Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Ail Ethol y
Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2026/27 Cofnod: Penderfynwyd ail
ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2026/27 |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027 Penderfyniad: PENDERFYNIAD Ail ethol y
Cynghorydd John Pughe Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer
2026/27 Cofnod: Penderfynwyd ail
ethol y Cynghorydd John Pughe Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer
2026/27 |
|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26ain o Chwefror 2026 a’r 16eg o Fawrth 2026 fel rhai cywir. |
|
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi
diweddariad chwarterol Partneriaeth Pensiwn Cymru Cofnod: Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd
sy’n cael ei gyflwyno i’r
Aelodau i nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith Partneriaeth
Pensiwn Cymru ynghyd a phenderfyniadau cyfarfod mis Mawrth o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (CBLl - corff sy’n
gwneud penderfyniadau dros y Bartneriaeth gyda Chadeirydd pob cronfa yn eistedd
arno). Yn dilyn diweddariad mewn sesiwn gwybodaeth ddiweddar
yn sgil sefydlu
cwmni WPP IM Co, nodwyd mai hwn oedd
y Cyd Bwyllgor Llywodraethu
olaf yn ei
ffurf bresennol. Adolygwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2025/26, a cyflwynwyd cynlluniau busnes y dyfodol i’r Cydbwyllgor; cynllun busnes oedd yn amlygu
sut bydd y Partneriaeth Pensiwn Cymru presennol yn gweithredu
yn ystod y cyfnod trosiannol, ynghyd â Cynllun Busnes WPP IMCo am y flwyddyn 2026. Cymeradwywyd y dogfennau hyn yng nghyfarfod
Pwyllgor Pensiynau Gwynedd
16-03-2026. Cafwyd diweddariad ar waith y gweithredwr
a’r cronfeydd sydd gan y Bartneriaeth wedi’i sefydlu ynghyd a manylder am waith
y gweithredwr dros y cyfnod ac unrhyw amodau’r farchnad maent yn eu monitro.
Yng nghyd-destun perfformiad y cronfeydd nodwyd eu bod wedi wynebu amodau
heriol gyda’r marchnadoedd yn gyfnewidiol yn y cyfnod dan sylw. Cyfeiriwyd at y gwaith mae Partneriaeth
Pensiwn Cymru wedi ei wneud ynglŷn ag
agwedd tuag at eithriadau, gyda pholisïau buddsoddi cyfrifol bellach
wedi eu diweddaru i gwmpasu nifer o eithriadau, megis pŵer o glo thermal,
arfau dadleuol a chwmnïau sydd yn torri rheolau yn barhaus. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Bod rôl y Pwyllgor yn newid yn sylweddol – y rôl yn
ymddangos fel rôl o graffu yn hytrach na rôl gyfrifol ·
Angen sicrhau bod Aelodau’r Gronfa yn cael
dychweliadau da - a oes gwrthdaro yma
rhwng Llywodraeth San Steffan yn defnyddio arian Cronfeydd Llywodraeth Leol at
eu dibenion hwy? Angen sicrhau nad oes gwrthdaro ·
Bod angen i’r Pwyllgor fod yn effro i’w rôl newydd ·
Awgrym y dylai Aelodau’r Pwyllgor gael cyfarfodydd
gyda Rheolwyr y Gronfa fel bod modd iddynt gael gwybodaeth gyfredol am
fuddsoddiadau – pryder, petai IMCo yn cam-fuddsoddi,
Aelodau’r Pwyllgor fydd yn debygol o gael eu gweld ar fai am gam fuddsoddi
arian cyfranogwyr Cronfa Gwynedd. ·
Y Pwyllgor angen sicrwydd mai buddion Aelodau’r
Gronfa yw’r flaenoriaeth Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag
‘echdynnu cronfeydd olew a nwy anghonfensiynol’ ac os oedd hyn yn cynnwys ffracio nododd y Rheolwr Buddsoddi y byddai yn ceisio’r
wybodaeth ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Yn yr un modd, byddai hefyd yn ceisio
ateb i gwestiwn ynglŷn â beth yw diffiniad y gair ‘dadleuol’ yng
nghyd-destun gwaharddiadau sydd yn cael eu cymhwyso i fuddsoddiadau mewn
cwmnïau sydd yn ymwneud a chynhyrchu arfau dadleuol. Ategwyd, gyda’r
Llywodraeth yn bwriadu cyfrannu £15 biliwn ychwanegol at Drawsnewid Lluoedd
Arfog y DU, a chyfloedd tebyg yn codi i fusnesau a
buddsoddi mewn technoleg ar gyfer y Lluoedd Arfog, ystyriwyd y byddai mwy o wybodaeth
am y sefyllfa yn fanteisiol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â defnydd parhaus Partneriaeth Pensiwn Cymru o ddefnyddio’r enw Operation Snowdon yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
FFORWM CRONFA BENSIWN AWDURDODAU LLEOL (LAPFF) I nodi cynnwys yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn egluro am waith
Fforwm Cronfa Bensiwn Awdurdodau Lleol (LAPFF) sydd yn gwneud
gwaith da o hyrwyddo’r safon uchaf o lywodraethu
corfforaethol i ddiogelu gwerth hirdymor Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol. Gwahoddwyd y Cynghorydd
Stephen Churchman, sydd yn aelod o’r Bwrdd
Gweithredol i egluro ymhellach, a sut y gall y fforwm gefnogi a chynorthwyo gwaith Cronfa Bensiwn Gwynedd. Eglurodd y Cyng. Stephen Churchman ei
fod wedi bod yn Aelod o’r Fforwm
ers bron i 8 mis ac yn yr amser hynny bod 5 cyfarfod fforwm o’r Fforwm wedi
ei gynnal. Nododd bod y cyfarfodydd yn cael eu
rhannu yn ddau gyfarfod - y cyfarfod cyntaf yn un i’r Gweithredwyr
drafod cynnwys y rhaglen a’r adroddiadau
fydd yn cael
eu cyflwyno i’r ail gyfarfod sef y cyfarfod busnes. Ystyriodd bod y drefn yn rhoi
dealltwriaeth dda o gyd-destun y gwaith gyda gwahoddiadau yn cael eu
hymestyn i gynrychiolwyr cronfeydd pensiwn a phwls; bydd pawb yn
cael eu hannog
i gymryd rhan yn y trafodaethau. Ategodd mai un mater oedd wedi dwyn
ei sylw yn
ddiweddar oedd ystyriaethau i’r maes ‘cemegion am byth’ - cemegion sydd bron yn anorchfygol erbyn hyn gyda
miloedd o dunelli ohonynt yn treiddio i mewn i’r eco system gan greu her
amgylcheddol systemig, creu risg i iechyd pobl (er nad yw’r effeithiau wedi eu
profi hyd yma), llygredd a halogiad dwr. Nododd bod LAPFF yn ymgysylltu gyda’r
cwmnïau hynny sydd yn cynhyrchu deunyddiau (sydd yn cynnwys y cemegion hyn - o
ddillad, i golur, offer cegin ac eraill) a gyda chwmnïau cyfleusterau dŵr
i drafod sut y maent yn ceisio cyfarch y broblem sydd a photensial o arwain at
risg ariannol a chyfreithiol a all yn y pendraw gael effaith ar fuddsoddwyr.
Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor fod yn effro i’r mater. Wrth gloi, nododd bod LAPFF yn
ymgysylltu ar ran buddsoddwyr (yn debyg iawn i waith Robeco)
ac hefyd yn ymddwyn fel corff sydd yn hyfforddi a chefnogi Pwyllgorau - yn
sefydliad amrywiol iawn. Diolchwyd am y wybodaeth Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth ddilynol, ·
Bod defnydd o’r Fforwm yn gyfle da
i dderbyn adborth, arweiniad a gwybodaeth ynglŷn ag ymgysylltu mewn
materion penodol ·
Cais i’r Cynghorydd holi’r Fforwm
ynglŷn â’r ffordd orau o ymgysylltu gyda’r pwnc cemegion am byth - amlwg
yn faes sydd yn codi pryder ·
Gwerthfawr gwybod bod y corff yn
gweithio ar ran y Pwyllgor drwy ofalu bod y Pwyllgor yn gwneud buddsoddiadau
cyfrifol a stiwardiaeth PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |
|
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2026 Cyflwyno a nodi ‘Datganiad o’r Cyfrifon Drafft’. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD; Derbyn a nodi
Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion
gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn
a ddaeth i ben Mawrth 31ain
2026. Amlygwyd bod y cyfrifon
(drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei
weithredu gan Archwilio Cymru Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf
statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli
beth sy’n cael ei gyflwyno
yn y cyfrifon ac nad oedd dim newid
yn y canllawiau o’r flwyddyn ddiwethaf. Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa
a gwaith yn parhau mewn buddsoddi
yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y Gronfa gan dynnu
sylw at ychydig o amrywiadau yn y cyfraniadau a’r buddion. Nodwyd bod lleihad yn y costau
rheoli wrthi fathau gwahanol o fuddsoddiadau gael eu cyflwyno i’r
portffolio a drwy leihau
buddsoddiadau gyda grŵp Partners sydd wedi cael
ffioedd rheoli uwch yn hanesyddol.
Ategwyd bod yr incwm buddsoddi wedi cynyddu wrth i’r Gronfa dderbyn
incwm rheolaidd gan y buddsoddiadau newydd megis isadeiledd ac ecwiti preifat o
fewn cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gyda chynyddu o oddeutu £280 miliwn
yng ngwerth marchnad y gronfa sydd yn unol â’r cynnydd graddol blynyddol. Tynnwyd sylw at y nodiadau statudol oedd yn rhoi
manylion pellach tu ôl i’r
ffigyrau, gweithgareddau'r Gronfa, a Phartneriaeth Pensiwn Cymru, gan fod y Bartneriaeth yn rhan flaenllaw
bellach o waith y Gronfa. Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod, fel Swyddog
Adran 151 wedi arwyddo'r cyfrifon drafft gan dderbyn eu
bod yn adlewyrchiad cywir a theg o’r
sefyllfa. Diolchwyd i’r swyddogion
am eu gwaith o ddod ar cyfrifon
at ei gilydd - yn waith sylweddol
a chymhleth wedi ei gyflwyno yn
dda a phroffesiynol Diolchwyd hefyd i
waith PPC am fod yn bennaf gyfrifol
am y rhesymau dros y cynnydd Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyfanswm asedau net y gronfa sydd ar
gael i ariannu
buddion ar ddiwedd y cyfnod adrodd - y gwahaniaeth rhwng 31 Mawrth 2025 a 31 Mawrth 2026 yn
£362 miliwn, ac os oedd hwnnw, sydd
yn ffigwr anhygoel, yn ffigwr
cywir, cadarnhawyd gyda maint y gronfa
bellach yn £3.6 biliwn bod y Gronfa bellach yn delio
gyda ffigyrau mawr - y ffigwr yn cynrychioli 10% o gynnydd sydd
yn cyd-fynd a chynnydd dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd y bydd Adroddiad
Blynyddol yn cael ei gyflwyno
i’r Pwyllgor nesaf yn cefnogi
ac egluro’r ffigyrau mewn mwy o fanylder
ac yn cynnwys Gwybodaeth ar sut mae'r
Gronfa wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â gwerth y farchnad, cadarnhawyd bod y ffigyrau wedi eu selio
ar werth y farchnad ar Fawrth
31ain 2026. Sylw
yn codi o’r drafodaeth ddilynol ·
Bod yr incwm wedi codi oherwydd newid
yn y buddsoddiadau sydd yn cael eu gwneud (cynnydd o £65.8miliwn i £84.8
miliwn) - yn amlygu bod y newidiadau yn cyfateb i’r newid i sut mae pensiynau
yn ymateb i sefyllfaoedd. PENDERFYNWYD ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2026 I ystyried
a derbyn y Cynllun Archwilio Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi cynnwys
Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Gwynedd 2026 Cofnod: Croesawyd Osian Roberts (Archwilio
Cymru) i’r cyfarfod. Yn unol â chyfrifoldeb statudol Archwilwyr Allanol, cyflwynwyd Cynllun Archwilio
Manwl ffurfiol ar gyfer cyfrifon 2025-2026 oedd yn egluro
sut roedd Archwilio Cymru yn mynd i gynnal
yr Archwiliad. Tynnwyd sylw at y lefel perthnasedd y datganiadau ariannol gan nodi and oedd Archwilio Cymru yn ceisio lefel sicrwydd
llwyr ynghylch cywirdeb a thegwch y datganiadau, ond yn mabwysiadau cysyniad perthnasedd - lefel perthnasedd Cynllunio yn 1% o’r asedau
gros yn seiliedig ar ddatganiadau ariannol archwiliedig 2024 -2025.
Yng nghyd-destun lefel perthnasedd datgeliadau partïon cysylltiedig - prif bersonél rheoli,
nodwyd bod y lefel perthnasedd wedi ei osod ar
£1,000. Cyfeiriwyd at y risgiau gan nodi bod y ‘risg o wrthwneud gan reolwyr’
yn risg gorfodol
sydd wedi ei gynnwys ymhob
cynllun yng Nghymru fel rhan
o weithdrefn Archwilio
Cymru. Nodwyd y bydd ffocws hefyd ar
y risg ‘balansau asedau buddsoddi’ oherwydd bod rhai balansau yn anoddach
i’w gwerthuso nac eraill - yr un broses sydd wedi ei
dilyn dros y blynyddoedd ac sydd bellach wedi hen sefydlu. Nid oedd
risgiau ychwanegol wedi eu hadnabod. Amlygwyd y byddai gwaith archwilio’r datganiadau ariannol yn cael ei
gwblhau yn ystod mis Medi gyda bwriad o gyflwyno adroddiad ar y datganiadau yn ystod Tachwedd 2026. Cyflwynwyd enwau’r tîm archwilio, yr amcan ffi (oedd
yn cynnwys cynnydd mewn chwyddiant)
a llinell amser y gwaith fydd yn
cael ei gwblhau
yn ystod y flwyddyn, Diolchwyd am yr adroddiad ac i Osian Roberts am fynychu’r cyfarfod. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi cynnwys Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Gwynedd 2026 |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei
gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio
hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i
wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau ac felly am y
rhesymau yma mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol
neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael
arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio
cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r
allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd
cyhoeddus. |
|
|
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.10.2025-31.12.2025 I ystryied
yr adroddiad (copi i Aelodau’r
Pwyllgor yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad chwarterol
yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn cyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn ar faterion buddsoddi
cyfrifol. Cyfeiriwyd at y meysydd oedd wedi
cael sylw Robeco yn ystod y chwarter
dan sylw a’r wybodaeth oedd yn cynnwys manylion
am y nifer gweithgareddau a’r ymgysylltu a gwblhawyd gyda rhai cwmnïau mawr gyda phwysigrwydd rhyngwladol. Nodwyd hefyd
mai thema ymgysylltu'r chwarter dan sylw oedd Hawliau Cyfranddalwyr. Trafodwyd
y wybodaeth Diolchwyd
am yr adroddiad Sylw
yn codi o’r drafodaeth ddilynol ·
Er derbyn natur y gwaith, anodd
oedd gweld sut mae’r gwaith yn perthnasu gyda phenderfyniadau PPC a gweld
effaith y gwaith ar benderfyniadau’r Pwyllgor. PENDERFYNWYD Derbyn
a nodi’r wybodaeth |
|
|
PERFFORMIAD BUDDSODDI CRONFA BENSIWN GWYNEDD HYD AT 31 MAWRTH 2026 I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth (copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar berfformiad y Gronfa hyd at
Mawrth 31ain 2026. Trafodwyd perfformiad y Rheolwyr Buddsoddi mewn manylder a'r
gwaith sydd yn mynd yn ei flaen i symud tuag at y dyraniad asedau newydd. Diolchwyd
am yr adroddiad Trafodwyd
y wybodaeth Sylw
yn codi o’r drafodaeth ddilynol ·
Yn hapus iawn gyda’r perfformiad
er ychydig tu ôl y meincnod PENDERFYNWYD Derbyn
a nodi’r wybodaeth |