Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Kim
Jones, Arwyn Herald Roberts a Rob Triggs. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 05.10.2023 fel rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 05 Hydref 2023, fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 PDF 116 KB Diweddariad
ar y cynnydd wnaed wrth weithredu’r Cynllun ers Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad
gan argymell: (i) Dylid ychwanegu gwybodaeth am ‘Teithio Llesol’ o dan Adran 3 yr
Adroddiad: ‘Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016’. (ii) Dylid ystyried addasu ffurf arddangos y wybodaeth o dan y teitlau
‘Beth y wnaethom ddweud y byddem yn ei wneud yn 2022/23’ a ‘Be wnaethom ni’ yn
Adrannau 5-11 yr Adroddiad er mwyn eglurder i’r darllenydd. 2.
Argymell i’r
Cabinet y dylid ystyried yr adnodd staff i gyflawni gweledigaeth y Cynllun
Argyfwng Hinsawdd a Natur. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif
Weithredwr. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: Atgoffwyd yr Aelodau bod Cynllun Argyfwng
Hinsawdd a Natur yn un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor, gyda Bwrdd wedi ei
sefydlu i’w gefnogi. Eglurwyd bod delio gydag argyfwng hinsawdd a
natur yn rhan o waith y Cyngor ers 2005/06 a nodwyd bod llwyddiant mawr i’w
gweld erbyn hyn. Manylwyd bod 51% yn llai o allyriadau carbon yn y maes
Adeiladau rhwng 2005/06 a 2019 a bod 23% o allyriadau carbon yn y maes Fflyd o
fewn yr un cyfnod. Adroddwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i leihau allyriadau
carbon y Cyngor 43% o fewn y cyfnod hwn. Mynegwyd pryder am y dull o gyfrifo
allyriadau carbon yn deillio o gaffael yn genedlaethol. Esboniwyd bod prynu
nwyddau lleol yn cael ei gyfrifo yn yr un modd a phrynu nwyddau o’r cyfandir,
er bod gwahaniaethau mawr yn y gwir allyriadau carbon. Nodwyd bod modd i hyn
effeithio ar economi leol mewn ardaloedd gan nad oes anogaeth i brynu’n lleol. Eglurwyd bod y drefn wedi ei mireinio dros y ddwy flynedd
diwethaf gan arwain at ostyngiad yn allyriadau carbon y Cyngor. Nodwyd y
trosglwyddir neges gyson i Lywodraeth Cymru nad yw’r dull cyfrifo yn y maes
caffael yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa. Pryderwyd na fydd modd cyrraedd
targedau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 os na fydd y dull cyfrifo hwn yn
cael ei ddiwygio. Cadarnhawyd bod y Cyngor yn barod i edrych
ar gam dau'r Cynllun, sef i edrych ar gynlluniau ar
gyfer y dyfodol. Soniwyd mai cam cyntaf y cynllun oedd lleihau’r allyriadau
carbon, ac felly rhaid sicrhau trefniadau hir dymor er mwyn i’r ffigyrau
allyriadau hyn aros yn isel. Eglurwyd bod y datblygiadau hyn yn cael eu
gweithredu o fewn y prif themâu canlynol: ·
Adeiladau
ac ynni ·
Symud a
thrafnidiaeth ·
Gwastraff ·
Llywodraethu ·
Caffael ·
Defnydd
tir ·
Ecoleg Manylwyd ar rhai o’r themâu gan roi enghreifftiau o brosiectau cysylltiedig. Cyfeiriwyd at brosiect paneli solar o fewn y maes adeiladau ac ynni gan nodi bod hyn yn faes mae’r Cyngor wedi buddsoddi ynddo eisoes a bod £500k o arbedion wedi eu creu yn sgil y prosiect. Nodwyd bod £2.8miliwn pellach ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
STRATEGAETH LLIFOGYDD LLEOL PDF 125 KB Mae’n
ofynnol i’r Cyngor lunio Strategaeth Llifogydd Lleol erbyn Hydref 2023. Mae’r
gwaith wedi ei ddyrannu fel risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad gan argymell: (i)
dylid cynnwys gwybodaeth
am y risg o ran ffyrdd yn llifogi yn ogystal a’r risg i eiddo yn y Strategaeth
Llifogydd Lleol; (ii)
dylid codi
ymwybyddiaeth holl drigolion o sut i baratoi ar gyfer llifogydd. 2. Bod y Pwyllgor yn craffu’r Strategaeth Llifogydd Lleol yn dilyn yr
ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2024. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd. Tynnwyd sylw yn fras at y
prif bwyntiau canlynol: Eglurwyd bod Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd
Lleol yn un o ofynion y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2021 a bod rhaid
iddo fod yn gyson â’r Strategaeth Genedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd.
Adroddwyd ar yr angen i ddiwygio’r Strategaeth er mwyn iddo gyd-fynd â gofynion
statudol erbyn gwanwyn 2024. Cadarnhawyd mai’r 5 prif Amcan o’r
Strategaeth ddiwygiedig hon yw: 1.
Anelu
at leihau lefel y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i drigolion Gwynedd. 2.
Datblygu
dealltwriaeth bellach o’r perygl llifogydd i Wynedd ac effeithiau newid
hinsawdd. 3.
Parhau
i weithio gyda’r holl gyrff perthnasol i sicrhau datblygiad priodo a
chynaliadwy yng Ngwynedd. 4.
Codi
ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ac erydi arfordirol lleol 5.
Gweithio
ar y cyd â’r holl Awdurdodau Rheoli Perygl eraill a grwpiau/cyrff perthnasol i
sicrhau ymateb cyd-gysylltiedig i ddigwyddiadau llifogydd ac erydu arfordirol. Esboniwyd nad yw’r Strategaeth wedi ei lunio
yn ei gyfanrwydd ar hyn o bryd ond bod yr Adroddiad a’r Atodiadau yn dangos y
math o wybodaeth bydd y cynllun yn ei gynnwys. Cadarnhawyd bod yr Amcanion wedi
cael eu llunio mewn ymateb i heriau sydd i’w gweld yng Ngwynedd. Gwnaed cais
i’r Pwyllgor ystyried craffu’r Strategaeth lawn yn dilyn cyfnod o ymgynghori
statudol arno. Nododd aelod ei gefnogaeth i ymgynghori gyda
chymunedau sydd mewn ardaloedd ble mae risgiau o lifogydd yn uchel ond bod
angen cynnwys cymunedau mewn ardaloedd gyda risg llifogydd eilradd yn ogystal.
Cydnabuwyd bod angen i holl drigolion fod yn ymwybodol o’r Strategaeth a sut i
ymateb pan fydd llifogydd oherwydd bod rhai ardaloedd yn gallu cael eu hynysu
wrth i lifogydd gau lonydd, gan arwain at drafferthion i ofal meddygol,
mynediad at siopau a nifer o broblemau eraill. Pwysleisiwyd bod gwahoddiad i
bawb gymryd rhan yn yr ymgynghoriad statudol er mwyn sicrhau bod gymaint o wybodaeth
a phosibl yn bwydo mewn i’r ddogfen derfynol, a bod systemau mewn lle i rannu
gwybodaeth a diogelu trigolion Gwynedd. Mewn ymateb i ymholiad ar y defnydd o
derminoleg feddal megis ‘anelu’ o fewn dogfennaeth yr adroddiad, cadarnhawyd
bod yr iaith hon wedi cael ei ddefnyddio oherwydd cyfyngiadau ar y Cyngor.
Cadarnhawyd bod rhai elfennau o fewn y maes yn gyfrifoldeb ar gyrff y tu hwnt
i’r Cyngor, ac o dan reolaeth y Llywodraeth ac felly mae’n anodd gosod geirfa
gadarn ar hyn o bryd heb ddeall mwy am ddyheadau’r Llywodraeth. Cydnabuwyd bod pennu cyfrifoldebau ymysg
partneriaid wedi bod yn heriol yn y gorffennol ond bod dealltwriaeth wedi ei
gyrraedd erbyn hyn wrth i berthynas rhyngddynt ddatblygu. Pwysleisiwyd bydd y
strategaeth lawn yn mynd i amlygu cyfrifoldebau'r holl bartneriaid i’r dyfodol.
Eglurwyd bod y partneriaid yn mynd tu hwnt i’w cyfrifoldebau mewn sefyllfaoedd
argyfyngus. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nodwyd y
cynhelir cyfarfodydd cynllunio argyfwng yn rheolaidd a bod bwriad i gynnal
ymarferiad er mwyn sicrhau gwytnwch trefniadau i ymateb i ddigwyddiad
llifogydd. Holodd aelod o ran trefniadau cyllido gwaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2023/24 PDF 191 KB Mabwysiadu
rhaglen waith ddiwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu rhaglen waith
diwygiedig ar gyfer 2023/24. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu gan nodi’r prif
bwyntiau canlynol: Atgoffwyd yr Aelodau bod Blaenraglen diwygiedig
y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/24 wedi’i fabwysiadu yng nghyfarfod y
Pwyllgor ar 5 Hydref 2023. Eglurwyd yr
angen i ddiwygio’r blaenraglen ar gyfer 2023/24
ymhellach. Tynnwyd sylw bod yr eitem ‘Strwythur Llywodraethant a Threfniadau
Cyflawni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn’ wedi ei raglennu ar
gyfer y cyfarfod yma ond nid oedd yn amserol i’w ystyried. Nodwyd y derbyniwyd
cadarnhad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn y
byddai’n amserol i gyflwyno’r eitem yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 18 Ebrill
2024. Sicrhawyd byddai hyn yn diwallu’r gofyniad i graffu gwaith y Bwrdd
dwywaith o fewn blwyddyn Cyngor. Adroddwyd bod
eitem ‘Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu’ wedi cael ei raglennu i
gyfarfod 18 Ebrill 2024 yn ystod y gweithdy blynyddol eleni. Diweddarwyd mewn
cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, Aelod Cabinet Amgylchedd a
Phennaeth Adran Amgylchedd na fyddai’n amserol i graffu’r eitem hon yn ystod y
cyfarfod hwnnw. Ystyriwyd byddai craffu’r eitem yn hwyrach yn y flwyddyn yn
caniatáu i ffrydiau gwaith yn y maes hwn ddatblygu ymhellach. Awgrymwyd byddai
ail-raglennu’r eitem gan ystyried ei flaenoriaethu yng Ngweithdy Blynyddol
2024/25 ar gyfer cyfarfod cyntaf 2024/25 yn caniatáu’r Pwyllgor i ychwanegu
gwerth drwy graffu yn amserol. Atgoffwyd yr
aelodau bod y Pwyllgor yn yr eitem flaenorol wedi penderfynu craffu’r
‘Strategaeth Llifogydd Lleol’ yng nghyfarfod 22 Chwefror 2024. Nodwyd y
derbyniwyd cadarnhad yn dilyn cyhoeddi rhaglen y cyfarfod, ni fyddai’n bosib
cyflwyno adroddiad ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4 - Ymgynghoriad Cyhoeddus’ i gyfarfod
y Pwyllgor ar 22 Chwefror 2024. Eglurwyd bod hyn oherwydd bod gwaith sylweddol
i’w wneud yn dilyn derbyn 3,900 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus. Rhagwelwyd y
byddai’n bosib adrodd i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 18 Ebrill 2024. Awgrymwyd
er mwyn hwyluso hyn, y byddai’n opsiwn i dynnu’r eitem ‘Gwasanaeth Gwarchod y
Cyhoedd’ o’r blaenraglen ar gyfer 2023/24 gan nad
oedd pryder penodol am berfformiad yn y maes hwn. Ychwanegwyd y gellid rhoi
ystyriaeth i flaenoriaethu’r eitem ar gyfer 2024/25 yn y Gweithdy Blynyddol. Nodwyd cefnogaeth
i’r bwriad i flaenoriaethu eitemau yn unol â’r uchod. PENDERFYNWYD Mabwysiadu rhaglen waith
diwygiedig ar gyfer 2023/24. |