Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027

Penderfyniad:

ETHOL RHYS PARRY YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2026 - 2027

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Rhys Parry yn gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer

2026 / 27

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027

Penderfyniad:

ETHOL DEWI LEWIS YN DDIRPRWY GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2026 - 2027

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Dewi Lewis yn ddirprwy gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2026 / 27

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 180 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15fed o Ionawr 2026 a’r 3ydd o Chwefror 2026, fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15fed o Ionawr 2026 a’r 3ydd o Chwefror 2026 fel rhai cywir.

 

7.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 279 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau.

Penderfyniad:

  • Derbyn cynnwys yr adroddiad
  • Diweddariad i’r Pwyllgor ar adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan Arolygaeth Gofal Cymru ac Estyn – Archwiliad ar y Cyd (Tachwedd 2025) i’w gyflwyno i gyfarfod Gorffennaf 2026

 

Nodyn: Defnyddio’r geiriau ‘wedi ei weithredu’ yn hytrach na’r gair ‘dileu’  yn yr adroddiad i amlygu sefyllfa fwy calonogol

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Chynllun Ymateb y Cyngor i’r Adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder ac o gymeradwyo’r cynllun ymateb bod y mater wedi ei ddileu o’r daflen weithredu, sut felly bydd y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau cynnydd, nododd y Pennaeth Cyllid bod sylwadau’r Pwyllgor wedi eu cynnwys mewn adroddiad i’r Cabinet ac i gyfarfod Arbennig o’r Cyngor ac felly’n addas nodi bod y mater wedi ei ‘ddileu’. Er hynny, amlygodd bod adroddiad pellach wedi ei gyflwyno i’r  Cabinet ar yr 18 o Fai 2026, ‘Comisiynu Ymchwiliadau’ a bod angen ystyried pa elfennau o’r adroddiad hwnnw fydd yn briodol i’w cyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Pwysleisiodd bod bwriad corfforaethol i gadw llygad ar y gweithredu.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

·        Bod diweddariad ar adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan Arolygaeth Gofal Cymru ac Estyn – Archwiliad ar y Cyd (Tachwedd 2025) i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Gorffennaf 2026

 

Nodyn: Defnyddio’r geiriau ‘wedi ei weithredu’ yn hytrach na’r gair ‘dileu’  yn yr adroddiad i amlygu sefyllfa fwy calonogol

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2025/26 pdf eicon PDF 325 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Penderfyniad:

  • Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan gyn-gadeirydd y Pwyllgor mewn ymateb i ganllawiau CIPFA sy’n yn nodi, ‘y dylai’r pwyllgor baratoi adroddiad blynyddol sy’n rhoi sicrwydd i bawb sy’n gyfrifol am lywodraethu ei fod yn cyflawni ei bwrpas ac yn gallu dangos effaith’. Roedd yr adroddiad yn cwmpasu gwaith y Pwyllgor dros 2025 / 26 ac yn amlygu sut bu i’r Pwyllgor gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac ychwanegu gwerth i drefniadau llywodraethu Cyngor Gwynedd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynwyd barn amrywiol am swmp sylweddol y cynnwys ac awgrymwyd defnyddio fformat pwyntiau bwled i’w gwneud hi’n haws i’r darllenydd ei ddarllen. Ystyriwyd y byddai cynnwys llai o wybodaeth yn ennyn mwy o drafodaeth ac yn codi pryder ynglŷn â’r hyn oedd wedi ei adael allan. Cytunwyd, er byddai dogfen lai, yn fanteisiol, bod rhaid rhannu gwybodaeth fanwl, llawn a thryloyw i amlygu gwaith y Pwyllgor i’r cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

9.

CYFRIFON TERFYNOL 2025/26 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 280 KB

Derbyn y wybodaeth, ystyried unrhyw risgiau sy’n deillio o’r gwir wariant ac incwm yn erbyn cyllideb 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

• Derbyn yr adroddiad a nodi’r risgiau perthnasol

• Gwahodd Penaethiaid yr Adrannau hynny sydd yn gorwario i’r Pwyllgor i adrodd ar y gorwariant

• Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor ar gostau cyfreithiol Erthygl 4

 

Cofnod:

Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2025/26, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant yr adrannau unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau oedd yn amlygu’r symiau i’w ‘cario ymlaen’ ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ynghyd â’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. 

 

·        Gwariant yn y meysydd lleoliadau all-sirol plant, gwastraff, gofal preswyl a gofal cartref wedi parhau’n uwch na’r gyllideb a ddyrannwyd iddynt.

·        Sefyllfa ffafriol ar nifer o gyllidebau corfforaethol yn cynorthwyo i leddfu'r sefyllfa ariannol ar gyfer y Cyngor yn ei gyfanrwydd.

·        Bod angen defnyddio £3.2 miliwn o’r Gronfa Strategaeth Ariannol i fantoli sefyllfa o ddiffyg ariannol yr adrannau.

 

Adran Oedolion Iechyd a Llesiant: diffyg cyllidebol yr adran leihau i £1.4 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Pwysau ar y gwasanaethau darparu yn parhau ac yn gyfrifol am £1 miliwn o’r pwysau adrannol, sy’n bennaf ar orwariant staff a defnydd o staff asiantaeth ar ofal preswyl. Y pwysau’n parhau hefyd ar ochr breswyl gwasanaethau Iechyd Meddwl ond gwelwyd gwelliant i sefyllfa ariannol pobl hŷn a’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu. Ceir hefyd arbedion a thoriadau gwerth £1.5 miliwn heb eu gwireddu. 

 

Adran Plant a Theuluoedd: Ers adolygiad Tachwedd bu cynnydd o 11  lleoliad all-sirol oedd yn cynnwys achosion eithriadol o leoliadau heb gofrestriad, sy’n fwy costus, ac  wedi arwain at gynnydd yn y diffyg cyllidebol adrannol o £1.9 miliwn i £3.4 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Gwelwyd pwysau cynyddol hefyd ar gyllideb y Gwasanaeth Ôl-16 ac ar gefnogaeth cynlluniau cefnogol a gweithwyr maes. Er hynny bu lleihad yn y pwysau ar Gwasanaeth Derwen sy’n parhau i fod yn gorwario £443k ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Adran Economi / Cwmni Byw’n Iach; Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cwmni Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Cyngor uwchlaw’r taliad cytundebol. Er bod y swm yn is na swm y flwyddyn ddiwethaf, bydd y swm gofynnol yn £269k erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Adran Priffyrdd Peirianneg ac YGC; diffyg cyllidebol o £407k gyda lleihad yn y gwaith sy’n cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol wedi cael effaith negyddol ar incwm gwasanaethau Priffyrdd. Yn Bwrdeistrefol, cyfuniad o bwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau toiledau cyhoeddus, tra bod colledion incwm ym meysydd cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus.

 

Adran Amgylchedd; diffyg cyllidebol o £1.38 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn, gyda thuedd gorwariant yn y maes gwastraff yn parhau ac yn gyfrifol am £1.26 miliwn o’r sefyllfa adrannol. Er bu lleihad mewn diffyg incwm parcio ers y llynedd, mae’r diffyg yn parhau yn £464k. Adroddwyd bod nifer o gynlluniau arbedion mewn nifer o wasanaethau gwerth £1.27 miliwn yn llithro. Gorwariant yn y maes gwastraff i’w gyllido o’r enillion ail-ariannu Parc Adfer ac incwm o ardoll ar ddeunyddiau pacio i gynhyrchwyr a mân-werthwyr.

 

Adran Tai ac Eiddo; pwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety argyfwng yn parhau, gyda gwariant ar y maes yn £6.1 miliwn eleni, sydd yn gyson â 2024/25. Y sefyllfa ariannol yn dilyn cyllideb ychwanegol o £4.2 miliwn sydd wedi ei ddyrannu o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

RHAGLEN GYFALAF 2025-26 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2026) pdf eicon PDF 273 KB

I dderbyn y wybodaeth, ac ystyried y risgiau yn ymwneud â’r rhaglen gyfalaf

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn y wybodaeth a nodi’r risgiau yn ymwneud â’r rhaglen gyfalaf

 

Cofnod:

Amlygodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau mai prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (sefyllfa 31/03 /2026), a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet 19 Mai 2026 lle cymeradwywyd yr holl argymhellion. Gofynnwyd i’r Pwyllgor dderbyn y wybodaeth ac ystyried y risgiau oedd yn ymwneud a’r rhaglen gyfalaf.

 

Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £164.9 miliwn am y 3 blynedd 2025/26 - 2027/28 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £12.7 miliwn ers yr adolygiad diwethaf.

 

Prif gasgliadau’r adolygiad: y Cyngor wedi llwyddo i wario £83.8 miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £52.7 miliwn (63%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol.

 

Eglurwyd bod £21.9 miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28 a’r prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol yn cynnwys:

·        £10.9 miliwn Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill)

·        £6.1 miliwn Cynlluniau Cronfa Ffyniant Bro

·        £3.2 miliwn Cynlluniau Rheoli Carbon a Phaneli Solar

·        £3.2 miliwn Adnewyddu Cerbydau ac Offer

 

Yn ogystal, llwyddodd y Cyngor i ddenu grantiau ychwanegol ers yr adolygiad diwethaf, oedd yn cynnwys y grantiau canlynol:

·        £3.2 miliwn - Grant Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) gan Lywodraeth Cymru.

·        £2.4 miliwn – Grant ychwanegol Cynnal a Chadw Ysgolion 2025/26.

·        £2.3 miliwn – Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

·        £1.8 miliwn – Grant gan Lywodraeth Cymru tuag at  Hwb Cymunedol Anabledd Dysgu, Canolfan Dolfeurig.

 

Cyfeiriwyd at y wybodaeth am Ddangosyddion Darbodus Cyfalaf y Cyngor ac amlygwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio gyda’r polisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r amrywiaeth mewn grantiau sydd ar gael i adrannau a bod hyn yn dueddol o fod yn anwastad gyda rhai adrannau’r Cyngor yn derbyn grantiau yn haws nag eraill, cytunwyd bod rhai adrannau yn llwyddiannus mewn rhai meysydd penodol a nodwyd bod elfen o’r ceisiadau yn ddibynnol ar yr hyn sydd ar gael ac yr hyn mae’r Llywodraeth yn ei wahodd. Ategwyd bod elfen o risg gyda rhai grantiau gan nad ydynt bob amser yn alinio gyda blaenoriaethau’r Cyngor a bod y rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu’r blaenoriaethau hynny.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Pam ennyn cystadleuaeth am grant? Onid gwell fyddai i’r Llywodraeth roi'r arian i’r Cynghorau yn y lle cyntaf?

·        Pwysig bod pob adran yn gwneud cynnig am y grantiau sydd ar gael

·        Bod y grantiau a dderbyniwyd ar gyfer cynlluniau cyfalaf i’w croesawu – yn newyddion da ac yn arwain at waith a chyflogaeth yn y Sir

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn y wybodaeth a nodi’r risgiau yn ymwneud â’r rhaglen gyfalaf

 

11.

CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2026 pdf eicon PDF 128 KB

Cyflwyno:

·        Adroddiad Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2025/26

 

·        Ffurflen Swyddogol Flynyddol o’r Cyfrifon, wedi’i ardystio, ond cyn Archwiliad

 

I dderbyn a  chymeradwyo’r cyfrifon

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Cymeradwyo:

 

           Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2025/26

           Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026, yn amodol ar archwiliad gan Archwilio Cymru

           Cadeirydd i arwyddo’r ffurflen yn electroneg

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau.  Eglurwyd, yn unol â’r gofynion statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964 bod rhaid i Cyngor Gwynedd, fel awdurdod harbyrau, ddarparu datganiad cyfrifon blynyddol sy’n ymwneud â gweithgareddau harbyrau Gwynedd. Gyda throsiant yr harbyrau yn is na £2.5m, fe’i hystyriwyd yn gorff llywodraeth leol llai o faint ac felly bod gofyn cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru i gwrdd â’r gofynion statudol.

           

Cyfeiriwyd at yr adroddiad alldro, oedd yn egluro sefyllfa derfynol incwm a gwariant yr Harbyrau ar gyfer 2024/25, ac amlygwyd bod £22k o danwariant ar ddiwedd y flwyddyn. O’r swm yma, adroddwyd bod nifer o benawdau’r gyllideb yn tanwario ac yn cyfrannu at y sefyllfa oedd yn cynnwys costau cyflogi o (£500), cynnal a chadw'r Adran Eiddo (£16k) a’r gyllideb Arolwg Offer Arbenigol (£8k); roeddynt hefyd yn rhagori ar ffioedd a rhenti am y flwyddyn o bron i (£7k). Yng nghyd-destun gorwario, sydd yn arwain at leihad yn y tanwariant, mae costau trydan a chostau offer, arwyddion a  rhybuddion.

 

Cyfeiriwyd at wariant un tro o £42k ar Swyddfa Harbwr Porthmadog oedd wedi cael ei gyllido o gronfeydd.

 

Tynnwyd sylw at ffurflen safonol yr archwilwyr allanol ynghyd a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, sy’n sicrhau system rheolaeth fewnol gadarn. Amlygwyd bod y cyfrifon eisoes wedi bod yn destun archwiliad mewnol a bellach wedi eu hanfon at Archwilio Cymru i’w harchwilio. Ategwyd, mai dim ond os bydd angen gweithredu newidiadau yn dilyn archwiliad y bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Bod costau hyfforddiant staff yn ymddangos yn uchel

·        O ystyried defnydd yr Harbyrau, dylent fod yn gwneud arian

·        Nad oedd modd craffu perfformiad pob harbwr yn unigol – adroddiad cyfansawdd sydd yma

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad

 

Cymeradwyo:

·        Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2025/26

·        Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026, yn amodol ar archwiliad gan Archwilio Cymru

·        Cadeirydd i arwyddo’r ffurflen yn electroneg

 

 

12.

ADRODDIAD CHWARTEROL RHEOLAETH TRYSORLYS pdf eicon PDF 173 KB

I ystyried yr adroddiad fel gwybodaeth

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym Mawrth 2026 cymeradwywyd y Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y flwyddyn 2026/27. Nodwyd bod y Strategaeth yn gofyn i’r Rheolwr Buddsoddi adrodd ar ddangosyddion darbodus rheoli’r trysorlys yn chwarterol gydag adolygiad o’r flwyddyn ariannol llawn hefyd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor pan yn amserol.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad gerbron yn rhoi diweddariad ar y cyfnod hyd at 31.12.2025

 

Adroddwyd bod y cyfnod wedi bod yn un sefydlog gyda’r Cyngor wedi buddsoddi arian a chynhyrchu incwm llog sylweddol; bod y sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2025 yn gryf iawn gyda’r Cyngor mewn sefyllfa buddsoddiadau net a hynny oherwydd y lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol, oedd hefyd yn cynnwys arian y Gronfa Bensiwn.  Nodwyd, ers 31 o Fawrth 2025 penderfynwyd ad-dalu benthyciad hanesyddol o £16.2m gan y banc oherwydd termau ffafriol ac fe alluogodd y Strategaeth i’r Cyngor leihau costau benthyca net (er gwaethaf yr incwm buddsoddi a gollwyd) a lleihau risg trysorlys cyffredinol y Cyngor.

 

Cyfeiriwyd at y Dangosyddion Darbodus gan dynnu sylw penodol at y Meincnod Ymrwymiadau. Eglurwyd bod y Cyngor yn disgwyl parhau i fenthyca uwchlaw’r meincnod hyd at 2026 a hynny oherwydd bod y Cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn gyda’r llif arian hyd yma, wedi bod yn is na'r rhagdybiaethau a wnaed pan fenthycwyd yr arian. Erbyn 2027 rhagdybiwyd bydd angen benthyca swm bychan iawn, a hynny ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac felly bydd posib ariannu hyn drwy fenthyca tymor byr ac nad oes angen benthyca yn y tymor hir yn seiliedig ar y rhagamcanion cyfredol.

 

Nodwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

13.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 437 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod hyd 31 Mawrth 2026, sylwebu ar y cynnwys yn ôl dymuniad yr aelodau, a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol.

Penderfyniad:

 

·       Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol – cais penodol i ailymweld a threfniadau Fflyd Defnydd Tanwydd.

·       Galw materion Cludiant Ysgolion, Clybiau Brecwast a Threfniadau Tân gerbron y Gweithgor Gwella Gwasanaeth i gael edrych yn fanylach ar y pryderon

·       Enwebu Rhys Parry (Cadeirydd) Dewi Lewis (Is-gadeirydd) ynghyd a’r Cynghorwyr Richard Glyn, Menna Baines ac Ioan Thomas fel aelodau ar y Gweithgor

·       Bod adroddiad ar Reolaeth Categori – Amgylchedd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor

 

Cofnod:

Yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS), Safon 11.3 Cyfathrebu Canlyniadau, sy’n nodi bod “yn rhaid i’r prif weithredwr archwilio gyfathrebu canlyniadau gwasanaethau archwilio mewnol i’r bwrdd (Pwyllgor Llywodraethu) a’r uwch reolwyr o bryd i’w gilydd ac ar gyfer pob archwiliad fel y bo’n briodol, cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor o waith archwilio mewnol am y cyfnod o 26ain o Ionawr 2026 hyd 31 Mawrth 2026. Amlygwyd bod 12 o archwiliadau’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau ac wedi ei gosod ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig.

 

Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro a rhoddwyd cyfle i’r Aelodau holi neu wneud sylw ar y canfyddiadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Dilyniant Cludiant Ysgolion - lefel sicrwydd digonol. Er bod yr archwiliad yn ymwneud yn bennaf a materion ariannol, bod angen ystyried yr elfen diogelu a chydamcanion ysgolion megis presenoldeb a chyrraedd / gadael  y safle yn saff. Angen sicrhau nad oes gwyro oddi wrth drefniadau sefydledig i gyrraedd amcanion eraill.

·        Dilyniant Clybiau Brecwast - lefel sicrwydd cyfyngedig. Pryder am ddiffyg cysondeb gwybodaeth yn ymwneud ag alergeddau a all arwain at fater difrifol. Angen sicrhad bod y camau gweithredu yn ddigon cadarn.

·        Trefniadau Tân - lefel sicrwydd digonol. Bod angen dilyn i fyny ar y camau gweithredu gan sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau - hyn yn greiddiol i ddiogelwch gweithwyr

·        Diogeliadau Amddifadu Rhyddid (DoLS) – lefel sicrwydd cyfyngedig. Er gwelliant yn y drefn, bod diffyg arweiniad gan fesurau Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn arwain at gynnydd mewn cwblhau ceisiadau / asesiadau.

·        Fflyd - Defnydd Tanwydd - lefel sicrwydd cyfyngedig. Nid yw’n ymddangos bod y system fflyd gyfredol yn addas i bwrpas, ac felly angen ailymweld â’r trefniadau. Anodd yw deall nad oes system rhannu defnydd rhwng adrannau na modd o adnabod pa adran sydd yn berchen cerbyd. Angen edrych ar fflyd y Cyngor yn ei gyfanrwydd.

·        Dilyniant - Rheolaeth Categori Amgylcheddol - lefel sicrwydd cyfyngedig. Cynigiwyd ac eiliwyd bod adroddiad yn rhoi diweddariad ar waith y Tîm Categori yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor fel bod yr Aelodau yn derbyn gwybodaeth ar sut mae’r Tîm yn blaenoriaethu gwerth am arian a chadw’r budd yn lleol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr angen i gynnal gweithgor gwella fel bod modd edrych yn fanylach ar rai o’r materion oedd wedi codi uchod.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol – cais penodol i ailymweld â threfniadau Fflyd Defnydd Tanwydd.

·        Galw materion Cludiant Ysgolion, Clybiau Brecwast a Threfniadau Tân gerbron y Gweithgor Gwella Gwasanaeth i gael edrych yn fanylach ar y pryderon

·        Enwebu Rhys Parry (Cadeirydd) Dewi Lewis (Is-gadeirydd) ynghyd a’r Cynghorwyr Richard Glyn, Menna Baines ac Ioan Thomas, fel aelodau ar y Gweithgor

·        Bod adroddiad ar Reolaeth Categori – Amgylcheddol i’w gyflwyno i’r Pwyllgor

 

14.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2025 - 2026 pdf eicon PDF 393 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2025/26

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn mynegi barn Archwilio Mewnol ar  amgylchedd rheolaethol gyffredinol o fewn yr Awdurdod yn ystod 2025/26 gan ddarparu casgliad blynyddol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol yr Awdurdod. Nodwyd, yn gyffredinol, ar sail y gwaith a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, bod trefniadau’r Cyngor yn gweithredu ar lefel sy’n darparu sicrwydd rhesymol ar eu digonolrwydd a’u heffeithiolrwydd a bod y farn honno yn seiliedig ar ystod eang o archwiliadau ar draws gwasanaethau’r Cyngor, ynghyd â thystiolaeth berthnasol o ffynonellau sicrwydd eraill, gan gynnwys gwaith rheoleiddwyr allanol.

 

Fodd bynnag, cyfeiriwyd at nifer o themâu rheolaethol cyffredinol sydd wedi dod i’r amlwg. Yn benodol, anghysondeb wrth weithredu rheolaethau, diffyg goruchwyliaeth reolaethol mewn rhai meysydd, a gwendidau mewn cofnodi a dogfennu prosesau a phenderfyniadau. Ategwyd bod rhai gwasanaethau hefyd yn wynebu heriau o ran capasiti ac adnoddau, sy’n gallu effeithio ar y gallu i weithredu rheolaethau’n gyson - cyfran sylweddol o archwiliadau wedi derbyn sicrwydd “Cyfyngedig” yn ystod y flwyddyn. Er nad yw hyn yn tanseilio’r casgliad cyffredinol o sicrwydd rhesymol, mae’n amlygu’n glir bod angen ffocws corfforaethol parhaus ar gryfhau rheolaethau mewnol a sicrhau cysondeb ar draws gwasanaethau’r Cyngor.

 

Yng nghyd-destun perfformiad, cwblhawyd 88% o’r cynllun archwilio, sydd ychydig yn is na’r targed o 95%. Yn ogystal, derbyniodd tua hanner yr archwiliadau sicrwydd “Digonol” neu well - y canlyniadau hyn yn gyson â’r materion rheolaethol a nodwyd, ac yn dangos bod lle i wella o ran cryfder a chysondeb rheolaethau.

 

Wrth edrych ymlaen at 2026 / 2027, adroddwyd bod y mesurau perfformiad wedi cael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu’n well effaith a gwerth y gwasanaeth Archwilio Mewnol. Nodwyd bod y gwasanaeth yn bwriadu symud tuag at ddull mwy cytbwys o archwilio gan roi mwy o bwyslais ar effeithlonrwydd y gwasanaeth, ansawdd ac effaith y gwaith, a pherthnasedd y gwaith i risgiau strategol y Cyngor. O ganlyniad, bydd dau fesur newydd allweddol yn cael eu cyflwyno;

·       mesur oriau cynhyrchiol fel canran o’r amser sydd ar gael yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r modd rydym yn defnyddio adnoddau’r gwasanaeth. Bydd hyn yn helpu’r gwasanaeth i nodi unrhyw aneffeithlonrwydd, a sicrhau eu bod yn defnyddio capasiti’r tîm archwilio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

·       mesur o gwmpas risgiau strategol a chorfforaethol yn y cynllun archwilio fydd yn sicrhau bod eu gwaith yn canolbwyntio’n gryfach ar y meysydd sydd fwyaf critigol i gyflawni amcanion y Cyngor. Bydd hyn yn golygu bod y gwasanaeth yn alinio eu gwaith yn agosach i’r gofrestr risg gorfforaethol a Blaenoriaethau ac Uchelgeisiau Cynllun Gwynedd, ac yn amlygu’r fwy eglur sut mae Archwilio Mewnol yn darparu sicrwydd dros y risgiau mwyaf sylweddol.

 

Ystyriwyd y byddai hyn yn rhoi mwy o dryloywder i’r Pwyllgor, ac yn eu galluogi i graffu nid yn unig ar faint o waith sy’n cael ei gwblhau, ond hefyd pa mor effeithiol mae’r gwaith hwnnw’n cefnogi llywodraethu a rheoli risg.

 

Ategwyd bod y Cyngor yn parhau i weithredu ar sail gadarn o ran llywodraethu, rheoli  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

TROTHWYON CAFFAEL AC ADDASIADAU I'R RHEOLIADAU GWEITHDREFN CONTRACTAU pdf eicon PDF 325 KB

I ystyried a chymeradwyo’r adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cefnogi newidiadau i’r Trothwyon Caffael
  • Argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo Addasiadau i’r Cyfansoddiad – Adran 17: Rheoliadau Gweithdrefn Contractau

 

Cofnod:

Croesawyd Arwel Evans (Rheolwr Caffael) ac Iwan Evans (Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol - Swyddog Monitro) i’r cyfarfod

 

Cyflwynwyd adroddiad yn nodi’r angen i adolygu trothwyon tendro a dyfynbrisiau'r Cyngor yn sgil y newid i ddeddfwriaeth cytundebu a chaffael cenedlaethol a chynnydd sylweddol  yng nghostau nwyddau a gwasanaethau oherwydd chwyddiant. Eglurwyd bod y trothwyon caffael presennol wedi bod yn ei lle ers 1996 ac ers hynny bod prisiau a chwyddiant wedi cynyddu ar gyfartaledd o tua 3% y flwyddyn. Er nad oes bwriad gan Lywodraeth Cymru na Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gysoni trothwyon ar draws Awdurdodau Lleol, cyflwynwyd gwybodaeth i’r Aelodau am drothwyon Cynghorau’r Gogledd.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y Rheoliadau Caffael Cenedlaethol gan nodi man newidiadau technegol i’r rheoliadau i bwrpas codi ymwybyddiaeth o werth y cytundeb ble mae angen cyhoeddi hysbyseb manylion contract a chynnwys hicyn ymgynghori i sicrhau cydymffurfiaeth a defnydd priodol o’r trefniadau. Ategwyd mai’r Gwasanaethau Cyfreithiol fydd yn gweithredu’r newidiadau hyn.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor gefnogi’r cynnydd yn y trothwyon ac argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo addasiadau i’r Rheoliadau Caffael Cenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Cefnogi newidiadau i’r Trothwyon Caffael

·        Argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo Addasiadau i’r Cyfansoddiad – Adran 17: Rheoliadau Gweithdrefn Contractau

 

16.

ARCHWILIO CYMRU - CRYNODEB ARCHWILIO BLYNYDDOL 2025 A CHYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2026 CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 102 KB

I ystyried yr adroddiad, cynnig sylwadau a derbyn y dogfennau

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiadau

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas a Carwyn Rees (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiadau

 

a)     Cyflwynwyd Crynodeb Archwilio Blynyddol 2025 oedd yn crynhoi prif ganfyddiadau gwaith archwilio 2025 sy’n rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol, ynghyd ag Archwilio’r Cyfrifon, archwilio trefniadau priodol i sicrhau y defnyddir adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn cydymffurfio â’r egwyddor datblygu gynaliadwy.

 

Tynnwyd sylw at ganfyddiadau adolygiadau ‘Trefniadau Comisiynu’ a ‘Defnydd Strategol o Gronfeydd Wrth Gefn’, ynghyd a’r adroddiadau a chynhyrchion cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn.

 

b)     Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Manwl 2026 Cyngor Gwynedd oedd yn amlygu Datganiad o Gyfrifoldebau Archwilio Cymru. Yng nghyd-destun perthnasedd datganiadau ariannol, amlygwyd y lefelau perthnasedd (cynllunio, perfformiad a throthwy adrodd)  a’r risgiau datganiadau ariannol sylweddol gan nodi bod y ‘risg o wrthwneud gan reolwyr’ yn risg orfodol sydd yn ymddangos ymhob cynllun archwilio.

 

Bwriad Archwilio Cymru yw cyflwyno canfyddiadau'r datganiadau ariannol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ystod Medi 2026 (wedi symud ymlaen 1 mis gan ddychwelyd i amserlen cyfnod cyn covid).

 

Yng nghyd-destun gwaith archwilio perfformiad arfaethedig, amlygwyd tri maes penodol i gyflawni dyletswyddau 2026/27 sef Trefniadau Rheoli Risg, Effeithiolrwydd Canlyniadau Prosiect a Chasglu Treth y Cyngor.

 

Cyfanswm ffi amcangyfrifedig ar gyfer gwaith 2026 fydd £429,346. Nodwyd nad oes gan Archwilio Cymru'r hawl i wneud elw ac felly byddai unrhyw wahaniaeth mewn ffioedd yn cael ei ad-dalu.

 

Diolchwyd am yr adroddiadau a chroesawyd bod yr Archwilwyr yn gweld yr angen i ystyried risgiau a chyfleoedd wrth gwblhau archwiliadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiadau

 

17.

CYD-BWYLLGOR GwE - Cynllun Archwilio 2026 pdf eicon PDF 722 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), mai Cyngor Gwynedd, fel y Cyngor lletyol oedd wedi bod yn gyfrifol am gyflawni cyfrifoldebau cyfrifo ac adrodd ar faterion cyllidol Cydbwyllgor GwE. Daeth GwE i ben ar y 31 Mai 2025, a gan fod Cydbwyllgor GwE wedi dod i ben, y trefniant a benderfynwyd oedd i gyfrifon Ebrill a Mai oedd yn berthnasol i 2025/26, gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, wrth i’r sefyllfa am y flwyddyn gael ei derfynu. Nodwyd bod y cyfrifon wedi bod yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru.

 

Ar ran Archwilio Cymru, nododd Siwan Glyn bod y lefel o berthnasedd yn cael ei  bennu i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau allai beri fel arall i’r sawl sydd yn defnyddio’r cyfrifon gael eu camarwain. Pennwyd y lefel perthnasedd cynllunio o £33,000 ar gyfer archwiliad 2025/26 yn seiliedig ar ddatganiadau ariannol drafft 2025/26 (a gyfrifir fel 5% o berthnasedd).

 

Tynnwyd sylw at restr risgiau'r archwilwyr oedd hefyd yn amlygu sut yr aethpwyd i’r afael a hwy fel rhan o’r archwiliad. Adroddwyd, oherwydd bod y Cydbwyllgor wedi dod i ben yn ei ffurf bresennol ddiwedd Mai 2025 gyda gwasanaethau’n cael eu trosglwyddo nôl i’r Awdurdodau Lleol, bod risg nad oedd y datganiadau ariannol wedi eu paratoi ar sail briodol ac nad oeddynt yn gywir a chyflawn ac yn egluro yn ddigonol ddiwedd y Cydbwyllgor a throsglwyddo'r gwasanaethau. Derbyniwyd bod hyn yn sefyllfa anarferol fyddai’n gallu arwain at gam ddatganiad posib. Ategwyd bod y ‘risg o wrthwneud gan reolwyr’ yn risg orfodol sydd yn ymddangos ymhob cynllun archwilio.

 

Cyfeiriwyd at amserlen archwilio’r datganiadau ariannol ac at ffi amcangyfrifedig cwblhau’r gwaith.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad

 

 

18.

ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 115 KB

I ystyried a derbyn adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru

 

·        Y Blociau Adeiladu? Cynllunio Cyfalaf mewn Cynghorau yng Nghymru

·        Anghenion Dysgu Ychwanegol – Ydy cyrff cyhoeddus yn gwybod a yw’r system yn gweithio?

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  • Derbyn yr adroddiadau cenedlaethol
  • Derbyn ymateb y Cyngor i’r argymhelliad yn adroddiad Y Blociau Adeiladu? Cynllunio Cyfalaf mewn Cynghorau yng Nghymru – ‘Dylai cynghorau adolygu eu trefniadau cynllunio cyfalaf er mwyn nodi a gweithredu cyfleoedd i wella’.

 

Nodyn: Cais i gyflwyno Cynllun Rheoli Asedau i’r Pwyllgor

 

Cofnod:

Y Blociau Adeiladu? Cynllunio Cyfalaf mewn Cynghorau yng Nghymru

Anghenion Dysgu Ychwanegol – Ydy cyrff cyhoeddus yn gwybod a yw’r system yn gweithio?

 

Croesawyd Yvonne Thomas a Carwyn Rees (Archwilio Cymru), a Dewi Wyn Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod.

 

a)     Cyflwynwyd adroddiad Y Blociau Adeiladu? Cynllunio Cyfalaf mewn Cynghorau yng Nghymru gan Archwilio Cymru yn amlygu canfyddiadau i archwiliad cenedlaethol oedd wedi ei wneud i edrych ar sut mae Cynghorau yn cynllunio eu gwariant cyfalaf gan ganolbwyntio ar raglen cyfalaf blynyddol a strategaethau cyfalaf y Cynghorau. Amlinellwyd pwysigrwydd y gwaith gan fod Cynghorau yn darparu nifer sylweddol o asedau newydd pob blwyddyn ar gyfer eu hardaloedd gan geisio taro cydbwysedd rhwng cyflawni gwerth am arian, dewis cynnal a chadw asedau hŷn neu adeiladu o’r newydd, neu fuddsoddi mewn asedau sydd yn anaddas i bwrpas.

 

Cyflwynwyd dogfen ymateb Cyngor Gwynedd oedd yn amlinellu’r hyn mae’r Cyngor yn bwriadu ei wneud i ymateb i argymhelliad Archwilio Cymru. Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn croesawu’r adroddiad ac er ei fod yn gyfforddus gyda threfniadau cyfalaf presennol y Cyngor, bod hyn yn gyfle da i adolygu a rhoi trosolwg arnynt. Ategodd gydag unrhyw raglen gyfalaf bod y cylch yn un araf ac felly’n debygol mai tuag at ddiwedd y flwyddyn y bydd modd cwblhau’r gwaith.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Yn amlinellu pwysigrwydd cael cofrestr eiddo i bwyso a mesur defnydd a chostau cynnal a chadw

·        Angen sicrhau bod Cynllun Rheoli Asedau mewn bodolaeth ac yn gyfredol

·        Angen cynnal trafodaethau pellach i drafod y cyllid a’r costau sylweddol sydd ei angen i wella / cynnal eiddo

·        Bod angen adolygu Cofrestr Eiddo'r Cyngor

 

b)     Cyflwynwyd adroddiad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - Ydy cyrff cyhoeddus yn gwybod a yw’r system yn gweithio? gan Archwilio Cymru yn amlygu canfyddiadau i archwiliad cenedlaethol oedd wedi ei wneud i edrych ar os yw Llywodraeth Cymru  a Chynghorau yn deall y galw, capasiti a sgiliau’r gweithlu, costau a deilliannau lle mae ADY yn y cwestiwn. Cyflwynwyd yr argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ei rôl fel galluogwr newid ar lefel genedlaethol, ac felly nid oedd ymateb cyffredinol i’w ddisgwyl gan Cyngor Gwynedd.

 

Diolchwyd am yr adroddiadau

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn y ddau adroddiad cenedlaethol

·        Derbyn ymateb y Cyngor i’r argymhelliad yn adroddiad Y Blociau Adeiladu? Cynllunio Cyfalaf mewn Cynghorau yng Nghymru – ‘Dylai cynghorau adolygu eu trefniadau cynllunio cyfalaf er mwyn nodi a gweithredu cyfleoedd i wella’.

 

Nodyn: Cais i gyflwyno Cynllun Rheoli Asedau Cyngor Gwynedd i’r Pwyllgor

 

19.

DIWEDDARIAD ADRODDIAD ARCHWILIAD ARBENNIG - GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 74 KB

I ystyried yr adroddiad a derbyn y diweddariad

Penderfyniad:

 

  • Derbyn a nodi’r cynnydd i drefniadau Gofal Cartref y Cyngor
  • Bod angen diweddariad pellach ymhen 6 mis ar gynnydd a llwyddiant y rhaglen waith
  • Bod angen edrych ar gysoni cyflogau ar draws pob sector - hyn yn allweddol os yw Cyngor Gwynedd am barhau i gynnig gofal safonol

 

Cofnod:

Yn dilyn, darganfyddiadau archwiliad arbennig gan Archwilio Mewnol  a gomisiynwyd gan y Prif Weithredwr i ofal cartref Cyngor Gwynedd, cafwyd diweddariad gan Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar y rhaglen waith manwl sydd wedi ei llunio i flaenoriaethu a chryfhau’r ddarpariaeth gofal cartref yng nghyfarfod y Pwyllgor Chwefror 2025. Yn dilyn y diweddariad gwnaed cais gan yr Aelodau am ddiweddariad pellach gan yr Adran am ddiweddariad pellach ymhen 12 mis ar gynnydd a llwyddiant y rhaglen waith.

 

Croesawyd Alun Gwilym Williams (Pennaeth Cynorthwyol Busnes yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant) i gyflwyno’r diweddariad. Cyfeiriwyd at lwyddiannau a datblygiadau’r rhaglen waith ynghyd a’r heriau oedd yn wynebu’r gwasanaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Yn llongyfarch y tîm ar eu gwaith – y darganfyddiadau yn ddamniol ac felly pwysig oedd cydnabod ymateb

·        Bod cynnydd amlwg yn y gwaith, y sefyllfa yn cael ei chyfarch yn briodol ac yn gwella

·        Er lleihad mewn oriau bloc sydd ddim yn mynd at ofal uniongyrchol, bod y nifer oriau yma yn parhau yn uchel – a oes amserlen benodol ar gyfer y gwaith yma?

·        Bod angen adolygu lefelau cyflog - cyflogau gwell ar gael mewn sectorau eraill. Angen cysoni cyflogau os yw Cyngor Gwynedd am barhau i gynnig gofal safonol.

 

Mewn ymateb i’r sylw uchod am leihad yn yr oriau bloc, amlygwyd na fydd y gwasanaeth mewn sefyllfa o allu cyrraedd pwynt lle mae’r holl oriau bloc yn mynd at ofal uniongyrchol (dyma egwyddor y model, hyblygrwydd ayyb), ond yn amlwg yn parhau i gydweithio gyda darparwyr i ddod a’r oriau yma i lawr ymhellach.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chytundebau gofal cartref presennol yn dod i ben mis Hydref 2027 ac os oedd gwaith yn cael i wneud i adolygu gwersi a ddysgwyd o’r hen drefn cyn llunio cytundebau newydd, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda defnyddwyr gofal cartref a’u teuluoedd, staff, darparwyr a rhanddeiliaid i sicrhau gwell model i’r dyfodol. Ategwyd bod trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal gyda Chynghorau eraill sydd wedi treialu modelau tebyg, er mwyn sicrhau model mwy effeithiol i Wynedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut roedd y gwasanaeth yn mynd i’r afael a recriwtio a chadw staff, gyda rhai ardaloedd yn dioddef mwy nag eraill, nodwyd bod yr her o recriwtio yn un sylweddol ar draws y sector. Ategodd er ymdrechion yn lleol ac o ddatblygu Academi Gofal yng Ngwynedd nad oedd y penodiadau yn cyfarch y galw a bod cynlluniau ar y gweill i fynd i'r afael ar her genedlaethol yma. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn ag effeithiau penderfyniad y llywodraeth i roi'r gorau i recriwtio gweithwyr gofal o dramor, nodwyd y gobaith o weld newidiadau i’r drefn erbyn 2028 - bod recriwtio gweithwyr o dramor yn fodd effeithiol o gynnal y gofal.

 

Diolchwyd am y diweddariad.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn a nodi’r cynnydd i drefniadau Gofal Cartref y Cyngor

·        Bod angen diweddariad pellach ymhen 6 mis ar gynnydd a llwyddiant y rhaglen waith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 19.

20.

BLAENRAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 143 KB

I ystyried y flaen raglen

Penderfyniad:

 

  • Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Mai 2026 – Mai 2027
  • Ychwanegu Cynllun Rheoli Asedau a Rheolaeth Categori – Amgylchedd i’r rhaglen waith

 

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Mai 2027.

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Mai 2026 – Mai 2027

·        Ychwanegu Cynllun Rheoli Asedau a Rheolaeth Categori – Amgylchedd i’r rhaglen waith