ganlyniad, ystyriwyd bod yr addasiad yn un
synhwyrol Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau: ·
Bod aelodau o’r Bwrdd Pensiwn
a’r Pwyllgor Pensiynau yn gefnogol
i’r trefniant ·
Bod
y trefniant yn un i’w groesawu – yn cynnig trefn lan a chlir gyda llai o
ddyblygu gwaith ·
Bod
y drefn yn ymddangos yn daclus ·
Bod Rheolwyr proffesiynol hefyd yn cadw llygad
ar y Gronfa felly digon o gefnogaeth ar gael PENDERFYNWYD Derbyn y wybodaeth Cymeradwyo addasiadau i’r Trefniadau Gweithredu |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL PDF 399 KB Derbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys
a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth Cefnogi’r gweithrediadau
sydd eisoes wedi eu cytuno gyda'r gwasanaethau perthnasol COFNODION: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith
archwilio mewnol am y cyfnod o 1 Chwefror 2021 hyd 31 Mawrth 2021. Amlygwyd bod 4 o archwiliadau’r cynllun wedi eu
cwblhau ynghyd ag archwiliad grant ôl-16. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau: ·
Bod angen cynnal asesiad lles i weithwyr
a chynghorwr sydd yn gweithio o adre ·
Bod angen rhoi dewis i
staff wrth i ganllawiau covid lacio yng nghyd-destun
gweithio o adre ·
Bod angen amserlen ar gyfer
dychwelyd i’r swyddfeydd ·
Bod angen cynnal asesiadau lleoliad gwaith yn y cartref ·
Edmygu
ymroddiad ac addasrwydd staff wrth weithio o adref Mewn ymateb i’r sylwadau
nodwyd bod asesiadau offer gwaith wedi eu
cwblhau a bod Cefnogaeth Gorfforaethol yn arwain ar brosiect
asesu addasrwydd swyddi. Ategwyd nad oedd
pwysau i ddychwelyd i’r swyddfeydd ac os bydd modd gwneud
swydd o gartref yn effeithiol, ni fyddai gorfodaeth
i newid. PENDERFYNWYD Derbyn y wybodaeth Cefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno
gyda'r gwasanaethau perthnasol |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2020/2021 PDF 616 KB I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn mynegi barn Archwilio Mewnol ar amgylchedd rheolaethol gyffredinol o fewn yr
Awdurdod yn ystod 2020/21 gan ddarparu cyfryw farn archwilio mewnol blynyddol
i’r Awdurdod. Nodwyd na all sicrwydd fyth fod yn llwyr ac y mwyaf y gall
gwasanaeth archwilio mewnol ei ddarparu i’r Cyngor ydi cyngor rhesymol nad oes
gwendidau mawr yn y system gyfan o reolaeth fewnol. Adroddwyd bod dyfodiad pandemig Covid-19 wedi cael effaith
sylweddol ar yr awdurdod yn
ei gyfanrwydd ac ar waith Archwilio
Mewnol. Mynegwyd nad oedd modd i Archwilio Mewnol gynnal gwaith yn chwarter cyntaf y flwyddyn,
ac ar gais y Pennaeth Cyllid, cafodd rhai swyddogion o’r gwasanaeth eu hadleoli
i gynorthwyo a chefnogi’r Cyngor drwy wirio a phrosesu Grantiau Llywodraeth
Cymru i Fusnesau a weinyddwyd gan y Gwasanaeth Refeniw. Treuliwyd cyfanswm o
146 diwrnod ar y gwaith hwn. Yn ogystal, bu i swyddogion
Archwilio Mewnol hefyd gynorthwyo’r Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu, sef
gwasanaeth a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru gyda 120 diwrnod wedi eu treulio ar
y gwaith yma. Cyflwynwyd rhaglen waith ddiwygiedig o waith Archwilio Mewnol am y flwyddyn
ariannol 2020/2021 i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 30
Gorffennaf 2020. Roedd y cynllun archwilio blynyddol yn llawer mwy hyblyg na’r
arfer o ganlyniad i effaith y pandemig ar y
sefydliad. Adnabuwyd blaenoriaethau archwilio newydd mewn ymateb i risgiau
newydd a newidiadau yn sgil effaith Covid-19. Bu i archwiliadau o’r cynllun
addasedig gael eu cwblhau o fewn cyfnod heriol gyda ffocws yr archwiliadau ar
drefniadau yn sgil y pandemig ac archwiliadau statudol
megis grantiau. Cynhaliwyd nifer isel o
archwiliadau yn ystod 2020/2021 o gymahru a’r
blynyddoedd blaenorol a hynny oherwydd amgylchiadau digynsail o anghyffredin.
Ystyriwyd hynny yn eithriad eleni a defnyddiwyd tystiolaeth a ddarparwyd gan reoleiddwyr allanol i gefnogi’r farn am y flwyddyn. ·
Yn
gyffredinol, canfuwyd rheolaeth fewnol dda o fewn pob un o wasanaethau’r Cyngor
a archwiliwyd. ·
Bod
holl adrannau’r Cyngor wedi adeiladu ar waith blaenorol, gan barhau i ddatblygu
eu cyfundrefnau rheoli risg. Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 30 Tachwedd 2020 i
ddiweddaru am ddatblygiadau i’r trefniadau rheoli risg, y camau gweithredu
nesaf, ac ystyried os oedd yr ymateb yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn
Llythyr yr Archwiliwr ·
Bod
23 risg llywodraethu wedi cael eu hadnabod yn y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol yn cael eu hasesu’n barhaus gan y Grŵp Asesu Trefniadau
Llywodraethu. ·
Ble darganfuwyd gwendidau
arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol, cafodd y materion eu cywiro gan
swyddogion y Cyngor, a sylw'r
Gweithgor Gwella Rheolaethau. ·
Bod
yr Awdurdod wedi derbyn nifer o adroddiadau gan reoleiddwyr
yn ystod 2020/2021: Ar sail gwaith Archwilio Mewnol a gwblhawyd yn ystod 2020/2021, ystyriwyd
bod fframwaith rheolaeth fewnol Cyngor
Gwynedd yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/2021 yn gweithredu ar lefel sicrwydd
rhesymol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith
llywodraethu’r Awdurdod, rheoli risg a rheolaeth fewnol. Roedd 23 darn o waith wedi eu cynnwys yng nghynllun archwilio addasedig terfynol 2020/2021. Cafodd 19 o aseiniadau eu ... view the full COFNODION text for item 10. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR GYFER 2020/21 PDF 391 KB Cymeradwyo’r
Datganiad at bwrpasau ei arwyddo gan Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo’r datganiad Argymell bod Arweinydd y
Cyngor a Prif Weithredwr y Cyngor yn ei arwyddo COFNODION: Cyflwynwyd y datganiad gan Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg. Eglurodd bod y datganiad, er nad yn rhan o’r cyfrifon,
yn ddogfen statudol ac angen ei chyhoeddi gyda’r cyfrifon. Yn unol â Rheoliadau
Cyfrifon Archwilio (Cymru) a Chod ymarfer CIPFA mae’n rhaid i bob Awdurdod
Lleol sicrhau bod datganiad o reolaeth fewnol yn ei le. Adroddwyd mai’r Prif
Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor sydd yn arwyddo’r datganiad er bod angen
cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Rhoddwyd ychydig o gefndir i’r datganiad gan
nodi bod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol i gyflwyno
datganiad blynyddol ac er yn wahanol
o ran fformat neu ddull mae
eu cynnwys yn debyg iawn.
Yng Ngwynedd, y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu, o dan arweiniad y Prif Weithredwr sydd yn adolygu'r
gofrestr risg. Bydd y grŵp yn trafod risgiau
mewn 23 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r rheolaethau
sydd gan y Cyngor yn eu lle
er mwyn lliniaru’r
risgiau hynny. Caiff hyn ei
wneud mewn ymateb i fframwaith
CIPFA sydd yn adnabod egwyddorion craidd ar gyfer
llywodraethu da. Amlygwyd bod risg newydd wedi
cael ei ychwanegu
yn ystod 2021/21, sef ‘Trefniadau a gweithredu annigonol gan Wasanaethau’r Cyngor i reoli rigiau
iechyd a diogelwch yn effeithiol’. Ategwyd bod y risg yma yn wreiddiol
wedi ei gynnwys
o fewn y risg mwy cyffredinol ‘Trefniadau Rheoli Risg’, ond ystyriwyd
bod Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn cyflwyno
risgiau unigryw ac o ganlyniad y byddai’n briodol i’r maes
gael sylw penodol o fewn y gofrestr risg llywodraethu. Adroddwyd bod y Grŵp wedi dod i gasgliad bod 0 maes gyda risgiau uchel
iawn, 2 faes risgiau uchel, 12 maes risgiau canolig
a 9 maes risgiau isel. Nodwyd mai'r
meysydd risg uchel oedd ‘Diwylliant’
a’r risg newydd ‘Iechyd, Diogelwch a Llesiant’. Tynnwyd sylw hefyd at newid
mewn sgôr risg ‘gwendidau wrth reoli arian
cyhoeddus’ sydd yn golygu nad
yw cyllid y Cyngor yn cael ei
ddefnyddio at ei flaenoriaethau. Addaswyd y sgôr oherwydd, er bod trefniadau cynllunio ariannol y Cyngor yn parhau’n gryf,
mae’r sgôr tebygolrwydd wedi newid i 3 gan
fod cynlluniau arbedion bellach am fod y anoddach i’w gwireddu. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau: ·
Bod angen mwy o wybodaeth am y tîm newydd a sefydlwyd
ar gyfer cryfhau’r gefnogaeth i drefniadau Craffu ·
Angen ystyried risg i asedau eiddo'r
Cyngor - hyn yn debygol o gynyddu o ganlyniad i staff y Cyngor yn gweithio o adre
a swyddfeydd yn wag Mewn ymateb i gais am fwy o wybodaeth am drefniadau rheoli CCTV amlygwyd bod cynllun gwybodaeth newydd wedi ei sefydlu gan Cefnogaeth Gorfforaethol mewn ymateb i adnabod risg o warchod / diogelu data sydd yn ymddangos ar CCTV. Nodwyd bod bwriad i sicrhau bod y wybodaeth sydd yn cael ei ddal ar CCTV yn cael ei ystyried fel ‘data’ ac o ganlyniad yn cael ei reoli ... view the full COFNODION text for item 11. |
|
CYFRIFON TERFYNOL 2020/21 - ALLDRO REFENIW PDF 221 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried unrhyw risgiau sy’n deillio o’r gwir wariant ac incwm yn erbyn cyllideb 2020/21, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i Adrannau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Nodi’r risgiau perthnsaol Cefnogi penderfyniad y
Cabinet (18 Mai 2021) COFNODION: Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod yr adroddiad
wedi ei gyflwyno
i’r Cabinet 18 Mai 2021 a bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol. Gosodwyd y cyd-destun ac ymhelaethwyd ar gynnwys yr adroddiad
gan yr Uwch
Reolwr Cyllid. Cyfeiriwyd at grynodeb o’r sefyllfa fesul
adran oedd yn amlygu’r symiau
i’w cario ymlaen ar ddiwedd
y flwyddyn ynghyd a’r prif
faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Amlygwyd, ·
Bod
effaith ariannol Covid19 yn sylweddol i’r Cyngor. Gyda dros £20 miliwn wedi ei
hawlio o’r gronfa caledi a ffyrlo erbyn diwedd y
flwyddyn, oedd yn gyfuniad o gostau ychwanegol o £11.6 miliwn, colledion incwm
o £7.3 miliwn a £1.5 miliwn ffyrlo. ·
O
ganlyniad i dderbyn nifer o grantiau sylweddol eraill cysylltiedig â Covid-19
yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, amlygwyd bod sefyllfa ariannol 2020/21 wedi ei
drawsnewid erbyn diwedd y flwyddyn, gyda’r grantiau yn cynnwys grantiau i
gyllidebau ysgolion, ar gyfer trawsnewid digidol, diffyg gwireddu arbedion ac
ôl groniad Treth Cyngor. ·
Bod
5 adran ar ddiwedd y flwyddyn yn gorwario cyn dyrannu grantiau digolledu am
Covid19 gan Lywodraeth Cymru, gan adael dim ond un adran yn gorwario yn
derfynol, sef Adran Plant a Theuluoedd. ·
Pwysau
sylweddol yn wynebu’r Adran Plant a Theuluoedd, ond lleihad yn y gorwariant i
£1.3 miliwn yn dilyn dileu £688k o arbedion nad oedd modd eu gwireddu a
derbyniad grant covid. ·
Bod gwelliant
sylweddol yn sefyllfa’r Adran Oedolion - gwerth £1 miliwn o arbedion nad oedd
modd eu cyflawni
wedi eu dileu
a’u llithro yn ogystal â derbyniad
grantiau cyffredinol ym misoedd olaf
y flwyddyn. ·
Bod cynnydd
yn sefyllfa ariannol Priffyrdd a Bwrdeistrefol oedd yn gyfuniad o gwtogi
ar wariant, derbyniadau grant covid a grantiau cyffredinol a dileu arbedion. Y maes gwastraff,
yn parhau i fod yn
bryder gyda’r adran wedi wynebu
costau ychwanegol sylweddol yn ymwneud
â chydymffurfio gyda chanllawiau covid 19. Nodwyd hefyd golledion
incwm yn y maes gwastraff
masnachol, oedd yn ei gyfanrwydd
werth £2.4 miliwn am flwyddyn. ·
Bod
nifer o resymau tanwariant un-tro ar nifer o benawdau Corfforaethol ·
Bod balansau’r ysgolion wedi cynyddu
o £4.3 miliwn yn 2019/20 i £10.7 miliwn yn 2020/21 yn sgil
effaith Covid19 a derbyniad
grantiau amrywiol. ·
Bod adolygiad digonolrwydd cronfeydd penodol y Cyngor wrth
gau’r cyfrifon, lle llwyddwyd i gynaeafu £170 mil o adnoddau. Cyfeiriwyd at benderfyniad y Cabinet i, ·
nodi
sefyllfa’r adrannau ar ddiwedd 2020/21 a chymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen ·
cymeradwyo’r
holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol Adroddwyd bod y datganiadau ariannol
statudol 2020/21 wrthi’n cael eu cwblhau
gyda’r bwriad o’u cyflwyno i’r
Archwilwyr cyn y dyddiad statudol o 31 Mai 2021. Ategwyd y byddai’r cyfrifon yn cael
eu harchwilio dros yr haf
gan Archwilio Cymru ac nid gan
gwmni Deloitte fel y gwelwyd yn y gorffennol. Ategodd y Pennaeth Cyllid bod grantiau wedi rhoi hwb ariannol sylweddol i’r sefyllfa sydd bellach yn cyfleu sefyllfa iach a chadarn. Er gwaethaf y gost, sicrhawyd diogelwch trigolion Gwynedd yn ystod y pandemig ... view the full COFNODION text for item 12. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2021) PDF 206 KB I dderbyn y wybodaeth, ac ystyried y risgiau yn ymwneud â’r Rhaglen Gyfalaf Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Nodi’r risgiau perthnasol Cefnogi penderfyniad y
Cabinet (18 Mai 2021) COFNODION: Amlygodd y Uwch Reolwr Cyllid mai prif
ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig ar ddiwedd y
flwyddyn ariannol (sefyllfa 31 Mawrth 2021), a chymeradwyo’r ffynonellau
ariannu perthnasol. Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf
£114.6 miliwn am y 3 blynedd 2020/21 - 2022/23 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar
gael i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £11.0 miliwn ers yr adolygiad diwethaf. Prif
gasgliadau adolygiad oedd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario £27.7m yn 2020/21
ar gynlluniau cyfalaf, gyda £18.2m (66%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau
penodol. Adroddwyd bod effaith argyfwng
Covid19 a’r cyfnod clo ar y rhaglen
gyfalaf yn amlwg ac yn ychwanegol
i’r £14.1m a adroddwyd arno yn yr adolygiadau
blaenorol, roedd £19.3m pellach o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2020/21 i 2021/22, gyda’r prif gynlluniau
yn cynnwys: • £4.5
miliwn Cynlluniau Ysgolion Ganrif 21 • £3.3
miliwn Adnewyddu Cerbydau. • Grant hwyr o £2.2 miliwn
ar Gynnal a Chadw Ysgolion a gyrhaeddodd ym mis Mawrth 2021, gyda’r hawl
penodol gan Lywodraeth Cymru i ddisodli ariannu cyfredol a’i lithro i’r
flwyddyn ganlynol. • £1.7
miliwn Cynllun Cei Aberdyfi. Yn ogystal, llwyddodd y Cyngor ddenu grantiau pellach ers yr
adolygiad diwethaf oedd yn cynnwys; • £7.2
miliwn - Grant o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol a Llwybrau
Diogel - caniatâd llithro’r mwyafrif i 21/22. • £2.2
miliwn - Grant Cynnal a Chadw Ysgolion 20/21 sy’n caniatáu disodli
ariannu cyfredol i’w wario yn
21/22. • £0.6
miliwn - Grant Tai Arloesol
- Cartrefi Clyd (Podiau) i gynorthwyo
gyda lleihau digartrefedd. • £0.5 miliwn - Grant Cronfa Gofal
Canolraddol – addasiadau sefydliadau oedolion a hwyluso gweithio ar y cyd ag
asiantaethau eraill yn y maes gofal. Penderfynodd
y Cabinet (18 Mai 2021) i dderbyn yr holl argymhellion oedd yn cynnwys: • Derbyn yr adroddiad ar adolygiad
diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2021) o’r rhaglen gyfalaf. • Nodi’r gwariant o £27,667,000 ar y
rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21, fydd yn cael ei
ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2020/21. • Cymeradwyo’r
ariannu addasedig a gyflwynwyd sef: -
Cynnydd
yn y defnydd o • £3 mil o fenthyca • £10.561 miliwn yn y grantiau a
chyfraniadau • £234 mil o gyfraniadau refeniw • £200 mil o gronfeydd adnewyddu ac eraill PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad Nodi’r risgiau perthnasol Cefnogi penderfyniad y Cabinet (18 Mai 2021) |
|
CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD PDF 209 KB I dderbyn a chymeradwyo’r cyfrifon Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo’r Cyfrifon: -
Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2020 / 21 -
Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31
Mawrth 2021, yn amodol ar archwiliad gan Archwilio Cymru COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid. Eglurwyd, yn unol â’r
gofynion statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964 mae’n
rhaid i Wynedd, fel awdurdod harbyrau, ddarparu
datganiad cyfrifon blynyddol sy’n ymwneud â gweithgareddau harbyrau
Abermaw, Aberdyfi, Pwllheli a Porthmadog. Gyda throsiant yr harbyrau yn is na £2.5m,ystyriwyd
i fod yn gorff llywodraeth leol llai o faint ac felly mae cwblhau ffurflen
datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru yn cwrdd â’r gofynion
statudol. Cyfeiriwyd at y cyfrif incwm a gwawriant, ac amlygwyd £5,208 o orwariant ar ddiwedd
y flwyddyn. Adroddwyd, bod ardrawiad covid-19 a’r cyfnod clo cysylltiedig
wedi effeithio lefelau incwm yr
Harbyrau sydd yn llawer llai
na’r targed incwm eleni. Er
hynny, adroddwyd bod tanwariant
ar staffio, cynnal a chadw ayyb wedi lleddfu
rhywfaint ar y sefyllfa. Tynnwyd sylw at ffurflen safonol yr archwilwyr
allanol ynghyd a’r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol, sydd yn sicrhau system rheolaeth fewnol gadarn. Amlygwyd bod y cyfrifon eisoes wedi bod yn destun
archwiliad Mewnol a bellach wedi eu
cyflwyno i’r archwilwyr allanol sef Archwilwyr Allanol Archwilio Cymru. Ategwyd mai dim ond os
bydd angen gweithredu newidiadau yn dilyn archwiliad
y bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei gyflwyno
i’r Pwyllgor ym mis Hydref. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo’r Cyfrifon: -
Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2020 / 21 -
Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, yn amodol ar archwiliad
gan Archwilio Cymru Argymell bod y Cadeirydd yn arwyddo’r ffurflen yn electroneg |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2021/22 PDF 434 KB I ystyried a
chymeradwyo’r Cynllun Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo’r Cynllun COFNODION: Cyflwynwyd cynllun o waith Archwilio Mewnol am y flwyddyn ariannol 2021/22 gan y Rheolwr Archwilio.
Yn unol ag arfer gorau a Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, mae'r cynllun Archwilio Mewnol yn destun
adolygiad parhaus i sicrhau ei
fod yn parhau’n
gyfredol ac yn adlewyrchu newidiadau yn y busnes ynghyd
ag ystyried effeithiau sylweddol a chyflym pandemig COVID-19 ar y Cyngor. Er mwyn sicrhau bod rheolaethau allweddol y Cyngor a’r materion cywir yn
cael eu hadolygu, rhoddwyd ystyriaeth i’r Gofrestr Risg Corfforaethol, Cynllun
Cyngor Gwynedd ynghyd ag unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol sydd ar waith. O ganlyniad, paratowyd cynllun cychwynnol
gyda hyblygrwydd fyddai’n rhoi sylw i unrhyw faterion a ddaw i’r amlwg a
newidiadau i risgiau a blaenoriaethau’r
Cyngor a hefyd sicrhau iechyd a diogelwch swyddogion Archwilio Mewnol a
chleientiaid. Trafodwyd y cynllun cychwynnol gyda phob Pennaeth Gwasanaeth lle
bu cyfle i fireinio’r cynllun ymhellach, cyn paratoi’r Cynllun terfynol i’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Nodwyd bod Cynllun Archwilio 2021/2022 yn rhoi ystyriaeth briodol i’r
canlynol: ·
bod
yn ymwybodol o’r posibilrwydd y gall twyll neu lygredigaeth ddigwydd - manteisio ar y Fenter Twyll Cenedlaethol a
chynnal gwaith Atal Twyll Rhagweithiol ·
parhau
i roi sylw i grantiau penodol, yn enwedig lle mae amodau’r grant yn disgwyl
adolygiad gan Archwilio Mewnol. ·
I
sicrhau hyblygrwydd, bydd Archwilio Mewnol yn defnyddio methodoleg AGILE ble bo
hynny’n bosibl. Prif amcanion cymhwyso egwyddorion AGILE yw: o
Gwella
ansawdd archwilio o
Cylchoedd
archwilio byr o
Cynnydd
mewn rhyngweithio â chleientiaid o
Darparu
mewnwelediadau (Nodwyd bod Agile yn darparu modd hyblyg a dynamig i Gynllunio
Archwilio Mewnol o ganlyniad i fonitro risg yn barhaus). Rhagwelwyd
y byddai oddeutu 715 diwrnod o adnoddau archwilio ar gael i gwblhau cynllun
archwilio 2021/22. Dadansoddwyd yr adnoddau staffio sydd ar gael, gan ystyried
cyllidebau rhesymol ar gyfer gweithgareddau “di-gynnyrch” megis gwyliau,
salwch, hyfforddiant, rheolaeth a chyfarfodydd. Manylwyd ar fwriad a rheswm
rhai o’r archwiliadau fel bod yr aelodau yn cael rhagflas o gynnwys y cynllun
archwilio Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â chynnwys diogelwch seiber ( a adnabuwyd fel
maes blaenoriaeth mewn gweithdy diweddar)
ar y rhaglen waith, nodwyd bod archwiliad i ddiogelwch
systemau TG wedi ei adnabod. Er
hynny, amlygwyd bod cwmni allanol yn
paratoi adroddiadau trylwyr proffesiynol ar ddiogelwch seiber
a bod yr adroddiadau hynny yn cael
eu cyflwyno i’r Gwasanaeth Archwilio. Ategwyd bod rhain yn drefniadau
cadarn ac i raddau ni
fuasai’r Gwasanaeth Archwilio yn gallu
ategu at yr hyn mae'r cwmni
allanol yn ei wneud. Adroddwyd
bod eitem ‘Gwydnwch Systemau TG - Diogelwch Seiber’ wedi ei
gynnwys fel eitem i’w graffu
yng nghyfarfod 15 Gorffennaf o’r Pwyllgor. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â mesurau diogelu rhyddid a’r bwriad o archwilio trefniadau newydd sydd yn disodli DoLS ac os byddai’r trefniadau newydd hyn yn well i’r Cyngor ynteu i’r unigolion, nodwyd bod hwn yn archwiliad ar gais Pennaeth Oedolion , Iechyd a Llesiant sydd wedi argymell bod y Gwasaneth Archwilio yn edrych ar ... view the full COFNODION text for item 15. |
|
ARCHWILIO CYMRU CYNLLUN ARCHWILIO 2021 CYNGOR GWYNEDD PDF 947 KB I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad COFNODION: Croesawyd Alan Hughes ac
Yvonne Thomas i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd cynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2021 yn
nodi’r gwaith y maent yn fwriadau
eu gwneud yn ystod y flwyddyn
yn unol â’r
cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel
archwilwyr allanol. Cyfeiriwyd at yr angen i archwilio
datganiadau ariannol a’r risgiau sydd
ynghlwm (sydd yn risgiau sydd
yn ymddangos i bob Cyngor mwyn neu lai). Cyfeiriwyd
at gynnwys y rhaglen archwilio perfformiad gan gynnig braslun
o’r gwaith sydd i’w gyflawni ar amserlen bwriadedig. Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd parodrwydd i gydweithio. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad |
|
BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR PDF 208 KB I ystyried cynnwys y blaen raglen, holi’r swyddogion am yr eitemau fel bo’r
angen, a chynnig sylwadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn rhoi
amlinelliad o raglen waith y pwyllgor am y flwyddyn hyd at Chwefror, 2022. Amlygwyd bod y blaen raglen wedi
ei llunio o gwmpas eitemau sefydlog ynghyd ag ambell eitem
craffu wedi ei gynnwys. Ategwyd bod y rhaglen yn rhaglen
fyw a bod posib i’r amserlen newid. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad |