Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Ned
Michael (Aelod Bwrdd Pensiwn
i arsylwi) – nid oedd yn
gallu ymuno oherwydd problemau technegol. Croesawyd
y Cyng Geraint Parry (Plaid
Cymru) fel aelod newydd i’r Pwyllgor |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2025 fel rhai cywir. |
|
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried yr
adroddiad a nodi'r wybodaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth Nodyn: Parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Brosiect Snowdon fel
Prosiect Yr Wyddfa Cofnod: Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd
sy’n cael ei gyflwyno i’r
Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC ynghyd
a phenderfyniadau cyfarfod
mis Medi o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (corff sy’n gwneud penderfyniadau
dros y Bartneriaeth gyda Chadeirydd pob cronfa yn
eistedd arno). Adroddwyd bod gwaith sefydlu’r Cwmni
Buddsoddi WPP IMCo ar gyfer buddsoddiadau cronfeydd
pensiwn LGPS yng Nghymru yn parhau fel maes blaenoriaeth a bod prif swyddog
gweithredol bellach wedi cael ei benodi. Y cam nesaf fydd cofrestru’r cwmni
gyda Cofrestr Gwasanaethau Ariannol (Financial Conduct Authority - FCA), penodi
swyddogion pellach a ffurfio cytundebau. Mynegwyd bod cyfarfod wedi ei drefnu
(03-12-25) i’r Aelodau dderbyn gwybodaeth bellach ar y datblygiadau a chael
cyfle i ddysgu mwy am y cwmni a pha gytundebau fydd angen i’r Pwyllgor eu
cymeradwyo. Anogwyd yr Aelodau i fynychu. Cyflwynwyd diweddariad ar y materion arferol
o adolygu’r cynllun busnes, polisïau a’r gofrestr risg. Cyfeiriwyd at y
cynnydd y mae’r cronfeydd yng Nghymru
wedi’i pwlio, gyda Gwynedd yr ail uchaf o’r wyth gronfa
unigol wedi trosglwyddo 87% sy’n golygu bydd y broses o symud yr asedau i'r cwmni buddsoddi
IMCo ychydig yn haws o gymharu â chronfeydd eraill. Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at amodau’r farchnad oedd wedi cael
eu monitro ganddynt. Tynnwyd sylw at ddadansoddiad a pherfformiad yr is gronfeydd a’r marchnadoedd preifat gan ategu
bod y rhaglen buddsoddi eiddo wedi cael
ei sefydlu ac eiddo presennol Gwynedd yn y broses o gael ei drosglwyddo i Cronfa DU, gan fuddsoddi ymhellach yng Nghronfa Impact Investing yn fuan ym
mis Ionawr 2026. Mynegwyd bod y cydbwyllgor wedi derbyn diweddariad
ar gronfeydd isadeiledd gan GCM Grosvenor sydd yn buddsoddi
mewn amryw o gynlluniau ledled Prydain. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i sylw bod PPC
yn parhau i gyfeirio at y prosiect fel Prosiect Snowdon Project ac nid Prosiect
yr Wyddfa / Yr Wyddfa Project, nodwyd bod y sylw wedi cael ei gyflwyno i PPC,
ac ar bob cyfle posib wedi hynny, y swyddogion wedi ceisio cyfleu’r enw cywir -
angen parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Prosiect Snowdon fel Prosiect yr
Wyddfa. Mewn ymateb i sylw bod
Cronfa Clwyd wedi pwlio 32%, Powys 63% ac Abertawe 66% ac a fydd hyn yn debygol
o greu problemau at gyrraedd y targed o 100% neu yn adlewyrchu yn wael ar PPC,
nodwyd bod mesurau wedi eu rhoi mewn lle i ymateb i’r sefyllfa gyda Swyddog
Delio ag Asedau wedi ei benodi i arwain y gwaith. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r effaith ar is gronfeydd ACS sydd yn dal cwmnïau Rwsiaidd a’r
angen am wybodaeth ynglŷn â’r asedau hyn, nodwyd, er bod gwybodaeth am y buddsoddiadau yn newid yn
ddyddiol, bod darn o waith wedi ei gomisiynu i ffurfioli datgelu’r wybodaeth
i’r cyhoedd. Yng nghyd-destun gosod targed / amcanion ar gyfer daliadau’r Cyngor ac os oedd bwriad eu cadw neu eu gwerthu, nodwyd nad oedd cynllun pendant mewn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
I ystyried adroddiad yr archwilydd, cymeradwyo’r Datganiad
Cyfrifon ac awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r llythyr. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd
2024/25 (ôl archwiliad), gan y Rheolwr Buddsoddi
oedd yn darparu
manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod
y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2025. Atgoffwyd
yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi eu
cyflwyno i gyfarfod Gorffennaf 2025 ac er nad oedd newidiadau
arwyddocaol i’r ffigyrau craidd yn dilyn archwiliad
gan Archwilio Cymru, bod addasiad bychan i'r naratif yn y nodiadau,
ac i niferoedd y pensiynwyr. Gwahoddwyd Osian Roberts (Archwilio
Cymru) i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Adroddwyd bod
yr archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni,
unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo. Eglurwyd na all archwilwyr fyth roi sicrwydd
cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan yn
gywir ond yn hytrach yn
gweithio i lefel o ‘berthnasedd’ a bennwyd ar £32.364 miliwn ar gyfer
archwiliad eleni. Cyfeiriwyd at y camddatganiad yn y cyfrifon gwreiddiol
(Nodyn 1 Disgrifiad o’r Gronfa – and oedd ffigyrau aelodaeth
yn cynnwys 183 o gynghorywr a oedd
yn Aelodau o’r cynllun yn ystod
y cyfnod. Tynnwyd sylw at
fformat newydd yr adroddiad a’r crynodeb allweddol sydd yn haws i’r darllenydd ei ddeall ynghyd a
chanlyniadau'r risgiau a archwiliwyd. Diolchwyd am yr adroddiadau. Llongyfarchwyd
Swyddogion Cyllid y Cyngor am baratoi’r holl wybodaeth ac i Archwilio Cymru am
eu cefnogaeth. Nodwyd bod ansawdd y cyfrifon yn adlewyrchu gwaith da'r tîm. Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â chamddatganiad Nodyn 1, cadarnhawyd, er nad oedd yn cael
effaith ar y ffigyrau terfynol, bod y wybodaeth wedi ei gywiro ac wedi
ei gynnwys yn y fersiwn terfynol
ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Gronfa Bensiwn. PENDERFYNWYD ·
Derbyn y wybodaeth ·
Nodi adroddiad ISA 260 gan Archwilio Cymru, a derbyn sylwadau’r archwilwyr ·
Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ôl-archwiliad ar gyfer 2024/25 ·
Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Swyddog.151 i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth (yn electroneg) |
|
|
I ystyried a chymeradwyo rhestr o gynadleddau ar gyfer 2026 Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn rhestr dyddiadau
cynadleddau 2026 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn rhestru dyddiadau
cynadleddau pensiynau ar gyfer 2026. Nodwyd bod y cynadleddau yn rhoi cyfle
i’r Aelodau ehangu eu gwybodaeth a thrafod materion cyfoes a bod y cynadleddau a gynigwyd yn seiliedig
ar berthnasedd cynnwys hanesyddol y digwyddiadau. Trafodwyd y dyddiadau a bu i’r Aelodau ddatgan diddordeb yn y digwyddiadau hynny oedd yn gyfleus
iddynt. Gyda threfniadau mewn lle i’r
Aelodau gyflwyno adborth ar lafar ar y gynhadledd
a fynychwyd yn y pwyllgor dilynol, nodwyd bod bwriad i’r trefniant yma
barhau. PENDERFYNWYD Derbyn rhestr dyddiadau cynadleddau 2026 |
|
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN I ystyried a derbyn yr adroddiad er gwybodaeth. Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu
gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn
ariannol gyfredol. Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym
Mawrth 2025 cymeradwywyd y Strategaeth
Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y flwyddyn
2025/26 lle caniateir i arian y Gronfa
Bensiwn cael ei gronni a’i
gyd-fuddsoddi a llif arian cyffredinol y Cyngor. Nodwyd hefyd bod disgwyliad i’r Rheolwr Buddsoddi ddiweddaru'r Pwyllgor ar y sefyllfa yn
rheolaidd, gyda’r diweddariad yma yn edrych ar
y cyfnod hyd at 30 o Fedi
2025. Eglurwyd bod y cyfnod wedi bod yn un prysur iawn i
weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor. Adroddwyd, yng nghyd-destun gweithgareddau buddsoddi, bod y
Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda
Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i pwlio, Awdurdodau
Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion. Nodwyd bod y cronfeydd yn gyson
gyda’r math o fuddsoddiadau
sydd wedi eu gwneud ers
nifer o flynyddoedd bellach. Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion, adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod
ymarfer CIPFA a Strategaeth
Rheolaeth Trysorlys y
Cyngor - hynny yn newyddion da, ac yn dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian. Amlygwyd yn y cyfnod dan sylw, bod y Gronfa wedi buddsoddi ychydig yn uwch
na’r lefel gymeradwy ar gyfer
y banciau a chronfeydd marchnad arian a hynny oherwydd lefel uchel o arian,
ac opsiynau yn brin. Nodwdy bod camau wedi eu cymryd
i sicrhau na fydd hyn
yn digwydd yn y dyfodol drwy
agor mwy o gyfrifon i wasgaru’r
arian. Yn ychwanegol, amlygwyd bod y Cyngor
hefyd wedi cydymffurfio yn llawn gyda dangosyddion
darbodus Rheolaeth Trysorlys. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2024/25 I adolygu a darparu adborth ar yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd
ar gyfer 2024/25 Cofnod: Amlygodd y Rheolwr
Buddsoddi bod yr adroddiad yn darparu manylion
am weithgareddau’r Gronfa Bensiwn yn ystod
y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 ac wedi ei gwblhau yn
unol â chanllawiau statudol. Tynnwyd sylw at newidiadau yng ngofynion y Bwrdd Cynghori Cynllun (Scheme Advisory Board) i
adnabod a chyflwyno'r wybodaeth drwy dri chategori - rhaid (must), dylid (should) ac efallai (may). Sicrhawyd bod popeth
sydd yn cael
ei adnabod fel ‘rhaid’ a ‘dylid’ wedi cael
ei gynnwys, oni bai nad oedd y wybodaeth
ar gael. Yn sgil hynny eglurwyd
bod yr adroddiad blynyddol wedi cynyddu mewn
maint gan ei fod yn
cynnwys adroddiadau blynyddol gan y Bwrdd, y Pwyllgor Pensiynau, gwybodaeth bellach am ystadegau gweinyddu, gwaith pwlio, swyddogaethau craidd y Pwyllgor, hyfforddiant, cynllun gwaith, blaenoriaethau a chrynodeb o’r pynciau
a drafodwyd yn ystod y flwyddyn. Adroddwyd bod yr adroddiad blynyddol wedi cael ei
adolygu gan Archwilio Cymru gydag un mân addasiad i’r
fersiwn drafft cyn ei gyhoeddi
ar y wefan (cyn y dyddiad statudol
- 1af o Ragfyr 2025). Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r staff oedd yn gysylltiedig
â pharatoi’r gwaith. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer 2024/25 |
|
|
GWEINYDDIAETH PENSIYNAU I ystyried
yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi
trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a
gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod a diweddariadau ar amrywiol
brosiectau: ·
Gweithredu rhwymedigaeth
McCloud yn dilyn dyfarniad yn y Goruchaf Lys ·
Gwaith yn ymwneud â
phrisiad actiwaraidd 2025 oedd yn cynnwys cynnal
Fforwm Cyflogwyr i rannu canlyniadau prisiad gyda’r cyflogwyr. Nodwyd bydd y
cyfraniadau newydd yn cael eu cadarnhau yn ffurfiol ddiwedd mis Mawrth 2026. ·
Gwaith yn ymwneud â chysylltu gydag ecosystem
Dashfwrdd Pensiwn Cenedlaethol erbyn 31/10/25. ·
Paratoi ymateb (ar sail
Cymru gyfan) i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar welliannau i’r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fydd yn moderneiddio’r cynllun, gwella tegwch
a chryfhau amddiffyniadau aelodau hirdymor. ·
Bod gwaith i sicrhau bod
Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi bodloni gofynion statudol drwy gyhoeddi Datganiadau
Buddion Blynyddol wedi ei gwblhau ddiwedd Gorffennaf (cyn y diwrnod cau).
Cyfeiriwyd hefyd at gyflwyniad / rhith
ffurf ar y porth Fy Mhensiwn ar Lein sydd yn cefnogi aelodau i ddeall y
datganiadau yn well. ·
Bod ansawdd data yn parhau yn flaenoriaeth i’r
Gronfa a datblygiadau parhaus yn cael eu gweithredu i wella’r ansawdd
ymhellach. Cyfeiriwyd at esiampl lle mae'r Gronfa yn cydweithio gyda gwasanaeth
olrhain proffesiynol i geisio dod o hyd i fanylion cyswllt teulu aelodau sydd
wedi marw neu sydd yn ymddangos fel ‘cyfeiriad sydd wedi mynd i ffwrdd’. ·
Bod cyfathrebu gydag
aelodau hefyd yn parhau yn flaenoriaeth – cylchlythyr wedi ei ddosbarthu gyda’r
Datganiadau Buddion Blynyddol 2025. Nodwyd bod gwaith yn parhau i ail ddylunio
gwefan y Gronfa. ·
Eglurwyd, yn sgil newidiadau mewnol yn cael ei
gweithredu i dasgau nad oedd data perfformiad cynhwysfawr ar gael, bod y Gronfa
yn rhoi sicrwydd nad oedd unrhyw arwydd bod perfformiad y gwasanaeth yn
dirywio, ond bod bwriad cyflwyno’r wybodaeth pan fydd y gweithdrefnau
diwygiedig wedi eu cwblhau. ·
Bod gwaith yn parhau i
sicrhau bod polisïau a chydymffurfiaeth yn eu lle mewn ymateb i ofynion
Llywodraethu Da Cyfeiriwyd at lwyddiant parhaus ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan nodi bod
aelodaeth y porth yn parhau i dyfu’n raddol o fis i fis. Adroddwyd bod Cronfa
Bensiwn Gwynedd wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi Heywood
i ddatblygu fersiwn Gymraeg a bod y fersiwn yma i’w chyflwyno i holl gronfeydd CPLlL Cymru erbyn diwedd y flwyddyn. Tynnwyd sylw at yr Arolwg Boddhad Gwasanaeth sy’n cael ei anfon at
Aelodau ar ddiwedd prosesau allweddol, megis ymddeoliadau a thaliadau ad-dalu,
i gasglu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 58 o aelodau
wedi cymryd rhan yn yr arolwg rhwng Ebrill 2025 – Medi 2025 gyda’r canlyniad yn galonogol iawn (95.13% o’r
defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel ac a 97.26%
yn cytuno’n gryf neu gytuno bod perfformiad staff yn bodloni safon uchel). Diolchwyd am yr
adroddiad. Nodwyd bod llwyddiannau cwblhau gwaith o fewn amserlen benodol yn
rhoi hyder i’r Gronfa bod swyddogion yn gweithredu yn effeithiol a safonol. Yr
adroddiad yn amlygu bod llawer o waith wedi ei gwblhau mewn cyfnod heriol. PENDERFYNWYD Derbyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
CYNLLUN GWELLA DATA I ystyried
yr adroddiad a darparu adborth Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn manylu ar
y mathau allweddol o ddata a gynhelir gan y Gronfa gan
amlygu pwysigrwydd cywirdeb data a dulliau clir a strwythuredig o wella ansawdd data. Tynnwyd sylw at amcanion gwella data’r Gronfa ynghyd
a’r mathau o ddata sydd angen
eu cwblhau i ddiogelu hawliau
Aelodau, cefnogi effeithlonrwydd
gweithredol ac atgyfnerthu ymddiriedaeth llywodraethu’r Gronfa. Amlygwyd bod dau gategori
data - data cyffredin a data penodol
i’r cynllun gyda chamau targedu
a dulliau gweithredu wedi eu gosod
ar gyfer gwella ansawdd y ddau gategori. Tynnwyd sylw at ddefnydd y Gwasanaeth Olrhain proffesiynol i geisio lleihau achosion o’r nifer
sydd yn ymddangos
‘wedi symud’ neu wybodaeth gyswllt wedi dyddio yng
nghategori data cyffredin. Adroddwyd bod y gwasanaeth, er yn gostus, wedi
cyflwyno canlyniadau da hyd yma a bod y nifer achosion yn lleihau. Ystyriwyd trwy ddilyn y Cynllun Gwella Data byddai’r Gronfa yn anelu at wella’r
data yn sylweddol gan sicrhau cydymffurfiaeth
â gofynion rheoleiddiol a gwella profiadau cyffredinol Aelodau a chyflogwyr. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnydd cyfeiriadau E-byst a rhifau ffôn,
nodwyd yn hanesyddol nad oedd y wybodaeth yma yn cael
ei gasglu, ond bellach yn
rhan o’r broses PENDERFYNWYD Derbyn
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei
fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff Paragraff 14
o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol(
yn cynnwys yr awdurdod sydd yn
dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod
adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol
o ran buddiannau cydnabyddedig
trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio
hyder i ddod
a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r
Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes
i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn
cyfansawdd gorau ac felly
am y rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol
neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael
arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio
cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r
allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd
cyhoeddus. |
|
|
ADOLYGIAD O DDYRANIAD ASEDAU STRATEGOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD I ystyried a chymeradwyo dyraniad asedau strategol
arfaethedig y Gronfa (copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn
cynnig dyraniad strategol newydd i asedau’r Gronfa yn dilyn canlyniad prisiad
tair blynedd 2025 ac argymhellion gan Hymans Robertson (ymgynghorwyr y Gronfa).
Mynegwyd mai Dyrannu Asedau Strategol yw'r penderfyniad pwysicaf ar gyfer
unrhyw Gronfa Bensiwn gan ategu nad oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o
benderfynu ar y Dyraniad Asedau Strategol ac mai mater o ddod o hyd i'r ateb
gorau i gyfyngiadau a chyfleoedd ydoedd. Cynhaliwyd adolygiad o’r
Strategaeth Fuddsoddi gan Hymans Robertson a croesawyd Kenny Taylor,
ymgynghorydd o’r cwmni i gyflwyno canlyniadau’r adolygiad ac argymhellion i’r
Pwyllgor eu hystyried. Diolchwyd am y cyflwyniad
a’r adroddiad Trafodwyd yr asedau
strategol arfaethedig PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad ·
Cymeradwyo
dyraniad asedau strategol arfaethedig y Gronfa ac argymhellion adroddiad
gweithredu Hymans Robertson |
|
|
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.04.2025-30.06.2025 I ystyried a nodi Adroddiad Chwarterol gan Robeco (copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig) Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad chwarterol
yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn ar faterion buddsoddi
cyfrifol. Cyfeiriwyd at y meysydd oedd wedi
cael sylw Robeco yn ystod y chwarter
dan sylw a’r wybodaeth yn cynnwys
manylion am y nifer gweithgareddau a’r ymgysylltu a gwblhawyd oedd yn cynnwys
cwmnïau mawr gyda phwysigrwydd rhyngwladol. Nodwyd hefyd mai thema ymgysylltu'r chwarter dan sylw oedd Cyflymaid i Sero-Dagoedwigo
(Deforestation). Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â dadfuddsoddi, nodwyd bod PPC wedi cyhoeddi datganiad ar eu gwefan
(17 Tachwedd 2025) sydd yn cyfarch eu safbwynt
ar waharddiadau a dadfuddsoddi. Awgrymwyd yn hytrach na
nodi ‘wedi cau’ (closed) fel dangosydd cynnydd yn eu proses ymgysylltu, byddai
‘ymgysylltu pellach’ yn derm mwy cadarnhaol. PENDERFYNWYD
Derbyn
a nodi’r wybodaeth |