Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin Hywel a Gruffydd Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 162 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05 Mehefin 2025 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05 Mehefin 2025, fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR 2024/25 pdf eicon PDF 146 KB

I graffu Adroddiad Blynyddol Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Nature 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.         Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd bod angen ail-edrych ar uchelgais y Cyngor i fod yn garbon sero net erbyn 2030 a dylid ystyried gosod targed realistig ar gyfer lleihau allyriadau carbon.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd a Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd.

 

Adroddwyd bod y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur bellach wedi cwblhau ei drydedd flwyddyn weithredol. Cyflwynwyd ystadegau ar faint o garbon sydd yn cael ei amsugno gan diroedd y Cyngor yn ogystal â’r allyriadau carbon gan egluro bod 18,132,729 kgC0ze o fwlch er mwyn cyrraedd sefyllfa o sero net carbon. Ymhelaethwyd ar allyriadau carbon gan gynnwys caffael yn ystod y flwyddyn 2024/25 gan egluro bod y gwybodaeth caffael yn seiliedig ar wariant ariannol, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, yn hytrach na wir effaith y datblygiadau. Cadarnhawyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau nad yw’r wybodaeth ar allyriadau carbon yn seiliedig ar wariant ariannol i’r dyfodol oherwydd bod hyn yn arwain at gamargraff o’r gwir sefyllfa wrth i gostau nwyddau gynyddu’n barhaus. Darparwyd diweddariad o lefelau allyriadau carbon heb gynnwys gwariant ariannol caffael hefyd, gan fod hynny yn rhoi darlun mwy eglur a chywir o wir sefyllfa’r Cyngor.

 

Cadarnhawyd bod pob Awdurdod Lleol a chorff cyhoeddus yng Nghymru yn defnyddio’r un fformiwla ar gyfer mesur eu hallyriadau carbon. Eglurwyd bod y system hon wedi bod yn weithredol ers 2019 ac mae’r flwyddyn honno yn cael ei ddefnyddio fel gwaelodlin ar gyfer y blynyddoedd dilynol. Mynegwyd balchder bod allyriadau carbon y Cyngor wedi lleihau 32% ers 2019. Cydnabuwyd bod cynnydd o 4% i’w weld yn ystadegau ar gyfer y flwyddyn 2023/24 gan egluro bod y cynnydd hwn yn deillio o’r angen i ddefnyddio mwy o nwy ar gyfer gwresogi adeiladau’r Cyngor yn sgil tywydd oer.

 

Nodwyd bod gwaith wedi bod yn cael ei wneud ar nifer o adeiladau’r Cyngor, ar gyfer insiwleiddio a sicrhau eu bod yn cyfrannu llai at lefelau allyriadau carbon. Cadarnhawyd nad oes blwyddyn lawn o ddata ar gael ar hyn o bryd er mwyn gallu dadansoddi’r data o’r gwaith hwnnw, ond y bydd yn debygol o gael ei gynnwys yn yr adroddiadau i’r dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Mewn ymateb i ymholiadau am wybodaeth bellach ar sut mae’r Cyngor yn annog mwy o fioamrywiaeth o fewn adran Defnydd Tir o’r Cynllun Argyfwng, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen bod cynllun blodau gwyllt ar ymylon ffyrdd yn cyfrannu i’r nod hwn. Ymhelaethwyd bod y cynllun i blannu mwy o flodau gwyllt wedi dod yn weithredol yn ystod ymgyrch yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023 gan gadarnhau bod cynlluniau gan y Cyngor i’w ymestyn i ardal Meirionnydd yn y dyfodol. Sicrhawyd bod yr hadau ar gyfer blodau gwyllt yn cael eu plannu yn ystod tymor yr hydref gan hefyd bwysleisio nad oes chwynladdwyr gyda chemegau niweidiol yn cael ei ddefnyddio. Cadarnhawyd bod gwaith dadansoddol ar waith er mwyn mesur faint o garbon mae’r prosiect hwn yn ei amsugno a data ar faint mae’n ei gyfrannu at lefelau bioamrywiaeth. Mewn ymateb i’r sylwadau, awgrymwyd i’r Cyngor edrych i mewn i gynnal peilot ar chwynladdwr Foamstream, fel awdurdodau eraill, gan ei fod yn chwynladdwr di-gemegion ac yn effeithiol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

TREFNIADAU GRAEANU A BINIAU HALEN pdf eicon PDF 206 KB

I graffu trefniadau graeanu a biniau halen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.         Cefnogi bwriad yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC i lythyru Cynghorau Cymuned a Thref i gadarnhau trefniadau biniau halen ac anfon copï i’r Cynghorwyr Sir.

3.         Argymell i’r Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC bod angen ystyried mynediad diogel i diroedd ysgolion yn ystod tywydd garw fel rhan o’r adolygiad o’r cylchdeithiau graeanu.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, ynghyd â Phennaeth yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC a Pheiriannydd Ardal Dwyfor.

 

Nodwyd bod tair blynedd wedi bod ers i’r trefniadau rheolaeth biniau halen gael ei graffu, fel rhan o’r Gwasanaeth Cynnal Gaeaf. Atgoffwyd bod y cyfnod cynnal y gaeaf yn weithredol o 1af Hydref hyd at 30 Ebrill yn flynyddol gan gadarnhau bod y gwasanaethau yn cynnwys graeanu llwybrau blaenoriaeth gyntaf ac ail-flaenoriaeth yn ogystal â’r ddarpariaeth biniau halen. Amlygwyd bod hyblygrwydd gyda’r amserlen hon gan ei bod yn bosib parhau i raeanu yn hwyrach yn y flwyddyn ac adolygir trefniadau’r gwasanaeth yn dilyn cyfnod y gaeaf er mwyn gweld os oes gwersi i’w dysgu ac ymateb i unrhyw her sydd wedi amlygu ei hun dros y gaeaf.

 

Diweddarwyd bod y Gwasanaeth wedi mabwysiadu System Monitro Cerbydau Graeanu ers Tachwedd 2024 er mwyn cofnodi’r cylchdeithiau. Eglurwyd bod y dechnoleg hon yn allweddol er mwyn sicrhau bod pob ffordd ar y cylchdeithiau yn cael eu graeanu ynghyd â sicrhau diogelwch gyrwyr y lorïau graeanu gan fod modd eu tracio’n fyw a gellir gweld os oes unrhyw gerbyd wedi mynd i drafferth. Pwysleisiwyd bod y gweithlu yn cael ei ddyblu ar gyfer y cyfnodau hynny ble mae eira ar y rhagolygon oherwydd bod y gwaith yn cael ei gynnal yn y tywyllwch ac mewn amgylchiadau a all fod yn beryglus. Adroddwyd bod adborth cadarnhaol wedi cael ei dderbyn gan y staff am y dechnoleg hon a gobeithir bydd technoleg gyffelyb yn gallu cael ei ddefnyddio i gynorthwyo meysydd gwaith eraill y Cyngor.

 

Ymhelaethwyd bod y flaenoriaeth gyntaf ar gyfer llunio cylchdeithiau yn cael ei roi ar gyfer y cylchdeithiau hynny ble mae bysiau ysgol yn defnyddio’r ffyrdd. Ychwanegwyd bod nifer o ffactorau yn cael eu hystyried wrth ddynodi ffyrdd yn rhai blaenoriaeth gyntaf i’w graeanu, megis traffig uchel, darparu o leiaf un mynediad i’r canolfannau sy’n ymateb i argyfwng, derbyniadau argyfwng neu ffordd dosbarth sirol 2 neu 3 gydag oddeutu un mynediad i drefi a phentrefi.

 

Eglurwyd mai’r Cyngor sydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gaeaf ar yr holl briffyrdd cyhoeddus sydd wedi eu mabwysiadu gan y Sir, fel yr Awdurdod Priffyrdd. Ymhelaethwyd bod y  Cyngor hefyd yn trin cefnffyrdd y Sir ar ran Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Yn ogystal â rhan o’r A55 a reolir gan UK Highways A55 Ltd.

 

Adroddwyd bod holl finiau halen y sir bellach wedi cael eu rhifo a bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod eu lleoliad yn weladwy ar Map Gwynedd ar wefan y Cyngor, er mwyn i drigolion a Chynghorau Cymuned adrodd rhif a lleoliad y bin halen penodol os oes problem yn codi.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor yn derbyn darpariaeth rhagolygon tywydd y gaeaf a gwasanaethau cynghori gan gwmni MetDesk. Ymhelaethwyd bod hon yn wasanaeth sydd yn cael ei gynnal am 24 awr y dydd o 1 Hydref i 20 Ebrill. Cadarnhawyd bod hyn yn caniatáu i bob swyddfa ardal weithredu ar y wybodaeth ddiweddaraf ac ymateb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2025/26 pdf eicon PDF 257 KB

Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2025/26 i’w mabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu rhaglen waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu.

 

Atgoffwyd bod holl aelodau’r Cyngor, aelodau cyfetholedig, Aelodau Cabinet, Penaethiaid Adran a’r cyhoedd wedi derbyn gwahoddiad i awgrymu eitemau posib i’w craffu yn ystod y flwyddyn 2025/26.

 

Diweddarwyd bod yr eitemau posib i’w craffu a ddaeth i law yn dilyn y gwahoddiad hwn wedi cael ei drafod yn ystod cyfarfod anffurfiol o’r Pwyllgor hwn ar 10 Gorffennaf 2025.  Tynnwyd sylw bod rhai o’r eitemau hyn wedi cael eu hawgrymu yng nghyfarfodydd cyswllt y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd gyda’r Penaethiaid Adran a’r Aelodau Cabinet perthnasol, eitemau a oedd angen dilyniant yn dilyn craffu diweddar yn ogystal â rhai eitemau blynyddol. Nodwyd bod dwy eitem wedi cael eu hawgrymu gan aelodau’r Cyngor.

 

Eglurwyd bod pob ymdrech wedi cael ei wneud i flaenoriaethu uchafswm o dair eitem ar gyfer pob cyfarfod wrth lunio’r blaenraglen ddrafft ar gyfer 2025/26, er mwyn sicrhau bod amser digonol i graffu’r holl faterion ac i ychwanegu gwerth. Fodd bynnag, cydnabuwyd nad oedd modd gwneud hynny ar bob achlysur gan fod pedair eitem wedi cael ei raglennu ar gyfer un cyfarfod. Gofynnwyd i’r Aelodau sicrhau eu hargaeledd i fod yn bresennol ar gyfer yr holl eitemau. Cadarnhawyd bod yr eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Hoff Strategaeth’ wedi cael ei adnabod fel eitem wrth gefn.

 

Adroddwyd bod gan y Pwyllgor hwn rôl i graffu gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Nodwyd bod dwy eitem wedi cael eu rhaglennu i’w craffu, sef:

·       Adroddiad Blynyddol 2024/25 – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn (18 Medi 2025)

·       Adroddiad Cynnydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn (19 Mawrth 2026)

 

Nodwyd nad oedd modd cyflwyno

Adroddiad Blynyddol 2024/25 i’r cyfarfod yma fel y rhaglenwyd gan nad yw’n cael ei gyflwyno i’r Bwrdd nes Rhagfyr 2025. Eglurwyd os byddai un o’r eitemau sydd wedi cael eu rhaglennu ar gyfer cyfarfod Ionawr 2026 yn llithro, byddai modd craffu’r Adroddiad Cynnydd bryd hynny yn hytrach na chyfarfod Mawrth 2026 gan ryddhau mwy o amser i graffu’r eitemau eraill yn ystod cyfarfod Mawrth 2026.

 

Tynnwyd sylw at raglen waith ddrafft y Pwyllgor a oedd wedi ei gynnwys fel rhan o’r ddogfennaeth ar gyfer y cyfarfod. Pwysleisiwyd ei fod yn rhaglen fyw a fyddai’n cael ei adolygu yn gyson er mwyn sicrhau bod y materion cywir yn derbyn sylw.

 

PENDERFYNWYD

Mabwysiadu rhaglen waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2025/26.