Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Linda Morgan,
Tudor Owen, Mike Stevens, Elwyn Edwards (ar gyfer eitem 5) a Gareth Thomas (ar
gyfer eitem 7 ) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid arwyddo cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 17 Medi 2015 fel cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
YR IAITH GYMRAEG Â’R DREFN GYNLLUNIO PDF 152 KB Ystyried yn ehangach rôl a dylanwad yr Iaith Gymraeg ar y drefn gynllunio. Cofnod: a) Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio yn ymateb i gais yr Aelodau
am wybodaeth gefndirol mewn perthynas â’r drefn
gynllunio a’r iaith Gymraeg. Cyfarchwyd y materion isod yn yr adroddiad.
i.
Gosod y cyd-destun
statudol o ran Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
ii.
Egluro’r Polisi
Cynllunio Cenedlaethol (TAN
20)
iii.
Egluro’r Polisi
Cynllunio Lleol Cyfredol (Y Cynllun Datblygu Unedol a’r Canllaw Cynllunio
Atodol: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg)
iv.
Egluro sut mae’r Gwasanaeth yn gweithredu o fewn y cyd-destun polisi cyfredol
v.
Rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
(Drafft)
vi.
Egluro sut, yng nghyd-destun gofynion TAN 20, y bydd gofyn i ni ddelio
gyda’r Iaith Gymraeg wrth benderfynu
ceisiadau cynllunio ar ôl i’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
gael ei fabwysiadu
a sut mae’r Gwasanaeth yn ceisio
ymateb i hyn b) Mewn ymateb i’r
adroddiad, gwnaed cais am eglurder o ran gofynion Polisi Cynllunio Cymru (TAN 20) a’r awgrym na
ddylai ceisiadau cynllunio fod yn destun effaith ar yr iaith Gymraeg oherwydd y
disgwylid fod hyn wedi ei wneud wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.
Ymatebodd yr Uwch
Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd, y gallasai sefyllfa’r
‘iaith’ ar ôl mabwysiadu’r Cynllunio Datblygu Lleol fod yn wannach. O
ganlyniad, bydd cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol newydd yn cael eu paratoi
fel rhan o broses paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gyda bwriad rhoi blaenoriaeth i baratoi Canllaw
Cynllunio Atodol sydd yn ymdrin â chymunedau cynaliadwy. Bydd y canllaw yma yn
cynnwys manylder ar faterion cynllunio a’r iaith Gymraeg. Nodwyd bod pwynt
tyngedfennol wedi ei gyrraedd o ran datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
yng nghyd - destun llunio canllawiau priodol i roi ystyriaeth i'r iaith. c) Materion yn codi
o’r drafodaeth:
i.
Sut mae cloriannu egwyddorion ‘iaith’ ac
egwyddorion ‘ymateb i’r galw am dai’?
ii.
Sut gellid dylanwadu ar ffigyrau ‘anghenion tai’
sydd yn cael eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ?
iii.
Rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i’r iaith o fewn y
drefn cynllunio.
iv.
Rhaid sicrhau cyfiawnder i’r Iaith Gymraeg
v.
A fydd y Canllawiau
Cynllunio Atodol yn statudol?
vi.
Rhaid cryfhau'r elfen iaith er mwyn sicrhau na fydd
y Cyngor Llawn yn gwrthod y Cynllun Datblygu Lleol ar sail yr elfen yma.
vii.
Rhaid sicrhau bod Deddfwriaeth Cymru yn gadarn
viii.
A ddylid ystyried
yr opsiwn o greu ‘Bro Cymraeg’ er mwyn uchafu’r
grym?
ix.
A ddylid ystyried polisïau lle gellid cadw pobl
leol yn lleol ch) Mewn ymateb i’r sylwadau eglurwyd bod asesiadau iaith yn rhan o broses cynllunio Gwynedd ac yn un sydd, yn mynd tu hwnt i ofynion Llywodraeth Cymru, yn lobio am newidiadau i’r Ddeddf Cynllunio ac yn gwthio ffiniau TAN mewn cyd-destun gofynion asesiadau iaith. Eglurwyd bod Panel Cynllunio ar y Cyd yn trafod yn chwarterol faterion cynhennus sydd yn ymwneud â effeithiau cymunedol, diwylliannol ac ieithyddol ac y bydd adroddiad yn cael ei baratoi i osod fframwaith statudol ar gyfer rhoi ystyriaethau i’r iaith. Ychwanegwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYTUNDEBAU ADRAN 106 PDF 404 KB Ystyried papur ar bwrpas ac ehangder cytundebau Adran 106. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Ar gais aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, cyflwynwyd
adroddiad yr Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio yn amlygu trefniadau’r
Cyngor ar gyfer y defnydd o gytundebau 106 a pha mor effeithiol oedd
gweithredu’r polisïau hynny. Eglurwyd bod cytundebau 106 yn rhan o Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac fel arfer yn gysylltiedig gyda chaniatâd
cynllunio. b) Ategwyd bod Cyngor Gwynedd yn gwneud cryn
ddefnydd o gytundeb 106 (sydd â rhestr eang o amodau) er mwyn gwireddu
anghenion eu polisïau lleol sydd yn Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd - y
cytundeb a ddefnyddi’r amlaf yw amod 106 tai fforddiadwy. Rhoddwyd manylion o
gefndir statudol y cytundeb gan yr Uwch Gyfreithiwr ac amlygwyd bod
trafodaethau eang yn cael eu cynnal yn aml gyda banciau a broceriaid ynglŷn
â sicrhau benthyciadau. c) Mewn ymateb, nododd y Cynghorydd S Churchman
yn unol a dymuniad y cyfarfod paratoi cafwyd trafodaeth gyda brocer annibynnol
a oedd wedi cynnig opsiynau posib i’w hystyried
gyda chais i gynnal trafodaeth bellach gyda grŵp bychan. ch) Mewn
ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod, ynghyd a’r Adran Cynllunio ac Adran Tai yn cynnal trafodaethau a derbyn
barn Mr Stephen Jones, Arbenigwr Tai Fforddiadwy Gogledd Cymru. PENDERFYNWYD |
|
CLUDIANT ADDYSG ÔL-16 PDF 445 KB Derbyn adroddiad yn ôl gan
yr Aelod Cabinet ar weithrediad argymhellion yr Ymchwiliad Craffu. Cofnod: a) Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
yn ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad
Craffu Cludiant Ôl-16 i Addysg Bellach. Nodwyd bod yr Aelod Cabinet wedi anfon
ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod, ond amlinellodd yr Uwch Reolwr Ysgolion
bod yr Aelod Cabinet yn diolch i aelodau’r ymchwiliad am eu gwaith trwyadl i’r
maes. Ymddiheurwyd am yr oedi o gyflwyno adroddiad ac ategwyd bod y cyfle o
gyflwyno / gweithredu rhai o’r
argymhellion ar gyfer Medi 2015 wedi cael ei effeithio gan gyfnod ‘purdah’. Nodwyd hefyd y bydd geiriad ac amodau Polisi
Cludiant Ôl-16 yn cael ei symleiddio a’i addasu i gyfarch y newidiadau. Ychwanegwyd bod yr awydd i gydweithio gyda Phartneriaid i gyfrannu at
wella’r ddarpariaeth, a bod trafodaethau gyda Grŵp Colegau Llandrillo Menai
i weithredu fel asiant wedi eu cynnal. Ategwyd bod diddordeb wedi ei nodi ond
dim ymrwymiad hyd yma. b) Yn manteisio ar ei hawl i siarad, cyflwynodd
Mr S Chambers, Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor ei gynigion ef i’r
Polisi Cludiant Ôl -16. Nodwyd y sylwadau isod: -
Gorlawnder
ar y bysiau - y bysiau yn codi aelodau o’r cyhoedd, disgyblion ysgol uwchradd
ynghyd a myfyrwyr y Coleg - risg Iechyd a Diogwch -
Hyblygrwydd y tocyn – cyfyngder o ddefnydd dwywaith y diwrnod yn cyfrannu at orlawnder -
Defnydd
‘My Travel Pass’ - Cynllun
Llywodraeth Cymru. Pam nad yw gyrwyr bysiau yn ei dderbyn? -
Angen trefniadau gwell ar gyfer
cyfnodau tywydd drwg. -
Awgrymu
rhoi ffocws ar ansawdd ac anghenion y myfyrwyr c) Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylwadau canlynol: -
Bod
gormod o wahaniaethau rhwng Deddfwriaeth Cymru a Lloegr ac mai ffocws gwreiddiol yr ymchwiliad oedd
edrych ar yr anghysondebau hyn. Dadleuwyd nad oedd y Cyngor dim agosach at
gynorthwyo pobl o aelwydydd difreintiedig -
Pryder nad oedd ‘My Travel Pass’ yn cael ei
dderbyn -
Angen rhoi ystyriaeth i hyblygrwydd y tocyn – cynnig arbrofi hyblygrwydd i’r tocyn mewn ardal
benodedig -
Nid yw
codi pris y tocyn o £60 i £100 yn deg - a oes modd adolygu hyn a chynnig £80? -
Angen
ystyried bysiau pwrpasol ar gyfer myfyrwyr yn unig i osgoi gorlawnder - cynnig
yr angen i ymgynghori ymhellach gyda defnyddwyr -
Angen
cynnal trafodaethau pellach gyda chwmnïau cludiant cyhoeddus masnachol er mwyn
ceisio atal y rhwystr o ddefnyddio tocyn unrhyw amser o’r diwrnod. ch) Cynigodd y Cynghorydd Gruffydd Williams y dylid galw ar yr Aelod Cabinet i beidio â chodi cost y tocyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |