Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Ned Michael (Aelod Bwrdd Pensiwn i arsylwi) – nid oedd yn gallu ymuno oherwydd problemau technegol.

 

Croesawyd y Cyng Geraint Parry (Plaid Cymru) fel aelod newydd i’r Pwyllgor

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

COFNODION:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

COFNODION:

 

 

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 145 KB

COFNODION:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2025 fel rhai cywir.

 

 

5.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 76 KB

I ystyried yr adroddiad a nodi'r wybodaeth. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Nodyn: Parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Brosiect Snowdon fel Prosiect Yr Wyddfa

 

COFNODION:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC ynghyd a phenderfyniadau cyfarfod mis Medi o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (corff sy’n gwneud penderfyniadau dros y Bartneriaeth gyda Chadeirydd pob cronfa yn eistedd arno).

 

Adroddwyd bod gwaith sefydlu’r Cwmni Buddsoddi WPP IMCo ar gyfer buddsoddiadau cronfeydd pensiwn LGPS yng Nghymru yn parhau fel maes blaenoriaeth a bod prif swyddog gweithredol bellach wedi cael ei benodi. Y cam nesaf fydd cofrestru’r cwmni gyda Cofrestr Gwasanaethau Ariannol (Financial Conduct Authority - FCA), penodi swyddogion pellach a ffurfio cytundebau. Mynegwyd bod cyfarfod wedi ei drefnu (03-12-25) i’r Aelodau dderbyn gwybodaeth bellach ar y datblygiadau a chael cyfle i ddysgu mwy am y cwmni a pha gytundebau fydd angen i’r Pwyllgor eu cymeradwyo. Anogwyd yr Aelodau i fynychu.

 

Cyflwynwyd diweddariad ar y materion arferol o adolygu’r cynllun busnes, polisïau a’r gofrestr risg. Cyfeiriwyd at y cynnydd y mae’r cronfeydd yng Nghymru wedi’i pwlio, gyda Gwynedd yr ail uchaf o’r wyth gronfa unigol wedi trosglwyddo 87% sy’n golygu bydd y broses o symud yr asedau i'r cwmni buddsoddi IMCo ychydig yn haws o gymharu â chronfeydd eraill.

 

Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at amodau’r farchnad oedd wedi cael eu monitro ganddynt. Tynnwyd sylw at ddadansoddiad a pherfformiad yr is gronfeydd a’r marchnadoedd preifat gan ategu bod y rhaglen buddsoddi eiddo wedi cael ei sefydlu ac eiddo presennol Gwynedd yn y broses o gael ei drosglwyddo i Cronfa DU, gan fuddsoddi ymhellach yng Nghronfa Impact Investing yn fuan ym mis Ionawr 2026.

 

Mynegwyd bod y cydbwyllgor wedi derbyn diweddariad ar gronfeydd isadeiledd gan GCM Grosvenor sydd yn buddsoddi mewn amryw o gynlluniau ledled Prydain.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw bod PPC yn parhau i gyfeirio at y prosiect fel Prosiect Snowdon Project ac nid Prosiect yr Wyddfa / Yr Wyddfa Project, nodwyd bod y sylw wedi cael ei gyflwyno i PPC, ac ar bob cyfle posib wedi hynny, y swyddogion wedi ceisio cyfleu’r enw cywir - angen parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Prosiect Snowdon fel Prosiect yr Wyddfa.

 

Mewn ymateb i sylw bod Cronfa Clwyd wedi pwlio 32%, Powys 63% ac Abertawe 66% ac a fydd hyn yn debygol o greu problemau at gyrraedd y targed o 100% neu yn adlewyrchu yn wael ar PPC, nodwyd bod mesurau wedi eu rhoi mewn lle i ymateb i’r sefyllfa gyda Swyddog Delio ag Asedau wedi ei benodi i arwain y gwaith. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r effaith ar is gronfeydd ACS sydd yn dal cwmnïau Rwsiaidd a’r angen am wybodaeth ynglŷn â’r asedau hyn, nodwyd, er bod  gwybodaeth am y buddsoddiadau yn newid yn ddyddiol, bod darn o waith wedi ei gomisiynu i ffurfioli datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd.

 

Yng nghyd-destun gosod targed / amcanion ar gyfer daliadau’r Cyngor ac os oedd bwriad eu cadw neu eu gwerthu, nodwyd nad oedd cynllun pendant mewn  ...  view the full COFNODION text for item 5.

6.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 98 KB

I ystyried adroddiad yr archwilydd, cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon ac awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r llythyr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn y wybodaeth
  • Nodi adroddiad ISA 260 gan Archwilio Cymru, a derbyn sylwadau’r archwilwyr
  • Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ôl-archwiliad ar gyfer 2024/25
  • Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Swyddog.151 i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth (yn electroneg)

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2024/25 (ôl archwiliad), gan y Rheolwr Buddsoddi oedd yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2025. Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi eu cyflwyno i gyfarfod Gorffennaf 2025 ac er nad oedd newidiadau arwyddocaol i’r ffigyrau craidd yn dilyn archwiliad gan Archwilio Cymru, bod addasiad bychan i'r naratif yn y nodiadau, ac i niferoedd y pensiynwyr.

 

Gwahoddwyd Osian Roberts (Archwilio Cymru) i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Adroddwyd bod yr archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo.  Eglurwyd na all archwilwyr fyth roi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan yn gywir ond yn hytrach yn gweithio i lefel o ‘berthnasedd’ a bennwyd ar £32.364 miliwn ar gyfer archwiliad eleni. Cyfeiriwyd at y camddatganiad yn y cyfrifon gwreiddiol (Nodyn 1 Disgrifiad o’r Gronfa – and oedd ffigyrau aelodaeth yn cynnwys 183 o gynghorywr a oedd yn Aelodau o’r cynllun yn ystod y cyfnod.

 

Tynnwyd sylw at fformat newydd yr adroddiad a’r crynodeb allweddol sydd yn  haws i’r darllenydd ei ddeall ynghyd a chanlyniadau'r risgiau a archwiliwyd.

 

Diolchwyd am yr adroddiadau.

 

Llongyfarchwyd Swyddogion Cyllid y Cyngor am baratoi’r holl wybodaeth ac i Archwilio Cymru am eu cefnogaeth. Nodwyd bod ansawdd y cyfrifon yn adlewyrchu gwaith da'r tîm.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chamddatganiad Nodyn 1, cadarnhawyd, er nad oedd yn cael effaith ar y ffigyrau terfynol, bod y wybodaeth wedi ei gywiro ac wedi ei gynnwys yn y fersiwn terfynol ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Gronfa Bensiwn.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn y wybodaeth

·        Nodi adroddiad ISA 260 gan Archwilio Cymru, a derbyn sylwadau’r archwilwyr

·        Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ôl-archwiliad ar gyfer 2024/25

·        Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Swyddog.151 i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth (yn electroneg)

 

7.

CYNADLEDDAU PENSIWN pdf eicon PDF 94 KB

I ystyried a chymeradwyo rhestr o gynadleddau ar gyfer 2026

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn rhestr dyddiadau cynadleddau 2026

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad yn rhestru dyddiadau cynadleddau pensiynau ar gyfer 2026. Nodwyd bod y cynadleddau yn rhoi cyfle i’r Aelodau ehangu eu gwybodaeth a thrafod materion cyfoes a bod y cynadleddau a gynigwyd yn seiliedig ar berthnasedd cynnwys hanesyddol y digwyddiadau. Trafodwyd y dyddiadau a bu i’r Aelodau ddatgan diddordeb yn y digwyddiadau hynny oedd yn gyfleus iddynt.

 

Gyda threfniadau mewn lle i’r Aelodau gyflwyno adborth ar lafar ar y gynhadledd a fynychwyd yn y pwyllgor dilynol, nodwyd bod bwriad i’r trefniant yma barhau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn rhestr dyddiadau cynadleddau 2026

 

 

8.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 286 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

COFNODION:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym Mawrth 2025 cymeradwywyd y Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y flwyddyn 2025/26 lle caniateir i arian y Gronfa Bensiwn cael ei gronni a’i gyd-fuddsoddi a llif arian cyffredinol y Cyngor. Nodwyd hefyd bod disgwyliad i’r Rheolwr Buddsoddi ddiweddaru'r Pwyllgor ar y sefyllfa yn rheolaidd, gyda’r diweddariad yma yn edrych ar y cyfnod hyd at 30 o Fedi 2025.

 

Eglurwyd bod y cyfnod wedi bod yn un prysur iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor. Adroddwyd, yng nghyd-destun gweithgareddau buddsoddi, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i pwlio, Awdurdodau Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion. Nodwyd bod y cronfeydd yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi eu gwneud ers nifer o flynyddoedd bellach.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion, adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cyngor - hynny yn newyddion da, ac yn dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian. Amlygwyd yn y cyfnod dan sylw, bod y Gronfa wedi buddsoddi ychydig yn uwch na’r lefel gymeradwy ar gyfer y banciau a chronfeydd marchnad arian a hynny oherwydd lefel uchel o arian, ac opsiynau yn brin. Nodwdy bod camau wedi eu cymryd i sicrhau na fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol drwy agor mwy o gyfrifon i wasgaru’r arian.  Yn ychwanegol, amlygwyd bod y Cyngor hefyd wedi cydymffurfio yn llawn gyda dangosyddion darbodus Rheolaeth Trysorlys.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2024/25 pdf eicon PDF 11 KB

I adolygu a darparu adborth ar yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer 2024/25

 

COFNODION:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad yn darparu manylion am weithgareddau’r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 ac wedi ei gwblhau yn unol â chanllawiau statudol. Tynnwyd sylw at newidiadau yng ngofynion y Bwrdd Cynghori Cynllun (Scheme Advisory Board) i adnabod a chyflwyno'r wybodaeth drwy dri chategori - rhaid (must), dylid (should) ac efallai (may). Sicrhawyd bod popeth sydd yn cael ei adnabod felrhaid’ a ‘dylidwedi cael ei gynnwys, oni bai nad oedd y wybodaeth ar gael. Yn sgil hynny eglurwyd bod yr adroddiad blynyddol wedi cynyddu mewn maint gan ei fod yn cynnwys adroddiadau blynyddol gan y Bwrdd, y Pwyllgor Pensiynau, gwybodaeth bellach am ystadegau gweinyddu, gwaith pwlio, swyddogaethau craidd y Pwyllgor, hyfforddiant, cynllun gwaith, blaenoriaethau a chrynodeb o’r pynciau a drafodwyd yn ystod y flwyddyn.

 

Adroddwyd bod yr adroddiad blynyddol wedi cael ei adolygu gan Archwilio Cymru gydag un mân addasiad i’r fersiwn drafft cyn ei gyhoeddi ar y wefan (cyn y dyddiad statudol - 1af o Ragfyr 2025).

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r staff oedd yn gysylltiedig â pharatoi’r gwaith.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer 2024/25

 

10.

GWEINYDDIAETH PENSIYNAU pdf eicon PDF 217 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod a diweddariadau ar amrywiol brosiectau:

·        Gweithredu rhwymedigaeth McCloud yn dilyn dyfarniad yn y Goruchaf Lys

·        Gwaith yn ymwneud â phrisiad actiwaraidd 2025 oedd yn cynnwys cynnal Fforwm Cyflogwyr i rannu canlyniadau prisiad gyda’r cyflogwyr. Nodwyd bydd y cyfraniadau newydd yn cael eu cadarnhau yn ffurfiol ddiwedd mis Mawrth 2026.

·        Gwaith yn ymwneud â chysylltu gydag ecosystem Dashfwrdd Pensiwn Cenedlaethol erbyn 31/10/25.

·        Paratoi ymateb (ar sail Cymru gyfan) i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar welliannau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fydd yn moderneiddio’r cynllun, gwella tegwch a chryfhau amddiffyniadau aelodau hirdymor.

·        Bod gwaith i sicrhau bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi bodloni gofynion statudol drwy gyhoeddi Datganiadau Buddion Blynyddol wedi ei gwblhau ddiwedd Gorffennaf (cyn y diwrnod cau). Cyfeiriwyd hefyd at gyflwyniad  / rhith ffurf ar y porth Fy Mhensiwn ar Lein sydd yn cefnogi aelodau i ddeall y datganiadau yn well.

·        Bod ansawdd data yn parhau yn flaenoriaeth i’r Gronfa a datblygiadau parhaus yn cael eu gweithredu i wella’r ansawdd ymhellach. Cyfeiriwyd at esiampl lle mae'r Gronfa yn cydweithio gyda gwasanaeth olrhain proffesiynol i geisio dod o hyd i fanylion cyswllt teulu aelodau sydd wedi marw neu sydd yn ymddangos fel ‘cyfeiriad sydd wedi mynd i ffwrdd’.

·        Bod cyfathrebu gydag aelodau hefyd yn parhau yn flaenoriaeth – cylchlythyr wedi ei ddosbarthu gyda’r Datganiadau Buddion Blynyddol 2025. Nodwyd bod gwaith yn parhau i ail ddylunio gwefan y Gronfa.

·        Eglurwyd, yn sgil newidiadau mewnol yn cael ei gweithredu i dasgau nad oedd data perfformiad cynhwysfawr ar gael, bod y Gronfa yn rhoi sicrwydd nad oedd unrhyw arwydd bod perfformiad y gwasanaeth yn dirywio, ond bod bwriad cyflwyno’r wybodaeth pan fydd y gweithdrefnau diwygiedig wedi eu cwblhau.

·        Bod gwaith yn parhau i sicrhau bod polisïau a chydymffurfiaeth yn eu lle mewn ymateb i ofynion Llywodraethu Da

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant parhaus ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan nodi bod aelodaeth y porth yn parhau i dyfu’n raddol o fis i fis. Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi Heywood i ddatblygu fersiwn Gymraeg a bod y fersiwn yma i’w chyflwyno i holl gronfeydd CPLlL Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Tynnwyd sylw at yr Arolwg Boddhad Gwasanaeth sy’n cael ei anfon at Aelodau ar ddiwedd prosesau allweddol, megis ymddeoliadau a thaliadau ad-dalu, i gasglu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 58 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr arolwg rhwng Ebrill 2025 – Medi 2025  gyda’r canlyniad yn galonogol iawn (95.13% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel ac a 97.26% yn cytuno’n gryf neu gytuno bod perfformiad staff yn bodloni safon uchel).

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Nodwyd bod llwyddiannau cwblhau gwaith o fewn amserlen benodol yn rhoi hyder i’r Gronfa bod swyddogion yn gweithredu yn effeithiol a safonol. Yr adroddiad yn amlygu bod llawer o waith wedi ei gwblhau mewn cyfnod heriol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn  ...  view the full COFNODION text for item 10.

11.

CYNLLUN GWELLA DATA pdf eicon PDF 179 KB

I ystyried yr adroddiad a darparu adborth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn manylu ar y mathau allweddol o ddata a gynhelir gan y Gronfa gan amlygu pwysigrwydd cywirdeb data a dulliau clir a strwythuredig o wella ansawdd data. Tynnwyd sylw at amcanion gwella data’r Gronfa ynghyd a’r mathau o ddata sydd angen eu cwblhau i ddiogelu hawliau Aelodau, cefnogi effeithlonrwydd gweithredol ac atgyfnerthu ymddiriedaeth llywodraethu’r Gronfa.

 

Amlygwyd bod dau gategori data - data cyffredin a data penodol i’r cynllun gyda chamau targedu a dulliau gweithredu wedi eu gosod ar gyfer gwella ansawdd y ddau gategori. Tynnwyd sylw at ddefnydd y Gwasanaeth Olrhain proffesiynol i geisio lleihau achosion o’r nifer sydd yn ymddangoswedi symud’ neu wybodaeth gyswllt wedi dyddio yng nghategori data cyffredin. Adroddwyd bod y gwasanaeth, er yn gostus, wedi cyflwyno canlyniadau da hyd yma a bod y nifer achosion yn lleihau.

 

Ystyriwyd trwy ddilyn y Cynllun Gwella Data byddai’r Gronfa yn anelu at wella’r data yn sylweddol gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol a gwella profiadau cyffredinol Aelodau a chyflogwyr.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnydd cyfeiriadau E-byst a rhifau ffôn, nodwyd yn hanesyddol nad oedd y wybodaeth yma yn cael ei gasglu, ond bellach yn rhan o’r broses

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

12.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff  Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau ac felly am y rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

COFNODION:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

13.

ADOLYGIAD O DDYRANIAD ASEDAU STRATEGOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD

I ystyried a chymeradwyo dyraniad asedau strategol arfaethedig y Gronfa

 

(copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cymeradwyo dyraniad asedau strategol arfaethedig y Gronfa ac argymhellion adroddiad gweithredu Hymans Robertson

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad yn cynnig dyraniad strategol newydd i asedau’r Gronfa yn dilyn canlyniad prisiad tair blynedd 2025 ac argymhellion gan Hymans Robertson (ymgynghorwyr y Gronfa). Mynegwyd mai Dyrannu Asedau Strategol yw'r penderfyniad pwysicaf ar gyfer unrhyw Gronfa Bensiwn gan ategu nad oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o benderfynu ar y Dyraniad Asedau Strategol ac mai mater o ddod o hyd i'r ateb gorau i gyfyngiadau a chyfleoedd ydoedd.

 

Cynhaliwyd adolygiad o’r Strategaeth Fuddsoddi gan Hymans Robertson a croesawyd Kenny Taylor, ymgynghorydd o’r cwmni i gyflwyno canlyniadau’r adolygiad ac argymhellion i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad a’r adroddiad

 

Trafodwyd yr asedau strategol arfaethedig

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Cymeradwyo dyraniad asedau strategol arfaethedig y Gronfa ac argymhellion adroddiad gweithredu Hymans Robertson

14.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.04.2025-30.06.2025

I ystyried a nodi Adroddiad Chwarterol gan Robeco

 

(copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn ar faterion buddsoddi cyfrifol. Cyfeiriwyd at y meysydd oedd wedi cael sylw Robeco yn ystod y chwarter dan sylw a’r wybodaeth yn cynnwys manylion am y nifer gweithgareddau a’r ymgysylltu a gwblhawyd oedd yn cynnwys cwmnïau mawr gyda phwysigrwydd rhyngwladol. Nodwyd hefyd mai thema ymgysylltu'r chwarter dan sylw oedd Cyflymaid i Sero-Dagoedwigo (Deforestation).

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dadfuddsoddi, nodwyd bod PPC wedi cyhoeddi datganiad ar eu gwefan (17 Tachwedd 2025) sydd yn cyfarch eu safbwynt  ar  waharddiadau a dadfuddsoddi.

 

Awgrymwyd yn hytrach na nodi ‘wedi cau’ (closed) fel dangosydd cynnydd yn eu proses ymgysylltu, byddai ‘ymgysylltu pellach’ yn derm mwy cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth