Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

3.

MATERION BRYS

4.

COFNODION pdf eicon PDF 136 KB

5.

CYNLLUN HYFFORDDIANT pdf eicon PDF 150 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2025/26.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2025/26

 

 

6.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS AR GYFER 2025/26 pdf eicon PDF 93 KB

I fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys atodol am 2025/26, fel ei addaswyd i bwrpas Cronfa Bensiwn Gwynedd (Atodiad A).

 

I wneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2025 ymlaen. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys atodol am 2025/26, fel ei addaswyd i bwrpas Cronfa Bensiwn Gwynedd
  •  
  • Gwneud cais i’r Cyngor (er nad yn gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o’r 1 Ebrill 2025 ymlaen

7.

GOSOD RHAGDYBIAETHAU AR GYFER PRISIAD 2025 pdf eicon PDF 335 KB

I gymeradwyo'r gosodiad rhagdybiaeth ar gyfer prisiad Cronfa Bensiwn Gwynedd 2025.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Cymeradwyo’r gosodiad rhagdybiaeth ar gyfer prisiad Cronfa Bensiwn Gwynedd 2025.
  • Croesawu’r sesiwn rhannu gwybodaeth gyda Hymans

 

8.

ADBORTH O GYNHADLEDD LLYWODRAETHU'R LGA pdf eicon PDF 102 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Nodyn:

Aelod o’r Bwrdd Pensiwn hefyd i fynychu’r gynhadledd i’r dyfodol

 

9.

CRYNODEB O DDADANSODDIAD BWLCH PENSIWN RHYW pdf eicon PDF 222 KB

I ystyried a chymeradwyo’r polisïau gweinyddol newydd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Bod angen mynd i'r afael â'r bwlch pensiwn rhyw yn llawn
  • Er derbyn bod angen newidiadau a gweithredu ar lefel genedlaethol, bod modd gweithredu rhai camau ar lefel lleol hefyd, gyda’r cyflogwyr, yn hytrach na’r gronfa bensiwn yn arwain ar faterion megis,

-        Adolygu proffiliau swyddi a graddfeydd cyflog er mwyn sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol ar draws y sbectrwm llawn.

-        Gwirio bod polisïau dychwelyd i’r gwaith, gan gynnwys gweithio hyblyg, yn cefnogi ac yn annog pobl sydd wedi cymryd seibiannau gyrfa yn ôl i'r gweithle.

-        Cyflwyno neu wella polisïau absenoldeb rhiant a rennir.

-        Addysgu gweithwyr am oblygiadau ar gyfer eu pensiwn unrhyw bryd y mae newid pwynt bywyd a allai arwain at ganlyniadau ariannol.

-        Gadael i aelodau newydd a gweithwyr rhan-amser wybod y gallant optio i mewn i'r cynllun pensiwn, hyd yn oed os nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyso

  • Cyflwyno’r wybodaeth i’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol
  • Derbyn diweddariad ymhen 6 mis ar y camau gweithredu (lefel lleol)

 

10.

POLISÏAU GWEINYDDOL Y GRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 76 KB

I ystyried a chymeradwyo’r polisïau gweinyddol newydd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cymeradwyo mabwysiadu polisïau isod o’r 1af o Ebrill 2025

-        Polisi Prawf Bywyd i bensiynwyr sy'n byw dramor

-        Polisi Gordaliad Pensiwn

-        Polisi Iaith Gyfathrebu

-        Polisi Dosbarthu Dogfennau Cronfa Bensiwn Gwynedd

-        Polisi Cyhoeddi Slip Cyflog y Gronfa Bensiwn

-        Polisi Talu Buddion Pensiwn a Lwmp Swm i Aelodau