Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn gadeirydd ar gyfer 2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gwilym Jones
yn gadeirydd ar gyfer 2024/25. Cydymdeimlwyd â theulu’r Dr John Jones-Morris
fu’n aelod ffyddlon o’r pwyllgor hwn am flynyddoedd lawer. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd June Jones yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd June Jones
yn is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr Melfyn Edwards (Cynrychioli Cyngor Tref
Porthmadog) a Robert Owen (Cynrychioli Buddiannau Masnachol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gymhaliwyd ar 27ain Chwefror, 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 27 Chwefror, 2024 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 100 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a
gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol
yr Harbwr. (1)
Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr
Harbwr am y cyfnod rhwng mis Mawrth 2024 a Hydref 2024. Ymhellach i gynnwys yr adroddiad
ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau y byddai’n ymddeol yn llawn ar 31
Mawrth, 2025, yn dilyn cyfnod o ymddeoliad hyblyg. Nododd fod ei swydd wedi ei hysbysebu gyda'r
gobaith o’i llenwi cyn cyfnod y Nadolig fel bod modd i ddeilydd newydd y swydd
ei gysgodi yn y rôl dros y misoedd nesaf.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelod,
nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod yr hysbysiad swydd allan ers tua
wythnos a bod dau gais i law hyd yma.
Bwriadai fonitro’r sefyllfa dros y dyddiau nesaf, a phe na fyddai yna
lawer mwy o geisiadau yn cyrraedd, byddai angen ystyried lledaenu’r hysbyseb yn
y wasg, ayb. Diolchodd yr Uwch Swyddog Harbyrau i’r
Pwyllgor am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd. Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd
i’r Uwch Swyddog Harbyrau am ei holl waith ar hyd y blynyddoedd, gan ddymuno
iddo ymddeoliad hapus. Diolchodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Harbwrfeistr iddo am ei wasanaeth hefyd, gan
nodi y byddai colled fawr ar ei ôl. Materion
Ariannol Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol
grynodeb byr o gyllidebau’r Harbwr 01/4/24 - 31/3/25 (Adolygiad Awst 2024), a
gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yn benodol:- ·
Bod
yna orwariant o dan y pennawd Gweithwyr oherwydd costau goramser. Nodwyd bod
staff yr Harbwr wedi bod yn cynorthwyo mewn harbyrau eraill a hefyd ar draeth
Morfa Bychan oherwydd trafferthion recriwtio staff eleni. Nodwyd hefyd bod y swyddogion wedi gorfod
ymateb i rai digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith arferol. ·
Bod
yna danwariant sylweddol o dan y pennawd Eiddo a gellid defnyddio’r arian yma i
gwrdd â gorwariant dan benawdau eraill o’r gyllideb. ·
Bod
y ffigwr £39 yn y golofn ‘Gwariant a Ragwelir’ dan y pennawd ‘Trafnidiaeth’ yn
wallus, ac er na ellid cadarnhau’r gwir ffigwr ar hyn o bryd, ni ragwelid y
byddai’n uwch na’r swm o £800 a glustnodwyd ar ei gyfer yn y gyllideb. ·
Bod
yna orwariant o dan y pennawd Gwasanaethau a Chyflenwadau am sawl rheswm, yn
benodol: oherwydd costau uchel cynnal a chadw cychod a’r angen i uwchraddio system CCTV yr Harbwr a buddsoddi
mewn offer diogelwch newydd. ·
Y
clustnodwyd £30,000 yn y Gronfa Forwrol ar gyfer gwella'r tir a’r compownd yn
Harbwr Porthmadog gyda’r gwaith yn digwydd dros fisoedd yr hydref a’r
gaeaf. Gellid diweddaru’r Pwyllgor ar
ddatblygiad y cynllun yn y cyfarfod nesaf. ·
Y
rhagwelid diffyg incwm o £5,210, a hynny’n bennaf oherwydd y tywydd anffafriol
dros fisoedd yr haf a'r lleihad yn nifer y cychod pŵer sydd wedi’u
cofrestru. ·
O
ran y Cyfanswm Net, rhagwelid diffyg o ychydig dros £6,000, sy’n eithaf da o
ystyried y tywydd. Canmolwyd y staff ar
lwyddo i ddenu £80,900 o incwm yn yr hinsawdd anodd sydd ohoni. Holwyd a oedd sefyllfa fregus ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 4ydd Mawrth, 2025. Cofnod: Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 4 Mawrth, 2025. |