Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ffion Elain Evans E-bost: ffionelainevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Stephen Churchman a’r Cynghorydd Arwyn Herald Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni godwyd unrhyw faterion
brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor
hwn, a gynhaliwyd ar 15fed o Fehefin 2023, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol, a gynhaliwyd ar 15fed o Fehefin 2023, fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD DRAFFT PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL PDF 150 KB I ofyn i’r Pwyllgor
am eu sylwadau er mwyn llunio ymateb
i ymgynghoriad adroddiad drafft y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth
Ariannol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad a chyflwyno sylwadau’r pwyllgor er mwyn llunio ymateb i ymgynghoriad
adroddiad drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth
Democratiaeth ac Iaith yr adroddiad gan egluro mai’r panel sy’n gyfrifol am
osod lefel cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer cynghorwyr. Nodwyd bod eu rôl yn
gwbl annibynnol a’u bod yn cyhoeddi adroddiad yn flynyddol ym mis Hydref er
mwyn amlinellu’r bwriad ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Ar gyfer
blwyddyn ariannol 2024/25 esboniwyd nad yw’r panel wedi awgrymu unrhyw
newidiadau mawr ond eu bod yn cynnig cynyddu’r lwfans sylfaenol a gynigir i
Gynghorwyr a byddai hynny’n daladwy o fis Ebrill 2024 ymlaen. Byddai cynnydd yn
y swm a gynigir i’r Cynghorwyr sy’n derbyn uwch gyflogau hefyd. Eglurwyd mai’r prif newid arall yw bod y
panel wedi rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud â thaliadau ar gyfer aelodau
cyfetholedig. Esboniwyd bod y trefniadau cyfredol yn nodi y dylai aelodau
cyfetholedig gael cydnabyddiaeth ariannol ar sail diwrnod neu hanner diwrnod.
Ond yn sgil newidiadau i arferion gwaith, megis cyfarfodydd brifio amlach
ar-lein ayyb, eglurwyd bod y panel yn ystyried cynnig hyblygrwydd wrth dalu
aelodau cyfetholedig, gan gynnwys talu fesul cyfradd yr awr. Esboniodd y Rheolwr
Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith bod chwe chwestiwn wedi’i gynnwys yn yr
ymgynghoriad a gofynnodd a byddai modd i’r pwyllgor roi sylwadau ar y gwahanol
agweddau fesul cwestiwn er mwyn gallu defnyddio’r sylwadau i baratoi ymateb i
ymgynghoriad y panel. ·
Cwestiwn 1: Cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd a chydnabyddiaeth ariannol ddigonol i
gynrychiolwyr? o
Nodwyd bod yr hyn a gynigir gan y panel
yn ymddangos yn ddigon fforddiadwy o’i gymharu â chyllideb y Cyngor yn ei
gyfanrwydd ac felly ei fod yn ymddangos yn ddigon teg. ·
Cwestiwn 2: Barn ar hyblygrwydd taliadau
i Aelodau Cyfetholedig? o
Cytunodd yr Aelodau bod y rhesymeg tu ôl
i newid y ffordd mae’r Aelodau Cyfetholedig yn cael eu talu yn gwneud synnwyr o
ystyried y modd y mae amgylchiadau’r gwaith wedi newid ac yn digwydd yn fwy
darniog a chyson erbyn hyn. o
Canmolwyd hyblygrwydd y system a’r modd
y mae posib iddi gael ei newid pan fo amgylchiadau newydd yn codi. ·
Cwestiwn 3: Arferion da ynghylch
defnyddio pwerau’r panel i annog mwy o deithio cynaliadwy ymhlith aelodau. o Nodwyd bod yr opsiwn o
weithio’n hybrid bellach yn arwain at weithio’n fwy cynaliadwy a bod rhoi’r
dewis i gynghorwyr yn ffordd dda ymlaen. o
Holwyd
cwestiynau am y sefyllfa o ran yswiriant os yn rhannu car gyda chynghorydd
arall er mwyn mynychu cyfarfodydd. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod angen newid yr
yswiriant i un sy’n nodi teithiau busnes er mwyn gallu ei ddefnyddio yn
rhinwedd y swydd. o
Tynnwyd sylw at
y ffaith bod costau teithio sylweddol uwch yn mynd ar wneud gwaith o amgylch y
ward os yn byw mewn ward gwledig o’i gymharu â ward trefol ac nad oes
cydnabyddiaeth yn cael ei roi i hynny. ·
Cwestiwn 4:
Ymwybyddiaeth o hawliau Cynghorwyr am ad-daliadau a’r camau i wella hynny. o Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith bod gwybodaeth am hawliau’r Cynghorwyr i’w gael ar y Mewnrwyd Aelodau ac yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth. Holwyd pa gamau pellach y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
BLAENORIAETHAU'R PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH - DIWEDDARIAD PDF 186 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.. Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad a’r wybodaeth. Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth
Gwasanaethau Democratiaeth yr adroddiad gan atgoffa’r pwyllgor bod pedwar maes
blaenoriaeth wedi’u hamlinellu i dderbyn sylw yn ystod 2023/24 sef diogelwch a
chefnogaeth i Gynghorwyr; sgyrsiau datblygiad personol; edrych ar drefniadau
craffu a Chyngor di-bapur. O ran yr elfen diogelwch
a chefnogaeth i gynghorwyr, eglurwyd bod gwybodaeth am faterion diogelwch a
lles yn cael ei ddarparu ar y Mewnrwyd Aelodau a bod diweddariad rheolaidd yn
cael ei roi am y maes yn y Bwletin Aelodau. Nodwyd nad oedd llawer o Gynghorwyr
yn ymwybodol o’r bwletin ac y byddai’n ddefnyddiol cael barn aelodau’r pwyllgor
o sut y gellir sicrhau gwell defnydd o’r Mewnrwyd Aelodau a’r bwletin wythnosol
er mwyn cyfathrebu negeseuon allweddol pwysig. Esboniwyd bod pob
aelod wedi derbyn gwahoddiad i fanteisio ar Sesiwn Ymgynghorol sef sgwrs
anffurfiol gydag arbenigwr o’r maes Dysgu a Datblygu i drafod eu rôl fel aelod.
Nodwyd mai prin yw’r defnydd ohonynt hyd yma ac felly atgoffwyd yr aelodau bod
angen cysylltu gyda’r Swyddog Datblygu Aelodau er mwyn trefnu’r sesiwn. Yng nghyd-destun y
symudiad i fod yn Gyngor di-bapur, eglurwyd bod datblygiadau wedi bod dros yr
haf. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith nad yw hyn wedi bod yn symudiad hawdd a
diolchwyd i’r aelodau am eu cydweithrediad ar y mater. Atgoffwyd bod modd i’r
aelodau gysylltu os yn dymuno derbyn sgrin ychwanegol neu drefnu slot
hyfforddiant 1:1 er mwyn dod i ddeall y cyfarpar. O ran datblygiadau
eraill, eglurwyd bod newidiadau wedi’i gwneud i’r system sain yn Siambr Hywel
Dda yn sgil sylwadau gan Gynghorwyr. Rhoddwyd trosolwg o’r cyfleoedd hyfforddi
sydd ar gael i aelodau hefyd. Materion a godwyd yn ystod y drafodaeth: ·
Diolchwyd
i’r adran am y gefnogaeth. ·
O
ran y symudiad i fod yn gyngor di-bapur, mynegwyd gwerthfawrogiad o’r ffaith
bod yr adran wedi trafod yn unigol gyda’r unigolion sy’n parhau i dderbyn
copïau papur. ·
Tynnwyd
sylw at y ffaith bod problemau signal mewn rhai ardaloedd gwledig yng Ngwynedd
a bod hyn yn gallu bod yn broblematig wrth geisio darllen dogfennau ar-lein. ·
Nodwyd
bod diogelwch a chefnogaeth i gynghorwyr yn bwysig a bod angen bod yn
rhagweithiol wrth sicrhau blaenoriaeth i’r maes. Cadarnhaodd y Pennaeth
Gwasanaethau Democratiaeth y byddai’r mater yn faes blaenoriaeth am beth amser.
·
Mynegwyd
syndod am gyn lleied o’r aelodau sy’n mynychu hyfforddiant a chwestiynwyd a
yw’r hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu yn cyd-fynd gyda’r hyn sydd ei angen ar
gynghorwyr? o Mewn ymateb, nodwyd bod
yr adran yn deall bod galwadau uchel ar y cynghorwyr ond eu bod yn cael eu
hannog i fynychu’r sesiynau hyfforddiant. o Tynnwyd
sylw at y ffaith mai un o flaenoriaethau’r Cyngor newydd oedd cynyddu’r
amrywiaeth oedd ar y Cyngor a bod hyn yn golygu bod gan fwy o gynghorwyr
gyfrifoldebau eraill bellach megis swyddi llawn amser a gofal plant. Nodwyd bod
angen cadw hyn mewn cof wrth ystyried y niferoedd sy’n mynychu hyfforddiant. ·
Holwyd
a oes gostyngiad wedi bod yn y nifer sy’n mynychu hyfforddiant dros y
blynyddoedd a sut mae hyn yn cymharu gydag awdurdodau eraill? o Nododd y Swyddog Datblygu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
FFRAMWAITH CEFNOGAETH I AELODAU PDF 153 KB Ystyried yr
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a’r
wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro bod
sicrhau cefnogaeth i Gynghorwyr wedi bod yn allweddol yng Nghyngor Gwynedd ers
tro. Trwy gymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
mae’r Cyngor yn cydweithio a chymharu gydag awdurdodau lleol eraill gan ddysgu
ac elwa o’u profiadau. Erbyn hyn, eglurwyd bod y CLlLC
wedi datblygu Fframwaith Hunanasesu gwirfoddol sy’n cynnig meysydd gwahanol y
gall cynghorau ganolbwyntio arnynt er mwyn hunan-arfarnu eu perfformiad. Nodwyd
bod dogfen ymgynghorol wedi’i datblygu gan y gymdeithas a bod Cyngor Gwynedd
wedi sicrhau cyfle i gyflwyno sylwadau mewn ymateb i’r ddogfen ymgynghorol. Esboniwyd bod Cyngor
Gwynedd yn awyddus i gynllunio er mwyn symud y gwaith yn ei flaen yn dilyn
derbyn y fframwaith terfynol. Argymhellwyd bod grŵp bach o aelodau’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yn cwrdd i asesu’r canlynol o’r fframwaith
terfynol: ·
A yw’r Cyngor yn
gyfrifol am y maes neu beidio? ·
Perfformiad
cyfredol y Cyngor yn erbyn disgwyliadau'r fframwaith. ·
A yw’n
flaenoriaeth gan y Cyngor? ·
A oes camau gwella posib. Eglurwyd y gellir defnyddio’r camau uchod i
greu rhaglen waith o welliannau gan ddefnyddio’r fframwaith fel sail er mwyn
adnabod materion i’w blaenoriaethu.
Nodwyd y byddai hyn yn fan cychwyn effeithiol ond pwysleisiwyd y
byddai’n rhaid defnyddio’r fframwaith yn synhwyrol gan ystyried yr adnoddau
sydd ar gael gan y Cyngor. Materion a godwyd yn ystod y drafodaeth:- ·
O ran creu’r grŵp bach, eglurwyd y
byddai’r Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith yn cysylltu gyda’r
cynrychiolwyr cyn gynted ag y bo’n amserol ar ôl i’r fframwaith fod yn
derfynol. ·
Cynigwyd bod y Cynghorwyr Dewi Owen,
Beca Roberts, Anne Lloyd-Jones a Cai Larsen yn ffurfio’r grŵp. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r
wybodaeth. |