Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Kim Jones ac Elwyn Edwards. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Bu i’r Cynghorwyr
Elin Hywel, Stephen Churchman, Gruffydd Williams a Rhys Tudur ddatgan, yng
nghyswllt Eitem 5, eu bod yn aelodau o’r Gweithgor
Polisi Cynllunio. Roedd y Gweithgor eisoes wedi rhoi sylwadau ar y Cytundeb
Cyflawni. Ni
fu iddynt gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 13.07.2023 fel rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023, fel rhai cywir. |
|
CYTUNDEB CYFLAWNI DRAFFT CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD PDF 414 KB I gyflwyno’r
Cytundeb Cyflawni Drafft. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth 2. Argymell i’r Cabinet y dylid ychwanegu ‘ymgynghori’ fel risg posib i’r
Cynllun Datblygu Lleol. Cofnod: Cadeiriwyd y drafodaeth ar yr eitem yma gan
yr Is-Gadeirydd. Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd a Rheolwr Polisi Cynllunio.
Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: Eglurwyd bod Cynllun Datblygu Lleol newydd
yn cael ei greu yn dilyn adolygiad diweddar. Manylwyd fod y broses o’i
ddatblygu’n un technegol gyda nifer o gamau sydd angen eu cyfarch yn statudol. Cadarnhawyd mai’r cam cyntaf yw mabwysiadu
Cytundeb Cyflawni. Esboniwyd bod holl broses o ddatblygu’r Cynllun Datblygu
Lleol wedi ei rannu i 7 cam, gydag amserlen fras a chyfnodau ymgynghoriad
allweddol wedi ei nodi ar gyfer pob agwedd. Nodwyd bydd sylwadau’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau yn cael eu cymryd i’w ystyriaeth cyn cyflwyno’r Cytundeb Cyflawni i’r
Cabinet ar 10 Hydref 2023. Manylwyd bydd y mater yn cael ei gyflwyno i Weithgor
Polisi Cynllunio ym mis Ionawr, cyn dychwelyd i’r Cabinet a’i gyflwyno i’r
Cyngor Llawn pan yn amserol. Ystyriwyd y posibilrwydd o ychwanegu
‘ymgynghori’ fel risg o fewn Atodiad 5 y Cynllun (“Risgiau Posib a dulliau
ymateb”). Nodwyd ei fod yn amlwg o’r ddogfen fod ymgynghori yn ran pwysig o’r
cytundeb cyflawni ac yn cael sylw ond ddim wedi ei nodi fel risg. Sef, y risg o
beidio ymgynghori yn ddigonol. Ymhelaethwyd gan ei fod yn elfen mor bwysig,
fyddai’n fuddiol ei gynnwys fel risg er mwyn sicrhau ei fod yn cael sylw yn
gyson. Derbyniwyd bod yr amserlen i gwblhau’r Cynllun yn heriol ac felly
ystyriwyd y posibilrwydd byddai’n anodd i ymgynghori’n effeithiol o fewn yr
amser hynny gan sicrhau bod nifer fawr o ymatebion yn cyrraedd y swyddogion,
gan sicrhau amser i’w dadansoddi. Holwyd yng nghyswllt yr ymgynghori blaenorol
gan ofyn a ddysgwyd rhywbeth o’r ymgynghoriad blaenorol ac a weithredwyd ar yr
hyn a ddysgwyd i fwydo i mewn i’r ymgynghori oedd i ddod. Mewn ymateb i’r ystyriaethau hyn, nododd
Aelod Cabinet Amgylchedd ei fod yn bwysig iawn bod y Cyngor yn cymryd
perchnogaeth o’r cynllun hwn, drwy sicrhau bod Aelodau’n annog unrhyw un addas
i gwblhau unrhyw ymgynghoriad ac yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth ar y
Cynllun pan yn amserol. Esboniwyd bod yr Adran wedi diwygio’r dulliau maent yn
ei ddefnyddio wrth ymgynghori yn dilyn adborth o’r gorffennol a gobeithiai bydd
hyn yn arwain at niferoedd uwch o
ymatebion y tro hwn. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar bedwar achlysur gwahanol. Esboniwyd mai’r gofyniad statudol i gyflwyno’r Cynllun yw dwywaith, ac felly mae Cyngor Gwynedd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod y broses yn gynhwysol ac yn rhoi nifer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYFLWYNO PWYNTIAU GWEFRU CYHOEDDUS AR GYFER CERBYDAU TRYDAN PDF 569 KB I ddiweddaru
Aaelodau’r Pwyllgor Craffu ar y cynnydd a’r cynlluniau ar gyfer cyflwyno
pwyntiau gwefru cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (i)
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth; (ii) Gofyn i’r Aelod Cabinet/Adran Amgylchedd edrych i mewn i ddarparu
mwy o beiriannau gwefru chwim; (iii) Derbyn adroddiad cynnydd pan yn amserol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd a Rheolwr Gwasanaeth Traffig
a Phrosiectau. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: Eglurwyd bod y Cyngor ynghlwm â phrosiect
heriol a thechnegol i osod dros 100 o bwyntiau gwefru mewn 25 safle ar draws
Gwynedd, gydag 16 o’r heini yn cynnwys pwyntiau gwefru chwim. Eglurwyd bod yr
Adran yn cynnig cyfleon newydd i’w staff gan eu bod yn derbyn hyfforddiant i
osod y pwyntiau gwefru eu hunain, yn hytrach na chontractio’r gwaith i gwmni
allanol. Adroddwyd bod y prosiect hwn wedi ei rannu i
bum rhan, ac mai gosod y pwyntiau gwefru yw’r cam cyntaf. Nodwyd mai dyma’r unig
gam bydd y Cyngor yn gallu ei gyflawni yn annibynnol a bydd rhaid dibynnu ar
gyrff eraill i gydweithio ar y camau eraill er mwyn cyflawni’r prosiect.
Eglurwyd bod hyn wedi achosi cryn oedi yn y prosiect hyd yma, gan fod nifer o
bwyntiau gwefru wedi cael eu gosod ond ddim wedi cael eu cysylltu i’r
rhwydwaith eto. Sicrhawyd bod yr Adran wedi dysgu o’r heriau hyn ac yn hyderu
na fyddai’r un trafferthion yn codi wrth weithredu’r prosiect i’r dyfodol. Nodwyd bod y Cyngor wedi derbyn ymatebion
cadarnhaol i lythyr yn ddiweddar ynghylch cael pwyntiau gwefru cymunedol.
Cydnabuwyd nad oes modd i bawb gwefru eu ceir adref gan nad oes gan bob tŷ
man parcio agos neu bod y lleoliad y man parcio yn anodd i’w gysylltu.
Adroddwyd bod cynlluniau i gael pwyntiau gwefru cymunedol yn y dyfodol. Mynegwyd siom bod y Llywodraeth wedi newid
eu targed o atal ceir petrol a disel erbyn 2030, yn ôl hyd at 2035. Cadarnhawyd bod ymgynghori yn rhan bwysig
o’r broses gan fod casglu adborth o ddefnyddwyr y pwyntiau gwefru yn hanfodol. Eglurwyd
bod yr adborth sydd eisoes wedi ei dderbyn gan ddefnyddwyr y pwyntiau gwefru yn
gadarnhaol. Esboniwyd bod adborth yn cael ei gasglu wrth i ddefnyddwyr orffen
defnyddio’r pwynt gwefru a bod eu hymatebion yn cael eu gyrru i system fewnol o
dan reolaeth y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt
ymgynghoriadau’r Cyngor gyda cymdeithasau tai ynglŷn â pwyntiau gwefru,
cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd bod y prif bwyslais yn cael ei roi
i’r 25 man presennol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod gan y Cyngor
berthynas clos gydag cymdeithasau tai ac mae pwyntiau gwefru wedi eu cynnwys
fel rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor. Mewn ymateb i ymholiad ar ddulliau o dalu am
wasanaeth y pwyntiau gwefru, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth Traffig a
Phrosiectau y bydd tair ffordd i wneud hyn. Manylwyd bod modd defnyddio cerdyn
penodol ar gyfer y pwyntiau gwefru, drwy ap ar ffôn symudol ac yn y dyfodol
gobeithir bydd darpariaeth i dalu drwy gerdyn banc arferol. Rhannwyd pryderon nad oes digon o fetel i gynhyrchu batris ar gyfer mwy o geir trydan ar hyn o bryd yn ogystal â phryderon bydd cael ceir trydan yn fwrn mawr i’r rhwydwaith trydanol ymdopi ag o. Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, cydnabuwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cyflwyno
diweddariad ar y Gwasanaeth Toiledau Cyhoeddus ac i dderbyn sylwadau ac adborth
ar y cynnwys. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC,
Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC ac yr Uwch Beiriannydd. Tynnwyd sylw’n
fras at y prif bwyntiau canlynol: Adroddwyd bod 61 o
doiledau cyhoeddus wedi eu lleoli ar draws y sir. Cydnabuwyd bod cyfraniad
Cynghorau Cymunedau a Threfi yn hanfodol i’w cadw ar agor, Ychwanegwyd bod 29
toiled cyhoeddus sy’n cael ei reoli gan gymunedau, gan gynyddu’r cyfanswm sydd
ar gael i drigolion i 90 toiled cyhoeddus. Cadarnhawyd bydd
Strategaeth Toiledau Cyhoeddus newydd yn cael ei gyflwyno erbyn mis Tachwedd
2024 ac felly mae’r adran yn ail-edrych ar yr angen i godi ffioedd i
ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus. Esboniwyd bod ffioedd o 20c i ddefnyddio
toiledau cyhoeddus penodol yng Nghaernarfon, Dolgellau, Porthmadog a Phwllheli. Mewn
ymateb i sylwadau’r aelod, nododd Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg a YGC ei
werthfawrogiad o’r dadansoddiad a’r wybodaeth a gyflwynwyd. Eglurodd y byddai’n
ymateb yn llawn i’r aelod yn dilyn derbyn y wybodaeth ar e-bost. Nododd bod
rhestr aros ar gyfer y Cynllun Grant Cymunedol. Eglurodd y derbynnir cyllid yn
flynyddol gan Lywodraeth Cymru, nid oedd yn cynyddu, ac o’r herwydd yn
gyfyngedig o’r nifer all fod yn rhan o’r cynllun. Rhannwyd pryderon am system codi ffioedd ar
ddefnyddwyr y toiledau cyhoeddus. Manylwyd os yw’r ffi yn 20c yn gyfredol, bydd
angen codi’r ffi i 50c gan mai dim ond un darn o arian gall ei roi ar unwaith.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC bod
ymchwiliadau yn cael ei wneud i ychwanegu peiriannau i alluogi defnyddwyr dalu
gyda cherdyn (yn ychwanegol i’r peiriant casglu arian parod presennol). Byddai
hyn yn lleddfu’r angen i gael swyddogion i gasglu’r arian parod mor aml, ac yn
gymorth wrth ystyried ffioedd yn y dyfodol. Yn ogystal, adroddwyd bod
ystyriaethau yn cael eu cynnal i weld os oes angen codi ffi o unrhyw fath, a
gwneud y toiledau am ddim, drwy osod bocs o gyfraniadau yn hytrach na ffi. Amlygwyd bod y gwasanaeth yn edrych ar y tri
opsiwn canlynol i’r dyfodol, mewn cysylltiad gyda’r ystyriaeth o godi ffioedd i
ddefnyddwyr y toiledau cyhoeddus: 1.
Diddymu’r
ddarpariaeth codi ffioedd yn gyfan gwbl o’r 5 toiled cyfredol 2.
Parhau
gyda’r drysau talu o fewn y 5 toiled cyhoeddus cyfredol gan amnewid y drysau
talu i dechnoleg o beiriannau sy’n derbyn taliadau di gyffwrdd ac arian parod. 3.
Ehangu
ar y ddarpariaeth o ddrysau talu ffi mynediad. Tynnwyd sylw i gynllun Grantiau Toiledau Cymunedol, ble mae modd i leoliadau ymgeisio am hyd at £500 o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2023/24 PDF 401 KB Mabwysiadu
rhaglen waith ddiwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu rhaglen waith
diwygiedig ar gyfer 2023/24. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu gan nodi’r prif
bwyntiau canlynol: Atgoffwyd yr Aelodau bod Blaenraglen Pwyllgor
Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/24 wedi’i fabwysiadu yng nghyfarfod y Pwyllgor
ar 13 Gorffennaf 2023. Eglurwyd yr angen i ddiwygio’r blaenraglen ar
gyfer 2023/24. Nodwyd bod yr eitem ‘Strwythur Llywodraethiant
a Threfniadau Cyflawni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn’ wedi
ei raglennu ar gyfer y cyfarfod hwn ond
derbyniwyd cais i’w ail-raglennu gan ei fod yn gynamserol i’w graffu. Manylwyd
bod Rheolwr Rhaglen y Bwrdd wedi cadarnhau y byddai’n amserol i gyflwyno’r
adroddiad yn rhan o gyfarfod y Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2023. |