Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Ail Ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2026/27

 

Cofnod:

Penderfynwyd ail ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2026/27

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Ail ethol y Cynghorydd  John Pughe Roberts  yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2026/27

 

Cofnod:

Penderfynwyd ail ethol y Cynghorydd John Pughe Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2026/27

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26ain o Chwefror 2026 a’r 16eg o Fawrth 2026 fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 85 KB

I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau i nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith Partneriaeth Pensiwn Cymru ynghyd a phenderfyniadau cyfarfod mis Mawrth o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (CBLl - corff sy’n gwneud penderfyniadau dros y Bartneriaeth gyda Chadeirydd pob cronfa yn eistedd arno). Yn dilyn diweddariad mewn sesiwn gwybodaeth ddiweddar yn sgil sefydlu cwmni WPP IM Co, nodwyd mai hwn oedd y Cyd Bwyllgor Llywodraethu olaf yn ei ffurf bresennol.

 

Adolygwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2025/26, a cyflwynwyd cynlluniau busnes y dyfodol i’r Cydbwyllgor; cynllun busnes oedd yn amlygu sut bydd y Partneriaeth Pensiwn Cymru presennol yn gweithredu yn ystod y cyfnod trosiannol, ynghyd â Cynllun Busnes WPP IMCo am y flwyddyn 2026. Cymeradwywyd y dogfennau hyn yng nghyfarfod Pwyllgor Pensiynau Gwynedd 16-03-2026.

 

Cafwyd diweddariad ar waith y gweithredwr a’r cronfeydd sydd gan y Bartneriaeth wedi’i sefydlu ynghyd a manylder am waith y gweithredwr dros y cyfnod ac unrhyw amodau’r farchnad maent yn eu monitro. Yng nghyd-destun perfformiad y cronfeydd nodwyd eu bod wedi wynebu amodau heriol gyda’r marchnadoedd yn gyfnewidiol yn y cyfnod dan sylw.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi ei wneud ynglŷn ag  agwedd tuag at eithriadau, gyda pholisïau buddsoddi cyfrifol bellach wedi eu diweddaru i gwmpasu nifer o eithriadau, megis pŵer o glo thermal, arfau dadleuol a chwmnïau sydd yn torri rheolau yn barhaus.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod rôl y Pwyllgor yn newid yn sylweddol – y rôl yn ymddangos fel rôl o graffu yn hytrach na rôl gyfrifol

·        Angen sicrhau bod Aelodau’r Gronfa yn cael dychweliadau da -  a oes gwrthdaro yma rhwng Llywodraeth San Steffan yn defnyddio arian Cronfeydd Llywodraeth Leol at eu dibenion hwy? Angen sicrhau nad oes gwrthdaro

·        Bod angen i’r Pwyllgor fod yn effro i’w rôl newydd

·        Awgrym y dylai Aelodau’r Pwyllgor gael cyfarfodydd gyda Rheolwyr y Gronfa fel bod modd iddynt gael gwybodaeth gyfredol am fuddsoddiadau – pryder, petai IMCo yn cam-fuddsoddi, Aelodau’r Pwyllgor fydd yn debygol o gael eu gweld ar fai am gam fuddsoddi arian cyfranogwyr Cronfa Gwynedd.

·        Y Pwyllgor angen sicrwydd mai buddion Aelodau’r Gronfa yw’r flaenoriaeth

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ‘echdynnu cronfeydd olew a nwy anghonfensiynol’ ac os oedd hyn yn cynnwys ffracio nododd y Rheolwr Buddsoddi y byddai yn ceisio’r wybodaeth ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Yn yr un modd, byddai hefyd yn ceisio ateb i gwestiwn ynglŷn â beth yw diffiniad y gair ‘dadleuol’ yng nghyd-destun gwaharddiadau sydd yn cael eu cymhwyso i fuddsoddiadau mewn cwmnïau sydd yn ymwneud a chynhyrchu arfau dadleuol. Ategwyd, gyda’r Llywodraeth yn bwriadu cyfrannu £15 biliwn ychwanegol at Drawsnewid Lluoedd Arfog y DU, a chyfloedd tebyg yn codi i fusnesau a buddsoddi mewn technoleg ar gyfer y Lluoedd Arfog, ystyriwyd y byddai mwy o wybodaeth am y sefyllfa yn fanteisiol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â defnydd parhaus Partneriaeth Pensiwn Cymru o ddefnyddio’r enw Operation Snowdon yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

FFORWM CRONFA BENSIWN AWDURDODAU LLEOL (LAPFF) pdf eicon PDF 110 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn egluro am waith Fforwm Cronfa Bensiwn Awdurdodau Lleol (LAPFF) sydd yn gwneud gwaith da o hyrwyddo’r safon uchaf o lywodraethu corfforaethol i ddiogelu gwerth hirdymor Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Stephen Churchman, sydd yn aelod o’r Bwrdd Gweithredol i egluro ymhellach, a sut y gall y fforwm gefnogi a chynorthwyo gwaith Cronfa Bensiwn Gwynedd.

 

Eglurodd y Cyng. Stephen Churchman ei fod wedi bod yn Aelod o’r Fforwm ers bron i 8 mis ac yn yr amser hynny bod 5 cyfarfod fforwm o’r Fforwm wedi ei gynnal. Nododd bod y cyfarfodydd yn cael eu rhannu yn ddau gyfarfod - y cyfarfod cyntaf yn un i’r Gweithredwyr drafod cynnwys y rhaglen a’r adroddiadau fydd yn cael eu cyflwyno i’r ail gyfarfod sef y cyfarfod busnes. Ystyriodd bod y drefn yn rhoi dealltwriaeth dda o gyd-destun y gwaith gyda gwahoddiadau yn cael eu hymestyn i gynrychiolwyr cronfeydd pensiwn a phwls; bydd pawb yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y trafodaethau.

 

Ategodd mai un mater oedd wedi dwyn ei sylw yn ddiweddar oedd ystyriaethau i’r maescemegion am byth’ - cemegion sydd bron yn anorchfygol erbyn hyn gyda miloedd o dunelli ohonynt yn treiddio i mewn i’r eco system gan greu her amgylcheddol systemig, creu risg i iechyd pobl (er nad yw’r effeithiau wedi eu profi hyd yma), llygredd a halogiad dwr. Nododd bod LAPFF yn ymgysylltu gyda’r cwmnïau hynny sydd yn cynhyrchu deunyddiau (sydd yn cynnwys y cemegion hyn - o ddillad, i golur, offer cegin ac eraill) a gyda chwmnïau cyfleusterau dŵr i drafod sut y maent yn ceisio cyfarch y broblem sydd a photensial o arwain at risg ariannol a chyfreithiol a all yn y pendraw gael effaith ar fuddsoddwyr. Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor fod yn effro i’r mater.

 

Wrth gloi, nododd bod LAPFF yn ymgysylltu ar ran buddsoddwyr (yn debyg iawn i waith Robeco) ac hefyd yn ymddwyn fel corff sydd yn hyfforddi a chefnogi Pwyllgorau - yn sefydliad amrywiol iawn.

 

Diolchwyd am y wybodaeth

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol,

·        Bod defnydd o’r Fforwm yn gyfle da i dderbyn adborth, arweiniad a gwybodaeth ynglŷn ag ymgysylltu mewn materion penodol

·        Cais i’r Cynghorydd holi’r Fforwm ynglŷn â’r ffordd orau o ymgysylltu gyda’r pwnc cemegion am byth - amlwg yn faes sydd yn codi pryder

·        Gwerthfawr gwybod bod y corff yn gweithio ar ran y Pwyllgor drwy ofalu bod y Pwyllgor yn gwneud buddsoddiadau cyfrifol a stiwardiaeth

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

9.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2026 pdf eicon PDF 52 KB

Cyflwyno a nodi ‘Datganiad o’r Cyfrifon Drafft’.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD;

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2025/26.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2026. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon ac nad oedd dim newid yn y canllawiau o’r flwyddyn ddiwethaf.

 

Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa a gwaith yn parhau mewn buddsoddi yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y Gronfa gan dynnu sylw at ychydig o amrywiadau yn y cyfraniadau a’r buddion. Nodwyd bod lleihad yn y costau rheoli wrthi fathau gwahanol o fuddsoddiadau gael eu cyflwyno i’r portffolio a drwy leihau buddsoddiadau gyda grŵp Partners sydd wedi cael ffioedd rheoli uwch yn hanesyddol.  Ategwyd bod yr incwm buddsoddi wedi cynyddu wrth i’r Gronfa dderbyn incwm rheolaidd gan y buddsoddiadau newydd megis isadeiledd ac ecwiti preifat o fewn cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gyda chynyddu o oddeutu £280 miliwn yng ngwerth marchnad y gronfa sydd yn unol â’r cynnydd graddol blynyddol.

 

Tynnwyd sylw at y nodiadau statudol oedd yn rhoi manylion pellach tu ôl i’r ffigyrau, gweithgareddau'r Gronfa, a Phartneriaeth Pensiwn Cymru, gan fod y Bartneriaeth yn rhan flaenllaw bellach o waith y Gronfa.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod, fel Swyddog Adran 151 wedi arwyddo'r cyfrifon drafft gan dderbyn eu bod yn adlewyrchiad cywir a theg o’r sefyllfa.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith o ddod ar cyfrifon at ei gilydd - yn waith sylweddol a chymhleth wedi ei gyflwyno yn dda a phroffesiynol

 

Diolchwyd hefyd i waith PPC am fod yn bennaf gyfrifol am y rhesymau dros y cynnydd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfanswm asedau net y gronfa sydd ar gael i ariannu buddion ar ddiwedd y cyfnod adrodd - y gwahaniaeth rhwng 31 Mawrth 2025 a 31 Mawrth 2026 yn £362 miliwn, ac os oedd hwnnw, sydd yn ffigwr anhygoel, yn ffigwr cywir, cadarnhawyd gyda maint y gronfa bellach yn £3.6 biliwn bod y Gronfa bellach yn delio gyda ffigyrau mawr - y ffigwr yn cynrychioli 10% o gynnydd sydd yn cyd-fynd a chynnydd dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd y bydd Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor nesaf yn cefnogi ac egluro’r ffigyrau mewn mwy o fanylder ac yn cynnwys Gwybodaeth ar sut mae'r Gronfa wedi cynyddu dros y blynyddoedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwerth y farchnad, cadarnhawyd bod y ffigyrau wedi eu selio ar werth y farchnad ar Fawrth 31ain 2026.

 

Sylw yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Bod yr incwm wedi codi oherwydd newid yn y buddsoddiadau sydd yn cael eu gwneud (cynnydd o £65.8miliwn i £84.8 miliwn) - yn amlygu bod y newidiadau yn cyfateb i’r newid i sut mae pensiynau yn ymateb i sefyllfaoedd.

 

PENDERFYNWYD  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2026 pdf eicon PDF 49 KB

I ystyried a derbyn y Cynllun Archwilio

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi cynnwys Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Gwynedd 2026

 

 

Cofnod:

Croesawyd Osian Roberts (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod.

 

Yn unol â chyfrifoldeb statudol Archwilwyr Allanol, cyflwynwyd Cynllun Archwilio Manwl ffurfiol ar gyfer cyfrifon 2025-2026 oedd yn egluro sut roedd Archwilio Cymru yn mynd i gynnal yr Archwiliad.

 

Tynnwyd sylw at y lefel perthnasedd y datganiadau ariannol gan nodi and oedd Archwilio Cymru yn ceisio lefel sicrwydd llwyr ynghylch cywirdeb a thegwch y datganiadau, ond yn mabwysiadau cysyniad perthnasedd - lefel perthnasedd Cynllunio yn 1% o’r asedau gros yn seiliedig ar ddatganiadau ariannol archwiliedig 2024 -2025. Yng nghyd-destun lefel perthnasedd datgeliadau partïon cysylltiedig - prif bersonél rheoli, nodwyd bod y lefel perthnasedd wedi ei osod ar £1,000.

 

Cyfeiriwyd at y risgiau gan nodi bod y ‘risg o wrthwneud gan reolwyryn risg gorfodol sydd wedi ei gynnwys ymhob cynllun yng Nghymru fel rhan o weithdrefn Archwilio Cymru. Nodwyd y bydd ffocws hefyd ar y risgbalansau asedau buddsoddioherwydd bod rhai balansau yn anoddach i’w gwerthuso nac eraill - yr un broses sydd wedi ei dilyn dros y blynyddoedd ac sydd bellach wedi hen sefydlu. Nid oedd risgiau ychwanegol wedi eu hadnabod.

 

Amlygwyd y byddai gwaith archwilio’r datganiadau ariannol yn cael ei gwblhau yn ystod mis Medi gyda bwriad o gyflwyno adroddiad ar y datganiadau yn ystod Tachwedd 2026. Cyflwynwyd enwau’r tîm archwilio, yr amcan ffi (oedd yn cynnwys cynnydd mewn chwyddiant) a llinell amser y gwaith fydd yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn,

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i Osian Roberts am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi cynnwys Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Gwynedd 2026

 

11.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff  Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau ac felly am y rhesymau yma mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

12.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.10.2025-31.12.2025

 

I ystryied yr adroddiad

 

(copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn cyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn ar faterion buddsoddi cyfrifol. Cyfeiriwyd at y meysydd oedd wedi cael sylw Robeco yn ystod y chwarter dan sylw a’r wybodaeth oedd yn cynnwys manylion am y nifer gweithgareddau a’r ymgysylltu a gwblhawyd gyda rhai cwmnïau mawr gyda phwysigrwydd rhyngwladol. Nodwyd hefyd mai thema ymgysylltu'r chwarter dan sylw oedd Hawliau Cyfranddalwyr.

 

Trafodwyd y wybodaeth

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylw yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Er derbyn natur y gwaith, anodd oedd gweld sut mae’r gwaith yn perthnasu gyda phenderfyniadau PPC a gweld effaith y gwaith ar benderfyniadau’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

13.

PERFFORMIAD BUDDSODDI CRONFA BENSIWN GWYNEDD HYD AT 31 MAWRTH 2026

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

(copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar berfformiad y Gronfa hyd at Mawrth 31ain 2026. Trafodwyd perfformiad y Rheolwyr Buddsoddi mewn manylder a'r gwaith sydd yn mynd yn ei flaen i symud tuag at y dyraniad asedau newydd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Trafodwyd y wybodaeth

 

Sylw yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Yn hapus iawn gyda’r perfformiad er ychydig tu ôl y meincnod

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth