Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Cynghorwyr Dafydd Meurig, Arwyn Herald Roberts, Meryl Roberts ac Eifion Jones. Roedd y Cyng Wendy Cleaver yn cael problemau technegol ac wedi methu ymuno.  

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Pryder am gostau petai Cyngor Gwynedd yn apelio dyfarniad Cyfarwyddyd Erthygl 4 yr Uchel Lys a sut fydd y Cyngor yn paratoi ymateb / cyfarch y goblygiadau o ddefnyddio arian trethdalwyr i gyfarch y gost.

 

Mewn ymateb i’r pryder, nododd y Pennaeth Cyllid, er yn fater brys, bod y gwasanaeth angen cyfle i baratoi ymateb ffurfiol. Nododd bod y Cyngor yn ystyried apêl yn erbyn y dyfarniad a bod cost yr apêl yn rhan o’r ystyriaethau hynny. Ategodd y bydd diweddariad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol agos a bod y risg yma yn un priodol i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 208 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg o Fedi 2025 fel rhai cywir

5.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 177 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  • Derbyn cynnwys yr adroddiad 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

Tynnwyd sylw at y wybodaeth gefndirol am Gronfa Ymddiriedolaeth FMG Morgan oedd wedi ei gynnwys yn dilyn cais gan y Pwyllgor yng nghyfarfod Medi 2025. Nodwyd bod arddull y wybodaeth wedi ei gyflwyno fel mae’n ymddangos yn nogfennau llywodraethu’r pedair elusen ar wefan Comisiwn Elusennau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn: Cais i gynnwys yr enw llawn / teitlau yn hytrach na defnyddio acronym 

 

6.

CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG pdf eicon PDF 186 KB

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a chraffu’r penderfyniadau’r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

  • Derbyn yr adroddiad 
  • Nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid mewn ymateb i’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor. Pwrpas y cynllun yw gosod allan y rhagolygon am sefyllfa’r Cyngor dros y tair blynedd ariannol nesaf gan gynnig rhagdybiaethau yn ogystal â chynigion i fynd i’r afael â’r bwlch ariannol mae’r Cyngor yn ei wynebu. Eglurwyd bod y ddogfen yn un byw sydd yn cael ei diweddaru yn gyson fel daw gwybodaeth i law ac i’r rhagolygon neu dybiaethau ariannu cenedlaethol a lleol newid. Bydd unrhyw ddiweddariadau yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid nad yw canfod toriadau ar gyllideb a gwasanaethau’r Cyngor yn broses newydd gan fod toriadau bellach yn cael eu cyflwyno yn flynyddol. Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i gynnal gwasanaethau er lleihad yng nghyllidebau adrannau ond un rhan o’r gwaith yw adnabod y bwlch ariannol sydd dros y tair blynedd nesaf yn £40 miliwn a gwaith bellach yn mynd rhagddo i ymdrechu i lenwi’r bwlch drwy gynllun ffeithiol. Pwysleisiwyd bod y rhagdybiaethau yn seiliedig ar sail gwybodaeth y blynyddoedd diwethaf ac y bydd pwysau i wario llai, edrych ar gynyddu incwm a gweithredu cynlluniau arbedion.

 

Yng nghyd-destun y setliad, nodwyd bod diffyg eglurder o gyfeiriad y llywodraeth yn golygu  fod cynllunio ymlaen llaw yn anodd ar gyfer 2026/27 o ganlyniad i negeseuon cymysg bod ychwanegiad i gyllideb y sector gyhoeddus gan Lywodraeth San Steffan ond daw rhybudd na all Llywodraeth yng Nghaerdydd gynyddu gwariant cyhoeddus o dan yr amgylchiadau economaidd presennol. Cyfeiriwyd hefyd at y posibilrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod ‘rollover budget’ ar gyfer 2026/27, sef parhau gyda chyllideb eleni gydag ychwanegiad bychan tuag at chwyddiant yn unig. Amcangyfrifwyd y byddai’r ychwanegiad cyfartalog o ddeutu 1.5% i Wynedd o dan y fformiwla dyrannu. Bydd disgwyliad eglurder ar lefel setliad Gwynedd erbyn Tachwedd 2025.

 

Materion i’w hystyried:

-        Bydd chwyddiant tal blynyddol i athrawon yn 4% yn 2026/27 a 3.4% i staff eraill – rhain yn gyflogau sydd yn cael eu cytuno’n genedlaethol ac mae rheidrwydd i ariannu’r cynnydd blynyddol

-        Bydd cynnydd mewn ardollau

-        Bod cynnydd yn nifer eiddo talu treth, ond dim ffigwr wedi ei gynnwys

-        Rhagweld gostyngiad i’r gyfradd pensiwn yn dilyn ailbrisiad. Y gronfa bensiwn mewn sefyllfa iach ac felly cyfle i ostwng cyfraniadau - rhagweld arbediad yma o £3 miliwn.

-        Bydd pob Adran i gyflwyno achos busnes ar gyfer arian ychwanegol gyda rhesymeg dros yr angen amdano. Bydd pob bid yn cael ei ddadansoddi mewn manylder gyda’r gronfa ar gyfer hyn wedi ei leihau o £8 miliwn i £5 miliwn.

 

Er bod amser ymateb i’r sefyllfa yn brin (o dderbyn y setliad i osod cyllideb gytbwys), cadarnhawyd y gobeithir cyflwyno amrywiol opsiynau ar gamau nesaf i’r dyfodol.

 

Ategodd yr Uwch Swyddog Gweithredol bod canfod arbedion heb effaith bellach yn anodd a gydag ansicrwydd yn y meysydd gofal, anghenion dysgu ychwanegol a digartrefedd, nad oedd angen brysio i wneud toriadau. Adroddwyd y byddai sesiynau briffio yn cael eu trefnu yn rhoi diweddariadau ar y sefyllfa  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 634 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

  • Derbyn yr adroddiad 
  • Nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol 

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet (11-11-2025) a sylwebu fel bo angen. Nodwyd bod yr adroddiad yn amlygu’r sefyllfa hyd ddiwedd Awst 2025.

 

Amlygwyd, yn adroddiad Cyllideb 2025/26 i’r Cyngor Llawn ar 6 Mawrth 2025, adroddwyd fod arbedion gwerth £3.5 miliwn wedi eu proffilio ar gyfer cyllideb 2025/26 sydd yn gyfuniad o werth £100k wedi eu cymeradwyo o’r newydd yn 2025 a £3.4 miliwn oedd wedi eu cymeradwyo mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Adroddwyd, dros y blynyddoedd diwethaf, ac fel sydd wedi ei adrodd i’r Pwyllgor yn gyson, gwelwyd trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai meysydd. Tynnwyd sylw at yr arbedion newydd ynghyd a’r arbedion oedd wedi eu cymeradwyo cyn hynny, megis cynlluniau arbedion hanesyddol am y cyfnod o’r flwyddyn ariannol 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2025/26 gyda 98% o’r arbedion hanesyddol wedi eu gwireddu sef £33.8 miliwn o’r £34.3 miliwn o arbedion, bellach wedi eu gwireddu. Yng nghyd-destun cynlluniau sydd yn parhau heb eu gwireddu mae’r gwerth yn £627 o filoedd, gyda’r mwyafrif ohonynt yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

Yng nghyd-destun cynlluniau arbedion newydd  gwerth £15.6 miliwn, adroddwyd bod 77% o’r arbedion eisoes wedi eu gwireddu gyda 4% pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Er hynny, nodwyd bod risgiau i wireddu’r arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd, megis yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

Adroddwyd, yn dilyn adolygiad diweddar gan y Prif Weithredwr o gynlluniau arbedion, daethpwyd i’r canlyniad fod angen:

·        dileu un cynllun arbedion yn y maes Cyswllt Cwsmer ar gyfer adolygu oriau agor Siop Gwynedd yn y tair prif swyddfa, sydd werth £25k

·        lleihau'r targed incwm o £100k i £20k ar sail dros dro ar gynllun Neuadd Dwyfor gan yr Adran Economi a Chymuned am gyfnod o ddwy flynedd er mwyn rhoi amser i adnabod cyfleoedd i weithredu. Awgrymwyd y bydd yr arbediad yn cael ei ddileu gan ddefnyddio’r ddarpariaeth arbedion a osodwyd o’r neilltu yn y gyllideb gorfforaethol.

 

Wrth grynhoi’r darlun, adroddwyd bod £46 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu (92% o’r £50 miliwn gofynnol dros y cyfnod) ac fe ragwelir y bydd 1.3% pellach yn cael ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol (er bydd oediad a rhai risgiau i gyflawni'r cynlluniau sydd yn weddill).

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

-        Beth yw'r rhesymeg o leihau targed incwm Neuadd Dwyfor?

-        Rhaid bod yn wyliadwrus o’r argymhellion yn y maes Gofal - os na ellir gwireddu’r arbedion rhaid diddymu neu ail adolygu.

-        Bod adrannau bellach yn crafu am lefydd i dorri ac ymrwymiadau cyfreithiol, statudol, sydd angen eu cyflawni, yn cynyddu

-        Bod darparu gwasanaethau a chadw’r balans ariannol yn frwydr parhaus

-        Bod y maes Gofal angen mwy o gyllid ac nid gorfod wynebu mwy o arbedion; y galw am wasanaethau a’r galw statudol yn cynyddu.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2025/26 a blynyddoedd blaenorol 

 

8.

ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 67 KB

I sicrhau bod y camau gweithredu grëwyd mewn ymateb i argymhellion adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

Derbyn yr adroddiad 

 

Nodyn: 

Derbyn adroddiad cynnydd o’r Archwiliad ‘Llif allan o’r Ysbyty’ , Gwanwyn 2026 

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor. Atgoffwyd yr Aelodau bod yr eitem yn un i’w ystyried fel rôl llywodraethu ac nid fel rôl craffu gyda chais i’r Pwyllgor fod yn fodlon bod trefniadau priodol yn ei lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o archwiliadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu.

 

Nodwyd bod y gwaith o ymateb i'r rhan fwyaf o gynigion gwella yn waith parhaus a bod y Grŵp Llywodraethu sydd yn cael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr yn rhoi sylw i’r cynigion gwella ac i’r cynnydd o’r argymhellion. Ategwyd, i’r cynigion hynny sydd yn derbyn casgliad yn nodi ‘wedi ei gwblhau’, wedi ei rannu yn ddau er mwyn adlewyrchu os yw’r argymhellion wedi eu gwireddu neu os ydynt yn waith parhaus ar gyfer yr adran. Adroddwyd bod yr adroddiad hefyd yn gryno o gymharu ag adroddiadau blaenorol a hynny oherwydd bod nifer wedi eu cwblhau ac felly wedi eu dileu, a bod cyflwyniad ffurflen ymateb sefydliadol ffurfiol i archwiliadau, sy’n gosod amserlen bendant, wedi hwyluso’r broses. Cyfeiriwyd at gam ychwanegol sydd yn cael ei gyflwyno, lle bydd y broses Herio a Chefnogi Perfformiad yn gwirio bod adrannau yn gweithredu ar yr hyn a argymhellwyd yn yr ymateb sefydliadol.

 

Tynnwyd sylw at archwiliad ‘Gofal Brys ac Argyfwng: Llif allan o’r Ysbyty’ gan nodi bod y Pwyllgor i dderbyn ‘diweddariad pan yn amserol’. Amlygwyd bod y Bwrdd Rhanbarthol wedi derbyn adroddiad cynnydd yn ystod Gwanwyn 2025 ac yn dilyn hynny gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad cynnydd arall ‘ymhen deuddeg mis’. Cynigiwyd opsiwn o rannu’r adroddiad cynnydd gwreiddiol neu oedi hyd Gwanwyn 2026 i dderbyn adroddiad cynnydd mwy diweddar.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad 

 

Nodyn: 

Derbyn adroddiad cynnydd o’r Archwiliad ‘Llif allan o’r Ysbyty’ , Gwanwyn 2026 

 

9.

DIWEDDARIAD CHWARTEROL RHEOLAETH TRYSORLYS pdf eicon PDF 192 KB

I dderbyn a nodi’r wybodaeth.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2025/26 hyd 30 Mehefin 2025, yn erbyn Strategaeth Rheolaeth Trysorlys 2025/26 a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn Mawrth 2025. Nodwyd, yn unol â gofynion y strategaeth bod gofyn i’r Rheolwr Buddsoddi adrodd ar ddangosyddion darbodus rheoli’r trysorlys yn chwarterol.

 

Adroddwyd bod y cyfnod wedi bod yn un prysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor ac ni wnaeth unrhyw sefydliad wnaeth y Cyngor fuddsoddi arian gyda methu â thalu nôl ac mae incwm llog rheolaidd yn cael ei dderbyn

 

Ar 30 Mehefin 2025, roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd y lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian y Gronfa Bensiwn.  Nodwyd nad oedd unrhyw symud sylweddol wedi bod yn lefel y benthyciadau yn y 3 mis dan sylw; y Cyngor yn parhau gyda’r strategaeth o ddefnyddio adnoddau mewnol cyn benthyca’n allanol. Adroddwyd er hynny, bod y Cyngor wedi talu’n ôl fenthyciad hanesyddol o £16.2 miliwn ac o ganlyniad yn dod ag arbedion cadarnhaol i’r Cyngor. Yng nghyd-destun gweithgareddau buddsoddi, ategwyd bod y Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Awdurdodau Lleol, Cronfeydd Marchnad Arian, Swyddfa Rheoli Dyledion a Chronfeydd wedi’i pwlio, a rhain yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi ei  wneud gan y Cyngor ers nifer o flynyddoedd bellach.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion, adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cyngor - hynny yn newyddion da, ac yn amlygu rheolaeth gadarn dros yr arian.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw pam yr angen i fenthyca os oes arian digonol yn y reserfau, nodwyd bod y benthyciadau hyn yn rhai hanesyddol ac nad oedd y Cyngor wedi benthyca ers 20 mlynedd.  Nodwyd bod cymal cosb y cytundebau benthyg yn golygu eu bod fel arfer yn rhy gostus i’w terfynu’n gynnar, ond bod cyfle wedi codi i ad-dalu benthyciad o £16.2 miliwn yn dilyn ail broffilio a thrafodaethau gydag Arlingclose.  Mae’r cyfle i ad-dalu’r benthyciad yma yn gynnar yn un o werth.”

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth 

 

 

10.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 340 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2025/26, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

·       Derbyn yr adroddiad 

·       Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol 

 

Nodyn: 

·       Cais i ail ystyried gwell telerau ar gyfer denu mwy o weithwyr i’r maes Gofal 

·       Creu llwybr cyfathrebu ac ystyried modd o rannu canfyddiadau archwiliadau mewnol mewn Cartrefi Gofal gydag Arolygaeth Gofal Cymru 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 12 Mai 2025 hyd 28 Medi 2025. Amlygwyd bod 3 o archwiliadau cynllun gweithredol 2024-25 wedi eu cwblhau a 6 o archwiliadau cynllun gweithredol 2025-26 wedi eu cwblhau ac wedi ei gosod ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig.

 

Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

 

Clybiau brecwast

·        aelodau staff (yn ystod yr ymweliadau) heb gwblhau hyfforddiant Tân nac unrhyw un o fodiwlau e-ddysgu mandadol y Cyngor – hyn yn fater sylfaenol

·        polisi alergedd, canllawiau mewn perthynas â darparu offer piws i bob plentyn sydd gydag alergedd

 

Plas Hedd / Plas y Don

·        Staff Gofal wedi gorfod gweithio shifftiau yn y gegin er mwyn sicrhau fod preswylwyr yn cael eu bwydo

·        Nad oedd modd cadarnhau sawl aelod staff sydd wedi darllen y Polisi Diogelu na wedi cwblhau modiwlau E-ddysgu mandadol - hyn yn fater sylfaenol, er derbyn diffyg adnoddau, oes cysondeb yn yr un cartrefi, oes gwelliant o flwyddyn i flwyddyn? Gall hyfforddiant arbed y risg o ddamweiniau a chostau apêl!

·        Bod yr un Cartrefi Gofal yn torri rheoliadau yn gyson – hyn yn bryder mawr

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd bod cael gweithwyr maes i gwblhau modiwlau hyfforddiant mandadol yn broblem drwy’r Cyngor a bod y Panel Diogelu a’r Grŵp Gweithredol Diogelu yn ymwybodol o’r broblem ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth drwy’r Cyngor i geisio datrys modd o sicrhau bod y gweithwyr yn cael at y wybodaeth. Amlygwyd bod côd QR yn cael i dreialu fel un dull o gael gweithwyr i gwblhau modiwlau ar eu ffonau symudol a bod gwaith yn cael ei wneud i annog hyfforddiant wyneb yn wyneb yn hytrach na chwblhau modiwl ar lein.

 

Yng nghyd-destun bod staff heb gymhwyster yn gweithio mewn ceginau yn bryder, nodwyd bod recriwtio staff yn parhau yn broblem o fewn y maes gofal ac yn derbyn nad oedd y sefyllfa yn ddelfrydol. Ategwyd bod y Gweithgor Gwella Rheolaethol wedi cynnal archwiliad gyda rheolwyr rhai o’r Cartrefi Gofal a bod gwelliannau wedi eu cynnig. Nodwyd bod yr archwiliadau yn cael eu cynnal mewn cylch tair blynedd a bod tri o’r cartrefi wedi derbyn archwiliad dilynol gyda bwriad yntau cyflwyno adroddiad dilyniant i’r Pwyllgor neu i’r Gweithgor Gwella Rheolaethol drafod materion penodol mewn manylder gyda’r Rheolwyr cyn adrodd i’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os yw Archwilio Mewnol yn rhannu eu canfyddiadau gydag Arolygaeth Gofal Cymru ac os oes llwybr cyfathrebu clir gyda’r Arolygaeth, nodwyd bod Archwilio Mewnol yn edrych ar adroddiadau’r Arolygaeth i gartrefi i weld os oes camau gweithredu wedi eu cynnwys a thystiolaeth o welliant, ond nad oedd Archwilio Mewnol yn rhannu canlyniadau eu harchwiliadau gyda’r Arolygaeth. Ategwyd bod modd ystyried hyn a chanfod llwybr cyfathrebu clir i rannu canfyddiadau.

 

Nododd y Cadeirydd bod Rheolwyr y Cartrefi Gofal wedi mynegi yn y  Gweithgor Gwella Rheolaethol bod addasiadau mewn telerau gwaith wedi arwain at broblemau staffio a recriwtio. Awgrymwyd y dylid ail edrych  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2025/26 pdf eicon PDF 188 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2025/26, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad.

 

Penderfyniad:

Derbyn cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio 2025/26

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2025/26. Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd a’r amser a dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd bod 13.33%, allan o’r 45 archwiliad unigol sydd yn y cynllun diwygiedig, bod 6 wedi ei ryddhau yn derfynol / cwblhau, neu wedi cau. 

 

Tynnwyd sylw at sesiwn hyfforddiant ‘Safonau Archwilio Mewnol Byd Eang’, (Ionawr 2026) sydd wedi ei drefnu ar gyfer aelodau’r Pwyllgor fel cyfle iddynt drafod agweddau gwaith a rôl y Pwyllgor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi mai tîm bychan iawn oedd yma i gyfarch ystod eang o feysydd.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio 2025/26 

 

 

12.

RHAGLEN GYFALAF 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2025 pdf eicon PDF 1 MB

I dderbyn y wybodaeth, ystyried y risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau i’r Cabinet

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

Derbyn yr adroddiad a chytuno ar yr argymhellion i’r Cabinet eu hystyried 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn amlygu rhaglen gyfalaf (sefyllfa diwedd Awst 2025) ynghyd a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Gofynnwyd i’r  Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet 11 Tachwedd 2025.

Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £152.9 miliwn am y 3 blynedd 2025/26 - 2027/28 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net sydd  oddeutu £47.9 miliwn ers y gyllideb wreiddiol, gyda £36.9 miliwn ohono yn deillio o ail broffilio ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol.

Ategwyd,

·        Bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi £100.7 miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £47.4 miliwn (47%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol.

·        Bod £12.4 miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28.

·        bod y prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol yn cynnwys £4.5 miliwn Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill), £3.5 miliwn Cynlluniau Cronfa Ffyniant Bro, £1.2 miliwm Darpariaeth Cydariannu Prosiectau Gofal, £1.0 miliwn Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol a £1.0 miliwn Cynlluniau Grantiau ac Eraill Tai

 

Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi llwyddo eu denu ers yr  adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys, £2.9 miliwn – Grantiau o'r Gronfa Trafnidiaeth Lleol (LTF) a'r Gronfa Teithio Llesol (ATF) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer nifer o wahanol gynlluniau, £2.0 miliwn – Grant Ynni Cymru – gan Lywodraeth Cymru tuag at fatris trydanol a gwaith ym Mhlas Ogwen, £1.8 miliwn – Grant Cronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – telir swm i Gyngor Gwynedd i’w ddosrannu ar draws siroedd gogledd Cymru, £1.4 miliwn – Grant Cyfalaf Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru  a £0.8 miliwn – Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

 

Cyfeiriwyd at y wybodaeth am Ddangosyddion Darbodus Cyfalaf y Cyngor gan amlygu, yn unol â’r Côd Darbodus gan CIPFA, bod rhaid adrodd ar y wybodaeth - ategwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio yn llawn gyda pholisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a chytuno ar yr argymhellion i’r Cabinet eu hystyried 

 

 

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL AC HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD 2024/25 pdf eicon PDF 221 KB

I ystyried cynnwys y ddogfen drafft ar gyfer 2024/25 gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

Derbyn yr adroddiad drafft 

 

 

Nodyn: 

·       I ystyried effaith gostyngiad mewn niferoedd pobl ifanc a chynnydd ym mhoblogaeth hŷn y Sir ar wasanaethau’r Cyngor 

·       Cyfeirio at waith sydd yn cael ei wneud i gynyddu ymatebion arolwg staff 

·       Cynnwys esiamplau a thystiolaeth i roi sylwedd i rai brawddegau yn yr adroddiad 

 

Cofnod:

Croesawyd y Cyng. Nia Jeffreys ( Arweinydd y Cyngor) a Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd drafft o Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2024/25 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor gan ofyn iddynt gynnig sylwadau ac argymhellion ar gynnwys yr adroddiad. Adroddwyd bod yr Hunanasesiad yn ofyn statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sydd hefyd yn nodi bod angen cynnwys y Pwyllgor yn y broses hunanasesu.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod eu sylwadau a’u hargymhellion ar y materion drafft o gyfarfod mis Mai 2025 wedi eu hymgorffori yn yr Hunanasesiad ac y byddai unrhyw sylwadau pellach yn yr un modd yn cael eu cynnwys gyda disgwyliad i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn eu hystyried.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·        Bod cynnydd  o 1% yn nifer y boblogaeth o oedran gweithio a chynnydd yn nifer bobl 65 oed a throsodd yn y Sir yn awgrymu goblygiadau mawr i’r gwasanaeth gofal ac iechyd i’r dyfodol. A oes astudiaethau neu ymchwil wedi ei wneud i edrych ar yr effeithiau hyn?

·        Bod Cynllun Economi Ymwelwyr Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 wedi ei gyhoeddi,  ond beth yw allbwn y cynllun hwnnw?

·        Bod cyfeiriad at gyflwyno Erthygl 4, ond a oes angen ychwanegu sylw at y sefyllfa bresennol?

·        Holiadur Lles Staff / Arolwg Staff – angen ceisio cyrraedd at holl weithwyr y Cyngor i gael gwell ymateb.

·        Yn wahanol i adroddiadau eraill sydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor, bod yr adroddiad yn un o ddyhead yn hytrach na datganiad o ffaith. Y ddogfen yn hunan-hyrwyddol - angen adlewyrchiad mwy realistig, ffeithiol a defnyddiol ac awgrym i gynnwys esiamplau a thystiolaeth i roi sylwedd i rai brawddegau yn yr adroddiad

·        Cynllun Penrhos - angen hyrwyddo datblygiad gwasanaethau gofal ym Mhenrhos ac nid tai yn unig

·        Strategaeth Llifogydd - croesawu ystyriaeth i’r brif ffordd A499

 

Mewn ymateb i’r sylw bod yr adroddiad efallai yn hunan-hyrwyddo a bod angen bod yn fwy ‘gonest’, nodwyd bod yr adroddiad yn amlygu cryfderau, ond bod  gwendidau a risgiau hefyd wedi eu cynnwys. Derbyniwyd yr awgrym i gynnwys enghreifftiau a thystiolaeth i gryfhau rhai elfennau o’r adroddiad. Yng nghyd-destun y cynnydd ym mhoblogaeth hŷn y Sir a gostyngiad yn niferoedd pobl ifanc, nodwyd bod y Prosiect Llechen Lân wedi edrych ar hyn a bod cyfeiriad at y gwaith hwnnw yn yr adroddiad eisoes. Mae’r Prosiect hefyd yn cynnwys cynlluniau er mwyn ceisio ymateb i’r sefyllfa.

 

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Pwyllgor ac i’r swyddogion am eu gwaith, sydd yn cynnwys ystod eang o bynciau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad drafft 

 

Nodyn: 

·        I ystyried effaith gostyngiad mewn niferoedd pobl ifanc a chynnydd ym mhoblogaeth hŷn y Sir ar wasanaethau’r Cyngor 

·        Cyfeirio at waith sydd yn cael ei wneud i gynyddu ymatebion arolwg staff 

·        Cynnwys esiamplau a thystiolaeth i roi sylwedd i rai brawddegau yn yr adroddiad 

 

14.

BLAENRAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 123 KB

I ystyried y flaen raglen

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

·       Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Tachwedd 2025 Hydref 2026 

·       Cais am ddiweddariad o waith yn Adran Gyllid ar lunio polisi eithriadau i'r premiwm ar y dreth gyngor yn achos busnesau llety hunan ddarpar sy'n methu cyrraedd y trothwy gosod 182 diwrnod. 

 

Nodyn: 

Dileu eitem Argymhellion a Chynigion Gwella Adroddiadau Archwilio Allanol mis Tachwedd gan ei fod wedi ei drafod Hydref 2025 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Medi 2026.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag ystyried ychwanegu eitemau i’r blaen raglen, nodwyd bod y Cadeirydd yn cynnal trafodaethau gyda’r Pennaeth Cyllid i drafod y blaen raglen gan sicrhau nad yw’r eitemau yn gorgyffwrdd ag eitemau Pwyllgorau Craffu'r Cyngor. Ategwyd bod nifer o’r eitemau yn rhai cylchol a statudol, ond bod lle i ystyried mwy o eitemau os ydynt yn briodol i waith y Pwyllgor.

 

Gwnaed cynnig i dderbyn diweddariad ar waith polisi eithrio premiwm.

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Tachwedd 2025 – Hydref 2026 

·        Cais am ddiweddariad o waith yn Adran Gyllid ar lunio polisi eithriadau i'r premiwm ar y dreth gyngor yn achos busnesau llety hunan ddarpar sy'n methu cyrraedd y trothwy gosod 182 diwrnod. 

 

Nodyn: 

Dileu eitem Argymhellion a Chynigion Gwella Adroddiadau Archwilio Allanol mis Tachwedd gan ei fod wedi ei drafod Hydref 2025