Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024 / 2025

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Ethol y Cynghorydd Medwyn Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2024/25

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Medwyn Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2024/25

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024 / 2025

Penderfyniad:

 

 

PENDERFYNIAD

 

Ethol y Cynghorydd  Elin Hywel  yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2024/25

 

Cofnod:

 

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2024/25

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 124 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024 fel rhai cywir.

 

7.

CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2024 pdf eicon PDF 48 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y Cynllun a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

 

 

Croesawyd Ben Hughes (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Manwl ar gyfer 2024 yn cyflwyno’r tîm archwilio ynghyd a ffioedd a llinell amser archwilio gwaith y bwriedir ei gwblhau yn ystod y flwyddyn yn unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol. Amlygwyd y byddai gwaith archwilio’r datganiadau ariannol yn cael ei gwblhau yn ystod Gorffennaf ac Awst gyda bwriad o gyflwyno adroddiad ar y datganiadau yn ystod Medi 2024. Cyfeiriwyd at y risgiau sylweddol o gamddatganiad perthnasol gan nodi bod y risg yma wedi ei gynnwys ar bob cynllun dros Gymru fel rhan o weithdrefn Archwilio Cymru. Diolchodd i’r staff am y cydweithio da gydag Archwilio Cymru

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i Ben Hughes am fynychu’r cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r risg o wrth-wneud rheolaethau gan y rheolwyr a’r hyn y gellid ei wneud yn ychwanegol i liniaru’r sefyllfa, nodwyd bod Archwilio Cymru yn hapus gyda gwaith a threfniadau Cronfa Gwynedd, ond fod y risg yma yn gyffredin i bod endid ac yn cael ystyried fel rhan o’r safonau.  Ategodd y Pennaeth Cyllid bod y trefniadau yn y Gronfa i liniaru’r risg yma yn cynnwys trefniadau priodol mewn lle i adrodd arnynt megis cymeradwyo penderfyniadau, a chael trefn canu’r gloch yn ei le fel gall staff adrodd os ydynt yn cael eu rhoi o dan bwysau i dorri corneli neu beidio cydymffurfio â’r drefn arferol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd sylw y byddai’n fuddiol i’r dyfodol gael eglurhad am y risgiau fel bod modd deall y cyd-destun yn well a chynnwys enghreifftiau o beth all fynd yn anghywir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y Cynllun a nodi’r wybodaeth

 

8.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 52 KB

I dderbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2023/24.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2023/24

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2024. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon.

 

Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa wrth roi dyraniad asedau strategol newydd ar waith a buddsoddi yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y Gronfa gan dynnu sylw at ychydig o amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu gyda CPI. Ategwyd bod cynnydd yn y costau rheoli wrth i werth yr asedau gynyddu ac o gyflwyno mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio e.e. credyd preifat.

 

Eglurwyd bod incwm buddsoddi'r gronfa wedi codi yn sylweddol a buddsoddiadau ecwiti wedi perfformio yn gryf ac o ganlyniad wedi cynhyrchu incwm sylweddol. Ategwyd fel rhan o’r dyraniad asedau strategol, buddsoddwyd mwy yn y cronfeydd incwm sefydlog, gydag un gronfa incwm sefydlog newydd sef Global Credit Fund gyda’r buddsoddiadau yma wedi creu incwm llog sylweddol. Nodwyd bod y buddsoddiadau yn cael eu defnyddio i leihau risg y gronfa i gymharu â buddsoddiadau ecwiti gyda’r incwm yn dilyn patrwm cyfraddau llog mwy na heb, felly’n rhesymol bod y lefel incwm wedi cynyddu yn sylweddol.

 

Amlygwyd bod cynnydd o oddeutu £300 miliwn yng ngwerth marchnad y Gronfa a hynny wedi i’r marchnadoedd ecwiti fownsio nôl yn dilyn effaith parhad rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y ffigyrau i’w croesawu

·         Y perfformiad yn un da

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam bod lleihad sylweddol yn y ffioedd actiwari, nodwyd bod hyn oherwydd bod ffioedd uwch yn 2022/23 oherwydd cyfnod prisiad - bydd hwn yn batrwm bob tair blynedd. Mewn ymateb i gwestiwn ategol am reolaeth dros y ffi Partneriaeth Pensiwn Cymru, nodwyd nad oedd rheolaeth a bod y Pwyllgor Pensiynau wedi cymeradwyo’r Cynllun Busnes sydd yn cynnwys y ffioedd blynyddol. Nodwyd hefyd bod mwy o alw am gefnogaeth a bod y gofynion yn fwy cymhleth ac felly’r ffioedd yn adlewyrchu hynny. Nodwyd hefyd y byddai’r gost yn uwch petai Gwynedd yn gronfa unigol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd mewn dyledion ac os yw yn creu risg neu yn sefydlu patrwm, nodwyd bod cynnydd yn cael ei amlygu yma oherwydd amseriad diwedd blwyddyn yn unig. Ategwyd mai dyledwyr misol sydd yma ac nid dyledwyr tymor hir ac felly dim risg i’r sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2023/24

 

9.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 70 KB

I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

                                                                                                                                          

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi diweddariad chwarterol (hyd 31ain Rhagfyr 2023) Partneriaeth Pensiwn Cymru, er gwybodaeth

 

Cofnod:

 

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC. Eglurwyd bod yr adroddiad yn cysoni’r wybodaeth mae pob cronfa yng Nghymru yn ei dderbyn ynghyd a chynnwys penderfyniadau’r Cydbwyllgor Llywodraethu a diweddariad chwarterol safonol. Tynnwyd sylw at drafodaeth yng nghyfarfod mis Mawrth 2024 o’r Cydbwyllgor oedd yn cynnwys y broses tendro i ddarparwyr eiddo (y canlyniad i’w ddatgelu yn fuan), ynghyd ag adroddiad Hinsawdd Cymru Gyfan (sydd ar gael ar wefan y bartneriaeth) a’r eitemau arferol (cynllun hyfforddiant a’r cynllun busnes).

 

Yn niweddariad y Gweithredwr, amlygwyd bod yr holl gronfeydd sydd gan y Bartneriaeth bellach wedi’i sefydlu, a bod Gwynedd wedi’i bwlio mewn 7 ohonynt.  Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at unrhyw amodau’r farchnad sydd wedi cael eu monitro ganddynt. Tynnwyd sylw hefyd at ddadansoddiad fesul is-gronfa o’r perfformiad gan nodi bod y dychweliadau wedi bod yn bositif dros 3 mis a 12 mis a’r ffigyrau yn adlewyrchu yng ngwerth cronfa Gwynedd. Nodwyd hefyd bod cyflwyniad wedi ei wneud gan GCM Grosvenor sef dyranwr isadeiledd y bartneriaeth. Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi buddsoddi £3.6m ar 31 Rhagfyr 2023 hyd yma gyda’r cwmni rheoli asedau yma a’r swm yma yn debygol o gynyddu'n sylweddol dros amser.  Bydd cyfle i’r Pwyllgor gwrdd gyda'r rheolwyr newydd isadeiledd yma yn y dyfodol agos.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi diweddariad chwarter 3 (hyd 31ain Rhagfyr 2023) Partneriaeth Pensiwn Cymru, er gwybodaeth

 

 

10.

DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI DIWYGIEDIG pdf eicon PDF 57 KB

I ystyried a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi diwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi ddiwygiedig

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi ei bod yn ofynnol i'r Gronfa gyhoeddi Datganiad Strategaeth Buddsoddi (DSB) a hynny yn arferol yn dilyn y prisiad. Er hynny, fel rhan o’r strategaeth buddsoddi, amlygwyd yr angen i gwblhau adolygiad dilynol yn dilyn y dyraniad asedau strategol, diwygiedig. Adroddwyd bod gwaith wedi ei wneud ar y cyd gyda Hymans Robertson i ddiweddaru’r ddogfen dechnegol yma a tynnwyd sylw at yr adroddiad blaen oedd yn amlygu’r prif newidiadau oedd yn deillio o amodau diwygiedig y farchnad ac effaith hynny ar strategaeth Cronfa Gwynedd. Nodwyd hefyd bod cyfle wedi codi i gynnwys yr opsiynau pwlio newydd oedd ar gael a hynny yn benodol yr ystod eang o farchnadoedd preifat posib.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi ddiwygiedig

 

11.

CYNHADLEDD CPLl 'POOLING SYMPOSIUM' 2024 pdf eicon PDF 84 KB

I dderbyn y wybodaeth

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

 

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Cynghorydd Goronwy Edwards a’r Cynghorydd Iwan Huws oedd wedi mynychu’r gynhadledd ym mis Ebrill 2024.

 

Adroddwyd mai prif faes trafod y gynhadledd oedd pwlio gan ganolbwyntio ar sut mae pwlio cronfeydd awdurdodau lleol yn parhau i esblygu a beth fydd hyn yn golygu i’r dyfodol. Cafwyd gwybodaeth am ganllawiau’r llywodraeth ynghyd a’r buddiannau a risgiau sydd ynghlwm a pwlio. Nodwyd bod y gynhadledd wedi bod yn gyfle da i fynychwyr rwydweithio a rhannu arferion gorau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

12.

GWEINYDDIAETH PENSIYNAU pdf eicon PDF 169 KB

I ystruroed yr adroddiad, er gwybodaeth

Penderfyniad:

 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

 

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd â gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod a diweddariad ar amrywiol brosiectau.

 

Cyfeiriwyd at berfformiad dyletswyddau craidd y gwasanaeth ar gyfer 2023/24 i gymharu â 2022/23 gan nodi bod y perfformiad wedi gwella ar bob llinell gan amlygu gwelliant sylweddol mewn ’nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i anfon llythyr dyfynbris yn rhoi manylion trosglwyddiad allan’. Adroddwyd bod staff ychwanegol wedi cael eu penodi i ymateb i’r galw yn y gwasanaeth yma ac o ganlyniad y perfformiad wedi gwella e.e., er bod nifer achosion wedi cynyddu o 218 i 745 bod y nifer diwrnodau ‘ymateb’ wedi gostwng o 17.11 i 13.26. Y gwaith yma hefyd wedi sicrhau bod cofnodion o’r bobl hynny sydd yn gadael yn gywir a chyflawn ar gyfer y dashbwrdd.

 

Tynnwyd sylw at yr arolwg boddhad Gwasanaeth sydd yn cael ei anfon at Aelodau ar ddiwedd pob proses i gasglu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 162 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr arolwg yn ystod 2023/24 gyda’r canlyniad yn galonogol iawn (99% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel).

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant a phoblogrwydd y wefan ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan amlygu bod nifer o aelodau yn ymweld â’r safle yn ddyddiol ac oddeutu 20,000 wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hyd yma. Nodwyd bod y Gwasanaeth yn cysylltu gyda chyflogwyr iddynt annog staff i drosglwyddo bob yn dipyn fel bod modd delio gydag unrhyw sefyllfa all godi - y gobaith yw cwblhau'r gwaith erbyn diwedd Haf 2024.

 

Mynegwyd bod fersiwn newydd o safle we hunan wasanaeth wedi cael ei lansio 10/04/2024. Bydd y gwasanaeth yn cysylltu gyda chyflogwyr i ofyn iddynt annog staff i drosglwyddo bob yn dipyn i’r safle newydd fel bod modd delio gydag unrhyw sefyllfa all godi - y gobaith yw cwblhau'r gwaith erbyn diwedd Haf 2024.

 

Wrth drafod Y Rheoleiddiwr Pensiynau - Mesur Data atgoffwyd yr Aelodau bod cwmni Aquila Heywood wedi cael eu comisiynu yn y gorffennol i gynhyrchu Adroddiad Ansawdd Data ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd. Bellach, nodwyd bod meddalwedd bellach ar gael i redeg yr adroddiad hwn yn fewnol. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cael ei rannu i ddwy ran (data Cyffredin a Data Penodol i’r Cynllun). Cyfeiriwyd at un categori nad oedd wedi cyrraedd y meincnod (cyfeiriadau) a bod hyn yn ymwneud a phobl sydd wedi symud i fyw a heb roi gwybod i’r gwasanaeth o’u cyfeiriad newydd. Erbyn hyn, mae proses o olrhain y cyfeiriadau gyda Heywood, a’r gobaith yw gweld gwelliant i’r dyfodol yn y categori yma.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Yn llongyfarch y staff ar y perfformiad  - y ffigyrau yn ardderchog

·         Bod y system ar-lein newydd yn hawdd i’w ddefnyddio

·         Bod 99% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd o safon  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

CAU ALLAN Y WASG AR CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

14.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.10.2023-31.12.2023

I nodi cynnwys yr adroddiad

(copi i aelodau yn unig)

 

 

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad, er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn, gan gynnwys y gwaith ymgysylltu.

 

Trafodwyd cynnwys yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad