Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn umddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diolchwyd i’r Cynghorydd Elin Hywel, Cyn-gadeirydd y Pwyllgor hwn am ei chyfraniad gwerthfawr i waith y Pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Croesawyd y Cynghorwyr Dafydd Davies a Wendy Cleaver i’w cyfarfod cyntaf.

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Robert Glyn Daniels

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 175 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Medi 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Medi 2025, fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC pdf eicon PDF 102 KB

Adrodd i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, ynghyd â Phennaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC.

 

Atgoffwyd bod yr Adran yn gyfrifol am dri o gynlluniau Cynllun y Cyngor 2023-28 a bod yr adroddiad hwn yn ddiweddariad ar eu datblygiad hyd at ddiwedd Medi 2025.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran wedi derbyn cefnogaeth grant Cyfleoedd Chwarae drwy Lywodraeth Cymru i wella ansawdd a hygyrchedd meysydd chwarae. Eglurwyd bod y datblygiad hwn yn ddatblygiad mawr yn y prosiect ‘Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y Sir’ o fewn Cynllun y Cyngor. Ymhelaethwyd bod cydweithio effeithiol wedi bod ar y gweill gyda Chyngor Dinas Bangor wrth i’r broses o drosglwyddo maes chwarae Maes Tryfan iddynt barhau.

 

Darparwyd diweddariad ar y prosiect ‘Gweithredu ar risgiau llifogydd’ gan nodi bod y Strategaeth Llifogydd Leol wedi ei fabwysiadu ac yn weithredol.

 

Adroddwyd bod system optimeiddio cylchdeithiau glanhau wedi cael ei gyflwyno yn ardal Arfon fel rhan o brosiect ‘Cymunedau Glân a Thaclus’. Eglurwyd bod y system hon yn rhan o gynllun peilot yn ardal Arfon gan nodi y gobeithir ehangu’r trefniadau i Bwllheli a Porthmadog yn ystod gwanwyn 2026. Ymhelaethwyd mai diben y system yw lleihau gorwariant presennol y gwasanaeth drwy sicrhau bod trefn gwaith effeithiol yn cael ei weithredu.

 

Tynnwyd sylw at 29 mesurydd perfformiad sydd yn weithredol o fewn yr Adran, megis ‘Mesurau corfforaethol/adrannol’, ‘Cynnal Priffyrdd’, ‘Goleuo Stryd’, ‘Edrychiad Stryd’, ‘Toiledau Cyhoeddus’ ac ‘Ymgynghoriaeth Gwynedd’ gan ymfalchïo bod 62.1% o’r mesuryddion hyn yn cael eu mesur yn wyrdd. Eglurwyd bod hyn yn gadarnhad o waith cadarnhaol y gwasanaeth a pherfformiad effeithiol gwasanaethau. Fodd bynnag, nodwyd bod 37.9% o’r  mesuryddion wedi eu cofnodi yn ambr, gan sicrhau bod y mesuryddion hyn yn derbyn sylw pellach fel rhan o’r broses herio perfformiad. Mynegwyd balchder nad oedd unrhyw fesurydd wedi ei gofnodi yn goch.

 

Cyfeiriwyd at gynlluniau Arbedion 2025-26 yr Adran, sydd gyfwerth â £533,500. Cadarnhawyd bod yr adran ar drac i gyflawni £212,500 o’r cynlluniau Arbedion yma gan gydnabod bod posibilrwydd na fydd £321,000 yn cael eu gwireddu. Amlygwyd hefyd bod rhai cyllidebau yn cael eu heffeithio gan y tywydd gan fod angen sicrhau cyllideb ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â unrhyw dywydd garw anrhagweladwy.

 

Diweddarwyd bod niferoedd y gweithlu sydd wedi cyflawni hyfforddiant mandadol wedi cynyddu, gan fanylu bod 77.4% o’r staff wedi cyflawni hyfforddiant craidd ‘Camdrin’, 72.4% wedi cyflawni’r teitl ‘ Diogelu’, gan fynegi balchder bod dros 67% o staff yr adran wedi cyflawni holl deitlau hyfforddiant mandadol. Cydnabuwyd bod lle i wella er mwyn cynyddu’r niferoedd hyn i’r dyfodol ond bod heriau wedi dod i’r amlwg gan nad oes nifer o aelodau staff rheng flaen gyda mynediad i’r modiwlau gan nad oes ganddyn nhw gyfarpar electroneg. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth i ddod i ganolfannau gwaith er mwyn rhoi cymorth i aelodau staff i gwblhau’r hyfforddiant yn ystod y diwrnod gwaith.

 

Cydnabuwyd bod niferoedd salwch staff yr Adran yn uchel, gyda cyfartaledd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 71 KB

Adrodd i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phenaethiaid Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Gwastraff ac Ailgylchu

Mynegwyd pryder bod risg ariannol i’r Cyngor os nad yw’r Adran yn llwyddo i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o holl wastraff y Sir. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Gwastraff ac Ailgylchu bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn ymrwymo i gyrraedd y targed hwn, gyda’r Cyngor yn cyrraedd cyfradd ailgylchu o 66.6% yn ystod 2025-26 hyd yma. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn cydweithio gydag cymdeithas dai ADRA er mwyn hyrwyddo buddion ailgylchu, gan eu bod yn gyfrifol am 7500 o anheddau yn y Sir  a fyddai’n cael effaith fawr ar y gyfradd ailgylchu. Yn yr un modd, tynnwyd sylw bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod disgyblion mewn ysgolion yng Ngwynedd yn derbyn gwersi ar bwysigrwydd ailgylchu a bod taflenni yn cael eu paratoi i’w dosbarthu i bob tŷ yn y Sir ar gyfer atgoffa o sut i ailgylchu yn gywir. Cydnabuwyd mai dim ond 4 aelod o staff sydd yn rhan o’r tîm sydd yn addysgu o ran ailgylchu, sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn ymdrechu i gyrraedd y targed ailgylchu ac i sicrhau bod unrhyw gosb ariannol am fethu cyrraedd y targed mor fychan â phosib.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach os oedd yr Adran yn hyderus bod modd i Wynedd ailgylchu 70% o’i wastraff, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu, eu bod yn ffyddiog bydd y targed yn cael ei gyfarch. Manylwyd bod ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus ar y Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu ar waith ar hyn o bryd a bod yr ymatebion sydd wedi dod i law hyd yma yn galonogol iawn. Ymhelaethwyd bod dros 700 o ymatebion wedi bod i’r ymgynghoriad hyd yma a bod 80% o’r ymatebwyr hynny yn ystyried ailgylchu i fod yn weithred bwysig ac yn cytuno gyda’r angen i leihau gwastraff. Atgoffwyd bod y ddyletswydd i ailgylchu yn fater i bawb yng Ngwynedd ac mae pwysau mawr yn cael ei roi o fewn yr adran ar gyfer hyfforddi swyddogion a sicrhau bod y weithred o ailgylchu yn gywir yn cael ei hyrwyddo gyda’r cyhoedd er mwyn sicrhau bod pawb yn ailgylchu cymaint â bod modd. Eglurwyd bod llawer o bethau a all gael ei ailgylchu yn parhau i gael ei gynnwys yn y biniau gwastraff gweddilliol a bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn addysgu’r cyhoedd bod modd ailgylchu’r eitemau hyn. Sicrhawyd byddai cyflawni’r gweithredoedd yma yn sicrhau byddai’r Cyngor yn ailgylchu 70% o’i wastraff yn unol â tharged Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad os yw’r Adran wedi bod yn rhy hwyr yn datblygu’r Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu, anghytunodd y Pennaeth Adran gan nodi mai dim ond ers 3 mlynedd mae’r gwasanaeth wedi bod o dan reolaeth yr Adran ac mae gwaith estynedig wedi cael ei gwblhau er mwyn sicrhau bod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU pdf eicon PDF 208 KB

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2025/26.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu.

 

Atgoffwyd bod Blaenraglen y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2025/26 wedi cael ei fabwysiadu gan y Pwyllgor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2025.

 

Esboniwyd bod eitem ‘Adolygiad o’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur’ wedi cael ei amserlennu yn wreiddiol ar gyfer y cyfarfod hwn (06 Tachwedd 2025). Nodwyd y derbyniwyd cais i’w ail-raglennu i gyfarfod 22 Ionawr 2026 er mwyn sicrhau bod gwaith pellach yn cael ei gwblhau cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn.

 

Tynnwyd sylw y derbyniwyd cais gan aelod o’r cyhoedd i’r Pwyllgor hwn graffu materion yn ymwneud â materion ariannu sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur. Cadarnhawyd bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd wedi ystyried y cais hwn ac ystyriwyd ei fod yn amserol i’w ystyried yng nghyfarfod 22 Ionawr 2026 pan fyddai’r Pwyllgor yn ystyried Adolygiad o’r Cynllun. Amlygwyd byddai pedwar eitem i’w trafod yn y cyfarfod hwn petai’r Pwyllgor yn mabwysiadu’r Rhaglen Waith diwygiedig.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Cytunwyd i estyn gwahoddiad i’r aelod o’r cyhoedd i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 22 Ionawr 2026. Cadarnhawyd bydd yr aelod o’r cyhoedd yn cael cyfnod o hyd at 3 munud i ymhelaethu ar ei gais os ydyw’n dymuno gwneud hynny.

 

PENDERFYNWYD

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2025/26.