Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2025 / 2026

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2025 - 2026

Penderfyniad:

AIL ETHOL CARYS EDWARDS YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2025 - 2026

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol Carys Edwards yn gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer  2025 / 26 

 

2.

ETHOL IS GADEIRYDD AR GYFER 2025 - 2026

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2025 - 2026

Penderfyniad:

AIL ETHOL ELWYN RHYS PARRY YN DDIRPRWY GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024-25

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD ail ethol Rhys Parry yn ddirprwy gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2025 / 26 

 

Yn absenoldeb Carys Edwards a Rhys Parry gynigiwyd ac eiliwyd i Mr Eifion Jones gadeirio'r cyfarfod, yn unol ag Adran 9.12.3 o Gyfansoddiad y Cyngor. 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines, Carys Edwards, Dafydd Meurig, Rhys Parry a Rob Triggs, ar Cyng. Huw Wyn Jones (Aelod Cabinet Cyllid) 

 

Yn dilyn marwolaeth sydyn ac annisgwyl Mrs Sharon Warnes, cymerodd y Cadeirydd y cyfle i gydymdeimlo a’i theulu. Nodwyd bod Sharon yn gyn gadeirydd ac aelod presennol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn gyn Swyddog o’r Cyngor ac yn aelod ar sawl pwyllgor arall a byrddau gwasanaethau ers ei hymddeoliad; yn berson parchus a chydwybodol ac y bydd colled ar ei hol. Cafwyd munud o dawelwch. 

 

Llongyfarchwyd y Cyng. Ioan Thomas ar gael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2025/2026 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Ionawr 2025 a 6ed o Chwefror 2025 fel rhai cywir. 

 

 

7.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 179 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau.

Penderfyniad:

           Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn: Tair sedd wag Aelod Lleyg ar y Pwyllgor - cyfweliadau i’w cynnal ym mis Mehefin gyda’r gobaith o gyflwyno enwau i’r Cyngor Llawn 3/07/25

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad 

 

Mewn ymateb i bryder bod tair sedd wag Aelod Lleyg ar y Pwyllgor, nodwyd bod ymateb da wedi bod i ymgyrch ddiweddaraf y Cyngor i geisio Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor a bod bwriad cynnal cyfweliadau ym mis Mehefin gyda’r gobaith o gyflwyno enwau i’r Cyngor Llawn 03/07/25. 

 

PENDERFYNWYD 

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad 

 

 

8.

CYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 112 KB

I ystyried a chymeradwyo Cylch Gorchwyl Diwygiedig Y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a chymeradwyo Cylch Gorchwyl Diwygiedig Y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn amlinellu Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i sicrhau bod y Pwyllgor yn gweithredu yn unol â Datganiad Safbwynt CIPFA: Pwyllgorau Archwilio mewn Awdurdodau Lleol a'r Heddlu 2022 ac i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang. 

 

Ategwyd bod diwrnod o hyfforddiant wedi ei drefnu ar gyfer yr Aelodau i drafod  y cylch gorchwyl mewn manylder ynghyd a gofynion a chyfrifoldebau’r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

Nodi a chymeradwyo Cylch Gorchwyl Diwygiedig Y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio   

 

9.

HUNAN ASESIAD CYNGOR GWYNEDD 2024/25 pdf eicon PDF 216 KB

I ystyried y materion a gyflwynir ar gyfer 2024/25 gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion ynghyd ac unrhyw faterion ychwanegol y dylid eu cynnwys.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn adroddiad drafft 2024 /25 o HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD

 

Sylwadau:

Cynllun Penrhos - angen pwyslais ar ddatblygiad gwasanaethau gofal ym Mhenrhos ac nid tai yn unig

Strategaeth Llifogyddystyriaeth i’r brif ffordd A499

Effeithiau Erthygl 4

Dyfodol Cynllun ARFOR – sicrwydd parhad i’r Cynllun

Trefniadau Diogelu Ysgolionangen sylw pellach

Cofnod:

Croesawyd y Cyng. Nia Jeffreys (Arweinydd y Cyngor), a Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod. 

 

Cyflwynwyd drafft o’r prif faterion i’w cyfarch o fewn dogfen Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2024/25 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor gan ofyn iddynt am fewnbwn i gynnwys yr adroddiad. Adroddwyd bod yr Hunanasesiad yn ofyn statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sydd hefyd yn nodi bod angen cynnwys y Pwyllgor yn y broses hunanasesu. 

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cyngor eisoes yn casglu llawer o dystiolaeth ac yn cyhoeddi dogfennau sy’n cynnwys y math o wybodaeth sy’n ddisgwyliedig i’w gynnwys o fewn yr hunanasesiad - dogfennau megis (ond ddim yn gyfyngedig i) adroddiadau blynyddol Perfformiad, Cydraddoldeb, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Datganiad Cyfrifon Blynyddol.  

 

Amlygwyd bod cyflwyno’r prif faterion ar ddechrau’r broses yn ymateb i ddymuniad y Pwyllgor o gael cyfle i roi mewnbwn i gynnwys yr adroddiad. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cael  cynnig sylwadau / argymhellion i’r adroddiad drafft terfynol cyn cyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn yn fis Hydref 2025. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: 

  • Bod yr adroddiad yn hawdd i’w ddarllen 
  • Bod angen mwy o bwyslais ar ddatblygiadau gwasanaethau gofal yn hytrach na datblygiad tai yn unig yn Cynllun Penrhos 
  • Strategaeth Llifogydd  - cais i ystyried gwelliannau i’r brif ffordd  A499 ger Pwllheli 
  • Pryder effeithiau Erthygl 4 
  • Trefniadau Diogelu Ysgolion – effaith ariannol ac effaith ar  ddelwedd y Cyngor – angen sylw pellach 

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam bod Rhaglen ARFOR, sydd yn dod i ben Mawrth 2025 wedi ei amlygu fel risg, a bod angen sicrwydd parhad i’r Cynllun, nodwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu beth oedd dyfodol y rhaglen, sydd yn ei hun yn risg. Ategwyd nad oedd llythyr o gynnig i ariannu ARFOR i’r dyfodol wedi ei dderbyn a heb sicrwydd o barhad nac o ffynhonnell ariannol, bod hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y Cyngor. Y bwriad yw aros ychydig wythnosau i weld be ddaw gan y Llywodraeth, cyn asesu’r sefyllfa. 

 

PENDERFYNWYD 

 

Derbyn drafft o’r prif faterion i’w cyfarch o fewn dogfen  HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD 2024 /25 

 

Sylwadau:  

Cynllun Penrhos - angen pwyslais ar ddatblygiad gwasanaethau gofal ym Mhenrhos ac nid tai yn unig 

Strategaeth Llifogydd – ystyriaeth i’r brif ffordd A499 

Effeithiau Erthygl 4  

Dyfodol Cynllun ARFOR – sicrwydd parhad i’r Cynllun 

Trefniadau Diogelu Ysgolion – angen sylw pellach 

 

 

10.

CYFRIFON TERFYNOL 2024/25 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 182 KB

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i

adrannau a sylwebu fel bo angen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi’r risgiau perthnasol

Cofnod:

Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2024/25, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant yr adrannau unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau sy’n amlygu’r symiau i’w parhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ynghyd â’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol.  

 

·                  Fod y sefyllfa ariannol wedi gwella ers rhagolygon Adolygiad Awst a Thachwedd. 

·                  Bod derbyniadau grantiau sylweddol yn hwyr yn y flwyddyn i nifer o feysydd gan gynnwys Oedolion, Addysg, Economi a Chorfforaethol wedi gwella’r sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn.  

·                  Fod gorwariant yn parhau yn y maes lleoliadau all-sirol plant, gwasanaeth Derwen, gofal cartref a gwastraff.  

·                  Sefyllfa ffafriol ar nifer o gyllidebau corfforaethol yn cynorthwyo i leddfu'r sefyllfa ariannol ar gyfer y Cyngor yn ei gyfanrwydd.  

·                  Yr Ymarferiad cynaeafu cronfeydd yn rhyddhau £1.65 miliwn o gronfeydd i’w rhoi yn y Gronfa Trawsffurfio ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor. 

 

Amlygwyd, 

·                  Adran Oedolion Iechyd a Llesiant: Gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn yn £857 mil, sy’n lleihad o’r rhagolygon o £3 miliwn a gafwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Eglurwyd, ers yr adolygiad diwethaf bu i’r adran dderbyn grantiau ac incwm sylweddol sydd wedi cynorthwyo’r sefyllfa. Ategwyd bod pwysau amlwg yn parhau yn y maes Gofal Cartref, gyda chostau staffio uwch a lefelau salwch a chyfraddau oriau digyswllt yn uchel, tra bod pwysau sylweddol hefyd ar y gyllideb darparwyr gofal cartref preifat  a defnydd o staff asiantaeth yn un o’r materion yng ngofal preswyl mewnol. 

 

·                  Adran Plant: Ers adolygiad Tachwedd, gorwariant yr Adran wedi cynyddu o £3.7 miliwn i £3.8 miliwn, oherwydd cynnydd yng nghostau lleoliadau all-sirol o ganlyniad i gymhlethdodau pecynnau a defnydd cynyddol ddiweddar o leoliadau heb eu cofrestru, sy’n fwy costus. Pwysau hefyd i’w weld ar gyllideb y Gwasanaeth Derwen. 

 

·                  Adran Addysg: Yn sgil derbyn bid ariannol ar gyfer y maes cludiant ysgolion, nodwyd bod y  sefyllfa ariannol yn y maes wedi gwella. Bu i’r adran hefyd dderbyn nifer o grantiau ynghyd â chwtogi ar wariant syn golygu bod tanwariant o £191 mil ar ddiwedd y flwyddyn. 

 

·                  Adran Economi / Byw’n Iach. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cwmni Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Cyngor uwchlaw’r taliad cytundebol. Er bod y swm yn is na’r flwyddyn ddiwethaf, mae’r swm gofynnol wedi cynyddu i £281 mil erbyn diwedd y flwyddyn. 

 

·                  Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol; Gorwariant o £656 mil. Ym maes bwrdeistrefol, pwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau strydoedd a glanhau toiledau cyhoeddus, tra bod colledion incwm yn faterion ym meysydd cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus. Er hynny, bu gwelliant yn incwm gwasanaethau priffyrdd ac Ymgynghoriaeth Gwynedd. 

 

·                  Adran Amgylchedd: Tueddiad o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau, ac wedi cynyddu i £1.1 miliwn. Mater arall o fewn yr Adran yw bod diffyg o £826 mil mewn incwm parcio erbyn diwedd y flwyddyn. 

 

·                  Adran Tai ac Eiddo: Tueddiad o bwysau sylweddol ar lety dros dro digartrefedd yn parhau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

RHAGLEN GYFALAF 2024-25 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2025) pdf eicon PDF 176 KB

I dderbyn y wybodaeth, ac ystyried y risgiau yn ymwneud â’r rhaglen gyfalaf

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth a nodi’r risgiau yn ymwneud â’r rhaglen gyfalaf

Cofnod:

 

Amlygodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau mai prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (sefyllfa 31 03 2025), a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet 13 Mai 2025 lle cymeradwywyd yr holl argymhellion. Gofynnwyd i’r Pwyllgor dderbyn y wybodaeth ac ystyried y risgiau oedd yn ymwneud a’r rhaglen gyfalaf. 

 

Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £194.5 miliwn am y 3 blynedd 2024/25 - 2026/27 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £19.4 miliwn ers yr adolygiad diwethaf.  

  

Prif gasgliadau’r adolygiad: y Cyngor wedi llwyddo i wario £85.2 miliwn yn 2024/25 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £61.6 miliwn (72%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol. 

 

Eglurwyd bod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf. Nodwyd bod £33.4 miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2024/25 i 2025/26 a 2026/27 a’r prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol yn cynnwys: 

  • £16.8 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai 
  • £16.0 miliwn Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill) 
  • £10.8 miliwn Cynlluniau Cronfa Ffyniant Cyffredin 
  • £5.9 miliwn Adnewyddu Cerbydau ac Offer 

 

Yn ogystal, llwyddodd y Cyngor i ddenu grantiau ychwanegol ers yr adolygiad diwethaf, oedd yn cynnwys y grantiau canlynol: 

  • £10.6 miliwn Grant Cronfa Ffyniant Cyffredin gan Lywodraeth  y Deyrnas Unedig i’w ddosrannu ar draws siroedd y gogledd. 
  • £1.9 miliwn Grant Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol gan Lywodraeth Cymru. 
  • £1.4 miliwn Grant ARFOR 2 gan Lywodraeth Cymru. 
  • £1.0 miliwn Grant Cronfa Datblygu Tir ac Adeiladau ac eraill gan Lywodraeth Cymru. 
  • £0.8 miliwn – Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. 

 

Cyfeiriwyd at y wybodaeth am Ddangosyddion Darbodus Cyfalaf y Cyngor sy’n ofyn adrodd newydd yn 2024-25 ac amlygwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio efo’r polisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad 

 

PENDERFYNWYD 

 

Derbyn y wybodaeth a nodi’r risgiau yn ymwneud â’r rhaglen gyfalaf 

 

12.

CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 pdf eicon PDF 105 KB

Cyflwyno:

 

·        Adroddiad Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2024/25

·         Ffurflen Swyddogol Flynyddol o’r Cyfrifon, wedi’i ardystio, ond cyn Archwiliad

 

I dderbyn a chymeradwyo’r cyfrifon 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Cymeradwyo:

 

           Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2024/25

           Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025, yn amodol ar archwiliad gan Archwilio Cymru

           Cadeirydd i arwyddo’r ffurflen yn electroneg

Cofnod:

The report was submitted by the Assistant Head of Finance - Accountancy and Pensions.  It was explained, in accordance with the statutory requirements under the Harbours Act 1964, as a harbour authority, that Cyngor Gwynedd was required to provide an annual accounts statement relating to the activities of Barmouth, Aberdyfi, Pwllheli and Porthmadog harbours. As the turnover of the harbours was below £2.5m, it was deemed to be a smaller local government body, and therefore an annual return provided by Audit Wales must be prepared in accordance with statutory requirements. 

 

Reference was made to the out-turn report, which clarified the Harbours' final income and expenditure position for 2024/25 and highlighted that there was £24k underspend at the end of the year. Of this amount, it was reported that underspend on staffing was £14k while overspend was £18k on building maintenance which included one-off expenditure in Aberdyfi and Porthmadog and Barmouth. It was reiterated that there was an overspend of £10k on supplies and services and specifically on signs and warnings. In terms of income, it was reported that fee levels were very close to the budget and £3k below target with the use of the renewal fund made to fund the one-off expenditure that had been implemented. 

 

Attention was drawn to the external auditors' standard form together with the Annual Governance Statement, which ensured a robust internal control system.  It was highlighted that the accounts had already been the subject of an internal audit and had now been sent to the external Auditor, Audit Wales for audit. It was added that only if changes were required following the audit would an amended version be submitted to the Committee in the autumn. 

 

The Governance and Audit Committee was asked to accept and approve the Accounts for 2024/25 and for the Chair to sign the form electronically. 

 

Gratitude was expressed for the report. 

 

RESOLVED 

 

To accept the report 

 

To approve: 

 

  • Revenue Income and Expenditure Account 2024/25 
  • Annual Form for the Year ended 31 March 2025, subject to audit by Audit Wales 
  • The Chair to sign the form electronically 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau.  Eglurwyd, yn unol â’r gofynion statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964 bod rhaid i Cyngor Gwynedd, fel awdurdod harbyrau, ddarparu datganiad cyfrifon blynyddol sy’n ymwneud â gweithgareddau harbyrau Abermaw, Aberdyfi, Pwllheli a Porthmadog. Gyda throsiant yr harbyrau yn is na £2.5m, fe’i hystyriwyd yn gorff llywodraeth leol llai o faint ac felly bod gofyn cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru i gwrdd â’r gofynion statudol. 

 

Cyfeiriwyd at yr adroddiad alldro, oedd yn egluro sefyllfa derfynol incwm a gwariant yr Harbyrau ar gyfer 2024/25, ac amlygwyd bod £24k o danwariant ar ddiwedd y flwyddyn. O’r swm yma, adroddwyd bod tanwariant ar staffio yn  £14k tra bod gorwariant o £18k ar  gynnal adeiladau oedd yn cynnwys gwariant un-tro yn Aberdyfi a Phorthmadog ac Abermaw. Ategwyd bod gorwariant o £10k ar gyflenwadau a gwasanaethau ac yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

ADRODDIAD CHWARTEROL RHEOLAETH TRYSORLYS pdf eicon PDF 167 KB

I ystyried yr adroddiad fel gwybodaeth

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym Mawrth 2025 cymeradwywyd y Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y flwyddyn 2024/25. Nodwyd bod y strategaeth yn gofyn i’r Rheolwr Buddsoddi adrodd ar ddangosyddion darbodus rheoli’r trysorlys yn chwarterol gydag adolygiad o’r flwyddyn ariannol llawn hefyd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor pan yn amserol.  

 

Eglurwyd bod yr adroddiad gerbron yn rhoi diweddariad ar y cyfnod hyd at 31.12.2024.  

 

Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw a bod y cyfraddau llog wedi bod yn sefydlog ac wedi cynhyrchu incwm llog. 

 

Ar 31ain Rhagfyr 2024, roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd y lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian y Bwrdd Uchelgais a’r Gronfa Bensiwn. 

 

Cyfeiriwyd at y Dangosyddion Darbodus gan dynnu sylw penodol at y Meincnod Ymrwymiadau gan nodi ei fod yn arf pwysig i ystyried os yw’r  Cyngor yn debygol o fod yn fenthyciwr hirdymor, ac felly yn siapio ffocws strategol a miniogi penderfyniadau. Eglurwyd bod y Cyngor yn disgwyl parhau i fenthyca uwchlaw ei feincnod atebolrwydd hyd at 2025 a hyn oherwydd bod y Cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn gyda’r llif arian hyd yma, wedi bod yn is na'r rhagdybiaethau a wnaed pan fenthycwyd yr arian. Erbyn 2026 rhagdybiwyd bydd angen benthyca swm bychan iawn, a hynny ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac felly bydd posib ariannu hyn drwy fenthyca tymor byr ac nad oes angen benthyca yn y tymor hir yn seiliedig ar y rhagamcanion cyfredol. 

 

Nodwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA.  

 

Diolchwyd am yr adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth 

 

14.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 343 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 25 Ionawr  hyd 31 Mawrth, sylwebu ar y cynnwys yn ôl dymuniad yr aelodau, a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol.

Penderfyniad:

           Derbyn yr adroddiad a cefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

           Bod angen cynnwys amserlen i’r camau gweithredu

           Bod angen adroddiad yn nodi dilyniant ar yr hyn sydd yn cael ei gyflawni

Cofnod:

           Yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS), Safon 11.3 Cyfathrebu Canlyniadau, sy’n nodi bod “yn rhaid i’r prif weithredwr archwilio gyfathrebu canlyniadau gwasanaethau archwilio mewnol i’r bwrdd (Pwyllgor Llywodraethu) a’r uwch reolwyr o bryd i’w gilydd ac ar gyfer pob archwiliad fel y bo’n briodol, cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor o waith archwilio mewnol am y cyfnod hyd 11 Mai 2025. Amlygwyd bod 9 o archwiliadau’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau ac wedi ei gosod ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau: 

  • Bod 7 allan o’r 9 archwiliad yn dangos lefel sicrwydd ‘cyfyngedig’ 
  • Bod pob un o’r archwiliadau ‘cyfyngedig’ yn nodi angen ‘gwell cydymffurfiaeth’ sydd yn awgrymu addasiad bychan 
  • Cynnig bod diweddariad yn cael ei gyflwyno ar gynnydd mewn archwiliadau 
  • Awgrym i osod amserlen i’r camau gweithredu 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Rheolwr Archwilio bydd dilyniant i’r archwiliadau hynny sydd ar lefel ‘cyfyngedig’ yn 2025/26 gydag adroddiad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor gyda diweddariad. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd bod hawl gan y Pwyllgor i alw mewn unrhyw faes archwilio gerbron y Gweithgor Gwella Gwasanaeth 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Goramser Glanhau Stryd a diffyg system dracio ddibynadwy i ddilysu’r oriau gwaith, nododd y Rheolwr Archwilio bod y gwasanaeth bellach yn gweithredu system newydd mwy effeithlon gyda data mwy dibynadwy. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r Tîm Archwilio am eu gwaith trylwyr. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

  • Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol 
  • Bod angen cynnwys amserlen i’r camau gweithredu 
  • Bod angen adroddiad yn nodi dilyniant ar yr hyn sydd yn cael ei gyflawni 

 

 

15.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2024 - 2025 pdf eicon PDF 374 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

           Derbyn yr adroddiad yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2024/25

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn mynegi barn Archwilio Mewnol ar  amgylchedd rheolaethol gyffredinol o fewn yr Awdurdod yn ystod 2024/25 gan ddarparu cyfryw gasgliad archwilio mewnol blynyddol i’r Awdurdod. Nodwyd na all sicrwydd fyth fod yn llwyr ac y mwyaf y gall gwasanaeth archwilio mewnol ei ddarparu i’r Cyngor ydi cyngor rhesymol nad oes gwendidau mawr yn y system gyfan o reolaeth fewnol. Eglurwyd bod canlyniadau’r gwaith a gwblhawyd gan Archwilio Mewnol, ynghyd â ffynonellau sicrwydd eraill, yn cefnogi’r casgliad blynyddol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol yr Awdurdod. 

 

Ar sail gwaith Archwilio Mewnol a gwblhawyd yn ystod 2024/2025, ystyriwyd bod  fframwaith rheolaeth fewnol Cyngor Gwynedd yn ystod y flwyddyn ariannol 2024/2025 yn gweithredu ar lefel sicrwydd rhesymol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethu’r Awdurdod, rheoli risg a rheolaeth fewnol.  

 

Roedd 36 darn o waith wedi eu cynnwys yng nghynllun archwilio addasedig terfynol 2024/2025. Cafodd 33 o aseiniadau eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2025, sy’n cynrychioli 91.67% o’r cynllun. O’r adroddiadau perthnasol o gynllun archwilio 2024/2025 a dderbyniodd lefel sicrwydd, derbyniodd 48.27% ohonynt lefel sicrwydd “Digonol” neu “Uchel”. Derbyniodd 15 archwiliad ‘lefel cyfyngedig’ ac ni dderbyniodd unrhyw archwiliad lefel ‘dim sicrwydd’. 

 

Yng nghyd-destun Rhaglen Sicrwydd Ansawdd a Gwelliant, nodwyd bod canlyniadau’r hunanasesiad o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn cael ei gyflwyno i’r  Pwyllgor maes o law. Ategwyd y byddai’r asesiad allanol yn cael ei gynnal yn 2025/26 gan Gyngor Sir Ddinbych ar sail adolygiad gan gymheiriaid a drefnir gan Grŵp Prif Archwilwyr Cymru. Unwaith y bydd yr asesiad allanol wedi'i gwblhau, bydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghyd â'r rhaglen sicrwydd ansawdd a gwelliant. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad a diolchwyd i Reolwr Archwilio Mewnol a’r Tim am eu gwaith. 

 

Mewn ymateb i sylw bod canlyniadau cyfran o’r archwiliadau mewnol 2024/25 yn derbyn lefel sicrwydd “Digonol” neu well, yn sylweddol is na pherfformiad 2023/24, nodwyd nad oedd y canlyniad yn adlewyrchiad o waith Archwilio Mewnol. Eglurwyd mai mesur corfforaethol y Cyngor o archwiliadau sydd yn destun archwiliad gan Archwilio Mewnol oedd yma ac nid mesurydd perfformiad Archwilio Mewnol, ac felly anodd fyddai cymharu oherwydd yr amrywiaeth yn yr archwiliadau. Ategwyd bod angen edrych ar y sefyllfa a chryfhau trefniadau’r Cyngor gydag awgrym o blethu'r archwiliadau yn agosach gyda’r meysydd sydd ar gofrestr risg y Cyngor. 

 

PENDERFYNIAD: 

 

  • Derbyn yr adroddiad yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2024/25 

 

 

16.

SIARTER ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 120 KB

I ystyried a chymeradwyo’r Siarter

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

           Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Mandad a'r Siarter Archwilio Mewnol

           Cefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.

Cofnod:

Yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS) rhaid llunio Siarter Archwilio Mewnol gyda chynnwys y Siarter yn cyfarch Nodyn Gweithredu Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan CIPFA sydd wedi datblygu Cod Ymarfer ar gyfer Llywodraethu Archwilio Mewnol yn Llywodraeth Leol y DU (y Cod) i gefnogi awdurdodau i sefydlu eu trefniadau archwilio mewnol a darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth ar gyfer archwilio mewnol. 

 

Eglurwyd bod y Cod yn nodi mai prif weithredwr / rheolwr archwilio mewnol sydd â chyfrifoldeb dros baratoi siarter sy'n cydymffurfio â GIAS yn sector cyhoeddus y DU ac y dylai'r Pwyllgor Llywpdraethu ac Archwilio  gael ei fodloni ei fod yn cwmpasu trefniadau llywodraethu ar gyfer archwilio mewnol. Ategwyd bod rhaid i’r Siarter gynnwys elfennau sy’n sicrahu swyddogaeth wedi ei diffinio’n glir ac effeithiol - mandad sy'n nodi'n glir bwrpas a chenhadaeth y swyddogaeth archwilio mewnol; bod diffiniadau o'r termau 'bwrdd' ac 'uwch reolwyr', at ddibenion y swyddogaeth archwilio mewnol a bod y term Sefyllfa Sefydliadol yn diffinio sefyllfa archwilio mewnol o fewn y sefydliad, gan sicrhau bod ganddo awdurdod ac annibyniaeth ddigonol sy'n cynnwys mynediad anghyfyngedig i’r uwch reolwyr a’r bwrdd. 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn nodi ei gyfrifoldeb i “ddarparu ffocws annibynnol a lefel uchel ar ddigonolrwydd trefniadau llywodraethu, risg a rheoli; bod ei rôl wrth sicrhau bod digon o sicrwydd dros lywodraethu, risg a rheolaeth yn rhoi mwy o hyder i'r Cyngor bod y trefniadau hynny'n effeithiol”. Nodwyd hefyd yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Llywodraethu Archwilio Mewnol yn Llywodraeth Leol y DU (2025), bod gweithgareddau archwilio mewnol yn gofyn am fynediad at uwch reolwyr, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, a chael cefnogaeth ganddynt. Mae cefnogaeth yn caniatáu i archwilio mewnol gymhwyso eu mandad a'u siarter yn ymarferol a bodloni disgwyliadau. 

 

Cyfeiriwyd at un ychwanegiad i’r Siarter sef disgwyliad i archwilwyr mewnol gydymffurfio â safonau moeseg a phroffesiynoldeb. Nodwyd y byddai’r Tîm Archwilio yn derbyn hyfforddiant gan fod y safonau newydd yn mynd i dipyn o fanylder yn y meysydd yma. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith trylwyr yn gweithredu’r addasiadau 

 

PENDERFYNWYD 

 

  • Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Mandad a'r Siarter Archwilio Mewnol 
  • Cefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau. 

 

17.

STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL A'R CYNLLUN ARCHWILIO BLYNYDDOL 2025/26 pdf eicon PDF 109 KB

I ystyried cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol 2024/25, ei gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol i gyflawni ei rôl.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

           Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol 2024/25

           Cefnogi Archwilio Mewnol i gyflawni ei rôl.

Cofnod:

Cyflwynwyd, yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS), Strategaeth Archwilio Mewnol sydd yn fodd o sicrhau bod prif weithredwr / rheolwr archwilio mewnol yn datblygu a gweithredu’r strategaeth ar gyfer swyddogaethau archwilio mewnol sy’n cefnogi amcanion strategol a llwyddiant y sefydliad. Eglurwyd bod y Strategaeth Archwilio Mewnol newydd wedi'i datblygu i alinio'r blaenoriaethau, yr amcanion a'r risgiau strategol allweddol sy'n wynebu'r Cyngor i gyd-fynd â gwaith y swyddogaeth archwilio mewnol dros y tair blynedd nesaf. Ystyriwyd y byddai hyn darparu cyfeiriad strategol i'r swyddogaeth archwilio mewnol ac yn cefnogi'r Cyngor yn ei ymagwedd at gyflawni ei amcanion allweddol ac yn dyrannu adnoddau archwilio mewnol yn briodol. 

 

Ynghyd â’r Strategaeth, ac eto yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS), cyflwynwyd Cynllun Archwilio Mewnol sydd eto yn fodd o sicrhau bod prif weithredwr / rheolwr archwilio mewnol yn creu cynllun archwilio mewnol sy’n cefnogi cyflawni amcanion y sefydliad. Eglurwyd bod y Cynllun yn seiliedig ar asesiad o strategaethau, amcanion a chofrestr risg corfforaethol y Cyngor ac  y bydd angen cynhyrchu adroddiad blynyddol, gan gynnwys y casgliad blynyddol ar lywodraethu, rheoli risg a rheolaethau, a pherfformiad archwilio mewnol yn erbyn ei amcanion.  (Y Cod)   

 

Nodwyd, er mwyn i archwilio mewnol barhau i fod yn berthnasol, rhaid addasu i ddisgwyliadau gan sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd ag amcanion y Cyngor. Ategwyd bod y Strategaeth Archwilio Mewnol yn chwarae rôl bwysig wrth sicrhau cydbwysedd rhwng cost a gwerth, gan wneud cyfraniadau ystyrlon at lywodraethu cyffredinol, rheoli risg, a rheolaethau mewnol y Cyngor.  

 

Diolchwyd am yr adroddiad 

 

PENDERFYNWYD 

 

Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Archwilio Mewnol a’r Cynllun Archwilio Blynyddol 

 

18.

ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU A'R YMATEB SEFYDLIADOL - GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 104 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ac  ymateb y Cyngor i’r argymhellion

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru oedd yn amlygu prif ddarganfyddiadau archwiliad i wasanaeth Gofal Cartref Cyngor Gwynedd. Cynhaliwyd yr archwiliad rhwng Medi a Thachwedd 2024 ac fe gyflawnwyd y gwaith ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Cymru a oedd yn adolygu perfformiad yr awdurdod lleol o ran arfer ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth. 

 

Tynnwyd sylw bod gwendidau yn nealltwriaeth y Cyngor o berfformiad y gwasanaeth gofal cartref a’r gorwario parhaus dros y gyllideb a ddyrannwyd. Nodwyd hefyd bod diffyg Cynllun Adran glir gydag uchelgais a cherrig milltir eglur i fesur cyrhaeddant, yn atal goruchwyliaeth a chraffu effeithiol. Yn dilyn yr archwiliad, adnabuwyd pedwar argymhelliad i’r Cyngor fynd i’r afael a hwy. 

 

Ategodd Pennaeth Oedolion, Iechyd a Lles, bod yr adroddiad hefyd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Gofal yn fis Mawrth 2025. Cydnabuwyd bod llefydd i wella a bod canlyniadau’r arolygon wedi dod i gasgliadau weddol debyg. Amlygwyd bod canran uchel iawn o’r materion sy’n cael eu nodi yn faterion sy’n heriol yn genedlaethol neu’n faterion sydd eisoes wedi eu hadnabod, a’r Adran yn ceisio darganfod datrysiadau ar eu cyfer. 

 

Ystyriwyd bod yr adroddiadau yn dod i gasgliad bod yr Adran ar y trywydd cywir ond angen gweithredu yn gyflymach. Tynnwyd sylw at ymateb yr Adran I’r pedwar argymhelliad ynghyd a’r dyddiadau cwblhau. 

 

Diolchwyd i’r Adran am eu gwaith ac am eu hymateb i’r ddau archwiliad. 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau: 

  • Er bod cyfraniad ariannol i lenwi bwlch yn y gyllideb wedi ei dderbyn, bod angen gwneud gwaith pellach i geisio defnyddio adnoddau presennol i leihau’r bwlch i’r dyfodol. 
  • Yn amlwg bod gofynion y gwasanaeth yn heriol, a gofynion ychwanegol yn cael eu gosod ar y gwasanaeth yn flynyddol - a’i tangyllido sydd yma? 
  • Yn croesawu ymateb i leihau’r rhestrau aros - defnydd o daliadau uniongyrchol, sgyrsiau cywir a chefnogaeth gymunedol 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y bydd yr Adran yn mynd ati i annog diwylliant o fentergarwch, creadigrwydd a hyblygrwydd yn y gweithlu (mewn ymateb i’r pedwerydd argymhelliad), ac os oedd trafodaethau wedi eu cynnal gyda gofalwyr am hyn, nodwyd bod sgyrsiau yn digwydd yn lleol. Nodwyd nad cyfrifoldeb o un dasg ac amser gorffen oedd yma bellach, ond mynediad ar wasanaethau sydd ar gael yn lleol. Ategwyd bod  gwydnwch cymunedol yn hanfodol i’r gwasanaeth ac yn rhoi cefnogaeth i unigolion. Tynnwyd sylw at fentrau cymunedol yn Llanberis a Dyffryn Nantlle lle mae elfennau o ddarpariaeth yn cael eu gyrru gan y gymuned leol. 

 

PENDERFYNWYD 

 

Derbyn yr adroddiad ac  ymateb y Cyngor i’r argymhellion 

 

Amlygodd Aled Davies, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant ei fod yn ymddeol ddiwedd Gorffennaf a bod Mari Wynne Jones wedi ei phenodi yn Bennaeth newydd yr Adran. Mynegodd ei werthfawrogiad at waith y Pwyllgorau ac i’r Aelodau am sicrhau'r gorau i Wynedd. 

 

Dymunwyd y gorau i Aled, a diolchwyd iddo am ei waith a’i gefnogaeth dros y blynyddoedd. 

 

19.

ARCHWILIO CYMRU - CRYNODEB ARCHWILIO BLYNYDDOL 2024 A CHYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2025 CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 102 KB

I gynnig sylwadau a derbyn yr adroddiadau

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiadau

Cofnod:

Croesawyd Alan Hughes ac Yvonne Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiadau 

 

  1. Cyflwynwyd Crynodeb Archwilio Blynyddol 2024 oedd yn amlygu’r gwaith a gwblhawyd ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024. Eglurwyd bod cyflwyno crynodeb archwilio yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol ynghyd ag Archwilio’r Cyfrifon yn flynyddol, archwilio trefniadau Gwerth am arian y Cyngor ac asesu os yw’r Cyngor yn cydymffurfio â’r ddyletswydd datblygu gynaliadwy wrth bennu eu hamcanion llesiant a chymryd camau i’w cyflawni. 

 

Tynnwyd sylw at ganfyddiadau adolygiadau ‘Gofal Heb ei Drefnu’, ‘Cynaliadwyedd Ariannol’ a ‘Gofal Cartref’ ynghyd a’r adroddiadau a chynhyrchion cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn. 

 

  1. Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Manwl 2025 Cyngor Gwynedd oedd yn amlygu Datganiad o Gyfrifoldebau Archwilio Cymru. Yng nghyd-destun perthnasedd datganiadau ariannol, amlygwyd y lefelau perthnasedd (cynllunio, perfformiad a throthwy adrodd)  a’r risgiau datganiadau ariannol sylweddol gan nodi bod y ‘risg o wrthwneud gan reolwyr’ yn risg orfodol sydd yn ymddangos ymhob cynllun archwilio. 

 

Bwriad Archwilio Cymru yw cyflwyno canfyddiadau'r datganiadau ariannol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ystod Hydref 2025. 

 

Yng nghyd-destun gwaith archwilio perfformiad arfaethedig, amlygwyd tri maes penodol - Gwaith Thematig: Ymateb i bwysau ar y gweithlu mewn Llywodraeth Leol; Gwaith Rhanbarthol: Defnyddio data wrth osod cyllideb ar gyfer gwasanaethau dan arweiniad y galw a Gwaith Lleol: adolygiad o Drefniadau Rheoli Risg. 

 

Cyfanswm ffi amcangyfrifiedig ar gyfer y gwaith fydd £392,088 (cynnydd yn y gyfradd o 1.7%). Nodwyd nad oes gan Archwilio Cymru'r hawl i wneud elw ac felly byddai unrhwy wahaniaeth mewn ffioedd yn cael ei ad-dalu. 

 

Diolchwyd am yr adroddiadau 

 

PENDERFYNWYD: 

 

Derbyn yr adroddiadau 

 

20.

CYFLWYNO CANFYDDIADAU ARCHWILIAD Y COMISIYNYDD GWYBODAETH (ICO) I DREFNIADAU'R CYNGOR O RAN YMATEB I GEISIADAU A WNEIR O DAN Y DDEDDF RHYDDID GWYBODAETH (2000) A RHEOLIADAU GWYBODAETH AMGYLCHEDDOL pdf eicon PDF 180 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn  a nodi cynnwys adroddiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol yn diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar lefel sicrwydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar drefniadau’r Cyngor. 

 

Eglurwyd yn sgil pryder a fynegwyd o ran perfformiad y Cyngor yng nghyfradd ymateb i geisiadau am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, comisiynwyd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i gynnal archwiliad i drefniadau’r Cyngor. Ategwyd bod y weithred yn un wirfoddol ar ran y Cyngor er mwyn darganfod os oedd diffygion yn y trefniadau fyddai’n arwain at oedi neu ddiffyg cydymffurfiaeth gyda gofynion y Ddeddf. Nodwyd nad yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal rhaglen o archwiliadau, ond yn hytrach yn eu cynnal ar gais neu mewn ymateb i bryder am sefydliad sydd o fewn sgôp y Ddeddf. 

 

Cynhaliwyd yr archwiliad yn ystod Ebrill 2025 a chyhoeddwyd yr adroddiad drafft ar y canlyniadau yn Mai 2025. 

 

Barn yr archwilwyr oedd bod gan y Cyngor drefniadau RHESYMOL o ran ymateb i ofynion y Deddfa ac adnabuwyd bod angen gwella rhai agweddau o drefniadau’r Cyngor. Yn ychwanegol adnabuwyd, ar sail tystiolaeth, bod mesurau ar waith yn cael eu gweithredu’n effeithiol i gyflawni’r amcanion rheoli. 

 

Tynnwyd sylw ar y rhaglen waith manwl sydd wedi ei llunio i fynd i’r afael a’r argymhellion. Ategwyd bod bwriad dychwelyd i’r Pwyllgor i gyflwyno rhaglen ymateb ar gynnydd y cynllun gweithredu yn ôl yr angen. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad a llongyfarchwyd y Tîm ar eu trefniadau rhesymol. Croesawyd bod rhaglen waith a chamau nesaf eglur a phendant wedi eu llunio i ymateb i’r gofynion. 

 

PENDERFYNWYD 

 

Derbyn  a nodi cynnwys adroddiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 

 

21.

BLAENRAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 112 KB

I ystyried y flaen raglen

Penderfyniad:

Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Medi 2025 – Mai 2026

 

Nodyn: Dileu Crynodeb Archwilio Blynyddol Cyngor Gwynedd 2024 gan ei fod eisoes wedi ei gyflwyno

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Mai 2026. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Medi 2025 – Mai 2026 

 

Nodyn: Dileu Crynodeb Archwilio Blynyddol Cyngor Gwynedd 2024 gan ei fod eisoes wedi ei gyflwyno