Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Sian William yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am y flwyddyn 2024/25. Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Sian William yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am y flwyddyn 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Linda Ann Jones, Llio
Elenid Owen, Arwyn Herald Roberts a Beca Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Chwefror, 2024 fel rhai cywir. |
|
DRAFFT O ADRODDIAD BLYNYDDOL GAN Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH PDF 136 KB I ystyried yr adroddiad a’i gynnwys a’i
argymell i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn yn unol a’r gofyn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan gytuno i wneud man addasiadau cyn ei argymell i’r Cyngor Llawn ar gyfer ei
fabwysiadu. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan gytuno i wneud man addasiadau cyn ei argymell
i’r Cyngor Llawn ar gyfer ei fabwysiadu. Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried cynnwys yr
adroddiad blynyddol a’i argymell i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn. Eglurwyd
bod yr adroddiad yn amlinellu prif flaenoriaethau’r Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth am y flwyddyn i ddod yn ogystal ag adrodd ar y datblygiadau a
wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Esboniwyd bod yr adroddiad ychydig yn
wahanol eleni a mynegwyd balchder yn ei gynnwys a’i fformat. Tynnwyd sylw at gynnwys yr adroddiad a’r meysydd gafodd eu blaenoriaethu
yn 2023/24 megis: ·
Diogelwch a Chefnogaeth i
Gynghorwyr oedd yn cynnwys yr elfen iechyd a lles. ·
Hyfforddiant i Gynghorwyr a’r
sgyrsiau datblygiad personol gafodd eu cynnal. ·
Trefniadau Craffu ·
Symud at fod yn Gyngor di-bapur
Cyfeiriwyd hefyd yn yr adroddiad ar nifer o
lwyddiannau 2023/24, er enghraifft yr adborth bositif iawn a dderbyniodd y Tîm
Democratiaeth gan Gynghorwyr, niferoedd y Pwyllgorau gafodd eu gweinyddu a’r
rhaglen lawn o hyfforddiant gafodd ei chynnal a’i datblygu. I gloi cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth at flaenoriaethau
2024/25 oedd yn cynnwys: ·
Adeiladu ar drefniadau
diogelwch a chefnogaeth i Gynghorwyr ·
Rhesymoli’r rhaglen
hyfforddiant a’r rhaglen briffio ar gyfer Cynghorwyr ·
Gweithredu ar newidiadau i
drefniadau Craffu er mwyn cael y gorau allan ohono ·
Amlygu’r gefnogaeth sydd ar
gael i Gynghorwyr. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol: -
Credwyd bod yr adroddiad yn
ffeithiol a cadarnhaol iawn a broliwyd y fformat. Gwnaethpwyd rhai sylwadau am
faint a lliw'r ffont mewn rhannau o’r adroddiad gan amlygu ei fod yn anodd ei
ddarllen mewn mannau. -
Diolchwyd i’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac
Iaith, y Tîm Democratiaeth a Galw Gwynedd am y cymorth penodol yn dilyn
dirywiad sylweddol yng ngolwg un o’r Aelodau. -
Cwestiynwyd y datganiad bod 29 o Gynghorwyr yn parhau i
dderbyn copïau papur dan y rhan Cyngor di-papur gan fynegi bod y nifer yma’n
ymddangos un uchel. -
Gofynnwyd faint o Gynghorwyr sydd wedi cwblhau’r
hyfforddiant craidd. -
Holwyd ynghylch y trefniadau Craffu ac os bydd trefn yn
cael ei sefydlu o fonitro faint o wahaniaeth mae Craffu yn ei gael yn ymarferol
o ran y broses o greu penderfyniadau yn y Cyngor. Pryderwyd bod y drefn Craffu
yn cael ei weld fel ymarfer papur a’i bod yn bwysig dangos bod Craffu yn cael
effaith bositif a’n cael ei ystyried ar lefel Cabinet. Mewn ymateb i’r sylwadau: -
Nodwyd nad yw’n broblem addasu’r ffont a’r lliwiau cyn
cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor Llawn a croesawyd y sylw. -
Cydnabuwyd bod angen ail eirio’r
datganiad am y niferoedd sy’n derbyn copïau papur o raglenni Pwyllgorau gan fod
y ffigwr bellach wedi lleihau ymhellach. Cytunwyd bod angen ail eirio er mwyn
amlygu’r lleihad sylweddol sydd wedi bod yn y niferoedd hyn. -
Eglurwyd bod adroddiad nes mlaen yn y Pwyllgor ar
hyfforddiant a bydd yr adroddiad yno yn manylu ar yr ymdrech i gynyddu’r
niferoedd sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd. - Adroddwyd y bydd adroddiad blynyddol Craffu yn cael ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
HYFFORDDIANT A DATBLYGIAD AELODAU PDF 187 KB I ystyried yr adroddiad, cynnig sylwadau, a derbyn yr hyn a gynigir. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd. Cofnod: PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd. Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu bod saith maes craidd wedi eu hadnabod
fel hyfforddiant allweddol i Aelodau sydd yn ymwneud a chyfreithiau. Nodwyd bod
ffocws ar yr hyfforddiant craidd wedi ei roi yn y cyfarfod diweddaf gan dynnu
sylw at y niferoedd isel o Aelodau sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant hyn.
Amlygwyd bod sylw wedi ei roi i’r mater yma dros y misoedd diwethaf a bod
dilyniant i’r Arweinyddion Grwpiau annog Aelodau i gwblhau’r hyfforddiant
craidd. Nodwyd nad oedd cynnydd i’w weld eto yn y niferoedd sydd wedi cwblhau’r
hyfforddiant am ei bod braidd yn gynamserol ond bod nifer wedi cysylltu i holi
am fanylion pellach. Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan
dynnu sylw at ffurf newydd y rhaglen ddysgu i Aelodau sef yr elfen hyfforddiant
craidd, hyfforddiant arall a chyfweliadau datblygiad personol. Amlygwyd
pryderon megis cyrsiau yn cael eu rhedeg yn hanner gwag am nad oes diogon o
Aelodau yn cofrestru neu ddim yn troi fyny i ddigwyddiadau. Soniwyd am y bwriad
i recordio teitlau craidd a’u cynnwys ar y Fewnrwyd Aelodau ond pwysleisiwyd
bod angen i Aelodau hysbysu’r gwasanaeth Dysgu a Datblygu ar ôl iddynt gwblhau
cwrs. Tynnwyd sylw at faterion eraill megis y
gwaith ar y Fframwaith Hunanwerthuso Cefnogaeth i Gynghorwyr fydd yn cychwyn yn
y misoedd nesaf a’r holiadur fydd yn cael ei anfon i Aelodau dros gyfnod yr Haf
am gynnwys y rhaglen hyfforddiant. Cyfeiriwyd i gloi at ran 2.17 o’r adroddiad
gan nodi un cywiriad sef y dylai Cynghorwyr gyfeirio enghreifftiau penodol o
ddiffyg ymateb i ymholiadau gan Swyddogion y Cyngor at Geraint Owen,
Cyfarwyddwr Corfforaethol yn hytrach na’r Prif Weithredwr. Nodwyd bod Geraint
Owen yn cymryd cyfrifoldeb dros hyn oherwydd ei gefndir yn y maes yn dilyn i
bryderon nifer o aelodau gan eu hamlygu am y mater o ddiffyg ymateb i’w
ymholiadau gan Swyddogion y Cyngor. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol: -
Diolchwyd am yr adroddiad gan
nodi bod amryw o faterion pwysig wedi eu cynnwys. -
Amlygwyd y pwysigrwydd i Aelodau
droi fyny i gyrsiau gan gyfeirio at enghraifft benodol pan ddaru 4 Aelod droi
fyny allan o 11 oedd yn wastraff adnoddau ac amser Swyddogion. -
Mynegwyd bod y cwrs Sgiliau
Cadeirio yn arbennig o dda ac anogwyd yr Aelodau i gymryd mantais o’r cyrsiau
sydd ar gael. -
Cyfeiriwyd at y sesiynau
‘sgyrsiau dros baned’ i Gynghorwyr sy’n ferched gan nodi eu bod yn werthfawr,
yn enwedig i Aelodau newydd. -
Holwyd am ystadegau niferoedd yr
Aelodau sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd. -
Cwestiynwyd pe byddai mwy o
Aelodau yn troi fyny i hyfforddiant sy’n cael eu cynnal yn ddwyieithog yn
hytrach na Chymraeg yn unig. -
Gwnaethpwyd sylw ynglŷn ag
adrodd ar ymddiheuriadau pan fo gwrthdaro e.e. Pwyllgor y Cyngor â chyfarfod
Corff Allanol yn cael eu cynnal ar yr un amser a holwyd os oes diweddariad ar y
mater yma. Mewn ymateb i’r sylwadau: - Ategwyd bod Aelodau sydd ddim yn troi fyny i hyfforddiant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL PDF 161 KB I dderyn yr adroddiad gan y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad. Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2024/25.
Eglurwyd bod ymholiadau wedi cyrraedd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac
Iaith a’r Tîm Democratiaeth yn ddiweddar am faterion cydnabyddiaeth ariannol a
phryderwyd bod gwybodaeth ddim yn cael ei gyfleu neu fod angen tynnu sylw
Aelodau at ambell fater. Amlygwyd y gydnabyddiaeth ariannol (cyflog) sylfaenol
gyfredol ar gyfer yr Aelodau sef £18,666 y flwyddyn. Eglurwyd bod hyn yn
gynnydd o ychydig dros £1,000 ar dâl cydnabyddiaeth 2023/24. Ychwanegwyd y
dylai Aelodau gysylltu efo’u Cynorthwyydd Grŵp Gwleidyddol am gwestiynau
ynglŷn â’u P60. Nodwyd bod y wybodaeth yma eisoes wedi ei gyfathrebu trwy’r Mewnrwyd
Aelodau ac drwy’r Bwletin Aelodau wythnosol. I gloi nodwyd mai bwriad yr
adroddiad yw codi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa ariannol a’r gefnogaeth sydd ar
gael i Aelodau. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol: -
Mynegwyd barn y dylai rhifau ffôn Cadeiryddion Pwyllgorau
fod ar gael e.e. pa bai aelod o’r cyhoedd neu Gynghorydd arall efo cwestiwn i
Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal. Pryderwyd nad oedd Cadeiryddion ar gael i
ymateb i alwadau a credwyd y dylent fod ar gael. -
Ychwanegwyd ei bod yn anodd cael
gafael ar Aelodau o Gyngor Gwynedd sydd wedi eu penodi ar Fyrddau neu Gyrff
Allanol. Amlygwyd bod hyn yn rhwystredig pan eisiau gwybodaeth am fater
penodol. -
Mynegwyd safbwynt na ddylid gorfodi Aelodau i rannu eu
rhifau ffôn gan nodi bod nifer yn llai tebygol o’i rhyddhau yn ddiweddar
oherwydd materion diogelwch a bod llawer yn dueddol o ddefnyddio e-byst fel
ffordd hwylus o gysylltu. -
Holwyd ynglŷn â thaliadau
costau cerbydau trydan, sydd yn costio llai i’w rhedeg na cherbydau tanwydd
traddodiadol ond eu bod yn derbyn yr un raddfa costau teithio a’r ceir
traddodiadol. Mewn ymateb i’r sylwadau: -
Ategwyd bod cyfeiriadau e-bost
Cynghorwyd yn cael eu cynnwys ar safle we'r Cyngor ond nad yw’n ofynnol cyhoeddi
eu cyfeiriad na’u rhifau ffôn. Amlygwyd bod rhifau ffôn y Swyddogion
Gwasanaethau Democratiaeth ar flaen Rhaglenni Pwyllgorau a bydd y swyddogion
hynny yn pasio unrhyw ymholiad perthnasol ymlaen i’r Cadeiryddion Pwyllgorau. -
Adroddwyd nad yw’r mwyafrif o
Gyrff Allanol yn talu’r Aelodau a bod rhai cyfarfodydd yn gaeedig oherwydd
sensitifrwydd masnachol a bod rhaid i Aelodau barchu’r rheolau hyn cyn belled
â’u bod yn rheolau rhesymol. Nodwyd bod mwyafrif o faterion y Cyrff Allanol yn
rai agored. -
Cadarnhawyd
nad oes newidiadau i’r taliadau costau teithio a bod graddfeydd ceir trydan yr
un fath a cheir disel/petrol. Eglurwyd bod hyn yn bennaf oherwydd y
gydnabyddiaeth bod costau cynnal a chadw ceir trydan yn dueddol o fod yn uwch
er bod y costau rhedeg yn is. Cydnabuwyd bod trefniadau cenedlaethol yn cael eu
dilyn ar hyn o bryd ac efallai bydd newid yn y dyfodol pan fydd y dechnoleg yn
dod yn fwy poblogaidd. |